Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

AMLHAU CAPELI. 1

DARKEST WALES.

NODIADAU.

News
Cite
Share

NODIADAU. Y CYNAUAF DIWEDDAF. Y mae y gwlybandra mawr ac anarferol a ffynodd drwy ystod yr haf diweddaf wedi effeithio yn drwm iawn ar gynnyrch y tir amaethyddol yn y wlad hon, fel yr ymddengys oddi wrth grynodeb yr adroddiad blynyddol sydd newydd gael ei gy- hoeddi, sef yr "Agricultural Products Statistics for 1891." Y mae y gwenith yn un filiwn yn llai na'r cyfartaledd yr haidd yn tiliwn ac wyth can mil yn llai, er fod yr erwau o dan drin yn fwy y ceirch yn llai o wyth miliwn. Y oyfartaledd o gynnyrch am bob erw o dir oedd 39 mesur, yn lie 4H o geirch haidd 34 meauryn lie 35 ond cyn- nyrchodd y gwenith 311 yn lie 303 EISTEDDFOD GENEDLAETHOI. RHYL. Y mae Tywysog Cymru wedi cytuno i fod yn y I bresennol yn Eisteddfod Genedlaethoi Rhyl yr haf nesaf ac y maa y pwyllgor wedi ysgrifenu at ei Uchfckler i ofyn ar ba ddiwrnod ym mis Medi y bydd yn gyfleus iddo ddyfod. Bydd y Tywysog yn westwr y Due Westminster yn ystod yr eisteddfod. « ATDALIAD BUAN. Dydd Mawrth, Rhag. 22, treisiodd ychydig o ddynion mewn mwgwd fynedfa mewn i garchar Dewitt Arkansas, ac fe saethasant dri o ddynion yn farw o'r enw J. Smith, Ffloyd Gregory, a Moses Henderson, yr olaf yn Negroad. Ym- ddengys fod gwraig Smith wedi cael ysgariaeth oddi wrth ei gwr, a rhyw noswaith ar ol hyny aeth Henderson i'l' ty lie yr oedd hi yn byw a saethodd hi, and nid yn farwol. Cyfaddefodd y Negroad fod Smith wedi ei gyflogi i ladd y wraig, a bod ei fab-yng-nghyfraith Gregory wedi el arwaiu i'r lie yr oedd hi yn byw. Daliwyd Smith a Gregory gan hyny, a dygwyd hwy i'r carchar uchod. Aeth yr hanes ar led fod Smith a Gregory i gael eu rhyddhau dan feichiau, yr hyn a arwein- io id i'r carcharoriou gael eu saethu, felly dywed- wyd. Nid oes yr un hanes pwy oedd y dynion a drcisiodd y carchar. # # # ARIAN CYDWYBOD. Y mae un o henafgwyr bwrdeisdref Chelmsford, yr hwn sydd fasnachydd coed, wedi newydd dderbyn llythyr dienw yn cynnwys archiadau y llythyrdy am ugain punt fel taliad o ddyled oedd ar yr anfonwr i dad y masnachydd. Yr unig am- lygiad o fewn yr amgauad gyda'r archtadau oedd, Y mae y rhai'n yn perthyn i'ch tad." Y peth rhyfedd yw fod y tad wedi ei gladdu er ys 16 mlynedd, ac nid oes gan y derbyniwr y gradd lleiaf o dybiaeth pwy a yrodd yr arian nag am ba beth y maent yn ddyledns. # # # BLWYDD-DAL MEWN HENAINT. Y mae y cwestiwn hwn yn cynhyrfu llawer iawn o ymdrafod y dyddiau hyn, ac y mae Mr Charles Booth (nid y Fyddin lachawdwriaeth), un o'r awdurdodau penaf ar dlodi (pauperism), wedi dy- feisio cynllun drwy ba un y galluogir y llywod- raeth i ganiatau pension o bum swilt yr wythuos i bob dyn drwy'r deyrnao u drigain a phump oed liyd ei farwolaeth. Y swm gofynol tnag at ddwyn hyn i weithrediad fyddai 4:17,000,000 yn flyn- yddol—yr hyn a sicrheid drwy fwyhad treth yr incwm a tholl ar de a gwirodydd. Y mae y cynllun wedi cren dyddordeb mawr a chryn ohebiaeth dros neu yn erbyn yn newyddiadurony wlad. Y mae y tebyg gynllun mewn grym yn yr Almaen a gwledydd ereill. MARWOLAETH DR. HAROLD BROWNE. Ar yr 21ain o fis Rhagfyr, cauwyd dorau'r bedd ar ran farwol or Esgob a'r Duwinydd enwog hwn. Ganwyd ef yn 1811, ac felly yr oedd yn 81 mlwydd oed. Y mae ei enw yn nodedig i holl offeiriaid ein gwlad, yn neillduol y Cymry, o herwydd bu yn gwasanaethu fel Is-Urifathraw a Dysgawdwr Hebraeg yng Ngholeg Llanbedr am flynyddau. Adnabyddir ef yn fwy cyffredin fel awdwr y llyfr enwog ar y 39 Erthygl, yr hwn sydd yn brif wers lyir ar yr erthyglau drwy holl golegau y deyrnas, a'r hwn lyfr hefyd a gyfansoddodd mewn prif ran yn ystod ei arosfa yng Nghymru a dylai Cymru, yn neillduol Coleg Llanbedr, fod yn falch o'r Ifaith. 0 herwydd ei agos gyssylltiad felly a ni yw yr achos ein bod yn dwyn sylw at ei golled yn ein colofnau Cymreig. Codwyd ef i'r sefyllfa uchel o Esgob Ely ac yna cafodd ei drosglwyddo i esgobaeth fwy pwysig Winchester, yr hon swydd a daflodd i fyny o herwydd henaint tua blwyddyn yn ol. Yr oedd yn awdwr amryw lyfrau duwinyddol adnabyddus heb law yr uchod. Fel duwinydd, yr oedd yn un o'r awdurdodau uchaf yn yr Eglwys. Fel esgob, yr oedd yn arol- ygwr a rheolwr diysgog, ac yn weinyddwr cytiawn, ac fel dyn yr oedd yn hynaws, cym- mwynasgar, ac haelionus braidd hydd wall. Yr oedd yn Uchel-Eglwyswr o'r hen stamp, ond nid oedd ganddo fawr o gydymdeimlad tuag at duedd- iadau diweddar gorddefodaeth. Yr oedd yn dal yn gryf wrth awdurdod yr Eglwys foreuol. Yn ei anerchiad ymadawol, wrth ganu'n iach i'w glerigwyr yn ei gynnadledd esgobawl yn Hydref, 1890, dywedodd, Os dyma fy ngeiriau olaf wrthych, yr wyf yn haeru na all Eglwys Loegr sefyll ond drwy yr egwyddorion cyntefig, ac os dygwydd rhyw lygredd ynddi ni eill daflu ymaith C, y y cyfryw ond drwy ddychwelyd atynt. Gan hyred ag y deil Eglwys Loegr at awdurdod yr Eglwys gyntefig, mur hyred a hyny y bydd hi y tyst eadarnaf yn y byd o wirionedd yr Arglwydd Iesu Grist." # YR ETHOLWR ANLLYTHYRENOO. Y mae yn dda gan laweroedd wybod fod Mr R. G. Webster, yr aelod Ceidwadol dros ran o St. Pancras, wedi amlygu ei fwriad y bydd iddo gymmeryd y fantais gyntaf yn y senedd ddyfodol i godi cwestiwn Yr etholwr anllythrenog" a "Gweithred y tugel" yn Nhy y Cyffredin. Y mae teimlad cynnyddol er ys amser ym mhlith y Ceidwadwyr a'r Undebwyr, ac hefyd amryw bobl ddeallus ammhleidgar, y dylid'ymdrafod y pwnc hwn ar unwaith. Y mae cryfdery dadansoddwyr Gwyddelig a'r dadsefydlwyr Cymreig yn gyn- nwysedig ym mhleidleisiau etholwyr anwybodus anllythrenog ag nad ydynt yn deall dim o gyr- haeddiadau ac effeithiau y pynciau a osodir o'u _,y w blaen gan eu harweinwyr, ac y mae yn gywilydd y gall tynged y wlad fawreddog hon gael ei newid drwy effaith llais y deillion hyn. MR CHAMBERLAIN A'R L'NDEBWYK. Y mae yn wybyddus fod Due Devonshire wedi marw, a bod ei fab, Arglwydd Hartington, yr etifedct felly, yn myned i mewn i'r sefyllfa an- rhydeddus, ac yn cael ei ddyrchafu i Dy yr Arglwyddi. Trwy hyny coliir ei wasanaeth dylanwadul fel pen y blaid Ryddfrydol Undebol. Y mae y teimlad yn gryf yn Birmingham mai Mr Chamberlain yn ddiddadl sydd yn meddu yr hawl flaenaf i fod yn arweiniwr y blaid Undebol. Amlygir i Mr Chamberlain, gan gynnrychioli y yfran fwyaf mynedol o'r blaid, gynnorthwyo Arglwydd Hartington yn ffyddlon, ac ei fod yn meddu mwy o ddylanwad ar y dosbarth gweithiol. ac yn cael ei gyfrif o fwy pwys yn y senedd na neb arall o'r Undebwyr Rhyddfrydol. » Y GROGBREN. Boreu dydd Mawrth wythnos i'r diweddaf, yn Durham, crogwyd John William Johnson, 49 oed, gwas fferm. Yr oedd wedi bod yn byw gyda dynes o'r enw Margaret Addison yn ddibriod. Gan ei bod hi yn bwriadu priodi gyda dyn arall, canlynodd hi ar y ffordd faA r, a saethodd hi yn farw gyda llawddryll. Cyfaddefodd y dyn ei euog- rwydd, a dywedodd ei fod wedi cario allan y weithred yn fwriadol, a dedfrydwyd ef. Amlyg- odd ei edifeirwch i gyfaill iddo am y trosedd, ac ei fod wedi gwneyd ei heddwch a Duw. Efe a gerddodd yn ddiysgog i'r dienyddle, a phan y cymmerodd ei le o dan y crogbren, llefodd, 0 Arglwydd, bydd drugarog wrthyf. I'th law yr wyf yn cytlwyno fy ysbryd." Yna hyrddiwyd ef i dragwyddoldeb. Bu farw yn uniongyrehol.- Boreu dydd Mercher yn yr wythnos ddiweddaf. yn Henffurdd, crogwyd Charles Saunders am ladd plentyn dwy flwydd oed o'r enw Charles Steers, yn agos i Leominster, ym mis Mai. Yr oedd y plentyn wedi ei fenthycca oddi wrth ei rieni yn Llundain i'r dyben o alluogi y dyn i gardota. Yr oedd y plentyn yn derbyn triniaeth fwystfilaidd, ac un noswaith pan yr oedd yn crio, pigodd y carcharor ef i fyny a maluriodd ei ben yn erbyn y llawr nes ei dori yn yfflon. Euogfarn- wyd y dyn ar dystiolaeth ei gariadferch. Aeth y dienyddwr i mewn i'r ystafell i gylymu yr adyn, ac a'i dygodd i'r neuadd ganol o'r carchar. Yr oedd yn edrych yn wyn, gwelw, a chrynedig. Ffurfiwyd gorymdaith gyda'r offeiriad yn darllen y gwasanaeth claddu. Ar ol dyfod dan y crogbren rhoddwyd y dyn mewn sefyllfa briodol a'r capan gwyn dros ei ben, tynwyd y drosol, a syrthiodd y creadur i ddyfnder o wyth troedfedd o gorden. Gwingodd y corffyma a thraw am beth amser.

Y TYLAWD A'R CYFOETHOG A GLEDDIR.

WHITE SQUARE, CWMCAWLLWYD,…

RHIFO'R BOBL.

LLANDYSSUL.

BWRDD YSGOL CEINEWYDD.

CAN 0 GLOD I'R YSWAIN BATH…