Hide Articles List

10 articles on this Page

--------------PA HAM Y DYLAI…

W" ;NODIADAU.

DARKEST WALES. ; »

LLANDYSSUL.

Advertising

-------------PENCADER.

DYFFRYN CLETTWR FACH. ; t---

News
Cite
Share

DYFFRYN CLETTWR FACH. t At Olygydd Y JOURNAL. SYR,—Drwg iawn genyf fod darllenwyr eich newyddiadur yn ammheus yng nghylch fy ysgrif a ymddangusodd er ys ychydig amser yn ol. Ond llawer mwy ,syn genyf ddeall fod un o'r enw Cedric yn dal ammheuaeth ac yntau yn trigo o fewn terfynau y cwm. Os yw Cedric o Gwm Clettwr Fach, nid cymmaint yr angenrheidrwydd i esbonio iddo yr hyn a ddywedais, ond er gwneyd pethau yn fwy eglur ac amlwg, dymunaf yn y modd goreu egluro fy ysgrif, ac hefyd ddangos i'r cyhoedd nad ydwyf yn eu twyllo drwy ( gelwydd a rhagrith. Wrth ddarllen ei lythyr gallesid meddwl fod y dyffryn hwn yn ryw le gogoneddus a hyfryd. Ai felly y mae ? Penderfynir hyn wrth eiu mynediad ym mlaen. Tra yn darllen ei lythyr meistrolgar, bum ym mron llethu gan y fflangellau annheilwng ac annhrugarog a dderbyniais oddi wrtho. Bu ei lythyr awdurdodol bron rhoddi taw fythol ar ei gyfeillion, sef y giwaid ohebol. Ond gan fy mod wedi seilio ar y graig, sef ar dir y gwir, nid wyf y tro hwn eto wedi fy ngorthrymu yn gymmaint fel y paer i mi dewi. Tybia y brawd fy mod am ddangos fy ngallu cynghoraf ef i gymh wyso y geiriau at ei ymgais ei hun, gan mai hyn yw grym ei lythyr. Diammheu fod y Cedric hwn yn ddyn o dalentau lawer pe bae ganddo allu i'w rheoli. Dywed fy mod wedi esgyn i ben Parnassus, a thrwy ei anystyriaeth neu ryw ddiffyg arall fe a'm geilw yn brophwyd. Dyddorol iawn fyddai iddo yntau esgyn i ben y Vol ger Haw ganol ryw Sul braf yn y cynauaf, a thaflu ei olygon yn ol at ei gyfeillion, gan ymresymu yn ei gydwybod, Ai nid yw chwe diwrnod allan o saith yn ddigon i'r neb a ewyllysio at eu llafur tymmorol ? Credaf y cawsai gynhwrf arall heb a gafodd er ysgrifenu i newyddiaduron. Dywed am glustiau meinion; os yw ef yn gyd-gyfranog o'r gweithredoedd anfoesol a grybwyllwyd am danynt, nid ryfedd ei fod yn amddiffyn eu gweithredwyr, o herwydd dyledswydd pob bugail yw achub ei braidd. Dywedais fod eu pechodau yn rhy warthus, &c.; beiddiaf ei ddweyd eto tra y gallwyf lefaru. Nid oedd yr hyn a ymddangosodd ond drych- feddwl i'ch darllenwyr o'r fath gyflwr paganaidd y mae llawer o drigolion y dyffryn hwn ynddo. Er boddhad i Cedric, yr wyf yn dweyd a ganlyn er enghraifft o'r hyn wyf yn ystyried yn warthus. Ychydig amser yn ol, gyrwyd ci, chwaethach cwningen, o blatform bodolaeth, ac ar yr achlysur ymgasglodd lluaws o fechgynos yr ardal. Wedi troi y ci, fel y dywedir, i edrych i fyny, appwynt- iwyd pregethwr, yr hwn a esgynodd i ben gwrychyn ger llaw, a llefarodd amryw adnodau o Fetbl ei Greawdwr, yng ughyd a'r llwon mwyaf enbyd fel pregeth ar ei ymadawiad. Gallesid meddwl y fath gymmeradwyaeth ardderchog a gafodd y personcellweirns hwn wedi iddo orphen y tath wasanaeth. Dylai Cedric gofio am ffeithiau fel hyn cyn arnmheu ar faes new) ddiadur. Mewn gwirionedd, y mae yna un dosbarth, yn ferched ac yn fechgyn, fel pe yn cystadlu am wthio i dragwyddotdeb a hwythau hefyd yn gwybod eu camweddau. Dyma y fath ddyndorf anwar yr ymegnia Cedric yn eu ceflloaeth, gan ddweyd fy mod yn eu hedliwio saith waeth nag ydynt pan y dywedais iddynt hela ar y Sabbathau. Dywed ei fud yn gweled dirgelwch pa fodd y bydd y cyntaf o Dachwedd yn fyth-gofiadwy. Cyn belled ag yr wyf yn deall y cwestiwn, yr wyf yn ei ateb. Ni fu byddin o helwyr erioed mwy darparedig, ac yr oedd dysgu fl'uredi ieuainc ef allai yn ei w!Jeyd yn bwysicach fyth. Diammheu i mi ddweyd fy mod yn pasio ar y pryd, ond ni soniais erioed pa bryd y darfu i mi ofyn beth oedu yn bod. Gyda'r gallu mawreddog o'i eiddo, gofyn i mi pa faint mwy yw eu pechod hwy neu eiddo glowyr &ir Morgan wg ? Ai drwy eu cynnor- thwy hwy yr hydera Cedric ateb ei arholiad yn y dydd mawr a ddaw, neu pa ham y cymhara ei hun i'r cyfryw ? Tebyg iddo gael yr esampl oddi wrth y Sarah enwog fu yn yr un ardal, Yn pinio'i chred fel llawer dall t. r Wrth lawes ei chymmydog call. Eto, fe ddywed mai ryw gorach ydwyf yn dyfod allan i ddangos fy ngallu. Dymunwn gael gwybod gan Cedric pa beth a ddengys ef pan y cyfaddefa fod rai yn gwneyd y mawr ddrwg o hela ar y Sul, ac yn yr un llith yn dweyd eu bod yn goddef cam. Os ydwyf yn brin o wybodaeth, canfyddaf o'r tu arall yn ol llythyr Cedric, nad yw gormod ond gwastraff, pan nas gall wneyd defnydd priodol o hono. Terfyna ei lith gan ymfoddloni os gellir dangos eu bod yn waeth na phobl yr ardaloedd cwmpasog. Boddlonaf fy hun os dengys Cedric i mi unrhyw gyhuddiad mwy gwarthus na'r uchod. Dylai fod mwy pwyllog pan yn con- demnio cyhuddiadau. Gan mai grym ei lythyr yw cyweirio fy ngwallau a dangos ei allu mawr, dymunaf ddiolch iddo yn wresog, a phe bawn yn ogystal ysgolor ag ef, ni fuaswn yn oedi cyn sefydlu ysgol uwch-raddol yn ei ardal, am nad y gradd canol yn deilwng o'i chynnyg i wr sydd a'i alluoedd mor ddyrchafedig. Yr hwn hefyd o'i wybodaeth eang a eilw gorachod ar y lluaws sydd wedi ysgrifenu o bryd i bryd am wael gyflwr ei ddyffryn. Terfynaf gan hyderu y bydd yr uchod yn foddion i egluro cyflwr truenus moesoldeb yn DyffYyn Clettwr Fach. Barn mwyafrif o bobl y cyffiniol yw, fod llawer o'r drygau a wneir yma yn ddyledus i wyr pwysicaf yr ardal am y gefnog- aeth ddihaeddiant a roddant i'r drwgweithred- wyr. Bydded i Cedric wylied ei gyd-ardalwyr o hyn allan, gan fod yr hyn a ysgrifenodd yn brawf eglnr nad yw ei wybodaeth ond ychydig am ei gwn bach ei hun.—Yr eiddoch, &c., CRISTION.

Y CYNGHOR SIROL.-RHANBARTH…

CAN 0 GLOD

Advertising