Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

DYSGYBLAETH Y CORFF. !

PENCADER.

LLANYBYTHER.

TREGROES.

EISTEDDFOD LLANYMDDYFRI.

LL A N FIH ANG E L-U WC H-G…

News
Cite
Share

LL A N FIH ANG E L-U WC H-G WI LI. Dydd Gwener diweddaf, cafodd plant ysgol ddyddiol y lie uchod yr hyfrydwch o weled un te jiarti yn rhagor yn ysgoldy y lie, a chawsant wledd dda o bob danteithion angenrheidiol, yng nghyd a llawenydd didor. Yr oedd yn bresennol lawer o ffermwyr parchus yr ardal, yn wyr a gwragedd, pa rai a ddangosent eu 15 caredigrwydd mwyaf mewn cynnorthwyo ar -n yr achlysur. Gwelsom hefyd y foneddiges garedig a'i mab, Mrs. a Master Stokes, o Ys- 0 tradwrallt yn bresennol, ac y niaent yn haeddu clocl uchel am eu cyfraniadau helaeth tnag at gynnal y wledd a'r sports yn y blaen. Mae y Stoke. yn foneddigion parchus yn ein gwlad er ys blynyddau bellach, ac yn dangos eu caredigrwydd yn wastad mewn llawer o bethau cyffelyb. Cafwyd hefyd gyfraniadau gan y boneddigion cylchynol, sef Major Dal- rymple a Mr. Morris, Brynmyrddin. Cyn dechreu, cafwyd ton gan y plant, sef Bren- ines yr hen Ynys Wen," ar y don Rhyfel- gyrch Gwyr Harlech," dan arweiniad yr ys- golfeistr par hus, Mr. Gwilym Jones, a chan- wyd yn rhagorol. Yna cafwyd y wledd, a chariwyd pob peth allan yn drefnus gan y boneddigesau caredig ag oedd yn bresennol; ac wedi i bawb gael eu gwala a'u gweddill, Z5 ?15 L-1 aethpwyd i gae cyfagos, yr hwn a gafwyd ben- 0 Z5 0 thyg ar yr achlysur gan yr hen wron, Mr. Davies, Tyrcapel, un o breswylwyr henaf Llan- fihangel yn awr, a chafwyd llawenydd a difyr- wch dros ben. Yr oedd yr oil yn y cae o dan arweiniad y Parch. J. Evans, curad y lie. Wrth derfynu, rhoddwyd three cheers i Mrs a Master Stokes am eu presennoldeb a'u caredig- rwydd. Yna cariwyd Mr. Davies, Tyrcapel, fel "inaer" trwy'r pentref mewn mawr lawen- ydd, ac wedi ei osod i lawr, cafwyd araith odidog ganddo am ddefnyddioldeb yr ysgol yn 0 c'3 n y He, ac am y dewrion a gafodd eu codi ynddi, mewn dysg a gwybodaeth, sydd beddyw yn uchel ar lwyfanau cymdeithas. Mae yr ysgol yn prysur fyned ym mlaen; ac mae wedi ychwanegu llawer at ei rhif yn ddiweddar, trwy ddiwydrwydd di-ildio yr ysgolfeistr presennol, a llwyddiant iddi yw dymuniad UN O'R LLE.

HAVERFORDWEST QUARTER SESSIONS.

[No title]

IMPORTANT SALE OF FREEHOLD…

CARMARTHEN BOROUGH POLICE…

[No title]

---------HOME AND FOREIGN…

__--TRADE REPORT.

------'_-----------COMMERCIAL…

Advertising