Hide Articles List

9 articles on this Page

RHAGOLYGON EIN IIAMAETHWYR.

News
Cite
Share

RHAGOLYGON EIN IIAMAETHWYR. Nid oes dim ammheuaeth na ddechreuodcl gwellhad sylwadwy gymmeryd lie yn arngylch- iadau ein hamaethwyr, yr hwn sydd o hyd yn parhau, er pan ymddiried wyd awenau y llywodraeth a buddiannau y deyrnas i ofal y Weinyddiaeth bresennol. Yr oedd y wlad yn flaenorol wedi disgyn i'r cyflwr iselaf, yn drafnidiol ac amaethyddol. Taflwyd ffermydd a gweithfeydd mawrion i fyny, a'r llafurwyr a gweithwyr allan o waith. Yr oedd masnach yn farwaidd; tlodi, cynhwrf a throseddau o ganlyniad yn ffynu mewn ararywiol barthau o'r deyrnas—yn y trefydd mawrion yn ogystal ag yn yr adaloedd gwledig. Y mae yn wit, 0 1, Z5 fod hyn yn gymhwys i wledydd ereill; ond y mae yn rhaid cofio, pan fydd amgylchiadau y wlad hon yn isel neu yn nchel, yn farwaidd neu yn fywiol, fod hyny yn effeithio yn fuan ac uniongyrchol ar yr holl fyd trafnidawl, i raddau mwy neu lai, yn ol y cyssylltiadau'; o herwydd y mae y deyrnas gyfunol fawr hon wedi arfer bod yn ganolbwynt a main spring holl symmudiadau a buddiannau y byd. Priodolir, yn gyflawn, yr agwedd gyfyng ar t5 11 n bethau ag oedd wedi ein goddiweddu i sefyllfa 0 gynhyrfus yn lwerddon-y wlad fwyaf ifrwythlawn yn y byd. Yr oedd y tiroedd bras hyn wedi eu gadael i syrthio i anniwyll- iant a gwastraff, o herwydd ei bod yn am- mhosibl eu gwrteithio o achos ymyraeth y cynhyrfwyr diegwyddor. Bu y golled o'r cynnyrch i'r wladwriaeth a'r trigolion yn ammhrisiadwy ac o dan y Weinyddiath ag oedd mewn awdurdod y cyfnod hwnw, yr oedd pothau yn parhau myned o ddrwg i waeth. Yr oedd cynhyrfiadaiijjbrawychiadau, creulon- derau, poenydiau, llofruddiaetliau a throseddau ysgeler o bob math yn myned fwy-fwy ar gynnydd yn feunyddiol; a'r llywodraeth yn analluog i'w cyfaifod a'u gwrthrechu ac felly yr oedd ymddiried y byd arianawl a masnachawl ynddi wedi ei golli, ac antur- iaethau masnachawl a gweithfiiawl, gan hyny, yn farw gloedig. Yn y diwedd, er yn araf, agorwyd llygaid craft y cyhoedd a dad- ymchwelodd yr etholwyr yn ddifloesgni weinyddiaeth y gweinidog galluog, ond ansefydlog ac hunangeisiol, ac a osodasant y llywodraeth benderfynol bresennol i fyny mewn awdurdod yn ei He gyda mwyafrif anorchfygol. Nid cynted y cychwynodd Mr Balfour i osod ei droed i lawr ar warau y cynhyrfwyr, a, dangos ei fod yn benderfynol i adferu diogelwch i bersonau a llwyddiant i arngylchiadau yr Iwerddon, nag y crewyd ymddiried yn y wlad fod ei buddiannau, ei chyllid, ei thai a'i thiroedd, yn ddiogel o afael yr ysbeihvyr, ac fe ddechreuodd arngylchiadau cyfyngedig yr amaethwyr a'r llafurwyr yn n zn gyffredinol i ymsionci, ac yn raddol i ymfyw- hau dros y deyrnas, hyd nes erbyn hyn y mae ffermydd a thyddyuod, oeddynt gynt wedi eu taflu i fyny, ac wedi myned allan o wrteithiad, yn cael yntofyn am danynt; prynir a gwerthir tai a thiroedd, nwyfau, eiddo a phriodoleddau o bob desgrifiad gyda rhagor o 11 In 0 rwyddineb, ac ymddiried y ca y prynwr a'i blant eu mwynhau. Mewn gwirionedd, y mae yn ddiau, fel y dywedwyd at y dechreu, fod amaethydiaeth masnach ac arngylchiadau y deyrnas wedi gwella a chynnyddu yn sylweddol oflwyddyn i flwyddyn er pan y mae y Weinyddiaeth bresennol mewn audurdod ac y mae y cynnydd hwn wedi effeithio yn ddirfawr hefyd, am y rheswm a roddwyd, ar wledydd tramor, ac yr ydym yn awr mewn heddwch anrhydeddus a phob cenedl, yr hyn ni ellir dyweyd am ein sefyllfa yn flaenorol. Y mae yr ystyriaethau yng lighylch ein Z5 zn hamgylchiadau amaethyddol yn y gorphenol a t3 ac yn y presennol yn ein harvvain i ymholi beth yw ein rhagolygon am y dyfodol. Y mae y tal am lafur a thraul yr am- aethwr, pris ei yd yn neillduol, wedi gostwng braidd yn ddinystriol, a'i gydmaru a'r hyn oedd uwch deugain mlynedd yn ol. Ni raid myned ym mbell i ymofyn am yr achos, canys cydnebydd pob ffermwr fod y cyfryw brisiau isel i'w priodoli i fasnach rydd, ac ymgystadleuaeth a ui, er ys blynvddau lawer, ar ran yr America. Y mae'r talaethau yn gorlanw masnachoedd yr hen wlad --ydar gweddill sydd ganddynt i'w hehgor o'u gwenith a'u cydfwydydd Y mae hyn wedi profi yn niweidiol a thorcalonus i'n flermwyr, gan fod yn achos i gadw y prisiau i lawr, a gwrteithio y tir yn anfuddiannus. Y mae yn ymddangos yn bur eglur felly pe y byddai i'r wlad hon gau ei phorthladdoedd er rhwystro dwyn i mewn y nwyfau hyn yn rhydd, fel y mae y llywodraeth hono yn cau yn erbyn pob math o nwyfau a anfonir yno oddiyno, y byddai hyny yn tanteisiol i'n amaethwyr. Cawsent brisiau priodol am eu llafur a'u da, ac felly gallent flot-ddio i wrteithio a diwyllio c y y miliwnau cyfeiriau o dir sydd yn awr yn segur, a diffaeth, ac yn galw am amaethiad yn neillduol yn yr Iwerddon. Y canlyniad o hyny fyddai gwellhad amgylchiadau, a chynnydd a llwyddiant mewn gradd cyfartal pob dosparth yn y deyrnas, i lawer i'r iselaf. Nid oes dim dadl o'r peth. Y mae ein gwladweinwyr felly wedi gwled yn dda i wrthod aniddiflyn ein buddiannau ein hunain, ac i amgeleddu a rhoddi pob manteision i'n cydgystadlwyr tramor. Yr ydys hyd y nod wedi gwrthod mabwysiadu masnach deg (f(ti?- track'.), ond yn hytrach caniatau masnach rydd i bawb yn mhobpeth. Ymddengys, beth bynag, fod meddyginiaeth Z5 in n i'r cwyn ar ddyfod o gyfeiriad arall hollol annibynol ar y ddeddfwriaeth i-yddf rydol a radicalaidd sydd wedi nodweddu ein senedd y rhan fwyaf o'r hanner canrif aeth heibio. Y mae deddfau natur sef trefn Rhagluniaeth yn unbenaeth fwyaf ddiochrog, hunanddibynol {autocratic), yn anfeidrol fwy gormesol a didroi yn ol na deddfau y Mediaid a'r Persiaid y mae y dynged-rod yn troi yn sicr a diogel, gan daflu ei barnedigaethau a'i n 0 n bendithion, ei gwobrau a'i dirwyon, allan o radd i radd, fel y tro pob gris o'r olwynion yn gydreddol—a'r genedl y mae yn cytfwrdd a hi. Y mae dysgawdwyr cymhwys, y rhai sydd yn ^wncyd deddfau trefniant economical latos yn amcan eu hymchwil, yn meiddio treiddio i mewn a deall cylclidrodau y rhod yn fwy o perffaith o oes i oes ac wedi dyfod yn alluog i ragweled gydag eglurder rhyfeddol, amrywiol ddygwyddiadau, ae arngylchiadau a sefyllfa gwledydd yn y dyfodol. 0 Yn y cyssylltiad hwn y mae ein sylw wedi cael ei ddwyn at gyfres o ysgrifau mwyaf galluog sydd yn ymddangos yn tisol yn y 0 Z5 n C, cylchgrawn newydd rhagorol y Revieio of Revi(}U;, ac yii neillduol ysgrif yn y rhifyn diweddaf; yn yr hwn y mae yr awdwr yn adolygu erthyglau doniol Mr Wood Davies yn y Forum Americanaidd am y misoedd blaenorol. Y mae'1' erthyglau yn ymdrafod yn alluog a'r sicrwydd y bydd nid yn unig terfyn ar y di walliad o yd a chig o'r America i'r wlad hon mewn ychydig iawn o flynyddau, ond y bydd yn rhaid dwyn cyflenwad o'r cyfryw i mewn i'r Talaethau er cynnaliaeth y trigolion. Ymddengys fod cynnydd naturioll y boblogaeth yn y wlad hono yn rhagflaenu c Z!1 cynnydd yr acerau nen y cyfeiriau o dir a ddygir o dan feithriniad yn gyfiym iawn. Yn ystod y pedair blynedd ar ddeg diweddaf, cafodd gan gymmaint o dir ei roddi dan gnwd ag oedd yn cyfateb yn 1884 i 3,51 (1) o aceri y pen o'r boblogaeth. Yr oedd hyny yn fwy o chwarteracer nag oedd yn angenrheidiol tuag at eu traul eu hunain. Cynnyrch y cyfryw weddill o chwarter cyfer mewn blawd a chig America fu yn dylifo'n tnarchnadoedd cartrefol; ac yn dirwasgu ar ein amaethwyr. Ond sylwer erbyn y flwyddyn 1888, yr oedd cyfartaledd y pen o'r bobl o aceri o dir dan gnwd wedi cwympo o 3,51 i 3,30. Yn ol y graddau hyn, gan ystyried cynnydd naturiol y boblogaeth a chyfartalcdd blynyddol y lluosogiad gan y mudwyr i'r wlad, ni fydd erbyn 1894, ond tri chy-fer gyferbyn a phob person. I gadw ym mlaen fel ag i fod yn gyfartal a chynnydd naturiol y bobl, ac i fod ,y y yn alluog i feithrin y 31 cyfer angenrheidiol o t, 4 ZD dir y pen, bydd yn ofyuol ychwanegu 6,000,000 (chwech miliwn) o aceri yn flynyddol at ei thir aredig, pan am amryw flynyddau aeth heibio ni ennillwyd hanner y eyfryw ychwanegiad. Y canlyniad diammheuol yw, y bydd gofynion y boblogaeth gartrefol t' 0 znl America cyn pen pum mlynedd pellach, yn llyncu yr holl gyunyrch o gnydau yd tatws a gwair, ac ni fydd gan y wlad ddim i'w hebgor ond tobacco, cotton, ac anifeiliaid a bydd y cyfanswm o'r nwyfau hyny hefyd yn myned yn llai bob blwyddyn fel y bydd traul a rhifedi y trigolion yn cynnyddn. Yn y cyfamser, bydd y prisiau yn codi a'r flermwyr yn llwyddo yno. Y mae y dystiolaeth uchod yn ddiymwad— y mae yn sylfaenedig ar ffeithiau a ffigyrau n zY sefydlog; y rhai sydd wedi cael eu harchwilio a u profi gan y Review of -Reviewers, gyda tliraul a thrafferth, cyn eu cyflwyno i sylw ac ystyriaeth trigolion y deyrnas hon. Gwelir ar unwaith eu bod o'r pwys mwyaf i ni. Y mae ymgystadiiad yr America yn ein marchnadoedd wedi chwyldroi ammodau amaethyddiaeth yng Ngliymru, Lloegr a'r Iwerddon ond y mae y rhagolwg a rydd y ffeithiau uchod yn un o ollyngdod buan i'n ffermwyr oddi wrth bwysau gorlethol marchnadoedd wedi eu gorlifo gan n Z7, Z3 gynnyrch gweddillion prairies yr America; ac yn dangos fod llwyddiant a helaethder yn eu haros y bydd ein hadnoddau ein hunain yn cael eu dadblygu, ein tiroedd diymgeledd yn cael eu gwrteithio, ac angenion y boblogaeth yn cael eu diwallti gan gynnyrch ein gwlad, a'n nwyfau ein hunain er budd a ffyniant pob dosparth o'r trigolion. Rhynged bodd Rhagluniaeth mai llywod- raeth ddoeth a sefydlog fydd yn rheoleiddio ein buddiannau, er lies a llwyddiant yr holl deyrnas; ac yn neillduol fel ag i adferu llonyddwch, ffyniant, a chyflawnder i'n brodyr cyff'rogar ac anwadal, yn y chwaer ynys; y rhai sydd yn cael eu camarwain mor ystryw- gar gan gynhyrfwyr diegwyddor ac hunan- n tn Z5 0 geisiol, i wrthod y manteision raawr a gynnygir iddynt gan y Weinyddiaeth bresennol yr hon sydd yn ceisio drwy bob modd eu denu yn nes ac unol tuag atom, yn lie eu gadael i fyned Z3 Z5 o'r neilldu i ynidrybaeddu yn ddiymgeledd yn bleidiau ymrysongar a gelyniaethus; ac i syrthio yn ysglyfaeth i'r ysbeilwyr sydd yn n manteisio ar eu hamgylchiadau a'u tymherau oy nwyd-wyllt.

COD NEWYDD ADDYSG.

DREFACH, LLANGELER, A'R GYMMYDOGAETH.

BUGEILIAID Y MYNYDD DU.

Y GELFYDDYD 0 FOICOTIO.

Advertising

ILLANRHYSTYD.

CWM AMMAN.

AT EIN GOHEBWYR.