Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

* MR. BOWEN" ROWDANDS, A.S.,…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

MR. BOWEN" ROWDANDS, A.S., YN LLANDYSSCL. At Olygydd Y JOUITN-AL. STK,-Talodd Mr Bowen Rowlands ymweliad ar lie nchod nos Ian diweddaf, Mehefiu 9d, yn ddiameu ceir hanes y cyfarfod mewn colofu arall, ac felly cyfyngaf fy sylwadau i'r gofyniadau a roddwyd i Mr Rowlands i'w hattub yn y cyfarfod uchod. Y maent yn codi oddiar bynciau tydd yn holl-bwysig i'r etholwyr yn yr yindrech sydd yn prysur ddynesu, a dylasai pub perchen pleidlais drwy sir Aberteifi hawlio attebion boddhaol iddynt cyn pleidio Mr Bowen Rowlands yn yr etholiad agoshaol. Safant fel y canlyn (1.) Pa fath Ymreolaeth ydych chwi dros roddi i'r Iwerddon? A ydyw eich cynnygion chwi yr un a'r eiddo Mr Gladstone ? (2.) Clwysom fod Mr Justin M'Carthy yn dyweyd f"d yr Iwerddon yn hawlio Ymreolaeth i'r un graddau ag a welir heddyw yn Canada. Ond y mae byddinoedd Canada dan lywodraeth y wlad hono. A ydych chwi yn barod i ganiatau Yinreolaeth i'r graddau hyn i'r Iwerddon] A ydyw Mr Gladstone ? (3.) A ydyw ymddygiad diweddar Mr Gladstone yn gyfryw ag i'u eyfiawnhau ni i ymddiried yn llwyr ynddo. Os nad ydyw, pa fodd y medr If ai ganlynwyr ofyn gan yr etholwyr i bleidleisio dros fesur, natur pa un y mae Mr Gladstone yn nacau ei ddadlenu iddynt'? Ond os ydyw yn deilwng o'n hymddiriedaeth llwyraf, pa beth a ddywedwn ni am ymddygiad rhai o'r aelod;tu Cymreig yn nglyn a Mesur Dysgyblaeth y Clerigwyr ? (4.) A ydyw ymddygiad yr aelodau Gwyddelig yn Committee room No. 15 ychydig amser yn ol ai hymddygiad diweddar yn nglyn a'r F eeman's Journal yn rhoddi lie i ni i gredu y gellir yn ddiberygl drosglwyddo Ilywodrak-th gwlad gyfan i'w dwylaw ? (5.) Pa un ai Protestanaid ai Pabyddi"n a deilyngant yr ystyriaeth flaenaf oddiar iaw AnghydiFurfwyr Cymru ? (6.) A ydych chwi yn cymmeradwyo yi- offeiriaid Pabaidd pan, trwy nerth bygythion, yn dylanwadu ar aelodau ei heglwysi i ddesgritio ei hunain fel dynion anllythyrenog, ac felly yn ciel pleidleisio drostynt ? (7.) Pa fodd ydych chwi yn cyfrif am y ffai h fod llai o ymfudwyr wedi gadael yr Iwerddon 1891 nag yn ystod un arall u'r deg mlyued diweddaf ? (8.) A ydych chwi dros roddi pleidlais i fenywod mewn etholiadau seneddol ? Beth yw eich barn am bamphledyn Mr Gladstone ar y pwnc hwn ? Os y dylasai menywod gael pleidleisiau yn etholiadau Cynghorau Sirol, pa reswm sydd yn erbyn rhoddi hawl gytfelyb iddynt mewn etholiadau SHneddol ? (9.) A ydyw ymddygiad rhai or aelodau Cymreig yn nlyo a Mesur Dysgyblaeth y Clerigwyr yn debyg o gynnorthwyo neu rwystro y Saeson i gredu fod hawl deg gan y Cymry i ddadgyssylltiad yr Elw.rg Eagobol yn ei plith (10.) Y mae peb plaid yn y deyrnas hon yn credu yn mhwysigrwydd Masnach rydd yn nglyn ag an angenrheidiau bywyd ond beth ddywedwch chwi pan y mae Masnach eithafol rydd yn y wlad hon, a thollau trymion mewn gwledydd eraill yn parlysu llafur yn ein plith (11.) Daw i'n clustiau eich bod wedi dyweyd yn Nhregaron nad oedd dim yn llythyr tir William Jones, at Undebwyr Ceredigion ag 8ithrio Ymreolaeth i'r Iwerddon—nad oeddech chwi yn perffaith gyduno ag ef arnynt. Y mae Mr Wilham Jones yn bleidiol i gaelZiyht railways i sir Aberteifi. Gwyddom yn dda eich bod chwi wedi siaradi'r un perwyl ymddangosiad y llythyr hwnw. Ond a fu i chwi ar unrhyw adeg flaenorol gefnogn mesur o'r fath, neu ofyn •aniatad i ddwyn mesur oylielvb "er bron v tv 1 1 » J J eich nun Danfonais y gofyniadau uchod i Mr Rowlands drwy y post, o blegid ofnwn nas cawn chwareu teg ei gofyn iddo yn y cyfarfod. Am yr un rheswm bernais yn ddocth i beidio cyhoeddu fy enw. 0nd nid ues yr un dYIl yn Llandyssulllag un llan arall, yn ei iawn bwyll, a ddywed am foment fod hyny yn Ileihau dim ar bwysigrwydd y gofyniadau. Modd bynag barnodd Mr Rowlands yn ddoeth i beidio atteb fy ngofyniadau am (meddai), nadywenwyrysgrifenwr wrthynt,' ac ar gefn y bwch diangol yiua wele ef ymaith i'r anialwch, gan obeithio, mi dybieui, y cawsai gladdu yr anhawsderau hyn yn mro diatawt wydd. Ond er ei ofal daeth y gath o'r ewd "Rhaidi mi, meddai, atteb y pummed cwestiwn.' Pa ham 1 Os oedd absennoldeb fy enw yn peri iddo anwybyddu fy llythyr, pa ham y gwnaeth yr eitbriad hwn ? Credwyf fod y rheswm yn amJwg, yr ydwyf yn credu fod Mr Rowlands wedi g eJed naa medrai atteb y cwestiynau yn foddhaol i'r gynnulleidfa, ac felly ni anturiodd atteb ond yr un ag a feddyliodd fyddai yn dderb yniel gan y gwrandawyr. Wedi'r cyfan yr oedd ei attebiad yn hynod annigonot. Dywedodd mae y gorthrymedig ddylasai gael ei wrandaw gyntaf. Bydded felly ;Iond pa ham na fyddai iddo dyweyd wrthym pwy fyddai y gorthrymedig unwaith y caniataid Ymreolaeth i'r Iwerddon] Byddai yn dda uellyf ychwanegu ychydtg ar Brotestaniaeth a Phahyddiae'h, ond y mae fy llith yn rhy faith eisoes ac ymattaliaf. Ydwyf, &c. X.

LLANDEBIE.

TRAPP.

LLANDILO CHRONICLE., ---I

THE SCOTTISH HOME RULERS AND…

THE LONDON COUNTY COUNCIL.I

ABERYS rWYTH.

Advertising

----.------AMMANFORD.

Advertising