Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
At ein Cohebwyr. 1
At ein Cohebwyr. 1 EISTEDDFODAU PANTDEFAID A LLANDYS- SUL.—Cyanabydda pawb ein bod wedi cy- hoeddi digon, os nad gormod, o ohebiaeth- 811 mewn perthynas i'r eisteddfodao achod am hyny, boed i'r beirdd sychu eu hysgrif- binau ar unwaith. ETHOLIAD BWRtD YSGOL LLANARTH.— Nis gallwn tcyhoeddi llythyrau i or-ganmol un ymgeisydd a chondemnio ymgeiawyr ereill. Credwn fod yr etholwyr yn adnabod j deuddeg sydd ar y maea, ac hefyd y bydd lddynt ddewis y naw mwyaf cymwys ohon- ynt wasanaethu fel aelodau o'r Bwrdd Ys- gol
Hwnt ac Yma.| ■I
Hwnt ac Yma. Cyn fod bias gwledd Dolaucothy wedi myn'd o'n genau, dyma ni yn cael gwa- hoddiad i wledd arall, gan Mrs G. Ll. Davies, Sheffield (Perthneuadd). Ar ei chais, yr oedd nifer o wragdd a merched Canolbarth Ceredigion wedi gwau wmredd o socasaa i'w hanfon i adran o'r Fyddin yn y Transvaal. Er mwyn dwvn y boneddig- esau ynghyd arael diolch iddynt am eu parodrwydd, gwahoddwyd hwynt i wledd ardderchog o de a theisen yn ysgoldy Trefilan. prydnawn Sadwrn, yr 8fed. Yr oeddwn braidd yn swil i dderbyn ei gwa- hoddiad, gan yr ofnwn fod, efallai, gwedd boliticaidd ar y fuanes, ond pan ddeallais fod Blaenplwyf ymhlith y gwahoddedig- ion, a'i fod wedi bod yn flaenllaw iawn busnes y socasau, meddyliais y gallwn fentro myn'd. Yr oedd yr ysgoldy yn llawn, a'r byrddau yn llawn or dysgleidiau mwyaf melus, a mwy na digon i'r un nifer wed'yn, pe wedi d'od, gyda chroesaw a serchogrwydd anghyffrediu. Cynorthwywvd Mr03 Davies wrth y byrddau gan Mrs Sale (ei merch), a Mrs Edmunds. Pan yn dio!ch iddync, torodd ilawr ymron wrth son am ei bachgen dewr Parry—ei hunig fab—yr hwn sydd ar faes y rhyfel, ac yr oedd dytnuuiad pawb y cawsai ei weled eto'n fyw ac iach, a sihrydai modryb Dderigaron yn fy ymyl, wir maehgen bach i 1— Mae gobaith gwr o ryfel, Oud nid oes dim nlr bedd.' Wedi ychydig seibiaot dyma Llwyd Llanden ar ei draed gan ddweyd ychydig eiriau pwrpasol a begi > pardwn Mrs Davies am siarad yn Gymraeg, p:m yn gwneyd araeth fer, ond nid o-dd dim gwahaniaeth ganddo bryuyddu yn y Saes,leg, a dyma fel y canodd :— All hai! to all true Welshmen And to the women more. As we remember Fishguard, And its defended shore. There's still in British women The spirit of the old, To-day we see it plainly As genuine as gold. All hail tn all true Britons No matter of what creed, We all will tight for England In any time of need But Witr, though very coatly Of life and treasure is, When figutiijg other nations,: We must prepare for this. Cafodd hwre fyadarol fel bardct breiniol y Dyffryn. Rhoddwyd diolehiadau cynes i Mrs Davies am ei gwledd odidcg, ac ym- wananwyd. Gyda Haw, mae'n ffaith sydd werth ei chroniclo fod y pedair cenedlaeth i'w gweled yn nheulu Perthneuadd, rri chwpl yn gyflawn ac yn wir, 03deilyrhen bobl mor siouc ag ydynt am dipyn L-ach, a'r etifeda i gynyddu fel y gwna yn awr, synem ddim na cheir gweled y pedwar cwpl gyda'u gilydd—Mr a. Mrs Davies, Perthneuadd Mr a Mrs G. Davies, Sheffield; Mr a Mrs Sale, Birmingham a'r etifedd ieuanc, yr hwn sydd hyd yn byn yn sengl. Nid wyf yn cofio bod yn ysgoldy Trehlan yr un pryd a modryb Perthneuadd ond unwa.ith o'r blaen. Yr wyf yn ei gweled y funyd yma ar ganol y llawr. gyda dyrnaid o aywys o Fronfach, DId wedi eu crynhoi ar ol y t'edel ddim, ond fel ffrwyth drygioni nifer o blant ystrywgar oeddynt wedi d'od dros 1 1'vybr y Fron y horeu hwnw i'rys^ol. Tebyg I fod yr ysgrifenydd yn un ohonynx, arhwng llygaid tanllyd m ldry b. a chansen Aerob- ian,' gwnaed argraff ddofii, ac y mae wedi aros hyd yn awr. Mae'r hen athraw. a nifer o'm cydysgol- heigion yr amser hwnw, wedi blaenu yr 1 hen a'r ddwy «ycamorwydden fel cynt. Drwg srenym ddeall nad yw iechyd Miss Evans, yr athrawes, yn dda—mae wedi gorfod rhoi heibio gweithiodros dipyn. i Hyderwn y daw yn fnan. Cof gan rai o'ch darllenwyr am gais Granelliaa J er's ychydig amser yn 01 at Lwyd LIunden' i ofyn bisto, a'i ateb yntau. Wedi hyny, mae'r ohebiaeth bost- cardyddol hou eto wadi pasio rhyng- ddynt :— ddynt :— Yn rohalas gwych y Dderi Bu Haidee fach yn caru Canlyniad fu 'chwanegu'r ach o bedwar bach i'r tenlu. Mae Haidee wedi dvfod A phedwar bisto' hynod 'Rwy'n 'mofyn sofren am bob ci Er mwyn i ti gael gwybod. Hel wybnd 'nol yn fuan Os wy" am un. Granellian Gwyddel '.perfiFaith o ach yw'r tad, A thyna had y fechan. Ei nyth sydd yn y 'sg ibor, A'r drws ga'dd ar gil agor Lladdodd geiliog a'r cwrcath Twm Heb gymorth plwm na phylor. Yn abaenoldeb digwyddodd 'Granellian fyned i gael golwg ar y cwn ryw ddiwruod, ac wedi bod yn fa-owl a chael eglurhad boddhaol, cyfarchodd ef yu ol fel byn — Mae punt am fisto'n urmoel, A hwnw'n lladd dofednod Paham na byddai'r tad yn fyw ? Gyflawnodd ef ryw bechod 1 'Does genyf yn dy 'sgubor 'Run ci ar hyn o dymor A phunt am ast, a'i phrynu'n gl, Ni chei gen i, 'rhen 'scolor. AT EIN TIRFEDDIANWYR. Mae'n hysbys i ffermwyr y wlad fod y Royal Show i'w chynal yn Caerdydd yr wythnos neaaf. Nid yw'u y daw byth l Gymru IDvry, gau fod y Pwyllgor wedi trefnu iddi gael ei chynal yn yr un fan bob olwyddyn ar ol eleni, sef Ealing, ger Llundain. Cof genyf am y Royal' yn Caerdydd yn 1872, pryd cafodd Aeroniau,' tarw Glan- wern, y brif wobr, ond nid at hyny 'roeddwn am gyfeirio yu awr, 'Rwy'n cofio hefyd i'r diweddar Filwriad Lewis, Llan- llyr, dalu cludiad pob un o'i denantiaid i'r Shoiv. Dyma gam yn yr iawn gyfeiriad er's deng mlynedd ar hugain yn ol. Faint o'n tirfeddianwyr wua hyn eleni. tybed I Cawn weled. Ewch yno bawb, gwna tri diwrnod o wyliau, a gweled yr anifei!iaid goreu, les mawr i chwi.
ABERARTH.
ABERARTH. TY-DORIAD — Tra yr oedd teola PwllgUs, ger y lie uchod, yn y capel yn y cwrdd chwech dydd Sul, y laf cyfiaol, gwnaeth rhyw ddyhiryn ei ffordd i mewn i'r ty. Pan ddaethant adref, cynwysedig o ddan mewn gwth o oedran, sef Mr a Mrs John Davies, cawsant ddrws y ty yn llydan agored—pob clo oedd yn y tj wedi ei agor, y ty wedi ei gloddio trwodd, a phob peth yo yr annhrefn mwyaf. Ond er y cyfan, ni welwyd ond ychydig afalaa yn eisieu. Gwelwyd dyn yn llercian yn ystod y dydd yn y caean gear- llaw gan gymydogion, ond hyd yn hyn nid 088 yr un goleuni wedi ei gael ar y weith- red. Hyderwn y daw yr enog i'r ddal& yn luau.
tYRER.
tYRER. CYFARFOD DTTWESTOL. — Nos Ian, Mehefin 6ed, cyrinaliwyd cy far fod dirwestol yny lie uchod. Y mae llwyrymwrthod oddiwrthbob aath o ddiodydd meddwol yn dyfod yn arferiad pur boblogaidd yn y lie uchod, a gwnaethant gaia at y cyfarfod j doabarth i anfon areithwyr dirwestol i'r lie i geisio cryfhau dwylaw y gweithwyr lleol, a hefyd, os yn bosibl, i enill eraill i fod yn llwyrymwrthodwyr. 0 Whitland daeth. gwr ieuanc sydd yn wynebu ar y weinidog- aeth o St Clears daeth y Parch J. B. Thomas, a chydag ef Mr Beynon, yr hwn hefyd yn ddeheuig iawn a lywyddai y cyfarfod o Mydrim daeth Mr Thomas, Bwlchygwynt, ac o Cwmbach daeth Mr Evans, yr ysgolfeistr, yn gyindeithion i'r hwn hefyd y daeth Mr Henry Jones, Uwm- coch ? a Mr Reynolds, Cwmcelli. Cafwyd areithiau hwylus a phwrpssol iawn gan bob un o'r brcdyr da uchod, a diswylir i'r had da a hauwyd i gael dyfnder daear. Yo y prydnawn, cafwyd cytlawnder o de a bara brith, ac yn ol pob ymddangnsiad yr oedd pawb wrth eu bodd. Tyfed egwyddorion llwyrymataliad yn y wlad yw dymuniad -jjirwestwr.
LLANCRANOC.
LLANCRANOC. LLWYDDIANT.—Dyma bentref Natur. Dyma gartref rhammt a cherdd. Dyma fagwrfa enwogion o bob dosbarth. Dyffryn yn llawn o arddunedd, a mrlwredd, a phryd. ferthwch yw Dyffryn Crano^. Y to. oriau yr haf y mae miloedd o ymwelwyr yn ymweled a'i ymylon tangnefeddus i rodio llwybrau gwyrddleision anian, ac yfed awelon balrn- aidd y raor eangwyrdd sydd yn chwareu mor ardduool rhwng y muriau oesol a tura- gwyddol yna a osodwyd i lawr er y cread. Nid rhyfedd fod enwogion ya codi o'r lie hyfryd hwn y iuae hwn fel awel o wynt i dan oiawn,—os bydd neb ag adnoddau a chynheddfau clod ac enwogrwydd ynddo, y mae Llangrauog yn awel hyfryd i'w gyneu, ac i'w hyrwyddo i binacl anrhydedd. Testyn y fro heddyw ydyw llwyddiant y brawd dewr, Mr Evan Eirwyii Davies, o'r dyffryn hwtJ. Y mae Mr Davies wedi dyfod allan ar y blaenaf o'r arho'.iad diweddaf, a chyn hir boed iddo gyraedd ei nod anrhydeddus, ef graodio mewn Duwinyddiaeth. Ni raid cryb»vyll am Mr Eirwyn Davies fel cerddor chwaith y mae wedi Uwyddo hyd yn hyn fel arweinydd corau, &c. Dymuniad pob gonest gaion yw llwydd iddo, a 1y¡ed y dyfodol yn llawn o raffau addewidion iddo afael ynddynt nes cyraedd piuacl derch anrhydedd.—Cranog.
CASTELLNEWYOD EMLYM.
CASTELLNEWYOD EMLYM. BWRDD Y GWARUHEIDWALD. Dydd Gweaer, y 14eg cyfisol, cynhal- iwyd cyfarfod pythefnosol y Bwrdd hwn mewn ystafeli yn y Tlotty. Yr oedd yn bresenol y Parch Prebeudari R. J. Lloyd, rheithor Troodyraur (cadeirydd), ynghyd a'r aelodau canlynol :—Mrs Evans, Esgair, Penbryn Dr T. A. Evans a'r Parch T. A. Thomas, Llandyssul Mri G. M. Williams, Geilygatti: B. Davies. Blaenythan W. Jones, Pencraigwen A. E. Jeremiah, Gil- f^.chgweision T. Davies, Cilwaanydd-fawr; T. Barrett, (Jr-.)S3 Yale E. Thomas, Coed- llwyd D. Bowen, Troeayrhiw W. Marks, Pcnyrallt J. Rees, PI-isnewydd; E. Davies, Jfforest D. Thomas, Feiingwm; T. Davies, Ffactri Glantalog E. Davies. Gilfachrouw; J. Davies, Pcntgarreg H. Davies, Sych- nant D. Jones, spring Gardens, Folindre T. Thomas, Peuweru D. Jones, Felin- court; J. C. Jones, Castelinuwydd-Emlyu T. Davies, Bronwion J. Griffiths, Gwn- dwn j. Jones, Bwichclawdd G. Davies, Ailtye .rdde Dr Lloyd, Adpar, a Mr W. E. George, ysgrifeaydd. Adroddiadau y jiheidweinyddiou.—Dar- llenoud y Mri J. Thomas a D. Jones, y rheidweinyddiou, eu rhestiau cyoorthwyol. Yr oedd y blaeuaf wedi talu yn y bythefnos 72p 18a 10c i 294 a 289 o dlodion, a 4p 8s i dlodion o Undebau ereill a'r olaf wedi talu yn y cyfryw amser 76p 16s 6c i 290 o dlodion, a 4p 4s i dlodion o Undebau ereill. Tlodion yn y Ty.—Yr oedd 19 "dlodion yn y Ty yn yr wythnos gyntaf o'r bythef- nos, a 17 y yr ait wythnos, ar gyfer 14 a 15 yn yr un auiser ddeuddeng mis yn ol. cyfryw yr oedd tri yu egwan eu meda- yliau. Crwydriaid.—Yr uedd 47 o grwydriaid wedi bod yn y Tlotty yu ystod y bythefnos, ar 18 yn yr un amser y flwyddyn ddi- weddaf. Yn Llatc y Trysorydd.—Yr oedd yn 11aw trysorypd yr Undeb y SWill o 2,000p 10s Ie. PLygyrhiw, Penboyr. — Cynygiodd Mr Davies, Gilfachrouw, fod y rheidweinydd yngnyd a'r gwarcheidwaid y plwyf, i wneyd archwiliad ar y pethau ac sydd yn y Ty ar ol claddu y gwr a'r wraig o'r dwymyn y typhoid, ac wedi gadael plJmp o blant yn amddifaid. Bu ymryson lied boeth thwug rbai o'r aeloaau a'u gilydd mewn cyrfylltiad ag i ba ysgol ddyddiol yr oedd y plata i fyned. Yr arferiad oedd i'r plant ag oedd yn y Tlotty fyned i'r Ysgol Genedlaethol sydd yn y dref.—Cynygiodd Mr Davies, Alltycordde, fod y plant i fyned i Y sgol y Bwrdd.—Cafodd ei eilio gan Mr Davies, Fforest, a chytunwyd.—Cynygiodd Mr* Evans, Esgair, fod y plant i fynychu ywasanaeth grefyddol ar y Sabbath i'r lie o'r un enwad crefyddol rhieni, sef Bedyddwyr.—Cafodd ei eilio gan y Parch T. A Thomas, a chytunwyd yn unfiydol. Gwyliau i Ftistres y Tlotty.—Cynygiodd Mrs Evans, Esgair, fod gwyliau yn cael ei roddi i Feistres y Tlotty.—Cafodd ei eilio gan Mr Davies, Blaenythan, a chytunwyd ar hyny. Gwruig Orphwyllog ynMhlwyf Penbryn. —Hysbyswyd fod gwaig orphwyllug yn y plwyf hwn, ac fod angen ei danfon i'r gwallgofdy.—Cynygiodd Mr Davies, Alltv- cordde, fod yr achos i gael ei adael yn Haw y teulu i'w benderfynu, ac fod yu ddrwg iawn ganddo am yr amgylchiad.—Cafodd ei eilio, a chytunwyd yn unfrydol. Anrhydedd ir Cadeirydd.—Yr oedd y Parch Prebendari R. J. Lloyd wedi cael ei wahodd i fod yn gadeirydd yny gynhadledd nesaf a gynhelir yn Abertawe o gynrych- iolwyr Byrddau y Gwarcheidwaid. VJafodd ei longyfaach gan yr holl Fwrdd am y fath anrhydedd. Nid bob amser y telir anrhydedd i broffwyd yn ei wlad ei hun ond y mae yr Hybarch Mr Llord yn eithriad. Efe ydyw Grand Old Dyffryn Troedyraur. PWYLLGOR MYNYCHIAD PLANT YR YSGOL. Ar yj un dydd cynhaliwyd cyfarfod misol y pwvllgor. Yr oedd yn bresenol Mr E. Davies, Gilfachronw (yn y gadair), ynghyd a'r aelodau canlynol — Mri 1. Jones, Bwlchclawdd; J. Griffiths, Gwndwn E, Davies, Fforest J. Rees, Plasnewydd H. Daviaa, Sychnant; D. Jones, Spring Gar- dens D. Jones, Felincourt D. Bowen. Troedyrhiw, ac ereill.—Darllenodd y Mri D. Joues a J. Thomas, swyddogion pre- senoldeb y plant, eU hadroudiad.ui misol. Nid oedd Sarah E. Rees, Cluncoch, Llan- granog, yn mynychu yr ysgol yn rheolaidd. Yr oedd ysgol Saron, Llangeler, wedi cael ei chau i fyny oherwydd fod amryw o'r plant yn y pas.—Cytunwyd yn unfrydol i gyflog yr Ysgrifenydd fod yn 5p y flwyddyn, fel ag yn flaenorol.—Nid oedd dim arall o bwys o flaen y pwyllgor. CYNGOR DOSBARTH GWLEDIG CASTEIL- NEWYDD.EMLYN. Ar yr an dydd, yn y Tlotty, cynhaliwyd cyfarfod misol y Cyngor uchod. Yr oedd yn bresenol Mr G. M. Williams, Gelligatti (oadeirydd) Mr W. Jones, Pencraigwen (is-gadeirydd); Mri A. E. Jeremiah, Gil- fachgweision T. Davies, Cilweunyddfawr H. Davies, Sychnant D. Jonea, Spring H. Davies, Sychnant D. Jones, Spring Gardens D. Jones, Felin Court; T. Thomas, Penwern J. Davies, Pontgareg T. Barrett, Cros3vale T. Davies, Ffactri Glantalog; T. Williams, arolygwr y ffyrdd; J. Bowen, arolygwr iechydol; a Dr Lloyd, meddyg iechydol. Pont yn Currn morgan.—Un cyoyg oedd wedi dyfod i mewn am wneyd pont uewydd yn y lie hwn, a chan e: fod yn cael ei ystyr- ied. yn uehel, cynygiodd Mr Jeremiah fod yr aichos i gael ei uhirio am DB, -Cafocld ei eilio gan Mr Barrett, a chytunwyd yn un- frydol. Deiseb oddiwrth drigolion Pontwelly.— Cymerwyd i ystyriaethy ddeiseb, a chynyg- iodd Mr Barrett fod caniatad yn cael ei roddi i ddodi pitell i )awr i arwain y dwfr hyd Cilgwyn Bach.—Cafodd ei eilio, a chy- tunwyd yn unfrydol.—Cynygiodd Mr Jonea, Pencraigwen, fod y Cyngor i dalu haner y draul.—Cafodd ei eilio gan Mr Jones, Felin I Court. 4faenglaiodd Penbryncoch. —Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr Jones, Boncath, goruchwyliwr Mr Saunders-Davies, Pentre, yn gofyn 12p am geryg o'r maenglawdd, hwn. Eglurodd arolygwr y ffyrdd yr holl amgylchiad, a chynygiodd Mr Jeremiah fod dwyigeiniog y llath i gael eu;tala.—Cafodd ei eilio gan Mr T. Davies, Cilwaunyddfawr a chytunwyd yn unfrydol. Felly bydd y swm ddyledus oddeutu 3p 15s. Crymfa yn Mhencader.—Cynygiodd Mr Barrett fod crymfa (wlvert) i gael ei gwneyd i^rllaw Ysgoldy y Bwrdd yn y lie uchod. Cafodd ei eilio gan Mr Jones, Pencraigwen, a chytunwyd yu unfrydol. Mynegbyst (Fingerposts).—Rhoddodd Mr Davies, Sychnant, rybudd y byddai yn y cyfarfod nesaf yn cynyg penderfyniad i gael mynegbyst newyddion yn y lleoedd yr oedd rhai yn flaenorol gan fod y cyfryw allan o gyweiriad. Arolygwr Iechydol.—Darllenodd Mr J. Bowen, yr arolygwr iechydol, ei adroddiad. Yr oedd wedi bod yn ymweled a Cenarth, Drefacii a Yelindre ddvvywaith. Yr oedd gwir angen am ddwfr at wasanaeth deulu- aidd yn Pontwelly, Llandyssul, ynghyd a diogeiu y dwfr rhag pethau anmhur yn Mhentrecaga], Penboyr. Yr oedd wedi bod yn ymweled ac amryw o leoedd eraill, a phenderfynwyd wedi, amryw rybuddion. MARCHNAD. Dydd Gwener, Mehetin lleg.—Yr oedd y prisiau fel y caniyn :—Pyre (yn fyw), 6c 9c yr 20 pwys perchyll, o 8 i 10 wythnos oed, o 18s i 22s y pen defaid (yn fyw), o 3c i 3ic y pwys wyn (yn fyw), 4ic y pwys Hoi (yn fyw), 3tc y pwys ffowls ieuanc, o 4s i 5c y cwpl hwyaid (wedi eu lladd), a 2s 6c i 38 yr un ymenyn ffres mewn rhol- iau, Is y pwys eto mewn llestr, o IOtc i 101c y pwys.
! ABE RAERON.
ABE RAERON. PKIODAS.—Dydd Iau, y 13eg cyfisol, unwyd. mewn glan briodas yn Eglwys Llandudoch, Aberteifi, Dr J. C. Rees, Trefdraeth Imab y Cadben Rees, LovAsa, Aberaeron), a. Miss May Davies, merch henaf Dr Davies, Aberaerou. Yr offeiriaid fu yu gweinyddu y ddefod oeddent y Canon Evans, Llanddewi-Aberarth y Parch Alban Albao, rheithor y Bridell (ewyther y briodasferch), Parch D. T. Alban, curad St Pedr, Caerfyrddin (cefader y briodasferch), Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan ei thad y morwyn- ion priodesol oeddent Miss Annie Davies (chwaer y briodasferch), a Miss A. E. Rees (chwaer y priodfab) a'r goreu oedd Mr Gwilym Rees (brawd y priodfab). Cat^.yd noreufwyd flasus yn Plasnewydd, preswyifod y Parch A. Alban, ac yn fuan ar ol hyny cychwynodd y par ieuain am GaerJydd ar eu ffurdd i Lundain i dreulio eu mis mel. Yr oedd yr anrhegion dder- byniasant yn lluosog a drudfawr.
LLANSEDR.
LLANSEDR. BWRDD Y GWARCHEIDWAID. — Cynhal- iwyd cyfarfod rheolaidd y Bwrdd dydd Mawrtb, y 14eg cyfisol. Yr oedd yn bre- aehol Mr. David Davies, Felindre (cadeir- ydd) y Parch R. C. Jones, Mri Lewis Davies, J. (J, Harford, David Price, John Davies, William Jones, Gelligarueddau John Jones. Teifiside Hail; T. Williams, Gwarnant; B. J. Evans, Llanfair-fach D. Davies, Tyncoed J. G. Marsden, Dr Abel Evans, Dr E. Thomas, a'r Clerc. Yr oedd Mr Bircham, Arolygwr Bwrdd y Llywodr- aeth Leol, hefyd yn bresenol, gan yr hwn y cafwyd anerchiad. Dywedai fod cyfrifiad o'r boblogaeth wedi cael ei wueyd er pan fu efe yno o'r bIden, ac yr oedd yn ddrwg iawn ganddo weled lleihad yn y cyfryw. Yn 1891 yr oedd poblo^aeth yr Undeb yn 9,684, ond eleni nid oedd end 9,256, lleihad o dros 400. Felly yr oedd yn gyffredin drwy yr holl barthau gwledig, ac yr oedd rhai ardaloedd yn dangos mwy o leihadna'r ardal hon. Yr oedd yn dda gauddo hefyd ) allu tystiolaethu fod lleihad yn nifer y tlodion yn yr Undeb. Yn y cyfrifiad di- weddaf yr oedd nifer y tlodion yn 327 (sef y rhai oedd yn y Ty a'r rhai oedd allan), yr hyn a ddangosai 3'7, neu yn agos i 3t allan o bob cant o'r boblogaeth. Yn awr yr oeddent yn 269, set 2'9, neu lai na 3 allan o bob cant. Da oedd ganddo allu dywedyd nad oedd llawer o blant yn y Ty. Nid lie i blant ydyw y Ty, er yr edrychir ar eu hoi yn ddil. yma. Yr oedd efe wedi bod drwyy Ty, a da oedd gauddo dystio ei fod yn un o'r rhai goren a glanaf yn yr holl wlad. Yr oedd gauddynt Feistr newydd, a hyderai y byddai iddo gymeryd dyddordeb yn ei waith. Yr oedd ganddynt hefyd Glerc newydd, a L-obeithiai y byddai iddynt gyd- weithio yn heddychlon. Y swm dalwyd i dlodion gan Mr D. Parry, y rheidweinydd, yn ystod y pythefnos diweddaf oedd 30p 16s i 115 o dlodion a chan Mr D. Evans 39p 3s i 128 o dlodion. Nifer y tlodion yn y Ty yw 20, ar gyfer 17 yr un amser y llynedd. Nifer y crwydriaid gynorthwy- wyd yn ystod y pythefnos yw 17 yn ystod yr un amser y liynedd, 20. CYGOR DOSBARTH LLANBEDR.—Cynhal- iwyd cyfarfod o'r Cyngor Dosbarth dan lyw- yddiaeth Mr B. J. Evans. Gwnaeth yr Ar- olygwr, Mr J. E. Thomas, ei adroddiad ac mewn cysylltiad i'r ysgolion, achwynai nad oedd ysgoldai Llanwenog a Cellan yn hollol foddhaoL-Mewu atebiad i Mr Birchatr, dywedai fod rhybuddion wedi cael eu dan- fon i Reolwyr Ysgol Llanwenog.—Mr Bircham Beth am y dwfr i Ysgoi Trefilan? —Yr Arolygydd a atebodd fod yr ysgoi yn parhau heb gyflenwad priodol, fod y Rheol- wyr yn teiml.T anhawsderau.mawriori i gael y cyfryw.—Mr Bircham Rhaid gwneyd rhywbeth i gael dwfr mae yn debyg fod rhai o'r plant sydd yn mynychu yr ysgol yn dyfod o bellder 1—Yr Arolygydd Ydynt, ac Did ydynt yn myned adref i ginio, eithr dygant fara, caws, ac ymenyn ganddynt i w > fwyta ganol dydd. — Mr Bircham Wel, dylic1 darparu dwfr pur iddynt i'w yfed, onide wrth yfed dwfr anmhur maent yn agored i afiechyd.—Gorchymynwyd i'r Ar- olygwr i gymeryd y mater mewn Ila N.
ISILIAN
SILIAN GWVL De—Dydd Gwener diweddaf, cynaliodd yr ysgoi Snlllchodei gwyl de flyn- yddol. Mae yr wyl bon yn hen sefydliad bellach yn einplith, ac edrychir yn mlaen ami gyda llawer o ddyddordeb. Yn ffodus, yr oedd yr hin yn bob peth ag a ddymunid. j Y boneddigesau ag a fu yn darparu yr ar- hvy ar gyfer y corff eleni oeddynt :—Mrs Jones, Gwarffynon Mrs Davies, Drenddu- fawr a Miss Hughes, Pantcoy. Ar o! f diwallu angenrheidiau y dyn oddimewn yn I yr ysgoldy, aethpwyd allan i gae cyfagos i ymarfer cyhyrau y plant drwy redeg a neidio, a rhanu cacenau a melusion i'r rhai goreu ohonynt, a phawb hefyd yn ddiwa- I haniaeth. Wedi myn'd drwy y seremoni arferol yma, cynhaliwyd cyfarfod adloniadol I I yn yr ysgoldy dan lywyddiaeth y Ficer, mewn canu ac adrodd, pryd y cymerwyd I rhan ynddynt gau aelodau yr ysgoi Sul a'r un ddyddiol. Cafwyd adroddiad hefyd gan yr ysgrifenydd pa rai oeddynt wedi cadw yn fwyaf cyson am y flwyddyn a baaiodd, ynghyd a gwobrwyon mewn llyfrau i'r rhai J hyny oeddynt flaenaf ar y rhestr mewn cy- sondeb. Credwn y dylid gwoeyd mwy o wahaniaeth yn y mynychiad, oblegid nid yr un fantais sydd gan y rhai k chaaddynt ryw lilldir a haner i'r Ysgoi Sul a'r rhai ryw lilldir a haner i'r Yagol Sul a'r rhai hyny nad oes ganddynt ond rhyw gant neu ddau o latheni. Yn ddiau, dylid cymeryd pellder y ffordd i ystyriaeth. Yn sicr, y mae clod mawr yo ddyledas i'r athrawon, ynghyd a'r arolygwr, am eo hymdrech di- fhiio gyda'r sefydliad daionas yma. Yr I Ysgol 801 ydyw nursery fawr ein heglwyal drwy y wlad.
CILRHEDYH.!
CILRHEDYH. YMWELIAD ESGOB Tr DDEWI.—Mae yn wir ddrwg genyf fod hanes ymweliad Esgob I Ty Ddewi (Dr Owen) wedi cael ei esgen- luso, ond fel y dywed yr hen ddiarab wirionediol. gwell hwyr na hwyrach. Talodd yr Esgob ymweliad ac Eglwys y Plwyf hwn ychydig amser yn ol, pan y daeth cynulleidfa luosog ynghyd i fod yn bresenol ir ei weinyddiad o Fedydd ar un-ar-hugain o bersonau. Yr oedd hefyd yn bresenol yr offeiriaid canlynol :— Y Parchn D. Davies, Ceuarth; J. Marsden, Capel Colman; T. P. Griffiths, Manordeify; — Lewis, Llanfyrnach W. Powell, D.G., Castellnewydd-Emlyn a'r Parch D. G. Phillips, rheithor y plwyt, pa un sydd yn uchel iawn yn meddyliau y plwyfolion, bob amser yn siriol, ac yn barod i gynorthwyo unrhyw achos daionus (ba pnwad bynag y perthynai). Meddianed gweinidogion y gwahanol enwadau ddeubarth o'i ysbryd mwynaidd a chariad lawn.
CAPEL I WAN.
CAPEL I WAN. YMWELIAD Y PARCH KERI EVANS,— Dydd Sabbath diweddaf talodd y Parch Keri Evans, Caerfyrddin, ymweliad a'r lie, a chafwyd dwy bregeth ragorol iawn ganddo. Credaf fod Mr Evans yn un o'r flaen fyddin ag sydd yn myned i arwain y byd yn y iawn gyfeiriad, trwy anog pawb i weithio allan eu hiachawdwriaeth eu hunain Mae oes y credu heb weithredu bron myned heibio rhaid hau cyn medi, a pheth bynag a hauo dyn hyny hefyd a fed efe.
:CROSS INN. |
CROSS INN. | LLADRAD.—Nos Fercher, yr wythnos ddiweddaf, bu rhai o fechgyn y fagddu yn ystwrian o amgylch Pantclynhir. Lladrad- asant amryw bwysau o gig o'r safe oedd wrth dalcen y ty. Cafwyd rhai olion ohon- ynt gerllaw Glynparc, yr hyn sydd yn tyst- iolaethu mai o gyfeiriad y go^'ledd rywle y daethant. Mae Cadben Evans wedi cynyg gwobr o 15s i bwy bynag ddaw ag enwau y Hadmn iddo. Hefyd, y mae yr heddgeid- waid ar waith, ac yn ol pob tebyg, cant eu dal cyn bo hir.—Moss.
LLIDIARDNENOC.
LLIDIARDNENOC. CYMANFA.—Yr oedd dydd LIun, y 17eg cyfisol, yn ddiwrnod mawr iawn yn y lie uchod. Rhwng naw a deg o'r gloch y boreu. gwelid tyrfaoedd yn d'od o bob cyfeiriad—ar feirch, mewn cerbydau, ac ar draed. Ar ol cawd allan fod cymanfa I ysgolion yn cael ei chynal yno'r diwrnod hwnw. Tair ysgol sydd yntjhylch y gymanfo hon, sef Gwernagle, Gwyddgrug, a Llidiardnenog, a daeth yr ysgolion yno yn iawn. Owrdd plant oedd cwrdd y boreu. Yr oedd gan bob ysgol bwnc gwahanol, a holwyd hwy gan y Parch P. H. Lewis, Gwyddgrug. Canodd y plane yn felus iawn befyd, pob ysol ar ei phen ei hun. Yr oedd ol llafur mawr i'w wel'd ar y plaut i ^yd—gwnaethant eu gwaith yn ardderchog. Yn y prydnawn yr oedd cwrdd y rhai hyraf o'r ysgoiion. 1 ddechreu adroddwyd Salm yn rhagorol iawn gan un o blant y lie. Yna aeth yr ysgolion at eu gwaith i adrodd y peuodau. Y maes llafur eleni oedd Thes. II. Hohvyd gan y Parch I E. B. Lloyd, BwichnewyJd. Yr oedd y cyfarfod h wn eto yn gyfarfod, rhagorol, a diau fod bendith yn siwr o'i ddilyn. Arweiniwyd y canu y prydnawn ran y Parch P. H. Lewis, a challwyd 'Hereford,' 'Martini,' 'Kilmorey,' a'r anthem, Eisteddai teithiwr yr oil o'r Caniedydd.' Cafwyd tywydd dymunol sirioldeb mawr gan gyfeillion Llidiard- nenog, a digon o fwyd gan y chwiorydd. Mwy na'r cwbl, credwn fod y nefoedd yn bendithio Hafur yr ysgolion. Rhwnii pob- peth, nid rhyfedd fod pawb yn edrych fel pe wedi eu boddbau yu fawr. Yn yr hwyr, traddododd y Parch E. B. Lloyd ei ddarlith ar i aynulleidfa fawr, a mwynhawyd y ddarlith yn neillduol gan bawb. Trefnwyd hon gyfarfodydd y dydd yn ddoeth iawn gan y Parch J. Davies, gweinidog yr eglwys.
HELYNT EISTEDDFOD LLANDYSSUL.
HELYNT EISTEDDFOD LLAN- DYSSUL. At Ohjgydd y JOURNAL. SYR,—L'nwaith eto a gaf ddweyd gair neu ddau wrth Sarnicol' a'r Jack Jumpers yma ? Yr ydwyf, o dro i dro ac o lith i lith, wedi deisyf ac apelio at amlygu ei reswm dros beidio crybwyll a chyfrif y ffugenwau am y beddargraffiadau cystadleuol yn Eisteddfod Pantydefaid eleni. Wrth gwrs, a rheswm, synwyr, a doethineb, y mae yn ddyledswydd arno fel beirniad i amlygu ac ateb y oofyniadau pwysig hyn. Ymddengys i mi nad yw yn prisio dim, nac yn yatyried barnu gwaith cystadleuydd yn ddim amgenach na phader p!entyn nen ymson gwrach. Y mae'r cystadleuydd wrth anfon ei gynyrch i'r beirniad yn hyderu cael barn gan fod clas- urol a safonol er gweled beth ydyw ei allu. Y mae Sarnicol wedi bod yn cystadleu- ydd mynych ei bun, a gwvryn burion beth ydyw teimlad cystadleuydd a dyledswydd beirniad. Yr unig beth sydd i'w wneyd yw, gan nad yw Sarnicol' yn ateb, gadael iddo yn llonydd i Twynhau ei hun fel beirniad. A rhag i'r un peth ddigwydd I eto, gofaled y pwyllgorau am feirniaid di- dderbynwyneb a chywir, ac yn wyr safonol, fel ag i ddyrchafu yr eisteddfod. Nis gwn i ddim am yr helynt ynghylch englyn i'r Aradr y llynedd, ac yn enw'r sobr mawr, paham na chyfodaiY Jack Jumpers yma yn brydlon ac yn nghynt ? Y mae'r cyfan wedi diflasu ar hyn o bryd yr aradr wedi ei rhoddi o'r neilldu v macs wedi ei fedi, a'r aradrwr yn ei fedd. Pabam I na cewri hyn yn amserol, ac nid ymbalfalu yn nwydwyllt, fel y gof yna yn euro yr haiarn wedi iddo oet i. Ond pa le y mae ^Tudwal,' druan nhoiu. ? Ainlwg oedd wrth ei ysgrifuu gwyntog nad oedd hir anadl ynddo ef i ddai poethder y frwydr. 0, eiddilyn pen wan. Y mae yult ddywediad. Pan y mae y wenci mewn cyf- yngder fod y rhelyw yn ymfrysioi'w noddi.' I Felly ynia. Daeth yma ddwy weuci hir- feinion, hyll, « phenderfynol i sngno gwaed adinysbyddu gwythienau; ondbuasai yn well I iddynt oedi ychydig, ac ymg.iddio yn eu haneddau tanddaearawl eleni eto, yn hy- trach nac yniw!:ii»ian dan wadi.au Petrel ac Eiliciad.' Oud y mae un ohonynt yn hyliach o lawer na'r Hall, ac wedi mabwys- iadu yr enw godidog hwnw, 'Ysbryd Gwrtb. eyrn.; O! ryfyg. Darllenais j lawer am Gwrtheyrn a'i amseroedd, ond ni thybiais erioed y deuai ei ysbryd i flino neb. Pa raid oedd i'r coegyn hwn fyned yn ol i'r hen amseroedd tywyll i chwilio am yabryd i ddychrynu pobl dros Cwmbwrdd- wch ? Buasai yu ei Ie yn gywir pe y mab- wysiadai 'Ysbryd TwmTymain' neu 'lanto Fflat.' Darllenais ei gynyrch, ac ya wir, rhaid i ymenydd dyu fod yn gauedig mewn gtvisg o ddur, cyn y geill ddal y fath ysbwrial. Y mae yn debyg iawn i'r hen Ysgotyn hwnw glywais yn canu :— Rama loli grima groaii, Scrauia iwla ly, Ilee syfrdanu fy ymenydd. Y mae yn holl ac ateb, cynyg ac eilio e; hunan drwy ei y-^grif, fel y oiywais ddyn meddw Ai myti yw Deio Penrhiw ? ie, Ai Penrhiw yw carcref Deio, &s. ? Yn ei fyfyrdodau nosawl y mae yn dyfod i'r penderfyniad nad yw ysgrifuu Petrel ac 'Eiliciad,' gynyrchion o gwbi. O! ynfyttyn twp, onid yw y aanadi yn iiyuyrch y ddaear, yn ogystal a'r grawnsypiau a Sospan fach yn berwi ar y yu. gjnyrch rhyw awen yu ogystal ag 'Acenioo hoff c&n y Nef' &c. Und nid ydyw dy gynyrchion dof, di-afael, di-awen, di-enaid, diamgenach nagyagrechiali pioden, neu rwehiad by;hod-daear. Hefyd mae'r 'Ysbryd' yn barnu ein hurdd golegawl, druan oboDO- Hysbys y dengys y dyn 0 ba radd y bo'i wreiddyn.' Gwraidd yr yabrydion, tylwyth y niwl talaeth nos ni ddyrchafwyd ef yn uwch na choleg Twm Penpentan, neu Twm Penwac Hefyd gwelwch fel y rnae am amlygu ei wybodaeth Roegaidd a Lladinaidd; y mae'n gwybod y geiriau Tartaros' a Rhada- manthus;' lie y clywodd y geiriau tryst- fawr yna, wrth tjlywed daa estron yn ymgomio onide ] O! benxvanyn anwadal Yr un nesaf welaf yw Tyssul.' Y mae ef yn fwy boneddigaidd na'r Yabryd ac yn fwy ar Ian dyn. Ond gofynaf i Tyssul i ba Ie ddichoa Tudwal' ehedeg i fyny i gymydogaeth ei frodyr i lys bombast, a thrawsder ar adenydd hunanoldeb a balch- der i fyoy ag ef fel barcud, ac na ddoed ei Ysbryd i flino neb drachefn. Y mae'r ddau gawr yma yn camsynied, ac yn camgymeryd llenyddiaeth i raddau helaeth iawn end am yr Ysbryd,' nid yw ef yn gwybod dim am englyn na chyhydedd, na gorchan na chorfan, na hyppynt na phroest oud daeth ef allan er dangos ei wrhydri ar faes dwli a mursen, o blaid ei gefnder ymadawedig 'Tudwal.'j Y mae ei frawddegau a'i wallau mor ami a chler ar nyth caseg a'i syniadau mor ddi-afael ac antiaturiol a chath a'i chynffon mewn pwll llaca. Os bydd i Ysbrydion ymddangos eto, bydd i mi agor vigorous bombardment o'r 12-powader, nes bydd i'r Tyssulians' gredu fod taranau pob oes yn rhuo yn un Ilef, a bydd i bob ysbryd ei ¡ gloewi' hi i wlad Annwn. —Yr eiddoch,&c., PETREL. LLANYBYTHER. Ae Olygildd y JOURNAL. SYR,—Gan nad ydyw Sylwedydd o Pen-y-gaer' wedi symud un mymryn yn nes yn mlaen yn ei lythyr yr wythnos ddi- weddaf, gyda goivvg ar ddyfod allan a manylion pob annghydweithrediad fel y ceisiais ganddo, ni wnaf yr wythnos hon ond cymhwyso dau ofyuiad iddo— (1.) Beth yw ei reswm dros anfoddloni i Dewi Dyar' i gitimol ein parchus Ficer yn fwy na chanmol pregethwr Ymneillduol? Y inae Dewi Dyar' wedi caumol y pregethwr yn yr un nodion, ond nid ydyw hyny wedi achosi un gwewyr iddo. (2.) Beth ydoadd yr achos, ac ar ysgwyddau pwy yn fwyaf neiilduol, y gorwedda y bai fod £ 32 o'r grant wedi eu colli y flwyddyn ddiweddaf ? Os ydyw yn gwybad haues gweithred- iadau yr hen Fwrdd yn dda, fel y gallem feddwl ei fod, efallai y cawn ni eglurhad ar y ddau ofyniad uchod. Fe hoffwn wneyd svlw ar lawer rhan o'i lythyron, oud ymataliar yr wythnos hon fel na byddo He ganddo i gyniwair oddeutu fel cleren oddeutu CD,O w ylJ, a phasio heibio i fy n^ofyniadau.—Yr eiddoch, &c., BYDDERIAN. EISTEDDFOD PANTDEFAID, 1900 A 1901. .As Olygydd y JOURNAL. I SYR,—Un waith etc yr wyf yn gofyn am le yn eich papyr haeddglodus i wrthsefyll y rhai a orchuddient ranau helaeth uhono yr wythnos ddiweddaf. Yr oeddwn wedi meddwl rhoi fy arfau i lawr hefyd, ond gan fod pryfaid o hyd yn poeni, rhaid i mi ym- drechu eu cad w i ftwrdd. Darllenais gy- nyrchion y ddau gawr yn fanwl, drosodd a throsodd, ac y mae genyf air o ganmoliaeth icldynt am wneyd marwuadau mor anrhyd- eddus i'r cyfaill talentog Tudwal.' Er iddo farw mews diffyg anadl, yr oedd wedi haeddu cael marvvnau. ac yn wir, fe gafodd rhai gorchestol. Gall orwedd yu dawel yn awr; erys ei enw lachareidflio yn ngwybr hanes pan fydd Dmas Lochtyu a'i phen i lawr, a Tyssul' ac Yibryd G'.vrtheyrn yn byw ar uwy ac eagyrn malwod. 'Ysbryd Gwrtheyrn,'neu ysbryd y Ilygud a'r gwybed, efallai, beth sydd wedi dy gynhyrfu ài, tybed ? Credaf y buaset yn falch erbyri hyn pe gallaaefc dyau dy wendid allan o'r holl Frythoniaid a'r JOURNALS. Ai nid oes peth yswildnd arnat wrth weled iaith mor fabanaidd, adiatael, a digelfyddyd o'th eiddo mewn argraff 1 Bum yn siarad ag amryw bersonau ynghylch dy ysgribl, ac yr oeddynt yn gofyn yn ddieithriacl pwy ywy kid yna sydd yn ysgrifenu dao yr enw Ysbryd Gwrtheyrn j Yr unig ateb nedd genyf oedd, Nisgwn i, oud tebyg mai rhyw blentyn wnaeth ysgrifenu heb yn wybod i'w fam, a thebyg ei fod wedi edifaru ir hyu wedi iddi weled y newyddiadur. Tu yma i lidiird y Corgam, lie gallaset ti ddal gair roor ddigynwys a didalent a'r gair 'ffei, ffei V—gair a ddefayddia BeD. bach am i Tommy daflu ei bel i'r Hyn. Os ceisio rhoi gwth i lenyddiaeth yw yr amcan, a'i chynal a'i chyfuerthu rhag syrthio yn ddi-fri rhwng dwylaw Uadron ac anoneatrwydd, rhaid i ti ddefnyddio iaith lawnach a chyf- oethocach na ffei, ffei,' a dyrehafu dy redel- yliau hedegog uwchlaw nythod llygod ac awyrgylch y gwybed, &c. Gau nad oedd genyt englyn i fewn i'r Aridr' (yr hwn yw sylfou dienaid eich baldordd), paham na adawset ti rhw ng y beirniad a'r cystad- leuwyr? Gan fod y peth mllr fychn, tueddir fi i feddwl fed 'Sarnicol' wedi gollwng y cyfan dros gof. Pe baech yn saethu er's blwyddyn yn ol i'r un j/raddau ag yr ydych yu bresenol, dichoti y gallasech ei godi. Gadewch i'r aradr beiiach, rhag cywilydd, i drin meusydd er cynyrchu I ffrwythau a'ch ceidw, Pyrff as eaeidiau, wrth eu gilydd. 'Tyssul eto—gwr wedi ei gynhyrfu hyd bedolau ei glocs, ond yn gallu rhe-di ei hun ychydig yn weil na'i frawd, a thrwy hyny yn gallu rhoi ychydig mwy o synwyr, ond yr un amcan a'i efaill Ysbryd.' sef ceisio yr un amcan a'i efaill Ysbryd.' sef ceisio amdditfyn llenyddiaeth a 'Tudwal,' a di. huno Sarnicol ;t'r un effaith a'r ymadaw- edig 'Tad\\j!'],' debyg iawn. Yr oedd I Tudwal' yn taro yr hoel bob tn), tueddai ef. Anhawdd credu hyny hefyd. Lie mae cyhyd yn myned i'r bon, yrite ? Y mae wedi treio amryw weitliiau pa bryd yr ymddengys ei blaen yu Mertbyr, ac y cyfyd Ily y aafonfardd o'i gell 1 Nid gwiw lddi) gan- mol gormod cyn y gwel ryw effiaith a daioni o'i lafur. Dyma un, Tyssul '-yr wyf yn credu fod ganddo fwy o hawi i yuidrafod a'r aradr nag sydd gau ei efaill, oblegid yr wyf yn cofi,) i mi glywed ei fod wedi cael cam- wri ynglyn a'r englyn yn yr eisteddfod hono. Ac y mae yn awr, wedi iddo enill yr englyn yn Aberbanc oien;, yn credu yn ddiamheuoi y dylai L'ael yr englyn hwnw. \Vrtb gwrs rhe.iwm. Diciion eich bod chwi, Ysbryd a Tyssul.' yn meddwi cau peuau pawb ar eich ymddiung08Uid cyntaf. Yr wyf—er yn | wan-—yn teiml<> yn ddigon sefyll chw:, os teg yw eich barnu wrth eich cy- nyrchion. Bombardiwch eto, os gwelwch y bydd hyny yn ddoeth, a dpuaf i'ch cwrdd dan chwiban.—Yr eiddoch, &c., EILICIAD. EISTEDDFOD PANTDEFAID. At Olygydd y JOURFAL. SVR,-Gilfynaf, efallai am y tro olaf, am ychydig gyfrwrts> o'ch tiewyddiadur poblog- aidd i draethu ychydig ar helynt yr eistedd- fod uchod ? Cychwynodd y ffrwgwd ryfedd hon drwy i Tudwal' ddweyd rhywbeth ynghylch yr engl'y[I hwnw i'r 'Aradr.' Wel. a siarad iaith rheswm a doethineb, nid wyf yn gweled dim aiian 0 le yu hyny ond cyn diwedd ei ysgrif tramswyddodd a chyfeil- iornodd aiLm n'i bwnc drwy gamliwio a phwyso eiitjlynion buddugol Llandyssul i'r Bidog.' Pe. b'ni Tudwal' yu dal at ei bwnc yn ddiwyro, ni fuaswn i wedfi dweyd dim wrtho ond felly y mae hi. Dialedd oedd hwnw, ac wedi cael magwraeth blwyddyn gyfan. ac wedi magu surni a di- gasedd fel gwisg yn y cyfamser. Dywedaf a. liais barn a chydwybod y peth sydd wir- ( ionedd ynghylch englyn i'r Aradr,' paham ). na, fuasech chwi, gewri cyhyrog, wedi ym- balfalu yu nghynt ynghylch y pwnc hwo ? Erbyn eleni y mae'r maes wedi ei fedi, yr aradr wedi ei gosod o'r ueilldu, ar aradrwr yn ei fedd, a siarad yn ddamegol. Paham nad arferasoch brydlondeb, 'Caro yr haiarn I tra byddo yn boeth,' ac nid ceisio curo yr haiarn nes delo yn boeth fel hyn 1 1 ddweyd y sylwedd am hyn, gan nad ateba Sarn- icol' chwi, peidiwch ymyryd dim ag ef. Gwendid y Cymry ydyw llafurio hyd at waed, a chysgu wed'yn. Eglnrwch y dir- gelwch a deonglwch y pwnc mewn iaith bur. Os digwyddodd hyn yn Mhantdefaid y llynedd, y mae yn ddangoseg eglar o'ch anwadalwch, a'ch diofalwch, a'ch dellni fod Sarnicol' yn dyfod, ac yn beiddio dyfod, i Bantdefaid eleni eilwaith i feirniadu bardd- oniaeth. Pan fo'r plentyn wedi sangu a mathru blodau'r ardd, ni chaiff y plentyn hwnw fynediad i'r ardd drachefn. Peid- iwch a chamsynied a chamgymeryd fy mod i yn amddiffyn Nid oes genyf fi yr un awgrym o amddiffyniad iddo. Y mae wedi pechu yn anfaddeuol yn fy erbyn i, sef gwrthod crybwyll na chyfrif fy ffug- enwau am yr englynion beddargraffiadol yn Mhantdefaid eleni. Nid oes genyf fi ddim i wneyd iddo nac i ddweyd wrtho, ond apelio at bwyllgor Eisteddfod Pantdefaid i geisio ystyried y pwnc hwu rhag ei ddyfod drachefn. Darllenais, a chefais ddifyrwch digyffelyb wrth ddarllen, yr ysgwau dychrynllyd, beiddgar, ffrwyth mursen, a gwyntog, a. ym- ddangosasant yn ngholofnau eich newydd- iadur y dyddiau diweddaf hyn. Gwyr pob dyn mai ffolineb, penwendid, a thrafferth fyddai i mi adolygu yr ysgrifau hyn. Mewn gair, y maent yn ymylu ar y cableddus a'r halog, yn enwedig ysgrif ddiweddaf Tud- wal.' Pe y chwelid y ddaear, a phe y dad- guddid cyflawnder y bydysawd, ni cheid creaduriaid a ffeithiau mwy iselradd i gam- euwi dyn—'hyll '110 &c. Mewn gwirionedd, beth ydoedd hynyna ond beiddgarweb, a dienaideiddiwch, a rhyfyg. Lienor yn ymdrin a llenyddiaeth, a noddi iawnderau y aenedl yu ddirodres,' meddai Tyssul,'yn arfer y fath iaith. Ai doeth fyddai i genhadwr esgyn i bwlpud i argy- hoeddi eneidiau colledig trwy offerynoliaeth drain duon, us gwenith, planed Mawrth, [ trol newydd, &c. Pe ystyrid pwnc a neges I 'Tudwal,' a fyddai neb yn iawn o ddweyd ei fod yn noddi, neu yn ymyryd a llenydd- iaeth ? Na, iaith y navvy a'r porthmon sydd ganddo, heb ddweyd yr un sill yn gelwydd. I orphen gyda. gofynaf iddo a ydyw yn credu fod cyfiawnder iddo ef i ymdrafod dim yn nghylch englynion ? id yw ef yn feistr ar y gynghanedd. Pa gynghanedd all ddangos yn y llinellau hyn o'i eiddo ?— Blwydd erioed heb pi luo, Ymguddied a gaded i.' Un dirym fel rhesymwr,' &c. Nid oes ryddid i undyn faldorpdi, nac yngan yr un gir yn nghylch englyn, heblaw ei fod yn gyfarwydd a chynefin yn hualau Dafydd ab Edrawnd. Pa ddoethineb fyddai i ladies Ceioewydd ddyfod i ddysgu Mari Plasbach i chwynu cenin, neu i Mari fyned i ddysgu ladies Ceinewydd i chwareu'r piano. Y morwr i driu rhaffau, a'r ffermwr i drin daear i ddal y wadd, a Dafydd Morganwg i ddysgu cynghanedd. I Etc, 'Ysbryd Gwrtheyrn,' er mwyn peidio gwastraffu dim ynghylch yr 'Ysbryd' hWH, rhoddaf ei sylwedd a'i fodulaeth allan meWll byr eiriau-Yf bryd daf, di-afael, di- awei;, di-enaid. Whishw yr i fro dy hun. Hwn eto yn gwybod dim am englyn na chyhydedd, na gorchan na chorfan, na hypyut na phroest. Gwr yn rhodio mewn tywyllwch a cbysgod ac yn cyfeirio ei draed i ffyrdd Awen ar brydiau i geisio tynu ein syl w ni, foneddig- ion yr Awen. Ond dyma fel y dywed yr awen am y bwganod :— i Bwganod wyneb gwynias—drwgleisiol ) Dreiglasant i'w trigias I'w hell darddell daw urddas Eugyl coll yn gas. F81 hyn y cyuganeddodd ihywun i fodau fel Ysbryd Rhyw gawr cryf yw'r rhegwr croes—yn ei fryd A'i frol drwy ei einioes Gwr ynfyd a gar anfces Bwli mawr—Balaam ei nes. Tyssul' eto, gwr wedi ei p-yfansoddi o nwy a marl. Sych ei gynyrch, a chein- tachlvd ei ynganiad, a'i ddialedd fel y Boer' o genhedlaeth i genhedlaeth. Y" mae yn llawn o ysbryd ac anian yr asyn :— A delw roed i lawer dyn Direswm ydyw'r asyn.' Hefyd dywedndd 'Tudwal' ei fod wedi: disgwyl ar i ond druan costiodd iddo wythnos gron i gyfan- i soddi y fath beth, nid englynion rnohonynt. Dywedodd Cynddelw' na ddylai neb cllw ei hun yn fardd cyn ei fod yn cyfausoddi mil 0 linellau mewn diwrnod yn rhwydd. Felly 4 Tud wal) gwell i ti g?flogi dy hun yn anifail deudroed i'r ffermwrs yn hytrach na syrthio i'r brofedig- aeth. Rhag yn wybod i mi fy hun, c) fan^oddais ychydig o englynion brou o'r un natur ag englynion ond gyda pharch i rinwedd ac i lenyddiaeth,ni chyhoedda.f ond un neu ddau ohonynt :— Tri brawd yn ceisio gwawdio,—yma syd 1 Mae awn yngyrnigo Yn eu bini, gan yinwingo Yn hyll eu drych mewn pwll fcro Loew-we:; addien llenyddiaeth,—eiiian- ferth Mei:;hrinfa L;wybodaetli,— Rh" newydd a chynvdd chwaeth A rho ddawn i farddoniaeth. Y mae 'Tudwal' wedi dangos i'r byd beth ydy-v. 4 Wrth eu ffrwythau yr adnabydd- wch hwynt.' Dywedodd 'Tyssul' y medrai eheieg mewn awyr uwch na mi; O! gelwydd beidd- j gar. Pa. le y mae'r awyr hono mewn tyllau tWfcb, a chyda'r 'sildyn,' M'trychniod di-nod. Dyna hwyut wedi eu pnS bac o gelwyddwyr, ffug lenyddwyr, a Phariseaid. Felly rhodiwn lwybrau rhinwedd a. moes, i a gochelwn yr estroniaid byn. Yr eiddoch, &e., PETREL.
RHYDDFRYDWR PABYDDOL. )
RHYDDFRYDWR PABYDDOL. ) When 1 see a Gathohc priest I see an enemy to h^rn'mity. DR. PARKER. (Parhad.) Mae Pabyddiaeth wedi damnio Dirifedi lu erioed, Ac ar ryddid barn yn taro Ei gcirmesol, dreisiol dr: ed Nid y Beibl na chydwybod Sydd yn 'tywys rieiliaid hon, Ond effeiriad llawn awdurdod A'i drorn, ddu, fugio'liol Run Pan yn nffUiriad Pabaidd j Gweiaf eiyn dynol ryw Er ei mewn urddau santaidd Gwneutbur lies i'r byd nid yw Rhagfarn, ysbryd plaid, a rhagrith Yu ei galon ddiras sydd; Armibynol farn Mldirn, Medd efe, ac ysbryd rhydd. Gwaradwyddo y ffyddl-->ni«.:d Ddarfu Awstin Fynach fawr, Pan yu dysgwyl i'w Bugeiliaid Blygu iddo hyd y llawr Graddol wasg u'r dyw ysugaeth Wnaed dan y Babyddol ian, Ac fe welid penarglwyddiaeth Rhufain ynddi yn cryfhau, Ebai Latimer with Ridley Yn y dwya ferthyrol dan, Bydd yn wr, dy ddalffyny Wnelo dy gydwybod Cynneu canwyll rhyddid crefydd Yma ydym Di yn awr, Dan amddiffyn Duw, na ddiffyd.l Yn awyrgylch Prydain Fawr. Gan swyddogion Mari waedlyd, Rawlins White o dref Caerdydd A ferthyrol losgwyd hefyd Am amddiffyn y wir Ffydd Rhyddid barn ni roddai'r Babaethl Yn ein gwlad i undyn byw Rhaid oedd derbyn ei hathrawiaeth, A dirymu cynghor Duw Harri'r Wythfed a ddiddymodd Swydd y Pab yn Mhrydain Fawr A'r gormeswr ymgodymodd, Ac fe'i taflodd ef i lawr Y fendigaid fuddugoliaeth Gafodd ar y santaidd dad,' Fu yn ergyd i u wchafiaeth Erch Babyddiaeth yn ein gwlad. Melldith Ffrainc, Hispaen, a Prwsia, Ac Iwerddon ylch y don, A thaleithiau bras Italia Yw yr anfad grefydd hon Pe newidid Ffydd Iwerddon Byddai hyny yn llesad, I eneidiau y trigolion, Ac i fydol lwydd y wlad. Caeth asynod yr offeiriaid Yw'r Gwyddelod agos oil; Wrth gael pardwn mae'r gwirioniaid Yn rhwydd dalu dirfawr doll: Dylai pobl os am faddeuant, Wedi anfucheddol fyw, Lwyr gydnabod eu drwghaeddiant Ger bron grasol orsedd Duw. Yn Iwerddon nid llywodraeth Seisnig ydyw'r achos mawr O'r aflwyddiant, ond Pabyddiaeth Sydd yn cadw'r bobl ar lawr Darfu Annibyniaeth Cymru, Ond llwyddianus dalaeth yw, Am fod gwerin hon yn caru Heddwch, ac yn ofni Duw. Bu y wlad dan droed Pabyddiaeth Am ganrifoedd, hyd y dydd Y dug Harri'n llaw Rhagluniaeth Brydain o'i chadwynau'n rhydd Byth er amser y Diwygiad, Gweithia crefydd er mwynhau Adeg tori y cyssylltiad Rhyngddi hi a'r wladol iau. Adnewyddid erledigaeth Danllvd eto'n Mhrydain Fawr, Pe am ennyd cai Pabyddiaeth Le i roi ei throed i lawr Collodd ei gormesol allu, Ond ei hysbryd sydd yr un Ei hawyddfryd ydyw mygu Rhyddid barn a llafur dyn. Er ys trichant o flynyddoedd Mae yn gwingo a gwanhau, A than nodded Duw y nefoedd Rhyddid crefydd sy'n cryfhau Gan laweroedd fe ddywedir, Cyn bo hir fe ddaw y dydd Gogoneddns pan y gwelir Yn ein Hynys Eglwys rydd. Henffych well i'r dydd y gwelir Llwyddiant y ddiffuant Ffydd, Ac i'r amser pan y rhoddir Hon o'i gwladol rwymau'u thydd ,?.ds Clywir adsain can a moliant Ar y ddysgwyliedig awr, Pan fo'r Eglwys a'i gogoniant Mewn dysgleirdeb fel y wawr. J. MYRDDIN THOMAS.
Advertising
TRADE DIRECTORY. CARMARTHEN AND DISTRICT Auctioneers J. Howell Thomas and Son, St. Mary-street Carmarthen. J John Francis, St. Mary-street, Carmarthen. Lloyd & Thomas, Quay-street, Carmarthen Booksellers and Stationers. C. H. Carpenter, Newsagent King-street Car niarthen. Churn Maker and Cooper. Thomas Joues, Quay-street and Market Place Churn and Dairy Appliances. Coal Merchant. T. Bland Davies. Coal and Lime Merchant, Blue-street, aud 8, Quay-street, Carmarthen Family Butchers. J. Lloyd, Family Butcher, Dark Gate, Car- marthen. Fresh Meat Daily. Jones & Co Wholesale and Eetail Butchers London House. Mansel-street, Carmarthen Nathaniel Thomas, Family Butcher, 9 King- street, Carmarthen, next door to Post Office Iron Founders. T. Jones & Sons, Agricultural Implement Manufacturers, Priory Foundry. Ma- chinery Depot—Corner of Avenue, Priory street, Carmarthen. Hotels, John Lewis. Falcon Inn, Lammas-street Mourning Carriages, Hearse, Traps, &c., on Hire. Hairdressers. Heddon s Ladies' and Gentlemen's Hair- cutting Rooms, Guildhall-square. Coomb mgs made up. Razors set. Private Room for Ladi€3 and Children Ironmongers, W. Thomaff.10, Hall-street, 5, St. Marv-st and 9, Pnory-street. Agent for all Lead' in £ Implement Makers. -ueaa Mrs W. Phillips, Wholesale and Retail Fur nishing1 ironmonger, and n n i ,-T Carmarthen. d 5> Dark Gate. Frederick Jonea, 16, Guildhall-square Car- marthen. Wholesale & Retail Ironmonger Clearing out Stock. Business fordisposal Jewellers. H. Eeeve, 5h, King-street, Carmarthen 1 nvate Room for Wedding Riucrs DThfr & w0n^- 5' Gu1il^hall-squarei Carmar ciality an KeePer Rings a Spe- Printers and Publishers. The JOURNAL Company, Limited, 1 and 2 -1. -iary-street, Carmarthen. Tobacconist. F°W"iT0b:lCc°-. °i?ars' Cigarette? Pipes VV.llaa- btiCKs. &c., g0 to Heddo, Guild hall bquare, Oinderallas, 3s 4d per box Wine and Spirit Merchants W. S. Phillips & Co., King-street, Carmarthan WbiJeyPnet0n °f "Ur' °Wtt" Scotch A". L LLANDILO. Wholesale Ale and Stout Merchant William Griffiths, r/iailway Tavern Stores Road, Lla.idilo, Corn, Flour and General itferchaat. LLANDOVERY. Boat and Shoe Manufacturers. Quality an-I Price are the Best Salesmen in thE: Wo"Id. bee them at Jenkins and Son, Boot .jauuracturers, Llandvery and Rhos- inaip treet. Llandilo. QBMBwa—^ womammom LAMPETER. Coal and Lime'Merchant. D. 1 ivy Jones, Railway Station Grocer. Vaughad Davies. Harford-square tj MOST NUTRITIOUS COCOA. :IØ i l IT p p S M £ 3 XQy QRATEPUL—COMFORTlNQt COCOA fC BREAKFAST AND GU HOT WATEK OSTANIXT ITIgfiterW OM JMt.il wlien«v«r wi»rit«i ;without witM*6 outwnt«f inasiaf1" • x rnl wwiifori «I,(1 awart uoysorg for <.i* »r OH or Fuel, 34B EtWl"*