Hide Articles List

12 articles on this Page

PENCADER.

LLANYBYTHER.

At Olygydd Y JOURNAL.

CYMMANFA Y PLANT YN FELINDRE.

News
Cite
Share

CYMMANFA Y PLANT YN FELINDRE. At Olygydd Y JOURNAL. SYR,—Yn ei anerchiad yn yr wyl uchod, gofynodd y Parch. J. Williams Llangeler, i'r rbal fu yn beio yr offeiriaid yn y newydd- iaduron, i roddi diolchgarwch iddynt yn awr am gael y fath gyfarfod llewyrchus. Yr wyf gyda'r parodrwydd a'r pleser mwyaf yn cyflwyno diolchgarwch gwresocaf i Mr. Williams a'i frodyram ail-sefydlu y gymmanfa. Dymunaf hefyd ddiolch i'r gwahanol arwein- yddion y gan, y rhai fu yn Uafurio mor egniol i addysgu y plant, ac yn neillduol felly i Mr Rees am ei lafur yn arwain y diwrnod hwnw. Wedi cyflawnu y gorchwyl pleserus o roddi diolchgarwch, y mae genyf innau gais i ofyn i Mr Williams. Yr wyf am i chwi, Syr, fyned gam ym mhellach, trwy alw cynnadledd yng nghyd i gymmeryd i ystyriaeth gyflwr yr Eglwys yn yr ardal hon, a'r modd goreu i'w diwygio. Er mwyn cael cynnorthwy a chyd- ymdeimlad y lleygwyr, bydd yn ofynol gwahodd y gwahanol Eglwysi i ethol rhyw hanner dwsin o bob Eglwys i'w cynnrychioli yn y gynnadledd. Mae llawer o'r offeiriaid yn anwybodus o sefyllfa yr Ysgol Sul, nid o herwydd un diffyg ar eu rhan, ond o herwydd amgylchiadau. Cymmerwn Mr Williams fel enghraifft ar amser yr ysgol yn Llangeler, bydd ef yn gwasanaethu yng nghapel Mair, ac yn Llangeler ar amser yr ysgol yng nghapel Mair gwelir felly fod yn ammhosibl iddo fod yn brofiadol o gyflwr yr ysgolion. Yr un peth ellir ddweyd am rai ereill. Byddai yn gyn- northwy neillduol i'r offeiriaid i gael gwybod teimlad yr ysgolion trwy eneu eu cynnrych- iolwyr. Gan nad yw bob lleygwr yn feistr ar ei amser, byddai yn ofynol cynnal y gynnad- ledd am saith neu hanner awr wedi saith yn yr hwyr mewn rhyw fan canolog, megys Henllan neu ysgoldy Aberbanc. Y swydd- ogion, llywydd, ysgrifenydd a thrysorydd i'w ethol bob blwyddyn, a phob Eglwys i gyfranu swm neillduol at y treuliau. Rhestr o enwau y cynnrychiolwyr i fod ym meddiant arolygwr bob ysgol, fel y gall unrhyw bwyllgor alw y gynnadledd yng nghyd pan y bydd achos yn gofyn am hyny. Un pwnc i'w ystyried fyddai y priodoldeb o sefydlu dwy neu dair o gymmanfaoedd ysgolion (heb law cymmanfa y plant), megys NadoHg. Gwener y Groglith, a Llungwyn. Yn ail, yr wyl gorawl yng Nghastell-newydd-Emlyn y flwyddyn nesaf. Mae llawer yn meddwl nad yw hon yn ateb yr un pwrpas. Gellid ystyried hyn. Ereill a feddyliant fod yr amser o'r flwydiyn y cynnelir yr wyl yn hollol anghyfleus, am fod pawb yn rhy brysur gyda'i goruchwylion i fynychu y cyfarfodydd canu, ac am fod yr wyl yn ami iawn yn dygwydd ar yr amser mwyaf prysur o'r flwyddyn, sef y cyneuaf. Onid yr anhaws- der o gael yr aelodau yng nghyd yn ystod yr wythnos yw yr achos fod y gwasanaeth hwyrol yn rhai o'r Eglwysi yn cael eu dropio ? Mae yr hen bobl, a'r rhai hyny nad ydynt yn gantorion, yn achwyn yn enbyd am hyn. Beth yw profiad Mr S. Jones, yr arweinydd, yng nghylch yr anhawsder o gael y cantorion i'r ysgol gan ar nosweithiau gwaith 1 Yr wyf wedi ymdrechu (ond yn ammherffaith iawn) rhoddi braslun o'r hyn yr wyf fi a llawer ereill yn gredu a fyddai yn fanteisiol a llesol i'r Eglwys. Gobeithio y cymmer rhywun mwy galluog at y gwaith o'i berffeithio.—Yr eiddoch, US ACIIWYNWYR.

ESGOB NEWYDD ABERTAWE.

[No title]

MISCELLANEOUS.

FARM AND GARDEN.

-----REVIEW OF THE BRITISH…

MARKET S.

[No title]

Advertising