Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
YMRESTRWCII ! YMRESTRWCH !…
YMRESTRWCII YMRESTRWCH AT HOLL DDEILIAID TAI NEU DIR CEID- WADOL AC UNDEBOL —TREFOL NEU SIROL DDALIADOL. Erfynir ar i holl ddeiliaid U ndebal Tai neu Dir, ac Ymlettywyr (lodgers) a feddont hawl i gael eu rhestru fel etholwyr seneddol, y rhai 5 sydd eto heb gael en rhestru a holl etholwyr deilia(lol (Occupation Electors) y sydd wedi symmud ar y 15fed o Orphenaf, 1889, hysbysu yr Agents Ceidwadol lleol ar unwaith, gan roddi cyflawn fanylion o'u cymhwysder, fel y gallo rhybudd gad ei roddi i'r Overseers. 0 Ar y laf o Awst cyhoedda yr Overseers gyfres newydd o Ddeiliaid (Occupiers), ac os byddo deiliaid a hawl ganddynt i gael en rhestru wedi eu gadael allan o'r gyfres hono, rhaid gweinyddu hawliau erbyn yr 20fed o Awst. Dylai yr holl Ddeiliaid, pa un ai hen ai newydd, ymholi a ydyw eu henwau ar y gyfres hono. Ennillir cyfleusdra mawr trwy i Ddeiliaid gael dodi eu henwau ar y gyfres ddeiliadol cyn iddi gael ei chyhoeddi yn nyffyg hyny, rhaid gwneyd hawliau, a bydd raid i'r hawlwyr ymbresennoli yng Nghwrtiau yr Arolygwyr (Revision Courts). Erfynir ar i Etholwyr Perchenogaethol a feddont hawl i fod ar y Gyfres Ddeiliadol edrych fod eu henwau wedi eu gosod ar y tD gyfres hono hefyd; yn niflyg hyn, ni restrir hwynt i bleidleisia mewn Etholiadau Cynghor- au Sirol. Gellir cael cytlawn fanylion o'r gwahanol gymhwysderau er cael ymrestru, neu unrhyw gynnorthwy mewn gwneuthur hawliau, gan Z3 Z!1 unrhyw rai o'r Agents Ceidwadol Ileol, neu gan Mr E. H. Davies, 6, New street, Aberystwyth (sir Aberteiti) Mr. Evan Jones, Tyssul Castle, Llandyssil (sir Gaerfyrddin) a Colonel Esmonde White, Haverfordwest (dros sir Benfro).
COLLI NEU YNTE ENNILL TIR…
COLLI NEU YNTE ENNILL TIR A WNA YR EGLWYS YNG NGHYMRU. Mater o ddyddordeb arbenig i bob Eg- Iwyswr, ac yn wir i bob Cymro o ran hyny ydyw, ai colli ynte ennill tir a wna yr Eglwys yn y Dywysogaeth. o herwydd credwn fod tynged Cymru i fesur tra helaeth yn dibynu ar hyny. Fel y dengys hanesiaeth ein gwlad, mae yr Eglwys wedi chwareu rhan Z7, zn bwysig, a rhall bwysig iawn, yn ein dadblygiad cenedlaethol hyd yn hyn, ac nid all y gwladweinydd anwybyddu gallu mor gryf a hi ar hyn o bryd. Ammheuwn yn fawr a fyddem ym mhell o'n lie pe dywedwn fod yr Eglwys ar hyn o bryd yn effeithio invvy ar feddwl y genedl na,r en wadau Ymneillduol gyda'u gilydd. Nid ydym am foment yn dweyd fod nifer ei hymlynwyr a'i mynychwyr yn fwy, neu yn agos cymmaint, ag eiddo y capel. Er hyny, y mae hi wedi ei chydwau mewn amrywiol ffyrdd a'n cyrumeriad ac a'n hamgylchiadan cenedlaethol, fel y mae ei ,y dylanwad yn fwy nag y tybir ei fod yn gyffredin. Mae ei chyfoetli mawr, dysgeid- iaeth a diwylliant ei hoffeiriaid a'i lleygwyr, y gwasanaeth a rydd i'r wind mewn cynnifer o amrywiol ddulliau a moddau, ac yn bendifaddef y cymhwysder a fedd i brofi yn wasanaethgar i bob dosparth o'r boblogaeth— tnae hyn oil, meddwn, wedi profi yn fanteisiol iddi, ac yn gwneyd hyny hyd eto. Nid ydym ni erioed wedi ceisio gwadu na chelu gwasanaeth Anghydffurfiaeth i Gymru ac i'r Eglwys hefyd, ond pell ydym o feddwl er hyny fod Rhagluniaeth wedi amcanu i Ang- hydffurfiaeth fod yn ddim amgen na thros amser. Nis gall Anghydffurfiaeth fodoli ond am gyfnod neillduol, o herwydd ni wna ddim yn amgen na phwysleisio rhyw wirioneddau arbenig mewn Cristionogaeth. Nid ydym 0 Z5 wedi teimlo erioed i air y gwirionedd gael ei "iawn-ranu" ym mhwlpud Ymneillduol Cymru. Ac nid oes ond un o ddau beth am dani-naill ai i'r genedl yn raddol ymoleddu yn ol yng nghyfeiriad yr Eglwys, neu iddi < droi yn anffyddol a cholli pob bias ar wirion- eddau crefydd. Nid yw yn annichon i'r genedl Gymreig, drwy help y dylanwadan 5 n sydd yn gweithio arni ac ynddi yn bresennol, t3 yn ogystal a'r rhai a ddichon amgylchiadau 11 y esgor arnynt mewn amser a ddaw, gael ei hanffyddoli i'r un mesur ag y mae Ffrainc a'r Almaen ar hyn o bryd. Nis gallwn ragweled dim yn y cyfeiriad yna. Ar byn o bryd meddir nifer gryf i feddwl a chredu fod Cymru, yn neilidtiol yn ei pharthau mwyaf poblog, yn gogwyddo at yr Eglwys. Os felly, mae ei pharthau wJedig i ddilyn, o herwydd amlwg yw fod y dref yn llywodraethu meddwl y wlad ar hyn o bryd. Nid rhyfedd genym, gan hyny, gael ar ddeall fod Esgob Llanelwy, l',3 "I zn a sylwedyddion craffus ereill, yn credu mewn cyffelyb fodd. Dywedir i'r Esgob, mewn 6 ymddyddan a fn rhyngddo yn ddiweddar ag un y 6 zn o gynnrychiolwyr newyddiadur o Ogledd Cymru, ddatgan ei farn yn ddifloesgni ar y mater, a gwneyd sylwadau i'r perwyl a ganlyn :—Maentumiai fod Ymneillduaeth yn colli ei gnfael ar y bobl yng Nghymru, ac y seiliai ei dyb ar ystadegau Metliodistiaid Calfinaidd. 0 barthed i lwyddiant yr Eglwys, n teimlai yn avgyhoeddedig y gwnaethai gyn- n n zn nydd rhyfeddol a pharhaol yn ystod y pymtheg b mlynedd diweddaf. Mynegodd ei arglwydd- iaeth am esamplau neillduol o'i II wyddiant mewn manau poblog fel Aberdar, Llanelli, Abertawe, Croesoswallt, a Gwrecsam. Am- mheuai mewn modd cryf a wnaethai yr Eglwys crioed gymmaint o gynnydd ag yn Nyffryn y Rhondda ac yn Abertawe a'r gym- mydogaeth, gan gyfeirio at y cyhuddiadau 1-11 tY fod yr Eglwys wedi ac yn defnyddio moddion annheg i broselytio Ymneillduwyr, dywedodd ei arglwyddiaeth eu bod, cyn belled ag yr elai ei wybodaeth ef, yn hollol ddisail. Yr oedd y bob! dlodion, meddai, yn myned i'r Eglwys yn hytrach nag i'r capel, am y teimlent yn gartrefol ynddi. Nid oedd raid iddynt yno dalu am seddau ac os yn analluog i roddi dim yn y casgliad, ni chroesid allan eu henwau oddi ar restr yr aelodau. Siaradodd ei arglwyddiaeth yn galonogol hefyd am gy- hoeddiadau Gymraeg yr Eglwys. (ran nad pa beth a ddywed Mr Gee yn wahanol yn y Faner, a chan nad pa faint o wrthwynebiad a ddengys i ystadegau a chasgliadau rhesymegol yr Esgob o Lanelwy, ni a gredwn yn gydwybodol fod perchenog y cyfeiliorui, ac na wna ond taflu Ilweli i lygaid ei ddarllenwyr, a mwy na hyny, bod dau o bob pump o'i ddarllenwyr deallus yn credu yn wahanol i'r hyn ag y myn efe iddynt gredu.
Family Notices
Prydnawn dydd Sul diweddaf, bu farw Mr. David Davies, Llandinalll, cyn-aeloed seneddol dros sir Aberteiti.
CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN TEIFI.
CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN TEIFI. Cadwgan-Os ydym i farnu oddi wrth arwyddion yr amserau, y mae yn debyg fod Radicaliaid Sosialaidd Cymru a Lloegr a'u holl egni yn ceisio adfywio yr hen ysgcrbwd y Jacobiniaid, oedd mewn bri yn Ffrainc gan mlynedd yn ol; ac nid yw y clybiau a'r cynghreiriau sydd yn cael eu cynnal y dydd- iau yma ond efclychiad o'r clybian oedd yn bodoli trwy y wlad annedwydd hono; a ter- fynodd y clybiau Jacobinaidd yn Ffrainc mewn gwrthryfel a chwyldroad creulawn —chwyl- droad na cheir hanes am ei fath ar dudalenau hanesyddiaeth. Y peth cyntaf a wnaeth- pwyd oedd alltudio crefydd o'r wlad a gosod dnwies rheswni i fyny yn ei lie ym mherson menyw anniwair. Lladdwyd goreuon Ffrainc, ac yr oedd eu gwaed yn llanw cwteri Paris. Yr oedd y guillotine yn mygu o waed dynol am fisoedd. I wan—Gobeithio nad wyt ti yn meddwl am foment y bydd i'r Cymry, y genedl fwyaf grefyddol dan haul y nef, fyned i'r fath eith- afion a hyn. Gwilym—-Mae hyny yn ammheus. Y mae un peth yn ddigon amlwg, en bod yn n Z3 ny ymgyfathrachu, yn pleidio y personau sydd yn barod i gyflawnu creulonderau a galanas Z3 Paris; dynion sydd yn pleidio gwrthryfel, gelynion trefn mewn Llan a Ilys, cablwyr urddas, ser gwibiog, cymylau diddwfr, sydd am ddadymcliwelyd cymdeithas i droi y byd a'i wyneb i waered. Fel y dywedodd yr enwog Macauley, mae y Radicaliaid yn wastad yn codi gormod o hwyliau, ac oni bnasai fod y Ceidwadwyr yn cadw digon o bwysan yn y gwaelod, buasai i'w Hong droi a'i gwyneb i waered mown byr amser. Mae gan y Radi- caliaid ysgragyddol Cymru ormod o wynt yn eu hwyliau, a dim ballast yn y gwaelod. Ifor- Y mae yn dda genyf weled fod y dadgyssylltwyr yn bwriadu i'r degwm fyned n Z3 i'r tlodion, ac at addysg y bobl, ar ol dad- gyssylltu yr Eglwys. Beth ddaw or offeiriaid y pryd liwnw ? hyd gwael fydd byd llawer o honynt pan eu gorfodir i fyw heb ddegwm. ;Idd-Ni,, gall llawer o'r offeiriaid fod yn waeth eu byd nag ydyw yn awr. Yr ydych yn gwneyd yr hyn a ellwch i'w newynu trwy wrthod tain eich dyledion cyfreitldawn. A wyt ti yn galw y fath weithredoedd a hyn yn Cristionogaeth ? Os dyma y fath Gristion- ogaeth ydyw Cristionogaeth Ymneillduwyr Cymru, y netoedd a'n gwaredo rhagddi. Mor us—Ar beth mac yr offeiriaid yn byw ond ar y degwm? A wyt ti yn gwelcd yn 0 ZD deg a rhesymol fod y wlad yn cadw y zn personiaid hyn yn segur ? Z3 llywel—Yr ydych yn barhans yn haeru mai yr Eglwys sydd yn crafangu y degwm i n 6 ZD gyd. Dim o'r fath beth mae y lleygwyr yn dal degymau yn eu dwylaw eu hunain. I'r ,,y Eglwys yr oedd y degwm yn pertbyn ar y dechreu, ond cafodd ei werthu a'i ysbeilio oddi ar yr Eglwys. Gall y sawl a fyn ei brynu a'i werthu ac yn ol pob hanes, mae llawer o'r gwrthddegymwyr yn berchen degwm. Gall y Radical mwyaf poeth a ddeorwyd ar domenau Radicaliaeth fod yn berchen ar y degwm, os gall ei brynu. Dewi-Eiddo cenedlaethol yw y degwm, a dylai gael ei ddefnyddio fel y gwel y genedl yn oreu. Nid oes dim un hanes fod yr Ymneillduwyr wedi cael dim un geiniog o'r degwm. Pa ham na allwn ni, yr Ymneill- duwyr, gael ambell i friwsionyn oddi ar fyrddau yr* Eglwys ? Cadwgan — Chwennychodd brenin Israel winllan ci gymrnydog diniwaid, a lladdodd ef er mwyn meddiannu ei winllan. Yr ydych yn chwennych cael y degwm, a yr ydych am tlynyddoedd yn chwennych cael y gwaddol- iadau; ond yn awr am ladd yr offeiriaid, a thynu yr Eglwys i lawr yn gydwastad a'r llawr. Nid oes dim terfynau ar elyniaeth yr Ymneillduwyr tuag at yr Eglwys. Nid oes dim Efengyl lie mae gelyniaeth barhaus yn hanfodi dim un mymryn o Gristionogaeth. IlIJan-Pa hawl a pha sail sydd genyt dros wneyd y fath haeriad ? Gwilym—Y mae eich gweitiji-edoedd yii eich barnu. Yr oedd Dewi yn dywedyd nad oedd yr Ymneillduwyr erioed wedi derbyn yr un geiniog o'r degwm. Onid yw yn ffaith hanesyddol fod rhan o waddoliadau y Ladi Hewley i'r Ymneillduwyr yn cael ei dalu allan o'r degwm ? Bu y mater hwn o flaen llys y sianseri am hir amser. J for-—Yr wyf wedi clywed a darllen yn yr hen Ser en Govier am elusenau y Ladi Hewley pwy oedd hi 1 Gruffydd—Ymneilldues gyfoethog a adaw- zn ZD odd swm fawr o arian i waddoli yr Ymneill- dnwyr uniawngred; hawliodd yr CJndodwyr ran o'r gwaddoliadau. Yr oedd yr Ymneill- n duwyr ereill yn gwadu fod y Sosiniaid yn uniawngred ac yn iach yn y ffydd; bu llawer o ymgyfreithio ac ymgroesi rhwng yr Undodwyr ag enwadau ereill. Ifywel-Mac cyfnewidiad aruthrol wedi cymmeryd lie yn y blynyddoedd diweddaf yma. Mae yr Ymneillduwyr uniawngred, fel yr oeddynt yn galw eu hunain, a'r Undodwyr C, yn awr yn gyfeillion. Pilat a Herod wedi ymgyplysu yng nghyd yn erbyn yr Eglwys, ac yn galw eu hunain yn frodyr. Cadwgan—Oes, mae cyfnewidiadau mawrion wedi cymmeryd lie yn Neheudir Cymru yn ddiweddar. Yr wyf yn gweled fod y clybiau Radicalaidd yn myned i daflu iau Mr Gladstone ymaith yn gyfangwbl ac mae y Gwyddelod Cymreig yn bygwth ymneillduo a phcidio pleidio y Gladstoniaid mwyach. OR cymmer hyn le. Cyhuddir arwr mawr Penarlag a'i ganlynwyr gan y deg ar hugaino aelodau Cymru, neu y Blaid Gymreig, fel maent yn galw en hunain, am na wnaiff ef ddiwaddoli y Pat-cliedig Stephen Gladstone o fywoliaeth fras a chyfoethog llawardcn. Gruffydd—Y mac Radicaliaid Cymru mor ansefydlog a dwfr, ac mor gyfnewidiol a cheiliog y gwynt ar ben Twr y Dderi. Mr. Gladstone oedd pob peth ychydig amser yn ol; nid oedd dim o'i fath fel cyllidwr a gwleid- yddwr ac yr oeddynt yn talu dyn-addoliad iddo fel creadur meidrol Ito(t)t-Y mae yn gywilyddus meddwl fod yr offeiriaid yn cael en dyoddef i werthu meddiannau y fiermwyr am y degwm. Y mae hyn yn orthrymder mawr, ac yn groes i'r Ysgrythyr. n lIVlCel- Y mae yn groes i gjfraith y Beibl a chyfreithiau y tir i ddynion, pan maent yn gallu, i wrthod talu eu dyledion. Nid yr offeiriaid yn unig sydd yn gorfod appelio at y I n gyfraith i orfodi ffermwyr anonest i dalu eu degymau.
YR EGLWYS A'l CUYNNYDD HONEDIG.
YR EGLWYS A'l CUYNNYDD HONEDIG. AT "Ap FYCHAN." Syii,-Os nad wyf wedi eich anerch yn gywir wi-tit ddweyd "syr" yn hytrach na "pharchedig syr," maddeuweh i mi ond hyn a wyddom, mai gweinidogion yr Efengyl sydd yn trwytho colofnau y newyddiaduron Sosialaidd Cymreig a'r sothach a'r celwyddau y dyddiau hyn 'ie, hwy sydd yn llanw eu colofnau a'u hysgrifau maleisus a drwg am yr Eglwys a'i hoffeiriaid -y drydedd ran o leiaf. Ond os ydych wedi eich graddio neu eich penodi yn esgob" gan eich sect, fel y cafodd y dyn o Dinbych gan Shon Gorff, a'r dyn o Whitland gan Independia Fawr, maddeuwch i mi eto am yr amryfusedd hwn o'iii heiddo. Fy anwybodaetli o honoch fel person ac nid yn fwriadol a berodd i mi eich anerch felly, yn hytrach na Fy arglwydd." Syr, yn y Faner am ddydd Mercher diweddaf (Gorphenaf 16fcd), sylwasoch nad oedd yr Eglwys yn ennill tir yng Nghymru, a n Z5 bod holl osodiadau anghywir y prelad sydd yn arghvyddiaethu ar esgobaeth Llanelwy, ond methiant truenus Mewn pa beth y mae ei chynnydd yn weledis ? Er cadarnhau Ap Fychan" fod yr Eglwys yn ennill tir, ac Ymneillduaeth mewn darfod- edigaeth cyflym, bydded iddo i dalu ymweliad ag Abertawe, Aberhonddu, Llanelli, Caerfyr- ddin, a lleoedd ertill. U gain mlynedd yn ol, yn Llanelli, yr oedd braidd yn beryglus i berson ddweyd mai Eglwyswr ydoedd. Beiddiaf ddweyd fod Eglwysyddiaeth yn Llan- elli yn cynnyddu mor gyflym ag yw'r holl enwadau yno gyda'u gilydd. CIY A wado hyn, aed a hi, A gwaded i'r haul godi." Dyna Abertawe eto; nid oes attalfa ar adeiladu Eglwysi newyddion yno; ac nid ydynt yn adeiladu Eglwysi yno cyn bod gwir angen a galwad am danynt. Nid felly gyda'r n n Z5 capeli; ond adeiladir hwy, mewn amrai leoedd, am fod rhyw split neu gilydd ym inhlith yr aelodau. Capeli split yw hanner capeli Cymru. Bydded i "Ap Fychan eto droi ei olygon at Gaerfyrddin. Gwir fod ynia gapeli eang a chostus; a chofus genym, ddeugain mlynedd yn ol, eu gweled yn orlawn o addolwyr. Yr oedd y torfeydd ar nos Suliau yn dyfod allan o honynt yn rhywbeth tu hwnt i ddesgrifiad. Nid felly y dyddiau hyn, am y gellir rhifo y bobl yn dyfod allan o honynt heb unrhyw drafferth. Ar y pwnc hwn bum ychydig ddyddiau yn ol yn siarad ag amrai o aelodau y capeli dan sylw, a dywedasant fod rhywbeth yn rhyfedd allan o le, a bod crefydd yn hynod o farwaidd yn eu plith. Y gauaf diweddaf, yng Nghaerfyiddin, e5 Z5 n cafodd yr Ymneillduwyr gyfarfodydd a al went yn "gyfarfodydd diwygiadol," a beth oedd y canlyniad ? Ni chawsant 1110'" un recruit; a throdd y cwbl allan yn fethiant hollol. Os, ar yr ochr arall, fel yr ydych yn honi, mai Ymneillduaeth sydd yn cynnyddu, a'r I "hen Estrones," ym meddrod pechod ac aflendid, yn myned yn gyflym gyda'r llifeiriant Darfodedigaeth, beth yw'r achos, Ap Fychan," fod yr Ymneillduwyr yn erbyn ac yn groes i gael cyfrifiad crefyddol awdurdodol ? Nid yw'r Eglwys yn ofni cyfrifiad teg a gonest, ac nid un wedi ei ddyfeisio yn ddirgelaidd yn Ninbych draw, er i hwnw droi allan yn crbyn y dyfeisydd ymladdgar. Gyda llaw, syr, a fyddwch chwi mor garedig a'm hysbysu pa beth sydd wedi achosi y cyn- hwrf presennol yng ngwersyll Ymneillduaeth zn 1-1 gyda golwg ar gynnydd a llwyddiant yr Eg- lwys yn ddiweddar yng Nghymru ? Ac heb n ZD son am un prawf pellach, ai nid yw mor eglur a'r haul ganol dydd fod y cyffro a'r anesmwyth- der a welir yrn mhlitli blaenoriaid yr Yrn- neillduwyr yn bresennol yn brawf digonol fod yr Hen Fam yn adnowyddu ei nerth fel yr eryr ? A feiddia Ap Fychan wadu nad yw hyn yn brawf digonol"? 0 barth ymddygiad y personau hyny yn perthyn i'r Eglwys a fu yn y gymmanfa ganu, n zY eu bod, wrth ddyfod adref, yn ymroddi i wasanaethu Belial," nid yw hyn ond clec plentynaidd. A ydym ni, fel Eglwyswyr, i feio yr Annibynwyr fel enwad am yr ymladd a'r golygfeydd cywilyddus a fu yn Hermon, Cynwyl, ychydig amser yn ol ? Neu ynte am y pethau gwarthus a ddygwyddodd ym Mhen- cader, ar nos Sul, wrth ddyfod o'r ysgol gan ? Na ato Duw. Nid ym yn abl i gario beichiau neb ar ein cefnau ond ein beichiau ein hunain. Mae hyn yn ddigon i bob un i'w wneuthur y dyddiau hyn. Er penderfynu y cwestiwn dan sylw, sef fod yr Eglwys yn llwyddo ynfl Nyhymru, rhoddaf her (challenge) i "Ap Fychan" i brofi yn am"en-naill ai trwy'r wasg, neu ynte ar blatform cyhoeddus. Heb ddigofaint na Hid, Yd wyf, etc., MYKDDINKAB. Caerfyrddin, Gor. 22, 1890.
Ii IYN Y TREN.
i YN Y TREN. Y mac beddyw yn ddiwrnod braf mae'r bin yn ddymunol; mae'r glaswellt glaswyrdd megys yn gwenu, a'r blodau fel pe yn ym- chwerthin, ac felly mae fy nghyd deitliwyi- maent yn eu hwyliau goreu, alhiaws o honynt yn ymgommio ar brif bynciau y dydd; ac felly rhai o't- pethau yna a gaiff' sylw fy ysgrifbin ar hyn o bryd. Mil GLADSTONE A DADGYSSYLLTIAD. Mac awydd mewn rhai dynion am wybod helyntion pawb a phobpeth ac os bydd vhyw arwr neillduol, nid oes diwedd ar eu beiddgm- wch er cael gwybod ei syniadau, ac nid ocs neb yn fwy felly am gad gwybod helyntion pobl na chwi, syr, golygwyr a pherchenogion newyddiaduron, ac ymddengys i mi inai un felly ydyw y boneddwr parchus, Mr Gee o Dinbych. Anfonodd lythyr at Mr Gladstone i ofyn ei farn gyda golwg ar Ddadgyssylltiad a n In Dadwaddoliad yr Eglwys yng Nghymru; ond yn ol atebiad yr hen wr, nid yw yn barod i gymmeryd y cwestiwn mewn llaw ar hyn o bryd, a digon tebyg genyf na wna efe hyny chwaith yn ystod yr hyn sydd yn ol o'i oes ar y ddaiar. Chwarcu teg i'r hen arwr, mae tipyn o synwyr yn ei ben (er ei fod eisoes wedi meddwi ar y cwestiwn Gwyddelig) er hyny, mae yn gweled yn ddigon anlLwg nad yw y wlad wedi aeddfedu i gvvestiwn y dadgys- sylltiad gael ei drin. Mae'n wir fod y political -s a'ti holl egni wrth y gwaith, ond nid ydyw mwyafrif y werin mor anwybodus ag y mynant hwy iddynt fod; ni wnaut gredu yr liyn oil a ddy wedaut. A YDYW DYLANWAD Y PWLPUD WKDI DAKFOI) ? nyda phriodoldeb y gellir dweyd fod dylan- wad daionus y pwljmd, i raddau helaeth, wedi methu ym niysg yr Ymneillduwyr; ond er hyny, yr ydym yn cyfaddef fod ganddo rhyw fath o ddylanwad. Yn amser John Elias, ChristIllas Evans, a Williams o'r Wein, yr oedd dylanwad daionus y pwlpud yn fawr iawn. Yr oedd miloedd o dan eu gweinidog- aeth yn ymofyn y ffordd tua Seion, a'u gwynebau tuag yno yr oedd rhvngddynt gariad brawdol yn bodoli, ac nid cynhenau ac ymrysonau. Ond yn awr, y mae dylanwad y pwlpud wedi cyfnewid i raddau helaeth y mae llawer a esgynant yno gan y gwahanol enwadau yn c-esio creu rhagfarn tui- "t v naill enwad at y llall. Clywsoni un bregeth neillduol felly gan weinidog Ymneillduol yr oedd yn o drwai ar yr hen Gorff, at- y Trefnyddion Wesleyaidd, ac ar yr Eglwys Sefydledig. Wei, ynte, mae gan y pwlpud Ymneillduol rvw ddylanwad oes yn siwr. Gwelwyd y dylanwad hwnw yn eglur iawn y ZD yng Ngogledd Cymru yn v cynhwrf gwrth- ddegymol felly hefyd yn sii, Aberteiti a rhanau o wlad Myrddin.Mae rhyw Hermon o le mewn llawer man o herwydd dylanwad y gau brophwyd sydd yn arfer siarad o'r arl,ithfit. Ond na feddylied y daillenydd mai felly yr ydym yn lliwio poh gweiuidog Ymneillduol na., yr ydym yn adwaen rhai gweinidogion gyda phob enwad ag yr ydym yn meddwl llawer o honynt fel dynion da, tangnefeddus, ac efengylaidd. Gyda bias a dyddordeb y darllena^on; ysgrif Y TJIA-PHAKCIIKDIG DDEOX LLANKLWY yn y Geninen ar "UYlllladludll yr Amwythig a Undeb Crefyddol yng Nghymru." Daw y Deon i lawr yn drwin ar y cynnadleddwyr am na fuasent yn rhoddi gwahoddiad i'r Eglwyswyr i ddyfod i'r gynnadledd. Yr ydym 0 11 yn cyduno ag ef vn hollol. Onid yr nn Duw sydd i fod i'r naill enwad fel y llall ac i'r Eglwys hefyd ? onid yr un Crist sydd gan Z3 Z!1 bawh i'w bregethu ? ac onid yr un alllCan 0 ddylai fed gan bawb mewn golwg ? Dyry yr zn I, 111) awdwr hefyd le amlwg i gat-iad brawdol yn ei y ysgrif, yr hyn, mewn gwirionedd, sydd o'r e3 zn pwys mwyaf. illte y byd yn edrych ar ladrad, godineb ac anlladrwydd fel rhyw bechodau gwaradwvddus; ac felly maent mewn gwirionedd ond am y pechod o anghariad brawdol, nid ydynt yn ei gyfrif yn ddim ond yn wir, os yw y naill bechod yn fwy ii;t ,i llall, yr olaf ydyw y mwyaf, gan mai chwant yr ysbryd ydyw. Mae Ymneillduwyr cisors yn declueu adolygu yr ysgrif alluog, ac y mae Lladmerydd yn lied drwm ar y Deon. Cyfaddefa y gwr galluog nad ydyw wedi gweled cyfeiriad ati yn y XoncouJ'ormidt. Diaminheu y teiuda Lladmerydd nad ydyw y Geninen yn worth i'w derbyn na'i darllen. Ond pa fodd y dysgwyliwn undeb crefyddol tra mae y blaenoriaid crefyddol y gwahanol enwadau yn ccisio chwythu tan cynlien ac anghydfodl Ond gwelont a fynont, llwyddo y •Via^jfcjtolwys, a llwyddo a wna hefyd yn y dyft^WT J PRIODAS H. M. STANLEY. Cymmerodd hyn le, fd y gwyr y mwyafrif o'n darllenwyr, yn hen Fynachlog Westminster, dydd Sadwrr. wythnos i'r diweddaf. Y rhai yn gwneyd y cwlwm priodasol oeddynt Arch- ddiacon Farrar ac Esgob Ripon. Yr oedd yr hen adeilad henafol yn orlawn o edrych wyr. Drwg genyf fod iechyd y priodfab nioi, wael n zn gobeithiaf y eaiff adferiad buan, fel byddo naill yn gysur ac yn ddyddanwch i'r llall. Dyma esampl o fachgen ieuanc yn meddu ar bender- fyniad o ddyfal-barhad. Bu unwaith yn hogyn tylawd yn nhlotty y plwyf yn sir Dinbych, ond heddyw y mae'r byd yn hannei ei adrloli-yn dylawd a chyfoethog, ac y mae wedi cael un o'r boneddigesau mwyaf urddasol yn gydmares bywyd iddo. Derbyniasant roddion priodasol o bob rhan o'r byd, ac yn eu plith luaws o lyfrau rhagorol a gwerthfawr, megys Tennyson's Works," Gladstone's y Gleanings," History of England," a "Shakespeare's Works." Derbyniasant o wahanol ranau o'r byd wahanol lyfrau yn traethu ar wahanol ganghenan gwybodaeth, ond ni dderbyniasant gyfrol o'r Ysgrythyr Lan o un man ond o Gymru. Noson cyn y briodas, pan oedd Morien ar ymweliad a theulu Miss Dorothy Tenant, dywedai ei brawd wrthi, Cotia ddangos i Morien y ]>eiblau." Gofynodd Morien iddi, Ai yn Gymraeg y maent?" "Nage, ond y mae genyf un Cymraeg i'w gael." Ym mysg ereill o Feiblau a dderbyniodd, anfonwyd un iddi an Y sgol Sabbothol a chenadol Green, Castell Nedd. Anfonodd lythvr i gydnabod ei dderbyniad, ac i ddiplch am dano, gan hysbysu iddynt y buasai iddi ei werthfawrogi drwy (i hoes, ac y bnasai yn ei gadw yn ei hystafell yn wastad. Gwelwn y caiff y Beibl ei le priodol yn y teulu yma, o blegid elywsoni oil yr hanesyn am ei plirio(I a'r Beibl. Cyn ei daith diweddaf i ganelbarth Affrica, anrlieg- wyd ef a Beibl, a phan ddaeth adref eleni yr oedd y Beibl ganddo, ond wedi ei ddarllen a'i astudio yn fanwl amryw weithiau. Cyn terfynu, nis gallaf bcidio llawenhau fod un sir yng Nghymru wedi gallu anrhegu y i n 11) n Barnwr Stephen a PIlAR 0 Fl FNYC, GWYNION, a hono ydoedd Ceredigion. Well done, y Caidis. Byddwch fyw yn onest ac heddychol eto yn y dyfodol. Dyna y tro cyntaf i'r Barnwr Stephen i fod yn Llanbedr-Pont-Stephan, ac mac'n debyg ei fod wedi cael ei foddhan yn fawr yn eu trefniadau ar ei gyfer. Ond ym- ddengys i mi fod y dref yn hawlio cael gwell gors if gan gwmni y Manchester and Milford nag sydd yno yn bresennol mae yr adeilad yn hynod annheilwng o'r dref.—ANULUS.
TREGROES, LLANDYSSI L.
TREGROES, LLANDYSSI L. Dydd Mercher, yr wythnos ddiweddaf, cym- merodd amgylchiad lied ddigrif le gyda ni: yma, yn ein pentref bychan. Mewn lie or enw Tannerdy, y mae hen wraig yn byw, yr hon sydd dipyn yn analluog, ac o ganlyniad yn methu myned oddi cartref ond ychydig, Sul na gwyl. Ar y noswaith a enwyd, gwelsom ddau weinidog yr Efengyl (1) yn n Z!1 cyfeirio en camriln tua thy yr hen wreignn. Cymmerasomni, creaduriaid difeddwl y pentrd, ar unwaith yn ganiataol mai myned i gynnal cyfarfod gwcddi at yr hen chwaer fethiedig oe Id y gwyr a'r cotiau hirion, am ei bod yn afi teli, ond yn fwyaf neillduol am ei bod hi yn byw me'vn amgylchiadau cysurus, a bytli yn anghofio arian y weinidogaeth ar hen y chwarier. Yn naturiol, v cwestiwn a efynid ga,n y naill i'r Ihll 0 hORom oedd, "A y'ch chwi'u myn'd i'r cwrdd?"' ''0 ie,dyna sy oreu," oedd yr atebiad, "am fod cwrdd gweddi fan hyn yn drws cat-ti-e. iiiae'ii (,,is i iii b(,-idio myn'd." Cymmerodd yr ymddyddan uchod le mewn ychydig eiliadau, canys rhaid oedd gwneyd brys. Rlwdais heb golli amser i newid fy nghot a golchi fy nwylaw a rhedodd Shani i roi bwyd i'r mochyn canys dywedai na wnai gweddi lanw bola'r mochyn, ac wrth redeg, fel y deallais ar ol hyny, holltodd un o'i chlocs. Aethom wcdyn ein dau gyda'n gilydd, ac wrth fyn'd, dywedodd Shani ei bod hi yn ddigon cloi—dyco dri neu bedwar with lidiard y Felin. Erbyn myn'd ym mlaen hyd atynt, gofynais, Ydych chwi'n dod i'r cwrdd gweddi." "Pwygwrdd gweddi ?" "ITannerdy, wrth gwrs," ddywedais innau. Gyda hyn, torodd dau nen dri o honynt allan i chwerthin, pryd y gofynais, beth sy'n bod? Wei, a dweyd y gwir, meddai un o honynt, fe ddaethora ninnau hyd y fan hon gan feddwl mai cwrdd gweddi oedd yna; ond pan welsom IV, illiani Fronwen a Tomos Rhiwlug yn troi mewn, nis gallem lai na drwgdybio amcan a cymmeriad y cwrdd, mor belled oedd a fyno a gweddio; canys anaml y gwel neb UIl or ddau lane yna yn mynychu cyfarfodydd gweddi. Politics sy ar y 'menydd o, dt nllw- mae yn well ganddynt bolitics na phryd o fwyd, am wn i. Yna troisom yn ol, ac aeth pob un i'w ffordd, a dyna pryd y daeth Shani i wybod am anffawd y glocsen. AYedi cyrhaeddyd fy nghaban, nis gitllwll lai na ch werlihin am fy ffolineb, yn meddwl mai cenadwri Duw oedd gan y ddwy got hir. Dylaswn, 'rwy'n cyfaddef, wybod fod mwv o swyn yn cnw Gladstone i'r pregethwyrs nag sydd mewn Duwdod. n 6 Ond odid y gwelid Mr Phillips, Horeb, Trindodwr n'awr. a Mr Davies y Graig, Undodwr cryf, yn dod g'yda'u gilydd law yn llaw fel brodyr mor belled a Tregroes, oni bai mai yr un amcan oedd mewn golwg ganddynt Z5 Z7. n -sef yiiiladd a'r Eglwys, gyda chynnorthwy y ddan wrthddegymwyr a, enwais yn barod. Yr un ydyw gelyn ftiaidd y pedwar, sef yr Eglwys a'i gwaddol. Nis gwn a fu y pedwar yn pwnio arni gyda'u gilydd, iieu ytite At- 'nail. Cwrdd lecsiwnydda oedd y cwnld, heb son am un weddi. Yn wir, fe leicswn weled Phillips wedi torchi llewys ei grys yn boxo'r Eglwys; buasai yn well gyda ti dalu dau swllt aiii Ityiiy, iia ti),tlti swllt iiii wel'd Wombell neu circus Bailey. Yr wyf yn nedn, fel yr ysgrifenais y tro diweddaf (pan yn rhoi braslun o gyfarfod Horcb), fod pregethu yr Efengyl wedi myn'd yn beth l'hy sych a diflas i Mr Phillips fod enwau Gladstone yr Ymreolwr, Bradlaugh yr Anffyddwr, a Pharnel y Pabydd yn fwy swynol, ac yn cyfranu niwy o fwynhad i'w cnaid Drindod Sanctaidd. Fe allai mai oddi wrth y tii blaenaf y dysgwylia am ymwared a chynnorthwy. Am Mr Davies yr UndodA-r, ttdjyg mai oddi wrth Mr Gladstone ei hun y dysgwylia efe am iachawdwriaeth. Beth bynag, nid gwr i gredu mewn tri yw hwn. Mae yn rhaid i Gladstone yn o fuan addaw Dadgyssylltiad, neu fe gyll y black agents yma a'r cwtwsau hirion bob jack o honynt. Yr ym ni, pobl Tregroes, yn credu taw cisieu y degwm sydd ar y pregethwyrs yma, neu ni fuasent yn rhedeg o fan i fan bron tori eu gwynt i felldithio yr Eglwys, ac i arllwys eu c llysnafedd gwenwynllyd ar eu gweinidogion. Rhyfedd y gwahaniaeth sydd rhwng yr offeiriaid a'r pregethwyrs. Y mae'r ofteiriaid yn byw yn llonydd ac yn heddychol, heb ddywcyd gair bron un amser yn ammharclius ac yn anfoneddigaidd am y pregethwyr. Pa fodd mae cyfrif am hyn ? INIae i'w briodoli, ni a gredwn, i well dygiad i fyny. Tra ar yr ochr arall, mae'r pregethwyr (gydag ychydig eithriadau) fel haid o seirff a'u colynau marwol yn ymosod ar yr offeiriaid a'r Eglwys a'i gwaddol Sul a gwyl—mewn aitiset- ac allan 11 ZD o amser, gan annog y bobl i beidio talu eu dyledion, yn enwedig y degwm hwn yw ysglyfaeth y Jacks. Pa heth yw y i-lieswiii ynte fod cymmaint o honynt ym mhob cyfarfod Radicalaidd ac arwerthiadau am dkgwm? Oni tai mai am estyn eu pawenau at y degwm y maent ? Pc cynnygiai y gwrthddegymwyr o Fronwen a Rhiwlug eu zY degwm (os gallant wneyd hyny), gobeithio mai nid prinder arian sydd yn eu rhwystro i dalu'r degwm am y flwyddyn ddiweddaf. Ond gan nad beth am hyny, beth pe cynnyg- ient y cyfryw i Phillips, Horeb, tybcd fod ganddo ddigon o ras attaliol i wrthod ei gymmeryd'? Mae Shani, medde hi, yn barod i ffbt-ffedioyr hen glocsen holltodd wrth roi bwyd i'r uiochyn, y gwnai. Am Davies y Graig, dibrofiad ydyw ef barnwn y derbyniai gardod oddi wrth yr hen Estrones yn llaweti. e O'K SIOMEDIGIOX.
| LLANGADOCK.
LLANGADOCK. AtOlyyydd Y JOURNAL. Syit,-Wi-tli ddarllen rhai rhanau o'r JOURNAL o bryd i'w gilydd, \r wyf yn eanfod ynddo rai brawddegau sydd yn rÍlY anhawdd i ni, yn yr ardal yma, allu eu bwyta. Felly, yr wyf yn anturio i nodi un neu ddau o honynt; ond nid wyf trwy hyny yn chwennych codi dadl ac ymeeeru, ar faes y JOURNAL, a neb pwy bynag, ond yn unig gael yclrwaneg o oleuiii ar y mater, os y w hyny. v-Vvoosi!>1 cinys nid gwaeth gwir o'i ail \J' yn J t) v un peth, dywed rhyvvun fod yr ]\i,,«-fadau wetti dyfod i feddiant pawb trwy un o dair ffordd, sef et-ifeddiaeth, prynu, neu briodas," a bod yr boll dirocdll wedi cad en "rllülldi ar y dechreu gan y brenin am wasanaeth milwrol." Yr ydwyf yn cydnabod fod llawer o wir yn yr byn-yna, ond nid yr boll wir, fel y gwnaf gi'ybwydl o bosibl yn lies yn y blaen. Ond y peth mwyaf tywyll i mi yw, Pa f> dd y daeth y cyfryw fronin yn ar y tirocdd? beth oedd ei enw ? ym mha wlad a plw. ganrif oedd yn byw ? a pha faint oedd eangder ei deyrnas ar yr adeg hono ? Beth oedd enwau y personau gafodd y cyfryw ystadau ? pa nifer o erwau a gafodd pob iiii ? a pha wrhydri a gyflawnodd y cyfryw bcrsouau < Yr ydym ni yma yn dal yn gadarn at yr hanes Feiblaidd. I Pan elom i (ldarllen hanes boreu oes y byd, j nid oes yno air o son fod neb yn perchenogi y ddaiar mwy na u gilydd. Yr ydym yn cael fod Adda wedi cael ei osod gan Dduw ei Hun i nrglwyddiaethu ar hob petll byw, aï fOll wedi byw dros naw cant o fiynyddoedd ond nid oes hanes iddo roddi na gwerthu lied n troed i neb, ond gadael pawb i gad yr un chwareu teg ag yntau. Deuwn eto i amser Noc dystawrwydd sydd ynHt eto. Ond yr ydym yn cael fod Noe a'i feibiou wedi cad yr un siars a gafodd Adda ar y dechreu, sef ffrwythwch ac amlhewch, a llenwch y ddaiar, a darostyngweh hi," itc. Deuwn eto i amser Abraham, "ymdeithvdd" oedd ef hyd yn nod yngngwlad Canaan, Gwlad yr Addewid, 11 zn yr hon oedd Duw wedi addaw iddo ef a'i had yn dragywydd ond nid oes hanes iddo ef na'i blant feddiannu lied troed o honi, ond yr hyn a brynodd gan pobl y tir," sef ogof Maes n Z3 Machpela gan Ephron yr Hethiad, yn lie beddrod iddo ef a'i deulu. Felly, y mae yn amlwg ddigon mai y bobl gyntaf a boblogodd y wlad oedd perchen y ddaiar nesaf at yr Aiglwydd, o herwydd yr ydym yn cael mai yr Arglwydd bia y ddaiar a'r anifeiliaid 1-1 ar til o fynyddoedd." Yn amser Jacob a'i feibion, yr ydym yn cael eu bod yn teithio degau o filltiroedd a'u hanifeiliaid i bori i rywlc, lie y gallant gael porfa iddynt, ac nid C) z5 oedd hyny yn waharddedig iddynt, hyd yn nod gan "pobl y tir," o herwydd yr ydym yn cael fod Hemor a Sichem ei fab yn dweyd mai "gwyr heddychol ynt hwy gyda ni trigant hwythau yn y wlad a gwnant eu negesau ynddi, a'r wlad, sydd ddigon eang iddynt," ifcc. Eto, yr ydym yn cael fod yr Arglwydd wedi rhoddi y "ddaiar i feibion dynion," nid i unrhyw frenin, na'i feibion chwaith, ond i feibion dynion," sef i'r hil ddynol yn gyffrcdinol. Ond heb fyncd i fanylu ym mhellach, deuwn at amser mwy diweddar, i gael gweled pa faint o onestrwydd oedd yn y brenin yn rhoddi yr ystadau am wasanaeth milwrol. Wrth ddarllen hanes y gwahanol frwydrau, yr ydym yn cael fod miloedd o Gymry dewrion wedi bod yn ymladd ,t ii holl egni er mwyn ennill y cyfryw frwydrau, ond dim ond rhyw un oedd yn cael ei dalu yn anrhydeddus trwy roddi ystad helaeth iddo, a gosod rhwyni-ddisgyniad n y -1 (entail) yng nglyn a hyny, fel byddo yi un hwnw a'i olynydd yn sicr o fod yn bleidiol i'r brenin. Ond nid oes hanes fod y milwyr eylfredin, pa rai oedd wedi dyoddef pwys a gwies y dydd, i gael braidd i ddim. Os buasai rliai o honynt wedi cael eu clwyfo, fel nas gallasent fod yn tilwyr galluog rhagblaen, yr oeddynt i gael eu troi o'r neilldu, a rhoddi ychydig geiniogau yn y dydd iddynt tra byddent byw, i gael eu newynu bob yn ychydig felly; tra yr oedd y gwr oedd wedi cael yr ystad yn cael ei ryddhau, i fyned i fwynhau yr ystad a gafodd, a gwerthu ei swydd i ryvrun arall hwyrach, am y geiniog uwchaf, pa, un bynag a fuasai hwnw yn un pronadol neu peidio, dim ond fod ganddo rai ganueedd o bunnau i brynu swydd yn y fyddiu dyna'r oil gy,mhwysder. Gwarthus Ië, a pha nifer o arglwyddi (sydd yn cael eu galw felly) sydd yn eistedd yn y Ty Uwchaf, ac yn derbyn miloedd o bunnau o flwydd- daliadau o arian y cyhoedd, pa rai na wnaethant unrhyw wasanaeth milwrol erioed yn eu hoes, ond fod rhyw hen berthynas iddynt, ef allai, gannoedd o fiynyddoedd yn ol, wedi gwneyd eu dyledswydd, ac wedi peri i ereill i wneyd rhyw wrhydri, ond nid ef ei hun. Felly, os oedd gwobrwyo i fod, onid yr holl fyddin, neu yr holl lynges ddylai gael y cyfryw 1 Onid haerllugrwydd y cyfryw frenin, a gwaseiddiwch y bobl ar y pryd oedd dyoddef ganddo gyflawnu y fath gamwri ? Eiddo y bobl yw y ddaiar, o herwydd mae yr Arglwydd wedi ei rhoddi i feibion dynion." Felly y mae genyf fi gystal hawl foesol i gael rhan o'r ddaiar yma at fy ngwasanaeth ag sydd gan unrhyw arglwydd tirol neu frenin. Pcth arall, achwynir gan rywun nad yw yr amethwyr yn talu y degwm yn onest i'r offeiriaid, gan edliw fod Abraham wedi talu degwm i Melchisedec, ac y dylai pawb wneyd yr nn peth. Ond yr ydym yn cael yn y Beibl mai dim ond unwaith talodd Abraham ddegwl11 erioed yn ei oes, a hyny fel ad- da,liad am y bara a gwin" a roddodd Melchisedec i Abraham, a'r gwyr oedd gydag of, pan oedd yn dychwelyd yn fuddugoliaethus o'r rhy fel, a dim ond "degwm o'r anrhaith oedd hyny wedi y cwbl. Ac ym mhen rhyw bedwar can mlynedd wedi hyny, pan oedd yr Israeliaid yn dyfod o'r Aipht i Ganaan, yr ydym yn cael fod y wlad i gael ei rhanu yn ddeuddeg than, a bod IIwyth Joseph i gael rhan ddwbl trwy osod Ephraim a Manasseh yn gyfartal i'r llwythau ereill, sef yn unol a'r enedigaethfraint, am mai Joseph oedd y cyntafanedig o Rachel. Ond nid oedd llwyth Lefi i gael dim o'r wlad, ond lie i fyw a'r meusydd pentrefol. Yr oedd yn rhaid iddynt hwy (llwyth Lefi) wasanaethu y cyssegr. Yr oedd un ran yn offeiriaid, un ran yn gantorion, a'r rhan arall yn borthorion, ac yr oeddynt oil i fyw ar y degwm; ond y mae yr offeiriaid yn ein dyddiau ni yn ymofyn yr holl ddegwm iddynt eu hunain, heb law perchenogi tai a thiroedd, a myned i'r ffeiriau a march- nadoedd i fasnachu. Ond pan y deuwn at y Testament Newydd, nid oes hanes fod Iesu o Nasareth" na'i Apostolion wedi derbyn eeiniog o ddegwm gan neb yn eu hoes. Ac yr ydym yn cael fod Paul yn gweithio a'i ddwy law er mwyn ei gynnal ef, a'r rhai oedd gydag et yn progetliu yr Efengyl, fel na phwysent ar neb. Ac mor wired a hyny, y mae arwyddion yr amserau yn dwcyd na. chaiff yr cWfeiriaid ddegwm lawer yn hwy. Bydd yn rhaid iddynt fyw fel pregethwyr ereill, ar rod(lion gwirfoddol, ac nid gormes. Dywcdodd offeiriad wrthvf Y dydd o'r blaen ( fod y degwm, yng nghyd a rhoddion ereill, wedi cael en hymddiried ar v declireu i'r offeiriaid a'r monachod, er mwyn iddynt eu cyfranu i'r tlodion, yn ot fel y byddent yn II gweled angen, yug nghyd a rhoddi bwyd a Hetty i rai fuasai yu teithio o un ardal i arda11 arall, a dvmuno Dnw yn dnvydd iddynt ac hefyd i gadw'r eglwysi mewn cyflvvr priodol. Ond fel y mae yn wybyddus, gwnaeth y senedd newid pethau a pheth all un senedd wneyd, gall un arall ei ddadwneyd, ac felly y t hydd yn ftitii iawn, er pob yimlrech sydd yn cael ei wneyd i'r gwrthwyneb.—Yr eiddoch yn gywir, GLANWENDON.
[No title]
Saith mlynedd yn ol, yr oedd Mr. Stanley yn meddwl na byddai iddo briodi byth. Cymmcrodll etholiad dros Mid-Durham le ii dydd Tau di weddaf. Gladstonian oedd y di- weddar aelod pIr Crawford). Yr ymgeiswyr i oeddynt—Mr Wilson (Gladstonian), a'r An- rhydcddns Vane-Tempest (Ceidwadwr). Y Ciladstonian fn yn fuddugoliaethus, er i'r Ceidwadwyr ennill mewn pleidleisiau. Ij
AT EJX "(X)HEBWYR. S|
AT EJX "(X)HEBWYR. S| Derbyniasom ysgrifan oddi wrth Athraw (Llanrhystyd) Gwyliwr (Llandyssil), fe., pa rai a gant ymddangos yn ein nesaf.—GOL.