Hide Articles List

9 articles on this Page

AMLHAU CAPELI. 1

DARKEST WALES.

NODIADAU.

Y TYLAWD A'R CYFOETHOG A GLEDDIR.

WHITE SQUARE, CWMCAWLLWYD,…

RHIFO'R BOBL.

News
Cite
Share

RHIFO'R BOBL. At Olygydd Y JOURNAL. SYR,-Trwy garedigrwydd cyfaill, gwelais yn y Faner am Ragfyr 19eg, lythyr y 'rhifwr yn Llanwnen.' Gan fod fy llythyr yn y JOURNAL heb ei ateb, nid fy amcan, ar hyn o bryd, yw ei ddilyn trwy y sothach plentynaidd a ddanfonodd i'r Faner, na cheisio ei oleuo o barthed i fedd- iannu yr Eglwys. Caf hamdden i wneuthur hyn I y yn y dyfodol. Yn fy Ilythyr blaeuorol, cyhuddais Cellanfab a'i agent o wneyd haeriadau anwireddus, ac yr wyf yn awr yn eu hail-adrodd. Dywed fod Llanwnen yn cael ei ystyried yn un or plwyfydd mwyaf eglwysyddol yng Nghymru. Dyma anwiredd No. r_1 1. Nid oes neb ag sydd yn gwybod dim am y lie, a chanddo fymryn o barch i'r gwirionedd, a ddywedai y fath beth. Sicr nad yw'r Eglwyswyr erioed wedi gwneuthur un honiad yn y cyfeiriad hwn. Haera hefyd, a hyny yn hyf, nad oes un o bob deg o drigolion Llanwnen yn Eglwyswyr. Dyma anwiredd No 2. Yn fy llythyr blaenorol dangosais yn eglur fod llawer ychwaneg na hyny yn mynychu'r Eglwys ond pa fodd mae'r agent yn cyfarfod am ffeithiau ? '0,' meddai, amcan- dyb oedd y sylw uchod o'r eiddof.' Mewn geiriau ereill guess-ivork oedd y cwbl. Tebyg mai guesso a phrophwydo yw y pethau goreu all wneyd. Mae'r rhan fwyaf o ddysgedigion y byd yn ofnus a gwylaidd gyda'r gwaith yma. Dywedodd un dyn call, Nad diogel prophwydo os na fyidid yn gwybod a dywedodd un arall, Many a shaft at random sent Finds mark the archer never meant." Byddai yn fwy digoel i'r agent i gitesso llai a chadw at ffeithiau. Cyn i mi ysgrifenu fy llith i'r JOURNAL, cym- merais drafferth i dd'od o hyd i enwau y cym- munwyr yn Eglwys Llanwnen, a chefais eu gweled gyda'r parodrwydd mwyaf. Yr wyf yn eu hadnabod bob un, ac yr wyf yn haeru eto fod 27 o'r plwyfolion yn aelodau yn yr Eglwys. Pa fodd mae yr agent yn ateb hyn ? Nid oes ganddo ond dweyd nad yw efe, na'r rhai mae wedi bod yn siarad a. hwynt, yncredu. Trueni na bai yn ym- droi mewn gwell cwmpeini. Ond dichon nad hwn yw'r unig wirionedd am yr Eglwys nas gall efe a'i gyfeillion ei gredu. Pan y teifl ymaith ei wyrau sectyddol a'i ragfarn ddall-bleidiol, bydd gobaith am dano. Mae ei lythyr mor niwlog a chawdelog, fel mae yn anhawdd deall pa beth mae yn geisio brofi, na pha beth yw y nod maeyn ymlusgo ato. Dywed, Wrth gwra nid yHyw dadgyssylltiad yr Eglwys yn ymddibynu ar pa un a yw yn y mwyafrif neu yn y lleiafrif.' Yn y goleu hwn, yn enw pob synwyr, pa beth all fod y dyben mewn golwg wrth gyfrif y bobl yn yr Eglwysi, a pha ham y rhaid iddo ymboeni gyda rhestr y degwm-dalwyr ? Os nad yw tynged yr Eglwys yn gorphwys ar y mwyafrif un ffordd na'r llall, pa angen oedd am lusgo'r degwm-dalwyr i'r yindrafodaeth ? Maent oil yn ddynion gonest, ac yn talu eu dyledion, a dylasent gael llonydd- wch. Mor bell ag wyf yn medru deall ei lythyr, mae'Eglwyswyr'ei lith blaenorol wedi cael eu trawsffurfio ganddo yn ddegwm-dalwyr ac ym- ddengys mai'r hyn a fwriadai ddweyd oedd, nad oes un o bob deg o'r Eglwyswyr yn ddegwm- dalwyr. Wel, a chymmeryd ei ffioyrau, y mae un o bob pump o'r degwm-dalwyr yn Eglwyswyr. Yr wyf yn diolch iddo am ychwanegu cymmaint at eu nifer mewn amser mor fyr Eled rhagddo, a daw cyn hir i ymylon y gwirionedd. Gofyna y rhifwr gwestiwn, ond yn lie rhoddi amser a hamdden i mi i'w ateb, rhaid iddo osod yr atebiad yn fy ngeneu, fel pe byddai yn rhyfyg i ini i wahaniaethu oddi wrtho mewn barn. Addefa y gall gwahanol farnau fod am bethau ereill, ond ar y pwnc hwn rhaid iddo ef, fel y Pab, gael eistedd yng nghadair anffaeledigrwydd. Er hyny, .ni a feiddiaf draethu fy marn. Pe bawn, a mi yn Eglwyswr, yn cymmeryd fferm ar ardreth (dyweder £100 y ilwyddyn), a hono yn eiddo i'r Methodistiaid Calfinaidd, byddwn nid yn unig yn ei ystyried hi yn deg a chyfiawn i dalu'r rhent yn ol fy nghytundeb, ond byddwn yn cyfrif fy hun yn ddyn anonest i'r eithaf pe gwrthodwn dalu, er na fyddwn yn credu mewn Methodistiaeth nac yn gosod troed o fewn i'r un capel. Neu fel hyn os mynwch :—Pe cymmerwn y fferm ar y dealltwriaeth fod zC90 y flwyddyn i gael ei dalu i'r landlord, a zElO i trustees capel y Methodistiaid, byddai fy rhwymau i yr un fath. Fy musnes i fyddai gofalu peidio cymmeryd y fferm os na chawn hi ar ammodau teg. Ond gwedi ei chymmeryd, gallwn ac ni fyddwn yn ei hystyried yn ormes nac yn anghytiawnder i gadw y cytundeb a wnaethum yn wirfoddol. Peidio gwneuthur hyny fyddai yn anghyfiawn ac yn anonest. Ie, pe medrwn ddychmygu fy hun yn myned at trustees capel y Methodiatiaid ar ddydd y rhent, ac ar ol tynu gwyneb hir, yn dywedyd wrthynt fod fy nghydwybod mewn fath sefyllfa fel na chaniatâ i mi i gyfiawnu fy addewid a chadw fy nghytandeb trwy dalu yr hyn sydd yn eiddo cyfreithlon iddynt hwy, byddwn yn gweled ynof fy hun y rhagrithiwr penaf dan y ffurfafen a diau y cawn yn fuan brawf ymarferol fod cyssylltiad agos rhwng y Methodistiaid Calfin- aidd a'r gallu gwladol. Nid treth ar bersonau yw y degwm, end rhan o rhent y tir ac os y tenants sydd yn cynnal yr Eglwys, hwynt-hwy sydd hefyd yn cynnal y tir-feddiannwyr. Y mae fy llith wedi myned yn feithach nag oeddwn wedi bwriadu. Cyn terfynu yr wyf yn gofyn i'r rhifwr i wneuthur un peth. Dywed am yr Eglwys mai Eglwys yr erlidwyr—Eglwys a'i bryd ar orthrymu ydyw.' Yn awr, gan mai am Llanwnen mae efe yn gwybod fwyaf ac yn ysgrifenu yn bresennol, a chan mai Eglwyswyr yw perchenogion bron yr oil o'r ffermydd yn y plwyf, yr wyf yn galw arno i beido llechu fel coward tu cefn i gyhuddiad cyffredinol, ond deued allan fel dyn, a dyweded pwy sydd wedi cael en herlid a'u gorthrymu gan yr Eglwys neu'r Eglwyswyr yn Llanwnen. Dywed ef mai ffeithiau sydd yn iladd. Dyma gyfle iddo I anfarwoli ei enw ar facs y frwydr. Gyda golwg ar yr awgrymiad mai oerllyd yw ein ficer fel pregefhwr, diau ei fod, poor fellow, yn gwneyd ei oreu, ac am hyny yr ydym ni, yr Eglwyswyr, yn ymfodd!oni arno ond gan fod y rhifwr mor hoff o'r hyn a glyw gan ereill, dymunaf ei hysbysu fod rhai yn sibrwd o barthed i'r gwr ysgrifenodd drosto ef i'r Faner, nad yw yntau yn debyg o osod ei bnlpud ar dan. Ond dyna, wrth gwrs, gall gwahanol farnau fod am hyny hefyd. Gwyliau llawen i chwi, Mr Gal.; pan y caf ham- ddeu, nid sylwachu babanaidd arnynt, ond atebion i'm liythyrau. Cewch glywed eto oddi wrthyf.—Yr eiddoch, &c.,—JUSXIXIA. -1.-

LLANDYSSUL.

BWRDD YSGOL CEINEWYDD.

CAN 0 GLOD I'R YSWAIN BATH…