Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

DYSGYBLAETH Y CORFF. !

News
Cite
Share

DYSGYBLAETH Y CORFF. (Parhad. ) Mae y dirywiad moesol a ddilyna chwant cnawdol" arall yn fwy anhawdd ei ddeffinio- musgrellni naturiol. Mae gan y rhan fwyfaf o honom waith diolch i Dduw fod byd yn oed amgylchiadau ein bywyd yn ein diogelu rhag c,Y C) el y pechod hwn. Ychydig o houom a all beidio gweithio, rhaid i'r rhan fwyaf o honom weithio yn galed. Ond y mae diogi, neu ddiffyg tuedd i ymdrechu hyd nes y bo rhaid, i'w gael weithiau hyd yn nod yn yr oes aflonydd a bywiog hon, ac ym mhob ystad o gymdeitbas. Hyny yw, y mae pobi i'w cael na chyrahellir byth i roddiallan eu holl nerth, ac na wnant ddim a'u holl allu. Gwyddom am rai a harhant hyd derfyn eu hoes yn brophwydoliaethau heb eu eyflawnu," y rhai a ddangosasant ym moreu eu hoes addewidion am bethau ardderchog, ac ef allai arwyddion o athrylith, ond a adawant y byd a'u ffortiwn heb ti gwneyd, neu eu hawdlau heb eu hys- grifenu, 0 neu en chyfundrefnau athronyddol heb eu rhoi i'r byd, neu eu diwygiadau cymdeithasol a gwleidyddol heb eu rhoddi ar droed. Enghreifftiau yw y fath rai yn fynych o'r methiant sydd yn dilyn diffva yni fel cosp annocheladwy. Nid yw ei ffeithiau moesol yn llai niweidiol. 0 barthed i rai o brofion musgrellni, a'r rhai yn fynych y cyfarfyddwn mewn llyfrau ar gyfer ieuenctyd. Mas yu anhawdd gweled ea gwerth. Pa ddaioni, er enghraitft, sydd mewn codi o'r gwely amryw oriau cyn dydd ym mis Ionawr? 0 Mae gwneyd codi yn foreu, er ei fioyn ei hun,—yn un o'r prif rinweddau, yn beth hollol benffol. Pa ham nad arosir, fel y dywed Charles Lamb wrthym, nes awyru y byd cyn yr anturiwn allan 1 Os gall dyn wneyd mwy o waith yn y dydd wedi gorwedd yn y gwely hyd banner awr wedi saith, na phe codai ddwy awr yn gynt, os yw yn well ei hwyl amser boreufwyd os yw ei feddwl yn fwy bywiog, a'i fron yn wresocach, am y gweddill o'r dydd, mae tu hwnt i'n cyrliaedd pa ham y rbaid iddo godi am hanner awr wedi pump. Tybiai rhai pobl y dylai; ac yr ydwyf wedi ceisio d'od o hyd i ryw esboniad synwyrol dros y syniad rhyfedd hwn, ond wedi methu; os trwy godi yn ddiweddar foreuan o'r wytbnos y rhaid i rywun frysio i'worchwyl heb y weddi deuluaidd, os gyrir ef allan o'i hwyl foreu ar ol boreu gan yr annhrefn i ba un y dygir ef drwy ei ddiweddarwch; os 0 y cyfyd o'i wely mor ddiweddar ar foreu Sul fel ag i'w orfodi i wneyd ymdrech fawr i fod yn ei le yn weddol o brydlon, ac os y daw i raddol gredu ei fod yn ddigon cynnar, os yw yn ei sedd wedi dechreu y gwasanaeth, yna wrth reswm, y mae i'w feio ond ei fod genyf barch mawr i ddoethineb traddodiadol, yr wyf erioed wedi methu deall pa ham y rhaid i ddyn gyfodi o'i wely mewn amser anghyfleus yn y nos yn unig er mwyn gwneyd hyny. Y mae musgrellni, modd bynag, sydd yn farwol i bob yni gwrol a difrifoldeb Cristion- ogol. Syrthia rhai pobl i'r fath arferion naturiol fel nad ymdJangoslant byth ar ddi- hun. Osgoant, hyd y gallont, lafur caled o unrhyw fath, boed gortforol neu feddyliol. Cyfrifant eu hunain yn bobl ddiniwaid iawn, os nad teilwng o ganmoliaeth hefyd, ac ni welant fod diogi wedi dyfod arnynt yn y fath fodd, fel nad yw yr enaid mwyach yn feistr arno ei hun, neu ar y corff a ddylai ei wasanaethu. Annichon, ef allai egluro iddynt anfoesoldeb eu bywyd; ond gellir dangos iddynt, o bosibl, fod arferion a ddinystriant holl angerddoldeb, a dyfnder, a brwdfrydedd teimlad crefyddol, yn dwyn euogrwydd ganddynt. Gwanychir pob awyddfryd ysbrydol, parlysir pob diben defosiynol, try bob ymwneyd ag addoli yn faich drwy y diogi i'r hwn y gadawsant eu hunain i ym- saddo. Mae holl ogoniant y cerbyd tanllyd C3 y yn yr hwn y dylai yr enaid ymgodi yn orfol- eddus tua'r nefoedd mewn mawl ac addoliad perllewygol wedi ei ddiffodd yn awr ac eil- waith, fe ddichon y cynhyrfir hwy yn wan drwy wres a thaerineb dynion o ardderchog nwyd, ond ni bydd ond dros enyd o'r ddaiar, yn ddaiarol nid ydynt mwyach yn alluog i ymgymmeryd a symmudiadau a mwynderau ny dwyfolaf y bywyd ysbrydol. Rbyfedd fel mor agos gyssylltiedig yw ZD cydweithrediad galluoedd anianol a moesol yn ein natur. Ond nid dirgelwch yn unig mo hono, mae yn flaith o ganlyniad ymarferol diderfyn, a'r hon nis gellir ei hanwybyddu heb berygl tra mawr. Arbedai cyfaddefiad dealIus o honi lawer o ddynion da ddigon rhag blinder mawr, fel ag y cadwai ereill rhag pechu llawer. Mi a hoffwn weled y Dyddlyfrau" a ad- goffhant brofiad ysbrydol dynion lied wych, wedi eu hegluro a nodiadau meddygon doeth y rhai a'u hadnabuasant yn dda. Gallai tymmorau o ymddifadrwydd ysbrydol, pan y cuddia "llewyrch wynebpryd Duw oddi wrthynt, a hyny heb unrhyw reswm eglur, gael esboniad addysgiadol iawn felly. Gellid gweled fod Duw yn llai diammodol neu fel y dywedent hwy, llai penarglwyddiaethol yn ei ymddygiad tuag atynt nag y tybient. Byddai 15 ZD el dysgyblu y corff mewn modd doeth yn sicr o ryddhau llawer enaid defosiynol rhag y meddyliau drwg a'u canlynent fel banllef, a'r rhai y tybir a dreuliant oddi wrth ysbrydion drwg, oddi wrth yr ofnau prudd y rhai a anfonir fel arwyddion o anghrediniaeth ddofn, ac oddi wrth yr iselder ysbryd a gyfrifer fel oy prawf o anfoddlonrwydd dwyfol. Na thybied neb y mynwn briodoli i achosion anianol yn unig yr holl lawenydd annhraetha- dwy a'i holl ing annhraethadwy a ga.nt le yn hanes crefyddol pob dyn sydd yn ymdrechu byw ac ymsymmud a bod yn ei Dduw. Geill mai lledrith ydyw y bydysawd materol hwn geill mai drychiolaeth wag yn unig yw ei 5 0 0 heuliau a'i ser, ei fynyddoedd a'i gefn-foroedd, a fwrir allan gan weithndiad galluoedd fy natur anesboniadwy fy hun, heb feddu unrhyw fodolaeth syl weddol ond y ca'r enaid ei bruddhau a'i fenditliio drwy ei fethiantau a'i oruchafiaethau, drwy dywyllu y gogoniant dwyfol, a thrwy adfeddu y weledigaeth fendigedig-am hyn nis gallaf ammheu. Ymae, modd bynag, mor sicr fod corff ac enaid, cnawd ac ysbryd, mor ryfeddol gydweuedig, I C) mi fel y mae y goleu a'r tywyll a ymlidia y naill y llall yn groes i'n bywyd mewnol, heb fod a'i darddiad bob amser o'r tfnrfafenau uwchaf. Drwy anrhydeddu deddfau ein natur anianol, gall rhai o honom ddod i arwain bywyd ysbrydol mwy gwastad. I rhai dynion tuag at gyfodi i fywyd gwell, dichon ei bod yn llwyr angenrheidiol i fwyta llai a gweddio C) ZD mwy i dreulio llai o amser uwch ben eu gwin a mwy o amser uwch ben eu Beiblau n i farchogaeth, cerdded, rhedeg, ymdrochi, fel ag i gymmeryd rhan mewn rhyw ymarferiadau Cristionogol mewn modd difrifol a rheolaidd. GLASCKHIOX.

PENCADER.

LLANYBYTHER.

TREGROES.

EISTEDDFOD LLANYMDDYFRI.

LL A N FIH ANG E L-U WC H-G…

HAVERFORDWEST QUARTER SESSIONS.

[No title]

IMPORTANT SALE OF FREEHOLD…

CARMARTHEN BOROUGH POLICE…

[No title]

---------HOME AND FOREIGN…

__--TRADE REPORT.

------'_-----------COMMERCIAL…

Advertising