Skip to main content
Hide Articles List

17 articles on this Page

|NODION 0 ODYFFftYN COTHI

News
Cite
Share

NODION 0 ODYFFftYN COTHI [GAN "BRYTHON."] Llawenydd sydd wedi meddianu calonau amaeth- wyr diwyd glanau y Cothi a'r Tywi wrth weled y meusydd toreithiog yn tori dan yr awelon tyner, a gwenau serchpg yr haul, yn rhoi yni a bywyd new- ydd yn yr holl greadigaeth. Golwg brydferth sydd ar y dyffryn yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae Mehefin a'i hafaidd hin wedi taflu holl ddorau prydferthwch led y pen, a chyhoeddi mynediad helaeth i mewn i breswylwyr y glanau i gael un cipolwg ar natur yn ei gogoniant penaf. Naturiol y canodd y prif fardd Hwfa Mon, pan y swynwyd ef gan olygfa gyffelyb- "Mae'r adar man yn gan i gyd, Yn pyncio'u dawn am rawn yr yd; Breuddwydia'r gwartheg dan y pren, A'r borfa'n tyfu dros eu pen." Ac yn ngeiriau un arall o blant Ceridwen- Treigla gloewon ffrydiau Dros ei serthion ochrau, Chwery'n lion ar ei fron- Belydron haul y boreu; Natur fel y daeth hi allan, 0 dan law y Crewr ei hunan, Heb ddim ol llaw dyn yn unman, Dyma le i fardd. Ond rhaid i mi beidio llercian rhy hir ar lan y dw'r rhag ofn i un o geidwaid newydd yr afon fy nghymeryd yn lie un yn pysgotta a minau yn fy hurtrwydd yn gwybod yn nesaf beth i ddim am y gelfyddyd enwog. PONTARGOTHI. Dydd Sadwrn, y 5med, ar ol hir gystudd, gor- phenodd Mrs. Elizabeth Stephen, Crychgwyn, ei gyrfa ddaearol pan wedi cyrhaedd yr oedran tog o 75 mlynedd, a'r dydd Mercher canlynol hebryngwyd ei gweddillion marwol i fynwent Siloam, pryd y daeth lluaws o'i chyfeillion a pherthynasau i dalu y deyrnged'olaf i'r ymadawedig. Bu yn aelod ffyddlon yn Siloam er yn foreu, a glynodd a'i hysgwydd yn dyn dan yr arch hyd y diwedd; dygai fawr sel dros achos ei Harglwydd; yr oedd ei ffydd- londeb gyda'r cyfarfodydd a'r Ysgol Sul yn esiampl dda i ni sydd ar ol. Gwasanaethwyd yn y ty a'r capel gan y Parch. D. Curwen Davies; a gweddiwyd ar lan ei bedd gan y Parch. Isaac Davies, Nant- garedig. Heddwch i'w llwch. Gorphwysed bellach yn ei hargel wely 0 swn a dwndwr brwydrau'r anial fyd; Daw boreu gwynfydedig pan y deffry Ar ogoneddus wedd ei Phrynwr drud. Cawn rai efelychwyr i arwr haelionus gwlad Ve yn ein hoes ni, ac un o honynt yn mherson Mr. D. Daniel, Cefngwy^h, Llanegwad, pa un roddodd arch dderw ardderchog i'r ymadawedig uohod, ao un arall y dydd o'r blaen i'r diweddar Mr. Joseph Davies. Llethr, Felingwm. Caffed oes hir i wenu cymwynasau. Da genym weled y clcifion o Nantgaredig i Bont- ynyswen ar wellhad, ac allan yn rhodio yn yr hin gynhes, a gwen serchog ar ei gwynebau. "Y DDARBY GYMRAEG." Prydnawn dydd Iau, gallem dybied ein bod yn nghanol Llundain gan gymaint prvsurdeb y dyrfa a'r modur-gerbydau. Cafwyd diwrnod braf i gynal yr arddangosfa eleni, ac wrth yr hanes fod pethau wedi eu cario allan yn fwy trefnus a llwyddianus nag erioed. Ni chawsom hysbysrwydd faint yw yr elw arianol eto, ragor na'i bod yn "record." Yr oedd dynion iawn wedi ymaflyd yn y gwaith a sicrhau ei llwyddiant a'u holl egni, a chawsant gefnogaeth j foneddigion y cylch, a rhai o dref Abertawe. Irodd allan dvrfa luosocach o edrychwyr y tro hwn, am fod yr hin mor ddymunol. HOREB, NANTGAREDIG. Dydd Llun diweddaf, ymwelodd aelodau ysgolion Sabbothol Siloam a Felingwm a'r chwaer eglwys uchod, a dymunol oedd gweled yr hen wragedd selog wedi troi allan mor gryno yn ngwenau siriol haf i dalu ymweliad a mynydd Horeb, a chael tipyn o adloniant i'r corff ac ysprydiaeth i'r meddwl yn yr awelon iachus. Aeth y tair ysgol trwy eu gwaith yn rhagorol; y canu, yr adrodd, yr holi, a'r ateb yn dangos ol Ilafur, ac fod amynedd wedi cael ei pher- ffaith waith. Holwyd yr ysgolion gan y Parchn. N. Hopkins, Nantgaredig, a D. Curwen Davies, Pontar- gothi. Paratowyd yn helaeth ar gyfcr angenrheid- iau gan fobl garedig Horeb, fel arfer. Daeth lluaws o wrandawyr ynghyd, am fod yr hin mor ddymunol, a chafwyd gwledd dda. Da oedd genym weled un Eglwyswr selog, yn ol ei garedigrwydd arferol, yn rhoddi gwasanaeth ei gerbyd er cludo rhai o ddeil- iaid ysgol Siloam. Mae yn dda cael ambell un a'r gariad brawdol yn gryfach na'i sel. [Daetn yr uchod i law yn rhy ddiweddar i ym- ddangos yn ein rhifyn diweddaf. Yr y'm yn myned i'r wasg a'r ddalen Gymreig boreu dydd Mercher.] EISTEDDFOD FFYNNON Y BYRGWM. Dydd Iau, y 17eg cyfisol, hawdd oedd deall fod llwyddiant yn coroni ymdrechion y pwyllgor, a chymydogaeth Brechfa wedi d'od yn enwog wrth weled y torfeydd oedd wedi d'od yno o bob cyteir- iad. Cafwyd cystadleuaeth ragorol mewn llenydd- iaeth, cerddoriaeth, a chelfyddydwaith, a buwyd yn ffodus iawn ar ddiwrnod braf i gario allan y gweith- "rediadau. Da genym weled fod y pwyllgor yma yn dangos cystal cefnogaeth i'r iaith Gymraeg. Fy iaith, fy ngwlad, fy ngenedl, fyddo yn aros iddynt yn arwyddeiriau o'u brwdfrydedd. Mr. Dan Davies, Brynamlwg, Nantgaredig, gafodd yr anrhydedct o cistedd yn nghadair y bardd buddugol absenol fel cynrychiolydd, a daliodd i fyned trwy y seremoni yn rhagorol, er fod "A oes heddwch?" a chleddyf noeth yn chwifio uwch ei ben. Felinwen oedd y buddugol ar y prif don, a dechreuodd un bardd ganu iddo fel yma, ond diffoddodd goleu yr awen cyn myned yn mhellach na hyn- Dan arweiniad Daniel Evans, Mae cor enwog Felinwen Wedi myn'd a'r clod a'r arian, I' Rhowch y goron ar ei ben. BRECHFA. Llongyfarchwn Mr. Thomas, Tanyrallt, fel bach- gen ieuane gobeithiol yn ei waith yn cipio y brif wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethoi am "butter print." Nid hon yw y waith gyntaf i ni glywed am lwyddiant y teulu adnabyddus, a gwelwn nad yw talent a gwreiddioldeb ddim yn alltudion o gesail- iau'r mynyddau. LLANEGWAD. Gofidus yw genym gael y newydd pruddaidd am farwolaeth sydyn Mrs. Jones, anwyl briod Mr. Geo. Jones, saer ac adeiladydd, o'r pentref uchod, yr hyn a gymerodd le prydnawn dydd Iau, y 17eg, ar ol byr gystudd. Cydymdeimlwn yn fawr a'r teulu trallodus a'r perthynasau vn eu galar, a nerth gaffont 1 sylweddoli fod Tad yr'amddifaid yn fyw, a gwenau serchog i'r goleuni clir sydd tu hwnt i'r cwmwl tywyll. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys y plwyf. NANTGAREDIG. Bu y Parchn. Isaac Davies a D. Curwen Davies yn cyfnewid pulpudau y Sul diweddaf. Pregethau grymus ac effeithiol a gafwyd.

Advertising

NODIADAU.1

Advertising

YMA AC ACW

IEISTEDDFOD GADEIRIOL FFYNNON…

LLANSADWRN A'R CYLCH

Advertising

0 SIR I SIR

BRYNGWENITH, HENLLAN

Advertising

! DYFFRYN TAWE I--

CYMDEITHAS AROLYGWYR IECHYDOL

---_.----PLWYF CILRHEDYN.

BRYN YWAN

MYliYDD CERRYG

Advertising