Skip to main content
Hide Articles List

15 articles on this Page

EISTEDDFOD HOREB, LLANDYSSUL

News
Cite
Share

EISTEDDFOD HOREB, LLANDYSSUL K06 Wener diweddaf, yn Nghapel Horeb, o dan lywyddiaeth Mr. David Davies, C.S., Dolaucwerchvr, cafwyd eisteddfod hwylus a. llwydd- aanus mewn'llawer ystyr. Arweiniwyd yn hwylus a gwir ddyddorol gan y Parch. T. Davies, gweinidog, yr hwn a lwyddodd i gadw'r cynulliad mewn cywair hwvlus. Y beirniaid oeddynt-Cerddoriaeth, Mr. W Dunn Williams, G. a L., Caerfyrddin; barddon- laeth, etc., Parch. Dyfnallt Owen, Caerfyrddin; "'drawing/' • Mr. T. Evans, C.M., Llandycul Coun- cil School; gwniadwaith, Mrs. Jonee, P rrhFoncn; Mrs. J. Watts Jones, Craigyderi; Miss Evans, Llwyneos; llwyau, etc., Mri. Henry Davies, Cnwc Tyseul, a Daniel Thomas, Blaenmerwydd. Cyfeil- iwyd yn dda gan Mrs. E. Howell Davies, Llandyssul. Cadeirydd y mvyllgor oedd Mr. Ben Davie., Y.H., Perthyronen, a gofalwyd am y god gan Mr. George Bowen Jones, Prian. Gwnaeth Mr. Jenkm Evans, Neuadd, ei ran yn dda fel ysgrifenydd Uaturus. Cafwyd araeth dda iawn ar yr eisteddfod gan y Cadeirvdd, a rhoddwyd anerchiadau barddol gan Mr. Daniel Thomas a Miss Thomas, Blaenmerwydd. Adroddodd "DyfnaMt" yr englyn hwn i'r llywydd: Cadeirydd, i'ywydd llawen—un distaw, Mae'n dyst. i worth sofren; Un hwylog i daro hoelen, Gwyr pawb wedi agcr pen." i Enillwyd y prif wobrwyun fel y canlynCor Cymysg, Tr ifynnon fach ger fy mwth" Cor Horeb, o dan arweaiiad Mr. Jenkm Evans, .Nouaacl. Cor Plant, "Melus Wyhau r Hat: Cor Dyffryn Oillwyn, Penrhiwllan, o dan arweiniad Mr. Evan Jones, Llwyngwyn. Pedwaiuud: Mr. L. T. Thomas, Gvfeile, a'i gyfeiilion. Deuawd (agored): Mn. L. T." Thomas ac Evan Richards, Hair Moon Hotel, Llandyssul. Cnawd soprano: MiSo Lena Phillips, Belmont. Llandyssul. Unawd contralto: Miss Jones, Canton Villa. Deuawd i blant dan 16 oed: Willie Davies, School House, Aberbank, a Lizzie Williams, Bryngoleu, Aberbank. Unawd i blant dan 8 oed: C .Davies, Panteg Cross. Eto, i I ferched dan 16 oed: 1, S. J. Lewis, Tynewydd, Cross Lan; 2, Lizzie Williams, Bryngoieu. Eto. i fechgvn dan 16 oed: 1. Willie Davies, School House, Aberbank; 2, Dan Lay.es, Brongest, Eto, i blant dan 12 oed: 1, Lizzie Williams, Bryngoleu; 2, Willie Davies, School House, Aberbank; 3, H. Isaac Uain. Unawd i rai dros 40 oed: 1, Mr. T. Williams, gof. Cross Lan; 2, Mr. Daniel Thomas, Blaenmerwydd. Horeb. Unawd baritone. "Yr II Ornest": Cyd-fuddugol, Mr:. David Jones, Waun- dderwen, Henllan, a Llewi Griffiths, Blaencerdin- fach Pennillion coffadwriaethol i'r diweddar John Lewis, Penllwyn, Horeb: Parch. T. Davies, gwein- idog, Horeb. Can y cynhauaf: Parch. T. Gwcr- nogle Evans, Sciwen. Unawd tenor: Mr. David I Thomas, Nantgarran. Henllan. Englyn, "Y Cen- hadwr" Parch. T. Gwernogle Evans. Adroddiad (adored): Cvdfuddugol, Miss Jane Davies, Pantcg. Cross, a Mr. Daniel Thomas, Blaenmerwydd. Llwvau: Mr. Jones, Blaenpante, Llandyssul. Dicta- tion" Cvmraeg: Mr. George Evans, Llandyssul. Ad- roddiad i rai dan 16 oed: 1, S. J. Lewis, Closslan- Adroddiad i rai dan 12 oed: 1, Master Davies, Pan- teg Cross: 2. S. J. Lewis; 3, H. Issac, Llamgarreg- Iwyd, a David John Lewis, Llwynderi, Penrhiw- llan.' Traethawd, "Hanes eglwys Horeb' Mr. Dd. Davies, Panteg Cross. Ygrif ar Daniel Owen, etc.: (cGw vlaiddy n." Gwobrgydau J. Jenkins Davies, Ffostrasol. Drawing, "Ceffyl" (hackney): Mr. LJ. H. Watkins, Crymnantfach. Darllen dan 12 (wd: S. J. Lewis, Tvnewydd. Par o socks (lliwiedig): Mrs. Harris, Bwlchyronen. Darllen dan 16 oed: S. J. Lewis, Tynewydd. D'oyley: Miss E. Jones, I Canton Villa. Crotchet tie (lliw gwyrdd): Miss Jones, Pontbren Mill, Cross Inn. Diolchodd Mr. Davies, yr arweinydd, yn gynhes i bawb am ym- ddwyn mor rhagorol am gymmaint o oriau mewn eisteddfod mor ddymunol. Y BEIRNIADAETHAU. (Gan y Parch. Dyfnallt Owen, Caerfyrddin). Englyn—Y Cenhadwr. Derbyniwyd dwsin o englynion, un neu ddau yn ddiffygiol eu cynghanedd, ereill yn gyffredin eu harddull, a dau neu dri yn dderbyniol a chymeradwy. Y ddau droseddwr ar reolau cynghanedd yw "Henaf- gwr" ac "Alwyn." Llinell gyntaf eiddo Henafgwr sydd yn wallus. Nid yw reoiau englyn yn eaniatau rhagor neu deg sill yn y linell gyntaf. Mae gan Henafgwr unarddeg. "Cynghanedda yn ddidrafierth. Yn y drydedd linell o'i englyn yr aeth Alwyn i drybini. Nid yn unig y mae'r lhnell yn wallus ei gwead, ond y mae yn llurgunio y gair "oedi" i odli a llinellau yn terfynu mewn "u." Mae ei wall felly yn ddeublyg. Gallwn feddwl mai dam wain* yw'r gwallau hyn yn fwy na diffyg gwybodaeth. Eiddo "Livingstone" a "Goleu Genad" sydd yn dwyn cl ymdrech galed i gael dau pen llinyn cynghanedd ynghyd. Teimlir y gwendid yma yn arbenig lie dylai englyn fod yn gryf, seC ei ddiweddglo. Anhawdd deall cystrawen na phwynt llinell olaf Livingstone "ar dan ei fryd yn ei fron." Felly hefyd llinell olaf Goleu Genad. Methwn wel'd yn glir beth yw "ei eilw sydd, yn rhoi dyn ar ei adennydd. Temtir ni mewn dyddiau fel hyn i dybio fod yna gyfeiriad at yr awyrlong. Diffyg penaf y ddau englyn yw arddull las. Cynghanedda "ar ei Daith" yn rhwydd iawn; er hyny y mae'r aillineli yn taro yn lledchwith hollo! mewn englyn mor llithrig. Sylwed yr awdwr nad yw ei lleoliad na'i ffurf yn hapus. Gwrthoda yn ben- dant gymeryd ei lie fel y mae. Anffawd i englyn cystal yw hyn. Mae dwy linell olaf englyn Arwardd dipyn yn llac a diafael. Math o ymadrodd llanw yw "At lan y dwr" ac "eilun Duw," Teimlwn fod rhediad yr englyn yn y ddwy linell yma yn rhy ddi- bwrpas, nes y mae'r awdwr yn analluog i grynhoi ei feddwl i bwynt a chloi gydag ergyd da. Mae gan Peredur englyn syml, eithr nid oes yma un ergyd i nodi allan y testyn. Mae'n gyffredin ei gynnwys, ac yn gorphen yn ddiafael. Metha Gwerinfab yntau eto i dynu darlun o'i wrthddrych sydd yn aros yn fyw yn ein meddwl. Gallasai ddefnyddio ei drydedd llinell i well pwrpas nag a wnaeth. Mae englyn Paul yn llawn o ymadrodd.on digon pwrpasol am y testyn, ond nid oes yr un o honynt yn darawiadol a desgrifiadol oiiono. Mae rhvwheth yn ammhen- dant yn y linell gyntaf; gormod o wawi, a dim digon o afael ar y peth sydd yn ddigamsyn.ol yn y testyn. 1ae dwy linell gyntaf englyn Dyngarwr yn taro'r nodyn sydd ar goll yn yr englynion blaenorol. Y syndod yw fod englyn ddechreuwyd mor dda mor eithriadol o wan yn ei gload. Mae'r llinell olaf yn swnio fel llinell lanw yn unig, ac nid fel rhan o'r englyn. Collodd yr ymgefsvdd yma gyfle i wneyd llawer gwell. Llinell wan yw'r gyntaf yn eiddo "Edmygydd." Nid oes ystyr i'r gair "goreu," ond yn unig fel y mae yn ateb i ofyn cynghanedd ac odl. Teimlir mai lie cyffelyb lenwir gan y gair "hardd" yn y lhnell olaf. Er hyny y mae llawn cymaint o awyrgylch y testyn yn yr englyn hwn ac yn yr un yn y gystadleuaeth, ond fel cyfanwaith syrthia yn fyr. Nid yw'r ymadrodd ''Arwr gwiredd" a geir yn llinell gyntaf englyn "Alwyn Hengwm" yn un ffodus. Ond bai penaf yr englyn yw ei orpheniad cyffredin. Hawdd gwel'd fod defnydd englynwr da yn yr ymgeisydd hwn, pe yn fwy ffodus o'i arddull a'i eiriadaeth. "Pererin."—Dyma englyn yn darllen yn naturiol a. llithrig, ac y mae cynghaneddu iddo fel siarad, eithr nid mor ofalus fod ei feddwl mor glir. Prin y mae'r ddwy linell gyntaf yn ddeffiniad o'r testyn. Gwir fod ing a phoen y cenadwr wedi bod yn foddion 1 lawer cenedl foli Duw. eithr nid yw yn ddesgrifiad o'r cenhadwr. Disgwyliem ddarlun o'r testyn. ac nid o effeithiau ei ddioddefaint a'i lafur. Ceir hyny i fewn yn y ddwy linell olaf. Iae eto yn aros ddau englyn, sef eiddo Carey a Hen Bererin. Prin yr ydym yn teimlo fod un o'r ddau wedi llwyddo i roi portread digamsyniol o'r Jfwrthddrvch. Mae englyn Carey yn dangos craff- der i weled nod angen y testyn. Teimlwn ein bod yn nghymydogaeth y testyn o hyd, ac er mor an- foddlawn ydym ar y llinell olaf sydd yn dwyn ar- wyddion hen oedran bellaeh, eto y mae hwn yn enlgyn casmoladwy, Mae eiddo "Hen Bererin" yn fwy llithrig yn ei ddarlleniad. er hwyrach mai ail-ddweyd y mae vs y cyrch a'r ail linell. Nid yw yn nodi allan yn ddigon pendant gymeriad amlwg y cenhadwr. Yn wir nid oes yr un wedi dal yr elfen o ramant ac anturiaeth a gwroniaeth sydd mewn testyn fel hwn, ond y mae Carey a Hen Bererin wedi Hwyddo yn well na neb arall yn y gystadleuaeth ac ar gyfrif hyny rhanner y wobr cydrhyngddynt. Pennillion Coffadwriaethol—Y Diweddar John Lewis, Penllwyn Horeb. Tywalltodd pedwar o feirdd ddagrau ar fedd y diweddar John Lewis. Llwyddodd y pedwar i ym- gadw rhag rhedeg i ormod rhysedd wrth alarnadu. Mae gan "Is yr Iwen" bennillion syml a diaddurn, heb ddim yn darawiadol mewn nieddwl nac arddull. Nid yw'r vmgeisydd yma wedi llwyddo i bortreadu cymeriad yr ymadawedig mewn Hiwiau digon pen- dant ac arbenig. Mae yn rhy gyffredinol ei don. Dywed lawer o wir yn ddiau, ond gwir cymhwys at lawer. Rhaid wrth lygad oraff a medr a dawn i osod cymeriad gwr ifanc yn ddigamsvniol ger ein bron. Ar yr un pryd y mae llawer o deimlad tyner a hiraeth dwys yn y pennillion. <1)Iyfyr Hiraeth."—Dyma fardd a chryn lawer mwy o'r awenvdd ynddo nac "Is yr Ywen." Gresyn na fuasai wedi cadw cymhariaeth y rhosyn yn ei blaen yn hwy; buasai hyny yn rhoi mwy o newydd- deb yn ei bennillion nac a geir. Bradvcha hwnt ac vma nad yw ei feistrolaeth ar iaith a chystrawen Gymraeg yn hollol. Ceir enghraifft nodedig o hyny yn arddull a mynogiant y pedair llinell cyntaf yn y jpedwerydd pennill thrachefn yn y ddwy linell gyntaf o'r pennill olaf ond un. Dylasai'r glust ddysgu iddo mai y ffurf gywir ar y ferf fuasai "cawsent" ac nid "caem." Mae gwallau o'r fath yma yn tynu oddiwrth werth y pennillion hyn. Mae'r cyffelybiaethau a ddefnyddir ganddo yn rhy undonog, a rhai o honynt bellach braidd yn ystryd- ebol. Mae ganddo i feithrin y dawn o ganu mwy wrth farddoni. Wedi dweyd hyn carasem ddifynu llawer llinell hapus a meddwl prydferth, ond nid oes gyfle. DYFNALLT OWES. "Hiraeth Adgof."—Arweinir ni ar unwaith gan yr ymgeisydd yma i awyrgylch o fywyd sydd yn gweddu i'r ymadawedig, gallem feddwl. Mae rhyw- beth yn y farddoniaeth sydd yn cyfatteb i'r testyn. Cvmerodd lwybr tarawiadol a phriodol iawn i arwain i fewn. Nid yw yn peidio a bod yn awenyddol ar TTvd y pennillion; yn wir y mae rhai o'r pennillion, megis y pummed a'r seithfed, yn darllen yn nodedig o ffres a gafaelgar. -Ond nid yw yntau heb ei feiau. Fallodd ei ddawn llenyddol ragor nag unwaith, megis mown ymadreddion—"Gwelais e'n crynu," I fuchedd cMihafal," ac ereill. Mae yn y pennillion elfen gref iawn o swyn a naturioldeb. Amicu" Dyma gyfansoddiad glan llenyddol e: don. Xi iherrmr yr ymgeisydd hwn o feiau'r arighyfarwydd. Nid yw o awen mor gref a "Hiraethus Adgof" nid oes yma linellau sydd yn bachn yn y cof fel rhai o linellau hwnw. Prin y gellid dweyd fod troad ei feddwl yn farddonol. ond y mae wedi llwyddo mewn dull naturiol a d'ymdrech i roi portread syml o'r pur ieuanc a wywodd yn srynar. Llwyddodd i gynghaneddu'r ilwyd a'r goleu I i biethu eystudd a gorfoleM yn fedrus iawn yn ei hortread. Cadwodd yn agos at awvrgvlch y bywyd ifanc a qrollwyd, hyd y diwedd heb goll i dim o'i naturioldeb. ac y mae'n rhagori vn ei ddiwvg llen- yc'dol a bnrddonol ar bob un yn y gystadleuaeth, ac iddo y dyfernir y wobr. ————————

'IEISTEDDFOD GADEIRTOL TALGARREG

ARHOLIADAU GORSEDD Y BEIRDD

Advertising

LLANSADWRN A'R CYLCH

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

Advertising

NODION 0 ABERGWILl

PLWYF PENBRYN

BRWYDR Y GLOWYR

Advertising

EGLWYSI CYMRU A PHLAID LLAFUR."

ARHOLIADAU GORSEDD Y BEIRDD.

LLANDDOWROR A GRIFFITH JONES.

"HUR-GWEITIIWYR Y FFYRDD."