Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

PENCADER.

News
Cite
Share

PENCADER. AtOlygydd Y JOURNAL. SYR,—Wedi i mi ddarllen yr amrywiol ysgrifau a ymddangosodd yn ddiweddar yn y JOURNAL, deallaf fod rhai o'ch gohebwyr yn Uawdrwm iawn ar ddiaconiaid eglwys Anni- bynol Pencader, ond yn fwyaf neillduol, fel y deallaf, ar yr hen ddiacon duwiolfrydig J-. Un oragorolion y gymmydogaeth yw efe o ran ei fuchedd a'i wybodaeth ysgrythyrol. Tebyg nad yw eich gohebwyr yn hysbys iawn o'r amgylchiad y cyfeiriant ato, onid e cyfeiriasent eu saetbau i gyfeiriad gwahanol. Fel y gallo darllenwyr y JOURNAL farnu drostynt eu hunain, pa un ai eich gohebwyr ai y diacon dan sylw sydd nesaf i'w lie, ymdrechaf, mor fyr ag y medraf, i ddarlunio yr helynt. Yn ddiweddar dyg- wyddodd amgylchiad gofidus yn yr ardal, pryd y tystiolaethodd dau o aelodau eglwys Annibynol Pencader yn hollol groes i'w gilydd; a chan fod y ddau yn parhau i lynu wrth yr hyn a ddywedasant, nid oes eisieu athronydd cyn cael allan fod un o honynt yn dweyd anwiredd; ac y mae Mr. J. yn tybied fod ganddo ddigon o dystiolaethau wrth Jaw i brofi pwy yw yr hwn sydd yn dweyd anwiredd. Gan fod yr hen ddiacon, drwy ystod ei oes hirfaith, wedi dwyn mawr sel dros eirwiredd, nes y gellir yn rhwydd ei restru fel un o gyffelyb ysbryd a'r prophwyd Dafydd pan ddywedai, Ni thrig o fewn fy nhy yr un a wnelo dwyll; ni thrig yn fy Bgolwg yr un a ddywedo gelwydd." Naturiol yw iddo beidio bod yn gyfranog a geneu celwyddog i fwyta o'r ordinhad sanctaidd. Addawodd yr eglwys edrych i mewn i'r helynt, ond nid yw eto wedi cyflawnu ei haddewid. Pa Ie bynag y mae yr eglwys a oddefo gel- wyddwyr, meddwon, a drwg weithredwyr i fod yn aelodau ynddi, anwiredd yw galw hono yn eglwys Dduw." Gobeithio y cymmer yr hen ddiacon parchus gysur, ac na bydd i'w galon lwfrhau, canys y mae yr hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddeheu, yr hwn sydd yn rhodio yng nghanol y saith ganwyll- bren aur," yn ei ganmol am wneuthur o hono ei oreu i beidio goddef y rbai drwg.—Yr eiddoch, TALOGFAB.

LLANYBYTHER.

At Olygydd Y JOURNAL.

CYMMANFA Y PLANT YN FELINDRE.

ESGOB NEWYDD ABERTAWE.

[No title]

MISCELLANEOUS.

FARM AND GARDEN.

-----REVIEW OF THE BRITISH…

MARKET S.

[No title]

Advertising