Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
GAIR AT II TWM 'BARELS."
GAIR AT II TWM 'BARELS." Mr. Gol.—Gan fy mod yn ddarllenwr o'r JOUR- NAL, ao wedi darllen llithiau Twm 'r dechreu, ao wedi cael pleser a mwynhad, y mae yn medru dweyd y gwir yn groew, ac yr wyf wedi cael ar ddeall, yn ei lith diweddaf, ei fod yn bwriadu talu ymweliad a Llandebie a'r cylch. Gobeithio y gwna Rhagluniaeth drefnu ei daitlh ii dd'od i fyTVv yn uwch gyda Glan Tywi tuag ardal Llanymdayfri. Mae yma hen bechodau fel mynyddau, ac eisieu dewrder dyn fel Twm i'w hargyhoeddi. Carwn weled Twm yn dyfod Ar ymweliad trwy ein gwlad; Mi rown iddo fwyd a Ilety. A rhyw beint y dydd yn rhad, Am nad yw yn pleidio dirwest, Cymedroldeb yw ei nod; Dvna'r dyn yr wyf yn chwenych, Dyna'r dyn sy'n haeddu clod. Wedi teithio diwrnod caled Trwy y gwynt, y gwres a'r gwlaw, Mae yn felus gwel'd ty tafarn D'od i'r golwg yn fan draw; I gad taflu pac i waered, A chael chat a thano pib. A dyferyn bach i'w yfed, Mae'n hwylysu'r daith il gyd. WM. PRICE.
GRYM Y CHWIP YN Y SET-FAWR.
GRYM Y CHWIP YN Y SET-FAWR. (Gan John Jones). Mae yn debyg, yn o yr hyn a glywsom ychydig ddyddiau yn ol, fod amryw o gapelau y gwahanol sectau lecsiwnyddol ac yspeiliol Ceredigion wedi oeisio ymddifouno ac ymy&gwyd yn ddiweddar i'r penderfvniad o ddefnyddio y chwip seiataidd ar gefn au yr aelodau hyny a droseddasant ddeddfau y set- fawr, neu y rhai hyny a dymunent gael mwynhau i raddau rywfaint o ryddid i feddwl drostynt eu hunain. Gwyr y rhai hyny, sydd yn talu sylw i gyfrifon blynyddol y gwahanol enwadau, fod Ym- neillduaeth fydol grefydd Cymru yn nychu i raddau bob blwyddyn, ond yn sicr, fel gallu i fagu a meifhrin enaid yr un dyn na menyw, crwtyn neu groten mewn gonestrwydd, geirwiredd neu unrhyw ganghen o'r vsbrydol; ond fel moddion dynol o'r oruchwyliaotSi neu "agency' i gryfhau penglogau mewn mympwyon a dychymygion parthed "poli- tics," egwyddorion anonest, bydolrwydd rhonc a •hyffrediViol, gellir edrych ami fel sefydliad pur adnabyddus a llwyddianus i arwain ei haelodau i'r certrefleoedd a barotodd hi iddynt i'w derbyn. Fel y mae yn wybyddus i ddarllenwyr y JOURNAL* y mae yn debyg i nifer o Ymneillduwyr gonest a chydwybodol i arwyddo y ddeiseb Eglwysig yn erbyn ei hyspeiliad. Pan ddeallodd y parchedigion pwlpudaidd a'r blaenoriaid pesychol hyn, fod rhai o'u cyd-aelodau yn erbyn yr ymgyrch ladronol o ymosod ar demlau Duw, ffrommasant yn aruthr yn eu herbvn, fel Herod gynt yn erbyn y doethion. Y canlyniad o hyn oedd dewis gwrywod a menywod, gwyr a gwragedd, i fynod allan ddydd a nos i hela a holi pwy a pha nifer oe-d y rhai a wrfch- ryfelasant yn erbyn rhybuddion bygythiol y set- fawr. Allan o'r saith capel a wyddom am danynt mewn cymydogaeth neillduol o gelwyddog ae anonc--t vn Sir Aberteifi fuwyd yn fTereta yn eu cylch yn y ffordd grefyddol hon. mae .ri o honynt wedi pender- fynu cynnal cyfarfodydd yn llechwraidd. a rhwng dau oleu er mwyn pwyso a mesur ffyddlondeb y flroseddwyr hyn i'w capeli yn y dyfodol. Os y cynnelir y cyfarfodydd hyn, fel y bygythir yn bresenol, gallwn sicrhau y ffromwyr dauwynebog hyn mai Belia! fydd yn bendithio a'r llvdanaf ei wenau ar ddiwedd neu derfyniad y seiatau gectyddol a ffugiol hyn. Pan wel y gwr a enwasom, sef Belial, eu ffyddlon weision yn ddiwyd a gweithgar yn ei winllanoedd. nid etc yw yr hwn a gwtoga ei gymeradwyaeth, ond nodda bob twyll a drygioni i awr y gwobrwyo. Gofynasom yr wythnos ddi- weddaf i Ymneiliduwr, ■ yr hwn oedd wedi arwyddo y ddeiseb Eglwysig yn erbyn y lladrono, pa bryd oedd yr "assizes" crefyddol i'w cadw yn ei gapel ef. a'i atebiad oedd nas gwvddai eto, ond pan ddeuai y diwrnod. ac os y byddai yno ormodedd o ffug-iol siarad, y rhoddai efe i rai o honynfl ddigon o achos i fyned ag ef i1 lys yr heddgeidwaid, y cyfle cyntaf a gawsent. Cyn ymadael cyfeiriodd at fater yr hyn a'n synodd. a drwg genym nas gallwn ei gof- nodi y tro hwn, yna cauodd un llygad, ac aeth ymaith a gwen dyn gonest a geirwir ar ei wyneb. Pa le v saif yr egwvddorion. yr athrawiaethau, a'r argyhoeddiadau y sonir cymmaint am danynt- yn nghvfarfodydd chwarterol a blynyddol y sectau bydol hyn yn mhresenoldeb y blys a'r vched a ddangosant am eiddo ereill. y ffyrnigedd wyllt a ddatguddir a'r erledieaeth ddidor a gcrir yn mlaen yn erbyn y rhai a wnant y goreu a allant dan yr amgylchiadau dros genadwri Duw at ddyn? Geilw y secffau YmneillduoJ a dwfn fydol eu capeb yn eg- lwvsi Cripiionogol, siaradant yn llithrig am eu temlau politicaidd fel y Saron hon a'r Soar acw ac ereill o'r un tarddi&d Beiblaidd. Yr oedd y Saronau yn yr amser gynt yn arwyddllln o wlad ffrwvth- lawn, ac o pglwys Crist, yn ffrwyfhlawn mewn gras a harddwch sancteiddrwydd. Pa le y mae ffrwyth- londer mewn gras, a harddwch sancteiddrwydd y Saronau lecsiwnyddol yn Nghymru i'w gweled heddyw? Nid oes fawr o harddwch sancteiddrwydd i'w weled yn y gwaith o yspeilio EJglwysi. nato chwaith yn yr olygfa o edrych ar fe.liod y pwlpud a'r set-fawr yn chwipio eu cyd-aelodau am wrth- wyrfebu lladrad a glynu wrth orchymynion v Beibl. Un o'r enwau priodol a allasem roddi ar sectau gwleidyddol Cymru yw crefydd neu broffes yr nnghysondeb. Mae yr enw neu y tfrm Saesnig o ''topsy-turvy" yn gymhysiadol i grefydd neu broffes y sectau. Gwelsom unwaith ddyn mewn chwareudy yn ceisio cerdded ar ei ddwylaw a'i draed i fyny, lie y dvlasai ei ben i fod, a'n edrychai yn annaturiol, ac yn anghyson iawn ag ef ei hun fel bod, yr hwn oedd wedi ei gynllunio a'i greu i gerdded a gwadnau pi draed ar v ddaear vn lie i fvnv vn yr awyr. Ad gofiodd hyn ni ar unwaith o anghysondeb y bolitic- aidd grefydd ar femydd GwaEa. Daw anghysondeb a I y broffes Ymneillduol i'r golwg mewn ffordd darawiadol ar adegau. Gwe'ir y parchedigion a'r blaenoriaid safnau agored yn teithio yn ddiwyd o gapel i gapel ar ran cymdeithasau, meddent) hwy, er mwvn danfon Beiblau allan i estroniaid a phaganiaid pell gyfandiroedd y byd. Ac er syndod i bob dyn ystyriol a phob cywir Gristion, pan ed- rychir ar wyneb arall i hanes gweithredoedd y rhagrithwyr hyn, gwelir mai hwy a'u cyfnesafiaid mewn danwynebaeth a hocediaeth ffug-grefydd oedd yr offerynau a lwyddasant i alltudio y Beibl o ysgolion ein gwlad. Dyma un o ffrwythau y bolitic- aidd grefydd, yr hon sydd wedi dirywio cymaint o eneidiau ei thr:golion trwy eu tnvyllo, fod v celwydd yn gymeradwy a'r lledrad o nefol darddiad. Mae yn amlwg nad oes dim yn is yn y byd hwn na'r ffordd yr ymarferir egwyddorion y sectau gan ddringwyr y pwlpudau a thenantia:d diegwyddor y set-fawr. Dysgyblu eu cyd-aelodau am fwynhau eu rhyddid, a'u penydio am na redent mewn ufudd-dod wrth gynffonau yspeilgar. Da genym gael y cyfle i gyffesu ein diolchgarwch fod rhif y lecsiwnyddol grefyddwyr ar eu lleihad yn Nghymru. Yn nghyfrifon y gwahanol sectau bydol hyn, cawn fod y lleihad yn filoedd lawer. ac o ganlyniad dwfn yw yr ochenoidio a glywir yn nhemlau yr anghysondeb a'r lladrad. Gwneir ym- drechion neillduol bob "blwyddyn i gynyddu a mawr- hau rhif y gwahanol gynulliadau, ond lleihau wnant. Awgrymodd cyfaill wrthym ddoe mai yr unig fodd- ion i gynnyddu rhif y politicaidd grefyddwyr yn Sir Aberteifi oedd gofyn i Proffeswr Levi, Aberystwyth, i'w cyfrif drosodd ddwywaith neu dair, ac wedy n y byddai y cynnydd yn syndod i bob Cardi. Enwodd ein cyfaill y bar-gyfreithiwr Levi, am y credai fod Haw ganddo yn yr vstadegau a ddanfonwyd i'r Ddirprwyaeth Eglwysig pan gafwyd allan yn fuan ar ol hyny fod dros chwe' mil o blant; y capelai ar lawr yn y cyfrifon yn fwy nag a anwyd yn y sir oddi ar adeg glaniad y Ffrancod yn Abergwaun. Pa aelod bynag a amheu gywirdeb ystadegau blynyddol sectau yr anghysondeb, daw ar unwaith mor atgas gan griw y set-fawr ag yw y gwir:onedd gan rag- rithwyr anwireddus. Nid oes euro ar ddichellion ac anghysondeb y rhagrithwyr a eisteddant o flaen y pwlpud. Yn y tymor yr alltudiwyd y Beibl o'r ysgolion dyddiol, rhagrithwyr set-fawr, crefydd yr anghysondeb, oedd y ffyrnicaf yn chwipio i'w gael allan. Mae di-Feibl- aeth yn cydfyned yn wel lag egwyddorion capeli y lladrad a'r celwydd, am fod darlleniad dyddiol o'r Ysgrythyr yn rhwystr i'w llwyddiant. Dyddorol dros ben oedd genym ddeall fod y Brenin George lpre-senol yn darllen pennod o'r Beibl bob dydd. Mae yn debyg i'w fam ei gynghori i wneyd hyny er yn blentvn. Gwahanol i famau a rhieni' plant Sir Aberteifi, pa raL a waeddasant am flynyddau am ddileu presenoldeb y Beibl o'r ysgolion rhag ofn i'w plant i ddyfod yn hoff o hono. Maent yn ddigon estronol iddo heddyw, y byd a wyr. Ffnvyfch addysg y boliticaidd grefydd a dylanwad chwip y set-fawr a lecsiwnyddiaeth y pwlpud. Crefydd salw iawn yw orefydd yr anghysondeb yn Nghymru. Cawn ar ddeall y cynhelir yn fuan. mewn pentref gwledig yn ir Aberteifi, gyfarfod cystadleuol, ac un o'r testyn- au yw, wyth pennill i'r "Dadwddolwr," a chan fod y person hwn yn bur adnabyddus yn Ngheredig- ion, yr ydym wedi cwblhau yr wyth pennill a'u danfon i mewn. Er mwyn rhai o ffryndiau'r JOUR- NAL, wele y pennill cyntaf- Mae hwn yn ddyn a thalcen fflat, A'i ruddiau'n goch a glas. Ei wallt a saif yn syth i'r Ian. Fel blaenor heb gael gras: Meddianol yw ar enaid main. A chylla cryf a bras. A'r darlun goreu fu erioed 0 flaenor heb gael gras. -0.
EISTEDDFOD GADEIRIOL PENYBONT,…
EISTEDDFOD GADEIRIOL PENYBONT, TRELECH. Dymunwn dynu sylw ein darllenwyr at yr Eis teddfod Gadeiriol uchod, a gynhelir ddydd lau, Mawrth 27ain. Cynhelir yr eisteddfod mewn maes- pabell ("marquee") a ddal o fil i bymtheg cant o bobl, ao mae'r Pwyllgor wedi penderfynu gwerthu bwydydd yn vstafell feetri yr Eglwys, gerliaw pabell yr eisteddfod, am brisoedd rhesymol iawn. Deall- wn fod yr "entries'' yn dda dros ben. Nid oes eisieu dwyed dim am arweinydd yr eisteddfod, sef y Parch. Eynon Hughes, ficer parchus Trelech, am ei fod yn cael ei gydnabod gyda'r goreu yn Nghymru fel ar- weinydd. Bu bron cael ei ethol fel arweinydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddiwedd ar. Yr y'm wedi cael arddeall oddiwrth bwyllgorau Ei-teddfodau Cadeiriol L'angeler ao Abornant (Cynwil) fod y Parch Eynon Hughes wedi rhoddi boddlonrwydd i bawb. Yn awr, chwi wyr y gan. plant yr awen a'r ad roddiadau. a gwneuthurwyr "prize bags." ewch i Eisteddfod Penybont, Trelech, ar y 27ain o'r mis hwn wrth y miloedd. Cewch pob chwareu teg, am fod beinuaid o fri wedi eu dethol gan y Pwyllgor.
YSTORI, SEILIEDIG AR FFAITH.
YSTORI, SEILIEDIG AR FFAITH. DLJW YN YMWELED AM ANWIREDDAU'R TADAU AR Y PLANT. (Buddngol yn Eisteddfod Felindre, Calan, 1910). (Parhad). Tarawyd Hopkin a mudandod dros ychydig, ond pan adferwyd ei barabl, dywedodd, "Nellie anwyl, y-r ydych wedi fy nghlwyfo i'r byw. Hen arferiad nas gellir ei) gymeradwyo yw yr un a nodasoch y mae wedi bod yn fagl i mi droion; a gwaeth na'r oil, y mae Tom wedi syrthio yn aberth i'r hen arferiad trwy ddylanwad esiampl ei dad. Maddeued y nefoedd i mi am y fath gamgymeriad. Gobeithio y cynorthwywch fi yfory il egluro i Tom y canlyn- iadau ofnadwy sydd yn dilyn yr arferiad o diota." Nid oedd Simon wedi gwyro cam erioed oddi ar lwvbrau sobrwydd, a thystiai ei fochau cochion iachus mai ei ddiod ef oedd maidd ac enwyn. Dygai fawr sel dros grefydd y Fam Eglwys er yn fachgen, ac nid oedd dim a'i cynhyrfai yn waeth na gwawdwyr crefydd ei fam. Pan oedd Simon ar derfyn ei seithfed flwyddyn o'i wasanaeth yn Pen- graig, daeth damwain ddisymwth i.'w feistr, a bu farw mewn canlyniad, gan adael gyfoeth i Mari, ei unig ferch. Yr oedd Simon trwy ei ddiwydrwydd wedi dyfod yn ffafr-ddyn gyda Mari. ac wedi ei gade.el ill dau yn y lie wrthynt eu huna;n chwydd- odd yr anwyldeb. a gwelwyd ef yn fuan ag awenau llywodraeth Pengraig vn ei law, ac yn briod ffvdd- lawn i Mari. Parod ffawd dda Simon i'w frawd Tom i edrych allan am gydmares, a syrthiodd ei serch yn fuan ar ferch Phil y Felin, a gwnaeth ei feddwl i fyny un diwrnod i''w chymeryd yn eiddo iddo ei hun gan bob amgylchiadau. er gwell ac er gwaeth hyd angeu. Wedi treulio blynyddoedd yn Melin Phil, penderfynodd godi melin arall mewn man ag y tvbiai ef oedd yn fwy manteisiol; ac wedi ei gorphen symudodd iddi heb ymdroi. a galwodd hi yn Felin Newydd. Cymerwyd Melin Phil gan Thomas Harries, o Pentrecwrt, ac er siom i Tom, dewiigodd yr amaethwvr lvnu wrth yr hen felin yn hyttrach na dilyn y melinvdd i'r un newydd. Yr oedd Ester ei chwaer erbyn hyn (unig ferch Hopkin Hugh) wedi e:f huno mewn glan briodas ( a hyny yn hollol groes i'w rhieni) ag un Thomas Jones, yr hwn a adnabyddid gan bawb fel Twm Celwydd Goleu. Gwehvdd oedd Twm wrth ei alwedigaeth, ond yr oedd yn well ganddo i lanw yr enw oedd wedi enill iddo ei hun na dilyn ei alwedigaeth. Yn awr yr oedd Hopkin a Nellie wedi eu gadael wrth eu hunain, y pren almon yn dechreu blodeuo, a beichiau bywyd yn anhawdd eu dwvn. Llawenych- ent yn fawr am y sefyllfa ddymunol oedd Twm a Simon wedi gyrhaedd; ond gofidient am anffawd Ester. Addt-fai Nellie, gyda graddau helaeth o brvder, fod yn well ganddi lymeitiwr na diogyn, am fod gobaith am rvwbeth weithiau oddiwrtfh y blaenaf, ond am yr olaf nxl oedd gobaith am ddim oddiwrtho. Pe bai Ester wedi rhoi gwrandawiad i'w thad a minau, ni fuasai wedi tynu barn ar ei phen mor fuan. Tywydd caled gafodd Ester, ac oni bai am garedigrwydd ei brodvr, buasai h. a'r planfr wedi myned yn aberth i' dlodi a newyn. Cawsai gardod lied dda o wenith gan Simon ami i dro,ac elai ag ef i'r felin at Twm, ac ar bwys caredigrwydd y brodyr yr oedd yr oedd Twm yn cael chwareu teb i borthi ei ddiogi. Yn ngwyneb y caredigrwydd, yr oedd Twm ar ei oreu i gynllunio pa fodd i ad-dalu caredigrwydd y brodyr, ond Ihvvddodd o'r diwedd i lunio un o'r ystrywiau mwyaf ellyllol o ran ei natur a allai neb ar enw dyn wneyd. Yr oedd ofteiriad ieuanc wedi dyfod i ofalu am Eglwys y plwyf o dan v person- dyn sengl ydoedd, ac am hyny wedi dyfod a'i chwaer gydag ef i gadw cartref iddo. wedi bod v-ma am flwyddyn. a phrofi ei hun yn ofalus am ei char- trcf. Caniataodd ei brawd iddi ychydig wythnocau o seibiant i ymwcled a'i pherthynasau yn hen ardal ei genedigaeth, ac o dan yr amgylchiadau yr oedd yn rhaid iddo edrych am letty hyd nes y dychwelai. Teimlai gryn anhawsder i gael lletity, am fod tai mor brin yn y cylch. Penderfynodd ofyn i Thomas Harries, Melin Phil. ean fod y '1} yn gyfleus jddo; cafodd atebiad buan nad oeddent yn ystyried y tv yn ddigon da i ddyn o'i safle ef i aros, "ond oes ydych chwi yn ei we!ed (meddent), mae croeczo calon i chwi1 i aros gyda ni." "Diolch." ebe Mr Jones, "bydd fy chwaer yn myned tua wythnos o heddy-w." "O'r goreu," ebai Mrs. Harries, "bydd pobpeth yn barod erbyn hyny." Yr oedd Twm, j. Ester, wrthi er ys taim yn ceisio dylan>v.-idu amaethwyr i fyned a'u cynosau at Tom, ei i. d-yn-nghyfraith, i'r Felin newydd, a chredai o eallai lwvddo trwv rvw gastiau, v buasai hyny yn rhoi boddlonrwydd i Tom, ac y derbvniai yntau ae Etpr y caredigrwydd arferol oddiar ei law. Syrth- iodd ar gynllun nas gallai neb ond un wedi ei lwyr feddianu gan dad y celwydd feddwl t m dano; mynegodd ef yn gyntaf mewn -no J ddamegol, ond nid oedd y bobl yn ei ddeall; yna magodd ddigon o hyfdra i ddwevd yn eglur wrth rai o'i gyfeillion, "fod cysylltiadau anghyfreithlawn yn myned yn mlaen rhwng Mr Jones yr on' 'u) id a Mrs. Harries, Melin Phil. Dechreuodd y son ledaenu drwy y gymydogaeth. a'r canlyniad f i i wragedd drwgdybus yr amaethwyr i rwystro -u gwyr i fyned i falu i Felin Phil. Yn mhen ychydig amser mynegwyd y pcth i Mr. Jones, ac yntau heb ymgynghori a chig a gwaed, a fynegodd i Thomas Harries a'i briod. Penderfvnasant yn ddiymdroi i olrhain y peth yn ol i'w gvchwyniad. Wedi cerdded a holi am ddiwrnodau daethant o'r diwedd ag ef i dy Simon, brawd-yn-nghyfraith i Twm Celwydd Goleu. Pan ofvnwyd i Mari, gwraig Simon, pwy oedd wedi ei hysbysu, ffromodd yn ddirfawr, a dy- wedodd nad oedd hi yn edrych ar offeiriad y plwyf yn ddim amgen na chardotyn. "Wel," cbai Mr. Jones yn dawel, "mae yn deg i offpiriad a char- dotyn i gael y gwirionedd oddiar law eu cyd-ddyn- ion, ac oni wnewch ateb yr hyn a ofynwyd i chwi, cewch fod yn euog o lunio y chwedl fryntaf, a mwyaf disail a fu yn y gymydogaeth er'oed." Er i Mari wrthod glanhau ei hun, gwyddai pawb i fodd- lonrwydd pa le yr oedd wedi cael ei llunio, am fod delw yr awdwr arni, ac ar gais dynion o safle yn y gymydogaeth, gollyngodd Mr. Jones bob pelill i farw. Yr oedd Hopkin a Nelli yn awr wedi croesi llinell yr addewid, a'u traed megis yn hesg yr afon yn disgwvl galwad i groesi. Wrth noswylio y ddau bererin, yr oedd y bobl yn son am yr hyn a ddig- wyddodd. Ysgydwai Nellie ei phen, gan ddweyd, "Ni ddiangant rhag barn yr Arglwvdd." Croesodd y ddau yn fuan wedi hyn ar yr un dydd, fel yr awgrymodd yr offeiriad ar ddiwrnod eu priodas. Claddwyd hwy yr un dydd, yn yr un beddrod; ao ar y gareg a ddinoda fangre eu gorphwysfa y ceir y geiriau canlynol:—"Buont lawen a hyfryd yn eu bywyd. ac yn eu marwolaeth ni wahanwyd hwynt." Treuliodd Mr. Jones flynyddau lawer wedi hyn i genhadu dros ei Dduw yn Eglwys y plwyf, ac yn ystod ei arosiad nid oedd neb a barchid yn fwy, na neb a edmygid yn helaethach; enilodd iddo e:1 hun enw nas gall ystrywiau dichellgar dynion ei niweidio. Daeth gwr ieuanc o Aberystwyth, yr hwn wedi bod yn cyd-fyfyrio a Mr. Jones, i dreulio gwyh'au y Nadolig atio, a'r canlyniad fu iddo syrthio mewn cariad a'i chwaer, a thyngodd lw o ffvddlondeb iddi. Gwelodd Mr. Jones fod yn rhaid iddo wneyd rhyw gam tuag at wneyd cartref bellach, a rhoddodd ystyriaeth ddwys i'r mater. Yr oedd eisioes ar dir cyfeillgar iawn a Bessie, merch hynaf Simon a Mari Pengraig, yr hon oedd yr vsgolfeistres yn Ysgoldy Cenedlaethol y plwyf. Geneth landeg oedd Bessie; sirioldeb wedi gorseddu ar ei gwvneb, a'i hysbryd llednais wedi ei eneinio ag hvnawsedd gwyryf. Nid oedd cwmni anwylach ganddo i dreulio ei oriau hamddenol, a theimlai fod awr o gvmdeithas hon yn adlonianti iddo yn ol gadael ei ystafell fyfyriol. Cyn hir chwyddodd y cvfeillgarwch, a thorodd serch dros y ceulanau, a theimlai ei hun yn ami fel yn feddw ar win dyddanwch ei hymadroddion, fel nad oedd dim a'i boddlonai heb ei chael law a chalon yn eiddo iddo, a gwelwyd y ddau ar ol hyn yn gosod y fodrwy yn "sel o'u serch," ac yn ymgrymu yn wylaidd gerbron allor hymen. Mawr y llawenydd a'r gorfoledd oed dgan Simon a Mari, am fod y ferch wedi 'matsho' mor dda— cael offeiriad y plwyf yn briod. Mor rhyfedd ydyw ffyrdd yr lor. Gwrthodwyd gan un roi Haw o gymhorth i'r dieuog i lanhau ei hun, pan oedd Haw dichell yn ceisio ei bardduo; ond goruwchreol- odd yr Holl Ddoeth i ferch y cyfryw un i fod yn syfranog o'r gwarthrudd, fel nas gall eu llawenydd oblegid hyn fod neb nodau tristwoh nac anthem ei gorfoledd fod heb ei seiniau aflafar. A phe buasai Hopkin a Nellie yn fyw yr adcg hono, ni raid iddynfl betruso am foment, nad ymweliad neillduol Duw am anwireddau y tadau ar y plant oedd wrth wraidd y cysyllthiad priodasol hwn. JAMES LEWIS. Dugoed, Castellnewydd-Emlyn.
HWNT AC YMA.
HWNT AC YMA. At Olygydd y CARMARTHEN JOURNAL." Syr,—Blin gan luaws darllenwyr y JOURNAL fydd clywed bod awdwr talentog yr ysgrifau doniol tan y penawd uchod yn glaf yn ei wely er ys mwy na phythefnos, ond da genym, drwy ffyddlondeb y meddyg inedrus, Dr. Lloyd, Llandeilo, bod arwydd- ion ffafriol am wellhad. Bum uwchben ei wely y boreu Invn, a Hon oeilclcm weled y wen siriol yn dychwelvd, ac ambell i ymadrodd ffraethbert yn dyfcru allan, fel y dvddiau cynt. Eiddunwn iddo wellhad buan a llwyr, a hyn hefvd yw dymuniad calon y lluaws.—Yr eiddoch, etc., CYMYDOG. I [Da genym glywed am ein gohebydd parchus.— Y GOL.] |
NODION 0 ABERGWILI.
NODION 0 ABERGWILI. YR EISTEDDFOD GADEIRIOL. Dydd Mawrth, y 6fed cyfisol, cymerodd y dydd pwysig uchod le yn yr Ysgol Genedlaethol, pa un a ganiatawyd i bwyllgor Eisteddfod Ebenezer gan y Parch. T. Thomas, y ficer, ac y mae y Ficei parchus wedi ymddwyn fel gwir Gristion tuag at yr Annibynwyr trwy roddi benthyg yr ysgol er gwneyd elw tuag at godi capel newydd. Y mae wedi talu da am ddrwg. Y mae Abergwili yn un o'r lleoedd goreu i gynal eisteddfodau, heb law ei fod fel He canolog oyfleus; y mae yma ddynion serchog, glan, cariadus, ac yn thlu fwy o barch il alltud nag i'w plant eu hunain; doed y dieithr yn ddu neu yn goch, yn ddwl neu'n gythraul, efe yw'r dyn. Y mae yn lie hynod iawn felly ant wyrthiau, ac nid troi'r dwr yn win yw eu hunig wyrth, ond troant yr asenod yn brophwydi; ond rhyw ddydd rhyfedd oedd hwn yn eu hanes, yn enwcdig y can- torion; darfu i'r dieithriaid droi llawer o honynt hwy y tro yma yn asenod, a phendrwmu y maent hyd y dydd hwn dan bwys eu clustiau mawrion. ac y maent wedi magu swch a phar o wepau mawr- ion, yn debyg iawn i waedgL yr Arolygwr Long Price, a thebyg iawn y byddant yn ail ffroeni "Dyffrynog" am hyn eto. Fe ddaeth tyrfaoedd ynghyd, nes yr oedd y lie yn liawn. Credwn fod y clod mwyaf yn ddyledus i'r ysgrifenydd gwych, sef Mr. T. Evans, Brynhyfryd-terrace. Y mae yn meddu ar lais a dawn, fel y mae yn medru hudo o bell ac agos. Gwnaeth Mr. Thomas, Ty y Coleg, yn rhagorol fel cadeirydd y pwyllgor, a'i rodd aruchel o gadair dderw hardd i'r prydydd goreu. Y llywydd oedd Mr. Rees Davies, adeiladydd, Caerfyrddin, yr oedd yn Ilawn cystal a'r enwog Gilsby Jones. Y cadeiryddion oeddynt Mr. J. T. M. Harris, Towy Works, y prydnawn, a Dr. D. D. Harris, Y.H., yn yr hwyr. Y beirniaid oeddynt— y canu, Mr W. J. Edmunds, F.T.S.C., Merfchyr; amrywiaeth, v Parch. Dvfnallt Owen; cushion covers, Mrs. Williams, Rosendale. Gwnaeth pob un o honynt eu gwaitfh gyda chyfiawnder ac an- rhydedd. Cyfeiliwyd yn ddeheuig gan Miss L. Mathias, College House, Caerfyrddin, yn y pryd- nawn. a'r hwyr gan Miss May Mathews, Cert. R.A.M. Wele restr o'r buddugwyr:—Unawd i fechgyn dan 15 oed, "Mor dda yw'r Iesu": 1, Brinley H. Jones, 21, Avenue, Carmarthen; 2, T. D. Morgan. Penpolion. Adroddiad i blant dan 10 oed, Salm 67: 1, T. Jones, Penpolion; 2 a 3, rhwng S. J. Jones, Lloyd's-terrace, a May Scurlock. Black Bush. Unawd i ferched dan 15 oed: 1, Miss Jessio Evans, Glancothi Lodge, Nantgaredig; 2, rhwng Mabel Jones, Derw Mvrddin, a M. M. Evans. Pen- rheol, Johnstown. Adroddiad i fechgyn dan 15 oed, i uiocn uan i, lom JJ. Morgan, PenpolIon. Unawd i blant dan 10 oed, "Mae d'eisiau Di bob awr": 1. L. M. Thomas, Westfa, Nantgaredig; 2, rhwng Meta Jones a Eddie Jones, brawd a chwaer o Felinwen. Adroddiad i ferched dan 15 oed, "Pruddgan": 1, M. Evans, Penrheol, Johnstown; 2, rhwng R. H. Davies, St. David's House, Aber- gwili, a J. Bowen, Pantyglien. Pedwar llais un- seiniol i blant 16 oed, "Rhyfelgan Cadben Morgan" 1, Plant Peniel, dan arweiniad Miss Mathias, Col- lege House. Carmarthen. Am y cushion cover goreu: 1, Miss Evans, Tanrallt, Nantgaredig. Am y cor plant goreu, "Awn yn mlaen dan ganu": 1, Johnstown Juvenile Choir, dan arweiniad Mr. T. Davies, Glanyrafon. Unawd soprano, "Gwlad y Bryniau"; 1, Miss Lilian Vaughan. Glanamman. Adroddiad agored i bawb, "Y Ffoadur": 1, (Cwpan arian), Mr. D. Coedfab Davies, Gorslas, Llandebie (18 o gystadleuwyr). Unawd i rai heb enill 5s. o'r blaen (soprano neu tenor), "Neges y Blodeuyn": 1, rhwng Miss L. M. Evans, Merlin's Grove, Felin- wen, ac E. J.Rees, Gorslas. Unawd bass. "Breu- ddwyd y Morwr bach": 1, Mr. J. Thomas. 49, Priory-street, Carmarthen. Unawd tenor, "Star of Bethlehem": 1, Mr. J. Fairfield Evans, St. Clears. Champion solo, unrhyw unawd a llais: 1. Madam Hall Williams, Pontveates. Pedwarawd agored o hunan ddewisiad: 1, Miss Maud Evans and friends, Llandebie. Y brif ddarn, W\ Gwlithyn": Heol Awst, Caerfyrddin, dan arwciniad Mr. W. Jones. Am y bryddest oreu ar y "Dyngarwr." dim dan 150 na illlros 200 o linellau. Gwobr, cadair dderw hardd gwerth JB3 3s. Daeth i law un-ar-ddeg o I brydd estau gwych, a beirdd o bell yr oeddynt oil, oddigerth y buddugol. "Calon Ysig' oedd y goreu, sef Mr. Rowland Evans, myfvr;,wr yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin. a chadeiriwyd ef yn ol dull a defod beirdd Ynys Prydain. Blin genym na fyddwn yn bresenol i uno a beirdd y llwvfan yn anerch y bardd cadeiriol. ond treiwn yma beth bynag:— Rowland Evans, ar lan 'da'r ser,—"Dyfnallt'' Alltudiodd ei isder, Rhoddi y mae heddyw her Yn nerw "Ebenezer." Rhoddwn feirniadaeth "Dyfnallt" ar y pryddestau oil yn y golofn hon yr wyfhnos nesaf yn llawn, dan y "Nodion o Abergwili," felly fe adawn ein nodion allan er mwyn gwneyd cyfiawnder a "Dyfn- allt" a'r beirdd aflwyddianus, a diolchwn i'r Parch. Dyfnallt Owen am ei waith odidog yn ystod y dydd. Bu ei gwmpeini yn hynod adeiladol. Y mae diolch- garwch yn ddyledus hefyd i'r rhai a roddodd y gwobrwyon, ac i'r Parch. T. Thomas am fenthyg yr adeilad, i Mrs. Thomas, ironmonger, Hall- street, Carmarthen, am fenthyg cadeririau; i'p pwyllgor am gydweithrediad, i'r Parch. D. Wil- liams am drefnusrwydd, i'r beirniaid am gyfiawnder, i'r eglwys am ddarparu bwyd am bris isel i'r diJ eithriaid; i'r gwragedd a'r merched a fu mor gar- edig yn gweini; i Mr. T. Davies, y cyn-station- master, am ei ddiwydrwydd gyda'r tocynau; i'r ymwelwyr a'r cantorion o bob parth o'r wlad, ao i'r cyfeilyddesau, a rhwng y cyfan credir y bydd llogell y trysorydd, Mr. Griffiths, Penygraig, yn drwm, a llyfrau yr ysgrifenydd yn llawn. CINDERELLA." Cymmer yr uchod le yn ysgol ddyddiol y lie hwn ar y 24ain a'r 25ain cyfisol. sef nos Lun Pasg a'r nos Fawrth ganlynol. Perfformiad yw hwn eto gan blant yr ysgol ddyddiol, dan gyfarwyddid Mr. Maddox, ac nid oes eisiau dweyd rhagor, oblegid nid da iawn yw pethau o dan law Mr. Maddox, ond ardderchog yn wir; felly dewch gael gweledig- aeth newydd arall. CLADDEDIGAETH. Bu farw baban bychan Mr. a Mrs. John Lewis, Parkyseiri Cottage, yn naw mis oed, dydd Ian, y 6fed cyfisol. Daearwyd ei weddillion nawn dydd Sadwrn canlynol yn hen Eglwys y plwyf, Aber- gwili. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. D. J. Evans, y curad. Dihangodd ar ofidiau A llawer gelyn du, Maddeuant nid oedd eisieu Dan bechod ef ni fu; Negesydd yw pob baban Llefara er yn fud, I'r rhain rhodd Iesu gusan Eu derbyn mae o hyd. YR ARDDANGOSFA BLODAU Cyfarfvddodd y Pwyllgor uchod nos Sadwrn di- weddaf, yr 8fed, dan nawdd Mr. Williams, Llwyn. piod. Wedi derbyn y cofnodion, hysbysodd yr y" grifenyddion, Mri. Lewis a Dempster, fod yn ofynol darparu ar gyfer eu cronfa, gan fod gwobrwvon wedi cael eu hychwanegu a'r dosbarthiadau wedi lhiosogl fel na fo i'r pwyllgor fyned yn fethdalwyr; felly trefnwyd fod pob aelod sydd a'u henwau ar dudalen gyntaf o'r rhaglen i gael llyfrau er myned allan i gasglu, a rhoddir coron o wobr i'r hwn a gasglo fwyaf, ao nid oes hawl gan neb i fyned at y noddwyr ("patrons"); yr ysgrifenyddion yn unig sydd i ym- weled a hwynt. Dewiswyd hefyd feirniaid cymwys i'r hot! adranau, a phcnderfynwyd cynal cystadleu- aeth saethu fel arfer, a dewiswyd Mr. Tom Roberts yn ysgrifenydd i'r pwyl'gor hwn. Penderfynwyd hefyd i gynhal cyngherdd yn yr hwyr am r,aith o'r gloch yn gefnogaeth i'r aehos, a dymunir ar gantor- ion y cylch i gymeryd rhan. Addawodd Mr. Maddox gefnogaeth gref gyda'r plant, yr hyn a dderbyniwyd gyda Ilawenydd. Syrthiodd hefyd v cylohdro i giniawa'r beirniaid ar Mrs. Jone^, y Coffee House.
Advertising
LOANS. R5 to £500 ADVANCED promptly and privately on your written promise to pay. Repayments by easy instal- ments to suit your income. For agreed periods- £ 5 repay R6 950 repay P,55 £10 ,,£11 EIOO zlio Y,20 „ A22 £ 200 „ £ 220 SPECIAL TERMS TO FPTRMERS & PROFESSIONAL MEN. No Charge unless business completed Immediate attention given to in- quiries by Post, 'Phone or personally, and strictest privacy assured. GEO. FRY & Co. 11, Dynevor Place, SWANSEA. Pljone 361, Docks. Ur\der flew Managemen
- PREGETHWYR,
PREGETHWYR, SEF BLACKS Y COUNTY COUNCIL. Gwybydded yr Etholwyr mai nid Blues na Reds yw y pregthwyr geisiant sedd, ond "Blacks" ydynt, plaid newydd y tywyllwch. Yn Rwssia gelwir pre- gethwyr sydd yn parchu eu swydd heb ymyraeth a phethau gwladol a bydol yn "Whites," a'r pre- gethwyr sy'n ymyraeth a phethau bydol yn "Blacks;" ni welir y "whites' ond yn eu "study" yn myfyrio, neu yn yr eglwys yn addoli, neu yn ym- weled a'r tlawd a'r claf, ond y gwelir y "blacks," fel pregethwyr ein County Councils, yn y ffeiriau a'r niarchnadoedd, ac yn mhob man ond lie dylent fod. Duo y nef a dallu y bobl wna eu gweinidogaeth, am fod duw y byd hwn wedi eu dallu hwy eu hunain a'u dirymu i nerthoedd y byd a ddaw. Gyda'r Insurance, mawr fri sydd ar siop y Drug- gis.. ond ofer ceisio mel ganddo mewn potel y bydd "poison" yn argraffedig ami. Felly ofer dysgwyl am oleuni yr efengyl wen gan bregethwr wedi cael yr enw "County Consillor." "Black" yw y pwlpud, a "blacks" yw y bobl wirion sydd yn ei gynal. Gwr crefyddol ar y County Council a ddywedai yn ddiweddar, "y lie mwyaf bydol a ohynenllyd yw y County Council, cyndyn ddadleu dynion pengam am ffynhonau, a ffosydd, a chwterydd, a phontydd, a phob soddion daiarol. Y peth a'm syna yw, fod gweinidogion yr efengyll yn gallu cymeryd rhan yn y fath waith, neu aros mynud yn y fath gwmni; ond hwy yw y rhai mwyaf ymyrgar. Pa fodd y maent yn gallu myned o'r fath le i'r pwlpud; ond nid yw eu gweinidogaeth yn werth ei gwrando Dyna p'am y mae y capelau mor ddilewyrch, y bobl ieuainc mor ysgafn, y cyrddau gweddi yn marw, chyrddau cellweirus sy'n halogi yr addoldai. Pe cawn fy ffordd, buaswn yn troi y pregthwyr hyn oil at y gaib a'r rhaw. Phonograff Mammon yw y pwlpudau hyn, ao nid udgorn Duw. Ceir hanes am yr eglwys yn adeg ei chariad cyntaf, pan fyddai pregethwr yn gadael ei waith o weddio a myfyrio y Gair, a myned ar ol pethau gwladol a bydol. Torrid ei fedd, ac yntau yn fyw o ran y corff. Cyhoeddid ei angladd, a chodid carreg fedd ar y fan lie y dylai fod yn gor- wedd yn fwyd i bryfed. Pe gwnelai capelau y sir- oedd hyn a phregethwyr y County Council, dyna ddiwygiad crefyddol fuasai hyny nad oedd mwstwr Evan Roberts ond gwp-gi ato. Anhawdd meddwl am ddirywiad mwy truenus, na dyn ar enw gweini- dog y Duw Goruchaf, yn trachwantu sedd ar y Cynghor sydd yn ymwneyd a phethau isaf y sir. Napier o Merchiston ddyfeisiodd y "Logarithms" er mwyn cael allan heidiau afluniaidd, a niferoedd y bwystfilod y sonia Daniel a'r Datiguddiad am danynt, ond pwy fedr ddarganfod mesurau i gael allan hyd a lied, a lluniau enaid du y pregethwr all fod yn County Councillor! Pa un ai y pregeth- wyr hyn, neu offeiriaid yr Eglwys Esgobol, sydd yn dra cysegredig i'w swydd, ao yn cadw yr Eg- Iwysi yn gysegredig i addoli, sydd debycaf i Grist a'i Apostolion? A ellir dychmygu am Iesu Grist, Paul, a Pedr ac loan yn myned i "ganvassio' am sedd ar Gynghorau Rhufain, ao yn treulio eu ham- ser ewerthfawr i ddadleu pa fath gerrig roddid ar yr "Appiau Way," faint o drethoedd ar ffermwyr Itali, a phethau tebyg. Teg fuasai eu cyfrif vn ym- yrwyr haerllug, a methiant gwarthus fuasai eu hapostoliaeth. A methiant gwarthus yw gweini- dogaeth pregethwyr y County Council. Meinhau fel hwy wna profiadau vsbrydol y bobl. Nid oes fwyd iddynt. Yr oedd merch fach ar ddiwyrnod tywyll yn bwyta oi chiniaw gyda ei mam. Yn sydyn llew- vrchodd yr haul rhwng y cvmylau, gan lanw ei phiol hi a'i oleu. "Mam, mam," meddai hi, "y mae fy phiol yn llawn o'r haul, a garech ChWl' gael wyaid o'r goleu." Phioleidiau o dywyllwch du sydd gan bregethwyr, neu "Blacks" y County Council, ac heb gymaint a llwvaid o oleu matchen i oleuo glyn cysgod angeu i'r pererinion ar eu dyrus daith. Byd a phot-hau allan o le ynddo yw y byd hwn; gwaith pregethwyr yw d'od a'r byd i'w le trwy ddylanwad y byd a ddaw, ond n'd oes dim yn fwy o'i le na phregethwyr yn y County Council." ac yn neillduol pregethwyr yn tracb-vantu lleoedd rhai mor addas i'r gwaith a Cadben Lewes, Llysnewydd. Dau liw arferai fod mewn ethol iadau- "BI ties" a "Reds"; ond yn awr y mae tri IIiw, sef "Blues," "Reds" a "Blacks," a'r prrgethwr yw creadur y lliw olaf-IIiw y fran, lliw y fagdrla, lliw uffern. GWYNGOCII.
TWM 'BARELS A B.
TWM 'BARELS A B. Yn unol a'r llith ddiweddaf o eiddo Mr. Twm vn y JOURNAL, gallem feddwl ei fod yn orhoff o B. pan yn cvmeryd y fath ofod gwcrthfawr mewn newyddiadur mor boblogaidd. Er ei meithder, nid oedd llawer mwy ynddi nag yn ystori asgwrn pen llo-—dim yn ei dechreu, na dim yn ei diwedd, ond treio darbwyllo pobl i gredu mai Sosin ydyw B., ta waeth am hyny. Mae ganddo grefft ennillfawr, ond iddo gwneyd defnydd priodol ohoni, a pheidio enllibo ei gwsmeriaid goreu, ond eu Ilongyfarch wrth eu henwau priodol, onide bydd ei 'fatches" yn sicr o danio y ty coed, ac yna byddai yn "huw bwb." Beth bynag, nid ydyw B. yn Sosin, ac nid gwadu y mae, fel ag y mynegais yn flaenorol, nad oeddem yn gwybod am nn o ganlynwyr athrawiaeth "Faus- tus Socinus." Drwg genyf am anwybodaeth Twm, ddim yn gwybod gwahaniaeth rhwng credo athrawi- aeth Faustus Socinus a Michael Servitus, yr Un- doawr a gafodd ei ferthyru trwy ei losgi L farwol- aothgan John Calvin yn Geneva am ei olygiadau crefyddol. Dywed Mr. Twm iddo wneyd ymchwiliad am Gapel Sosiniaid yn Cilrhedyn, ac o'r diwedd iddo gael ynddo fel ysgyfarnog yn y "trash.' Anwiredd noeth. Mr. Twm. Nid oes yr un Canel Sosiniaid i'w gael o fewn y plwyf, ac mor belled ag ydwyf yn gwybod, o fewn y sir, felly mae Twm wedi cael ei gamarwain neu gamddeall yr hyn nad ydyw yn wir- ionedd. Dywed Mr. Twm fod Sosiniaid yn gyfarwydd a gwadu pethau. Beth bynag, nid ydwyf yn gwybod dim am danynt, na chwaeth yn gyfrifol am eu syn- iadau, eu hegwyddorion, na'u gweithredoedd. B. [Gorfodwyd ni y dalfyru peth o'r llythyr yma.]
. AT EIN GOHEBWYR.
AT EIN GOHEBWYR. Daeth cynyrchion lawer i law yr wythnos yma, rhy ami i'w henwi. Diffyg gofod yr wythnos yma. "Maowy'r Gwir.Rhy bcrsonol at Ysgrifenydd Cymmrodorion Caerfyrddin.
- opo - MOUNTAIN ASH.
opo MOUNTAIN ASH. MAHWOI.AETH.—Bu farw yn ddiweddar David Evans, mab Mr Evans, Hendy, Capel Ifan. a brawd meistr y tlotty Castellnewydd Emlyn. a brawd-yn- nghyfraith Mr. J. Morgans, Hendy. Cafodd Dafydd Evans, neu "Capel" Tvans (fel yr adwaenid ef) nychdod hir iawn. Claddwyd ef yn mynwent new- ydd Mountain Ash.
Advertising
<————————-——< l. Cultivate and Fertilise. "1 Good Cultivation and Good Manures will £ give you Good Crops. NITRATE of SODA. is more than a good manure, it is indispensable. h feeds the crop immediately it is applied, and gives an immense increase in the yield. CAN BE BOUGHT FROM ALL LEADING DEALERS IN MANURES. Pamphlets, gratis and post free, supplied by THE CHILEAN NITRATE COMMITTEE, Friars House, New Broad Street, London, E.C. < V
AWDWR "HEN WLAD FY NHADAU."I
AWDWR "HEN WLAD FY NHADAU." I Gan fod mudiad ar droed yng Nghymru heddyw i gael cofgolofn ar fedd awdwr "Hen Wlad fy Nhadau," priodol fyddai yohydig o'i hanes yng ngholofnau y JOURNAL, er symbylu rhyw un i ddwfn hau ei serch at un o enwogion ein gwlad. Gamryd Evan James ("Iouan ab Iago") yng Nghaerffili yn y flwyddyn 1809. Wedi i'w rieni dreulio ychydig o fiynyddoedd yno, aetnant i Fargoed i fyw. Tra yno yn byw. daeth yr amser i'r bardd i fyned dros y trothwy i faes y byd er ennill ei; fara, a chawn hanes iddo ymscfydlu rhwng Argoed a Thredegar. Bu yno am dymor maith yn cadw'r "Ancient Druid Hotel.' Cyn diwedd ei oes, pender- fynodd symud eto i Heol y Felin, Pontypridd, ac uwch fangre ei gartref a'i fusnes: heddyw saif y "County Hotel." Yno y terfynodd ei oee. a bu farw yn y flwyddyn 1878. Claddwyd ef ym myn- ment Carmel, ac arddurnir ei fedd gan gareg brydferth, wedi ei gosod gan ei feibion, ac nid gan ei wlad ei hun. I hyn mae Cymry yr oes wedi deffro, ac yn fuan iawn ceir gweled cofgolofn gwerthfawr ar y fangre fel dangoseg o edmygedd cenedl y Cymry at awdwr eu can genedlaethol. Ar gareg brydferth ei fedd, y mae llinellau o waith ei gyfaill, Ap Myfyr, "Yn y bedd isod mae un bydd oesau Yn uchcl ganmawl ei haeddiannawl ddoniau; Ein louan ydoedd a'i fyw syniadau, Unig-anedig; yn ei ganiadau Enaid-lwythog; a chan genedlaethau E gludir 'n eu treigliadau-glod y gwr A fu yn awdwr "Hen Wlad fy Nhadau." Cymeriad hoff o neillduol oedd Ieuan ap Iago, fel pob gwir fardd. Ei hoff fanau oedd yr Eistedd- fodau, neu gyfarfodydd Iforaidd. Cyfansoddodd llawer o ganeuon ac englynion, ond "Hen Wiad fy Nhadau" yw ei brif waith. Mewn tawehveh ar nos Sadwrn eisteddodd y bardd, a gwedd fyfyriol arno. a boreu Sul anfonodd at ei fab, gan ofyn iddo dd'od a'r delyn tua'r hwyr. Ar adcg- y gwasanaeth yn Carmel, addoldy'r ani3er gwelwyd bynedd e.i fab at y ty, a chyn fawr o amser gwelwyd bysedd ei fab ar dannau'r delyn, a cyfaddaswyd y geiriau yn ofalus all y don. Ni or- phenwyd ond un pennill y noson hono, ond boreu'r Llun canlynol gorphenwvd y gwaith i gyd. Heddyw lhed ein meddyliau at gartref ac ieuenc- tyd, at gariad gwladgarol. a thra erys anfarwoldeb "Hen Wlad fy Nhadau," pa delyn all ddistewi, a pha galon fydd yn fud? Barry. Tywi.
DR. SION CENT.
DR. SION CENT. Bywvoiaeth gvntaf Sion Cent ydoedd Castell- newydd-Emlyn. Dyrchafwyd ef oddiyno i fywiol- aeth Kent, yn Sir Henffordd ac o herwydd hyny y gelwid ef yn Sion Cent. Yr oedd y l'e ar gyffiniau siroedd Mynwy a Brycheiniog. Cymraeg ydoedd iaith lafaredig Sir Henffordd y pryd hwnw; a pharhaodd felly am amser hir wedi' hyny; oblegid rhestrid, y pryd hwnw, esgobion Henffordd gydag esgobion Cymru. Ao mewn cysylltiad a chyfieithiad y Bibl i'r Gvmraeg, rhoddodd y Frenhines Elizabeth orchymyn i Esgob Henffordd. yn ogystal a'r pedwar esgob Cymreig, i gyflawni y gwaith. Yr oedd Sion Cent o ran ei ddaliadau crefyddol yn Wicliffiad, neu Lolardiad. Yr oedd yn ddiwyg- iwr, ac yn cydocsT a John Wicliffe; ond yn byw o flaen Martin Luther, y dywygiwr Ellmynig. Ym- osodai yn ffyrnig ar lygredigaethau a chyfeiliornad- au ei oes. Pabyddiaeth oedd yn ei grym y pryd hwnw yr oedd pawb yn Babyddion. a chyfranogai y bobl o fantei't-ion ac anfanteision y wedd hono ar Gristionogaeth- Me.wn rhai pethau yr oedd y werinos yn anwybodus a choelgrefvddol; ond mewn ',bryd defosiynol ac addoliadol yr oeddynt ar y blaen i Brotestaniaid yr oes hon, y rhai sydd yn druenus o ddiffygiol yn y gwylder a'r parchedig ofn hwnw a orwedd dan sail yr elfen addolgar yn y grefydd Gristionogol. Dygodd symudiad Sion Cent o Genarth i Hen- ffordd ef i gysylltiad a theulu a leinw le pwysig yn hanes Owain Glyndwr; sef teulu y Scudamores, Kent Church House, Sir Henffordd; y rhai fuont noddwyr iddo pan yn ffoadur rhag ei elynion a phan oedd haul ei hvyddiant dan gwmwl. Yr oedd merch briod iddo yn byw yn y gymydogaeth yna, gyda'r hon, yn debygol, y flreuliodd fiynyddoedd olaf ei oes. Gwelwn yma gydgyfarfyddiad dau o brif ddynion eu hoes: un yn oynllunio sut i gael gwared o iau haiarnaidd gorthrymwyr ei wlad, a'r I llall sut i dori maglau gormesol y Babaeth. Yn yr un gymydogaeth yr oedd yn byw, tua'r un amser, y merthyr enwog, Syr John Oldcastle sef Arglwydd Cobliam, yr hwn a gylymwyd wrth bawl yn St. Giles-in-the-Fields, yn Llundain, ac a losg- wyd yn araf mewn modd creulawn a barbaraidd. Bernir i ymgydnabyddiaeth Sion Cent a'r Scuda- mores a Syr John Oldcastle beri iddo fod yn fwy neu lai Efengylaidd yn ej ddaliiadall crefyddol. Ond nid fel bardd a duwinydd yn unig y mae Sion Cent wedi byw yn gnghof ao hanes y wlad, ond fel un ag y tybiai y werinos anwybodus a choel- grefyddol fod iddo gysyllthiad a theyrnas y tywyll- wch.—(Y Parch. T. Phillips, Rheithor Llanfyrnach, yng "Ngheninen Gwyl Dewi.")
Advertising
E g —■—THOUSANDS Of ft'TOOTH \-ACHf Mk. AMD t nfi Wp/VM/xj ^^NEURALGIA j^w/ww MA*OA4C7Wt7& j POWDERS Promptly Arrests QUINSY AND COLDS.
Y GOLOFN FARDDOL.
Y GOLOFN FARDDOL. (Gan "Talfynydd.") Y Porth sydd wrth y Gwyrdd.—Gyda llawenydd nid byohan y croesawwn yr awdwr hwn i gylch car- edigion y golofn. Nid teg, efallai, gofyn pa le y bu oyhyd? GwelI yw dymuno y cawn ei gwmni yn ami. Diolch. I "Twm' Bards." -Creadur enbyd yw Twm, mi debygem. Caiff ei ganmol, ei fastyno, a chanu iddo. Englyn da, ond gwell ymatal rhag dweyd dim am y syniadau rhag y digwydd i ni ddeffro Hid g r y gwlawleni. Priodas John.—'Rof>dd cariad gwrthrychau testyn y gan yn addfetach nag awen yr awdwr. DioIoJi. er hyny, i'r awdwr am ysgrjfenu ei gan mor ddestlus. Cred rhai beirdd mai cryrod yw y cysodwyr. I "TWM 'BARELS." Boy cryf, glan, ysmala—ie, hudol, Am widw Ilygada; Ffarwel gaiff pob umbrella Oa ca bres y ddynes dda. JANB PENRHTS. PRIODAS JOHN FY MRAWD, sef Mr. John Thomas, 10 Union-street, Ammanford, a Miss Maggie Daniels, Pentwyn Road, Bettws, Ammanford. Tarawaf dant priodas— Priodas John fy mrawd; Mae heddyw'n ddyn o urddas, I'w gyfarch ar ei ffawd; Fo'i denwyd ef gan Maggie I rwyd priodas gun, I ymfwynhau ei chwmnii, Rhown iddi glap bob un. Bu of a'i anwyl Faggio Yn caru amser hir; A'u cariad wnaeth addfcdi I'w fedi'n awr yn wir; Maent heddyw wedi eu huno Mewn glan briodas Ion, A bendith Duw ddilyno Y ddau dan enfys hon. Bu John yn rhodio llawer I wel'd er eneth dlos, A dyfod tua chartref Pan hebio hanner nos; Ond ni bydd eisieu mwyach, A dedwydd boed ei gan, Gwnaeth Maggie 'i ddysgu'n gallaoh Drwy 'j chael yn briod lan. Gobeithiaf oaf ei weled Yn dad i lot o blant, A Maggie yn eu gwylied Yn hapus iawn ei thant; Yn lion ar aelwyd gynhes Pan ddelo John o'r gwaith, Gwna hyn felysu'ch hanes Fel nhad a mam, mae'n ffaith. Pob llwydd a lwo ddymunaf I chwi eich dau yn awr, Yn wr a gwaig gyfarohaf Dan sel y gyfraith fawr; Hyderaf bydd eich bywyd Yn ysgafn iawn i'w ddwyn, Heb unrhyw storm anhyfryd I amharu'ch swyn. Diolched John o pob peflh I Dduw yn ddedwydd un, Af iddo ddarpar geneth I fod yn wraig C j ddyn; Mae'n hawddach i addoli, Ao hawddach lawer byw, Pan fyddo'r ddau'n cyd-dynu, Hcb gablu enw Duw. Mi gefais innau briod Fu wrth fy rnodd i mi, Ond angeu ddaeth a'i ddyrnod I'w dwyn o mynwes i; 'Rwy'n Hefain pan yn meddwl Fel oedd yn medru byw, Ond, beth wyf gwell dan gwmwl, Aeth hi i'r nef at Dduw. LEWIS THOMAS. CARTREF. (Rhydcwnierau, Nadolig, 1912). Gartref anwyl, mae dy hanes Drwy vr oe.sau megys .-aim; Faint yw gwerth dy fynwes gynhes? 0, mor dynor yw dy falm! Pa sawl brotiddwyd am dy dlysni Gafodd yr afradlon ffol? Sawl edifar fu'n cusanu Bro dy dangnef wrth dd'od Inol. Gartef hudol, ai yn rhaglen Serch y caed dy gynllun hardd? Neu ar lawnt flodeuog Eden Cyn i sarff wenwyno'r ardd? Neu rhyw ddeddf yn ilaw'r cerubiaid Ydwyt, blanwyd yn y byd, I anwesu plant amddifaid 0 fendigaid, gartref clyd! Gartref duwiol. mawl a gweddi Dardd o'th galon di, mor bur, A darluniau'r Groes a'r Codi Welais gyntaf ar dy fur; Santaidd heddweh a boddlonrwydd Dan dy aden sydd ynglyn; Ernes aberth a diwydrwydd Ar y Ilawr yw cartref dyn. Gartref swynol, ond nid perffaith Ar y goreu, yw dy fri; Dagrau maIn a roes ammheuaeth Dan fy mron am danat b: Cadair wag sydd ar dy aelwyd, Telyn dorwyd yn dy gan, Ond cyfanir di i'r gwynfyd- Cartref nefol, cartref glan Blaengorleeh, Llidiardnenog. Du. MORGAN. —
LLANDYSSIUO-GOGO.
LLANDYSSIUO-GOGO. DEWI SANT. -Datlilwy(I Dydd Dewi Sant yn ysgol. ion elfenol y plwyf uchod drwy neillduo un ran o ddydd G\vvner, Chwefror 28ain, er myned drwy raglen o adroddiadau a chaneuon, wedi ei gymera- dwyo gan Arolygydd ei Fawrhydi. Rhoddwyd anerchiadau gan yr athrawon, a gwnaeth y plant yn ganmolawy iawn. Darllenwyd hefyd anerchiad Syr Edward Anwyl fel yr ymddangosodd yn y "Woman Teachers' World." LLITHIAU "Twv 'BABEL«."—Mawr yw y dyhead am weled y JOURXAL yn awr o wythnos i wythnos, er cael gweled beth sydd gan yr awdwr a gyfnewa ei hun yn "Twm 'Barels" i ddweyd. Mae yr enw erbyn hyn mor gvnefin fel y mae pob "tincer" sydd yn galw wrth ddrysau pin tai yn cael ei adnabod wrtho. Llawer o ddyfalu sydd pwy ydyw; ond nid oes amheuaeth genyf fi, wedi eii ymweled a.g Aber- porth, nad un o'm hen gyfoedion pan yn yr ysgol elfenol yw. Os nad yn oamsvnied, buom droion yn pysgota brithyllod hyd lanau y Ceri, ac yn mynychu yr un capel ar y Sul. Paham. vybed, na fuasai Twm wedi cymeryd ei daith i fyny drwy bentref Rhydlewis. heibio yr xoldy, Bribwll, Waunffilbro, Waun, a Phantvrhoeli id. yn hytrach na Cnwc Nantbreni y tro lr.vnw? "•daf fod y lleoedd hyny yn gysegredig gai: "i gale n. Cofied, "Twm," taw cas yw'r gwr n;; <-i:aro'r \r1 a'i macco," ie, w hefyd yr ardal. C, heithio y daw allan yn ddianaf o'r dwfr poeth y mae ynddo; ond gwylied yr 'Inspectors of Nuisance," gan eu bod hwy fel y cigfrain yn arogli y gelain o hirbell.
NODION 0 ABERGWILI.
Y CYFARFOD PLWYFOL a gynhelir yn yr Ysgol Genedlaethol, Abergwili, iioo Lun y 17eg cyfisol am 7 o'r gloch, er dewia 15 o aelodau i weithredu ar y Cynghor Plwyfol am y tair blynedd ddyfodol, a gofaled pob ymgeisydd i lenwi papyr ei benodiad yn barod erbyn y noson yma. Bydd y rhai yma i'w cael gan y clerc, sef Mr. G. Evans, Bishop's Mill, a bydd yn ofynol i bob ymgeis- ydd i siarad ar wahanol faterion y plwyf, ao i hys- bjwu i'r cyfarfod e.1 ddaliadau, ynghyd a'r gweith- rediadau a' r gwelliantau y mae efe yn bwriadu gario allan ym mhrogram ei wa/sanaeth yn ystod y tair blynedd. Ac yn ol barn un o aelodau y Gym- deithas Ryddfrydol yn y cyfarfod a gynhaliwyd yn Peniel, ei bod yn angenrheidiol 1gael dwy ran o dair o'r ael-odati yn Rhyddfrydwyr cadarn. Hwyrach mai llefaru yn ei anwybodaeth oedd y brawd, ob- legid y mae mwy na dwy ran o'r aelodau yn Rhydd- frydwyr wedi bod er cychwyniad yr achos. Cyfeir- iodd hefyd mai "ha,lf-and-haIf" oedd y rhan fwyaf o honynt. Gwarchod anwyl, bet'n oedd yn feddwl? ai nid yn feddianol ar synwyr cyffredin neu yn amddifad o egwyddorion anghyffredin, neu yn am- ddifad o'r penboethni ysgafn a dienaid? Gobeithiwn y bydd y brawd yn bresenol nos Lun iddo gael de- hongli ei freuddwydion. Ac felly gwell fyddai i bob ymgeisydd, ar ol cael ei enwi gan y aadeirydd, i waeddi nerth ei geg. "Radical" dair gwaith. Ac os mai Ceidwadwr y bydd, gwaedded "Ceidwadwr" dair gwaith, ac os bydd yno "bolitician" penboeth, bloeddied yntau "half-and-half," yna rhoddir cleddyf yn ei law i daro'r cfic. GWAEDGI MR. LONG PRICE. Hen foigi rriawr yn faglog-dia'ydd R gwaed a'r drel gwepog, Regwr ceinder a'r rhen rog; Ow: paid ffroeni "Dyffrynog." CLOD ARALL eto sydd yn weddus i Miss Bessie Harries, y Felin, elinwen. Darfu i'w disgyblion wneyd yn ardderch og yn Eisteddfod Abergwili gyda'r canu. Gwob- rwywyd llawer o honynt, ac yr oedd eroill o fewn ychydig i fod yn gadwedig. We'e'r buddugwyr: Miss L. :1. Thomas, Westfa, Nantgaredig; Mr. T. D. Morgan. Penpolion; Mr. Eddie Jones a Miss Meta Jones, White Mill; Miss L. M. Evans, Merlin's Grove, a Miss Jessie Evans, Glancothj Lodge; enill- odd yr olaf hefyd yr ail wobr yn Eisteddfod Llan- elli, dydd Gwyl Dewi, allan o 16 o gystadleuwyr, ac nid yw eto ond deg oed. DYFFRYNOG.