Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

--------------PA HAM Y DYLAI…

W" ;NODIADAU.

DARKEST WALES. ; »

LLANDYSSUL.

News
Cite
Share

LLANDYSSUL. Y mae pentrefwyr y lie hwn a'r gymmydogaeth y dyddiau presennol yn dioddef oddi wrth wahanol anhwylderau. Y mae yma rai yn glaf o'r dwymyn fach a'r enw pert hwnw, Influenza. Ond gwyr pawb ag y mae hi wedi garcharu rywbryd neu gilydd, ei bod yn gnapen o dwymyn. Ymosoda hon gan fynychaf arnom ni y bobl gyffredin, ond nid ydyw Mri Pendefigion, ysonia'r JOURNAL am danynt yr wythnos ddiweddaf, yn cael dianc yn ddigosb. Blinir y rhai hyn gan iselder ysbryd' a'r bile yn y 'stumog. Y mae y rhan fwyaf o honynt yn gallu rhodio allarf, ond edrychant yn lied was edlg ac yn bur anfoddog, fel pe byddent wedi digio wrth bob dyn ac anifail, o Bontwelly lan i Meinigwynionbach. Mae eu gruddiau yn wyn a gwelw, a'u llygaid yn debyg i lygaid pysgodyn wedi cael gormod o galch. Mae'r nervous systeiiballan o le bob tamaid, fel pe byddent wedi eu cnoi gan gwn cynddeiriog. Y mae'r holl ardal hon ar hyn o bryd yn llawn o greaduriaid bach mileinig iawn—creaduriaid aw sydd wedi bod am flwyddyn gyfan a'u dannedd ar waith-ac effaith gwaith dannedd y cwn bach wedi cyrhaedd yr asgwru sydd wedi gyru my Lords, y Pendefigion, i edrych yn debyg i fodau wedi dianc o'r fynwent. Y mae'r cwn bach (neu weithwyry plwyf) wedi bod yn hwy nag y mae cwn bach cyffredin pedair troed, a'u llygaid yii(y nghauad agora rhai pedair troed eu llygaid mewn rhyw bedwar neu bum diwrnod fel rlujol ond pwy all ateb faint o flynyddau y mae cwn bach Llandyssul wedi bod a'u llygaid yng nghau ? Yr oeddyut lawer fwy gwirion a diniwed pan yr oeddynt felly. Pryd hyny carient y pregethwyr ar eu cefnau mor ufudd ag y cariai asyn Twm Crydd y pwn o'r felin, hyd nes y daeth y gwr llwyd i wybod taw eisin ac nid blawd oedd yn y cwd, ond dim pwt wedyn. Cyhyd ag y bu'r gweithwyr a'u llygaid yng nghau, carient y pwn yn ddigon dystaw. Ond erbyn heddyw y maeut wedi dod i weled-y maent wedi dod i deimlo taw eisin ac nid blawd oedd wedi bod ar eu cefnau, a'r canlyniad yw, mae'r pwn pregethwrol ar lawe yn rhondyn. Bu gwyt sir Forganwg yn cario yr un hen bWIJ, hyd nesi Mr Pritchard Murgan i roi ei ysgwydd tane a rhoi daiar iddo-a daiar y mae wedi gael yn Llandyssul, a thebyg na chodir mo hono mwy gan neb ar ben picwarch. Yu amser lecsiwn y County Council dair blynedd yn ol, fe yrwyd ilawer o eisin lawr i gylla'r gweithwyr ar ffnrf pills, wedi eu gwisgo oddi allan a starch a lliw glas. Mae'n wir i'r pills gael myn'd o'r golwg, ac fe feddyliodd pawb eu bod wt-di ateb eu pwrpas, ar ol rhoi cymmaint o floneg arnynt. Ond er syndod, stico yng nghorn gyddfau'r gweithwyr wnaethant ar ol y cwbl. Ac un diwrnod yr wythnos ddiweddaf, gwelwyd dau bwn du yng nghorffolaeth dau.bregethwr yn araf droedio tua Brynteifi, at y Doctor parch us a fu'n prescribio'r eisin dair blynedd yn ol, iymofyn patent newydd, ac enw hwnw yw County Council Soothing Pills. Beth os mai yr un drugs yw a'r un o'r blaen, ond ei fod wedi newid ei enw, cawn weled. Os na fydd y claf yn gwella o dan law un meddyg, mae dynion yn gyffredin yn treio un arall. Ac yn ol pob tebyg bydd gweithwyr Llandyssul yn treio moddion doctor arall ar y drydedd o fis Mawrth nesaf. Gwelais ar dudalenau eich newyddiadur poblogaidd yr wythnosau basiodd, ysgrifau gan wahanol awdwyr, neu o leiaf dau wahanol fful1- eawau dan y penawd 'Cymdeithasau Rhyddfrydfg Llandyssul.' Yn awr, ef allai mai nid annyddorol fyddai i mi roddi tipyn o hanes y lie uchod a'i gymdeithasau, os cymdeithasau o honynt, i'ch lluaws ddarllenwyr. Mae Llandyssul wedi bod yn cael edrych arno fel un o'r llefydd mwyaf Rhyddfrydig yng Nghymru. ac nid wyf yn meddwl bod eisieu i neb bryderu nad ydyw yn bresennol cystal os nad gwell na bu erioed. Mae yn wir fod yma rhyw ddyrnaid o ddynion mawr, fel sydd ym mhob lie arall, am wthioeu hunain i'r ffrynt, ac am gael eu gweled gan bawb. Fel mae yn hysbys drwy lawer mano Gymru heddyw ceisiodd y dyrnaid yma o Laudyssul, tua blwyddyn yn ol, lywodraethu Cynghor Sirul Ceredigion, trwy geisio gwthio rhyw fud dewisol ganddynt o yma yn Brif-gwnstabl y sir. Yr oedd yn chwerth- ingar eu gweled y pryd hwnw yn gwau trwy eu gilydd ar hyd y lie bach hwn, a deiseb fawr ganddynt yn ceisio cael enwau pobl fawr barchus y lie ami, ( y pregethwyr, y masnachwyr, y tafarnwyr, a'r cyfreithwyr. Mae rhywbeth yn fendigedig mewn enwau rhai o'r fath yna. Yr oeddent yn meddwl fod cael deiseb ac enwau mawrion Llandyssul arni yn ddigon ar unwaith i'r Joint Police Committee i wneyd eu meddwl fyny. Ond ni wnawd sylw o honynt na'u deiseb gan y Police Committee, a byth er hyny y maent fel dynion wedi ynfydu ar hyd y lie yma, yn galw y dosbarth gweithiol ym mhob enwau. Ceisiwyd gwthio rhai o honynt i garchar dro yn ol gan un o arglwyddi rhaglaw y ile, ond ni wnaeth yr ynadon sylw o'i gais mwy na'r Joint Police Committee. Yn awr, Mr Gol., y dosbarth o ddynion a'r pwd arnynt wedi methu cael ffordd eu hunain sydd yn ceisio dweyd fod split yn Cymdeithas Rhyddfrydig Llandyssul. Nid oes yma split o gwbl mae pobpeth yn myned yn y blaen yn hwylus. Nis gallwn ni help i bersonau o'r fath maent yn wrthddrychau tosturi er ys llawer dydd, er fy mod wedi cael enw ganddynt yn is nac arglwydd, iarll, due, barwnig, cadben, &c., yr wyf yn sicr nad oes neb yu fwy parod i ddweyd, '0 Dad, maddeu iddynt.' Mae rhyw fai arnom i gyd. Gobeithio y deuant yn ol eto i'n Cymdeithas, mae rhai bechgyn digon pure yn eu plith, ond wedi cael eu harwain dipyn ar gyfeiliorn gan ddynion sydd wedi dyfod i'r lie yma yn ddiweddar. Ond os na ddeuant, Mr Gol., yr ydym ni, Ryddfrydwyr Llandyssul, yn benderfynol o fyned rhag ein blaen ni wna llysnafedd rhyw ddyrnaid uchelgeisiol rwystro dim o honom. Dywed Twm o'r Nant, Tichbourne, yn eu llythyrau ein bod yn benderfynol o rwyfo yn ein cwch, deued a ddel. Ydym, boys ond nid mewn cwch, ond mewn Llong lawn hwyliau gadarn gref Ar for trochionog byw I borthladd Ilwyddiant mynwn fyn'd— Mae Capten wrth y llyw. SAER LLONGAU.

Advertising

-------------PENCADER.

DYFFRYN CLETTWR FACH. ; t---

Y CYNGHOR SIROL.-RHANBARTH…

CAN 0 GLOD

Advertising