Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
MMI « ABEWWll.
MMI « ABEWWll. CRACH BEIRNIAID Y WASG. Ymddangosodd yn iaith "Shon Bwl' o'r rhifyn diweddaf o'r JOURNAL, "lith," pa un ag oedd yn ymyryd a'n nodion o adroddiad y Cynghor Plwyfol yn rhifyn Mai y 23ain, dan y ffugenw "Truth, ac Did oymwys y fath enw i neb llai na'r DwyfoI ei hunan. Ac ni thybiodd neb erioed, hyd yn nod y Mab ei hun: fod yn ogofuwch a'r Tad un amser. Ond dyma rhyw un mewn rhyfyg y,n ceisio ym- wjsgo yn nryeh Polmant yr Hanfod Dwyfol, gyda'r unig amcan o ddrwgliwio y "Gohebydd," o berwydd aflwvddiant llafur llechwraidd clymblaid, pa un ag oedd wedi ei bwrcasu i osod mewn g rym newyn, hyd yn nod ar orwel yr ugeinfed ganrif. Cynwysa ei epistol bedair pennod brydferth, gyda rhagarweiniad a diweddglo, megys beddau y pro- phwydi oddiallan wedi eu gwyngalcnu yn hardd, ond oddimewn yn llawn llygredd. Dechreua megis "The passage is teeming with naif truths which' are whole falsehoods." Pe gadawai "is teeming' allan, gan osod "withered" ar ol y gair "falsehoods," tebyg y llwyddai yn ei amcan i enill sylw dysgedigion graddiog y ganrif hon, ond ni ha sylw neb oddieithr rhyw gorachod anwybodusa diddeall tebyg i'r epietolwr ei hun. A coracn glod barddua/r gwyngaJchwr. Ceisiwn Jesbonio bennod gyntaf, sef "Mr. Jones, Capel Bach, wa* elected at a parish meeting by three times the votes than received by Mr. Davies." Yn y cwrdd hwnw cafodd y blaenaf 57 a'r olaf 27, felly dyma 24 "vot" o gelwydd coch i ddechrau. Eto meddai, "On Mr. Jones' emphatic denial that he was not a contractor under the Local Authorities, there was no call for an election in his stead. Celwydd cadarnhaol arall yw hwn eto, oblegid ceir enw Mr. Jones ar y "Blue Book" fel a ganlyn. tudalen 12:—"Tenders accepted for supplying stone, etc., required during the year ending 31st March, 1914. Abergwili Parish. Contract No. 1. David Jones, Capel Bach. Pantycapel to Brynari and Meini. Llainffynon Quarry Stone, 6s. per cubic yard. Contract No. 2. Ditto. Pencnwc to Pantglas. No. 3. Talpen to Helygenlas, Hendre- hedog, Cefnhenllan and Dandery. No. 4. David Jones, Capel Bach. Other portions of Yatyn and Vynne Hamlets. Quarry, River and Field Stone, 5s. per cubic yard. Felly yn ol deddf llyfr y nef, a deddf Senedd Prydain Fawr heddyw, ffordd Ananias a SaDphira yw eu tynged ac md sedd ar Gvnghor Plwyfol Abergwili. Yr ail bennod, The meeting did not become a 'pandemonium,' only one person lost his head, and that person's name is for obvious reasons not mentioned by the writer. CvTeirio yr oeddem at wres dialeddol rhai, ac md at y nenau colledig y cyfeiria awdwr yr epistol attynt, ac nid oedd angen enwi y cyfryw. o her- wydd gorfu iddo ddiaelodi ei hun yn hanes gor- phenol y cyn-gynghor, am fradychu'r brodyr nr goedd gwlad, a hysbys yw yr enw i bawb. Y drvdedd bennod. "The total amount collected m the parish by the rate collector is £1.900, whereas I if he only gets d. in the £ it would bo £ 9,600." Y fath hurtvn anwybodus; y mae y "County Rate Basis" wedi eu trefnu yn mis Ebrill diweddaf am y nedair blynedd ganlynol fel hyn: In Aber- gwili Parish and Union. On Agricultural Land £8,000. Buildings, etc., £4,390. Net annual value. £12,390. Gwelir hwynt yn y County Offices. Y bedwerydd bennod, "Whatever may be sa'd of the collector capacity for his office, the object of tneir proposal seem to be the saving of the sa-ary of £ 20.' Gwarchod anwyl! tueddu i newynu teulu am fod y gwr yn gweithio o dan ddimai y bunt. ac y mae'r pwr felow yn talu o'r 8wm anferth yna £2 3s. 9d. am ei insiwro yn flynyddol, ac yna yn ei feddiant y bvdd J317 16s. 3c. o'r £20 y cyfeirir attynt gan "Truth." Bobl anwyL, ai gweddus y fath driniaeth mewn gwlad Gristionogol? Dywed eto. "The total paid for the Llanelly riots was £ 3,800." Fe amlygwyd yn y wasg fod distryw "riots' Llanelli wedi ei brisio ar y cyntaf yn £65.000, mwy neu lai, gan gynwys colled Cwmni y G.W.R. Traul y milwyr. Tori ac ysbeib;o mas- nachdai. Costau y brawdlygoedd a'r carcharu, ac fod y cyfan yn disgyn ar y air, ond darfu i'r Cwmni G.W.R. ostwng rai cannoedd yn yr ail brisiad. "Y diweddglo." "Thie meeting did not qnd in a jubilation suggested by the writer." Do, fe or- phenwyd mewn gorfoledd, ar ol areithiau y treth- wyr trymaf, o gymaint ag yw £10 8s. lOc. yn drymach na JB7 48.; a'r cadeirydd, Mr. Jones, reol- odd y mesur allan 0 drefn, ac 0 herwydd pan am ? Y mae'r adroddiad o'r un cyfarfod wedi amlygu eisioes, "A wado hyn, gwaded i'r 'haul godi." Ei erfyniad olaf, "It is to be hoped that readers ot the JOURNAL in the parish of Abergwili have I more impartial opinion than le yn siwr, a llai o'r Judasiaeth haiarnaidd nag eid.in yr hwn a eilw ei hun yn "Truth.' Mr. Gr/ygydd. o hyn allan ni roddwn sylw i'r fath vsbwiiel a hy"- yma, y mae yn rhaid i mi anafu cymeriad fy cyn y gall un adyn o'r fath yma ei ddifodi; y wac yr anrhydedd a'r cvfrifoldeb sydd we i eu gosod ar fy ysgwvddau fel gweithiwr yn^Vd a'r cyfarchiadau mewn ?eiriau a thrwy jy.hyrau wrth enwogion uohaf ein cenedl heddyw, yn brawf mai nid gau a gwael yw ein bywyd na'n hadrodd- iadau geir dan y 'Nodion o Abergwili." O.Y.—Nid yw yn deg nac yn iawn i unrhyw bui- son dan ffugenw mewn newyddiadur fel y JOURNAL wneuthur ymgais i bardduo fy nghymeriad fel "Gohebydd," fel y gwnaeth "Truth" yn y rhifvn diweddaf; ond os bydd. yn ddigon o ddyn i dd'od allan dan ei enw priodol, bydd yn bleser a mwyn- had genyf ei gwrdd mewn dadl ar y mater uchod 301' faes v newyddiadur clodwiw hwn, a dim tleb hyny.—David Davics ("Dyffrynog"), The Crossing, Abergwili. Mehefin 17eg, 19i3. NODACHFA. Cynhalivvyd yr uchod dydd Ia.u diweddaf, y 12fed, dan nawdd y "Mothers' Union' a'r "Girls' Friend- ly, ar lawnt Palas prydferth yr Esgob yn Aber- gwili. Y brif arwres gyda'r syrnudiad ardderciiog hwn ydyw Mrs. Owen, y Palas, ac yno y mae yr holl weithrediadau yn cael eu trefnu. Amcan y inudiad oedd gwneyd elw er ceisio sicrhau nyrs i'r phtyf. pan y bydd galw, o dan rhai aehosion arbenig, ac yn hyn o beth y mao Mrs. Owen yn teilyngu y ganmoliaeth uchaf poibl, ynghyd a'r aelodau llafurawl oil; yr oeddent wedi gweithio yn galod a dyfal yn y gorphenol, fel y byddai i'r meinciau gael eu mabwvsiadu i'r pwynt eithaf, ac yr oedd y fath olygfa gafwyd y dydd hwn yn goron hardd a.r eu hymgeisiadau. Yn dal y swydd fe! yscrifenydd ac fel trysorydd hefyd yr oedd y Parch. D. J. Evans, y curad, agwnacth yn iawn wrth fodd y rhyw deg. Agorwyd y Nodstchfa am ddau o'r gloch gan yr Anrhydedduss Arglwydd Esgob, pa un a cUkflodd olew dymunol a bendithfawr ar y gymdeifdas a'i gwaith, a threuliodd ei bryd- nawnddydd yn mysg yr ymwelwyr hyd y fynud olaf. Yr oedd ei fawrhydi yn mhlith yr amaethwyr a'r llafurwyr yp felus a deniadol; nid oedd neb yn rhy isel yn ei olwg i ysgwyd llaw, yr Annibynwyr 'yn ogystal a'r Eglwyswyr. Greyn na fyddai amser yn caniatau iddo drealio mwy o'i fywyd prydfawr yn ein plith. Yr oedd yma hefyd y lie goreu posibl at y pwr pas. Yr oedd y lawnt, y Uwybrau, ynghyd a'r blodau yn dwyn clod i enw Mr. Tuber- ville gyd lafurwyr, a changenau'r coed am- ryliw yn cyegodi poethder yr h;n ffafriol a gafwyd. a'r lie yn rhydd i bawb. Yr oedd yno fwyd wedi ei drefnu i bawb. y bvrddau on yn !lawn dan- toithion blasus. Deallwn mai rhodd y pentrefwyr a'r ardal gylchynol oedd hwn o wir ewyllvs dda Yn gweinu wrth y byrddau oedd y rhai canlvnol: —Mrs. Williams, Llwvnpiod; Mrs. Wilding. Hamp- ton Villa; Mrs. Dyer, y Drovers; Mr*. Thomas, Penycwmins; Mrs. Bowen, Pantyglien; Mrs. Thomas, Home Cottage; Mrs. Davies. Wollfield: Miss Rees, Sheaf; Mrs. Morgans; Tvmawr; a Mrs. D{#vies, Junction House. Yn ofalu am y mein- ceiau oedd y rhai a ganlyn:—Sale of Work Stall, Miss Williams, y Lodge; Mrs. J. Lewis, Parkv- riks; Mrs. Hawkins, Lloyd's Terrace; Mr-. Tuberville; Mrs. J. Lewis, a Mrs. Arthur, y Llythvrdy. Cake and Sweet Stall, Mrs. LI. Davie". Llangoedmore; Misaee C. a M. Thomas, y Ficerdv; Miss Williams. Llwynpiod; Mips S. Daniels, Rose Cottage; Miss E. M. Rire; Miss S. Harris. Old Vicarage; Miss A. Lloyd, Miss Phillips, Miss Sinclair, Miss L. Jones, a Miss M. A. Jones, set morwynion y Palae. Jumble Stall, Miss Coles y Palas. Hoop La Stall, y Parch. Ll. Davies, M.A.. ficer Llangoedmore, Cardigan; y Parch. B. Davies, M.A., caplan yr Esgob; Mr. OWfOn. y Palas, a Mr. J. Jones Bronwydd House. Shooting Stall, y Parch. J. Erans M.A., ficer Ebbw Vale, a Mr. Williams, C.D. Llwynyniod. Aunt Sally Stall Mr. Davies, Welifie'd. a Mr. D. Arth r BwIoh Raoh. Trimming Hat St.alJ. Cystadleuae^i agored i wrywod yn unig. Cvstadleuodd y canlvnol:—Yr Arolygwr H. 0. Long Price. y Parch. D. J. Evans, Mr. Lester, Mr. Owen, y a'r Parch. Aldred Williams. St. John s. Yn beiiniadu yr oedd Mrs. Morris, Bryn- myrddin. a Mrs. Pughe Evans; a gwobrwywyd Mr. Price; ni thrwsiwvd gwell het yn Llundain. Cvn- haliwyd hefyd reclegfevdd o bob math. Y beirniad oedd yr Athro T. Maddox; starter, Mr. H. O. L. Price; markers, Mr. Miles a Mr. J. Lewis. Y saethwyr goreu oeddynt-Mr. Lewis, Parkvricks, 52: yr Heddwas Evans, 51; Mr. M. Rees, Parky- ricks. 51; Mr. R. Homas, arwyddwr Abergwili Junction. 50; a D. Davies, Crossing, 49. Y srwra^-edd cynortbwyol oeddent—Mrs. S. Jones. Lloyd's Terrace: Mrs. S. Morris, Mrs. J. L. Jones. Mrs. E. B.;ehards, Mrs. D. Arthur, Mr-. R. Joshua. Mrs. D. Williams a Mrs. J. Edwnrds. Darparwyd y te gan Mrs. Jnes, Bronwvdd House. u: Ms. Harris, Old Vicarage. Yn gofalu am y porth yr I oodd Mr. Thomas, Penycwmins, a Mr. Bowen, Pantyglien. Gwerthwyd y cyfan oil, a sicrhawyd elw da. Ymwelodd Ilawer a'r lie yn ystod y dydd, a chawsom gwmni y Parch, a Mrs. T. Thomas, y Fioerdy; yr Henadur a Mrs. J. Lloyd. Y.H., Mrs. Griffiths, a Miss Evans, Ardwyn, i'r diwedd. LLWYDDIANT. Llongyfarchwn Miss M. A. Davies; Bwlch Bach, pa un sydd ar hyn o bryd yng Ngholeg Henffordd. Sicrhaodd safle fel ysgolfeistres dan Bwyllgor Bwrdd Addysg y Sir yn Burry Port. GWERIN A GWLEIDYDDIAETH. Nos Wener diweddaf, y 13eg, cawsom gyfarfod yn yr awyr agored ger mynedfa yr Ysgol Genedl- aethol. Y prif siaradwyr oeddynt Mr. Stokes, Oak House, Caeriyrddin, a Mr. Griffiths, ef cynrych- iolwr y Blaid Geidwadol. Siaradodd Mr. Stokes yn Seisneg ar y modd yr oedd y blaid Geidwadol wedi ymddwyn tuag at y werin bobl yn ystod y ddwy ganrif ddiweddaf, ac oddiwrth y blaid hon yr oedd y gweithiwr a'r amaethwr wedi derbyn rhai o'r mesurau goreu sydd yn eu meddiant heddyw. Dywedodd y gallasai brofi y cyfan yn hollol rwydd, ac i fod y blaid hon yn ddyfal barotoi mesurau da a theg eto er hwylysu'r ffordd i amaethwyr a phob llafurwr a'u galluogant i berchenogi tai a thydd- ynod iddynt eu hunain. Yr oedd Mr. Stokes yn siarad yn dda; ni chlywyd ef erioed yn debyg, ac y mae pawb yma yn awyddus am ei glywed eto i'n goleuo ar y mesurau da hyn. Siaradodd Mr. Griffiths ychydig yn Gymraeg1, ond nid oedd ei lais yn caniatau iddo y noson yma, o herwydd ei fod wedi anerch cyfarfodydd ereill yn ystod y dydd, ac addawodd i'n cyfarc'n eto ar fyr. Rhoddodd y dyrfa hetaeth oedd yn eu gwrandaw gymeradwy- aeth wresog iawn iddynt. NEWYDDION DA. Y mae Mr. Williams. Portland House, a Mr. Wilding, Hampton Villa, yn brysur dynu tatws newydd er ys rhai dyddiau. DYFFHYXOG.
HWNT AC YMA.
HWNT AC YMA. (Gan "Teithiwr.") Pan yn ysgrifenu y llinellau hyn, bydd brenin y dydd wedi gadael ei ystafell, ac ar ei yrfa fel cawr yn gwasgar ei belydrau gwresogawl drwy bob congl o'n bro brydferth, yr hwsmon wedi dadebru o'i gysgadrwydd, a'r peirianau gwair yn cael eu trwsio a'u taclu, a'u swn weithiau i'w glywed ymlt ac acw, y naill yn ateb y llall, a'r cynhauaf eisioes wedi dechreu. Bydd y cnydau yn dra bodd- haol. Hyderwn y bydd i'r Hwn sydd yn y gwynt yn ei ddwrn a'r mor ar glcdr ei Jaw ein cofio yn y tymhor prysur hwn. LLANDEILO-FAWR. Tawel lawn yw y ddinas hon yn bresenol, y gwa- banol fyddinoedd, a elwir y breddynion, a'u ham- feiliaid, wedi dychwejytd i'w gwahauol gantrede- OQdd, wedi bod yma yn gorsafu am ua thair wyth- nos, a chaffaeliad i'r dref oedd ymwo'iad y fath nifer; ac yn ol tyMiolaeth eu blaenc.iaiu. nid oedd yn basibl i gael gwell lie J wersyilu. Yr oedd .~U hrmweliad hefyd mor attyniadol, fel yr v tyrfaoodd yn dylifo i'r dref yn ddyddiol er cael cipolwg arnynt. Rhoddodd y boneddwr caredig, y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Dinefwr, ei bare prydferth at eu gwasanaeth, a dyddorol i'r miloedd edrychwyr oedd syllu arnynt yn myned trwy eu gwahanol ymarferiadau. Daeth dainwain i gyfarfod dau o'r ceffylau, fel y gorfodwyd er saethu. Yr oodd un o honynt yn anifail o'r dosbarth blac-riaf; ystyrid ef yn werth cannocdd o aur melyn. Ni chlywsom i ddim annymunol ddigwydd yn y dref, yr hyn sydd yn foddhaol iawn, pan ystyr om y drafnidiaeth fu yma yr wythnosau hyn. DAM WAIN. Nos Sadwm diweddaf. fel yr oedd Mr. Richard Watkins, Llwydcoed-uchaf, a'i gyfaill, yn dyfod i fcwn i dref Llandeilo yn mrig yr hwyr, pan ger y darllawdy. ar y goriwaered, tarawyd Watkins i'r llawr gan ddau wr ieuanc oedd yn marcfiogaeth aau-rodyn (bicyole), a derbyniodd nivveidiau trym- ion. Ymdedngys nad oedd gan y llanciau yr un goleu. a byddent yn teithio gyda ffyrnigrwydd ar v jrorwaered er mawr berygl i'r teithwyr. Yn ffodus daeth heddgeidwad i'r lie, a chiudwyd ein cyfaill i dy cyfagos, lie y-bu dan driniaeth feddygol am ddiwrnodau. Pur debygy ca y marchogwyr dibris hyn dalu yn halit am eu hesgeulusdra; cant wybod fod yn angenrheidiol i gael olew yn y ilestr gyda'r lamp. Da genym fod ein cyfailI yn dyfod yn y blaen y dyddiau hyn yn foddhaol. Y GOBEITHLU. Dydd Mercher diweddaf, bu y fyddin hon yn cynnal ei chylchwyl flynyddol ar fryn iachus a dymunol perthynol i Mr. Harries, Penybanc. Daeth y gwahanol gangnenau allan fel un gwr. fel wedi cyd-gyfarfood ar y bryn prydferth, yn wyr, gwrag- edd, a phlant. Yr oedd yr olygfa yn foddhaol dros ben, gweled y fath nifer wedi penderfynu "Llwyrymattal, a dal yn dyn Hyd farw heb un dyferyn." Cafwyd diwrnod ffafriol dros ben, a phe y buasai yr hin yn wahanol, yr oedd Mr. Harries, yn ei garedigrwydd arferol, wedi paratoi lie i bawb i fod, yn ddiogel yn yr ferch, fel na fuasai y gwlaw yn gwneuthur y niwed lleiaf j neb pwy bynag. Yr oedd y te, a'r bara brith, a'r deisen frau mor bob- logaidd ag erioed; llawenychodd calon, a chodwyd vsbryd y dorf, fel y treuliwyd y prydnawn gyda difyr gampiau. ail ïr Olympia gynt. Cafwvd hefyd anerchiadau medrus gan y Mri. Jones, Milton Court; Lewis, Llangathen; Thomas, a'r Parchn. J. Davies, Capel Isaac; Stephen Thomas, Siloh; W. H. Harries, Penyrheol; Elvans, Cross Inn; Jones, Cwrt Henri; etc. Diolchwvd vn wresog i Mr. Harries a'r teulu am cu caredigrwydd mawr, ac atebwyd gan Mr. Harries mewn araeth llawn o dan a hwyl Gymre'g. Teimlai bleser a mwynhad i roesawi cynulleidfa nad oedd yn ym- wrievd dim a'r glwybwr hwnw sydd yn bendroni dyn ion. Wedi tair banllef o gymeradwyaeth ym- wasgarodd y dorf, ac aeth pawb i'w ffordd yn llawen. MRS. MARGARET SLAINES, Y FFACTRI. edi dioddef cystudd caied am wythnosau lawer, bu farw y foneddigea ucjiod, yr hon ocdd yn briod tyner, yn fam anwyl a hoff, ac yn gymydoges o'r fath oreu. Yr oedd yn aelod ffyddlon a. hardd gyda y Bedyddwyr yn Ebenezer, Llandeilo. a bu ei thai y diweddar Ben Davies, Llanfynydd, yn bregethwr cynorthwyol cymeradwy gyda r cnwad parchus hyn, a bydd iddi frawd yn weinidog yn Treiforest, Morganwg, heddyw, Treuliodd ein chwaer flynyddau yn nghymydogacth y Felingwm. Preswyliai hi a'i theulu yn Brynarfon, ac yn gweithio gweithfa wlan Nantybastau. Wedi mar- woTaeth ei chwaer a'i phriod, cafodd Mr. Haines y weit-hfa hon a elwir "Felin-obaith Rhiwyradar," ac yma y bu mewn parch a chymeradwyaeth fel yn y iehngwm hyd ddydd ei hyrnddattofi ad, yr hyn a gvmerodd le dydd Sadwrn, y 7fed cyfisol, yn 59 mlwydd oed. Cymerodd ei harwyl Ie dydd Mercher dilvnol; darllbnwyd a gweddiwyd yn y ty gan y Parch. D. James, ei gweinidog. Daearwyd ei rhan farwol yn Llangathen, pryd y gwasanaethwyd gan -y parchus fiqer, y Parch. J. Alexander Williams. Cafodd gladdedigaeth barchus. Daeth liuaws mawr o Lanegwad i dalu y gymwynas olaf i un oedd yn barcnus ganddynt. Gadawodd i alaru ar ei hoi briod hoff a naw o blant, oil wedi ymsefydlu yn v byd, ac yn gwneyd yn dda, ynghyd a nifer mawr o hoff berthynasau. Dyddaned Rhagluniaeth dyner y ncf y gaJarwyr oil, a huned ein chwaer yn dawel yn ei hargel wely hyd foreu mawr y codi cyffrn- dinol. Rhinweddol ydoedd Margaret, Bu farw fel bu fyw; A'i chalon tan ddylanwad A delw hoff ei Duw; Mae 'nawr mewn carrtref newydd, Mewn byd tuhwnt i'r lien, A'r haul yn fil disgleiriach, A Ilawer cliriack nen.
BETTWS.
BETTWS. Lt.wynDiANT BARDD—Llongyfarchwn Mr D R Gri- ffiths. Bettws, ar ei Iwyddiant yn enill cadair Eis- teddfod Llanharran al'an o 16 o gystadleuwyr. Er nad oes ond amser byr oddiar pan ddechreuodd "drin tannau' yr awen, mae cisioes wedi bod yn llwvddianus anarferol yn myd barddas. Gydag pnill ugeiniau o wobrwyon yn mro ei faboed, mae wedi cipio tair cadair. Dyfarnwyd ef yn oreu iwtyd o nifer mawr ar destyn y gadair yn Llan- gennech yn ddiwcddar, ond yn anffodus, gadawodd hi ddeuddydd yn hwyr cyn danfon ei bryddest i law y beirniad. Mae wedi bod ar sawdlau y buddugwyr mewn eisteddfodau o fri yn Ne a Gog- iedd Cymru hefyd. ac mae beirniadaethau rhai o'r pri'-feirdd ar ei gvnyrchion yn adlewyrchu clod nid hyrohan arno. Trefnodd ei luaws ffryndiau gynhai cyfarfod llongyfarchiadol iddo ar 01 ei goncwest dd". wrddaf. ac yr oedd prif-fcirdd a chantorion y cvloh wedi addaw cymeryd rhan ynddo: ond ar ei gais pf, ataliwrd gwneyd hyny am y tro. Ei reswm pmaf oedd, 'nad oedd yn werth gwneyd ffwdan nes iddo enill mewn eisteddfod o fri." Rhwydd liynt iddo i eyrhaedd ei ddymuniad, yw sibrwd calonau ci gyfeillion. "Yn uwch, uwoh, uwchach yr eI, Dringed i gadair angeL"
lallDN 0 DIYFFRYN ceTHI
lallDN 0 DIYFFRYN ceTHI (Gan Brython.") Mae'r tywydd teg a'r hin ddymunol yn peri foi preswylwyr y dyffryn mewn Hawn hwyl a bywyo Gyda'r wawr clywir swn y peirianau gwair ar hyi y llechweddau a'r doldiroedd breision, pa rai sydd wedi cnydio yn dda ao yn dangos arwyddion '0 gynhauaf toreithiog, gan wirioneddoli'r ffaith, get na phaid amser hau na medi holl ddyddiau. y ddaear. PONTARGOTHI. Bellach mae yr arddangosfa fawr flynyddol gyO* helir yn y lie yn un o'r pethau a fu, a phob yfl1- geisydd yn gwybod ei sefyllfa. a rhaid yw boddlofli i ddyfarniad y beirniaid; ac os na fyddir yn eyd- olygu a'r cyfryw, ni fydd fawr gwahaniaeth gall- ddynt hwy. Gresyn i'r cwpan arian roddi "good- bye" i Ddyffryn Cothi, pa un oedd yn addurn i'r ardal ao yn glod uchel i'w enillydd, ond nid yw i fod yn hir yn Babylon. Methodd y ddau feirniad gydolygu yn ei gylch, a rhaid oedd cael trydydd person i setlo ei dynged, felly nid "trech dau nag un.' ond "trech un na dau." Tebyg y cawn ei weled yn wlad ei enedigaeth blwyddyn nesaf. LLANFYNYDD. Cafwyd eisteddfod lewyrchus dros ben yn. y lie uchod nawn Sadwrn diweddaf, a da genym groniclo eto rod Miss Jessie Evans (Llinos Cothi) wedi cipio y brif wobr. Mae y gantores ieuanc yn dringo grisiau enwogrwydd gyda rhwyddineb, ac ni' fydd yn syndod ei gweled ryw ddydd yn y "Royal Aca- demy." BRBCHFA. Dydd Iau diweddaf yr oedd y pentref bychan yn attyniad i'r byd llenyddol a cherddorol adnabydduv am mai gerllaw oedd eisteddfod enwog "Ffynnon y Byrgwm" i gael ei chynal, a chyda gryn anhaws- der y llwyddodd y ffynnon a'r gwestty lleol ddi- sychedu y dyrfa luosog oedd yn bresenol. Mae yr eisteddfod non yn dra enwog bellach, ac yn myned ar gynydd o hyd. Bu y pwyllgor gweithgar a'r ysgrifenydd clodwiw yn egniol ar ran ei llwyddiant, a chafodd eu gwaith ei goroni. Nid oes eisieu nodi fod pob cystadleuydd wedi cael perffaith chwareu teg a chvfiawnder, am fod enwau y beirniaid, sef Dr. Roberts, Gogledd Cymru, a'r Parch. Gwylfa Robqrts, Llanelli, yn sicrhau hyny gyda boddlon- rwydd. Da oedd genym weled rhai o Ddyffryn Cothi yn cipio gwobrwyon yno, a chawn fod FELINGWM ar ei gvnvdd mewn enwogrwydd. Yr oedd y pentref bach uchod yn dawnsio ar ei waethaf pan glywodd am lwyddiant y cor wyth a'r pedwarawdj; ao yn ol tystiolaeth Dr. Roberts eu bod wedi gwneyd datganiad ardderchog—98 marks allan o'r "possible" 100. Llongyfarchwn Mr. John Hughes fel arweinydd, pa un a dderbyniodd ganmoliaeth uchel fel y cyfryw, a'r gyfeilyddes ieuanc a medrus Miss S. M. Howell, Godor, ynghyd a'r aelodau ereill o'r cor fu yn enill y cwpan arian, yr hwn svdd yn adlewyrchu talent a medrusrwvdd cerddor- ol. "DEMONSTRATION" ABERTAWE. Dydd Sadwrn wythnos i'r nesaf bydd liuaws o'r dyffryn yn uno gyda'r llu er dangosi eu sel a'u brwdfrydedd dros hen Eglwys eu tadau. Mae yma lawer yn barod i aberthu amser a phobpeth er amddiffyn yr "Hen Fam." Dewch i gyd o dan faner wen cvfiawnder i brotestio yn erbyn y weithred anonest o ysneilio hen Eglwys y Cymry i heiddo gwirioneddol. NANTGAREDIG. Y Parch. N. Hopkins oedd un o breigethwyr (fcwisiedig yn nghyfarfodydd mawr Betnania, Llanelli, yr wythnos ddiweddaf, a da oedd genym we'ed enw v brawd ieuanc yn mysg cewri vr enwad. Cafwyd cyfarfodydd hwylus a phregethau nerthol. HOREB, Priodas.-Borea dydd Mawrth unwyd mewn glan bricdas, yn Swyddfa y Cofrestrydd. Llandeilo, Mr. D. Isaac, dilledydd, a Miss H. Evans, Clawddmawr. Dymunwn i'r pttr icuano fyd gwyn a phob hapus- rwydd.
DIWYGIAD BLAENYCOED A BRYNIWAN
DIWYGIAD BLAENYCOED A BRYNIWAN O'r holl faiiau. a ddaethant dan; ddylanwad Di- wygiad Evan Roberts, nid oes un ardal ag sydd yn dal o hyd dan ei. effeithiau fel Bryniwan a Blaenycoed. Bu yma gynhyrfiadau rhvfeddol yn y dyddiau diweddaf hyn. ac y mae yn destyn siarad yr holl ardaloedd. Daeth gwr o'r Rhondda, sir Forganwg, person nad oedd neb yn ei adwaen, i gynhal cyrddau diwygiadol yma, a rhyfedd y dylan- wad a gafodd ar rai menywod y lie. Cynhaliwyd ewrdd gweddi mewn un ty yn Blaenycoed, lie yr ymgasglodd llawer o fenywod, rhai oedd fawr eu zol fel diwygwyr, i wrando cenadwri y gwr dieithr. Yma bu y gwragcdd yn gweddio ac wban mewn yspryd argyhoeddiadol, yn ol arfer diwygwyr, ac yn cael eu seboni yn fawr gan y gwr dieithr. Yr oedd yr Ysbryd Glan, yn ddiamheu, wedi dyfod i'w plith, meddai. A phan oedd y gwr yn llefaru a dawnsio, fel pe byddai yr Ysbryd Glan wedi ei lanw, ac yn chwifio ei napcyn poced yn ngwyneb un o'r gwragedd, mae y wraig yn gyrthio yn sydyn i'r ilawr fel un marw. Yr oedd rhyw rinwedd rhyfeddol yn y napcyn poced, gan jddo daflu tair o fenywod yn hollol ddideimlad i'r llawr. Dy- wedir fod un merch wedi bod ddwy awr mewn cysgadrwydd, na allasai ei mam ei deffroi o liono, a'i bod yn ffrothio o'i geneu fel person, ar dranced- igaeth. O'r diwedd daeth menywod Blaenycoed i ddeall mai nid dylanwad yr Ysbryd Glan oedd gwenwyno personau fel hyn, ond ei fod yn fwy tebyg i waith cnlorofform y diafol; a gorfod i'r diwygiwr dieithr ffoi yn gynt na fyddai, yn car-' lamu o flaen haid o wenyn wedi clymu ar ei ben. Y n nghapel Blaenycoed hefyd mae y menywod yn gancr tragwyddol yn eu diwygiad. Druan a'r gweinidog! Etc sydd yn gorfod dioddef helbul y corynod hyn. Y Sul o'r blaen pan yr oedd yn gweddio o flaen y bregeth, dyma ddwy fenyw, fel rhai wedi gwallgofi, yn gwaeddi allan a gweddio, nes yr oedd y" gweinidog yn gorfod tewi. Yn Bryniwan y mae capel., "spite" wedi ei godi gan y diwygwyr. Torwyd y rhai hyn allan o'r eglwys o herwydd eu gwallgofrwydd paganaidd a'u rhwystrau annherfyno Mae yn anhawdd dweyd pa enwad yw y capel "spite" yn bresenol. Annibynwyr oeddynt o'r blaen, ond y maent yn bob cawdel yn awr. Mae y "chameleon" yn troi ei liw pryd y myno, yn ol ei ewyllys. Tebyg i hwn hefyd yw capel. "spite" Bryniwan. Maent yn foddlon troi eu Iliw, eu syn- wyr, a'u cyrff i foddlonj un diwygiwr o ba gyfeir; iad bynag o'r byd y daw atynt. Y dydd o'r blaen yr oeddynt yn Fedyddwyr. Ni chefais allan pa un ai y diwygiwr deitnr o'r Rhondda oedd y Bedydd- iwr neu rywun arall. Yr oeddynt yn bedyddio gwraig, a hono yn ddynes fawr, dew, trwm, mewn llvn fechan heb lawer o ddwfr, ond Ilawer iawn o laid neu fwd. Wn i ddim pwy i feio am y glanastra a gymerodd le-pa un ai y Bodyddiwr oedd yn rhy wan i ddal y wraig i fyny, neu fod pwysau y wraig yn fwy na menywod cvffredin Trolech. Both bynag. pan y cafwyd hi i'r lan, nis gallai neb ddweyd beth oedd hi, ai dyn neu anifail, ob'egid yr oedd yn fwd o'i chanol i'w phen, heb wyneb yn y crolvvg, a'i gwallt, yn garthen o f wdw yn gorchuddio ei hysgwyddau, a gttrfod iddynt ei throchi yr ail waith er golchi y mwd ymaith. Nid peth i chwerthin arno ydyw. Y mae hyn oil yn grefydd ac yn ddylanwad yr Ysbryd Glan gan ddi* wygwyr Bryniwan a Blaenycoed. JONAH.
Advertising
LOANS. £..5 to _f" ADVANCED promptly and pri- vate on your written promise to pay Repayments by ey inMalments to suit your income. For agreed periech— Zb repay £ 6 £50 repay 955 £10 fit Aloo tiio £ 20 922 £ 200 „ &220 SPECIAL TEftMS TO FARMERS & PROFESSIONAL MEN. No Change unless busisioss compreted. Imme- diate attention giten to inquiries loy Post 'Phone or personally, Aod strietrst privacy assured CrtEO. FRY & Co., 11, Dyncvor Place, Swansea 'p 801, Docks. Uqder New Maqagemont
YR EGLWYS BRYPEIMG
YR EGLWYS BRYPEIMG (Gan D. E. Evans, Gwernogle.) (PARHAD). Yn ol ein haddewid yn yr ysgrif flaenorol, awn rhagom yn awr i brofi mai yr Eglwys Brydeinig, a sefydlwyd yn gyntaf yn mhlith y Cymry yn Nghymru, ydyw fel mater o ffaith y Fam Eglwys yn y byd Cristionogol. Ond er mwyn gwneyd y mater hwn yn fwy bglur mae yn angenrheidiol i wneyd ychydig to eylwi^dau rhagarwei(niol. Yr oedd crefydd y Derwyddion yn meddu cyfatebiaeth rhyfeddol i'r grefydd Foeeenaidd. Yr oedd eu Duw yn Dri!ndod o bersonau, ac enw un o nonynt a alwent Esu, neu Yesu. Disgwylient am lachaw- dwr, ac enw yr Iachawdwr hwnw ydoedd Yesu! Yr hyn sydd yn ymddangos yn ddyryswch mawr ydyw, fod y bobl hyn yn son am Yesu ganoedd o flynyddoedd cyn geni y Messiah! Yn briodol iawn y gallwn ddefnyddio y frawddeg Sei&neg, "Truth is stranger than fiotIon, yn y cysylltiad hwn. Yr oedd y ddeddf Dderweddol. fel y Ddeddf Foesenaidd yn gyfiawnder i!ym—"L)ygad am lygad, dant am ddant," llaw am law, throed am droed." (Ex. xxi., 24). Yr oedd y ddeddf Dder- wyddol a'r ddeddf Foesenaidd yn ddiffygiol mewn un peth—hjfny ydoedd <qariad! Darfu i Grist i gywiro y diffyg hwn, gan roddi yr 'un elfen' oedd yn eisieu—Gorchymmyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, ar garu o honoch eioh gilydd." (loan xiii., 34). Darfu i'r Iuddewon yn y Dwyrain wrthod y gorchymmyn newydd hwn, tra y darfu i'r "anwariaid llywiedig" (painted savages) y: ysgolheigion diweddar, yn ynysoedd y Gorllewin, ei dderbyn. Pan y cafodd Cristionogaeth ei dwyn i mewn i'r wlack yn dra buan ar ol y croeshoeliad, cafodd ei derbyn yn dra enyffredinol, a daeth yr offeiriaid Derwyddol i) fod yn weinidogion yr Elfengyl. Dy- wedir gan ysgolheigion ein dyddiau ni mai 'painted savages' oedd trigolion ein gwlad ar ddechreu y Cyfnod Crietionogol. Peidiwoh ei gredu. Nid oes gair o wirionedd ynddo. Nis gallaf aroe i brofi yn yr ysgrif hon fod Pa-d ac un neu ddau o leiaf o'r Apostolion ereill wedi ymweied a Phrydalli, gan bregethu anchwiliadwy olud Grist i'r bobl. Ond rhaid i mi fyncd yn y blaen. Yn y flwyddyn 161 O.C. darfu i Lleurwg (enw Rhufeiig yr hwn oedd Lucius), yr hwn oedd yn teyrnasu yn Nghymru, a'r hwn sydd yn cael ei alw yn un o'r hen ysgrifau "Brenin y Brython- iaid," wneyd Cristionogaeth yn grefydd y wlad. Mewn perthynas i'r Eglwys Brydeinig genedl- aethdl hyn, mae un awdwr yn ysgrifcnu-And this national establishment of the British Church at the time, combined with the fact of the largo < "gree of independence enjoyed by the British Chiefs under the Roman ocoupation, probably accounts for the apparent exemption of native Christians from the Diocletian persecution, which raged among those who were Roman citizens, and cut off St. Aibans and others." Yn awr beth oedd Rhufain yn wneyd ar yr amser hwn, 161 O.C. ? Wei, yr oedd Rhufain mewn paganiaeth dan yr Ymherawdwr paganaidd Marcus Aurelius. Yn mhen peth amser ar ol hyn daeth erledigaeth grou- lawn yr Ymherawdwr Rhufeinig paganaidd Dio- cletian. Cymerodd yr erledigaeth hon le yn 302 O.C. Aeth y storm heibio, ac yna daeth teyrnasiad Constantine, yr Ymherawdwr Rhufeinig Cristion- ogol cyntaf, mam yr hwn, Helena, oedd foneddiges Brydeinig, a geilir olrhain ei hachau trwy gyfrwng ysgrifau sydd ar gael eto i Anna, a chyfnithder I i'r Forwyn. Cafodd Constantine ei goronj yn Ymherawdwf Rhufeinig yn dref York, ar y 25ain o Orphenaf, 306. Yma gal-af nodi y ffaith fod archesgobaeth York wedi ei gefydlu un flynedd-ar-bynitheg cyn y dyddiad hwn, yn 290 O.C., gan Constantius, tad Constantine, yn ol arch ei fam, Helena. Dan Constantine daeth cyfnod o heddweh i'r Eglwys Brydeinig, a chafodd Ueoedd o addoliad eu hail- adeiladu, a chyfododd yr Eglwys Gristionogol yn y w.ad hon yn gryfach nag erioed. Ychydig flyn- yddoedd yn ddiweddarach, yn 320 O.C., darfu i Constantine i gyhoeddi Cristionogaeth fel crefydd NViadwriaethot yr Ymherodraeth Rhufeinig. Yr oedd hyn 160 o flynyddoedd ar ol i Lleurwg Bren- hin y Brythoniaid yn Ng'nymru i gyhoeddi Prydain yn wlad Gristionogol. Y ddau bwynt i sylwj arnynb yma ydynt. fod yr Eglwys Brydeinig wedi ei sefydiu fel Eglwys Wladwriaethol gan Lleurwg, Brenin y Brythoniaid yn Nghymru, yn 160 O.C., ac i fod Rhufain dan ifmhera'wdwyr paganaidd, ac na ddarfu i Grist- ionogaeth gael ei chydnabod gan y Wladwriaeth cyn i Constantine, Ymherawdwr brodorol o Brydain, i'w chyhoeddi yn grefydd yr Ymherodr- aeth Rufeinig, 520 O.C., sef 160 o flynyddoedd ar ol iddY gael ei sefydiu yn Wladwriaethol yn Nghymru, a dyma yr Eglwys Wladwriaethol Grist- ionogol gyntaf yn yr holl fyd. Amser a ch gofod a balla i mi i fanylu nr hanes yr ymdrcchion o eiddo yr Eglwys Brydeinig yn erbyn Eglwye Rhufa.n, a'r modd yr oedd yr Esgobion yn dewis yn hytrach i roddi i fyny eu hesgobaethau nag i ymostwng i awdurdod y Bab- aetn. Nid yw yn bosibl i mi mown ysgrif fel hon i brofi yn fanwl yr ymladdfa barhaus sydd wedi cael ei chario yn mlaen bob amser gan yr Eglwys efyd- ledig yn y wlad hon yn erbyn trawsarglwyddiaeth Rhufain Babyddol. Ei bod am dymor wedi cael y llaw uchaf sydd wirionedd, ond fod yr Eglwys Brydeinig erioed wedi ymgorphori a hi bydd an- wiredd hoilol. Mae y Brenhitn, yr Eglwys, a'r genedl yn ei tro, wedi ymladd yn ddewr yn erbyn uchafiaeth Eglwys Rhufain. Cyn byth y geilir deall y mater hwn o Eglwys Wladwriaethol, mae yn rhaid meddu y wybodaeth fod gorsedd Prydain Fawr, ao hefyd y genedl, yn ddwyfol eu tarddiad. Mae Eglwys Wladwriaethol yn mhob gwlad ond Prydain yn beth hollol ddl"- ystyr. Mae uchafiaeth, yn boliticaidd a Christion- ogol, wedi ei roddi i Brydain yn genhedlaethoi, trwy ddwyfol awdwrdod. Dywedodd yr Iesu wrth yr luddewon y byddai, i deyrnas nefoedd gael ei dwyn oddi arnynt hwy a'i rhoddi i genedl (nation) a ddygo ei ffrwythau (Matt. xxi., 43). Mae Prydain yn dwyn nodau y genedi hono, v rhai a roddir yn y Beibl, bob un. Mae y nodau pro- phwydoliaethol mewn perthynas i Israel yn y dyddiau diweddaf (sef y dyddiau yn mha rai yr ydym ni yn byw) wedi eu sylweddoli yn Mhrydain Fawr bob iot. Mae y ffaith hon (yr hon nad oes neb eto wedi medru ei gwrthbrofi) yn brawf an- ffaeledig o ddwyfol darddisad yr Ysgrythyrau. Mae y rhyfel oresenol yn Nghymru yn erbyn Eglwys Loegr yn cyfodi yn benaf ortdi ar y dyb (hollol ddi-sail) fod y Cymry a'r Seison yn ddwy gencdl wahanol. Dywed Proffeswr Huxley fod y dyb fod y genedl Brydeinig yn cael ei gwneyd i fyny o wahanol genhedloedd, yn ffolineb hollol. Fod yr Egjwys Genhedlaethol Brydeinig yn sefyll yn hollol ar ei pnen ei hun, ao yn meddu ar nodweddion na cheir mo honynt mewn cysylltiad ag un Eglwys arall yn yr holl fyd, a brofir gan y ffaith ganlynol yn unig. Mae yn barhaus, am y 350 mlynedd diweddaf. yn gweddio ar yr Arglwydd, Sabbath ar ol Sabbath, yn eu haddoliad cenedl- aethol, am y rhoddiad o'r "Cyfamod Newydd" yr hwn oedd wedi ei addaw i Dy (neu Deyrnae) Israel yn unig-yn Heb. viii., 10-12, a Jor. xxi., 33, yn y geiriau, "Arglwydd. trugarha wrthym (Israel) ac ysgrifena yr oil o Dy gyfreithiau hyn yn ein calonau ni (Israel), ni a attolygwn arnat," erfyniad na anfonir i fyny gan un gencdl (nation) arall heblaw y Brydeinig, artinrbyw adeg neu wlad gan unrhyw Eglwys, diwygiedig neu anniwigiedig, Pro- testanaidd, neu Babyddoi, neu Iuddewig. Ao v mae yn ffaith mai oddiar pan yr ydym wedi gosod i fyny yr erfyn;ad hwn yn ein haddoliad cenhedl. aethol, yr ydym wedi dyfod o fod yn genedl cyd- marol ddi-nod, i fod y genedl a'r ymherodraeth fwyaf nerthol a welodd y byd erioed, ac nid hyny yn unig, ond hefyd yr unig genedl a theyrnas sydd wcdj bod, ac sydd heddyw, o fendith i holl dy- lwythau y ddaear. Gadawaf i'r darllenydd yn awr i farnu drosto ei nun, ac i dvnu y casgliad a fyn oddi wrth y ffeith- iau sydd Med; ei rhoddi yn yr ysgrif hon, canys yr wyf> yn dywedyd yn hyf, nad wyf wedi ysgrifenu er boddloni un sect neu blaid yn v bvd, ond yn hytrach er cael allan? y gwir. "Y gwir vn erbyn y byd."
LLANDYSSILfO
LLANDYSSILfO Nawn Sul, y 15fed a Fehcfin, traldxiwyd precri-th angladdol i Mrs. Jones, Moyiach, yn Eglwys St. Marc. Cafwyd pregeth bwrpasol iawn gan licer y plwyf, v Parcfl. John Morgan. Yr oedd yr egJwys wedi e: gorienwi, er coffadwriaeth am hen fam yn Israel. Gwasanaethwyd wrth yr organ g, Miss Davies, Pantgwyn, un o organyddesau yr Eglwys.
Advertising
BORWICK'S I wWw The best I I and purest ■ S BAKING 0 |K POWDER M In the world "TWMLETS" COMPETITION. SIMPLE, INTERESTING, INSTRUCTIVE. MAY BE CONSTRUCTED EITHER IN ENGLISH OR WELSH. The Editor guarantees a FIRST PRIZE of not literary gentlemen, who will only receive the less than £ 1, and to the sender of the attempt TWMLET portion of the Coupons, and will not adjudged to be SECOND Best will be sent a racket be aware of the identity of the Competitors. of Note Paper printed with his name and address Attempts marked on the outside "TWMLETS," The First Prize will be awarded to the Competitor and addressed Editor "Carmarthen Journal," Car- whose "TWMLET" is considered by the Adjudi- marthen, must reach the Editor not later than trie cators to be th« best. Each attempt must be written first poet on Saturday morning, June 28th. PLAINLY in INK on a coupon, and accompanied by 3d. in HALFPENNY STAMPS. Competitor* may HOW TO OONSTRUCT YOUR "TWMLETS.' send in as many attempts as they wiih, but each Choose any one of the following examplesGive must be on a separate coupon, and in that caso a TWO or THREE words bearing the best relation Postal Order may bo enclosed to cover the total you can think of to the example chosen. The of the entry fees. No correspondence to be enclosed FIRST letters of the FIRST and LAST word must with coupon, and no correspondence can be be taken from some part of the example- Thus, entered into concerning the adjudication; neither say the example selected was "Big LegaCy." can the Editor be held responsible for any Coupon* Taking the letters L and C you make the Twm- lost or delayed, but every care will be taken of let Lloyd George Chuckles." Any word may them. The Editor s decision will .be final, and be used for a middle one. Again, Seaside HoLi- Competitors must accept this as legally binding. days Lojins Hallt," or "TaFod MeNyw The attempts will be judged by TWO independent Ni Flina." Examples may be selected from the following:— Bywyd Pregethwr. Newyddiaduron Sabbothol. Irresistible. I Allan o'r ffasiwn. AnamI y gwelir. A Burning Question. Sefyllfa Angnysurus. Mam yn nghyfraith. Old Soldiers. Cartref Nfewydd. Tair belen bres. Yeomanry at Llandilo. Cusan Cyntaf. Beauty Spots. Mamma's Pet. Anghofio'r Gorphenol. Small Holdings. Highly Commended. Araf yn dysgu. Called Back. Taken by Surprise. Ffenestri Siopau. Clean Shave. Short-sighted Chauffeur. THE COUPON which must be cut out and sent. I JOURNAL "TWMLET." SERIES 3. Closing date-First post Saturday, June 28th. Example. Twiiilet .0. .0. SERIES 3 I enter this competition subject to the Rules of the Carmarthen Journal Competition, and agree to accept the Editor s published decision as final and legally binding. Signed Address I I Gair bach yn Gwmraff. Yn y pishin Sisneg fe ginigion yn yr un envilop, ond i bob un fod ar weiweh batrwne o TWMLETS. Cimrwch p'un Cwpon gwahanol, a gallwch roi Postal Order i finoeh o'r Eksampl, a wtj'Jwch DDOI ne DRI gair govro yr entris i gid. Ma r Goligidd yn rhoi dim i siwto meddvrl yr Eksampl. Ma llithrene llai na SOVREN o breis am y Twmlet geith i a, CINTA'R gaiv CINTA a'r gair DWFTHA o'r barni yn ore. a ffakin a bapir skriveni wedi bceinto Twmlet. j fod rwle yn yr Eksampl. Stim ots am a'i adresa arno i'r ail ore. y gair canol. Skrivenwch y Tvy'mlot a'oh adress Fidd dim o'r rhai sy'n barni yn cal y pishin o'r yn blaen miwn ink ar y Cwpon, a rhowch e miwn Cwpon a'r adress arno; ochodin stim chana i neb envilop gida TAIR ccinog miwn stamps dimeie, gal ffavar. ag adresweh e i'r Editor, CARMARTHEN JOURNAL, Halwch ich cinigion i fod yn llaw y Goligidd Carmarthen, a akrirenwoh y gair "TWMLET" ar erbyn ne cyn y post cinta bore dy Sadwrn, Mihefin yr envilop tufas. Mi allwch hala faint finoeh o 28am, 1913. ■ —■—, Result of First Competition The judges have awarded the prize in the first "Twmlet' competition to MR. J. GWENDRAETH JAMES, ç School House, Blaenporth, Cardigan, for the following attempt:— Example—Housing AcL. Twmlet—"Closing Orders" galore! A cheque for JB1 is being sent to Mr. James this week. The attempt sent in by MRS. M. J. JONES, Forge, Capel Dewi, Carmarthen, has been considered by the judges worthy of the second prize, viz.: J Example-Dan gwmwl. Twmlet—Datgyssylltiad i Gymrn A w 444^ e"e'opcs li,h Z'lT f,irl'v 8""1 in Ens- .»u„PSdSl0Tm6, rpets- hopelessly out of competition^ thereforf' coupon. TS^course.^ificJ 3^3* andV^ 3d:trhir0„^urPtnrnins him 9d'r;tai^ EVERY ATTEMPT MUST BE ACCaM PANIED BY A COUPON. This rulo is unalter- able.
I' TWM 'BARELS' A 'MYRDDIHFAB'
TWM 'BARELS' A 'MYRDDIHFAB' Yn hanes "Demonstration Fawreddog o Eglwys- wyr Caerfyrddin a'r Cylch," dywed "Myrddinfab," "Nad dosisarth 'Twm 'Barcls' a'i glic iselwael oedd yn y •Demonstration, ond urddasolion tref Caer- fyrddin a'r Cylch." Nid wyf yn amheu y rhan o'r difyniad am. urddasolion Caerfyrddin, ond feL un wedi darllen holl erthyglau "Twm" yn y JOURNAL, mcthaf weled fod ganddo "glio" o gwbl, chwaeth- ach "clic iselwael.' Ond o ran hyny rhai iselwael Jin unig all ffurfio clic. Pa le y caiff Twin rai iselwael i wncyd clic Nid o unrhyw County Council, gan mai aelodau iselwael y Council, yn ol Twm, yw y dcfnyddiau sydd gan y diafol yn ei grochan cawl. Nid o blitfi y pregethwyr na'* offeiriaid iselwael, gan fod "Twm" yn slingo y rhai hyn i'r crochan, neu eu gosod yn ddiseremoni ar domen o forgrug-, ac yn eu darlunio fel brogaod neu lyffaint ddcuant o enau y ddraig a'r gau-broffwyd. Nid o blitn y diaConiaid iselwael y caiff Twm stwff i gyfansoddi clic, gan ei fod yn eu darlunio hwy fel waxworks Satan yn y "buildings crefydd- ol.' Nis gall gael clio o rai iselwael y sectau, oblegid "Basned o Fethots" y geilw y Calfiniaid iselwael, ac nid yw "Twm" yn ffafr o rai iselwael lunrhvw enwad nag Eglwys. Os oca "olio" gan "Twm 'Barels," nid wyf yn gallu gweled fod ganddo siawns i gael neb i'r "clio" ond urddasol- ion, gan ei fod yn coll-farnu pawb iselwael o bob crefydd, o bob plaid ac o bob cylch. Nid wyf wedi cael y prawf lleiaf eto fod 'Twm'' yn ooll-farnu neb na dim sydd wir urddasol. Credaf fod "Twm" mor rhydd o'r "cliciau iselwael" ag yr oedd loan yn Patmos. Dieithr ydwyf fi i "Twm" fel person. Ei farnu yr wyf o'i "lithiau" ardderchog, a dieithr wyf i "Myrddinfab"' fel person; nia gwn pwy ydyw. Ond yr wyf yn darllen ei waith fel ysgrif- enwr medrus gyda hoffder. Drwg genyf ei fod yn camfarnu 'Barels." Credaf nad yw wedi talu sylw digonol i'r egwyddorion byw a dreiddiant drwy yr oil o'i erthyglau. 0 dan arddull gywrain "Twm Barels," yn ymddangos ffcl pe yn gwrs, y ceir cref am gyfiawnder, brwdfrydedd cariad a tneimlad tyner dyn y deigryn o'r llygad. Ystyrier ei ddarluniadau ami o'r proffwyd o Nazareth yn mhlith y truenusion. Boed bri bythol ar bre- gothau "BareIs' yw dymuniad dyfnaf enaid GWYNGOCH.
Y fifUFfl FAMHOL.
Y fifUFfl FAMHOL. (Ga. "Talfray") Da chwithau, garedigion, cofiwch nad oes genym ofod diderfyn ar gyfer y farddoniaeth. Na wnewch "elastic" o'r awen. Un rinwedd dda mewn bardd yw ei fod yn medri dweyd ei' neges yn fyr. Y mae yn bcchod mewn defnyddio "geiriau" llanw, ond y mae rhai yn euog o ddefnyddio "penillion" cvfa.ii felly. Na foed genych un linell yn eich cyfansoddiadau heb fod neges ynddi. Y mae y bwrdd yn Hawn iawn ar hyn o bryd. Gwnawn ein goreu i'w g irio, ond rhoddwch lonydd i ni am dair wythnos. os na fydd genych rywheth gwir bwysig ac amserol. Y Flwyddyn 1912.—Ydyw, fel gwaetha'r modd, y maehon yma er's rhai wythnosau. Carwn pe gwelech y pentwr sydd wrth law, ond y mae ei thro ar dd'od. Llanon (Llongyfarchiad).—Rhes o englynion pert. Mawr hoffwn yr ail englyn. Diolch. Priodas Pantyeuryil.—Byddwch ofalus o'r modd y gosodwch allan eich meddyliau. Peidiwcli rhoddi He i foddyliau dyblig. Y mae tarawiadau hapus yn y gan, ond rhaid fydd cvweirio ychydig am y bai a nodais. Pimnillion Cvflwynedig (Abergwili).—Llitnrodd i fewn rai gwailau bvchain, ond digon tebyg mai wrth gopio y bu hyn. Can dda. Tuchaiigerdd y "Lodger. "-Cyl I y gan 'hon mewn j,rwawdgoredd. N:d yw yn ddigon miniog. Gydag eithrio diwedd pcnill 4, a rhan o benill 5, gallesid meddwl mai clodgerdd i'r "landiady" yw. Er Cof (T. T.).—N.d ydym yn hoffi'r niesur ddev.isasoch i farwnadu arno. Y mac vn rhv debvg i fesur y "Mochyn Du.' Y mae ynddoch adnodd- au eniynwr penigamn. ni allsem feddwl. Cyfaichiad Priooasol.-Syniadau newydd i hen destyn. Dyna beth yw can fer, llawn o nege^ouon, a gwerth ei darl en yr ail waith. Crei>yn na chv- mersai llnwer wers oddiwrthych. Hen 'ilapel y Bettws, a Mis Mai.—Da iawn. Cymerasai (mdyn go dda i guro eicn nn chwi Diolch. Penillion (Galarwr). Peniliion tlws o gydyindcim- lad a'r ymadawedia. Y Brython a'i Blaiit.-Y mae am bell i gleciud cynghanedd yn y penillion hyn, ond yn bendi- faddeu y mae cleciad chwip yn diaspedain. Y mae defnydd ai! englvnwr da ynoch ond i chwi ymostwn? ychydig gerbron Dafydd Morganwg. Cant ym- ddangos yr wythnos nesaf, hyd hyny eaiff Brython gysgu yn esmwyth.
PENNILLION
PENNILLION I Mr. Dd. Lake, "Ammanfab," Maesteg, yn ei lesgedd, Mai, 1913. Ardal Amman sydd yn owyno. Beirdd y winllan sydd yn brudd, A u calonau sy'n llesraeirio Yn founyddiol nos a dydd; Herwydd colli cwmni'r enwow Ammanfab' yn awr o'n plith, Rhwn sydd heddyw o dan gloion Llym afiechyd arno chwyth. Swydd fa'r JOFRXAL sydd yn disgwyl Am adferiad 'nol j'r bardd, Fel cawn eto ei gydgyfarch Ef fei blodyn bach mewn garda. Os yw henaint a phenilwydni Yn blodeuo ar ei ben, Y mao 'i, awen yn byrlymu Ar bob pryd hob wg na sen. Os yw tannau'r hen offeryn 'Nawr yn fud er's Jiawer dydd; Eto gwelir 'r hen bererin Yn eu chwarcu fel yr hydd. Fy nvmuniad yw ei weled Eto'n rhodio cyrrau'r llawr, Fel y bu ef drwy'r gorffenol Gan ddyddanu bach a mawr. Mountain Ash. E. M. einYLffdym/d^0lchgar 1 "K M-' am ffofio am Aflatl ,] l K I?manf^b" • -vn ei afiechyd. weyd ei bod yn flm iawn genym glywed am dano a pho medrai dymuniadau feddyginiaethu buasai "Ammanfab" yn rhvdd o'r ° bellach. Chwythed v gwyntoedd vn Jvn ben, a deued^eulwe/ofeu deg eTo chol adfer i tannaa leI. o'r Talfynydd.
PENNILLION
PENNILLION Ar 01 y diweddar Mr. Daniel Jones, Ynyscniw, Brechfa. Pan mao rhai yn son am fwynder Haf, a gobaith yn y tir, Cana ereill gerddi pryder Yn nhywyllwch oedfa our; Trwm yw hiraeth ardal Brechfa, Prudd yw aelwyd Ynyscniw Ar ol gadael yn y gladdfa Briod mwyn a chyfaill gwiw. Yr oedd harddliw flodau rhinwedd Yn addurno'i fywyd ef; Yn ei waith bu'n llawn brwdfrydedd, Gwaith y maes a gwaiffi y nef; Hael gymydog diddioheliion Dhvy ei oes fu Darnel mad, Yn ei gartref bu yn ffyddlin, Hoffua wr a thirion dad. Os bu farw'r Cristi'on hygar Pan ar drothwy deug-ain oed, Cofiwch chwithau, deulu galar, Na fu noa heb wawr erioed; Y mae Daniel fry yn rhodio Ar randiroedd bythol hedd, A claw boreu- i ddadguddi. Cyfrinachau dwys ei fedd. GALAEWB. —
!-'-■" I N HOREB. FELINGWM
I N HOREB. FELINGWM P^fODAsl— Boreu iMercher. yr lleg evfi.sot vr oedd mynydd Horeb yn llawn cyffro a bywiogrwydd drwytWo, o jierwydd dvma'r dydd a ddewiswyd gan xrrL T?1 Isaac- Plasnewydd, a Miss Hetty Evans, Clawddmawr, i anturio i "baradwys y priodi." Boreu bvthgofiadwy ydoedd ▼ boreu ,Yr oedd preswylwyr Horeb wedi cod"i gyda'r wawr (a rhai yn mhell oyn hyny) i arddangos e« parch au hedmygedd o'r par ieuanc mewn gwa- hanol ffyrdd. Torwyd ar hedd y wenfro gan ruad- au dibaid y cyflegrau, nes yr oedd yr holl gvmoedd yn diaspedain, a'r Hwynogod a'r cwning-od yn /fot yn eu dychryn i blanhigfa Penrhiwgoleu am nodded. Cynwysaj'r parti priodasol. heblaw » enwyd Mr. Charles Fletcher, Clawddmawr; Mis* Hannah Evans (ciiwaer y briodasferch), a Mr. Join' Taylor, o Penycoed, Bro Morganwg. Ymadawyd am Swyddfa r Cofreetrydd yn Llandeilo-fawr mcwJJ dau gerbyd. dan gawodydd o "rice," etc. V sicrhau y cwlwm yn ddiogel, dychwelwyd i PIa-8' newydd. lie, yn yr hwyr, v gwahoddasant ynghyd lu o ttryndiau a charedigion i gyfranogi o'r ariwy fra,, ac ei brofi blasi y "deisen briodasol." Euldunaf gyda'r llu bob bendith a hedd iddynt.
[No title]
As & Safe, Permanent, and Warranted Cure 'OT Psmples. Scrofula. Sourvy. Bad Legs, Skin Bloed Duea«es, and Sores of all kinds, wo oan confidence recommend CLARKE'S WORI^' FAMED BLOOD MIXTURE. Of Gbemisto ever1. i wxter*.
IPENBRYN
I PENBRYN MARWOLAJSTH.— Ar y 6fed o'r mis hwn, ar 01 'nir gystudd. ymadawodd a'r fuchedd hon y Cadben J. L-,wis Jones, Cwmrhaffe, yn 79 oed. Gwr cadarn oedd efe o ran ei ymddangosiad, a chadarn ei ewyllys. Bu yn llwyddianus iawn pan yn morwria. V na ymneillduodd, a thrigianodd yn y plwyf hwn. Yr oecld yn dirfeddianwr yn y plwyf. ac yn cad ei barchu yn fawr. Claddwvd ei weddillion yn nghladdfa Penmorfa dydd Mercher, yr lleg o'r mis. Gwasanaethwyd yn y ty ac yn y capel gan y Parch. Daniel Lewis, Penmorfa, ac ar Ian v bedd gan y Parch. Llewelyn Davies, Tanygroes. Gadawa dair merch mewn galar a hiraeth ar ei ol. Ei ferch ieuengaf yw y Dr. Edith A. Jones sydd yn swyddog iechydol o dan Bwyllgor Addysg Abeitawe.