Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

19 articles on this Page

DREFACH, LLANGELER, A'R GYM-MYDOGAETH.-

News
Cite
Share

DREFACH, LLANGELER, A'R GYM- MYDOGAETH. At Olygydd Y JOURNAL. MR. GOL.A fyddwch chwi mor garedig a chaniatau i mi i wneyd sylw neu ddau ar yr ysgrif a ymddangosodd yn eich newyddiadur clodwiw yr wythnos cyn y diweddaf, dan y penawd uchod. Y mae yr awdwr wedi dangos cryn dipyn o fedrusrwydd a gallu i ysgrifenu, mae'n wir, ond ymddengyg nad yw yn gyfarwydd iawn a'r ardaloedd hyn eto-yn fasnachol na chrefyddol—neu ni fuasai byth yn breuddwydio fod Drefach yn ganol-bwynt yn yr ardal yma. Pe y dywedai felly am Felindre, buasai yn nes i'w le. Ond gadawn hyn heb sylw pellach arno, gan nad yw o gymmaint pwys. Y mae yn ei ysgrif lawer o sylwadau braf a theilwng, ond yn fy myw, nis gallaswn fyned heibio y sylw hwnw o'i eiddo pan yn dweyd nad yw ysbryd plaid a sect mor uchei ei ben yn yr ardaloedd hyn ag mewn llawer o fanau ereill ag y gwyddai am danynt;" ac hefyd, "nad oedd y cloddiau ffin yn uchel iawn" rhwng yr Eglwys a'r gwahanol enwadau. Gwarchod pawb A yw yn bosibl i ysbryd sect fod yn gryfach nag yw yn yr ardaloedd hyn ? neu a allai cloddiau ffin gael eu hadeiladu yn uwch mewn unrhyw fan yng Nghymru nag ydyw yn yr ardaloedd hyn ? Na, y mae hyny yn eithaf amlwg i'r lleiaf craffus. Nid oes eisieu myned yn ol ym mhell cyn y gellir gwrthbrofi hyny yn rhwydd. Cyfeirio yr wyf yn awr at auction ddegwm Bob, pryd y gwelir cannoedd o'r gwehyddion yn rhedeg i fyny ar ol clywed caniad "penny whistle" rhyfel y degwm, ac yn cael eu blaenori gan Boxer," i ymladd yn erbyn yr awdurdodau, gan arddangos yr un ysbryd ag eiddo yr ail Fedyddwyr hyny yn Germani o dan arweiniad Monzr a Grebel, y rhai a ddywedent mai eiddo yr Arglwydd y ddaiar a'i chyflawnder, a ninnau ydyw ei blant Ef felly y gellir dweyd am Bob a "Boxer," eu bod fel dau general yn arwain eu byddinoedd, ac yn gweryri fel meirch rhyfel, yn sathru dan draed unrhyw egwyddor na fydd yn cydfyned a'u hystranciau sectyddol hwy eu hunain. Cymmerer er enghraiffit yr arwerthiant am y degwm yn Tynewydd, Closygraig. Gwerthwyd yn rheolaidd yno, a phrynwyd yn onest gan barti arall; ond pan ddaeth i glustiau gwyr a gwragedd "Shôn 6 r5 6 Gorff" fod yr hwn a brynodd yn cymmeryd ymaith yr hyn a brynwyd ganddo, hwy a godasant o'u gwelyau yn fintai fawr, yn cael eu blaenori gan gorach, i rwystro y perchenog 6 Z5 i gymmeryd ei eiddo ymaith. Pa beth yw yr achos o hyn, tybed ? ai onid gelyniaeth at yr Eglwys ydyw 1 Ie, yn ddiammheu, a diolch am ryw glawdd ffin ag sydd hyd yn hyn yn ddigon ucbel i'w rhwystro rhag gwneyd yr Eglwys yn garnedd dan eu traed. Ond teg yw dweyd fod eithriadau bendigedic, i'w cael yn perthyn i'r "Codl" yn y fan hon ag sydd yn teilyngu ein hedmygedd, a diolch am hyny, onid e buasai crefydd mewn cyflwr isel iawn ganddynt, o herwydd gwleidyddiaeth yw eu prif nod. Hefyd, gyda llaw, priodol fuasai dweyd na feiddia yr un Eglwyswr, nag unrhyw un arall serch hyny, os na fydd yn perthyn i'r Corff," ofyn am dy i fyw yn ardal eu capel. Ewch wedi hyny yn nes i lawr gyda'r afon y sonia" Meiros" am dani, i'r Drefach, a chwi a'u cewch fel haid o gacwn yn barod i frathu y neb na fydd wedi ei dynu drwy bwll y rhod; ac os dygwydd i fab neu ferch i ymuno mewn glan briodas ag un o fobl y dwr, er ei fod wedi ei fedyddio cyn hyny, bydd raid ei ail fedyddio dros ei ben, onid e ni bydd heddwch yn y teulu, ac ni fydd yntau chwaith yn gadwedig. Onid yw y clawdd ffin yn dra uchel felly ? Mi a dybiaf ei fod, beth bynag, a pha fwyaf y sylwa Meiros," mwyaf amlwg y gwel efe hyny.— Yr eiddocb, GLAS LANC.

PENCADER.

EMYNAU YR EGLWYS.

Advertising

THE MAGAZINES.

PEMBROKESHIRE JOINT EDUCATION…

MID-DURHAM ELECTION.

Advertising

[No title]

THE CHURCH AT PENDINE.

A CURIOUS OLD JUG.

TRADE REPORT.

Advertising

DEATH - OF MR DAVID DAVIES,…

Advertising

NARBERTH COUNTY COURT.

LLOYD'S BANK.

Advertising

THE A-NLTI-TITFIE AGITATION…