Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
Y DADGORPHORIAD. ----!
Y DADGORPHORIAD. Y mae yn awr yn sicr y dygir gyf^ y senedd bresennol i ben tua diwedd v mis hwn, ac mae y rhan fwyaf o'r bobi yn dda yn eu calonau ganddynt fod y pendertyniad hwn wedi >4 gyrhaedd. Nid oes yr un pwuc pwysig o flatn Ty y Cyffredin yu aros sy-td YI cynhyrfu y dyddordeb lleiaf un ai yn y ty ei hunan neu yn y wlad. Yr unig ofyniad gwleidyddol y mae y genedl yn feddwl am dano y dyddiau hyn yw, pa un ai yr Undeb- wyr neu eu gwrthwynebwyr sydd i ennill yr oruchafiaeth ac y mae braidd bawb o'r ethol- wyr yn cyduno ei fod yn ddymunol cael tymhor yr ammheuaeth yma drosodd mewn mor fy amser ag sydd bosibl. Yr ydvtu eisoes wedi dangos drosodd a throsodd drachefn nad oes gan y blaid fu mewn gallu y cliwe' mlynedd ddiweddaf yr un achos i edrych yn ol gyda'r n gradd lleiaf oedifeinvch ar eu gyrfa er pan y daethant i'r oruchwyliaeth. Y mae ein cyssylltiadau tramor wedi cael eu hymdrafod mewn modd mor feistrolgar fel ag y maent wedi diwedd creu son am danynt. Y rnae'r Iwerddon wedi cael ei heddychu a'idwyn allan o sefyllfa o ddyryswch gwyllt i gyflwr o drefn rhyddid a llwyddiant, ac y mae amryw lawer o fesurau mwyaf pwysig wedi eu deddfu er dyrchafu llwyddiant a lies ymarferol trigolion Prydain Fawr. Er hyn i gyd, nid yw yn canlyn o angenrheidnvydd y bydd i Arglwydcl Salisbury gael ei adael i aros yn y sefyllfa o Brif-weinidog. Y mae gweriniaethau yn wammal ansefydlog, yn ddiarebol felly ac nid yw yn ammhosibl y gwna y mwyafrif fotio dros Mr Gladstone, nid o achos eu bod yn anfoddlawn i'r gorchest-weithiau a gyflawn- wyd gan, nag amcanion dyfodol y Weinydd- iaeth bresennol, ond o henvydd eu bod yn teimlo y dylai'r hen wr godidog gael un cyfle yn ychwanegol. Pa un ai hyn fydd y canlyn- iad yr etboliad cyffredinol neu beidio, gobeithiwn na chyfyd dim angenrheidrwydd buan am wysio yng nghyd y Parliament newydd. Dros amryw wythnosau bydd y wlad mewn. cyflwr o gyffroad gwyllt, a pan fydd y cwbl drosodd. bydd yn sicr o ddymuno ysbaid o dawelweh a gorphwysdra. Y Wein- yddieleth hefyd, pa un a fydd yn gyfansoddedig o Undebwyr neu Radicaliaid fydd yn dda ganddi fwynhau hamdden i addfedu ei chyn- lluniau mewn heddwch. Y cwbl sydd angen- rheidiol er mwyn sicrhau yr amcan dymunol hwn yw, y goddelir i'r diwalliad cyllidawl gael ei derfynu a rnesnr y priodoliadau i basio. Y mae y ddwy ochr wedi cytuno a'u gilydd o ran eu harweinwyr, yng nghylch pethau angenrheidiol ond y tuae y rhwystrau ffol a daflwyd yn ddiweddar ar y ffordd gan y fath ddynion a Lloyd George a'i gwmni, wedi estyn amser y dadgorphoriad yn ddiangen, ac yn ddifudd ac er coll enbyd. Bydd i bob Radical gorfrydig a saif ar ffordd pasio mesurau rhwymedig ac i ohirio y cyfrifon cyllidawl angenrheidiol, ennill iddo ei hun ychydig iawn Z5 Z5 0 ddiolchgarwch ag o ewyllys da am ei fawi sel. MR CHAMBERLAIN ANGHYDFFURFWYR. Yr wytlmos a aeth heibio cynnaliwyd ar- ddangosiad mawreddog o Anghydffurfwyr Undebol yng Nghaer, pryd y derbyniwyd y llythyr canlynol gan yr ysgrifenydd oddi wrth Mr Chamberlain :— 40, Prince's Gardens, S.W., Mehefin 2il. Anwyl Syr,—Y mae yn ofidus genyf y pery ymrwymiadau blaenorol fy rhwystro i fod yn bresennol yng nghvfarfod Cymdeithasfa Z5 zn Anghydffurfwyr Undebol Caer, ar y lOfed cyfisol. Fe deifl yr etholiad cyffredinol, sydd ynawryncyflym agoshau, gyfrifoldeb mawr iawn ar ysgwyddau Anghydffurfwyr Prydain Fawr, ac os gwnant gynnorthwyo er gosod el 15 1 Ymreolaeth' (Home Rule) ar warau en cyd-grefyddwyr yn yr Iwerddon, byddant yn fradychwyr i'w holl draddodiadau a'u heg- wyddorion. Y mae prawf y deuddeg mis diweddaf wedi dangos yn benderfynol mae effaitb Home Rule i'r Iwerddon fydd rheol- aetb enwedigion yr offeiriadaeth Babyddol. Yn ffodus nid yw yr hen ysbryd puritanaidd eto wedi marw yn mynwesau pobl Ulster, ac y maent wedi amlygu yn ddigon eglur na wnant Z5 ZD byth ymostwng i gael eu harglwyddiaethu gan senedd a fydd yn offeryn caethwasaidd i'r Archesgob Walsh a'r Archesgob Croke. Llawer llai y dylent gael eu gosod ruewn sefyllfa orfod .dewis rhwng trosglwyddo eu ffyddlondeb i awdurdod y maent yn tfieiddio a dirmygu a gwrthwynebiad goddefgar neu agored i ordeiniadau y cyfryw. 0 Os gwna Anghydffurfwyr Prydain Fawr i ereill fel ydymunant i hwynt wneuthur iddynt hwythau, ni wnant hyd y nod ofyn i Brotest- aniaid yr Iwerddon osod eu bywydau, eu meddiannau, a'u rhyddid gwladol a chrefyddol wrth draed arweinwyr y Cynghrair Cenedl- aethol a'r offeiriaid sydd yn dylanwadu arnynt.—Yr eiddoch yn ffyddlon, J. CHAMBERLAIN. At Ysgrifenydd Cymmanfa 0 Anghydffurfwyr Undebol.
PENBRYN.
PENBRYN. Gan fod yr etholiad cyffredinol yn agoshau, ef allai mai nid ammhriodol fyddai rhoddi cy- hoeddusrwydd i'r llythyr canlynol. Gwyddel yw yr ysgrifenydd o du ei dad, a Chymro o ochr ei fam, a chafodd ei eni yn hinsawdd ac awyr Ymneillduaeth ym mysg plant gwlad y cenin. Ynmnodd ei fam a'r Eglwys Babaidd ar ddiwrnod ei phriodas, a'r canlyniad oedd i'r holl blant i gael eu dwyn i fyny yug nghrefydd Z5 0 Z5 a chredo y Oardinaliaid Rhufeinig. Er ei fod yn bresennol yn ac wedi byw yn yr Iwerddon, a siarad iaith Ould Oirland am flynyddau, eto mae efe a'i frodyr mor hyddysg yn iaith ei fam ag yw aelodau crefyddol capelau ardal- oedd Penbryn mewn tyngu a rhegu, a prigo eiddo dynion ereill. Ysgrifenasom at y dyn half-and-half yma amser yn ol, a derbyniasom yr ntebiad canlynol oddi wrtho, ac fe wel darllenwyr y JOURNAL ei fod gymmaint o Babydd a'r Pab ei hun. Traetha ei opiniwn- au yn ddidwyll a diofn heb ddim Jesuitiaeth i'w cymylu na'u tywyllu, a hyn i raddau debygwn, am y rheswm ein bod yn o adua- byddus an gilydd. Wele, ynte, hufon ei gyd- wybodol gredo a'i ddymuniad. Street, Belfast, Mehefin 1, 1892. Anwyl -Dioleli am y llythyr a'r newyddiaduron. Mae hanesion am y Dywys- ogaeth a'i thrigolion bob amser yn dderbyniol iawn, ac yn ami iawn y darllenwn hwynt drosodd a throsodd Gwelaf eich bod chwi yna. yn brysur gyda'ch parotoadau erbyn yr etholiad cyffredinol fel ag yr ydym ninnau yu yr Ynys hon. Yr ydym ni yma yn gweithio yn egniol, ac ni adawn yr un gareg heb ei throi, er sicrhau llwyddiant ein plaid. Yr ydym ni y rhai sydtl dros Home Rule yn ddiwyd wrth ein gwaith nos a dydd, o blegid ystyriwn fody caiilyxiiadauor pwys mwyaf i lwyddiant ein crefydd ac i'w dylanwad ar ein gwlad yn y 0 gyffredinol. Os ennillwn yn yr etholiad nesaf, fel yr ydym yn gobeithio, a llwyr gredii y gwnawn, bydd genym destyn diolchgarwch a llawenydd wrth edrych yn y blaen at yr adeg pan ddaw yr ol! or Iwerddon ditif reolaeth ac arweiniad urcMasolion ac ofteiriaid ein Heg. Jwys. Pall sylwcddolir hyn, bydd cwpanau llawenydd canlynwyr gwir o'ynydd Sant Pedr yn Rufain yn yr Ynys hon. yn agos a'u llenwi. P»h\dd Ymreolaeth Gartrefol nerth a gtllu adnewyddol i'ti Heglwys i ddi wreiddio hereth:i..eih o'n lir ein bod ni y Catholics yn y mwv.ifrif o lawer yn y wind yn gyffredinol, eto, mae c\fediornus Bresbyter- iaeth ac enwadau eredl yu y dret' lion a gwa- hanul fanau, yn dramgwydd ac yn rhwystr i eangiad a llwyddiant yr unig a'r wir Eglwys. Mae yn dda genyf weled cymmaint o Ym- neillduwyr politicaidd Cymru yn ein pleidio a'n cefnogi yn yr yuidrech hon. Gelynion i'r Catholics yw gwahanol enwadau eich gwlad wedi bod cyn hyn, ac v maent ar lawer adeg wedi rhoddi t-uwau annhey arnom end eibyn heddyw, maent o'n tu i'r cam, ac yn barod i'n cynnl rthwyo i roddi ein sawdl ar yddfyu yr heresiaid sydd iiior flodeuog yn y ddinas hon a'r cymmydogaethau. Nid wyf yn deall ar bwy dir y cefnogir Ymreolaeth i ni gan Ym- neillduwyr Cymru ond credwn fod y Creawdwryu goruwch reoli i un enwadwr neu i un heretic i wrthryfela yn erbyn y llall- Satan yn codi yn erbyn ei hun —fel byddo yr oil o'r cyfryw yn y dyfodol i ga.'>l eu difetha, ac i'r wir Eglwys gael 11 wybr dirwystr i fyned yn ei blaen a dwyn yr holl fyd dan ei dylanwad, a'i hysgafn iau ac i lawn fwyniant o'i bendi- gedig ryddid. Mae'r gwahanol enwadau yn Belfast yma wedi dysgu i raddau wersi oddi wrthym ni y Catholics. Rhoddant eu crefydd o Haen pob peth crefydd yng nghyntaf a pholilics yn ail. Gwahaniaethant yn fawr oddi wrth eu brodyr Ymneiliduol yna yng Nghymru. Politics sydd ar y blaen ac ar ben y rhes yna, a chrefydd yn ail a phe camgymmerant yn eu gwleidyddiaeth bydd eu prif wrthddrych a'u testyn wedi ei nychu, ac nid oes dim sylweddol i lynu wrtho. Ond am danom ni y Catholics, a'r enwadati" n Belfast o ran hyny i raddau, os gwnawn gamgyinmeriad yn ein politics a'r oil yn troi alfan yn fetliiant, mae genym ein crefydd beth bynag i syrthio yn ol n Z5 arni yn y diwedd. Nid doeth fyddai i ti ddweyd dim yn isel am Ymneillduaeth Cymru dan yr amgylchiadau presennol, o blegid mae yn wresog dros fesurau pa rai fyddant o ddirfawr les i'w Heglwys i'w galluogi i ysgubo ymaith bob gau-grefyddwr 0 Z5 0 Z!1 0 1 dros y cytiiniau ac allan o'n gwlad. Yrydym yn gwylied Cymru gyda dyddoideb mawr, yn enwedig sir Forganwg, lIe treuliais amryw flynyddau, ac hefyd yr wyf yn gobeithio yr ennill Major Jones yn Llanelli a C'haerfyrddin. Mae yn rhaid i fi gytfesu ein bod yn synu yn fawr fod gwrthwynebydd i Mr Bowen Rowlands yn dyfod allan yn sir A berteiti. Yr ydym ni y Catholics yn gobeithio ac yn llwyr gredu na thry tmddugoliaeth o du C, y 6 Mr AVilliam Jones, yr Undebwr, o blegid byddai hyny yn ergyd drom i'n gobeithion mwyat hoff, ac nid yn unig hyny, buasai ei lwyddiant ef yn ychwanegu at y rhwystrau pa rai sydd yu bresennol ar ffordd eangiad dy- lanwad ein Heglwys. Mae holl ffyddloniaid y grfydd Gathobcaidd yn gweddio heddyw dros lwyddiant ethuliadol A.J. Williams, er itiai Sosinyw; dros Alfred Thomas, er mai Trochwr yw dros Major Jones, er mai drummer yw dros Lloyd- Morgan, er mai rnab ei dad yw, athrosBowen Rowlands, er mai dim yw. Esgyn yn feun- yddiol o fynwes pob Catholic yn yr Iwerddon ddeisyfiadau dros lwyddiant credo boliticaidd }>ob ymreolwr yng Nghymru a'n hoffeiriaid .1 yn en High Mass a offrymant ddiolchjjarwch am yr unfrydedd a ddangosirym mhenderfyn- iadau cyfarfodydd misol a sasiynavi gwyr y trawsgredoau yng Nghymru. Nid wyf yn dweyd am foment fod yma iiiideb-foci yma wir undeb, ni eill hyny fod, o blegid amm- hosibl yw i'r cywir ei farn a'i gredo yn y wir tlydd fod mewn undeb a'r heretic ond dy- wedaf fod ytiia gydweitluvdiad allanol, a rheoliad goruwch-naturiol, yr hyn a dry allau yn gynnorthwy i alluogi ein Heglwys i grvfhuu ei gafael ar ddynolryw yn gyffredinol. Undeb allanol. Mr Michael David a Patrick Ford vn cydweddïo am hir oes a iechyd da i Svr Morgan Evans, Oakford, a Mr Levi y cy- hoeddwr o Aberystwyth, pa rai sydd heddyw yn egniol weithio dros ryddid i'n Heglwys i weithredu dros gyfiawnder a gwir sancteidd- rwydd. Wrth derfynu, gobeithiaf y bydd i etholwyr sir Aberteiti i bleidleisio fellln llnw, ac i lefaru fel un llais dros Mr Bowt-n Rowlands, fel bycldo dydd yr etholiad yn ddydd llawenydd i'r Holy Father ar ei orsedd- fainc yn Rufain; ac hefyd, fel na byddo i'n hoffeiriaid duwiol ni yma yn yr Iwerddon g'lel eu siomi a'u rhwystro yn y gwaith da o lwyr lanhau yr Ynys Werdd o'r efrau Presbyteraidd a'r chwyn Methodistaidd. Mr Sexton yw ein haelod ni yma, ac yr ydym yn benderfynol o'i ail ethol y tro nesaf gyda'mwyafrif mawr. Diolch am y J ou H AL, er ein bod yn hollol groeS iddo yn ein golygiadau politicaidd. Blessed Ireland and his Holiness the Pope, for ever and ever, Amen.—Cotion atoch, &c., J. P. Gan fod llythyr y gwr hwn o wlad St. Patrick wedi myned yn faith, nid oes genym le i'w dafeli a thraethu ein barn arno ond dy- wedwn hyn, mai dyddorol iawn yw edrych ar y Parchedigion Ymneiliduol a'r Fathers Pabaidd yn lapswchio eu gilydd. Tebygol fod y preliminaries hyn yn angem heidiol cyn yr ymgymmerant a'r gwaith o geisio llindagu Protestaniaid yr Iwerddon. Nid ydym yn gwybod pa mor ami y gweddïa Michael DaviL dros Home Rulers Ymneiliduol sir Aberteifi, a thros lwyddiant wtholiadol Bowen Rowlands, ond yr ydym yn barod i fetio straw liat newydd on erbyn effeithiolrwydd deisyfiadau Michael. Yn bresennol, mae ein teimladan yn rhedeg yn gryf dros Mr Wni, Jones, yr ym- geisydd Undebol, a thros chwareu teg i wrth- wynebwyr llywodraeth dysgyblion yr awdur- dodau Rhufeinig. Bu Morgan Evans, Pontbreuddu, amser yn 01 in the ould country." Ai fel Syr' Morgan Evans oedd yn teithio ? Gwell genym gredn mai camgymmeriad wnaeth yr ysgrif- n 113 zn enydd yn ei lythyr. Dyddorol iawn fydd gweled pa faint o grefyddwyr sir Aberteifi sydd a'u "politics ym mlaenaf a'u crefydd yn ail." Ar y nifer yma y try Il wyddlant etholiadol y cyn-offeiriad Bowen Rowlands, M.P. Yr ydym wedi gwneyd ein meddwl i fyny nad awn i'r Iwerddon byth am yr achos ein bod wedi cyhoeddi y llythyr hwn oddi yno, a rhag ofn i ShilIelah ei awdwr gael cytleu i ddisgyn ar ein copa. Clywsom fod Mr Bowen Rowlands yn gyru fel pe buasai o fiaen ewn trwy y gymmydog- aeth hon yr wythnos ddiweddaf, yn nghyfeill- ach dau neu dri M.P. ereill. Dywedodd un wtthym fod Rowlands yn edrych fel pe bu sai yn decbrell teimlo fod yr M.P. am droi y P.M., sef past mending mewn cyssylltiad a'i ragol- ygon politicaidd. Un araIl a awgrymodd fod y tir yn pat-hati i lithro ymaith oddi tan ei draed ac yr ydym ninnau yn gorfod cyffesu fod amryw hyd yn nod yn y gymmydogaeth hon yn dechreu dweyd fod eisieu arnynt gyn- rychiolyddmwy sylweddolac amgenach, na tlira- gwyddol ganu a phyncio am Home Rulei dyrfa o Wyddelod terfysglyd a gormesol Babyddion. Os nad oes gan William Bowen Rowlands amgenach gwaith na chwareu second fiidclle i Tim Healy a Father O'Shea, maddeued i etholwyr y sir hon osedrychant arno acystyr- iant ef'f^l square peg in a round hole. Mae gwahanol achosion Penbryn yn galw yn daer am sylw.—CYMRO. )
DREFACH.I
DREFACH. I Nos Iau wythnos i'r diweddaf, cynnaliwyd cyfarfod yng Nghapel y Bedyddwyiy Drefach, I In i'r perwyl o gyflwyno anrheg, sef oriawr, .1, n cadwyn aur a phwrs, yn cynuwys £ 39, i'r Parch. W. P. Jeffreys, Saron. Nid oes gvvybodaeth gywir am ba beth yr oedd yn n -terl)N,n y cyfryw wobr, ond y farn gyffredin yw bod ei frodyr Radicalaidd yn teimlo yn ddwys drosto, am yr ychvdig areithiau a t, gafwyd ganddo yn amser etholiad y Cynghor Sirol. Cymmerwyd y gadair gan yr Alderman John Lewis, yr hwn fel y mae yn hysbys, a wrthodwyd fel cynnrychiolydd Pen boy r a Llangeler, mis Mawrth diweddaf. Anerchwyd y cyfnrfod gan Mr John Lloyd Morgan, A.S., a chafwyd araith foddhaol a boneddigaidd gallddo; ond fel y mae yn dueddol i gasglu ni n n allasai yntau oiphen ei waith heb rhoddi dyrnod neu ddau i'r Hen Fam. Gwnaeth y meddyg mawr Enoch o Brynteifi ychydig sylwadau ar yr achlysur, ond yr oedd ei ystranciau a'i agwedd mor anhebyg i fod dynol, nes oedd mwyafrif y gynnulleidfa yn syllu ar ei berson yn hytrach na gwrando ar ei flolineb. Dywedodd ym mhlith pethau ereill y gwnaethai falurio yr oriawr yn y fan a'r lie pe buasai yn gwybod fod unrhyw Dori wedi cyfranu ati. Oh! y fath nonsense, a phenboethni. Gresyn na fuasai y Toriaid hyny a gyfranodd yn codi fyny a'i ateb i gael gweled a wnaethai y meddyg enwog mewn politics gario ei benderfyniad i weithrediad. Cyflwynodd y Parch. W. P. Jeffreys ei ddiolchgarwch mewn araith fer a phwrpasol, a dywedodd ei fod o'r farn y derbyniai fwy o wobr gan y Toriaid pe buasai yn ymadael a'r ardal. Nid felly wir Jeffreys; canysynystod ei areithiau mis Mawrth diweddaf, yr ydym yn gwybod iddo wneuthur yn ei anwybodaeth mwy o les nag o ddrwg i'r achos Ceidwadol. Nid oedd yncrybwyll dim am ddyledswyddau, a chymhwysderau ein cynnrychiolwyr ar y Cynghor, ond ei amcan bob amser oedd yrn- drecliu diraddio a phardduo cymmeriadau dysglaer boneddigion ein ardaL Ein d niun- n t, y iad yw y gwnaiffaros yn hir yn ein plith, hyd nes y byddo ychydig aelodau sydd yn aros yn Saron, yn troi eu gwynebau tua Chapel Shiloh (Barracks Toriaid fel y gelwir gan yr n t5 oracl mawr o Brynteifi), lie mai heddwch a llwyddiant gyda achos y Brenin Mawr yn bodoli. Ond, a dweyd y gwir, y maent wedi ymddwyu yn ddoeth rhyfedd y tro hwn. B'ie yr oedd oil weinidogion y cylchoedd fel ag yr hysbyswyd ar y placards—dim ond un o'r lluaws oedd yn bresennol, sef y Parch. Davies, Trefach. Gwan iawn, onide 1-- LLYGADOG.
AS3L0DI0N.
AS3L0DI0N. Dywedodd Cynddelw unwaith, mai yr uni» dru hoaourahle wnaeth Juda3 oedd crogi ei hun er mWYIJ arbed i neb arall y draflerth i vvneyd hyny. Dywedaf fiuiiau wrth Evan Rowland Jones >> Uitcrdydcl :-D,)s irogi dy hun fel ymgeisydd am sedd yn St. Stephens, er mwyn arbed y draffr-rth a'r draul i fwrdeisdrefi Caerfyrddin wlJcyd hyny Mae geiriau y tinhvr Americanaidd yi)- Nghaerfyrddin yna nghyfarfod y dadgyss yiltiad yn dan-os yn eglur beth ydyw i bob dyn dirafarn. Efe a ddywedudd nad oedd y dynion orchfygasant ar faes Waterloo ddim yn myncd) gael eu dychrynu gan ddyrnaid o bobl Ulster. Yr hyn o'i esbonio yw, Coco-ce Ulster, a'r dyn bach ar yr un pryd yu condcmnio coercio y nwonliyhters, a'r dynarmtards. Dyna i ch wi, fwrdeisdrefi Caerfyrddin, ddyn honourable am gael eich cyn- i.rychioli yn senedd Prydain Fawr, onide. Onid oedd y 1 milwr bach' hefyd fel pd byddai am wn'yd gwawd o'r bohl onest, heddvchol, sydd yu bwriadu dyf..d drosodd i Brydain i ddweyd ac i amlygu teimlad a meddwl Protestaniaid yr Ynys Werdd, alu eu bod wedi bygwth rhyfel garu-efol' yn gyntaf, atolwg Evan Rowland Jones Be hwnvwd yn Llanelli mewn cyfarfod ar nos Sdwrn, a chwithau yno yn bresennol yn y cyfarfod syr ? Penderfynu onide, eich bod chwi i f<>d yn ymgeisydd drwy'r tew a'r teneu, beth bynag fy idai'r c tnlyniadau ac ar ol hyny, yn yr on cyfarfod. penderfynu anfon cynnrychiolwyr i Ga>-rfyrddin i dreio am gyd-ddealldwriaerh ar eu tir eu huuain ilyny yw, heddwch ar gyfrif taflu Lewis Morris dros y bwrdd. Look before you leap Major." Gan bwyll Simuel Evans o Gastellnedd a Sciwen, asgwrn i bilo, ai ie a Syr Joiin Jones Jenkins, am ei fod wedi troi ei gefn ar Ymneill- duaeth. Ai nid gwr felly oedd yr hwn yi oeddycli chwi wedi dod i areithio drosto, Sam Beth ydoedd y Major yn America, a beth ydyw yn bresennol, dywedwch i mi? Nid yw y ffaithel fod yu iDyuel i Gapd Als ar foreu y Sul, ac i Gapel Seion am chwech, yn profi dim byd ond ei fod yn dipyn o rogue ond gofynaf a ydyw y gwr bach yn mynychu capel Ymneiliduol pan fyddo gartref ? Y mae flirtan o gapel i yapel er mwyn cael votes yn ddigon o reswm i mi dros ei gashau a gobeithio na wawria byth mo'r dydd, pan y caiff neb fyn'd i'r senedd dros fwrdeisdrefi Caer- fyrddin trwy y fath ystranciau. 'Cath mewn c,vd' ydyw Home Rule Mr Glad- stone ar hyn o bryd, a myner gweled y gath cyn yr etholiad er mwyn arbed y draul anferth o etholiad ara!l. Dyna'r oil mae Syr John a hufen y parti Rhyddfrydol, gefnodd ar Gladstone yi* 1886 am aael, ac yn enw p' ,b rheswm pa ham y beiir hwynt ? Ymreolaeth i'r Iwerddon yn wir Senedd yn Dublin yn wir dyna lie byddai senedd, pwy fyddai y Prime Minister, John Dillon neu Tim Healy 1 Darllener hanes ymgec- raeth y ddau yr wythnoa cyn y diweddaf beware friends, neu fe fydd y diwedd yn waeth na'r dechreuad. Dylasai datguddiadau Commit- j tee Room No 15, agor llygaul pob dyn gonest a | diragfarn, cyn hyny yr oedd Home Rule Bill Gladstone yn boddloni'r Gwyddelod, meddai Harcourt, Morley a Gladstone ond pan oedd y Gwyddelod yn ymaflyd yng ngyddfau eu gilydd yn Committee Room No el 15, daeth y 'gath o'r c".d,' ac nid oedd Home Rule Bill Gladstone yn 188H, meddai nhw. er mor eang ydoedd. yn ddim byd ond stepping-stone i ddringo i fyny i don', link ddiweddaf yn y gadwyn sydd yn cyssylltu Prydain Fawr a'r Ynya Werdd a'u gilydd. Mewn etholiad unwaith gofynai ymgeisydd am vote i berson neillduol, "Byddai yn well genyf vutio dros y diafol na throsoch chwi," oedd yr atebiad gafodd. Ond, meddai'r ymgeisydd yn hunfeddiannol, I os na fydd eich ffrynd' (sef y diafol) yn ymgeisydd, a gaf fi ddysgwyl am eich cynnorthwy. Y mae gormod o fath y dyn hwn yn y byd o hyd, pleidleisiallt dros y diafol, a sathrant egwyddorion dan draed, er mwyn gorchfygu a chario eu hopiniwnau eu hunam. Son am coercion yn wir! Ni fu erioed waeth coercion, ond coercion Gladstone yn 1882, &c., na gwthio corach filwr gan German ar fwrdeisllreti Caerfyr- ddin yn groes i ewyllys y Rhyddfrydwyr mwyaf goleuedig a chydwybodol, a hen clique, drwy hyny yn cael bloeddio 'buddugoliaeth.' Peth rhyfedd iawn yw gweled Cadvan a D. S. Davies yn mysg y clique, brwydrasant yn ddewr a'r clique yu y Bala. Pa fold y tywyllodd yr aur, boys ? Collais noswaith o'm cwsg gan cliwerthin, pan welais y penderfyniad b isiodd y Llandeilo District Liberal Association mewn perthynas a Mr Abel Thomas, A.S. Anhawdd peidio chwerthin yn wir, wrth gofio am y Parch. Wm. Davies, gweinidog pwysig y Titbernacl (yn ei ol wg ei hun), yn myn'd o gylch y wlad fel 4 bwm beilT' o blaid Abel, nos a dydd, gan falu ewyu yn erbyn Gwilym Evans. Ond erbyn hyn, yn iiialu ewyn yn firbyn Abel, hwyrach pe bae'r lien yn cael ei thynu y ceid gweled y rheswm yn y ffaith fod Abel Thomas fel y diweddar Pugh Manorafon, wedi gosod clo ar ei boced, eithaf right hefyd. Malu ewyn yn erbyn rhywun o hyd ydyw hanes y gwr gwyntog, hiiiiaiiol hWllW, ac y mae yr hen (,Ioc,' iieu rhywbeth ar ei ymenydd o hyd. Fy ngwlad, fy 115wlad: adnebydd dy gymmwynaswyr bellach. Da genyf weled argoelion dy fod yn dechreu agor dy lygaid tua Llandeilo, yn yr etholiadau Ileol. Da genyf weled Minah yn myn'd rhag ei fiaen I yil gorchfygu ac i orchfygu,' a'r Saddler o Lan- sawel wedi myn'd fel draenog i'w gwd. Rhyfedd pa mor feiddjar y yall corgwn o ddynion fod. Hwnw yn quoto Hebrew, a thebyg na wyr cym- maint o Ram made g Seisnig fel « wybod, that a verb must agree with its nominative ac y byddai yr un man gosod Hebrew Beibl o fiaen twrch daiar ac o'i fiaen yntau. Dos rhag dy fiaen, Minah, y mie ami i Nicodemus a Joseph o Arimathea, ar hyd y wlad a ddaw i'r amlwg o dy blaid os gwelant dart), a phan y hydd ty o glai Minah yn ymgymmysgu a phridd mynwent Blaenannerch, bydd ei enw yn anwyl gan y dysgyblion cuddiedig hyn, ac hwyrach, mai y pryd hwnw y deuant i'r amlwg lawer o honynt, i bleidio egwyddorion y gwr dewr, duwiol, ac auwyl o Llechryd. Ymwrola frawd, achotia mai dynion crefyddol iawn yn eu tyb eu hunain, labyddiodd S'epban, ac a waeddodd 'crocshoelia Ef,' am y gorcu rodiodd y ddaiar erioed; a gwrfini Jogion crefyddol iawn (yn eu tyb eu hunain) bleidiodd y lleiafrif yn L'echryd rhyfe(ld iawn y gweithredoedd yselcr wueir o dan fantell purdeb a sancteiddrwydd ymddaugosiadol. SAElt IEUANC.
DARKEST WALES.
DARKEST WALES. [GAN YMNEILLDUWR.] YR AIL-DDYFODIAD. Adenydd yr ail-ddyfodiad a ledant dros Bosrah, a chalon cedyrn Edom sydd y dydd hwn fel calon gwraig yn esgor. Paifalu yn y tywyllwch wna y bobl a'r pleidiau ar benaf bWllc y Beibl, fel y gwelwyd yn ddiweddar yn y British Weekly, ac y gwelir yn gyson yn y Civrs, yn ysgrifau Wynne Evans. D. Ff. Davies a Patmos, yn penddaru Dr. Pan, yr hwn ei hunan ar y pwnc, nad yw ond pen pagan Cymru Coeliaf mae dirnadaeth glir .ai-n yr ail-ddyfodiad yw yr allwedd i ddirgelion diwygiadau duwinyddol, a gwladol yr oes, a'r drych i dremio drwyddo ar y dyfodol mawr di- dcrfyn sydd i ddysgleirio ar y byd. Y gofyniad yw, Beth ydyw ail-ddyfodiad yr Arglwydd ? Ai lyfodiad mewn person neu mewn ysbryd? Ai ymddangosiad allanol yn y wybrenau neu ddisgyn- iad egwyddorion newyddion i eneidiau ? Ateba yr Arglwydd trwy y Datguddiad, a'r agoriad arno trwy Swedenborg, mai dyfodiad ysbrydol ydyw ail-ddyfodiad yr Arglwydd-dyfod lad yng ngallu a gogoniant ei Air Sanctaidd, a dyfodiad sydd yn awr ya cymmeryd lie trwy ddadblygiad o'r ystyr ysbrydol a gynnwyair o fewn llythyren y Gair, a thrwy ddadblygiad o'r elfenau yabrydol o fewn enaid yr hil ddynol. Mae yr ail-ddyfodiad ysbrydol hon, fel y dyfodiad cyntaf yn bersonol, yn nyfodiad i'r farn. Oymmer y farn hon le yn llythyrenol yn y byd ysbrydol ac nid yn y byd materol. Amcan y Farn hon ydyw arfer trefn ddwyfol ym mhlith pob rhywiau o ysbrydion, er hyrwyddo dilyfiant y lyfodiad i fendigo y bydoedd. Dy.sgir yn yr agoriad ar y Datguddiad fod y cyfeiriadau yn y vrair am yr ail-ddyfodiad a'r farn ddiweddaf, a diwedd y byd i'w ddeall yn ysbrydol. Barn ddi- weddaf yr ail-ddyfodiad yw, clirio Hades trwy ysgaru y drwg a'r da can yr uffernoedd, ac agor y nef i ollwng ei hun i'r ddaiar-ei goleu, eu gwres, eu hangyliou, cynllun eu gwisgoedd, eu hadeil- adau, eu llywodraethall, eu haddoliad, eu priod- asau, eu haddysg a'u haneirif ragorion. Ail-ddyfodiad yr Arglwydd yn ysbrydol i'r farn ldeallir wrth ddarumeg yr efrau a'r wenith, y punnoedd, y talentau, a'r morwynion ffol a chall. Fel y bu dyfodiad cyntaf yr Arglwydd yn annys- gwyliadwy i'r byd iuddewig, felly yn awr y mae ei ail-ddyfodiad i'r byd Cristionogol. Ei ddyfud- iad eyntaf oedd Y Gair wedi ei wneuthur yn gnawd.' Ei ail-ddyfodiad yw y Gair yn cael ei ddaugos yn ysbryd. Fel canlyniad i ail ddyfodiad yr Arglwydd, disgyna goruchwyliaeth newydd i'r ddaiar, yr hon a bery ar y blaned yn oes oe-ioedd. Hon olygir wrth y Jerusalem nefol yn disgyn od li wrth Dduw i waered o'r nef. Goruchwyl- iaeth fel henlwen haf heb fachlud mwy yn llewyrohu yn siriol ar y byd, o'r Arglwydd, o'r Gair, ac o'r deyrnas dragwyddol. Y g leI fod y farn dliweddaf i gymmeryd Ile ar derfyn amser ac ar y ddaiar, a gyfyd o gam ddeall dnodau y Gair, yn bendaut, Math. xxiv. 29, 30, le y dywedir, Ac yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hyny y tywyllir yr haul, a'r lleuad ni ryd I ei g deuni, a'r ser a syrth o'r nef, a nerthoedd y n,.foed(I a ysgydwir; ac yna yr ymddengys arwydd Maby Dyn yn y nef ac yna y galara holl iwythau y ddaiar, a hwy a welant Fab y Dyn yn dyfod ar gymylau y nef gyda gallu a gogoniant mawr. Tybir mai y tawchion a'r tarthoedd o'r ddaiar a nofiant yr awyr weledig yw y cymylau y aonir am danynt yma, ac m u ffurfafenau yr adar a'r ser yw y nef. Gwyrdroir y bemi'>d oil rnegys yr ysgrythyrau ereill, i ddinystrio ystyr rnegys yr ysgrythyrau ereill, i ddinystrio ystyr ysbrydol yr ail-ddyfodiad, ac i attegu yr here-d y ilydd i'r Barnwr ddyfod yn weledig ar gymylau y nef faterol, i ddeffro ag udgorn materol y cyrff naterol meirw, o'r beddau materol, ac y gwna greu yn faterol nefoedd newydd a diiar newydd, wedi'r nefoedd faterol a'r ddaiar faterol sydd yn awr fyned heibio. Ond,' medd Efe, Y geirian yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, ysbryd ydynt a bywyd ydynt.' Ysbryd a bywyd yw y proftwyd- diaethau am yr ail-ddyfodiad a diwedd y byd, i'w cyflawnu nid ar y beddau ond ar y bobl nid o fewn y cofiin ond o fewn y galon. Yn y broffwyd- ohaeth yn Math. xxiv. 29, 30, am ail ddyfodiad yr Arglwydd, defnyddir y gair nef' a nefoedd,' am gytlwr mewnol y byd Cristionogol. Wrth orthrymder y dyddiau hyny yr arwyddir cyllwr ansefydlog a thruenus y byd Cristionogol yn ei ddirywiad, ac ar ddibyn ei drancedigaeth. Wrth dywyllu yrhaul, yr arwyddir y cariad tanbaid at y Duwdod wedi ddiffodd. Wrth 'y lleuad ni rydd ei goleuni,' diflaniad gwirionedd yn tarddu o gariad; wrth y 'ser a syrth o'r nef,' gwybod- aethau uchaf y meddwl yn peidio ac wrth nerthoedd y nefoedd a ysgydwir,' y golygir .Y gwendid ac anallu Cristionoj;aeth wedi ym!ygru i amddiffyn ei hun yng ngwyneb ymosndiadau. Wrth yna yr ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y nef meddylir amlygiad newydd o wirionedd Dwyfol i gyflawnu gwaith y Farn, ac i symmud coelion gau, &c arferion anwar crefyddwyr. Wrth 'gymylau y nef' y golygir ystyr lythrenol Gair Duw, yr hwn fel cwmwl =»ydd yn gorchuddio gogoniant mewnol ei ysbryd a'i fywyd a hwy a welant Fab y Dyn yn dyfod ar gymylau y nef gyda gallu a gogoniant mawr,'a olyga oleuni clir a rhesymol ar Air Duw. Yr holl broffwydoliaeth I a gyfeiri^ nid at ddinystr y ddaiar naturiol, ond at y farn ddiweddaf yny byd ysbrydol a ddarlunir yn helaethach yn arwyddluniau y Datguddiad Dywedir yn Actau i. 2, fod yr Arglwydd i ddyf>>d yr ail waith yn yr un modd dog y gwelwyd Ef yn yn myned i'r nef.' Defnyddir yr adnod yn ami i bleidio y goel o ail ddyfudiad personol yr Arglwydd i'r ddaiar. Ond gan fod corff yr Arglwydd ar ol ei adgyfodiad yn ddwyfol ac anwelad-vy trwy lygad y cnawd, rhaid fod ei esgyniad wedi cymmeryd lIe yn y byd yabrydol ac nid o'r byd naturiol. Profir hyn gan y cyfeiriad at y ddau wr mewn gwiag wen,' y rhai fuont yn ymddiddan a'r dysgyblion. Y gwyr hyn mewn .Y gwisgoedd gwynion oeddynt angylion, ac o syl- wedd anfaterol fel Dwyfol Gorff yr Arlwydd, nis I gellid eu canfod ond a llygaid yr yabryd. Felly am yr addewid o ail-ddyfodiad yr Arglwydd yn ei yinddangoaiad personol, ca ei chyflawnu yn y byd ysbrydol, ond nis gellir ei chyflawnu yn y byd naturiol, gan nad oes gronyn o fater yng nghorff Dwyfol yr Arglwydd wedi yr adgyfodiad. Y mae pob gwirionedd yn gyson a rheswm, a gwyddor, ac a'r Gair. Und yr hen gred am yr ail- ddyfodiad a'r farn yn y byd materol ac ar derfyn amser, ni saif am foment yng ngwyddfod rheswm. gwyddor na'r Gair. Safer uwch ben y grud fod y '3er i syrthio yn llythyrenol i'r ddaiar. Syllwn arni yn Ilewyrch lampau aneirif ac annherfynol seryddiaeth ein hoes. Bu oesau heb syniad o faint y cydfyd. Tybient mai y ddaiar oedd y byd mwyaf yn y cread, ac fod y ceugant glas wedi ei godi yn do dros ein byd, a'r ser yn yr entrych fel Uusernau bychain i'w oleuo, neu dyllau ebillion yn llawn asur y nefoedd uwch ei ben, i ollwnw gwawl ygwynfyd fel ernes drwy y glasliw atom" Nid syn fod saint yr oesau hyny yn son am y ser yn syrthio yn llythrenol. Yn ol eu syniad hwy ni wnai cawod o ser eu taro yn fwy trwm na chawod o genllysg. Ond bellach, profir nad canolbwynt. y bydysawd yw ein planed ni, ond cronell egwan o'r cysawd heulog ei hun, yr hwn nad yw ond gronyn at gyfundraethau ereill. Myrddiwnau o ser yn fwy na'r haul, a'u bydoedd yn cylchdroi o'u cwmpas. a'r pellddrychau yn parhau i ganfod myrddiwnau uwch eang fyrddiwuau yn ddi-drai, a'r yabienddrychau mwyaf yn gweled y nebulae niwlog tu draw i hyny yn glysdyrau o ser sefydlog, ac yn systemau o fydoedd ftiadin-y o faintiolaeth, yn olwynaw yn aruthrol ar eu pegynau trwy annherfynoldeb lleoliaeth. Pellderau rhai o'r bydoedd hyn mor anferth fel na wnai eu goleu ein cyrh&edd heb gael miliwnau o flynyddoedd i drafaelu yn gynt n;t'r fellien a bydoedd lawer o filoedd o weithiau yn fwy na'r ddaiar. Pa fodd y cailf y rhai hyn le i syrthio yma ? Aethai banner tra«wyddoldeb heibio hetyd cyn ycyrhaeddai rhai o honynt ben draw eu codwlIl. Yr holl ser yn syrthio i'r ddaiar sydd hefyd yn groes i wyddor o j herwydd fod y ddaiar yn crogi yu y gwa^le, a'r se,, o amgylch iddi, rhai uwch law iddi, rhai ar ei chyfer a rhai islaw iddi. Pa f ,dd y syrthia y ser i'r ddaiar, a hwythau yn nyfnderoedd y gwagle, liliwnau ar filiwnau o filldiroedd islaw y ddaiar. Fed aflonyddid y cyd-bwysedd cytfredinol drwy y hydyiawd materol, nid syrthio i'r ddaiar mae y ser, ond tynent at eu gilydd trwy ddysgyrchiant ac atdynfeydd, gan wrthdaro mor nerthol wrth eu gilydd, ymrwygent yn ddarnau gan chwilfriwio yn erchyll yn y chwalfa fawr. Ond y ddaiar a saif byth, a'r nefoedd naturiol ni ddiHanant yn dragywydd. Nid ar y blaned werddlas a breswyl- iwn y mae y bai, nac ychwaith ar y nwyfre orwych fry. Yn y dyn y mae y drwg. Efe a'i grefydd ywy bydysawd syrthiedig. Yn nefoedd ac ar gymylau y Gair y mae Mab y Dyn yn dyfod i eneidiau yr hil ddynol, a tluwy eneidiau i'r cyrff ac i'r cread tu faes, gan greu cydgordiad rhwng y mewnol a r allanol, a dwyn felly i fodol- aeth nefoedd newydd a daiar newydd. Y mae yr ail-ddyfodiad yn y goleu hnvi yn oruchwyliaeth newydd o ddaioni a chyfiawiider- yn oruchwyliaeth uwchraddol i'r holl oruchwyl- iaethau blaenorol, yn oruchwyliaeth erfawr yn llanw tragwyddoldeb ac amser, yn lledu yn fentyll o oieuni a lledneisrwydd hafaidd drwy y bydoedd, yn disgyn i'r godreuon at drigolion daiar ar derfyn du y didranc drueni. Yr ail- ddyfodiad a'i efleithiau yw y brwydrau poethion sydd yn y byd rhwflg drwg a da, a rhwng y wir ffydd a'r gau-uredoau. Yr ail ddyfodiad yw pob ymdrech i ddiwygio mewn cred mewn gwladwr- iaeth, ac mewn moeaau. Yr ail-ddyfodiad yw y ch wyldroiadau y sydd fel llifeiriant dyfroedd mawrion yn ysgubo ymaith wrth-gloddiau gormes a thrais, llifeiriant yn ymgroni ac i dori yn genlli' cyn hir drwy holl fliniau ffiaidd enwadaeth a phlaid llifeiriant i godi ei dwrf a'i donau uwch law tyrau y coteries. Y cenllysg a ysguba noddfa eu celwydd a'r dyfroedd a foddant y lloches. Pan ddel y ffrewyll lifeii-iol byddweh yn sathrfa iddi.' Dat-fodedigaeth derfyuol odeli wrth Arglwydd Dduw y lluoedd ar yr holl dir.' Traha fel gorlif o'r eigionau yw yr ail-ddyfodiad i wat- warwyr Darkest Wales. TRELEOHXAD, TROCHWR CYDWYBODOL, A CLKTWRIAN, Diolch i'rtri cyfaiH am eu cydymdeimlad yn y JOURNAL, trwy gydnabod gwirionedd a chariad geiriau Minah, a thrwy sicrhau fod pobl pob en wad yn bleidiol oddi gerth bydolioll y pulpudau a'r blaenoriaid. Ond Radical Twistings' yw tystiolaeth y coteries drwy Gymru, am hyny, Cleddyf yr Arglwydd .sydd ar y celwyddog, a hwy a ynfydaut cleddyt sydd ar ei chedyrn a hwy a ddychryuant creutawn ydynt ac ni thosturiant.' Ond e-i dwylaw o'r diwedd a lesgant, a gwasgfa a'u deil fel gwewyr esgoreddfa. Trwy nwyfiant yr ail-ddyfodiad Yn ddiau y rhai lleiaf o r praidd a u llusgant hwy.' Trwst eu goresgyn- iad a gynhyrfa y wlad, ac adsain ywaed y gorch- fygiad a glywir o gwr i gwr. Gwynt dinystriol Duw sydd yn codi yn erbyn Darkest Wales. BRWYDR WATERLOO TRKLECH. Dro eto, o herwydd geiriau Aesop' yn y JOURNAL, helaethaf ar Frwydr Waterloo Pre- lech.' Dewrder Jacob Evans yn gwrthod y Grocer's License, ei avvyddfryd am gael gwin dírwe-t.'¡ yn y Sacrament diaconiaid Trelech yn misuachu yn y dafarn, ac yn cadw 'gwenwyn dreigiau ar ford yr Arglwydd. Y gos'rel a'r god aur yn teyrnasu, a'r pulpud yn goddef ac yn gweuhieithio i'r galanastra. Cyffelybrwydd coterie Capel y Graig a Chapel y Cloi yn Llechryd, a'r coteries capelaidd trwy wylltoedd Gwalia yn llechres yr un gyfathrach. Ys^rifenaf oddi ar anwyldeb at yr h^n Fatm Eglwys, oddi ar gofion cysse redig am yr hen bobl -oddi ar ddiolchgar- wch am vr athraw hyfforddus gefais yn yr Ysol Sul ac sydd eto yn aros yn ei rym—oddi ar y dymuniadan tyneraf tuag at y to sydd yn codi, ac oddi ar yyfiawnder Duw tuag at y gweinidog a'r diaconiaid yn dal i fyny y ffieidd-dra annrheithiol yn y lie saticiaidd. Wrth ysgrifenn, nidysheiliaf neb, ni wnaf gam a neb, ac ni lygraf neb. Ni wnaf ond tystio yn gariadus, ond yn wrol a hyf, fod Duw yn ei doturiaethau yn galw ar y tru- einiaid a'r deil lion agor eu llygaid yn y Congo gapelaidd, a dyfod allan o gorsydd Darkest Wales.-MI-NAH
CEI NEWYDD.
CEI NEWYDD. CYFARFOD POLITICAIDD. Fel y gwelir oddi wrth ein cohfnau Selstilf cynnaliodd Mr William Jones, yr y(ngeisydd Undebol dros sir Aberteiti, gyfarfod cyhoeddus yn y Cei Newydd nos Lun diweddaf. Cafwyd cyfarfud rhagorul a hrwdfrydus dros ben. Gan siarad yn Gymraeg dywedodd Mr John Worthington, Llanbedr, fod digon eisoes wedi ei ddweyd i argyhoeddi pob dyn argyhoedd- edig o'r perygl o rhoi Home Rule i'r Iwerddon dymunai yntau ddweyd gair yn nes gartref, dim un gair yn ammharchus am y boneddwr Mr Blwen Rowlands. Nid oedd yn credu mewn un achos fyddai yn rhaid ei amddiffyn aganwireddau, ond yr oedd yn meddwl nad oedd ond teg gan ei fod yn awr yn amser i ail gyflogi Mr Bowen Rowlands i adulygu pa fath waa a fuodd yn yr jimser a aeth heibio. Yr oedd yn cotio iddo glywed un hanesyn unwaith am hen foueddwr oedd wedi cyfarfod a gwas da iawn o'r enw John, yr hwn fuodd gydag ef am lawer o flynyddoedd, nes iddo trwy ei ofal a'i ddiwydrwydd godi y boneddwr o ddiuodedd yn un o'r dynion mwyaf cyfoethog a dylanwadol yn yr holl wlad. Yr oedd yr hen foueddwr wedi syrthio mewn cymmaint o gariad at John, fel na chymmerai yr un gwas arall heb ei fod yn dwyn yr enw John ond deallodd llawer un o'r enw William, Thomas a Dafydd, fod mwy o gariad rhwng yr hen foneddwr o'r enw nag a'r gwaith, a chyflogodd lawer o honynt yn et ddydd heb yr un berthyaas rbyng- ddynt a'r John cyntaf, ond yr enw yn unig Feliy y dywedaf finnau am Rhyddfrydwyr yr oes hon tri arwydd air mawr y Rhyddfrydwyr oedd cynnildeh, heddwch, a diwygiad, ac y maent yn dwyn yr un enwau, ond pa le mae eu gweithred- oedd I mae gyda mi ha.nes am genedl yn gwaeddi Illai plant Abraham oeddynt hwy ond y mae un wedi dweyd na chyfeiliornodd erioed. Pe plant Abraham fyddch, gweithredoedd Abraham a wiine heoh He iaf un o'r papyrau Rnyddfrydig ¡ Cymreig, a'r Cambrian News gyda hwynt I gy hoeddi rhestr o rhyfeloedd a wnaeth Gweinydd- laeth Rhyddfrydig dan Mr Gladstone, a'r W. in- yddiaeth Undebol o dan Arglwydd Salisbury iclywch clywch). Hefyd, dreuliadau y Dey.nas am yr un cyfnod o amser, fel y gwnaeth y I JOURNAL. (Llai-) nid ydynt mor onest a'r (JOURNAL). IS ag ydynt, dywedasoch ygwir, y mae arnynt ofn i'r bobl wybod y gwirionedd, a thrwy hyny weled eu rhagrith. Nid ydwyf yn gweled cl Mr Bowen Rowlands yn addas i gynnrychioli sir Aberteili am mai sir unieithog ydyw. Yr ydym yn cadw mawr dwrw am gael hedd ynadon, a barn wyr yn deall Cymraeg, yr hyn sydd yn briodol a buddiol ond pa ryin sydd yn ein cais pan yr ydym yn danfon Sais o fiaen Cymro i'n cynnrychioli. (Lleisiau, dim nerth). Peth arall sydd aenyni yn ei erbyn ydyw, nad yw yn talu ¡ dim sylw i'n achosion fel gwlad a sir. Gwyddoch fod Mr Jones wedi dwyn i sylw y dylai y Llywodraeth gynnorthwyo pysgotwyr glan y mor yr un fatn a y gwneir yn yr Iwerddon a manau ereill o'r Deyrnas. Y mae wedi rhoddi iddynt uannoedd o filoedd yn help yn y cangen hyn o ddiwydrwydd Da genyf eich hysbysu fod yr hyn a ddywedodd Wr Jones wedi agor llygaid Mr B.wen Rowlands, fel y gwelais ganddo araith o dair llinell yn y newyddiaduron (Jones for ever:) tiefyd, gwyddoch trwy brofiad nad oes neb yn goddef y fath orthrwm a pherchenogion tai ar les ond nid agorodd Mr Bowen Rowlands yn yr ysbaid o chwe' blynedd a fu yn ein cynnrychioli ei ben yn erbyn y camwri hyn (Llais, "mae Mr Rowlands drosto dywedodd hyny yn y Cei") do, nid ydwyf yn amniheu hyny, ond a ddywedodd ef hynyyn y lIe y dylasai ddweyd Gwn fod Bowen yn cymmeryd arno fod yn un o blant Abraham, ond b'lo mae ei weithredoedd (clywch, clywch). A gyHawnodd ef rhywbeth a ddywedodd? addawodd llawer iawn o bethau, ond dymunem gan ei bleidwyr enwi rhywbeth agyflawnodd y bennod a'r adnod sydd rhaid gael, ac nid gwaeddi fel y Pharisead rhagrithiol, "plant Abraham i ni." (Lleisiau, Nia gallant enwi dim a wnaeth, ond ysgrechain a gwaeddi fel bobl Aberystwyth "). Terfynaf yn awr, gan ddymuno arnoch rhoddi eich pleidleisiau bob un i'r Cymro. ("Gwnawn, gwnawn.") A chafwyd tair cheers i Mr William Jones nes dadseinio yr holl le. Yr wyf yn meddwl y gailasent eu clywed o Aberystwyth.—UN OEDD YNO.
[No title]
Yn ystlld yr yatorm ddiweddar o fellt a tharanau yn y wlad hon, dywedir fod cenllysc anferth, a darnau o rew, wedi disgyn o'r wybren, )
AT MINAH ETO.
AT MINAH ETO. Dysgwyliaf tinnau am weled Daikest Wales' yn cael eu cyh leddi yn llyfr. Mae y ceisiadau a wneir atoch yn brawf o'r darllen mawr sydd ar eich erthyglau gallu-.g. Y cyfundebau a'r cyn- nadleddau gormesol yw 'Darkest Wales,' ac y mae erledigaeth pregethwyr arnoch chwi fel dyn duwiol, y^i uchel alw ar yr eglwysi i gyfodi yn eu lerbyn. Mae stop i fod ger llaw. Ac onid yw y ffaith fud eglwysi Trelech, Tylien, Glynarthen, Liynmoriah, (J wet nllwyni, Crugybar, Cwmtawe, a 11u o fanan ereill yn galw am danoch yu brawf fod yr eglwysi yn gweled drwy gastiau y pregeth- w^r.' deffroiyn erbyn eu trawsarglwyddiaeth oftenladol. Ond y mae dyhead mawr am eich clywed ym mhob man. dylai pob capel fod yn agored 1'ch cenadwii fawr a chyn pen deng mlynedd bydd i chwi filoedd o ganlvnwvr calon izynhes yng Nghymru. Ac nid oes neb yn 11 z!1 prysuro'r dydd mor effeithiol a chrancod Cynwyl Caio, a man-bregethwyr erlidgar y coteries. Chwerthingar yw gweled y gwibed yn chwareu ar gyrn yr unicorn. Daroganir yn rhigil drwy y Dywysogaeth fod cynnadleddau yr euwadau yn liawn tries-yii llawn o Pilatiaid ac o Judagiald yn gwyro barn, ac yn ywerthu y gwirionedd am boblogrwydd. 'Darkest Wales sydd wedi rhoddi goleu ar y duwch, ac wedi codi y gauadlen oddi ar geubwll y golledigaeth. Dylai Eglwys Trelech y yn yr arwr galluwcaf a godwyd oddi yno erioed, a ehafwyd prawf yn y JOURNAL o hyny, gan fod y fath i.-ynnulleidfaoedd wedi dyfod yng nghyd na fedrai yr un pregethwr arall eu tynu. Ac os cydsyniwch a llais y tyrfaoedd i gyhoeddi Darkest Wales' ytigyfrol hylaw, cewch wybod hefyd eich bod yn awdwr poblogaidd. Cafwyd llyfr mawr flan Stanley ar Darkest Affrica, ljyfr arall gan Booth ar Darkest England. Ciobeithiwn y cawn gyfrol drwehus eto ar Darkest Wales' gan y cawr meddyliol Minah.' Gwerthai wrth y miloedd ac wele order i ddech- rou am 500 cyfrol. Berh ddywed yr erlid- wyr pregethwrol am hyn? -TAWE
DAMWAIN DDIFRIFOL.
DAMWAIN DDIFRIFOL. Dydd Mercher, Mehefin 8fed. cyfarfyddodd dynes o'r enw MaryOwens, Brynllwyd, adamwain boenus drwy iddi gael ei saethu yn ei gwyneb. Saif Brynllwyd ar ochr y brif ffordd o Llandyssul i'r Ceinewydd, ger Brown Hill, preswylfod y Parch. T. R. Davies, gweinidog eglwysi Anni- bynoi Penrhiwgaleda Phisgah. Yr oedd y ddynes anff,.dus pan gyfarfyddodd a'r ddamwain yn myned i lawr a wyau i siop uer llaw, a dywedodd un Lazarus James, Blaenyuaen, wrth hogyn o'r enw John Davies, Bryngwyn, am ddal ei ddryll tra y byddai efe yn myned i fewn i'r ystabl- Chwareuodd y llanc a'r dryll heb feddwl fod ergyd ynddo, a'r canlyniad fu aeth yr ergyd i ftwrdd a chyfran o huno i ben a gwyneh y ddynes. Mae hi yn wael iawn, ond nidyn hollol ddiargoel gwella. Cyd) mdeimlir yn tawr a hi ag a'r h--giaU I anffort un us, gan fod y digwyddiad wedi cymmeryd lie mor ddifwriad Dyma wers eto.
SOUTH WALES LIBERAL FEDERATION'
SOUTH WALES LIBERAL FEDERATION' Wrth ddarllen hanes cyfarfod y cyn.hrair uchod yn y Cambrian News, am y 27ain o'r mis diweddaf, synais yn faw: iawn pan ddywedodd y cadf.irydd ei fod yn Casteldiewydd-Emlyn pan oedd donah Thomas (nid yr u i fu yn mol y ™f! ') y" caej ei gyhuild" o ym-'sod ar .Jones y baniu dymn'r geiriau a wnaeth y cadeirydd ddefnydd o honynt,. "He would not say the as ault was not committed, but it certainly was ii t ), geri,,us )ne. Eleven witnesses were calied [0l' ^,e defence, and the too policemen and the bailiffs f"r the prosecution, who swore that they w,re erlously ass tultej the judge fined them £ 5 each. Y r nedd Wq i yn y County Court o'r dechreu i'r diwedd, a gallaf ddwey i fod yr lich.,d y" irelwy-ld uoeth. Y geiriau a wnaeth y bailiff ddefnydd o honynt oedd, I was pushed bpck by Jonah I hiimas ni fu y fath air a 'seriously' ar ei dafod o gwbl. Carwn hefyd i gael gwybod pwy oedd y they oedd gan y cadeirydd mewn golwg, o blegid ni wnaeth y ddau heddgeidwad ddwyn cyhuddiad yn erbyn neb o gwbl. Celwydd noeth hefyd oedd fod rhagor nag un wedi cael eu ddirwyo. Pa ham yn enw pob rheswm, na fuasai yn dweyd gair am y tyst hwnw a wnaeth ei lw, tiad oedd wedi bod yn siarad diIn am y cy: huddiad o gwbl, ac ar yr un foment wrth gael ei groesholi, yn cyfaddef ei fod yn un o wyth y nos o'r blaen wrth wneyd hyn, buasai y cadeirydd yn iawn. Yr wyf bob ainser wedi cael Mr Morgan Evans, J.P., Oakford, yn glynu wrth y gwirionedd, ac Y mae yn syn genyf, na fuasai yn ammheu y cadeirydd yn y cyfarfod uchod, pan yn son am y cyhoeddiadau yn Castellnewydd-Emlyn. Bydd genyf air ym mhellach yr wythnos nesa. CARDI.
^—■^—| GODREU CEREDIGION.
^—■^—| GODREU CEREDIGION. At Olygydd Y JOURNAL. SYit,-Ei-fyiiiaf arnoch am ychydig o ofod eich newyddiadur, i draethu fy lien ar yr hyn a welais ac a glywais ar fy nhaith trwy odreu CeredigioU Llungwyn diweddaf. Cefais fy hun yn y boreU yn Aberporth, porthladd bychan yng nghyftiniaU craig y mor. lie mae'r tonau fyth yn chwareu anthem fawi i'r Arglwydd lor. Yno yr oedd- ysgohon dosbarth Aberteifi wedi ymgynnull i f fi? GU Pync^a" a ehanu. Da fod arferiad o'r ath y,i dal yn y blaen, ond yn wir y inae lrywiad wedi dyfod i fewn i'r hen gorph, er fod eu canu a'u hadrodd yn weddol dda ar y cyfan, eto dim tebyg i'r hyn a fu. Yroeddwn yn meddwl wrth eu clywed wedi ywaethygu cymmaint er yr Pdeg y cefais y fraint o'u clywed o'r blaen, fod dadgyasylltiad o ryw natur wedi ei gyrhaedd "LWI hwythau. Mawr yw eu twrw am ddadgyssylltu yma, ond yn wir pe edrycheut fwy gartref, gwelent ar unwaith fod dadgyssylltiad wedi cymmeryd lie rhyngddynt hwy a'r hen hwyliau yny dyddiaui gynt, a'r oil allaf ddweyd am danynt, uiai sychion iawn oeddynt. Nos Llungwyn, tnlais ymweliad a Beulah, He yr oedd eisteddfod i gael ei chynnal, a hono yn ol yr hysbysleni i fod mor eang a ffair y byd. Meddai y Cadeirydd-" Sacwch i'r cornelau yna, y mae digon o le yma." Syned y byd y fath iaith gan nn wedi bod trwy gwrs o addysg .athrofa, d. Pe cai gohebydd y Faner hyny mewn eglwys, byddai wedi cael ys-lyfaeth fawr yn ol ei farn ef. Na luched y rhai sydd mewn tai gwydr, geryg at neb. Yr oeddwn yn synu llawer ar y test-ynan barddonol a rhyddiaethol yr eis- teddfod Er enghraifft, am yr wyth pennill goreu ar y creadur dychymygol,' hyny yw, gwobrwyir y mwyaf ei gelwydd. Caiff y person ddychmyga fwyaf o gelwydd ddeg swllt o wobr. Yn nesaf ysgrif hanes flair Calan Mai Castell- newydd, ac yn y blaen. Yr oeddwn wedi arfex- cred" mae nod yr eisteddfed oedd coethu ch waeth y werin. Ond atolwg, pa adnoddau oedd yn V testynau uchod a'r cyffelyb at goethu chwaeth, dim i r mesur lleiaf. Nid oedd dim yn wir fawr yn yr eisteddfod gallem feddwl, ond llu mawr o feirmaid Yr oeddynt yn rhifo tua phymthe^ i gyd, a chwareu teg yr oedd rhai o honynt yn beirmadu yn ghr, ac yn rhoi nid ychydig o addysg ar feii mad v' li "nUt"L S>'lw''us neil du.'l ar feiriiiad y Drawings. Ty atinedd oedd y Drawing i fod. orid cik-yijai y beirniad yn arw fod sini-leiiau y ty wedi eu tynu tuag i fyny. Yn enw poh s),ii%vyr, pa gyfeiriad oedd yn fwyaf priodol djnt fyned nag i fyny? Chwith o beth fyddai gweled un anedd-dy a'i bibellau m\vg tuag i lawr. act genym, os byw ac iach yr wythnos nesaf ragor am yr eisteddfod ardderchoc hon Yr eiddoch, &c., ———————————————. TUTOR.
I Y GWLAW.,.,
I Y GWLAW. Dau englyn byrfyfyr ar ddyfodiad gw £aw weùl r ::> hir sychder diweddar, Daeth gwlaw y doeth glyiv-.Ioii-NAf A I 1 ,LDYNION A dydi r ddaiar dirion > Gleui bràf, a glwysni'w bron. Holl aillill sydcl Ylt Iloili,-ag adar Gu dorant i foli; o » praitld o'u bodd sy'n rhoddi Mawll Dduw,-rnae'u delil' i mi. ANELLYDD. *dil-mel.
[No title]
Gwrthwyd Beibl Seisnig cynnar uiewn ar- weithiant yn Llundain am 1:24 10s, Y mae Mrs Crawford, yr hon fu yn ymddan- gos mewn achos adnabyddus am ysgariaeth, wedt myned 1 leiandy, i barotoi at waith ceuadol.