Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Y LLYWODRAETH UNDEBOL.

TREF, GWLAD, A TI IRA MOR.

PEGGY LEWIS.

PWNC YR EGLWYS SEFYDLEDIG…

CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN TEIFI.

News
Cite
Share

CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN TEIFI. Gwilym — Nid oes modd cael un blaid wleidyddol yn fwy haerllug a thrahaus na'r Radicaliaid. Maent yn liofF iawn o floeddio rhyddid, rhyddid Ond ar ol y cwbl, y maent yn orlawn o ormes. Rhyddid i ni a dim i neb arall; rhyddid i ddywedyd v pdh a fynant, ac ysgrifenu yr hyn a welont yn dlla duo cymmetiadau a chamddarlunio ereill; ac maent wedi myned mor bell a rhwystro eu haelodau seneddol i farnu fel y gwelont fod yn dda, a phleillleisio fel y gwelont yn oreu yn y senedd ar bynciau cyhoeddus. If or—Yr oeddet ti, Gwilym, yn achwyn fod y Radicaliaid yn camarwain ac yn camddar- Itinio ereill ac yr wyt ti yn euog o gondemnio a chamddarlunio y Radicaliaid dy hun. Yr wyf yn rhoi her i ti broti dy osodiad. Ni wnaitf dwyn cyhuddiadau ar antur ddim o'r tro. Gwilym—Wei, yn awr am dani. Boycot- iwyd Mr T. E., boneddwr parchus ac Y m- lieillduwr cyfrifol, am iddo droi yn Undebwr. Dywcdodd un o flaenoriaid y (jodf, ar adeg etholiad, fod gormod o dyllau yn ei gut i un teiliwr yn ufFern ei hadgyweirio ac onid yw yn flaith ddiymwad ei fod ef a'i deulu wedi cael eu boycottio a'u herlid erpan gymmerodd Dyfynir o araith yr Arcbcsgob o flaen Cym- doithas Auiddillynol yr Eglwytj, Gorpliouaf, lSt)3. yr etholiad diweddaf le? Dytia i ti enghraifft o ryddid Radicalaidd yr ym yn clywed son am dano. Cadwgan-Ffug a lledrith yw yr hyn a brofFesir genych yn enw rhyddid. Baeddodd Gladstoniaid sir Gaer Mr Pugh yn gywilyddus am na fuasai iddo blygu o flaen liaid o ysgrag- lach ac yn y cyfarfod diweddaf, awgrymwyd y dylai pob ymgeisydd a ddaw allan dros rhanbarth orllewinol sir Gaer gael ei orfodi i arwyddo ardystiad y bydd iddo ufuddhau a chyflawnu yr hyn a orchymmynir iddo yng nghyttes flydd y Gwyddelod Cymreig. Os yw yr hanes yn gywir yn y papyrau, ni fydd gan un ymgeisydd hawl i'w farn bersonol ei hun. Ni fydd aelod seneddol ddim ond gwas bach i haid o anwyboduson cul, main, rhagfarnllyd, a hunanol yn y dyfodol yng Nghymru. Pa hawl sydd gan y ceugwd i alw eu hunain yn etholwyr ] Nid yw y ceugwd yn cynnrychioli yr etholwyr, na chyfoeth, dealltwriaeth, nac addysg y wlad. Y mae yn llawn bryd i ni etholwyr, ym mhob sir, i daflu iau orthrymus y ceugwd oddi ar ein gwarau, a dywedyd yn groew a difloesgni, "Dwylaw i flwrdd, fonedd- igion, a meindied pawb ei fusnes ei hun, a gadewch y ffermwyr i ddcwis y sawl a welant yn addas i'w cynnrychioli, ac nid dynion a ddewisir gan bregethwyr, siopwyr, cryddicn a theilwriaid, a phersonau sydd wedi esgyn i bwlpudau, am eu bod yn caru segeryrd yn lie canlyn yr aradr, neu eistedd ar iainc y crydd." livaii-A wyt ti am i ni gredu nad oedd y boncddigion a enwyd yn addas i fod yn aelodau seneddol ? Gi-it (1(1--Betii sydd eisieu arnom yw cynnrychiolwyr a wnaiff gymmeryd dyddordeb mewn amaethwyr ac amaethyddiaeth. Dylai y fFermwyr anfon i'r senedd un sydd yn dal neu berchen tiroedd, canys y mae Hes y nieistr a lies y deiliaid yn gydblethedig. ZD Z5, Mo rus—Dywedir mai Mr Gwilym Evans, Llanelli, fydd yr ymgeisydd, ac nid oes un ammbeuaeth na wnaifF ef aelod seneddol da. llywel—Nid wyf yn gwybod dim am Mr Evans yn bersonol; ond mae ef yn enwog fel cyfferiwr; ond yr wyf gyda phob dyledus barch yn dywedyd nad eyfferïwr yw y dyn goreu i gynnrychioli adran amaethyddol a gweithfaol. Boneddigion fel y Milwriad Davies-Evans, Highmead, ac Arglwydd Emlyn, Syr John Dillwyn Llewelyn, Pen- llergaer, yw dynion yr amaethwyr, ac nid siopwyr, pregethwyr, neu gyfreithwyr ond 7 zn mat yr un peth i ddyn chwareu crwth a thelyn i neidr fyddar, neu ddangos electric light i'r wadd, a cheisio goleuo am bell i ffermwr pen- galed, sydd a'i lygaid yn llawn o lwch rhagfarn. Gwilym Dyledswydd y Ceidwadwyr a'r Undebwyr yw dysgu yr etholwyr, a'u goleuo ar bynciau cyhoeddus y dydd, megys cadwraeth yr Undeb a Dadgyssylltiad ond nid oes dim wedi, nac yn cael, ei wneyd mown Ilawer lie i addysgu y bobl mewn gwleidyddiaeth. lJewi-Nid oes eisieu rhagor o addysg gwleidyddol ariioiii ac mae genym ddigon o 11 0 t5 ddysgawdwyr yn ein plith, ac nid oes un perygl gael ein denu drosodd at yr Undebwyr. Y mae Rhyddfrydiaeth yn reddfol yn y Cyiiii-o ni fyn ef Doriaeth ar un pris. Cadwgan—Ni fu un genedl erioed mor Geidwadol a'r Cymry. Cadwasant i fyny eu hen arferion, eu hen sefydliadau—yr eistedd- fodau fel esaniplau. Dangosant yn amser Cromwel eu hymlyniad wrth yr allor a'r orsedd tywalItasant waed eu calonau o blaid y brenin Siarls I. Cochwyd yr afon Lai o LaiisantfFagan i Benarth, saith milltir o fFordd, a gwaed y lladdedigion. Gruffydd—Mae cynhyrfwyr aflonydd yn heigio Cymru, ac yn arwain y Cymry i ddinystr. Morns—-Beth yw eicli barn chwi am sefyllfa grefyddol Cymru y dyddiau yma? Arwydd drwg yw gweled crefyddwyr yn myned i chwareudai, &-c. Cadwgan- Yr Ymneillduwyr ddylai yr olaf o bawb i achwyn fod pobl yn myned i'r chwareudy ac yn actio, am iddynt droi capeli yn chwareudai flynyddoedd yn ol. Ni futn erioed mewn chwareudy ond yr wyf yn credu fod llai o niwed a llai o bcchod i ddyn ion fyned i chwerthin, bloeddio, curo traed a dwylaw mewn chwareudai nag mewn capeli. Ni fuasai ganddynt un gwrthwyneb- iad i opera Dr. Parry gael ei chwareu mewn capel er talu y ddyled oedd arno. Mae lie i ofni fod cyrddau politicaidd mewn addoldai yn gwneyd mwy o niweid i grefydd yng Nghymru na'r chwareudai. Ifor—Mae llawer o anfoesoldeb yn myned ym mlaen mewn cyssylltiad a'r chwareudai. Cadwgan—Nid wyf yn amtnlieu hyny am foment; ond mae yn rhaid i ni gotio fod llawer o anfoesoldeb yn myned ym mlaen mewn cyssylltiad a chyrddau te a'r cyrddau nosawl, y cyngherddau, ifcc. Beth sydd yn fwy anweddaidd na'r chwareuon sydd yn cymmeryd lie ar ol cyrddau to—" kiss in the ring," "BoMy Bingo," a phcthau o'r fath ? Gwelsoni fechgyn a metched allan am ddeg tY or gloch o'r nos ond mae y pwlpudau yn ddystaw am yr halogedigaethau hyn, sydd mewn arferiad yn ein dyddiau ni, hyd yn oed yng ngwyliau yr Ysgolion Sul. Mae pharisc- aetli rhonc yn rhythu yn y farn gondemniol a roddir ar Dr. Parry a'i opera.

CLOSYGRAIG.