Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

NODION 0 ABERGWILI.

News
Cite
Share

NODION 0 ABERGWILI. PABELL Y RECABIAID. Cyfarfyddodd aelodau y gymdeithas hon yn festri Ebenezer nos lau, y 3ydd cyfisol, gyda'r bwriad o anrhegu y Parch. V. Williams, y gweinidog, ar oi ymddiswyddiad o fod yn ysgrifenydd y gymdeithas. Cychwynwyd hon yma gan Mr. D. Evans, sef mab Mr Rees Evans, White Ox, yn awr, a llafuriodd yn galed am dair blynedd o amser er sicrhau ei llwyddiant dyfodol, yn rhad ac am ddim, a phan gorfodwyd ef i ymadael, trwy ddilyn ei orchwyl tymhorol i Abertawe, anrhegwyd ef ag "inkstand" am ei lafur caled d.dwylledd, a saif hyn heddyw hI gwarthnod ar y oyfryw am y fath iselhad i ItlentJn a anwyd ac a fa-gwyd yn y lie, ac ym- ddygir mewn cyffelyb fodd at ereill hefyd, ao nid iawn ydyw i grefyddwyr wneyd brenin o un a "beggar" o'r llall. Ond y noson yma cynhaliwyd gwledd o de a bara brith i'r holl aelodau, ac yr oedd y byrddau wedi eu gosod allan yn y fath oreu; yn arlwyo yr oedd Miss Richards, Cwmau Cottage; Mrs. Henton, Rose Villa; Mrs. Phillips, Felinwen; Mrs. Evans, Francis Villa; Miss Evans. Bodarddu; Miss Davies, Bwlch Bach, a Mrs. Davies, Parkside. Cafvryd y bara oddiwrth Misses Thomas, Bristol House, a'r nwyddau ereill oddiwrth Mrs. Lewis, Pantteg House; Miss Evans, Llwynteg House; Miss Harris, y Grocery; a Mrs. Davies, Albion House. Mwynhawyd y wledd gan bawb yn ardderchog, ac yn ganlynol cynhaLwyd cyfarfod adloniadol, dan lywyddiaeth Mr. Rees Thomas, Glangwili Farm, a obymerwyd rhan gan yr aelodau mewn canu, ad- rodd, barddoni a siarad, ac anrhegwyd Mr. Wil- liams a bathodyn a chadwyn aur gwerth 95, a ehydnabyddodd yr aelodau mewn araeth anrhyd- eddus am eu rhodd ragorol, ac yn ddiddadl yr oedd yn deilwng o honynt; yr oedd wedi bod yn ysgrif- enydd ffyddlon, amyneddgar, a gofalus am chwe' mlynedd o amser, ac ni wyr neb swm a maint y llafur a'r drafferth sydd ynglyn a hvnyma, oddi- gerth y rhai hyny sydd yn brofiadol o honi yn unig. Terfynwyd y cyfarfod mewn heddwch trwy (anu "Hen Wlad fy Nhadau." Rhowd cadwyn hir i'r cenad hedd,—o aur Y brodyr am rinwedd, Son bydd hon am hiliog sedd, Am noddau ao amynedd. PRIODAS. Dydd Mercher, y 26ain o'r mis olaf, yng Nghapel Bethania, Heol-y-Prior, Caerfyrddin, yr unwyd ynghyd gan y Parch. S. Evans, Cwmdwyfran, Mr. Charles Jackson Footman, Hafodwen, a Miss Cathe- rine Amy Dempster, Dolgwili. Rhoddwyd y briod- ferch i ffwrdd gcji ei brawd, Mr. T. Duncan Demp- ster; y gwas priodas oedd Mr. J. Thomas, Hafod- wen, a'r morwynion oeddent Misses Nellie D. Dempster, Marian D. Dempster, a Gladys D. Dempster. Aeth y par ifanc i dreulio eu mis mel i Gaerdydd a Bournemouth. Braf y bo'ch er eich cyfnewid,—drwy'ch taith Drachtiwch o'r addewid, Ffyddiog lam ffieiddia lid Ac allor ddaw a Ilawndid. MARWOLAETH. Dydd Mercher, yr ail ddydd cyfisol, bu farw Elwyn, sef unig blentyn Mr. a Mrs. John Owens, Barn Cottage, Castell Pigyn, yn ddwy flwydd oed. Dioddefodd gystudd caled oddiwrth ddolur yr ymen- ydd. Cymerodd ei gladdedigaeth le y Sadwrn can- lynol yn mynwent Peniel. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. D. Williams, Abergwlii. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu trallod. Er mor gu oedd Elwyn baoh Gan rieni tyner, Ffwrdd yr aeth i wlad sydd iach 0 bob poen a blinder; Diano wnaeth o'r byd heb fai A rhu y storom gref; Ni ddychwel mwy, cymhell niae Pob tad a mam i'r nef. CLADDEDIGAETH. Dydd Llun, y 31ain o'r mis olaf, daearwyd gweddillion marwol Mr. E. D. Thomas, sef mab Mr. a Mrs. D. Thomas, Home Cottage, Parkyricks, yn mynwent y Fam Eglwys yn Abergwili. Gwein- yddwyd gan y Parch. T. Thomas, y ficer, a'r Parch. D. J. Evans, y curad. Dioddefai oddiwrth wendid er ys rhai dyddiau, ond sydyn jawn bu ei aymudiad ao ni chadwodd ei wely ond y diwrnod olaf cyn ei farwolaetfc yn unig Yr iedd yn ddvn ieuano parchus ac o gymeriad da, ac ergyd drom i'r teulu oedd colli mab y ei ugeinfed flwyddyn. Cafodd angladd anrhydeddus; gwelwyd llawer o wynebau dieithr o Brynamman a lleoedd ereill. Y prif alarwyr oeddynt-Mr. a Mrs. Thomas (ei rieni); Mri. Edward a David Thomas (brodyr); Misses Gwen a Rachel Thomas (chwiorydd); Mr. D. Joseph, Cwmamman; Miss Alice Jenkins. Llandilo; Miss Jones, Typoeth, Llandyssul; y Rningyll P. Jones, Llandilo; Mr. E. Thomas, Treharris; Mrs. Morgan,. Newport; Miss Jones, Penrheol, Llan- pumsaint, a Mrs. Plummer, Swansea. Gwelwyd blodandyrch oddiwrth y teulu; ei1 gydweithwyr o Lofa Rhosamman, a gweithwyr Glofa Cwmteg; Mr. W. Thomas, Glynderwen, Brynamman; ei ffryndiau o Brynamman; Mrs. Thomas, Albion House, Caer- fyrddin; y Mri. Moses Rees a R. J. Thomas, Parky- ricks; ao un oddiwrth Alice. Eiddunwn nodded y nef dros y rhai sydd yn eu hiraeth. Myned fu raid ar fyrdra-o wealni I wledd engyl gwynfa; Ei haner dydd drodd yn ha', Ar fynor glain gorfola. DYDD PRAWF oedd dydd Llun diweddaf, y 7fed, yn Abergwili, ynghylch ethol gwarcheidwaid yn y plwyf. Yr ocdd tri o ymgeiswyr allan am ddwy sedd, sef Mr. Williams, Llwynpiod; Mr. Davies, Werndrefi, a Mr. Williams, Hengilucha. Y ddau flaenaf ydoedd yr hen gynrychiolwyr, ac yn sicr anhawdd ydoedd cael gwell tri ar y maes, a bu rhedegfa dwym rhyng- ddynt, a daethant allan fel y canlyn:- Mr. Williams, Llwynpiod (Eglwyswr) 175 Mr. Williams, Hengilucha (Annibynwr) 169 Mr. Davies, Werndrefi (Methodist) 126 Pleidiesiodd 310 o'r plwyfolion allan o 350, felly gwelir fod 150 wedi plwmpio, sef pleidleisio dros en yn unig, yn lie dros ddau. Yn cynrychioli v bwth ydoedd Mr. Saer. Caerfyrddin, a'r Athro T. Mad- dox. Cynrychioli yr ymgeiswyr ydoedd Mr. D. Davies, Uwch Gwili, a Mr. T. Davies, St. David's House. DYFFRYNOG.

.00 LLANSAWEL.

THE UP-TO-DATE HOUSEWIFE

ECZEMA TORTURES WERE ALMOST…

. EASTER VESTRIES

Advertising

LLITHIAU "TWM 'BARELS"

410 --.-----------BRYNAMMAN.

LLANSADWRN.

„ , , LLANFIHANGEL-AR-ARTH

-4p Y GOLOFN FAROOOL.

Advertising

BLWYDD-DAL YR HEN BOBOL.

go LLANDOVERY COLLEGE ATHLETIC…

CARMARTHEN COUNTY COURT.

BETTWS.

---LAMPETER TOWN COUNCIL.…