Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
------CALAN HEN YN LLANDYSSUL.
CALAN HEN YN LLANDYSSUL. GWYL EGLWYSIG. Dydd Mawrtb, Ionawr 12fed, oedd dydd llythyren goch cantorion eglwysig Llandyssul a'r cylchoedd. Ni chlywir cymmaint o gorau ar unrhyw ddydd o'r flwyddyn a'r dydd hwn, naturiol gan hyny yw i garwyr ceiddoriaeth, ac yn neillduol garwyr cerddoriaeth cyssegre- dig—edrych ym mlaen at y dydd hwn gyda chryn dipyn o bleser. Eleni canodd unarddeg o gorau ddarnau ardderchog. Drwg genym am absenoldeb cor Llantihangel-ar-arth, pe baent yn bresennol yna byddai y corau sydd yn arferol o dalu ymweliad a Llandyssul dydd Calan Hen i gyd yn bresennol. Ufuddhaodd rhai o'r corau i'r gorchymmyn ysgrythyrol, 1 Cenwch i'r Arglwydd ganiad newydd,' tra y darfu i'r rhelyw datganu gweitbiau y meistri sydd yn swynol bob amser, ond darfu i'r oil o'r corau ganu a'r deall ac a'r ysbryd. Fel y gwa- haniaetha un seren oddi wrth y Hall mewn gogoniant, felly hefyd am y corau, yr oeddynt hwythau yn gwahaniaethu, ond teg yw dweyd, y darfu iddynt bron yn ddieithriad ganu yn well o lawer eleni na llynedd. Mewn caniad- aeth yn ogystal a phob peth arall, y mae y dychymmygol (the ideal) yn bodoli, a chyn tynu llinyn mesur ar y gwahanol gorau, ni a nodwn yn y fan hou elfenau cor dycbymygol. Cyn y ceir cor perffaith rhaid meddu y priod- oleddau canlynol:—(1), lleisiau pur, coethedig, nerthol a swynol. (2) Cyd-bwysedd perffaith rhwng y gwahanol leisiau, sef sopranos, altos, tenors a basses. (3), darlleniad cywir o'r darn genir parth ton ac amser. (4), myneg- iant geirioi ysblenydd. (5), Mynegiant cerddorol ardderchog. Yn ol y graddau y dynesa y cor i'r uchod, i'r graddau hyny y perthyna iddo rhagoriaeth, ac yn wrthwynebol, po fwyaf oddi wrth yr uchod y mae y cor, po fwyaf diffygiol ydyw. Ni a farnwn bob cor yn ol eu teilyngdod yn y pump adran uchod. Nid oes yr un petrusder ynom mewn per- thynas i ddosbarthiad y corau. Y maent yn naturiol yn ol eu teilyngdod yn rhanedig i dri dosbarth. Yn nosbarth y drydydd, saif St. John's, St. Ffraid, Pencader, a St. David. Canodd cor St. John Teilwnj yw'r Oen' (Handel) o dan arweiniad Mr John Thomas, Glan Clettwr. Trueni i Mr Thomas ddewis y darn hwn, am nad yw yn darawiadol i'w gor. Cyn y gallasai Mr Thomas a'i gor wneyd chwareu teg a'r darn, dylai ei gor fod yn llawer mwy lluosog, am fod y darn yn gofyn nerth mawr a gallu tucefnol (reserve force) o du y cantorion. Canodd y cor y darn yn C yn lie D. Prif ddiffyg y cor oedd asiad rhwng y gwahanol leisiau. Nid oeddent yn canu fel un llais.' Yr oedd llais un o'r altos i'w glywed ar ben ei hun o'r dechreu i'r diwedd. Nid oedd y cydbwysedd o ganlyniad yr hyn ellid ddymuno. Canwyd mewn amser ardderchog, a thraethwyd y geiriau yn glir dros ben. Yr oedd y mynegiant cerddorol yn ddiffygiol. Ni chawsom fawr o flodau cerddorol. Darn mwy syml y tro nesaf gyfeillion, ac ryna cawn well canu genych, o blegid yr wyf yn sicr y gell- wch wneyd hyny yn y dyfodol, gofalwch ddi- weddu y brawddegau yn fwy cryno, a gofaled y basses i roddi darlleniad mwy cywir nag a gawsom yn nhudalen 94 drydedd score, ar y go-gon-iant. St. Ffraid—'Molwch yr Arglwydd' gan J. G. Anthony, Alaw Gwendraeth, Kidwelly, arweinydd Mr D. Thomas, Cwtnhyar. Cor bychan oedd gan Mr Thomas, a dewisodd ddarn bycban a syml, y symlaf o'r holl ddarn- au. Rhoddodd datganiad lied dda, y lleiswyr yn asio yn dda. Fe fethodd yr alto ganu 1 1 I se yn score cyntaf tudalen 84 felly y sopranos mewn perthynas i'r se yn y bedwar- edd bar o'r score tudalen 82. Nid oedd yr altos yn dechreu y gwahanol frawddegau yr un pryd a'r lleisiau ereill, nag ychwaith yn canu yn gywir s fe f m. 3ydd score tud. 84. Mwy o ofal os gwelwch fod yn dda y tro nesaf. Pencader—' Arnat ti yllefais,' gan Owain Alaw. Arweinydd Mr Evan Davies. Dechreuodd y cor yn swynol, gyda llawer o deimlad, yr oedd y bass yn dda. Ni wnawd y cymeriad p. cyntaf cystal, ac ni chafwyd y p. p. ar tud. 66. Pan dechreuodd y tenor tud. 66, 2nd score. Pa fudd sydd yn,' tatlwyd cymain o deimlad i'r ganiadaeth nes yr aeth y t. yn ta. Ni chawsom y swell < > Ail score tud. 66. nag y chwaith > ar ben tud. 67. Nid oedd yr altos ar basses yn cydsymud ail score tud. 66. Ni cbawsom 1: te. la se yn hollol gywir gan y tenors. Dechreuodd y brawd ganodd yr unawd bass yn ardderchog. Rhagor e'r cres. fyddai yn ddymunol er mwyn arddangos y dim, y hyn ni wnaeth y brawd o gwbl, nag ychwaith y Rail ar ddiwedd yr unawd. Er hyn datganodd yn dda. Dechreuodd y cor yn nghynt na m. 76. yn y symudiad Allegro Moderato, ac ni wnaed y fl. ar ben tud. 69 ac yn y diweddiad gallesid gwneud y p. p. yn well. Rhagor o gyferbyniad (contrast) gyfeillion rhwng y cymeriadau. Yr wyf yn pwyntio y brychau hyn allan er mwyn gwelliant yn y dyfodol. Yn mlaen yr eloch yn uwch o hyd. St David—' Marwolaeth y cyfiawn," gan J. A. Lloyd. Arweinydd, Mr D. A. Thomas. Dechreuodd a cor y darn tlws hwn yn rhy gryf o lawer. Pan yn gofyn Pa swn, pa gynhwrf syddF dylai y brawychus ddod allan yn y ganiadaeth. Ni chafwyd hyn, ac ni weithiwyd allan y cymmeriadau i berffeith- rwyd, Rhagor o gyferbyniad rhyngddynt os gwelwch yn dda. Dylasau y p. p. fod yn dynerach o lawer. Cyn dyfod at yr Allegro ni chawsom nemawr o wahaniaeth rhwng p. m. f. a fl. Am y lleisiau yr oeddent yn dda, y bass oedd y goreu, yr altos dim cystal. Yr oeddwn yn teimlo fod y basses yn gadarn iawn. Drwg genym na ddarfu i'r lleisiau gydgychwyn yr Allegro m. 126. Nid ar yr arweinydd yr oedd y bai, ond ar y cor yn talu gormod o sylw i'r copiau yn lie iddo ef. Ond ar ol cycbwyn canasant yn ardderchog. Dim ond un slip bychan y sopranos yn canu d ) r: de r. &c. yn lie de r de I r. &c., 4edd score, tudalen 56. Gyda rhagor o ofal gall y cor hwn ganu yn well. Yr oedd yn rhagori ar yr hyn wnaeth flwyddyn yn ol. Cynydd etto gyfeillion sydd eisiau. Llanpurapsaint—(Arweinydd 2, Mr David Phillips), gorphenwyd gan Thomas Jones (canrhawdfardd), Coedpoeth, Wrexham. Dechreuodd y cor hwn yr Andante yn dda, mewn amseriad cywir, yna canodd boneddiges y Recitative yn swynol iawn. Yr oedd yn ar lais hyfryd. Nis gwn a oedd yn dioddef oddiwrth anwyd, ond nid oedd ei nodau uchel yn swnio mor hyfryd a'r rhai isel. Dilynwyd hi gan ddau denor mewn deuawd, un yn denor ysgafn, a'r Hall yn drwm. Ni ddarfu i'r brawd oedd yn canu y llais uchaf ddiweddu y bar diweddaf o'r deuawd yn gywir parth amseriad. Ni ddiweddodd yr alto y chorus ar ddiwedd tud. 6, yn gywir mewn amser. Canodd y tenor yr unawd yn llawn o deimlad. Cyn iddo ganu dylaswn ddweyd fod y soprano a'r bass yn y trio yn ardderchog, nid oedd y llais arall mor ffodus. Ni ddechreuodd y cor y chorus Moderato ni. 12, gyda'u gilydd. Trueni am hyn, ond yna awcl yn mlaen yn hwylus, y soprano yn dda iawn. Gwaelodd tud. 8. y bass yn canu fe, s, I, t, d | r yn anghywir. Y soprano yn swnio T yn lie ta bar cyntaf or 5ed score, gwaelod tud. 9. felly hefyd m': f' yn lie m' fe', gwaelod tud. 10. bar cyntaf. Ni fuwyd yn hapus wrth ddechreu yn Allegro m. 116., ac fe darawodd y tenors y Largo o flaen y lleill. Prif fai ganiad y cor oedd peidio talu sylw i m. 36. Gofaler yn y dyfodol sylwi ar ddiwedd pob darn. Capel Mair—' Fy nyddiau a ddarfuant fel mwg' gan Hugh Davies, Pencerdd Maelor arweinydd Mr J. Jones. Lleisiau da ond dim yn cyd symmud ar ddechreu y darn ar tudalen 3edd, ail far score cyntaf, ni tharodd y tenors y fe yn gywir; ac ar tudalen 2, ni wnawd y dim. fel y dymunwn. Nid oedd y bass yn ddigon cadarn. Dechreuodd y cor y symmud- iad m. 120, Gwyn eu byd y meirw yn ardder- chog, ac awd ym mlaen yn hwylus hyd y gair canys' ar ol y pause top tudalen 4. Dechreu canys yn fratiog 4ydd score, tudalen 4ed, yn lie canu sef ty fel hyn m ) s canwyd m. f s, gofaler rhag gosod nodau i fewn. Tudalen 5, ymadaw wnaf, ni. 80, dim yn ddigon dwys, rhagor o gyferbyniad yn eisieu. A phob gwa- hanglwyf hyd y diwedd yn ardderchog. Cadwodd y cor amser da drwy y darn, ac eithrio yr hyn a nodais, dyma ddatganiad gwych. Pe na bai y cor wedi gostwng hanner ton cyn diweddu, byddai yn y dosbarth blaenaf. Bangor—'Mor hawddgar yw dy Bebyll,' gan Dr. Parry arweinydd, Mr Henry Evans. Dyma gor sydd yn cynnwys lleisiau ardder- chog, Nid oedd yr un part gwael yn y cor. Mewn rhinwedd (quality) tenors penig:imp, ond yn canu ar y cyfan yn rhy gryf. Yr oedd hyn yn hynod amlwg ar ddechreu y darn yr oedd y lleisiau ereill yn dyner ac yn ddymunol iawn,tra yr oedd y tenors yn canu yn m.f. yn lie p. Ni ddarfu i'r tenors ganu Preswylwyr dy dy,' t ta 1 la I s yn berffaith gywir. Yr oeddwn yn teimlo y sopranos yn rhy wan ar waelod tudalen 2. Y tenors eto yn canu m' r' m' yn lie m' re'm' yn 4edd, score tudalen 4edd, ac ni ddarfu iddynt daro yr s' yn gadarn, yn y gair Arglwydd, top tudalen 7fed y ddau brif ddiffygion y datganiad ar y tudalen olaf. Gyda'r fath adnoddau ardderchog agsydd gan y cor hwn, yr oeddwn yn dysgwyl canu bendi- gedig ar y ff, ail score tudalen 8, canys haul a tbarian yw yr Arglwydd Dduw; ac ni wnaedyr un cyfnewidiad rhwng M. 96 a M. 52 ar y diwedd. Pa ham hyn 1 Nid oes dim i rwystro y cor hwn i fod gyda'r blaenaf yn y dosbarth blaenaf, ac yr wyf yn gobeithio y byddant yn talu tipyn yn rhagor o sylw i'w darn y tro nesaf. Mr Evans, y mae cor da genych. Dosbarth laf Penboyr — Teyrnasa Iesu Mawr,' gan D. Jenkin Morgan, trefniad D. Emlyn Evans, arweinydd Mr John Griffiths. Yr oeddwn yn teimlo fod gan y cor hwn ddarn rhy syml; gobeithiwf y safei weledyn ymgym- meryd a darn caletach y tro nesaf. Y mae y cor yn feddiannol ar leisiau ysblenydd, ac y mae y tenor yn hynod o dda. Ni chefais yr un sain anghywir o'i ddechreu i'r diwedd, ond rhaid cofio raai darn syml iawn ydyw. Gwnaeth y bass un camsynied yn yr ail far score cyntaf, tudalen 86 ni tharawsant (f m. f m r. &c.) Teyrnas mewn amser cywir. Os nad oedd un camsynied mewn amseriad ond hyn, a dim un yn y seiniadaeth, ym mha Ie yr oeddynt yn dditfygiol1 yn y mynegiant cerddorol. Ni wnawd y cres. a'r dim, na'r m. p. fel y dylid, ac agorwch eich adenydd y tro nesaf, gyfeillion, ac ehedwch i awyrgylch cerddorol mwy aruchel. Llangeler — Haleliwia i'r Goruchaf' (Beethoven) o Fynydd yr Olewwydd." Arweinydd, Mr Samuel Jones. Dyma un o'r darnau mwyaf clasurol a ganwyd yn ystod y dydd. Hwn oedd un o ddarnau cystadleuol y Cor Mawr o dan arweiniad Caradog,' a bu yn destun cystadleuol mewn sawl eisteddfod yn fuan ar ol cystadleuaeth y Palas Grisial. Dyma ddarn yn deilwng o gor Llangeler, ac er nad ydym wedi cael ein boddloni yn natganiad y cor o'r darn, etto gyda rhagor o fyfyrdod o hono gallasai y cor hwn rhoddi datganiad ardderchog, o blegid y mae gan yr arweinydd ddigon o adnoddau yn ei gor. Y mae lleisiau da yn perthyn i bob part, ond rhywfodd ni ddaeth y cor i fyny a'n disgwyliad eleni. Yn wir ni arddangosodd y cor yr unrhyw fedr ac yn nadganiad We never will bow down y llynedd. Dechreuodd y cor y darn hwn yn rhy araf, a phan ddaeth y cor at y frawddeg 'Fo i enw'r Arglwydd lor,' ni ddarfu i'r soprano daro yr A (1') yn gadarn yr oedd lleisiau rhai o honynt yn sigledig ar y nodyn, ereill yn gadarn, yr oedd yr etfaith gan hyny yn anymunol. Wrth ail-adrodd Fo i enw'r Ar., &c., ni darfu i'r lleisiau gydsymud ar y gair enw. Y symudiad Allegro yn dda, a chanasant yn bynod dda byd ddiwedd tud. 75. Teimlwn fod y bass hytrach yn rhy wan. Yn swynol dros ben y dechreuodd y basses cyd- fynegwch ei ogoniant,' y tenors yn cymeryd i fyny y frawddeg yr un mor swynol, yr altos a'r sopranos yr un peth nes yr oedd y glnst yn cael ei swyno, ond ar ol gwneud y p. mor dda, trueni enbyd na fyddai y crescendo wedi ei weithio allan. Nid oedd y cor mor hapus yn y ff. Yroedd digono nerth i'w gael, ond rhywfodd ni ddefnyddiasant y cyfryw. Dechreuwyd yr ail-adroddiad yr un mor swynol, ac awd yn y blaen fel y tro cyntaf, nes cyrhaeddwyd nefol gan,' top tud. 80, pan ymethodd ybass a tharo y ta. f. yn gadarn (gwnaeth rhai hyny, eraill ddim), a phan ddeuwyd at y finale, parodd Mr Jones y cor i arafu wrth ganu y frawddeg ddiweddaf i gyd 'mewn sanctaidd nefol gan.' Yn awr yr oedd Mr Jones yn unol a'r arferiad cyffredin o ddiweddu ton, ond bob tro y clywsom y darn hwn o'r blaen, canwyd y frawddeg fel y lleill. Gan mai mater o chwaeth yw hyn, nid ym yn beio Mr Jones, ac nid yw y ffurf hon o ganu y frawddeg yn cyfnewid ein barn am ddatganiad y cor. Daliwch ati, Mr Jones; y mae yn bleser genym glywed eich cor da bob amser. Llandyssul — Blessing, Glory, Wisdom, Thanks' (Berthold Tours), arweinydd Mr D. H. Thomas. Dyma ddarn clasurol eto, a chor da yn ei ddatganu. Y r oedd y gwahanolleisiau yn ardderchog, yn neillduol yr altos hytrach yn rhy wan i ateb y lleisiau ereill oedd y tenors—tenors fine, ond dim digon o nerth pan oedd galw am byny. Agorodd y cor y darn yn gynhyrfus iawn, perffaith darawiadol, ond nid oedd yr oil o'r sopranos yn gartrefol ar y gair might cyntaf yn yr ail score. Gwnawd y p.p. tudalen 13 yn hyfryd, ac ni chawsom un gwall nes cyrhaedd y swell < > top tudalen 16, yr hyn a wnawd yn rhy eiddil wrth ein bodd yr oedd y gwahanol rhanau (parts) yn cymmeryd i fyny '0 praise the name of the Lord,'tudalen 16, yn fendigedig, a chariwyd yn y blaen fel hyn nes cyrhaedd yr unison ar waelod tudalen 17, pan yr oedd y tenors shade allan o amser ar ex-cellent (1 se se) yng nghanol tudalen 18 (y tudalen caletaf yn y darn), ni ddygwyd y poco ritardando' i ben yn gryno iawn, ac yn y 5ed bar, ail score tudalen 18, yr oeddwn yn gwrando yn astud iawn ar yr altos a'r tenors yr oedd un o honynt shade o flaen y llall mewn amser, a gwanaidd iawn oedd y tenors ar yr Heaven and earth, y lleisiau ddim yn hollol gryno 3ydd score, tud 19, wrth y cymeriad morendo. Cododd y cor i uchelfanau ardderchawgrwydd ar tudalen 20, ac hyfryd dros ben yr awd a 'World without end i Blessed be the Lord.' Gallwn feddwl fod Mr Thomas wedi 'drillo' y cor yn y man hwn yn dda; beth byaag, gwnawd ef yn ardderchog—fel un gwr a chan wyd yn rhagorol dda nes cyrhaedd y climax. Sylwasom ar Mr Thomas yn curo pedwar yng nghanol y darn, pan yr oedd y cor i fod i ganu. 0 ba Ie y cafodd Mr Thomas y trie hwn? Ai oddi wrth Caradog ? Gwnaeth Caradog hyn un tro wrth gystadlu ar Mawl | fo i Dduw' (Thanks be to God) er rhoddi gorphwysdra i'r cor, a phan y dechreuodd y cor Mawl fo i Dduw' am y tro olaf, yr oedd yr effaith yn drydanol. Nid oedd y climax i fyny a'n dysgwyliad. Hyn oedd prif fai y dadganiad. Ar y cyfan, datganiad ardderchog o ddarn anhawdd, St. Barnabas—' Moeswch i'r Arglwyd' (John Thomas, Llanwrtyd). Arweinydd, Mr j Rees, Darn syml yw hwn, parth tinhawsder ni allwn ei gydmaru am foment a darnau Llangeler a Llandyssul. Nis gwn pa ham y dewisodd Mr Rees y darn yma os nad am iddo ddewis darn caled dros ben y flwyddyn o'r blaen. Y mae y cor yn gyfoethog o leisiau ardderchog. Nid yw yr un o'r parts yn wan, cydbwysedd ardderchog rhyngddynt mewn geiriadaetii, un gwall y sopranos yn y bar cyntaf, 3ydd score, tudalen cyntaf (37) yn canu s. fe. m. yn lie s. f. m. Mewn amser dau wall, y lleisiau ddim yn cyd-symmud wrth ddechreu y semi-chorus tudalen 41 yr un gwall etc yn a dyry nerth,' tudalen 43. Mynegiant geiriol ardderchog, felly hefyd y mynegiant cerddorol. Un gair yn garedig at yr arweinyddion. Yr oedd y rhan fwyaf os nad yr oil yn canu gyda'r sopranos, ac yr oedd eu lleisiau ar brydiau i'w clywed ar wahan oddi wrthynt. Yng nghaniad- aeth y cor dychymmygol, nid yw hyn i fod. Un tro yn Hirwaun sir Forganwg, attaliodd y beiruiad y wobr oddi wrth y cor goreu ar y tir fod yr arweinydd yn canu gyda'r sopranos. Wrth gwrs, gwell i'r arweinydd ganu gyda'r sopranos nag iddynt dori i lawr, nid oedd galw am hyny dydd Calan Hen. Yr wyf yn diolch i'r corau am eu caredigrwydd yn rhoddi copi o'r gwahanol donau i mi, a therfynaf trwy ddweyd fy mod wedi rhoddi fy marn onest ar y canu, ac hyd eithaf fy nghallu yn hollol gyfiawn a chydwybodol.
DARKEST WALES.
DARKEST WALES. [GAN YMNEILLDUWR.] Fel mam yn tosturio wrth fab ei chroth y tosturia Duw wrth drueiniaid Seion. Efe a wrendy waedd y rhai a lefant arno ddydd a nos. Ei blant o'r pedwar gwynt a frysiant ato i'w unig Demi—a'r rhai a'u dinystriant a ant allan oddi wrthynt. Tynir ei anwyliaid allan o'r tryblith aflunaidd a gwag i greadigaeth newydd y wir E„'lwys, yr hon a ymagoraynddynt ac o'r tu allan iddynt yn baradwys o begwn i begwn. Y wyddor ardderchog yw cyfatebiaeth y bydysawd materol a'r bydysawd ysbrydol-holl wrthddrychan nef a daiaryn arwyddluniau o sylweddau cymdeithas y Saint. Yn 01 y wyddor hon y llefara y Crewr y Gair Materol yw yr iaith, ond ysbrydol yw y meddwl. Pan sonir yn y Gair am yr haul a'r lleuad a'r ser, ac am nef a daiar a nid pethau y byd gweledig a feddylir, ond pethau byd anweledi4 yr Eglwya. Wrth yr haul y golygir y Duwdod yn ei gariad, Haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw.' Wrth y lleuad y golygir dirnadaeth grediniol o'r Duwdod yn adlewyrchu ei oleuni wrth y ser y golygir goleuadau aneirif ereill yn britho wybrenan anfarwol yr enaid— gwybodaethau o'r Gair fel y trwp-ser, fel orion, fel y saith seren, ac fel Caergwydion yn sirioli y ceugant uwch ben y galon. Y wir Eglwys yw y wrai yn y welediaeth wedi ei gwisgo a'r haul, a"r lleuad dau ei thraed, ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren a hi a esgorodd ar fab gwrryw, yr hwn oedd i fngeilio yr holl genedloedd.' Mor hardd yw yr arwyddlun ac mor oleu i'r llygad ysbrydol Y wraig drwy y Gair yw y wir a'r nnig Eglwys, priodasferch gwraig yr Oen, haul cariad yn wisg danbaid am dani o'r wardrobes nefolaidd lleuad y gwirionedd yn droedfainc i'w thraed, a ser y gwybodaethau dwyfol fel gemau yn ei choron. Ei phlentyn gwrryw yw ei hath- rawiaeth, yn orlawn o bwerau y Ddynoliaeth Ddwyfol, yn ffurfio dynion angylaidd, yn daros- twng eu hunain yn llwyr i Ddu, a Duw yn darostwng pob peth iddynt hwythau. Y dynion hyn a'u hathrawiaeth sydd i fugeilio yr holl genedloedd a gwÜlen haiarn, sef llythyren y Gair dan lywiad yr Ysbryd. Dyma awdurdod y saint, a hwy a chwalant holl sectau dreiijaidd Darkest Wales a'r byd gan eu ddryllio fel llestri pridd, o blegid fod yr haul, sef y cariad dwyfol yn y sectau wedi troi yn sachlen new y lleuad, sef credin- iaeth ysbrydol wedi troi yn waed, a meddyliau aruchel sef y ser, wedi syrthio fel ffigys. Dyfodiad Mab y Dyn ar gyuaylau y nef sy'n dangos fod diwedd y byd wedi dyfod yn y capelau. Rhydd y nodion hyn fantais i adwaeu ansawdd resymol. YR WYTHNOS WEDDIO YN DARKEST WALES. Rhyfedd ym mhlith rhyfeddodau Duw yw gweddi. Dirgelwch anirnadwy yw ysbryd gweddi; anfeidrol ydyw nerth gweddi dwfn a diderfyn- au yw dylanwad gweddi, ac ni fedr tragwyddol- deb ddlhybyddu effeithiau gweddi. Nid oes angen talent, dawn, dysg, na gwybodaeth, ond gwybodaeth d'f^atefrDdwyfol, er gweddio. Yr enaid gwanaf yn allu gweddio, a dderbyn allu goruwch-naturiul-gallu i ddwyn Duw a bodau y byd arall o'i blaid yn y byd hwn gallu i orch- ymmyn deuddeg lleng o angylion i ymweled yn guddiedig a'r blaned; gallu i ddylanwadu o'r nefolion leoedd ar dynghedfen anfarwolion. Ond gallu enaid wedi tynghedu ei hun i fyw yn nys- glaerder tanbaid haul ybydoedd yw gallu gweddi. Cyferbyner y gallu hwn ag anallu cyrddau gweddi Darkest Wales yr wythnos gyntaf o'r flwyddyn. Cyrddau gweddi oerion fel Ionawr, a duon fel y nos, heb haul na lloer, na ser uwch ben. Un diwrnod yn yr wythnos weddio, gwelais ddiacon parchus gyda'r Annibynwyr yn hebrwng llwythi o haidd i'r bragty, yn cael ei gadw gan ddiacon arall yn perthyn i'r Bedydd- wyr—dau ddiacon, ond dau was y diafol i ddi- nystrio rhoddion Duw, cyrff ac eneidiau dynion. Wedi dadlwytho, aeth y diaconiaid gyda'u gilydd i'r dafarn, diacon arall gyda hwy, perthynol i'r Corff, yno buont yn hir a hwylus, Mor hyfryd yw trigo o frodyr yng nghyd,' yn neiilduol pan y mae gweddiau eu calon yn cael eu hatteb— Cynneliwch ni a photelau.' Aeth y diaconiaid adref rywfodd o gwrdd gwlithog y dafarn, fel bariliau byw, ac i gwrdd sych Gilboa y capel y noson hono. Testyn gweddi y cynghrair' yn gofyn i'r ysbryd symmud masnach yr opium, ac wrth gwrs y fasnach feddwol a'r myglys. Y diaconiaid hyn yn rhyfygu cymmeryd rhan yn y cwrdd, yn gofyn yn dafod-tew am gael yr Ysbryd Glan i sobri y byd, tra y barlys yn y bragty, y box dybaco yn y boced, Bachus yn y perfedd a'r bendro ddamniol yn pen. Dyfaler ar y drych—tri diacon perthynol i'r tri en wad yn cydgwrdd yn galonog uwch ben y gw.vdrau, ac yn cyd-feddwi cyn myned i'r cwrdd gweddi a'i gais i gael yr opium, y myglys a'r gwirod o'r byd, y dirwestwyr gau a'r gweision cyflog yn eu goddef —dyna undeb yrenwadau, adyna Darkest Wales. Os o braidd y bydd y cyfiawn gadwedig, pa 10 yr ymddengys yr annuwiolion a'r pechaduriaid hyn ? Cofiais hanes hynod wrth fyfyrio ar ddryglam ddreigle capelaidd y coll-ddiaconiaid hyn, a bro yr erchylldod, llyn echrysfflam y bythol gartref sydd yn eu haros. Dyn o'r wlad yn Merthyr er ys blynyddau yn ol, yn gorwedd yn feddw, ac mewn cwsg ar yr heol, a gludwyd gan garedigion i ymyl un o ffwrneisiau blast y Gyfarthfa. Pan ddeffrodd ym mhlith y gweithwyr, duon gan fwg a glo, a gweled ffiamau y ffwines, gofynodd yn frawychus, 'Pa Ie yr wyf?' 'Yn uffern' meddai un wrtho. le yn wir,' meddai y meddwyn, 'yr wyf yn gweled y fflamau, ac yn eich gweled chwithan y cythreuliaid duon, dywedwch, oddi ar pa bryd yr ydych yma V ydym yma er ys cannoedd o flynyddau medd un wrtho. meddai y meddwyn, 'gan eich bod yma cr ys cymmaint, dywedwch, a wyddoch am ryw dafarn yma yn rhywle r Felly pan y gorfydd i'r diacon- iaid tafarnaidd a fuont yn gweddio yn dafod-tew, agor eu llygaid fel Deifes yn fflamiau y ffwrnes tu hwnt i'r lien, eu holiad i'r trigolion o'r un hyll- rith a'r cythreuliad fydd.' A wyddoch am ryw dafarn yma yn rhywle. Yr ydym ar dagu. o am ddafn ar ben bys i oeri tafod, Canys poenir ni yn y fflam hon.' Dynadrem ar Darkest Wales tu draw i'r gagendor yn y poenau. Yr ail olwg fi ni fynwn Er bydoedd fyrddiwn, Er nad oeddwn Yn eu dio-ddau." Diacon diotgar arall yn myned i'r cwrdd gweddi ar yr un noson dirwestwr ar y flbrdd yn gofyn iddo Pa fodd yr ydych chwi yn myned i'r cwrdd pan mai y testyn yw gweddio am sobri y byd, a chwithau yn yfwr?' 'Ai dyna y testyn meddai y diacon, le,' meddai y dirwestwr. '0, dei, meddai y diacon,' wfFt i'r hen destyn, nid af I heno, af nos yfory yn lie heno.' Ac felly, dychwelodd adref, ond yn fuan wedi troi yn ol, cwrddodd a brawd trwyngochyn myned i'r cwrdd, a dywedodd wrtho, Fachgen, gwyddet ti fod y ddirwest felldigedig yma i fed ar gerdded heno yn y cwrdd gweddi.' Yr wyf fi yn troi yn ol, ac af i'r cwrdd nos yfory yn lie heno. Gwell i ti ddyfod gyda mi. Hen gwrdd sych a'r satan fydd yna heno. Mae rhai o'r penboethiad yna dros ddirwest yn sicr o dreio dangos eu hunain heno.' Dychwelodd y ddau gyda'ugilydd. YR y pentref ar ei ffordd gyferbyn a'r dafarn, gofynodd y diacon i'w gyfaill, ran o chwart V 'Gwnaf,' meddai y cyfaill, diferyn ddim drwg heno.' Ac yno y bu y brodyr am oriau yn eistedd gyda'r meddwon, yn yfed ac yn canmol y cwrw, yn condemnio dirwest, ac yn cablu yr Ysbryd Glan. Dywedwyd yr hanes wrth y gweinidog, a nodwyd tystion, 'Y neb sydd ddibechod tailed gareg,' meddai y gweinidog, rhaid i ni oddef ein gilydd mewn cariad ehe fe ym mhellach, gan brofi ei hun yn ddyn bach fine, nice, ac yn gall iawn i beidio terfysgu dim. Nosdranoeth, y diacon hwn oedd yn diweddu y cwrdd mewn hwyliau anarferol.—MINAH [Drwg iawn genym orfod talfyru erthygl galluog Minah o herwydd prinder gofod yr wythnos hon.—GOL.]
*' N O DI A D A U.
N O DI A D A U. GWEINIDOGION YR YMNEILLDUWYA AC YMUNIAD A'R EGLWYS. Dywed y Times mewn byr erthygl fod dau weinidog yn perthyn yu ddiweddar gyda'r Meth- ) odistiaid Calfinaidd Cymreig wedi newydd gaeleu hordeinio yn uffeiriaid yn Eglwys Loegr, sef y Parch. Josiah Thomas, gynt o Llandaf, gan Esgob Llandaf, ae wedi ei drwyddedu i giwradiaeth y Bettws, Bridgend a'r Parch. J. H. Parry, gynt o Aberdare, a mab i'r diweddar gymmedrolwr y gymmanfa gyffredinol a ordeiniwyd yn offeiriad gan Esgob Llanelwy. Yn y cyssylltiad yma, dywed y Times hefyd fod cnwau deg o weinidog- ion yn sir Fynwy yn absennol o'r gwrthdystiad arbenig a ddarparwyd gan yr Henaduraeth yn erbyn yr haeriad a wnaed gan Esgob Llandaf, fod nifer o weinidogion yr enwad wedi bod yn ym- ofyn ag ef am dderbyniad i urddau o fewn yr Eglwys. MARWOLAETH MRS EDWARDS, BALA. Bydd yn ddrwg gan bawb o'n darllenwyr glywed am farwolaeth Mrs Jane Edwards, gweddw y diweddar Dr. Lewis dwards, Prif- athraw, ac hefyd aylfaenydd Coleg nodedig y Bala. Yr hyn sydd yn gwneyd yr amgylchiad yn darawiadol ydyw fod y foneddiges ymadawedig yn wyres i'r enwog Thomas Charles, sef Charles y Bala,' sylfaenydd yr enwad Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru. Ganwyd Mrs Jane Edwards ar y 9fed o Ch .\efror, 1814, ac felly yr oedd yn 78 mlwydd oed, neu yn myned ar hyny. Cymmerodd yr angladd Ie dydd Mercher y 6fed yn Eglwys Llanycil, lie y gorphwys gweddillion llawer iawn o'r hen deidiau lVIethodistaidd- parch i'w coffa dywedwn ni, a gwyn fyd pe bae eu canlynwyr yn rhodio yn eu hen lwybrau tangnefeddus. Hi a ymbriododd a Dr. Lewis Edwards, Rhagfyr 31, 1836, ac fe fu yn gyf- nerthiad o'r mwyaf iddo drwy ei oes yn y sefyllfa arbenig ag yr oedd yn ddal yn y cyfundeb, ac yn ein gwlad. Cawsant naw o blant, ond bu tair merch farw yn ieuanc y gorfucheddwyr ydynt y Parch. Dr. Thomas Charles Edwards, Prif- athraw Coleg yBala; y Parch Llewellyn Edwards, Aberystwyth Parch. D. C. Edwards, Merthyr Dr. James Edwards, Lerpwl; Mrs Dickens Lewis, gwraig Mr D. Lewis, Amwythig, a Mrs Evans, gwraig y Parch. W. R. Evans, Gwrecsam, lie yr oedd Mrs Edwards yn aros pan fu farw. Hi a aeth yno ym mis Hydref ar ymweliad, pan y cymmerwyd hi yn afiach. Yr oedd yn gwella yn bur dda hyd nes yr ymddangosodd arwyddion mwy peryglus, y rhai a derfynodd yn ei marwol- aeth ar y dydd Sadwrn canlynol oddi wrth yr anwydwst. Claddwyd hi yn yr un bedd a'r fynwent ag sydd yn cynnwys gweddillion Thomas Charles, ei wraig, a'r diweddar Dr. Lewis Edwards. Yr oedd Mrs Edwards yn foneddiges fwyaf haelionus tuag at y tlawd, a charedig a chyd-deimladol tuag at y elaf, a phawb mewn cyfyngder fel y mae pawb tua'r Bala lie y bu yn byw dros ei bywyd yn gwybod. GOLYGFA OFNADWY AR ACHLYSUR DIENYDDIAD. Cymmerodd dienyddiad Ie yn ninas Mexico dydd Iau diweddaf. Y gwrthddrych oedd un Jesus Marhossy, am lofruddio hen wr masnachwr gemau, a'i ysbeilio. Pan ddygir. carcharor allan i'r dienyddle, y mae yn arferiad yn y wlad hono cyn hyrddio y dyn i dragwyddoldeb, iddo gofleidio cadben yr heddlu yn llaw yr hwn y mae y gorchwyl o gyfiawnu y ddedfryd yn gorphwys. Ar yr achlysur hwn pan oedd y charcharor yn cofleidio y dienyddwr ar esgynlawr yng ngwydd torf o edrychwyr, trywanodd ef yn ddirgel dair gwaith. Saethwyd yr adyn yn ddiatreg gan un o'r swyddogion oedd yn bresennol. Cafwyd nad oedd archollion cadben yr heddlu yn farwol fel y bu yn ffodus. Y CONSUL AMERICANAIDD. Amlygir fod y Llywydd Harrison America, wedi penodi Mr Walter Howard, i fod yn neges- ydd Americanaidd droa Gymru yn lie Major Jones yn Caerdydd. Heb law bod yn ymgeisydd am gynnrychiolaeth Caerfyrddin, y mae Major Jones yn bwriadu cyssylltu ei hun a'r Wasg drwy osod ei hun ar restr ysgrifenwyr y "Shipping World." — ■V Y MODD Y LLADDWYD GORDON. Y mae yr adroddiad a roddir gan y carcbaror. ion a ddiangasant o Khartoum yn rhoddi cyfrif mwy manwl yng nghylch llofruddiad Gordon, ac yn cadarnhau yr hyn a amlygwyd genym o'r blaen. Ychwanegant i gorph y gwron ar ol ei ladd, gael ei dori yn ddarnau, ac i'w ben gael ei arddangos am ugain diwrnod ar gopa gwaewffon yn y man yr oedd, yn ol ei ddyddlyfr, yn aroe bob dydd gan ddysgwyl gweled dyfodiad yr adgyf- nerthoedd a ddylai gweinyddiaeth Mr Gladstone anfon i'w ryddhau. Ymddengys fod y carcharorion sydd eto yn aros yn cael eu gwylied yn ofalus, ac ni adewir iddynt adael y dref Ni chaniateir bwyd iddynt, ac y maent yn gorfod ei chwilio a'i drefnu gyatal ag y gallant. Arferai y tad weithio fel gwehydd pan yr oedd y ddwy chwaer yn ennill eu bwyd drwy werthu bara ar yr heol- ydd. Gwariodd yr olfeiriad, sef Monseynor Logan, drwy foddion pa un y diangasant, dri- ugain mil o ffrancod neu sylltau tuag at effeithio y gwaith. Cadarnheir hefyd yn drwyadl gan un o'r chwiorydd y modd y cyfarfu Oliver Pain ei farwolaeth, sef iddo gwympo a niweidio ei hun, ac yna cael ei gladdu yn fyw. Y mae'r adgofion hyn ar ol wyth mlynedd o ddystawrwydd ac anwybodaeth, yn llewyrchu cyfrifoldeb dychryn- 11yd ar yr awdurdodau oeddynt ar y pryd yn gyfrifolyn ein gwlad am y fath drychunebau. *#* Y CYNGHORAU SIROL A DADSEFYDLIAD. Pa beth bynag oedd bwriad llywydd Bwrdd y Llywodraeth Leol pan ddygodd i mewn y mesur er creu y Cynghorau Sirol, ac y llwyddodd i'w gario yn fuddugoliaethns drwy y senedd, y mae'n sicr mai nid un o'i amcanion oedd fod y cyfryw gynghorau i ymyraeth mewn unrhyw fodd yn y byd a chyfansoddiad y deyrnas hon mewn gwlad ac Eglwys. Er hyn i gyd, ymddengys mai dyna a ystyrir gan bwyllgor gweithredol Cynghrair Rhyddfrydol Gogledd Cymru fel prif bwnc a dyben eu creadigaeth. Y mae y Cynghrair hunanol hwn wedi penderfynu nid yn unig fod etholiad y Cynghrair Sirol mis Mawrth nesaf i gael ei benderfynu ar seiliau gwleidyddol, ond fod yn rhaid cyfyngu hyd y nod gwestiynau politic- aidd mor dyn agsydd bosibl canys rhaid gofyn i bob ymgeisydd i wystlo ei hun o blaid dad- i sefydliad a dadwaddoliad yr Eglwys yng ] Nghymru. Y mae hyn yn amcanu mae'n amlwg fod y capel i ysglyfiaethn yr holl Gynghorau Sirol, eu swyddau, eu galluoedd, a'u breintiau, ac nad yw o un dyben i Eglwyswr ymofyn. Ym ] mhellach, amlygir y bydd yr etholiadau hyn yn ] gyfleusdra arbenig i brofi y peirianwaith Radical- aidd, a'i ddwyn i ffurf uwchradd (first class form) ( gyd-gyfer a'r Etholiad Cyffrednol nesaf i'r senedd f sydd yn agos gerllaw. Yn ddiweddaf, cymhellir ( y pwysigrwydd o weithgarwch cyd-drefnol a £ brwdfrydig tuag at ennill goruchafiaeth, gan na c fyddai dim llai na hyny ond yn niweidiol i'r e amcan mewn golwg yn yr Etholiad Cyffredinol. c Y mae yn waradwydd i Gymru oleuedig fod arweinwyr y bobl wedi en dwyn i'r fath gyflwr c isel o anfoesoldeb ag i gymhell arnynt yn gy- 1 hoeddus drwy y wasg i fabwysiadu y fath s gynllun anonest a'r uchod. Y mae y Cynghorau y Sirol wedi cael eu creu er gofaln dros faterinn e sirol y trethdalwyr, y ffyrdd, y pontydd, yr hedd- J I geidwaid, a llawer o bethau ereill yng nglyn a'u buddiannau ag y mae y ddeddf yn ddarnodi 1 ac fe wyr Pwyllgor Gweithredol Cy nghrair Rhydd- ( frydol Gogledd Cymru hyny yn eithaf da, ac nad oes gan y Cynghor Sirol ddim mwy i wneyd fel y £ cyfryw a materion cenedlaethol, llawer llai a'r s Eglwys nag sydd gan breswylwyr y tlotty. Na ] hidier pa mor gymhwys fydd boneddwr i lanw s swydd cynghorwr sirol drwy ei gyfrifoldeb neu ei t synwyr, yn y materion a ymddiriedir i'r cyfryw I gynghorau gan y llywodraeth os na fydd yn [ ddadsefydlwr, yn ddadwaddolwr, yn ysbeilydd, £ gwrthodir ef a dewiser yn hytrach y penbw] I anwybodus, anghymmwys mwyaf, os bydd yn j ddadwaddolwr. Bydded i les a buddiannau y sÏ1 a llogell y trethdalwyr fyned i Jericho, ond gadawer i ni gael cario ein hamcan, a gwneyd y Cynghor Sirol yn grafanc i'n cynghrair ni tuag at brofi ein peirianwaith Radicalaidd, a'i ddwyn i i ffurf flaenllaw gyferbyn a'r Etholiad Cyffredinol. Y mae hyn yn cael ei addef yn gyhoeddus a ( phendant. Gan hyny, bydded i Eglwyswyr, Ceidwadwyr ac Undebwyr, gymmeryd rhybudd < mewn amser yng nghylch amcanion diegwyddor ac anfoesol y Radicaliaid. Ar ysgwydd y Ceidwadwyr y saif y bai, pan neshaoyr ymgyrch, 1 os na fyddant hwy yn ddigon arfogi'r rhyfel. 'I YR EGLWYS GYMREIG YN LLUNDAIN. Hysbysirfod trefniadau ardroedtuag at gynnal < Gwasanaeth Gymraeg mawreddog yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul ar nos Wyl Dewi nesaf, ar < yr un llinellau a'r un a gawd ddwy flynedd yn ol; yr hwn, cofir, fn mor llwyddiannus, buddiol a ) gwerthfawr ym mhob ystyr. Y mae pwyllgor 1 gweithgar a phrofiadol wedi cael ei ffurfio gyda I chefnogaeth Arglwydd Faer y Brifddinas j a'r ( rhan gerddorol bwysig o'r gwasanaeth wedi ei ym- i ddiried i Mr Dyfed Lewis. ( ]
ERLID YR EGLWYS. i ^1
ERLID YR EGLWYS. i 1 Fel y sylwasom o'r blaen, fod yr Iesu wedi cael ei erlid yn greulawn pan ydoedd yma ar y ddaiar; cyrhaeddodd erlidigaeth ei uchafbwynt yn ei amser Ef torodd holl argaeau digofaint y gelyn- ion duodd wybrenau eu hymddygiadau yn y fath fodd, fel nad oedd cymmaint a phelydryn dosturi yn ymddangos drwy y caddug ac er gofid rhaid dweyd na ddarfyddodd yr ystormydd hyd heddyw ni chiliodd y cymylau pygddu fu ( yn tywyllu cylchoedd moesoldeb ni attaliwyd y gwlawogydd, ni thawelodd rhuadau cornwynt- oedd llid a brad yr ymosodwyr m ddystawodd y taranau brochus; ni ddiffoddodd mellt eu cynddaredd ni lonyddodd y rhyferthwy ofnadwy fu yn ymchwyddo gynt, ac ni chliriodd yr awyr- gylch eto na. y mae yr arwyddion mor erchyll yn awr mewn llawer o ystyriaethau y mae dialedd yn fyw, ac erlidigaeth ar y maes a'i lygaid eryraidd yn cynniweirio i bob cilfach, yn chwilio am bob gronyn o ddaioni er mwyn ei gael yn ysglyfaeth i'w wane erchyll anniwalladwy, yn llamu ar y maes fel bwystfil anferthol, a'i ruadau yn ddychryn i bob cymdeithas bur a daionus ac wedi colli prif wrthddrych ei ymoaodiadau, a phrif nod ei saethau, sef yr Arglwydd Iesu, rhaid iddo gyfeirio ei gamrau ar ol ei Eglwys ond na, nid teg yw galw hon yn Eglwys o ran hyny, o blegid, medd yr Ymneillduwyr, nid teilwng ei galw felly. Ymddengys i mi fod rhai o'r bJaid hon yn ystyried nad oes un eglwys wirioneddol ar y ddaiar, ond y rhai hyny a gredant mewn Ymneillduaeth. Galwantyr Eglwys yn 'Estrones,' Yr Hen Fam,' a llawer iawn o enwau ereill, yn arddangos yr un ysbryd cul a thrahiius. Pa ham y gelwir hi yn nis gwn. Os ydyw yn Estrones, fel y mynant hwy ein dysgu, pa ham na fyddent yn dangos tipyn o garedigrwydd hyd yn nod wrth 'estron,' a gadael i'r cyfryw i gael chwareu teg i gyfiawnu ei hamcanion daionus, ac mewn gwirionedd, yr ydym yn methu yn lan a chanfod yr ystyr lleiaf yn y gair fel y mae yn cael ei briodoli i'r sefydliad anrhydeddus hwn yn ein plith ond y mae hyn, fel amryw o bethau ereill yn y byd, yn dyoddef llawer o gamdriniaeth y gelyn. Hefyd, nis gwn beth a olygir wrth yr ymadrodd Yr Hen Fam nis gwn oddi wrtho yn sicr ond gallem feddwl ei fod yn awgrymu fod yr Eglwys yn jam i rywun. Ai tybed eu bod am ein dysgu mai hi ydyw 'mam'yr enwadau ereill, a gynnrychiolir gan gynnulleidfaoedd a ymgynnullant i'r gwahanol gapelau Ymneill- duol 1 ac yn wir, credaf fod mwy o briodoldeb yn hyn nag yn yr blaenorol (pe yn enw hefyd). Os felly, ystyriaf fod eu hymddygiadau yn eithafol greulawn at berthynas mor agos ond i beth yr ymresymwn mewn cyssylltiad a hyn ? Onid yw y Gair Dwyfol yn dweyd yn eglur a phendant, mewn hrawddegau cryfion a diamwys, y bydd i'r ferch gyfodi yn erbyn ei mam, &c ? Felly, nid yw yr hyn o gymmer le yn ein gwlad y dyddiau hyn ond darlun ar len yr oes o ystranciau y gwrthwynebwyr. Eto, ym mhellach, gallwn gym- meryd y tri gair hwn, sef Yr Hen Fam,' fel gwawdiaeth ddifloesgni, yr hyn yw yr amcan yn ddiammheu. Dywed y broffwydoliaeth sanctaidd y bydd yr Eglwys ryw adeg yn 'llawen fam plant.' A ydyw yr Ymneillduwyr cenfigenllyd yn ofni fod yr Eglwys yn gwneyd mwy o waith na'r capelau sydd yn britho y wlad 1 a bod argoelion o Iwydd- iant helaethach, cryfach, a llwyrach i ddilyn ei hymdrechion crefyddol ar hyd ein hardaloedd ? Ië, a bod gobaith y gwelir lluosawgrwydd y bob- loedd yn tyru i'w phyrth cyssegredig yn y dyddiau sydd yn dyfod. Os ydyw yr Eglwys yn foddion yn llaw Duw i wella'r byd, i buro moesol- deb, i led&enu egwyddorion y nefoedd ym mhlith y saint, i ddyrchafu dynoliaeth o'i chyflwr darostyngol i dir uwch, i oleuni y nefoedd a swn caniadau yr angylion, a chwmni y rhai a ber- ffeithiwyd, pa ham na chaiff lonydd i fyned rhag ei blaen yng ngoleu Duw'r lluoedd i ddiwygio y byd anystyriol, ac i helaethu terfynau y deyrnas,' yn lie crochfloeddio yn ddi-daw, I lawr Eglwys rhodder ffordd agoredi ddadgyssylltiad a dadwaddoliad i gymmeryd a llawer o ym- adroddion cyffelyb, sydd fel hunllef arnom yn barhaus neu megys brathiadau gwenwynig yn gweithio drwom, gan ddulurio pub teimlad ystyriol, ac achosi anesmwythyd ynom beunydd. Neu, os nad ydyw yr Eglwys yn bur yn eu golwg, nac yn cyflawnu ei gwaith yn deilwng, ai nid doethach fuasai cynnyg rhyw gynllun er mwyn ei pherffeithio 1 Onid yw y blaid Rhyddfrydig yn honi ei bod am wella'r byd, a lledaenu egwydd orion uniondeb a gonestrwydd ym mysg y werin ? Os felly, beth yw y rheswm na fuasai yn gwneyd cynnyg at wella'r sefydliad hwn, yn lie ceisio taflu llwch a llaid i'w lygaid yn barhaus, a'i bardduo a, phob math o eiriau cas a digllawn ? Ah mi welaf mai dyma ei gwaith, ac nid fel y myn broffesu ei bod yn amcanu lledaenu union- deb ac hyrwyddo eyfiawnder; lladd yr Eglwys a'i chladdu o'r golwg am byth i'w ei hamcan rhaid cael hon o'r ffordd, ac wedyn, pwy a wyr, wedi iddynt lwyddo i gael pen y gymdeithas efengylaidd hon i lawr, na fyddant yn ymosod ar y Gwirionedd ei hun mewn canlyniad ? Y mae amcanion y drygionus yn cyrhaedd ymmhell, hyd y drydedd a'r bedwaredd g-enedlaeth, ac yn llawer ym mhellach. Felly gwelwn mai y drwg yw yr unig achosydd i'r gwaith aflan ac annuwiol hwn sydd yn cael ei gario ym mlaen ar hyd ein gwlad. Yn awr, ymofynwn am fanylion y gweithred- iadau hynod hyn, a cheisiwn olrhain symmudiad- au yr erlidwyr dilynwn y gelynion er mwyn gweled eu dichellion. Pwy ydynt ? ac 0 ba Ie y daethant 1 Gweinidogion Efengyl, diaconiaid y capelau Ymneillduol, athrawon yr Ysgol Sul, arweinwyr canu y cyssegr, aelodau crefyddol, aelodau y Cynghor Sirol, amaethwyr a thafarn- j wyr Dyna y rhai sydd yn y fyddin wrthddeg- ymol. Y mae yn syn genym weled rhai yn meddu safle mor bwysig, yn troi mewn cylchoedd mor 1 anrhydeddus, yn ymddarostwng i gyfiawnu y 1 fath chwareuon plentynaidd. Onid yw yn an- j noethineb mawr mewn rhai a elwir yn'weini- dogion yr Efengyl,' sydd yn proffesu eu bod yn < amcanu diwygio ybyd, puro eymdeithas, dyrehaiu ( moesoldeb, amddiffyn rhinwedd, a lledaenu 1 athrawiaethau Cristionogol ar hyd y wlad, ie, j y rhai sydd yn honi eu bod yn pleidio crefydd yr Arglwydd lesu, yn disgyn i lawr i barthau isaf' 8 yniddygiadau yr oes, i gydgerdded a'r meddwon, I y cablwyr, y tyngwyr, a phob cymmeriad aflan ac a annuwiol, sydd yn ymdeithio yn fintai gref i ddiddymu v degwm, i ddileu yr Eglwys dan fantell rhagrith a chenfigen ? Credwn y byddai yn r ddoethach i'r tipyn pregethwyr hyny i aros g gartref yn eu capelau, i geisio dysgu eu gwran- t dawyr yn athrawiaeth yr Arglwydd, ac ymdrechu J. dangos truenusrwydd cyflwr eu haelodau crefydd- ol twyllodrus. i Pe buasai rhai o genadon (?) y Goruchaf yn j defnyddio yr amser a dreuliallt gyda 4 Rhyfel y I DeiiWm i ddiwyllio eu meddyliau, i goethi eu t syniadau, i efrydu Gair Duw, i fyfyrio meddyliau yr Anfeidrol, a myned i fewn i cyssegr sanct- eiddiolaf gwybodaeth, yn lie cerdded meusydd r Belial a'i hiliogaeth, credwn y byddai yn fantaiB j t mnhraethol i lawer 0 honynt dichon y deuent rn fwy cymhwys i'r gwaith a gymmerant arnynt i gyfiawnu wedyn ac ef allai y caem ganddynt 'ywbeth tebycach i bregethau nag a roddant yn jyffrediu rhywbeth mwy sylweddol, mwy iaehus I buddiol. Condemnir yr Eglwys yu ei gwaith 711 defnyddio y Llyfr Gweddi Gyffredin, &c. Yn licr credaf fod yr arferiad hono yn llawer iawn nwy iachus a phur nag arferiad rhai o'r crach- iregethwyr Ymneillduol yn y dyddiau hyn. Nid iregethu a wnant, ond siarad Jawer pryd idrodd ystoriau yn gymmysg ag ambell i adnod jentyru geiriau hirwyntog, gweigion, adisylwedd, fdynt yn dystion o ddiffyg synwyr, neu ddiffyg nyfyrdod y mae y naill a'r llall mor anghym- neradwy gilydd. Y mae clywed rhai o'r bodau urddasol (?) hyn awer pryd yn ddolur calon i ni. Pa reswm sydd 'w roddi dros arferiad rhai o honynt wrth jregethu yr Efengyl yn llusgo ymadroddion 3nllibas am yr Eglwys i fewn i'w cyfansoddiadau pregethwrol, megys y rhai byny a glywais gan un Vr cyfryw er ys tro yn ol o un o'r pwlpudau Y mneillduol, pan y dyferai allan dros ei wefusau y fath fliloreth a hyn :—" Y mae y degwm fel maen tramgwydd yn y wlad ar ffordd crefydd- wyr." Y mae yr Eglwys fel hen dlotty, lie matt pob dyn afiach yn y ffydd yn cael rhedeg iddo." "Dymchweler y degwm, a bydd heddweh yn eyrnasu." Tyner Babilon i lawr y mae yn iros fel darn o adfeilion un o adeiladau yr oes- jedd tywyll," &c. Dyma rai o'r pethau sydd a. myn'd ynddynt yr adg bresennol, yn ol barn rhywrai. Ai ni ellir cymhwyso yr ymadroddion jchod at amryw o gymmeriadau y crefyddwyr a fegir yn y capelau ? Jredaf y gellir gyda phriod- Jldeb mawr. Y mae'r degwm yn faen tramgwydd rywrai, o blegid clywais fod llawer un wedi cael 5wympiadau erchyll wrth frwydro yn Rhyfel y Degwm. Nid oes angen dywedyd pa fodd, canys :e wyr y mwyafrif o ddarllenwyr y JOURNAL mai myned yn rhy agos at yr hen faril' a wnant yn rynych, ac nis gallwn gredu yn wahanol i'r brawd nwnw a ddywedai wrthym fod y rhan luosocaf mynychu y cynnulliad gwrthddegymol er nwyn y bol; 'duwiau y rhai yw eu bol, a'u jogoniant yn eu cywilydd.' 08 ydynt yn ystyried vr Eglwys fel hen lie mae pob dyn yn y ffydd yn cael rhedeg iddo, onid yw hyny yn awgryrru fod gyda'r enwadau Ymneill- iuol ddynion afiach yn y ffydd ? Oe felly, y maent yn ffol iawn i dynu yr hen dlotty' i lawr. [ ba le yr aiff clefion y capelau am noddfa wedyn ? Ha y mae gan yr enwadau Ymneillduol bobl ifiach yn sicr, a gwn am ran luosog o'r cleifion wedi cael eu hanafu yn dost yn Rhyfeloedd y Degwm ac eto, eu harwain i'r ymgyrch wrth- ddegymol yw gwaith eu gweinidogion yn barhaus. o fugeiliaid anffyddlawn ac angharedig, yn t.ywys y praidd ar lwybrau dinystr, yn eu gyru i'r anialwch i ganol y dreigiau a bleiddiaid uffernol, yn derbyn cyflogau mawrion ganddynt, am eu camarwain i ddistryw, ie, yn gwledda ar frasder eu eyfraniadau, Be eto yn newynn eu heneidiau hwy yn wastadol! !—LLYWARCH LLWYD,
DR. SAUNDERS AC EGLWYS LOEGR.
DR. SAUNDERS AC EGLWYS LOEGR. SYR,—Fel y mae yn adnabyddus i'r rhan fwyaf o ddarllenwyr y JOURNAL, achosion o anudon- iaeth oedd y lluosocaf a ddygwyd o flaen ein Barnwyr yn y brawdlysoedd gauafol a gynnal- iwyd ychydig amser yn ol yng Nghymru. Ie, achosion anudonol—sef tyngu neu ddweyd anwireddau gwirfoddol am ereill erlles eu huuain. Yr oedd pedwar o'r achosion hyn o flaen y barnwr ym mrawdlys Caerfyrddin. ac yr oedd nifer mwy neu lai mewn brawdlysoedd ereill yng Nghymru. Mae hyn yn siarad cyfrolau am danom fel cenedl Gymreig, pa un sydd yn proffesu fod yn genedl fwyaf gwareiddiedig yn y byd--gwlad y menyg gwynion, gwlad y Beibl, gwlad y gan, ie, a gwlad 0 Ymneillduwyr. Y gofyniad naturiol a ofynir yn awr gan bob un ag sydd wir ganlynwr i'n Harglwydd bendi- gedig, yw, Pa fodd i ddadwreiddio neu i ddi- ddymu y pechod adgas hwn—yr ysmotyn du hwn —o'n gwlad ? Dywedwn gyda'r hyfdra mwyaf mai trwy i arweinwyr neu ddysgawdwyr y werin eu hunain fod yn ddibechod yn hyn o beth. Gresynus yw meddwl y gorfodir ni i gredu'r ffaith eu bod hwy yn euog o anudoniaeth 1 a hyny o'r lliw gwaethaf ac iselaf Ychydig amser yn ol, yn un 0 newyddiaduron y gwrthddegymwr enwog o Ddinbych, ysgrifenodd Dr. Saunders, gweinidog yr Efengyl gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, gyfres o bennodau ar Ddefodaeth yn hanfodol Babaidd." Nis gwn pa un a gafodd ei gyflogi neu beidio gan y golygydd i ysgrifenu y pennodau hyn ac nid yw o fawr bwys i ni os mai mater y wheels' a'i cyfirodd ef i'w hysgrifenu (hwy eill dau—Dr. Saunders a'r Mr Gee-sydd gymhwysaf i settlo'r pwnc yna) ond dywedwn hyn yn ddifloesgni fod Dr. Saunders wedi ysgrifenu ar bwnc nad oedd yn ei ddeall. Yr oedd, i'n barn ni, fel Wil Brydydd y Coed gynt yn siarad am Roeg- a Lladin pan nad oedd wedi dysgu dim o'r ieithoedd ond yr outlines. Mae hyn yn alarus i gofnodi am un o enwogion Shon Gorff, ac yr ym yn credu nad da celu'r gwir bob amser. Hyn, dywedaf, yw y rheswm penaf o'r holl achosion o anudoniaeth a ddygwyd o flaen ein barnwyr yn y brawdlysoedd gauafol diwedd y flwyddyn ddiweddaf. Yn awr at y pwnc dan ystyriaeth. Dywed Dr. Saunders yn y Faner am Ragfyr diweddaf, fod Eglwys Loegr yn euog o wyrdroi Efengyl Duw, ac felly yn peryglu cadwedigaeth dynion.' Rhoddaf her i Dr. Saunders i brofi y cyhuddiad ofnadwy ac haerllug hwn yn erbyn Eglwys sydd mewn meddiant o'r olyniaeth apostolaidd, o rasusau uchaf Cristionogaeth, o ragoriaethau diammheuol, &c. Mewn peth y mae yn gwyrdroi athrawiaethau sylfaenedig crefydd, wys ? Onid yw yn dal mor gadarn ag erioed at Berson ein Harglwydd Iesu Crist, yr lawn, Bedydd y Cym- mun Bendigaid, a phyciau ereill er cadwedigaeth dyn ? Nid yw'r Eglwys wedi newid llythyren o'i Chredo, ond yn dal yn gadarn at yr hen Feibl mawr fel ei safon. Beth yw Credo yr Apostolion, Credo Nicea, &c., ond cnewullyn o Air Duw ? Os profa Dr. Saunders i ni fod yr Eglwys wedi gwyrdroi athrawiaethau mawrion crefydd Crist, rhoddaf bum punt i unrhyw glafdy ac os y metha, dysgwyliaf iddo yntau i wneuthur yr un peth. Adderbynia y challenge hwn ? Atebed yn groew, neu, er bod yn foneddigaidd, gwnaed ym- ddiheurawd cyhoeddus (public apology) i'r effeiriaid sydd yn gweinidogaethu dan faner yr Eglwys. Mae hyn yn gyhuddiad yn erbyn yr Eglwys na ddyIid ei adael yn llonydd; acyrwyfyn appelio at offeiriaid Cymru i ddinoethi y celwydd ddinoethi y celwydd mwyaf maleisus a ddaeth o eneu unrhyw ddyn (heb son am weinidog yr Efengyl) yn y ganrif bresennol. Yr oedd yn dda genyf weled yn y JOURNAL fod Minah wedi chwalu ei haer- iadau eiddigeddus ond y mae eisieu ei ddinoethi o'r pwlpud eto, ac yr wyf yn galw ar ein hoffeir- iaid i ddweyd wrth eu praidd nad ydynt yn preyethu dim llai na dim mwy na Chriat, a hwnw wedi ei groeshoelio. Os gadawer y cyhuddiad hwn yn llonydd, bydd Ymneillduaeth yn ei huchel fanau. Nid yr Eglwys sydd yn gwyrdroi Gair Duw,'fel y mae 'Minah' yn y JOURNAL wedi profi trosodd a throsodd, ond Ymneillduaeth sydd yn euog o hyn. Mae yr Eglwys, trwy eneu yr hen Lyfr, yn dweyd am fyw yn heddychol a. phawb mae Ymneillduaeth yn euog o wyrdroi, brwy annog bobl i gweryla mae yr Eglwys yn dweyd am i bawb i dalu eu dyledion ond mae Ymneillduaethyn dweyd am beidio gwneyd hyny; mae yr Eglwys yn ein hannog i ufuddhau i'r sjyfraith mae Ymneillduaeth yn dweyd am beidio gwneuthur hyny. Gwir a'r unig amcan oedd gan Dr. Saunders mewn ysgrifenu y trash hwn am yr Eglwys oedd, ir rhoddi symbyliad ac adgyfnerthiad i'r gad- pmgyrch ddegymol a dadgyssylltiol-meddwl y byèdai yn cynnheu y tan yn fwy tanbaid yn rbyn yr Hen Fam, er attal y llifeiriant o'i jhynnyddiad. Mae r Hen Fam wedi eael, trwy iveithgarwch ei hoffeiriaid, dillad newydd spon, e hugan Ymneillduaeth yn cochi ac yn pydru o lerwydd ffug, twyll, a hocced. Dyna'r gwir, mwyl Gyiriry Eglwyswyr Cymru 1 yn lien a leyg, r gâd Saunderaidd hwn yn ddiofnus, er mddiffyn hen Eglwys ein Tadau!—MYRDDINFAB.
n, ATEIN GOHEBWYR.
n, ATEIN GOHEBWYR. U nerwydd y galwadmawr sydd ar ein gofod gorfodir II i adael allan lawer o gynnyrchion ein cyteillion '01je,u 0 wythnos i wythnos. Da chwi ohebwyr caredig, tyddwch yn fyr. Diolch yn fawr i Pentwynback a jejiad am eu llythyron. Nid ydym yn pryderu dim am r nyn a ddywed gohebwyr y Tyst a'r Dydd am danom newn un modd. Mae, hwyrach, yn ddifyrwch iddynt iwy, ac rn effeithia yr un mymryn ar ein heddweh ni. _eiiy gadawer iddynt ddifyru tipyn arnynt eu hunain. K °eS,i 0 herwydd wrth y ford y maent fel Diolch i Commercial Traveller'heiyd am ei rhagorol. ^ao dyffryn y < lettwr wedi cael ei rYTw yn &»led, a liyderwn, digonol hefyd. robeithiwn y cewn y pleser o glywed oddi wrthych eto Ian welwch rywbeth yn teiiyngu eioh sylw ar eioh lynt. Pont Seison" yn ein nesaf.—GOL.