Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

EISTEDDFOD HOREB, LLANDYSSUL

'IEISTEDDFOD GADEIRTOL TALGARREG

ARHOLIADAU GORSEDD Y BEIRDD

Advertising

LLANSADWRN A'R CYLCH

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

Advertising

NODION 0 ABERGWILl

PLWYF PENBRYN

News
Cite
Share

PLWYF PENBRYN Ar foreu y 19eg o'r mis hwn, gadawsom blwyf Llandyssul i fyned ar ein gwyliau, yn ol arfer rhai y tymor hwn, a newidiasom o'r un a enwyd i blwyf arall, Llandysilio-gogo, yn yr ysbaid awr a haner o deithio, nes bod ar y brif ffordd sydd yn arwain o Aberaeron i Aberteifi a Ffynon-Ddewi ar y llaw aswy i ni. Cafodd yr enw, meddir, oddiwrth Sant Dewi, yr hwn pan fu unwaith ar ei daith o Tyddewi, sir Benfro, i'w artref genedigol i blwyf Henfenyw, Aberaeron. Traddodiad yw iddo eistedd i lawr ar y fan yn newynog a sychedig, heb ddwfr cyfleus yn agos i'r lie; iddo weddio ar yr Arglwydd Hollalluog cyn cyffwrdd ei grystyn sych o fara am ddwfr i dori ei syched, ac i'r ffynon hon darddu yn ebrwydd ger ei draed. Yr ydoedd hyn ar ein cof pan yn cefnu arni i gyfeiriad pcllach yn y blaen, i le o'r enw New Inn, Llangranog, tair mill- tir o ffdrdd o'r fSynon. grybwylJedig. Y mac ffordd arall yn ymuno a hon yn y lie yna: ar y llaw aswy, ond parhau i deithio ar y gyntaf yr oeddym heb goll amser am ddwy filltir cyn bod yn Post Office, Sarnau. Ffwrdd a ni eto wedi cyr- haedd yma, nes cael ein hunain yn mhlwyf Pen- bryn, pellder ychwanegol o dair milldir a haner. Erbyn hyn nid gwell ninau na'r hen sant enwog Dewi o ran newyn a syched, eithr tosturiwyd yn bur fuan wrthym heb weddi gan v bobl dda hyn— D. Bowen a'i briod serchog, Tyhen, Penbryn. Caf- wyd tri pryd o'r blasusfwvd goreu ganddynt a allasai unrhyw foneddwr o radd uchel ei ddymuno) cyn gadael oddiwrthynt- Ni feddaf ar eiriau cym- hwys i draethu mor garedig a groesawgar oeddynt. Aethom yn nesaf i fane Tyhen, i gael golwg ar ardal brydferth odditanom. Draw yn y cwr gog- leddol gweiem dinas Lochtyn, clogwyn uchel, rai tanoedd o droedfeddi yn uwch na gwyneb y weilgi, a'i goryn vn yr entrycii tel no yn gwylio y pentref is law sydd y;i nythu yn ei gysgod rhag i'r jnor a'i donau trochionog ci orlifo. Drachefn dangos- wyd i ni mewn cae cyfagos ar dir dyffryn Bern, bedd faen coffadwriaethol yn sefyll yn syth oddeutu chwech troedfedd o uchder a dy o led, yn argraff- edig arno yn yr iaith Rufeinig, "vma v gorwedd." i6 gellir egluro rhagor, gan mor anainlwg yw'r llythyrenau. Tybir ei bod yma er amser y bu Rhufeiniaid yn Ynys Brydain er ccf am rhyw flaenor o'u plith. Pan ar fin ymadael, troisom i fewn i fynwent Eglwys henafol y plwyf, yr hon sydd yn cael ei chadw yn lanwaith a ehryno. Buom mor ffodus ag olrhain dyddiad ambell i gareg feckl ya ol i'r flwvddyn 1600. Ardal lawn o ryfeddodau a golygfeydd swynol yw Penbryn. Mynych y gwelir y ''photographer" a'r "artist" yma er prawf nad dinod ydyw. Gadawaf ar hyn yn awr hyd rhyw amser eto. J. R.

BRWYDR Y GLOWYR

Advertising

EGLWYSI CYMRU A PHLAID LLAFUR."

ARHOLIADAU GORSEDD Y BEIRDD.

LLANDDOWROR A GRIFFITH JONES.

"HUR-GWEITIIWYR Y FFYRDD."