Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

GWEINYDDIAD GWASANAETH CLADD-EDIGAEra…

News
Cite
Share

GWEINYDDIAD GWASANAETH CLADD- EDIGAEra EGLWYS LOEGR MEWN MYNWENT Y oNEILLDUOL. At Olygydd Y JOURNAL. SYR,-Byddaf yn ddiolchgar am ofod fechan o'ch papyr poblogaidd i wneuthur ychydiy sylwadau ar y llythyr a ymddangosodd yn y JOURNAL am Chwefror 19eg, o dan y penawd uchod. Bûm yn meddwl unwaith am ei adael YI1 ddisylw, am fod pawh yn y gymmydogaeth hou yn hysbys o'r amgylchiad. Otid pan welais fod sylw pellach yn cael ei roddi iddo yn y JOURNAL am yr wythnos ddilynol, gan berson tu allan i'r cylch yma, a hwnw wedi ei gamarwain gan y llythyr dan sylw, meddyliais mai tegweh ag eglwys Aberduar, ac a darlleuwyr y JOURNAL hefyd, fuasai roddi adroddiad cywir a aywl o'r atagylchiad heb liwio dim. Bu farw chwaer Mr Evans, curad Ffestiniog, North Wales, yu nhy ei mhalD, ger Llanybyther, daeth Mr Evans yma i'w chladdu. Aeth at ncer y plwyf i drefnu y gladdedigaeth, a daethant i'r penderfyniad o wneyd cais trwy lythyr at ddiaconiaid Aberduar am gael claddu yn ol defod Eglwys Loegr yn y fynwent hono. Gan nad oedd enw Mr James ein gweinidog yn y lythyr, a chan fod peth fel hyn yn hollol *?ewydd yn y gymmydogaeth hon, o leiaf, pen- uerfynodd y diaconiaid i ddaufon at Mr Evans i dweyd wrtho am fyned a gofyn i Mr James, j^thododd yntau hefyd. Ond boreu dydd y g addedigaeth, fe aeth a gofynodd a wnelai Mr ddyfod i'r fynwent I wasanaethu ar lan oedd ei chwaer, ac felly y bu. Pa fodd y dywed "Carwr Undeb" fod y cais wedi ei wrthod ? Ymddengys i mi fod yn well gan rai dynion ddweyd anwiredd na gwirionedd. ys ydyw "Carwr Undeb yn byw yn y gymmy- dogaeth hon, fel y credwn ei fod, y mae yn rhaid ei 5^ yn gwybod nad ydyw gweinidog na diaconiaid Aberduar yn gul, «fec., o gwbl. Gallaaai weled offeiriaid yn gwasanaethu ym fynwent Aberduar cyn hyn, a gallasi glywed fod offeiriad Silian wedi bod yn gwasanaethu yn ddi- weddar ym mhwlpud Mr James yn Bethel. Y mae ein parchus weinidog wedi treulio deuddeg mlynedd yn ein plith, ac wedi claddu llawer o'r aelodau, o bryd i bryd, ym mynwent- ydd Eglwysi Llanllwni, Llanfibangel, Llany- byther, Llanwenog, Llanwnea, Llanbedr, Silian, Bettws, Pencarreg, &e. t A gafodd ein gweinidog ni gymhelliad, gan un r offeiriaid sydd ar yr Eglwysi hyn i wasanaethu ar Ian bedd un o'r aelodau rywbryd ? Naddo erioed. Pwy sydd yn gul yntau 1 Wal, fe gaiff y cyhoedd farnu. Dywed "Carwr Undeb yn ei lythyr ei fod yn Iynu "fod pobl gall Aberduar wedi bod mor ffol chymmeryd eu harwain a'u twyllo i feddlolli Senboethni, mympwy, a rhagfaro plaid un neu dau ignoramus sydd yn eu plith." Diolch iddo am y compliment a rydd i bobl Aberduar-eglwys yn rhifo tua 350 o aelodau, ac i gyd yn gall hyd at un neu ddau ignoramus. Well done, Aberduar. Buasai yn dda genyf ddychwelyd y compliment i holl Eglwyswyr y wlad yma, ond ofnwyf nad ydyw yn boslbl. Byddaf yn ddiolchgar am i chwi adael yr uchod i ymddangos yr wythnos hon.—Yr eiddoch yn gywir, GWIRIONEDD.

Y OYNGHOR SIROL A DADGYSSYLLTIAD…

LLANDYSSUL.

BWRDD YSGOL LLANEGWAD A BRECHFA.

AT ETHOLWYR

-----------AT EIN GOHEBWYR.

Advertising

| CARDIGANSHIRE COUNTY COUNCIL

THE TITHE AGITATION.

COMING OF AGE REJOICINGS AT…

PORTHYRHYD (LLANWRDA).

Advertising

- ABERAYRON.