Hide Articles List

9 articles on this Page

AMLHAU CAPELI. 1

News
Cite
Share

AMLHAU CAPELI. 1 Nis gall y sylwedydd mwyaf arwynebol, pan ar I ei ymweliad a. Chymru, lai na chael ei daraw a. syndod wrth weled amledd y capeli a frithent y wlad, a diammheu nad oes yr un wlad arall yn y byd wedi ei betidithio a. chynnifer o addoldai mewn cyfartaledd i'r boblogaeth a Chymru fechan dylawd.' Nid yn unig glvneir darpariaeth helaeth ar gyfer angenion ysbrydol yr ardaloedd poblogaidd, ond hefyd ar gyfer y rhanau mwyaf anghysbell, a lie gellir rhifo y tai ar fysedd y ddwy law. Mor fuan ag yr agorir cloddfa neu waith newydd yn encilion rbai o'n mynyddau, a chyn braidd i'r peirianwaith angenrheidiol gael ei osod i fyny ac i ychydig dai gael eu hadeiladu, bydd rhyw gyfeillion crefyddol yn cynllunio i godi ty addoliad yno. Mae hyn yn nodweddiadol o'n cenedl hefyd pan yr ynifudant o Gymru ac yr ymsefydlant mewn gwlad newydd—yn Lloegr, er esampl, yn yr America, neu ar wastadeddau pellenig Patagnnia-ceir mai un o'r pethau cyntaf yr ymgymmerant ag ef yng ngwlad eu mabwysiad fydd adeilada ty i'r Arglwydd — 'lie preswylfod i Dduw Jacob.' Mae hyu mewn gwrfchgyferbyniad dymunol i arfer rhai cenedloedd ereill, y rhai pan yn cynllunio eu dinas ar ddernyn o dir newydd y byddont ar fedr ymsefydll1 ynddo, a ddarpar- ant fod yno drinking saloon ym mysg un o'r adeiladau cyntaf a mwyaf arbenig. Yrutfrost y Cymro syml o'r tu at-all ydyw ei Bethel a'i Ebenezer, y rhai a feddant iddo ef interest a swyn tu hwnt i bob peth arall, ac yn nesaf at ei fwthyn a'i, gartref ei hun. Megys y mae Cymru yn arbenigol yn wlad y Beiblau, y mae hefyd yn wlad addoldai, a hir y parhao i feddu y cyfryw nodwedd, fel y gellir gyda phriodoldeb ofyn yng ngeiriau'r bardd, Pa wlad wedi'r siarad sydd Mor liii a Chymru ionydd r' Yr ydym yn awr wedi bod yn galw sylw at yr ochr oleu i'r darlun, und, ysywaeth, y mae iddo ei ochr dywyll hefyd-y Darkest Wales.' Pebuasai gwir angen am y fath nifer lluosog o addoldai sydd yn britho ein gwlad, pob peth yn dda, ac mae parch danddyblyg yn ddyledus i'r gwyr hyny ym mysg yr Ymneillduwyr a wnaethant y fath aberth i godi addoldai mewn Ileoedd yr oedd eu llwyr eisieu-y manau hyny y mae adnoddau yr Eglwys yn gwbl annigonol i gyfarfod ag angenion ysbrydol y boblogaeth gyfiym-gynnyddol. Ond nid hyna, fel mae gwaethaf y modd, ydyw hanes tai cyrddau Cymru, o blegid y mae ugeiniau o honynt naill ai yn ddiangenrhaid, os cyiumerir y boblogaeth i ystyriaeth, neu ynte y maent wedi eu codi oddi ar genfigen neu spite i enwad arall, neu fel y dygwydd yn fynych o herwydd anghytundeb aelodau perthynol i'r un eglwys. Yn y Drych Americanaidd, cuir y sylwadau awgrymiadol a ganlyn odan y penawd, Gormod o Eglwysi :— Mae ym mysg Cymry America ormod o'r hanner o eglwysi, a elwir felly. Fel yr ydym wedi dweyd droion o'r blaen, nid oes yn awr ddigon o wahaniaeth rhwng y Wesleyaid, yr Annibynwyr, a'r Trefnyddion Caltinaidd i ym- ranu o'i herwydd, nac i wario swllt er mwyn ei gynnal. Ac nid o herwydd gwahaniaeth gonest mewn barn ar bynciau athrawiaethol yr vmddi- ddola y rhai perthynol i'r sectau hyn, oud o achos ymlyniad penbeeth, cibddall, afresymol, ac an- nuwiol wrth eiriau nad yw un o honynt yn ysgrythyrol, nag yn ddigon hen i haeddu parch penwyni. Os na fydd mewn pentref neu ardal fwy na digon o Gymry i wneyd un eglwys weddol, ni ddylid ar un cyfrif ranu Cymry y lie hwnw yn ddwy neu dair o eglwysi eiddll, di- ddylanwad, tfals-eiddigus a chardodlyd. Fel rheol, man bregethwyr mwy awyddus am wneyd Ileoedd iddynt hwy geinioca ynddynt, nag i lesoli eneidiau, fydd yn eel ac yn cyhoedd gym hell pobl i sectymranu, ac ymffurtio yn achosion newydd. Dywedwn eto nad oes chwythryn o grefydd Crist yn y cyfryw glymbleidiau. Nid yw yn bechod yn y byd eu gwawdio, eu hwtio, a gwrthod cyfranu dimai i'w cynnorthwyo eu chwerthin a'u newynu o fudolaeth ddylid, gan nad ydynt dda i ddim ond i helpu tipyn ar ambell 'Jack' fyw heb weithio a'i ddwylaw. Yn sicr, ni lefarwyd geiriau 'gwirionedd a sobrwydd mwy pendant a diamwys erioed, ar y pwnc hwn, a dymunwn o'n calon i bob crefyddwr eu cymmeryd i'w ystyriaeth ddifrifolaf. Byddai yn burion adgoffa i'r darllenydd hefyd mai nid iaith o eiddo yr un Eglwyswr penboethyw dadleu dros uchafiaeth ei Eglwys ei hun ac o blaid cyd- ffurfiad a hi ydyw yr uchud. O'r tu arall, yrydym yn cwbl gydsynio a chynnwysiad y datganiad gonest a difloesgni uchod o ddrygedd ymbleid- iaeth, a'r gwastraff cywilyddus ar adnoddau crefyddol y wlad. Ond atolwg, ai onid y w yr hyn y cwynir o i blegid mewn cyssylltiad ;Vr America yr un mor wir pan y cymhwysir ef at Gymru Onid oes yma ugeiniau o liloedd o bunnau wedi eu gwastraffu ar dai cyrddau ac achosion newyddion yn unig o herwydd ymlyniad pen- boeth, cibddall, afresymol, ac aiinuwiol' rhy", bersonau uchelgeisiol, 'a man bregethwyr mwy awyddus am wneyd lleoedd iddynt hwy geiniuca ynddynt, nag i lesoli eneidlau ?' Yr ydym yn gwybod am nifer mawr o fan bentreti yng Nghymru yn ymffrostio ar feddu pedwar neu bump o dai cyrddau, tra ar yr un pryd y cyn- nwysai un capel yr koll drigolion, a gadael yr Eglwys allan o'r cwestiwn. Onid yw hyn yn wastmtf cywilyddus, yndreth drom ar haelfrydcdd Cristionogol, ac yn sarhad ar synwyr cyffredin ? Nid yw y gwahaniaeth yn ddigon,' fel y sylwyd licli(d,' rhwno, y Wesleyaid, yr Annibynwyr, a'r Trefnyddion Calfinaidd i ymranu o'i herwydd, I nag i wario swlllt er mwyn ei gynnal.' Dygir ym mlaeti y gwasanaeth yn y naill a'r llall yn gwbl yr un fatti-darllener pcnnod, offryrnir gweddi, cenir bron yr un emynau a thonau, a thraddodir pregethau -weithiau yn wreiddiol, a phryd arall wedi eu cyfieithu o'r Seisnig, gyda mwy neu lai o fedrusrwydd. Yr unig wahaniaeth a gecfydd yr ymwelydd achlusurol fydd fod John Jones yn flatsnor yn y capel yma, a William Williams yn y llall. Os ydyw y gwahaniaeth rhyngddynt, gan hyny, yn rhy fychan, yn ol barn yr ysgrifenydd uchod, i'w cyfiawnhau yn eu hymraniad, onid yw yr un rheswm hefyd yn eu condemnio yn eu gwaith yn ymnedlduo o'r Eglwys, yn enwedig y Trefnyddion Calfinaidd, yn gymmaint ag fod eu ly Cytfes Ffydd hwy yn sylfaenedig gan mwyaf ar erthyglau a chatecism yr E-Iwys ? Y mae sect- ymranu ar ran y gwahanol enwadau hyn yn ddigon drug, ond pan yr ymrana y sect hono ei hun yn wahanol bleidiau, mae anferthwch y drwg yn fwy amlwg byth. Ac eto dyma hanes llawer o eglwysi Annibynol Cymru y fynyd hon. 0 herwydd rhyw gamwri gwirioneddol neu ddycli- ymmygol, neu am nad ydyut yn cael eu fl'ordd eu hunain ym mhob peth, gwelir nifer o'r aelodau yn trui eu gwynebau am y siamber serri, ac o dipyn i beth cymmer yr haid anffoddog eu hedfan ac ymsefydlant mewn cwch newydd yr ochr arall, ond odid, i'r heol a gwneir hyn oil yn enw crefydd. Pa hyd, atolwg, y mae'r cyflwr hwn ar bethau i barhau yng 'Nghymru grefyddol >' Onid yw yn llavvn bryd i bawb sydd yn gwirion- eddol deimlo ci ddyledswydd i gadw undeb yr ysbryd yng nghwlwm tangdefedd, Iosod ei wyneb fel Cdllestr yn erbyn yr ymgecraeth a'r ymran- iadau diddiwedd yma ym mysg dysgybliun yr Hwn a weddlal am iddynt fod yn un Yn lie bod yn Gymru unol, gref, dylanwadol, ac iachus, yr ydym yn ei chael yn awr yn Gymru ranedig, eiddil, a nychlyd, a'r naill sect yn lie gwneyd cydynigyrch fawryn erbyn ygelyn cyffredinol, yn gwastraflu eu nerth i gyfarth ar eu gilydd. Onid oes gan yr adnod ganlynol ergyd bwrpasol i Gymru y dydd heddyw -'Cotia, gan hyny, o ba le y syrthiaist, ac edifarha, a gwna y gweithred- oedd cyntaf ac omde, yr ydwyf fi yn dyfod atat ti ar frys, ac mi a symmucla.f dy ganhwyllbren di allan o'i le uni edifarhei di.'

DARKEST WALES.

NODIADAU.

Y TYLAWD A'R CYFOETHOG A GLEDDIR.

WHITE SQUARE, CWMCAWLLWYD,…

RHIFO'R BOBL.

LLANDYSSUL.

BWRDD YSGOL CEINEWYDD.

CAN 0 GLOD I'R YSWAIN BATH…