Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

BWRDD YSGOL LLANRHYSTYD.

News
Cite
Share

BWRDD YSGOL LLANRHYSTYD. At Olygydd Y JOURNAL. SYR,—Y mae yn ymddangos fod aelodau y Bwrdd newydd hwn, oddi ar yr etholiad a dewisiad y swyddogion, yn myned ym mlaen mewn camrau breision, ac y mae gweithrediad rbyw adran neillduol o'r Bwrdd yn sicr wedi dyfod yn amlwg iawn yng ngolwg y cyhoedd yn yr amser byr o'u bodolaeth. Ymddengys t,Y fod rhai aelodau o'r Bwrdd presennol yn ogystal a rhai o'r hen Fwrdd) wedi dangos rhagfarn hynod o gryf yn erbyn un o'r athrawon yng ngwasanaeth y Bwrdd (sef Mr Thomas o ysgol Brynherbert), ar yr ymsyniad ei fod wedi esgeuluso ei ddyledswyddau, n ac fod yr ysgol yn gyflym ddiflanu mewn rhif ac effeithiolrwydd. Pa un a ydyw y cyhaddiad hwn yn wir, neu nad yw, nid wyf am ddadleu o gwbl. Beth bynag, yr oedd yr aelodau hyn wedi penderfynu na orphwysent hyd nes sicrhau ei dori ef (sef Mr Thomas) yn llwyr o wasanaeth y Bwrdd; ac ar y cynnulliad cyntaf o'r Bwrdd at waith cyhoeddus, dygaaant gynnygiad ym mlaen i'r amcan hwn, ac er i'r cadeirydd ddangos gwrthwynebiad penderfynol yr erbyn y gweitbrediadau gwael hyn, cafodd y cynnygiad ei basio gan bed war yn erbyn tri. Cafodd y fantol ei throi yn yr ymraniad hwn gan un o gynnrychiolwyr penodedig Eglwys Llangwyryfon, yr hwn a dr6dd yn annysgwliadwy gyda'r blaid eithafol, ac y mae yr ymddygiad annheilwng o eiddo yr aelod anffyddlawn hwn wedi creu siarad a syndod mawr yn gyffredinol; canys pe byddai ganddo ryw radd o onestrwydd i gyfaddef ar y dechreu mai fel hyn y byddai ei weithrediadau, y mae yn amlwg na chawsai byth ei ddwyn ym mlaen fel ymgeisydd; ac y mae yn sicr na fyddai ei enw ddim o gwbl ym mhlith yr aelodau ar y Bwrdd newydd. Y mae Mr Thomas yn ddyn ieuanc galluog iawn, ac wedi bod yng ngwasanaeth y Bwrdd am flynyddau lawer, ac y mae yn warthus fod yr aelodau hyn wedi dangos cymmaint o ddiffyg dynoliaeth a synwyr cylfredin wrth ddechreu eu gweithrediadau ar y Bwrdd hwn, fel ag i gamdrin gwas ffyddlon fel hyn, ac y mae eu hymddygiad yn hyn yn ddiraddiad o'r mwyaf ar y Bwrdd hwn, yr hyn nas anghofir yn fuan. Dywedir fod yr hen Fwrdd wedi bwriadu diswyddo Mr Thomas, ond os oedd ganddynt ddigon o reswm dros wneyd hyny, fel y dywedent, pa ham, mewn gwirionedd, nas gwnaent hyny pan y cawsant gymmaint o flynyddau i benderfynu pa beth i wneyd ? Gan nas gwelodd yr hen Fwrdd yn glir, gan hyny, i wneyd y gwaith brwnt hwn, pa ham, yng ngwyneb pob rheswm a chwareu teg, y dylai y Bwrdd presennol gymmeryd y mater hwn mewn llaw ar y cychwyniad cyntaf, pan nad oedd y Bwrdd hwn wedi cael dim un prawf o gwbl o Mr Thomas, nac un athraw arall yng ngwasanaeth y Bwrdd ? Y mae rhai dynion mor fusnesgar ac mor llawn o'u dychymmygion ffol eu hunain, fel y gwnant ddyfeisio pob moddion i dwyllo a denu ereill i uno a'u cynghrair peryglus, yr hyn a'u harweinia o'r diwedd i sicrhau eu hamcan brwnt a gwarad- wyddus. Gyda phriodoldeb y gallwn waeddi, Arbed ni rhag ein cyfeillion." Y dwyf, syr, yr eiddocb, Llangwyryfon. CYFAILL.

CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN TEIFI.

CRICKET.

Advertising

THE VACANCY IN EAST CARMARTHENS…

Advertising

NOTES FROM CENTRAL CARDIGANSHIRE.

Advertising

TRADE REPORT.