Hide Articles List

5 articles on this Page

EIN TREFEDIGAETHAU.

DYSGYBLAETH Y CORFF.

"DERBY DAY" Y BEDYDDWYR CYMREIG

CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN TEIFI.

DYFFRYN CLETTWR, LLANDYSSIL.

News
Cite
Share

DYFFRYN CLETTWR, LLANDYSSIL. At Olyyydd Y JOURNAL. SYR,—Dygwyddais, ddechreu yr wythnos cyn y diweddaf glywed gan ryw un fod ffrwyth ymenydd fy nghyfaill 0 Gelli Aur i ymddangos yng ngholofnau eicli newyddiadur y dydd Gwener canlynol. Ceisiais gyda'r siopwr gadw I un JOURNAL i mi, a thelais am dano ym mlaen llaw, er mwyn bod yn siwr o hono, er i mi wrth hyny amddifadu fy hun o fy ngheiniog- werth o ddybacco am yr wythnos. Yr oedd hyny yn gryn aberth i was v myglys i'w wneyd, fel y gwyr pob un sydd a phrofiad gauddo. Bum yn dyfalu am rai noswoitbiau ar fy nghefn yn fy ngwelv, pa fath lythyr fuasai, canys gwydd wn i, fel pawb arall yn yr ardal, t'od ncwvdd-buth ar ddygwydd yn y Dyffryn, peth na freuddwydiodd yr un dewin erioed yn ei gylch, sef fod William Jones, (ielli "71 Aur, yn ysgrifenu i'r ]>;ipyr! Cefais y JOURNAL, a darllenais lythyr fy nghyfaill, a theg i'w dweyd, ni chefais fy siomi mae ci stamp a'i argraff arno; mae y llythyr yn deilwng o'r awdwr ym mhob ystyr, fel y gwyr eich I tD darllenwyr lluosog erbyn hyn. At- ol ei ddarllen drosodd, nid oedd genyf y dychymmyg lleiaf at ba beth y cyfeiriai, a i-liaid i iiii gyfaddef fy mod, pan yn ysgrifenu yr ychydig linellau hyn, yn aros yn y tywyllwch eto o barthed yr hyn a ysgrifena yn ei gylch. Wrth ei ddarllen. daetii geiriau y diweddar Mynyddog yn fyw i'm cof, Os cregyn gwag fydd yn v sach, cregyn ddaw allan. bobol fach Ond gobeithio, syr, fod Mr. Jones ei hun yn ei ddeall. Yn ei linellau agoriadol, cymmer yn ganiataol eich bod chwi tua Chaerfyrddin yna yn gwybod erbyn hyn na wneir yr un sylw o'r JOURNAL yn yr ardal gan y bobol dda." Felly ni pberthyn Mr Jones i'r cyf i-yw ddosbartb, canys y mae ef wedi ymddarostwng i'r fath raddau ag i wneyd sylw o "ddifriaeth isel wal y JOURNAL," fel ei geilw. Os a i'r drafferth o ddarllen fy llythyr a ymddangosodd dair wythnos yn ol, gwel, neu yn hytrach dylasai weled, nad yw yn ei ddifrio o gwbl, neu mae yn rhaid fod galluoedd meddyliol Mr. Jones yn hynod o bwl, nes methu gwahaniaethu rhwng du a gwyn. Credaf, Mr. Gol., na cha haeriad disail y gwr o Gelli Aur o barthed i'r sylw a delir i'r JOURNAL yn y Dyffryn gael llawer o effaith arnoch chwi, fel ag i'ch lluddias i gysgu'r nos. Yn ei ail frawddeg, ysgrifena fel hyn, "A phe baswn innau wedi bod yn nod i saethau bychain Lilipwtaidd eich man ohebwyr talentog (?) o'r ardal hon." Beth feddylia, tybed ? Heriaf yr un athronydd i'w hesbonio nid oes ynddi na synwyr na grammadeg—dau beth ag y mae ei lythyr yn amddifad o honynt. Pa le y cafodd afael yn y gair "Lilipwtaidd 1" Nid yw wedi yfed yn helaeth o wybodaeth Swift yn ei Gulliver's Travels," neu buasai yn alluog i sillebu gair pedair sill. A ydyw Mr. Jones wedi breuddwydio mai efe sydd i fod yn deyrn Dyffryn Clettwr, fel yr oedd Calin Deffar Plune yn deyrn neu ymherawdwr ynys Lilliput? neu pa ham y cyfeiria at Liliput," Os bach o gorffolaeth y trigolion hyny, nid oes achos iddo ef gwyno yn y cyfeiriad hwn. Na, bydded hysbys iddo, ni fynwn mo hono i deyrnasu arnom. Y Shah fydd ein brenin ni tra y parhao ambell i chwech wyllt yn ei logell. Canlynwn ef yn ffyddlon heb derfysg na gwrthryfel tra fyddo ganddo logell lawn. Amraheua Mr. Jones allu a thalent man ohebwyr yr ardal. Mae yn iawn am unwaith bach ydyw ein talentan, rhaid cyfaddef. Y mae yn peri mawr dristwch i mi yn fynych fy mod mor ddidalent, yn enwedig pan yn ysgrifenu i'r un newyddiadur, a hyny ym mhen wythnos ar ol y gohebydd doniol a galluog o Gelli Aur. Dylasech, Mr. Gol., wythnos o leiaf, cyn y buasai ysgrifenydd mor dalentog yn eich breintio a llith, adael i'r byd wybod ym mlaen Haw, drwy argraffu mewn llythyrenau breision y cyfryw hysbysiad; canys dywed William Jones ei hun fel hyn, Ni chawsech y fraint o glywed oddi wrthyf." Ië, braint fawr ei maint i ni ddarllenwyr cyffredin y JOURNAL, y rhai nad ydym yn gweled yr un newyddiadur arall, ydyw darllen cyfansoddiad mor hynod. Meddyliais unwaith gyfrif gwallau grswnmadegol ei lith, ond wedi 1 0 i mi dallu fy ngolwg drosto, bernais mai 0 gormod o waith hyd yn oed ar hir-ddydd haf oedil eu cyfrif. Newydd-beth i ni yw darllen cyfansoddiad fel hwn. Cynghorem ef i ysgrifenu at Dr. Enoch am gyfran o'r funds ys, i-I M i dalu rhyw un am roi gwersi iddo. Fel un cymhwys at y gwaith, cymmeradwyem Lieutenant Crook-shank o Jinny Bridge i roddi gwersi mewn English as she is wrote; ac Apostol Pegi" o bentref Llandyssil mewn Cymraeg, gyda chaniatad Penwen," with gwrs. Ceir cryn drafferth wrtho, yr wyt yn ofni, am fod Ile i feddwl ei fod wedi pori porfa Gee yn o hir. 0 barthed i'r brawddegau disynwyr sydd yn ei lith, gwell peidio dweyd dim, gan fy mod yn barnu fod y clefyd hwn yn tnf eddy giniae ti iol. Yn nes ym mlaen yn ei lythyr, aiff dipyn yn fwy barddonol; esgyna yn ffroenuchel i ben Parnassus," ac yna diflana. Gofyna, a wnai canmoliaeth y JOURNAL wella archollion a briwiau bwmbailiff?" Na wuaiff, mae yn debyg, neu ni fussai raid i'r bwmbailiff ychydig amser yn ol, ar ol cael addewid am wely dros nos yn Alltyrodyn Arms, ddianc am ei fywyd (heb ei got fawr a nwyfau ereill o'i eiddo). Yn ddamweiniol, aeth i bentref bychan Frondeg, ac yno cadd orwedd yn ei ddillad drwy'r nos ar ysgiw rhyw Samaritan trugarog. Gwell oedd gan hyd yn oed fwm bail iff" ddianc, na dyoddef archollion a briwiau yr haid fradwrus oedd wedi ymgasglu o gwmpas y fan y bwriadau orphwys. Ai at m hyn y cyfeiria, nis gwn. Yn y rhan olaf o'i lythyr, mae'r frawddeg a ganlyn :—" Bydded hysbys i chwi, sir, na charwn ni ddim gael ymddangos yn y JOURNAL 0 hyn allan a fyddo yn tyeddu i geisio'm iselbau yngolwg fy nghyd-ryddfrydwyr." Be ferthyr, mae yn feddwl? Wiiliam Jones, Golli Aur, i ym- ddangos yn v JOURNAL! Ddarllenais i erioed am y fath beth o'r blaen. M'ae fy anwybodaeth a'm prinder o dalent yn d'od i'r golwg eto. Dyn o'i bwysau ef i ymddangos mewn papyr Gwarchod ni Corpws mor fawr mewn p«th mor frau a phapyr Pe dywedasai "gyda'r t,Y JOURNAL," cynnygiwn ar unwaith fod rhyw un i ofyn i Mr. Evans, y Siop, am y box sebon mwyaf sydd gydag ef, a'i bacio ynddo, fel y gwneir ag wyau, ac yna ein bod ninnau fel cymmydogion, ar 'nail, yn myned ag ef i'w ddangos i ddarllenwyr y JOURNAL. Ai hyn a feddylia y frawddeg yn ei lythyr ? Y mae yn ddyn digon glan gellid ef allai gael darlun o bono yn y JOURNAL, gyda'ch caniatad, syr; ond pa un a wnai hyny ychwanegu cylch- rediad eicii papyr, nis gwn mae yn bosibl y buasai gwahanol farnau ar y pwnc. Nid cynllun drwg, yn fy marn i, fuasai myned drwy waliaiiol siroedd Cymru wedi eyplysu AVilliam Jones a'i chwaer wrth- ddegymol Pegi Moelgrove—William dan law" a Pegi yn rhycli," a'i hymddiried i ofal Dr. Enoch, yna pe byddai angen pilsen, neu fod troed un o honynt yn gravelo, buasai'r meddyg medrus wrth law bob amser; ac fel herald o'u blaen i hysbysu eu dyfodiad, y goreu y gwn i am dano fnasal Apostol Pegi wetli ei amgylch-wregysu yn y siol ar gefn I- Z5 Penwen" i ganu mawl i berchen y fuwch yag ngciriau nefolaidd Watcyn Wyn, ar y don Mochyn Du a'r Shah yn ei state carriage ar eu h01 i dderbyn y pres, er ym- drechu cael y gronfa wrth-ddegyinol i fyny i fil o bunnau, yr hyn a fawr chwennychwn ei weled. Yna ni fuasai achos i William Jones ofni yr iselheid ef yng ngolwg ci gyd- Ryddfrydwyr. Gwnai Pegi, ein hen arwres anwyl, dywallt myrdd o fendithion ar ei ben. Cyn sychu fy mhin-ysgrifenu, dadganaf fy marn yn ddiduedd, syr, fy mod yn credu yn gydwybodol mae y rhan fwyaf ddealladwy o lythyr fy nghyfaill yw yr olaf, sef ei enw. Ymddengys mai ysgrifenu ei enw yw ei strongest point. Gan mai hwn yw y tro cyntaf i mi ddanfon cynixyrchion fy j'sgrifell i chwi, gobeithio y ca ymddangos yn eich rhifyn ncsaf.—Ydwyf, yr eiddoch, ic., N EWGATE Boy.