Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

EISTEDDFODAU.

News
Cite
Share

EISTEDDFODAU. Yn ddiweddar, yr ydym wedi cael cnwd mawr o eisteddfodau yng Nghymru, ac nid yw siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi wedi bod yn ol i ranau ereill o'r wlad yn y brwdfrydedd a ddangoswyd ganddynt yn eu cylch. Heb son am y man gyfarfodydd llenyddol a gadwyd yma a thraw, geill cofnodion sir Aberteifi yn unig ddangos eleni dair eisteddfod a ymhonent ryw gymmaint o enw ac uchelgais, sef eiddo Llangranog, Aberystwyth ac Aherteifi. Wrth n en fwrw gol wg dros lianner y cyfarfodydd hyn, cyfyd y gofyniad ym meddwl pob dyn ystyr- bwyll—i ba beth y cynnelir hwy 1 ac, a ydynt mewn gwirionedd, yn llesol i'r wlad? Wedi ceisio dal sylw arnynt am flynyddau bellach, a gwneyd ein goreu i'w pwyso a'u mesur yn eu 0 Z5 holl gyssylltiadau mor ddiduedd ac mor Z!5 gyfiawn ag y inedrwn, yr ydym wedi cael ein harwain yn auocheladwy, a hyny yn wir, yn erbyn ein teimladau ein hunaiti, i'r casgliad nad ydynt wedi nac yn gwneyd nemawr o les i'r genedl. Ni a wyddom yr ymhona pob eisteddfod ei bod yn cefnogi llenyddiaeth Gymreig ac astudiaieth o'r iaith Gymraeg, ond ni a garem wybod, i ba fesur y caifi hyny ei wneuthur. Onid yw yn wirionedd anwada- dwy taw ychydig iawn a siarad yn gymmhar- n zY iaethol, o gyfansoddiadau gwir werthfawr a gynnyrchwyd, neu, o'r hyn lleiaf, a gyhoedd- ,y wyd, hyd eto gan yr eisteddfod? Yn ystod y 70 mlynedd diweddaf, a eill yr eisteddfod ddangos cymmaint a banner dwsin o gyfan- soddiadau gwerth eu henwi, a gwerth pwyntio ZD Z!1 attynt fel cynnyrchion a adlewyrchant glod arnoni fel cenedl ? Ag eithrio Literature of the Kymry Thomas Stephens, ofnwn fod yr oil o honynt wedi eu dedfrydu, a hyny yn bur gyfiawn, ni a debygwn, i'r ebargofiant a t5 ZD deilyngent. Gwariwyd miloedd ar filoedd o 0 bunnau ar eisteddfodau yn ystod y cyfnod a enwir genym uchod, ond nid ydym wedi derbyn yn ol y filfed ran o'u gwerth. Fe ddywedir wrthym weithiau fod yr eisteddfod yn symbylydd a chychwynydd ardderchog i dalent ac athrylith. Wel, ni a ganiattawn fod rhyw gymmaint o wirionedd yn y gosodiad, er ar yr un pryd, ni a hoffem wybod pa sawl un o'r l'hai hyny a wnaethant les i Gymru sydd yn ddyledus i'r eisteddfod am y peth oeddynt neu ydynt, ac am yr hyn a wnaethpwyd neu a wneir ganddynt yn awr 1 Dywedir wrthym weithiau mai yr eisteddfod sydd wedi meithrin a chadw yn fyw gerddor- iaeth Gymreig. Ni a fynem ein goleuo ar y pwynt yma eto. Wrth fwrw golwg dros brogramau ein heisteddfodau fel rheol, o'r un genedlaethol i lawr hyd "eisteddfod flynyddol y Groglith yn Jerusalem, neu Jericho yr enwad hwn a'r sect acw, ni a welwn y telir llawn cymmaint o sylw, ac y rhoddir llawn cymmaint o gefnogaeth i gerddoriaeth yr Ital a'r Hispaen, ag a roddir i gerddoriaeth Cymru. Z5 t5 Mae yn wir fod rhyw ddwsin o ferchedos wedi cyfodi i'r golwg ar lwyfan yr eisteddfod yn ystod yr ugain neu'r pum mlynedd ar hugain diweddaf, a'u bod wedi hyny wedi eu hysgootio i fagu plyf yn y R.A.M., ac yna dyfod yn eu hoi i ddangos ac awyru eu hunain ar y llwyfanau y tyfasant i fyny o honynt. Ac y ma9 yr un mor wir a hyny mai y cyfryw yw y dreth a'r baich trymaf sydd ar yr eisteddfod y dydd hwn. Nid peth bach yw magu mculame-rnaid iddi ymdroi yn ei chylch proffeswrol, a thuag at hyny, rhaid iddi wrth yr anhebgor melyn. Nid yw ei henw fel rheol yn werth ei grybwyll allan o'n tair sir ar ddeg ni fedra attynu na Sais nag Ysgotyn na Gwyddel i na chyngherdd na chwrdd mawr, ac felly, rhaid iddi droi ei gwyneb yn ol i'r hen wlad, na thwyllo a hud- 0 ddenu hono flwyddyn ar ol blwyddyn. Rai gweithiau yn wir, myn annibyniaeth meddwl a barn rhai o'n pwyllgorau ei wrandaw, ac ymofynir am enwau a safant yn barchus yn y byd cerddorol, a ni a gawn y pleser o wrandaw ar y peth a ellir ei alw yn gerddoriaeth lleisiol neu gerddoriaeth offerynol. Ond fel ag y mae pethau yn sefyll yn awr, nid yw yr eisteddfod yn dda i ddim, ond i helpu cadw cantorion a chantoresau mewn crach foneddigeiddrwydd sydd yn byw ar anwybodaeth, meddalwch, a gwaseidd-dra y wlad. Mewn amserau a aethant heihio, fe ddichon fod yr eisteddfod wedi bod o ryw wasanaeth i'n hiaith a'n llenyddiaeth. Yr oedd ein cyfryngau addysg, a'n cyfryngau i ddal cyfundeb a'n gilydd fel cenedl mor brin, fel nad oedd genym nemawr i hacam i hogi m Z5 hacam ag ef, ond bellach, er ys blynyddau, y mae cyfnewrdiad wedi dyfod dros bethau, fel nad yw y moddion a ddyfeisiwyd gan anghenion amserau a fu mwyach yn ateb eu dyben, a dylid yn ol pob rheswm, naill ai eu symmud o'r ffordd, neu eu diwygio a'u had- newyddu i gyfateb amgylchiadau y cyfnod yr ydym ni yn byw ac yn bod ynddo. Y cyhuddiad mwyaf difrifol sydd genym yn erbyn yr eisteddfod fel sefydliad ag y mynir ei alw yn "genedlaethol" yw y ffug sydd yn nodweddu pobpeth a berthyn iddo. 0 ddechreu i ddiwedd pob eisteddfod fe ddaw ffugiaeth i'r golwg. Beth sydd yn fwy o ffug na gweled n -n Z5 rhyw ugain o ddynion dan yr enw o bwyllgor m yn tynu program allan yn cynnyg testynau n n i ymgystadlu arnynt, am y rhai ni wyddant zn y ond ychydig, a'r rhai sydd yn anwybodus mewn llenyddiaeth Gymreig yn gyffredinol ] Y canlyniad yw, nad eill ein program fel rheol, ddim dangos na chwaeth, na barn, na thalent. Nid ydynt ddim yn amgen na thryblith diamcan a didrefn. Yn hytrach na'i bod wedi "ccfnogi llenyddiaeth Gymreig," mae yr eisteddfod drwy anwybodaeth pwyll- gorau yn fynych, wedi rhoddi mwy o gefnog- aeth i lenyddiaeth estronol — Hebreig yn 0 benaf-na'n heiddo ni. Onid oes nifer mawr o'n hawdlau a'n pryddestau wedi eu canu ar destynau Beiblaidd ? Ond ffug mwy l1a'r ffug a geir yn ein pwyllgorau yw y ffug hwnw a geir mewn cyssylltiad a'n beirniaid. Mewn blynyddau a aethant heibio, ac i fesur mawr hyd eto, rhaid i eiiwadaeth (y.tel Ile yn newisiad y beirniaid. Bu amser pan oedd yr Annibynwyr yn rheoli y glwyd—yr amser hwnw pan oedd Caledfryn yn ymdordynu yn ei rwysg, a'r amser hwnw hefyd y cenhedlwyd ac y magwyd llu mawr o feirdd "cadeiriol" perthynol i'r enwad Anni- bynol. Gallai y Methodistiaid a'r Bedyddwyr, ac yn bendifaddef, yr Eglwyswyr, alw y o cyfnod hwnw eu pedwerydd prif ormes." Ond aeth Caledfryn i fynwent y Groeswen, a daeth gwynebau Methodistiaid, Bedyddwyr ac Eglwyswyr, i'r golwg ar esgynlawr yr eisteddfod. Ond chwareu teg i Caledfryn, yr oedd rhyw gymmaint o'r beirniad ynddo, pe bai ddim ond ei olwg allanol a'i ystum, a'i osgedd ymhoniadol, a mawrhydi ei wedd. Do, fe wnaeth gymmaint a neb i ddiwreiddio y "geiriau llanw" o'n henglynion a'n cy- wyddau, er bod y rhan fwyaf o'i eiriau ef yn rhai "llanw," cyn belled ag y mae a fyno barddoniaeth a'i gyfansoddiadau. Y gwir am dani yw, ni ddengys Caledfryn mewn dim ei I,y fod yn gwybod beth oedd barddoniaeth. Ysgrifenu rhyddiaeth mewn odlau a wnaeth n drwy gydol ei oes. Syndod mawr mor wybodus ac mor am- rywiaethol eu doniau yw pregethwyr Cymru wedi bod Yr ydym wedi gweled amser pan y medrai o'n pregethwyr feirniadu braidd bob peth. Hyny yw, fe geid anibell i bregethwr yn medru beirniada cyfansoddiadau drwy gylchoedd yr holl 'aethau." Mae yn ddigon 3 6 tebyg nad oedd y boneddigion hyny erioed wedi gwybod mwy nag enw y gangen hono o ddysgeidiaeth, ym mha un y cymmerent arnynt fod yn gymliwys ac addas i roddi barn. Dyma y cyfnod y cynnyrchwyd rhai o'n cyfansoddiadau a fyddant byw cyhyd ag y pareblir yr iaith Gymraeg," a'r cyfnod y galluogwyd Tomos Dafydd y Saer, a Gwilym Shon y Gof, i gyfansoddi anfarwolion" bethau Yn dilyn yn union ar sodlau crach-feirniaid y mae crach-ysgrifenwyr llenyddol, ac yng Nghymru y maent yn lleng. Ffrwyth an- Z5 Z5 ocheladwy a chanlyniad naturiol safon isel dynion anwybodus o feirniadaeth ydynt un ac oil. Diolch i'r nefoedd, y mae gwyr o ddysga gwroldeb yn dechreu carthu yr ystabl ar hyn o bryd. Cyn terfynu, gallwn nodi un ffug arall yng nglyn a'r eisteddfod-y ffug glod a'r ffug b -n Z5 enwogrwydd a rodda. Peth mawr yw derbyn gwobr mewn ysnoden harddwych, wedi ei gwisgo am wddf y buddugoliaethwr gan ddwy- law teneuwen meistresan lygad-ddu, o flaen yr hon y penlinia y concwerwr gyda defosiwn marchog o'r canoloesau o flaen ei gariadferch, yr udgyrn yn darledu ei glod i'r pedair nefoedd, ;,Y ac yntau yn darllen ei wrhydri yn llygaid gwlad" edmygol. Pa fron na thaniai, pa enaid na losgai yn fflam yn yr ymwybyddiaeth fod ei enw y dydd hwnw wedi ei gerfio ar lechres enwogion yr oesau ? Ond och, och, byddai holl fiigyrau Mab Jesse a'r duwiol Job i ddangos breuolder oes dyn, yn anfeidrol rhy fyr a rhy weiniaid i egluro byrdra enwog- rwydd y llwyfan eisteddfodol. Ond gadawer iddynt, maent yn derbyn eu gwobr. Yr hyn ag yr anfoddlonwn ni iddo ydyw y ffaith y diddyfnir ieuenctyd ein gwlad oddi wrth bethau rheitiach a gwell, ac yr ymyrant ar ol llawer hudlewyrn ac enfys a ymgollant mewn diddymdra, fel breuddwyd ac fel gweledigaeth nos. Wrth derfynu, dywedwn air mewn ffordd o longyfarchiad i'n cenedl. Mae argoelion pethau gwell i'w canfod ar hyn o bryd. Teifl digwyddiadau a ddont eu cysgodau ym mlaen. Mae addysg ar daen, mae yr ysgolfeistr wrth ei waith, mae y coleg a'r brif-ysgol yn cynnyrchu ac yn rhoddi goleuni, mae asbri newydd, ac ysbryd ymchwiliad ac awydd ym- ddyrchafu mewn dysg a diwylliant, a rhin a moes, ymddeffroi ar bob Haw a dilys ddi- ammheu genym y daw y wlad cyn bo'n hir i gredu am yr eisteddfodau"—chwareu plantos Cymru yn bwhwman breuddwydion y beirdd ydynt."

PWNC YR EGLWYS SEFYDLEDIG:I…

CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN TEIFI.…

ITREF, GWLAD, A THRAMOR.

MOESGARAVCH, A'R DOSBARTH…

Y CRYrCHYDD.

Advertising

AT EIN GOHEBWYR.