Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

--------------PA HAM Y DYLAI…

News
Cite
Share

PA HAM Y DYLAI Y RADICALIAID WRTHWYNEBU DADSEFYDLI AD 1 O'r braidd y diangodd y llywodraeth Ffrengig yn ddiweddar rhag cael ei dym- ZD chwelyd ar bwnc yr Eglwys a'r Wladwriaeth, ZD o herwydd ni lwyddodd i gario ei cbynnygiad ond gyda mwyafrif o ugain. Nid yw yr am- gylchiad ynddo ei hun fawr o bwys, canys nid yw yn dangos fod y ty yn dechreu blino ar Weinyddiaeth Freycinet, ond y gall llywod- raeth yn cynnrychioli gweriniaeth gymmedrol ddal fyny ei phen hyd yn oed pan ei gwrth- y ZD wynebir gan Freninoliaid Radicaliald JBoulangiaid, a phob cyflwr a gradd o ddynion yn gynghreiriol. Gan fod yr ymddadleuaeth bygythiedig ar yr Eglwys wedi terfynu heb daflu allan y Weinyddiaeth, gwna y Prif- weinidog Freycinet a'i gydswyddwyr yn dda i adael y mater yn llonydd, ac i beidio aflonyddu y cydgordiad, sef y cytundeb presennol rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Mewn perthynas i achos uniongyrchol yr ymrafael diweddaf rhwng y pleidiau hyn, sef cyndynrwydd a chosb yr archesgob, y mae pobl y wlad hon, y rhan fwyaf, yn ystyried fod yr esgob yn llwyr ar gam. Fel y Fyddin Iachawdwriaeth yn Eastbourne, yr oedd yn hawlio ei fod ef uwch law y gyfraith,, ac fel y fyddin, y mae wedi gorfod teimlo fod y gyfraith yn rhy gryf. Nid oes yr un cwestiwn o erlidigaeth ZD yng nglyn a'r peth, ac y mae yn rhaid i'r mwyaf dyoddefgar o ddynion gyfaddef fod gwir sail y Wladwriaeth mewn perygl, pan y byddo rhyw un blaid o'r bobl yn hawlio awdurdod i bigo allan a dewis pa gyfreithiau a wnant ufudd- hau iddynt. Llawer mwy dyddorol ydyw i sylwi pa mor anewyllysgar i'r eithaf fu y llywodraeth i ddiddymu y cydgordiad, ac felly i dori ymaith yn derfynol yr Eglwys Galliaidd oddi wrth bob cyssylltiad gyda'r Wladwriaeth. Cafodd y gwelliant i'r perwyl hwn ei gefnogi ond gyda 179 o aelodau y ty, rhai o honynt yn Foulangiaid, gan hyny yn myned yn erbyn y llywodraeth heb ddim ystyriaeth o deilyngdod ypwnc. Y mae hyn oil yn dangos, er fod mwyafrif anferth o'r Gwerinwyr Ffrengig yn casau yr Eglwys o galon, nid oes ganddynt yr un dymuniad i dori y cydgordiad, drwy ba un y mae y Wladwriaeth yn ennill mwy na'r offeiriaid. Yn ol y trefniant presennol, y mae y Wladwriaeth, fel at-daliad am sicrhau rhyddid addoliad, yng nghyd a chyfraniad Z, z;1 flynyddol uchel, yn cael meddiannu rhyw awdurdod dros yr Eglwys. Pe amgen, byddai ymwahaniad llwyr a diarumodol rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth, byddai terfyn ar gyfraniadau y Ilywodraeth, ac o ganlyniad ar bob mymryn o reolaeth ar ran y Wladwriaeth. Ef allai y darostyngid yr Eglwys i dlodi, n Z5 ac y gyrid yr offeiriaid i ymddibynu ar offrymau y ffyddloniaid; ond fe fyddai yr Eglwys yn rhydd oddi wrth ymyraeth allanol, a gyda llawn allu ac eithaf hawl i drefnu ei galluoedd at unrhyw amcan fyddai yn ddewis. Y mae y perygl mae'n amlwg yn cael ei ragweled gan Radicaliaid synwvrol yn Ffrainc. Ef allai fod unrhyw gydnabyddiaeth o grefydd gan y Wladwriaeth yn wrthwyneb i egwyddorion sylfaenol y werin-lywodraeth ond y maent yn gweled ei fod yn llawer gwell i'r fath anghyssondeb barhau, nag i gyfundrefn nerthol ac anghymmodlawn gyda'i changhenau ym mhob tref a phentref, ac yn meddu offerynau anghystadl i ddylanwadu ar farn y eyhoedd, gael bod yn rhydd i weithredu fel y myno yn ddi-attaliad gan betrusder yng nghylch colled arianol. ZD Yn awr, yr ydym yn dyfod at amcan ein hysgrif, acyn dweyd os yw y Ffrengwyr eisiel1 rheswm o blaid cynnal i fyny y cydgordiad presennol mewn rhyw fath o berthynas rhwng- gwlad ac Eglwys, gallant edrych am dano a'i gael yn yr Iwerddon. Yno cant weled faint yw dylanwad tra dirfawr y mae offeiriad- aeth yr hon sydd yn rhydd oddi wrth ymyraeth y Wladwriaeth yn alluog i'w arfer ar wleidyddiaetb. Pa un a ydyw yr Esgobion Gwyddelig a'r clerigwyr yn ffyddlon yn eu hymlyniad wrth Ymreolaeth Gartrefol, neu a ydynt yn ei gefnogi yn unig, ond fel moddion er cyrhaedd rhyw amcan, nid yw ofawr bwys. Yr hyn sydd o bwys yw y gall yr Eglwys o fewn hanner y cynnrychiolaethau ddychwelyd ei dyn, a phan ddaw yr amser, hi a wna ddefnyddio y gallu hwn tuag at ei hamcanion ei hun, beth bynag fyddont. Os yw y Radicaliaid Ffrengig yn breuddwydio eu bod yn myned i ddifetha clerigaeth trwy dori y cyssylltiad rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth, ni wnaethant y fath gamgymmeriad yn eu Z", ny bywyd. Atteler y cyfraniad a thorer ycyd gordiad, yna fe ddaw yr Eglwys yn gyfun- drefn gyfrinachol, rhydd i ddilyn y llwybr bynag a ystyria yn oreu a mwyaf manteisiol iddi ei hun. A ddygwyddodd hyn erioed daro ar feddwl Radicaliaid ein gwlad ni y rbai ydynt gyda-, un anadl yn llefain am ddadgyssylltiad, a chyda'r nesaf yn grwgnach o herwydd dylanwad clerigoll Nid yw esgobion y wlad hon yn cael eu talu gan y Wladwriaeth, ond nid llai fe'u penodir gan y Prif-weinidog ac nid yw y clerigwyr yn cael eu cynnal allan o'r trethi, ond y mae eu hagweddiad tuag at Wleidydd- iaeth yn hollol yr un ag a ddewis y Prif- weinidog Ffrengig weled clerigwyr y wlad 0 y hono yn efelychu. Byddai dadsefydliad yr Eglwys yn ystyried cread plaid glerigawl; plaid ddigon cryf i sicrhau amryw seddau- 0 plaid yr hon fyddai yn bur beryglus i unrhyw Brif-weinidog i'w thramgwyddo, a chyf- athrach a pa un fyddai gwleidyddwyr o bob Hiw o farn yn geisio. Ni fyddai i ystyriaethau o'r fath yma ddim ond cael eu gwastraffu ar y Rhyddhawyr penboeth, y rhai er mwyn egwyddor, a wahanent yr Eglwys a'r Wladwr- iaeth ar bob traul; ac ar yr Ymneillduwr gwleidyddol, yr hwn sydd yn barnu os dadsefydlir yr Eglwys, y dyrehefir safle gymdeithasol a meddyliol y gweinidog Ym- neillduol. Ond am y Radical, yr hwn sydd yn gosod dadsefydliad i lawr ar ei raglen heb deimlo yn ddwfn, neu ystyried yn ddyfal ar y pwnc, byddai yn well iddo betruso cyn peryglu ei hun ym mhellach. Y mae Ffrainc werin-lywodraethol, lie v mae rhifedi lluosog o ddynion yn casau yr Eglwys yn fwy nag y mae, ond yehydig o ddallbleidwyr, yn ei chasbau yn y wlad hon, yn petruso, ac y mae yn debyg o betruso dros gryn amser, cyn cymmeryd cam mor ddiencil. Dysga yr Iwerddon i ni wers ar ddylanwad clerfgawl, yr hon ni all yr efrydwr mwyaf diotal o wleidyddiaeth yr oes braidd lai na'i awerth- fawrogi. Ac er hyny, y mae llaweroedd yn dadleu yn ddifrifol y byddai dadsefydlu yr Eglwys yn y wlad hon, ac felly droi y clerigwyr i ffurfio yn gymdeithas gyfrinachol fwyaf grymus yn y deyrnas, a rhydd i ym- gynghreirio er dybenion gwleidyddol gym- y 6 m-iint a fynont, y byddai hyny yn cwtogi y d, lanwad clerigol ac yn buddio y blaid Radicalaidd. Dim o'r fath beth. -=

W" ;NODIADAU.

DARKEST WALES. ; »

LLANDYSSUL.

Advertising

-------------PENCADER.

DYFFRYN CLETTWR FACH. ; t---

Y CYNGHOR SIROL.-RHANBARTH…

CAN 0 GLOD

Advertising