Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

GWASTRAFFU NERTH.

News
Cite
Share

GWASTRAFFU NERTH. Wrtli edrych o'n hamgylch, ni a ganfyddwn amrywiol wrthddrychau yn gweithio, ac un o'r n zn pethau cyntaf a dyna ein sylw yng nglyn a bwynt yw y gwastraff amlwg ar nerth a ddangosant. O'r anirywiol wrtliddrycliau hyn, ni a nod wn ychydig enghreifftiau. Wrtli fwrw golwg ar sefyllfa Cyniru o barthed i'w haddysg elfenol, ni a ganfyddwn lawer o wastraff- ar nerth a gallu. Cyn Deddf Addysg 1870, darparesid cynllun rhagorol o Addysg elfenol yn yr Ysgolion Cenedlaethol. Yn herwydd amryw resymau, nad oes yn awr eisieu eu crybwyll. Nid oedd y cynllun liwnw, er yn gweitbio yn rhagorol cyn belled ag yr elai, yn un digon eang ac yn gyfatebol i angenrheidiau y wlad. Felly fe ddaeth Deddf Addysg 1870 i mewn i'w attodi neu ei gynnorthwyo lie yr oedd yn fyr a diffygiol. Ond yn fuan gyda ffurfiad Byrddau Y solion, ni a welwn gnwd o ysgolion newyddion yn cael eu hadeiladu, a hyny mewn manau lie y ceid ysgolion rhagorol yn barod. With reswm ni chyfodir yr ysgoldai hyny heb arian, a golygai hyny drethu y boblogaeth. Os nad oedd llawer o'r ysgoldai newyddion yn angen- rheidiol (ac nid oes ammheuaeth nad oedd llawer o honynt felly), yr oedd rhan helaeth o'r dreth a osodwyd ar ysgwyddau y werin yn ddiangenrhaid hefyd. Beth oedd hyn ond b gwastraff ar nerth a gall u ? Pe defnyddid yr arian a erys yn farw mewn dwsinau o adeiladau felly at amcanion ereill a dueddent at ddyrchafu y wlad, yn foesol a chymdei- thasol, buasai yn llawer doethach ar ran cyn- nrychiolwyr neu yraddiriedolwyr y bobl. Ymffrostia Cymru yn y lluosogrwydd o gapeli sydd ynddi, a phwyntia atynt fel profion o sefyllfa uchel crefydd a moesoldeb o'i mewn. Ond a ydynt felly mewn gwirionedd ? Wrth olrhain hanes nifer mawr iawn o gapeli Cymru (ac nid oes eisieu myned ym mhell i iawn yn ol cyn dod o hyd i'w dechreuad), ni a welwn eu bod wedi eu cychwyn mewn ang- hydfod ac ymbleidio. Yn awr, ni a hoffetn glywed barn gwyr callaf Ymneillduaeth ar ymbleidio. A yw ymbleidio yn dda neu yn ddrwg 1 Os yw yn dda, pa ham y condernnir ef fel peth cnawdol gan yr apostol 1 Os yw yn ddrwg, onid oedd yn ychwanegu drwg at ddrwg drwy fytholi ymbleidio mewn calch a cheryg a choed, fel y gwnaed drwy adeiladl1 capeli yn ein plith ? Ac onid oedd y synagogau hyny yn wastraff mawr ar nerth y gwahanol enwadau, ym mhlith y rhai y cyfodai ym- bleidiau, ac yr adeiledid ar eu cyfer 1 A chan fod yr enwadau hyny yn ffuifio rhan o boblogaeth Cymru, yr oeddent mewn rhan yn tylodi ein cenedl, a ni a ddyoddefwn oddi wrth hyny hyd eto. Yn wir, a chymmeryd golwg eangach ar y mater, ymddengys holl 0 n z, gyfundrefn Ymneillduaeth, o'i chychwyniad, yn wastraff ar nerth y genedl. Heb law yr arian a dalwyd ac a delir tuag at adeiladau, pa ryw filoedd lawer yn flynyddol a delir tuag cfynnal i fyny boll beirianwaith y gyfundrefn Ymneillduol, mewn ffordd o gyftogau a chasgliadau aneirif, wrth y rhai y raae yn rhaid i enwadaeth. Pa faint cyfoethocach, mewn dysg a diwylliant, a moesoldcb a gwir ddefosiwn, a fuasai Cymru yn awr pe glynasai oil wrth ei hen drefn ardderchog o addoli Duw? Nid oes ynom ammheuaeth na buasai hyny yn help mawr i gyfeirio ineddwl a galluoedd y genedl at ganglienau lluosog y celfyddydau a'r gwyddonau, yn lie eu cyfyngu at rigymu, canu, a phregethu. Yr 6 In 0 ydym yn llwyr gredu fod tylodi celfyddydol a gwyddonol Cymru yn bcnaf i'w Hymneill- duaeth, ac y bydd iddi eto gyda'i ymddeffroad sydd yn cymmeryd lie ynddi yn awr, golli ei gafael ar Ymneillduaeth. Ni a gredwn y cyfeddyf pob un a edrycha yn is i lawr nag ar wyneb y genedl, fod Y mneilldnaeth wedi bod yn foddion i beri iddi wastraffu llawer iawn o'i nerth. Ofnwn nad yw Cymru wedi dysgu bod yn ddoeth hyd eto, ac y bydd iddi, yn ei balchder a'i brwdianwch uwch ben y Ddeddf a roddes iddi fesur o Lywodraetb Leol, wastraffu llawer o'i nerth. Yr ydym yn barod wedi eu gweled yn ymhel a materion na freuddwydiwyd crioed am danynt yn y ddeddf hono. Nid yw y ddeddf hono wedi ei chwblhau yn hollol hyd eto. Nid yw yr Is-gynghorau neu Gynghorau Lleol, a fwriada sefydlu, wedi dyfod yri fl-aitli eto. Ni synem weled mwy o wastraffu nerth uwch ben, ac yng nglyn a'r rhai hyny, nag a wnawd yng nglyn a'r Cynghorau Sirol dro byr yn ol. Dyna ddeddf arall-Deddf Addysg Canolraddol-ag y mae y Cymru yn debyg o wastraffu llawer o'i nerth uwch ei phen. 0 Yr ydym yn gweled ysbryd ammhwyll ac annoethineb yn nodweddu llawer cymmydogaeth ar hyn o bryd, nes peri i ni dybied y gall Deddf, a'i hamcanion yn dda, esgor ar ganlyniadau a fyddant yn y pen draw yn fwy o niwaid nag o les. Un wers fawr sydd eisieu ei dysgu arnom fel cenedl a chyfrifcm y dyn hwn w ag a'n cynnorthwyai i'w dysgu, yn wladgarwr. Pwy a ddaw allan ac addysg i ni ymattal toddi wrth wastraffu ein nerth ?

MOESGARWCH A'R DOSBARTH GWEITHIOL.

CANOLBARTH CEREDIGION.

E R COF,

ABERGORLECH.

|LLANEGWAD.

DREFACH, LLANGELEll.

EMYNAU YR EGLWYS.

Advertising

Y PARCII. J. WYNDHAM LEWIS,…

[No title]

|AT EIN GOIIEBWYR.