Skip to main content
Hide Articles List

20 articles on this Page

- APPEL YMNEILLDUWYR IWERDDON…

News
Cite
Share

APPEL YMNEILLDUWYR IWERDDON AT YMNEILLDUWYk CYMRU GWNEIR YR APPEL CANLYNOL AT ETHOLWYR CYMRU GAN GYNLYVVYDUION CORPH PRESBYTERAIDD IWERDDON. Ar ran ein cyd-Bresbyteriaid yn Iwerddon, ac yn unol a llawer o benderfyniadau a basiwyd yn ein Prif Gynhadledd naill ai yn unfrydol neu gyda mwyafrif mawr, ac yn cynrychioli (fel yr ydym yn credu) corph mawr cytundebau Protestanaidd ereiil, yn gystal a llawer o Babyddion y wiad, yr ydym yn appelio atoch am eich cydymdeuniad a'ch cynor- thwy yn yr argyfwng gwleidyddol difrifoiaf an cyfarfyddodd o fewn cyleh cot neb sydd yn fyw. Y mae y cynllun i sefydlu Senedd yn Iwcrddoll, a gyciiwynwyd yn 1886, ac a adnewyduwyd yn 1893, ac a wrtnwynebwyd yn llwyddianus trwy gydymdrech ar ran rhai a berthynent i bob plaid wleidyddol, yn cael ei gymmell arnom unwaith etc. Mae ail- ddygiad Ymreolaeth Gartrefol i mewn i'r Senedd fei mesur i gael ei benderfynu yn uniongyrchol, ar unwaith yn tadu i'r cysgcd bob mesur andl, pa mor bwysig bynnag y byduo. Dyma i chwi resymau dros ein appel. 1.—Yn y lie cyntaf, prif liynnonnell ein perygl, ag sydd yn anwahariadwy oddivvrth Ymreolaeth Gar,triefoi, yw y gagendor mawr sydd yn gwahanu Pabyddion oddivvrth Brotestaruaid I werddon. Oddiar amser y Diwygiad, nid yw y drygau cyssyllt- iedig a hyn wedi amrywio dim, ac nis gellir disgwyl am unrhyw gyfuewidiad yn y dyfodol. Gwahan- iaethau crefyddol sydd wedi bod wrth wraidd llawer symudiad gwleidyddol a chymdeithasol, ac sydd wedi esgor o bryd i bryd ar fradwriaeth, ysgelerder, a rhyfel cartrefoi. Yn 1641 a 1648 gorlifodd pen- boethni crefyddol dros y wlad, gan achosi llawer o dvwailtiad gwaed a thrueni. Yn 1798 torodd allan symudiad a dybiwyd y byddai yn gychwyniad cyd- ddealldwriaeth rhwng gwahanol grefyddwyr a dos- barthiadau o bobl mewn rhyfel crefyddol gwaedlyd, yr hwn y bu rhaid ei attal gan filwyr Prydeinig, ar 01 i lawer golli eu tvwydau. Er fod y safle wedi cvfnewid llawer yma erbyn hvn, y mae y gwahan- iaeth crefyddol yn para yr un fath. Ni fuasai gan y blaid sydd yn ceisio Annibyniaeth fawr o ddylan- wad heb gynnorthwy clerigwyr Eglwys Rufain. Yn Neheu c yn Ngorllewin Iwerddon heddyw mae offeiriaul Eglwys Rufain yn oll-ddylanwadol; ac hyd yn nod yn y Gogledd a rhan-barthau Protestanaidd, y mae vmvraeth v clerigwyr hyn mewn matenon gwleidyddol ar gynnydd. Nid oes ynom yr awydd lleiaf i ormesu ar gvdwybodau ein cydwladwyr Pab- yddol, nac i'w harnddifadu o unrhyw iawnderau gwleidyddol neu grefyddol. Y mae yn rhaid i ninnau omedd yn bendorfynoi i oddef gcsod ein rhyddid gwleidyddol a chrefyddol dan eu hawdur- dod hwythau. 2. Y mae camsyniadan difnfol Senedd Prydain ar y naill law, a'r eiddo pobl Iwerddon ar y l'aw arall, yn argraphedig ar dudalenau hansyddia,eth. ac y mae yn rhaid i ni eu cy^dnabod. Ond y mae eipdrem ddiduedd ar y ganrif ddiweddaf yn ein llwyr argy- hoeddi o benderfyniad pobl Prvdain Fawr i osod i fyny gyfreithiau teg a chyfiawn yn Iwerddon. Gellid enwi cyfres o feeurau mewn perthynas a'r Eo-lwvs, y tir, addysg, cvnrychiolaeth y bobl. a draethiad llool. i brrtfi fod gwladweinwyr Pry- dain wedi ymroddi i settle pvnciau G\\ yddH_?r gyda'r ewyllysg-arwch a'r difrifoldeb llwyraf.. Y mae maclywodraethiad y gorphenol wedi dinanu. O'r braidd, y eellir dweyd, fod unrhyw achwymad vn aros; ac os oes yr vdym yn sicr iawn y devbvnia vstyriaeth gwell yn Senedd Unedig Prydain. nag yn unrhyw Senedd israddol a osodid i fyny yn I Iwerddon. 3.— lyymunem i chwi ystyried yn ddwys, pa beth fydd cffaith Ymreolaeth Gartrefol ar lwyddiant materol ein gwlad. Y mae pobl y Gogledd, dan feudith Duw, wedi eu galiuogi i ddadblygu amryw fasnachoedd. Y mae cyfoethogion y deyrnas wedi ymuno a'n hymdrechlon, ac wedi gwneyd ein gwlad yn gartref iddynt eu hunain. Nid oes angen dweyd nad oes dim yn hawddach i'w niweidio na masnach. Nid yw ond gwirionedd noeth i ddweyd, nad oes gall fasnachwyr ddim ymffdiriedaeth yn addewidion cefnogwyr Ymreolaeth Gartrefol Wyddelig. Bob tro y daeth y cynllun i'r ffront, mae gwerth pob matii o fuddianau Gwyddelig wedi syrthio, ac weithiau, i'r fath raddau ag l fod yn anwerthadwy. Onid yw yn beth difrifol i ni feddvvl am beryglu ein masnachoedd, ein rha-golygon amaethyddol, a i flloddion cynhaliieth cymmaint o filoedd o'n cyd- wladwyr am gynllun dianghenraid, ac un na wehr gobaith ei benderfynu yn derfynol 4.—Mewn perthynas i settio y mater hwn, nid oes rhith o reswm dros gredu y gallasai Senedd yn Dublin ei benderfynu. Byddai pob sicrwydd dros gadwraeth uchafiaeth y Senedd Ymherodrol, pob cyfyngiad ar ran diogeliad y lleiafrif, yn achlysur ymrafaelion a gofynion ychwanegol. Cawsai Senedd Grattan, ag oedd yn Brotestanaidd ac yn aimibynol, ei hun yn ami mewn gwrthdarawiad a'r Liywodraeth Brydeinig. Pa faint mwy tebvgol y byddai i hyn gymeryd lie, pan fyddai y Senedd Wyddelig o ran ei mwyafrif yn Babvddol? Ac y mae yn ddiameu y gwne^ai y cyfyngiadau a wneid arwain o bryd i bryd i ymgyrchoedd newyddion, a I fyddai yn ddinystriol i bob cydweithrdiad a chyn- ydd. Yr ydym yn argyhoeddedig, a barnu oddi- wrth fynegiadau cyhoeddus o'u syniadau, ynghyd a'u gweithredoedd cyhoeddus, fod calon y blaid Wyddelig sydd yn ceieio Ymreolaeth Gartrefol, yn sefydledig ar ysgariad llwyr, ac annibyniaeth trwy- adl. Am y rhesymau hyn, beiddiwn ofyn i chwi am wrt-hod eich pleidlais dros unrhyw ymgeisydd a gefnoga Ymreolaeth Gartrefol. A chwi a ellwch benderfynu, na oddefa cefnogwyr Gwyddelig Mr. Asquith ef i adael ei addewid o sefydlu Senedd yn Dublin, syrthio yn ddiddym. Byddai yn anhegwch mawr i'n harnddifadu o'r diogelwch Ymherodrol i ba un y'n ganwyd, a'r hyn ni wnaethom ddim i'w i fforffettio; ac felly yr ydym yn erfyn ac yn gwasgu arnoch eto i ystyried diogelwch ein masnachoedd, ein rhyddid, a'n bywydau, dan nawdd Senedd Un- edig Prydain Fawr a'r Iwerddon. Arwyddwyd, JOHN DAVIDSON, M A., D.D., JOHN MAcDERMOTT, M.A., D.D., W. TODD MARTIN, M.A., D.Lit., D.D., MATTHEW LEITCH, M.A., D.Lit., D.D., WILLIAM BEATTY, B.A., D.D., WILLIAM PARK, M.A., J. EDGAR HENRY, M.A., D.D.. SAMUEL PRENTER, M.A., D.D.. WILLIAM M'MORDIE, M.A., D.D., WILLIAM M'KEAN, D.D., JOHN M'IL VEEN, B.A., D.D., Cynlywyddion Prif Gynhadledd t Presbyteraidd Iwerddon.

GORMES

Advertising

---|EISTEDDFOD HO.iEB, LLANDYSSUL…

Advertising

EISTEDDFOD HOREB, LLANDYSSUL.

♦> "RHEITHORIAETH AR WERTH."

-----------.--LLE TWYM I'R…

FELINDRE A'R CYLCH

Advertising

-------------NODION 0 ABERGWILl

DIOLCH I'R PARCH. T. A. IT-KRRTES,…

RHODD S. H.

MI A'M PRIOD.

MAWL A GWEDDI CYN BWYD.

Y CYMMUN.

GWNEYD EIN GOREU .!

.-,.."'- EISTEDDFOD CILYCWM.

CASI ELLNEWYDD-,EMLYN

Advertising