Hide Articles List

10 articles on this Page

--------------PA HAM Y DYLAI…

W" ;NODIADAU.

News
Cite
Share

W" NODIADAU. MARWOLAETHAC BLYNYDDOL YR HIL DDYXOL. Y mae cyhoeddiad meddygol Ffrengig newydd wneyd y casgliad fod rhif y marwolaethau bob blwyddyn ym mhlith yr holl ddynolryw yn cyr- haedd 33 miliwn o bersonau. Y mae hyn yn golygu 91,000 y dydd, neu 3,730 yr awr. Y ma: yr ystyriaeth fod 62 o eneidiau yn myned i dragwyddoldeb bob mynyd o'r dydd a'r nos bob blwyddyn yn cyfiwyno marwolaeth mewn golygiad triat iawn i'n sylw. Gan ddilyn ei ymchwiliadau ym mhellach, dywed yr awdurdod hwn fod y bedwaredd ran o'r hil ddynol yn marw cyn cyrhaedd wyth mlwydd o oedran, a'i hanner yn marw cyn dwy ar bymtheg end cyfartaledd cyffredin oed dyn ydyw 38 mlynedd. Ym mhellach, ymddengys nad oes ond un person o bob can mil yn cyrhaedd cant oed. # OLION DIAMMHEUOL A DYDDOROL O'R DILUW. Y mae y Parch. Owen Watkins, cenadwr dros y Gymdeithas Genadol Wesleyaidd, wedi bod yn ymchwilio gwlad Mashona (Mashonaland) yng nghanolbarth Affrica. Mewn llythyr diweddar, dywed ei fod yn debyg mai ef fu y cyntaf dyn gwyn erioed i weled mynydd yr ol traed (Mount of Footprints), yr hwn a ddesgrifir gauddo fel y canlyn Yn y diwedd, cyrhaeddaaom fynydd mawr o greigiau ar ben y mynyddoedd. Yma yr oedd miloedd olionyn y graiggraeanfaen (granite). Cannoedd o olion traed dynion. miloedd o rai anifeiliaid, megys llewod, jacaliaid, bleiddiaid, a geifr. Argrib y mynydd uchaf hwn dengys yr olygfa fel pe bae torfeydd o anifeiliaid a dynion yn gymmysgedig wedi dianc yno ar frys mewn dychryn. Ar ba amser bynag y ffurfiwyd yr olion hyn, y mae yn rhaid ei fod cyn i arwyneb y graig galedu." Y pellder o'r lie y mae'r olion yn dechreu i ben y mynydd ydyw 200 Hath. Y mae arwyddion yn dangos mai rhag dylif dwfr y dihangodd y dorf. «< DARGANFYDDIAD CYNHANESIOL PWYSIG. Y mae darganfyddiadau pwysig o weddillion cynhanesiol newydd gael eu gwneyd ger Bruno, prifddinas Moravia, y rhai sydd yn debyg o ddwyn sylw neillduol myfyrwyr, hanes gweddill- ion anifeilaidd mewn daiaregaeth. Fel yr oeddid yn tori camlas, deuwyd ar draws pedwar a hanner o benglogau dynion, o nodwedd benhir, mewn cyflwr isel iawn o ran dadblygiad. Yn yr un Ile cawd esgyrn a dannedd y mammoth, rhinoceros, a'r carw llychlin. Yn agos i'r penglogau, yr oedd dros 500 o weddillion malwod, llawer o geryg calchaidd, gyda tyllau trwy eu canol, llun trwsgl wedi ei dori allan o ddant y mammoth, gyda twll drwy ei ganol. Y darganfyddiad hwn yw y cyntaf o'r fath yn Austria, ac y mae yn bwysig mor belled ag ei fod yn dangos fod bodau dynol ar wyneb y ddaiar YUs nghyfn )d y mammoth. # YCHYDH; FANYLION DEFNYDDIOL MEWS PERTHYNAS I BWYSAU A MESURAU. Y mae ceiniog yn ddegfed ran o droedfedd o led, a dimai yn un fodfedd o led gwna rhes o bump o geiniogau neu chwech o ddimeuai i fyny chwech trodfedd. Pwysa tair o geiuiotrau un y 11 own", deg ffyrling, un owns pump swllt neu ddau hanner coron, un owns deg chwecheiniog un owns. Pedair punt neu wyth hanner sofren, un owns. Rhodder dirnai ar fap yr Ordnance o raddfa modfedd, fe guddia 500 erw. Gallai y bydd yr uchod ambell waith yn ddefnyddiol i'w gofio. Gellir yn hawdd proti fod y mesurau a'r pwysau yn ateb i'r bluen yr hyn a ddywedwyd. CIG CEFFYLAU. Deg ceiniog y pwys yw pris y cig ceffyl goreu ym marchnadFfrainc. Y maepob math arall o gig ) n costio llawer mwy ac y mae trigolion Paris yn dangos eu gwerthfawroorwydd cynnyddol o ddarn o gig ceffyl, gan eu bod wedi bwyta mwy o hono yn ystod y flwyddyn ddiweddaf nag a wnaethant erioed. Yng nghorph y deuddeg mis diweddaf, y maent wedi treulio felly 21,291 o geffylau, 229 o asynod, a 40 o fulod, yn cynnwys 4.615 tunell o bwysi o gig. Y mae yn debyg y byddai i ragor o fulod gael eu bwyta oni bae eu bod yn anifeil- iaid mwy prin mewn cymhariaeth. Dylai bwytaiiwr mnl i gael prawf o chwaeth a bias y ceffyl a'r asyn yng nghyd byddai y cig hwnw felly yn ddewisedig iawn, ac yn fwy gwerthfawr. Y mae y Ffrengwyr yn dweyd ein bod ni yn efelychu llawer o'u harferion, ac y mae gradd o winonedd yn yr awgrymiad. Ond a ydym ni yn bwyta cig ceffylau ? Byddai yn rhyfedd yn ein trefydd mawrion sydd yn cynnwys trigolion o bob parth e'r byd, os nad yw cig ceffylau a chigoedd llawer mwy dyeithr i ni yn cael eu bwyta. Beth yw yr achos o'r ymofyn mawr sydd am gelanau yr anifeiliaid gwylltion a ddygwydd drengu yn y Zoological Gardens, ac am gwn a chathod, a phob math o greaduriaid braidd ? Y mae genym ein drwgdybiaeth neillduol yng nghylch y peth, a gwna ein darllenwyr yn ddiau ffurfio yr un ddamcaniaeth. # EISIEU ETIFEDD CYMREIG I £ 70,000,000. Yn yr 17eg ganrif, ymfudodd un Thomas Edward o'r wlad hon i dalaeth o'r America, lie y mae New York yn awr yn sefyll. Fe a brynodd yno gyfran fawr o dir, tua deugain cyfer, yn ynys Manhattan, ar Ian yr afon Hudson. 0 herwydd ei fod yn dir gwlyb iawn, fe a'i cafodd yn rhad iawn. Fe a'i prydlesodd ef i'r llywod- raeth Brydeinig, ac fe adeiladwyd dinas bresennol New York arno. Ar ol sicrhau annibyniaeth yn America, trosglwyddodd y llywodraeth Brydeinig y tir ar brydles i'r Unol Dalaethau. Hyd y brydles oedd 99 mlynedd, ac fe ddaeth y cyfnod i ben ychydig flynyddoedd yn ol. Gofynir yn awr am ddisgynyddion y Thomas Edwards uchod. Ym mhlith yr hawlwyr y mae aelodau teulu Thomas Edwards, y rhai ddywedir eu bod yn hanu o Gorthin Hall, Derry ond haerir mai dyn o Llanymynach oedd. Y mae ymchwiliadau yn yr ardal hono yn datguddio i un Robert Edwards, aelod o deulu presennol Carrogfa Hall, fyned i'r America yn 1764, a phrynu cyfran o'r tir y mae Caerefrog Newydd yn sefyll arno, a dywedir nad oedd ganddo yr un cyssylltiad a Derry. Y mae yrymdrafodyn awr ar droed, ac wedi creu nid ychydig o bryder, canys y mae yr arian yn werth i ymyred am danynt fel y cyfaddef pawb yn rhwydd ddigon-deng miliwn a thriugain. Pwy na ddymunai fod yn gyfranog ? # PRIODI El WRAIG YR EILWAITH AR OL AMRYW FLYNYDDAU 0 YMWAHANIAD. Yn ol adroddiad o Boston, America, dygwydd- odd amgylchiad lied anarferol yno yn ddiweddar yr hwn a gyffelybir i hanes a adnabyddir ym mhlith y Seison am un Enoch Arden. Ymdden- gys i ddyn or enw James Hall yn y flwyddyn 1882, gael ei dadu ymaith gydag ereill oddi ar fwrdd Hong, ar ba un yr oedd yn gwasanaethu, ond dygwyddodd iddo ef fod yn un o'r ychydig a achubwyd allan o'r llong-ddrylliad. Cafodd ei enw beth bynag, ei gynnwys yn rhestr y colledig- ion. Credodd ei wraig, o dan yr amgylchiad ei bod hi yn weddw, ac mewn amser hi a ymbriod- odd a gwr arall. Ar ol absenoli ei hun am saith mlynedd ac ennill golud, dychwelodd Hall i'w girtref, gan feddwl byw yn gyfl'yrddus gyda'i wraig dros weddill ei fywyd, ond wele yr oedd ei wraig yn eiddo arall, ac yn fam i blant o hono. Cymmerodd Hall y mater yn fwy didaro nag y gellid dysgwyl, gan aros yn ddigon amyneddgar i weled pa fodd y troai amgylchiadau allan gyda'i wraig a'i phlant, a chan fwriadu rhoddi cynnor- thwy iddynt os cyfarfyddent a chyfyngder. Fel y dygwyddodd pethau bu farw yr ail wr ychydig tiscedd ynol, a'r diwedd fu i James Hall ail briodi a'i wraig yn ffurfiol a chyfreithlon, a hyny ar ddydd Calan diweddaf. # ESGOB LLANELWY. Y mae yn ofidus gan holl Gymru wybod fod Dr. Edwards, Arglwydd Esgob Llanelwy, wedi cael ei oddiweddyd gan yr anwydwst. Yn ol yr hysbys- iad diweddaf a gawsom yr oedd Dr. Dobbs, Chester, wedi cael ei alw i gyd-ymgynghori a Dr. Ey ton meddyg y teulu, gan cedd fawr lewyrch gwellhad ar y pryd. Gobeithi» erbyn hyn fod ei arglwyddiaeth wedi cael cyfnewidiad trwyadl. # # GWELLIANTAU NEWYDDIADUR A LLYTHYR- GLUDAWL. Ni fydd yn anfuddiol i laweroedd o'n darllen- wyr Cymrng gael gwybod fod y post-feistr cyffre- dinol wedi gwneyd amryw ddiwygiadau gwerth- fawr mewn perthynas i newyddiaduron a Uyth- yrau, y rhai sydd wedi dyfod mewn grym er y cyntaf o'r mis hwn. Rhydd un o honynt foddhad cyffredinol mewn perthynas i newyddiaduron. Pan fyddai un yn arfer anfon papyr newydd i'w gyfaill, neu ohebydd er mwyn rhyw erthygl neu hanes a gynnwysid ynddo, ni allai ddwyn sylw at yr adran a ddymunid, heb law drwy osod llinell neu groes uwch ei ben neu gydgyfer ag ef. 11 Byddai i unrhyw air neu awgrymiad mewn ysgrifen yng nghylch y cynnwysiad yn gosod y papyr yn agored i ddirwy, neu ol-doll arno yn ol pwys Ilythyr. O hyn allan y mae y baich hwn wedi cael ei symmud, Ar yr amlen o gylch y papyr, gellir ysgrifenu unrhyw eiriau yn dwyn cyssylltiad ar gynnwysiad y papyr oddi mewn. Bydd yn rhaid iddynt wrth gwrs fod yn fyr a chynnwysfawr er mwyn rhoddi digon o le amlwg i'r cyfeiriad. Dyfnewidiad arall ydyw y gellir anfon pob math o bapyrau printiedig drwy y llythyrdy am ddimai y ddwy owns. Drwy dalu tair ceiniog, sicrheir anfoniad a thraddodiad uniongyrchol llythyr ar ei dderbyniad mewn llythyrdy i'r person y cyfeirir ef ato yn union- gyrchol a diatreg, heb aros am y dosraniad rheolaidd o dy i dy. Llythyrdoll am bapyral1 u dan ddwy owns i holl wledydd tramor, o hyn allan ni fydd ond dimai.

DARKEST WALES. ; »

LLANDYSSUL.

Advertising

-------------PENCADER.

DYFFRYN CLETTWR FACH. ; t---

Y CYNGHOR SIROL.-RHANBARTH…

CAN 0 GLOD

Advertising