Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

CULNI PURITANAIDD.

News
Cite
Share

CULNI PURITANAIDD. CULXI TITOTALAIDD CAERDYDD. Bu amser yn hanes y Bedyddwyr pan nad oedd neb vn ol iddynt am eu ho fide r o ddyferyn i'w yfed. Adroddir y triawd canlynol, yr hWIl a dadogir i'r diweddar Barch. W. Rees (Gwilym Hiraethog), a'r hwn a ddengys nid yn unig pa betli oedd yr argraff a adawid ar ei feddwl ef fel sylwedydd craft' a inanwl, ar foesau ac arferiou ei oes, ond befyd, pa beth oedd tyb ei oes ef am y Bedyddwyr a phre- gethwyr y Bedyddwyr yng Nghymru. Y Methodistiaid, meddai, am dori (myned yn fethdalwyr), yr Annibynwyr am odinebu, a'r Bedyddwyr am feddwi." Nid oes dwy- waith am datii nad oedd Hiraethog yn ei Ie, ac mai un o fanau gweinion y Bedyddwyr oedd eu gormod hotfder o ddyferyn o "sioncen" (clnvedl Dafydd Evans, Ffynnon Ilenri). Ond ymddengys fod yr enwad hwnw, neu yn hytrach rhai yn yr en wad hwnw, wedi gadael fiyrdd gwlybion eu blanoriaid, ae wedi cyfeirio eu gwynebau at dir eras, sychedig Titotaliaeth, a'r math fwyaf cul o Ditotaliaeth hefyd. Synwyd ni yn aruthr wrth weled yr lianes a ganlyn mewn papyr newydd yr wythnos ddiweddaf Dywedir wrtliym i aelodau Egl wys y Bedyddwyr a ymgyferfydd yng Nglan yr Afon, Caerdydd, mcwn cyfarfod n ZD a gynnaliwyd ganddynt yr wythnos lion, ddwyn penderfyniad ger bron y cyfarfod i'r perwyl canlynoI-nad oedd un perchenog berwedd-dy, neu nn yn dal trwydded, neu yn derbyn arian oddi wrth y fasnach feddwol, i gael ei dderbyn yn aelod o'r Eglwys hono. Modd bynag, pan bleidleisiwyd ar y pender- Z3, fyniad, collwyd ef gan fwyafrif mawr." Da Z!1 genym fod mwy o ddoethineb na ffolineb yng n n Nglan yr Afon, ac y pery i fod felly am hir amser eto. Nid ydyin yn cofio am ddim mwy cul a mwy rhagfarnllyd, a llai cydnaws ag ysbryd yr efengyl ac ag ysbryd rhyddfrydig yr oes ym mha un yr ydym yn byw na'r penderfyniad y cyfeiri wyd ato. Beth mae hyd yn nod y Methodistiaid Calfinaidd erbyn hyn wedi tyfu all an o'r hen ddillad bach, ym mha rai y gwisgwyd hwy yn eu babandod. Yn eu cyffes hwy, gwelid gynt y rheol nad Z5 zn oedd un tafarnwr i gyfranogi o'i cymmun yn eu plith hwy, a gwelid y rheol arall hefyd, nad oedd un o'u haelodau hwy i briodi ag un o'r byd. Ond druain o honynt! mae y rheolau hyny er ys blynyddau helaeth wedi myned fel dwst y ffordd fawr" yn llythyren mor farw ag ysgadenyn coch, a gwared da ar ol y fath ffwlbri ac yspwrial crebychlyd. Ni wyddai y rhai a wnaent y cyfryw reolau "o ba ysbryd oeddent, ac ni wyr Titotaliaid Glan yr Afon o ba ryw ysbryd y maent hwythau hefyd. Dyna ddywed y meistr mawr, a phob dyn mawr arall eang ei syniadau, "gadewch i'r ddau gyd-dyfu hyd y cynhauaf." Yr oedd Dafydd Evans, Ffynon Ilenri, yn ddigon gwrol a gonest i amddiffyn ei "sioncen" o'r pwlpud, a Williams bach Aberduar," yn gallu ei harddel yn gyhoeddus mewn marchnad a z:,Y ffair, a chwrdd pregethu a chymmanfa, a Timothy Thomas, Castell Newydd, yn ddigon caredig i gadw ty at gynnyrchu yr elfen n bwysicaf sydd yng nghyfansoddiad sioncen "■ p Z5 -ac i roddi ei wasanaeth yn rhad drwy ystod ei oes faith a pharchus i'r Bedyddwyr yn y Graig, Casteli Newydd, ac mewn manau ereill. Da yr ydym yn gwybod, fod gwyr goreu y Bedyddwyr yn y De a'r Gogledd yn n zn groes hollol i ysbryd penderfyniad gwyr Glan yr Afon yng Nghaerdydd. Hoffem wybod betli a ddywed Spinther James, Ceulanydd Williams, Thalamus (pan oedd yng Nghymru), a Myfyr Emlyn, a llu o enwogion rhydd- frydig ereill, yng ngwyneb penderfyniad anghlodaidd o'r fath hwn. CULNI THOMAS, WIIITLAND. Cawsom enghraifft nodedig arall o gulni Puritanaidd, yng nghyfarfod y Cynghor Sirol a gadwyd yng Nhaerfyrddin yr wythnos ddiweddaf. Yn y cyfarfod hwnw fe ddygwyd ger bron y cynghor yr hyn a el wid" Protest" arno, gan y Parch. W. Thomas, Whitland. 0 bobpeth a ddarllenasom erioed mewn ffordd o wrthdystiad, h wn oedd yr un rhyfcddaf. Dyma eiriau y protest :— Yr ydym yn dymuno gosod i fewn ein protest difrifol yn erbyn taflu dim odreuliau heddgeidwaid mewn rhedegfeydd o hyn allan, yng N ghaerfyrddin n 15 n yn ogystal ag mewn manan ereill' yn y sir, ar y trethdalwyr, gan gredu y dylai pob ceiniog ddyfod allan o logellau pwyllgor y rhedegfeydd." Nid yw y protest vnddo ei hun yn ymddangos ym mhell o'i le ar yr olwg gyntaf, ac anwybyddem ef, fel y gwir deilynga, oni bai am yr araeth rambliog a wnaeth y gwr parchedig wrth ddwyn y mater ger bron y cyfarfod, ac yn yr hon y dadleuai fod mwyafrif trethdalwyr sir Gaerfyrddin yn Anghydffurfwyr a Phuritaniaid, bod rhedegleydd yn ddiwg ac anfoesol eu tuedd- iadau — ei bod yn anghyfiawn gorfodi Anghydffurfwyr i dalu at gynnal rhedegfeydd ceffylau, y credent hwy eu bod yn ddrwg, a'i bod yn annoetk tatlu arian y trethdalwyr at bwrpas o'r fath yn gymmaint ag nad oedd eisieu gwneyd hyny. Eiliwyd y protest ac araeth y gwr parchedig gan Mr J. Davies, Trelech. Mae yn anhawdd gwybod pa fath fyd y mynai Mr Thomas, Whitland, i'r byd hwn fod, ond y mae yn amI wg ei fod ym mhell iawn o gyrhaedd y safon hono a fodola yn enaid mawr a chyfiavvn y gwr parchedig o Whitland, a Hawn mor amlwg yw y tybia efe ei hun yn nefol anfonedig genad i ddwyn y byd i'w le, ac y cyfrifa mai ar gefn ceffyl y Cynghor Sirol y cyflawnai ei genhadaefch yn y ffordd rwyddaf. Edrychai Mr Thomas ar ol buddiannau y trethdalwyr, meddai ef, wrth wneyd y protest y cyfeiriwn ato. Yn ei araith, dywed fod y swm o bum swllt ar hugain wedi ei dalu allan o'r trethi, i helpu pwyllgor y rhedegfeydd i n Z5 dalu am wasanaeth yr heddgeidwaid. Pnm swilt ar liugain Daich ofnadwy o drwm ar gefn trethdalwyr yr holl sir yw hyny Hoffem wybod gan y gwr parchedig, pa sawl pum swllt ar liugain a ddygwyd 1:1 yn ol i logellau trethdalwyr Caerfyrddin a'r gy mmy- dogaeth, drwy y rhedegfeydd y cyfeiriai n y atynt 1 Nid petliau am ddim yw cyfarfodydd o'r fath, ac nid oes neb mewn ystyr arianol, yn manteisiaw mwy ar eu cefn na phreswylwyr y lleoedd y cynnelir hwy. Y cwestiwn y dylid ei holi a'i ateb an Mr Thomas cyn dwyn y mater ger bron cyfarfod y Cynghor Sirol oedd, pa un a lesolir sir Caerfyrddin mewn ystyr arianol ai peidio, drwy y rhedegfeydd blyn- I yddol a gynnelir ynddi 1 Dyna'r cwestiwn a^ edrych arno mewn ystyr arianol. Ond y gwir am dani yw, fod y gwr parchedig wedi gweled rhyw gyfle yn y mater i wneyd enw iddo ei hun ger bron ci etholwyr, a'i fod am wneyd cyfaitl o'r mammon anghyfiawn erbyn yr etholiad nesaf. 0 bartlied i'r tyngu a'r rhegi, a'r cyngwystlo a'r mcddwi, y dywedai efe a gerir ym inlaen mewn cynnullfeydd o'r fath, credwn ar sail deg, fod dyebymmyg bywiog y gwr parchedig wedi mwyhau y drwg i raddau mawr iawn. A ydyw efe ei hun wedi bod yn bresennol mewn un o'r rhedegfeydd hyn] Os yw, yr oedd y ffaith y rhoddai ei bresennol- deb yn dangos ei fod yn eu cefnogi; os nad yw, ni ddylai gondemnio dim ar dystiolaeth ail law. Dylai fynu deall a gweled a barnn drosto ei hun. Bu y cadeirydd (Aiglwydd Emlyn) yn dra doeth with sylwi ar y mater yn y diwedd—credai na ddylid gwneyd dim gwahnniaeth rhwng y cynnullfeydd i ba rai y danfouid cwnstebli ar draul y sir. Ni a wyddom na byddai dim gwrthwynebiad gan Mr Thomas, Whitland, i ddau neu dri o heddgeidwaid fyned i gymmanfa er mwyn I cadw dysgyblaeth ac heddweh, a gweled fod y gwyddfodolion yn byw yn onest, sobr a moesol. Yr ydym wedi gweled rhai cymmanfa- oedd yn y rhai y ceid llawn cymmaint o feddwi, Ac., ag a welir fel rheol yn rhedeg- ?n cl feydd blynyddol sir Gaerfyrddin. Fe gredwn y buasai yn well i Mr Thomas beidio dwyn y protest hwn ger bron y cyfarfod, o herwydd fe all fod eisieu tri neu bedwar o bolismyn cyn hir i gadw trefn, a rliwystro trwynau cochion a llygaid dnon, ac escyi-n toredig, yng nghapel Whitland, neu rbyw gapel Annibynol arall yn sir Gaerfyrddin. Fe welwyd eu hangen cyn hyn, a geill hanesiaeth yr enwad parchus a phur o dan ba un y niae Mr Thomas, Whit- land, yn golofn mor grefac anrhydeddus, ail- adrodd ei hun, mewn blynyddau i ddod. Yn awr, gan fod y protest a wnaeth yn ddi- werth ac yn ddirym, yr ydyui ni, gyda phob dyledus barch i goffadwriaeth y diweddar Mi Powell, Maesgwyn, yn cyughori Mr Thomas, Whitland, i hoelio y papyr a'r protest ar ddrws ystabl y "dyn bach o Maesgwyn "— yr hwn a wnaeth fwy na neb yn sir Gaerfyr- ddin, tuag at hyrwyddo rhedegfeydd ceffylau o'i mewn. Buasai yn dra syn gan y dyn bach glywed cymmydog yn cablu a rhegi ei Z, en 0 lioff "bethau" ef pe yn ei glywed yng Nghaerfyrddin pa ddiwrnod.

UNDEB CREFYDDOL.

Y DIWEDDAR FILWRIAD WILLIAM…

Advertising

PWNC YR EGLWYS SEFYDLEDIG:I…

I ESGOB LLANELWY AC YMNEILLDUAETH.

SESSIWN CEREDIGION.

LLANYBYTHER,

ABEEGORLECH.

AT EIN GOIIEBWYR.

LLITH YR IIEBOG.