Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

EIN TREFEDIGAETHAU.

DYSGYBLAETH Y CORFF.

"DERBY DAY" Y BEDYDDWYR CYMREIG

News
Cite
Share

"DERBY DAY" Y BEDYDDWYR CYMREIG (GAN CEREDIG.) Mae gan y Seison eu rhedegfeydd ceffylau a'u chwareudai i'w difyru, a chan y Cymry eu heisteddfodau. Mae gan Eglwyswyr eu cynghres eglwysig, lle'r ymdt-iiail a. phynciau crefyddol y dydd eu gwyliau corawl, i'r dyben o wella ar gerddoriaeth y Cyssegr a'r genad- ?-I tn aeth blwyfol, i ddyfnhau y bywyd crefyddol yn yr Eglwysi. Mae gan yr Ymnei'lduwyr eu cymmanfaoedd, lie ymdrinir a phynciau perth- ynol i'r enwad, ac, fel y mae gwaetha'r modd, a phynciau gwleidyddol hefyd, fel nas gellir gwahaniaethu rhyngddynt a chyfarfodydd politicaidd; ac wedi pasio'r penderfyniadau gan y brodyr, y mae ganddynt eu cyfarfodydd n 0 pregethu, er mwyn syrnbylu y bywyd crefyddol yn y gwahanol gapeli, debygwn, a hyrwyddo llwyddiant yr achos yn gyffredinol. Ar y cy- farfodydd pregethu yma y dymunaf draethu fy lien yn yr ysgrif hon. Fel y bu'r hap, yr oeddwn ar fy ngwyliau yng ngwlad fy ngenedigaeth—newydd ddyfod i lawr o'r Btifddinas-a chefais gyfleusdra i 0 fyned i Gymmanfa'r Bedyddwyr yn Waen- clyndaf, ym mhlwyf LIansadwrn, sir Gaerfyr- ddin, ar yr lleg o Fehefin. Ar fy flot-dd i fwynhau fy hun ar hen fryniau Ceredigion, arosais am ychydig ddiwrnodau gyda cliyfaill i mi yn nyffryn ffrwythlon Tywi, i fwynhau awelon balmaidd a golygfeydd swynol sir Gaerfyrddin. Bedyddiwr selog yw fy nghy- faill, ac edrychai ym mlaen am wythnosau gyda dysgwyHadau dwys am y gymmanfa. Yr oedd i fod yn gymmanfa fawr, yn cyn- nrychioli tair sir—Caerfyrddin, Aberteifi, a Phenfro. Yr oedd genym rai milltiroedd o ffordd, a chyrhaeddom yno ganol dydd, erbyn yr oedfa dau o'r gloch. Pentref bach tlws, hynod lanwaidd, ar ael y bryn, yw Llansadwrn, a meddyliais, wrth fyned trwyddo, fod y tri- golion yn orgrefyddol, fel pobl Athen gynt, t5 n gan fod yno hen Eglwys y plwyf, capel y Methodistiaid, capel yr Annibynwyr, ac ychydig allan o'r pentref capel y Bedyddwyr. Dylai pobl Llansadwrn fod yn bobl da. Dy- wedir fod yn byw yno offeiriad, bugail y Methodistiaid, gweinidog yr Annibynwyr, a 0 9 gweinidog y Bedyddwyr. Go dda, onid e, mewn plwyf gwledig 1 Y fath wastraff ar Z5 allu a chyfoeth! Ond rhaid myned aty pwnc dan sylw, neu bydd y rhagymadrodd yn fwy CIY na'r bregeth, fel twr Eglwys Gorseinon yn fwy na'r corft. Y PREGETHWYR A'R PREGETHAU. Eisteddai Iluaws o bregethwyr ar yr esgyn- lawr, a gwelais lawer yma a thraw yn y gyn- nulleidfa, a thri neu bedwar hwnt ac acw ar y macs yn ymgommio yn ddifyr, ac am bell i un ar y ffordd gyfagos yn mwynhau ei chwiff Z3 Z5 brydnawnol o'i getyn cwtta. Dysgwyliwn glywed hen gewri'r|enwad yn traddodi'r gen- adwri; ond yn ofer y chwiliwn am danynt ar yr esgynlawr pregethwyr ieuainc oedd yno, Z5 t5 gydag un eithriad. Gobeithiwn yn erbyn gobaith y deuai rhai o'r hen batriarch i'r golwg, ond cefais fy siomi. Ac yn y man cy- fododd gwr ieuanc i fyny-dyn trwsiadus cryf a heini, yn sefyll yn syth ag un llaw yn llogell ei fritis cadwodd hi yno o ddechreu hyd ddi- wedd y bregeth, a synwn ni fawr nad yw hi yno y fynyd hon. Darllenodd ei destyn yn araf a dystaw, rhag ofn y buasai'r gynnull- eidfa yn ei glywed, gallwn feddwl; ond fel yr elai ym mlaen, poethai at y gwaitli; dechreuai gerdded yn ol a blaen codai ei law ddeheu i fyny at ei ben, gan gribo a brwsio ei wallt bob yn ail. Yr oedd y Haw arall yn y llogell yn barhaus siglai yn ol ac ym mlaen ar yr esgyn- lawr, fel yr ymddangosai yn union fel deryn- brith-yr-oged. Gweled un tebyg i hwn yn ddiau a barodd i Spurgeon alw y pregethwyr sydd yn ymddwyn felly yn wxgtails. Pregeth ddwfn athrawiaethol oedd ganddo; ac wrth wrando arno, methais yn oleu deg ddirnad pa effaith y dysgwyliai iddi gael ar y gynnull- 0 Z5 eidfa. Yr oedd y genadwri yn cael ei thaflu i'r cysgod gan fawredd y traddodwr. Yr wyf wedi bod yn gwrando ar Ganon Liddon, a chewri ereill yn y Brifddinas, ac yr oeddwn yn gallu dilyn llinyn eu rhesymeg yn weddol dda; ond yn fy myw nis gallaf gofio pregeth y gwr hwn. Yr unig beth sydd ar fy nghof heddyw 0 y yw yr byn a ddywedodd am dano ei hun—y man y ganwyd ef, ac felly yn y blaen. Ar ei ol, cododd hen wr parchus yr olwg, a phregeth- odd yn weddol ymarferol, ond ychydig yn rhy ysgafn i wneyd un lies parhaol. Ei brif bwnc oedd Crist fel Meichniydd ac ymddangosai dipyn yn anghysson wi-tfi ddyweyd fod cariad Crist gymmaint nes iddo roddi ei fywyd dros ereill, ac eto yn cynghori ei wrandawyr i beidio er dim meichnio neb, fel pe bai y perygl o golli ychydig o fndr-elw yn fwy pwysig na bywyd y Gwaredwr! Ond ni ddywedaf ddim ym mhellach am yr hen wr, gan fy mod, er yn foreu, wedi fy nysgu i barchu fy henafgwyr. Terfynodd yr hen wr yn gynt nag y dymunai, er mwyn dal y tren, meddai ef. Pa ham, Mr. Gol., y mae pob pregethwr mor ofalus i ddy- 0 y weyd o'r pwlpud gymmaint o'u helynt en hun- ain 1 Beth gwell yw'r bobl o glywed lie y ganwyd y pregethwr; lie y mae yn gwein- idogaethu lie y treuliodd y noson o'r blaen y rheswm ei fod yn pregethu o flaen neu ar ol hwn a bwn ? Gallwn feddwl fod yma berygl i ddyrchafu eu hunain ar draul darostwng Crist. Gallwn feddwl y dylai pregethwr guddio ei bersonoldeb ei hun yn y genadwri. Ond ymddangosai y pregethwyr hyn i mi, mai n y rheol ganddynt hwy yw, Myfi yn gyntaf, a'r genadwri wed'yn Y casgliad naturiol yw, tD mai en prif amcan ydyw dangos pwy yw y gwr goreu a mwyaf enwog yng ngolwg y gynnull- I m Z3 n Z5 I'll eidfa—race am y goreu ydyw'r gymmanfa hon ydyw Derby Day y pregethwyr. Sain- Join" y Derby Day hwn oedd y gwr ieuauc a ddilynodd yr hen wr (yr oedd tri pregethwr yn yr oedfa hon !) Gwr tal llathraidd, hir ei goes, hir ei wallt, a gwelw ei wyneb oedd hwn. Wrth ei glywed yn dechreu, meddyliais mai un o'r treacle jyreachers oedd. Yr oedd hwn yn waeth pechadnr na'r cyntaf yng nghylch rhoddi ei ddwylaw yn ei logellau. n zn Cadwodd y ddwy law yn hold fitst yn ei logellau bron hyd y diwedd piti garw na fuasai car- Z5 iadon y gwyr ieuainc hyn yn dangos iddynt In anfoneddigeiddrwydd yr arferiad gwrthun hwn. Dywedodd ei fod dan anhawsder mawr i sefyll ger bron y gynnulleidfa. ar ol y cewri ag oedd wedi ei ragflaenu yn yr exhibition; 0 Z5 ond addawodd wneyd ei oreu. Cyn diwedd y bregeth, yr hon a harhaodd am ryw chwarter awr, dangosodd mai nid treacle i gyd ydoedd, ond fod yna rhyw gymmaint o brimstone wedi ei gymmysgu ag ef. Siaradai yn hollol ddi- daro am uffern a'i fflamiau, a'i ddwylaw yn gysurus yn ddwfn yn ei logellau ond y man cerddodd yn araf yn ei ol ar vr esgynlawr, nes y pwysai ei gefn ar y mur, tynodd ei ddwylaw allan, cododd hwynt i fyny fel yn barod i redeg gyrfa. Meddyliais ei fod yn bwriadu neidio dros y bwrdd ag oedd ar yr esgynlawr, ond n oy meddyliais wedyn nad oedd yn angenrheidiol iddo gymmeryd cymmaint o hedfa. i gyflawnu hyny o gamp. Dywedodd ei fod am dalu com- pliment i Ymneillduwyr Cymru, a gwaeddodd nerth asgwrn ei en, a'i ddwylaw yn chwiiio uwch ei ben, Beth sydd wedi gwneyd y Cymry mor grefyddol ? Beth sydd wedi cadw ?I crefydd yn fyw trwy yr oesau 1 Ai cyssyllt- iad crefydd a'r wladwriaeth 1 Nag e Ai y prif-ysgolion i addysgu dynion i bregethu yr In Z5 C, Efengyl1 Nag e Wel, beth ynte ? Pre- OY gethwyr a'u calonau wedi eu tanio gan sel dros achos y G wared wr, a cliat-iad tcag at eneidian dynion "-fel efe! Yna gofynodd am fendith yr Ysbryd ar y gymmanfa, a ther- fynodd yr oedfa brydnawnol. Hwn aeth a'r belt o ddigon er fod pedwar i bregethu yn yr hwyr, dywedir mai hwn aeth a hi; ac felly efe yw arwr y Derby am 1890. Dywedir fod pethau amgylchynol (environment) yn dylan- ny wadu ar y cymmeriad; a gallwn feddwl fod y pregethwr hwn wedi cael ei ser ferwedig oddi wrth y ffaith ei fod yn byw yn nyffryn Teifi, hyny yw, rhwng preswylfod "Bob Jeffreys" ac anneddle "Peggi Benwen," dau arwr y gwrth-ddegymwyr. Yn awr, beth yw dyben y cyfarfodydd pre- gethu yma ? Sefydlwyd hwynt ar y cyntaf, yn ddiau, er mwyn deffroi pechaduriaid o'u cwsg ysbrydol. Clywais lawer gwaith gan yr hen bobl fod y gwrandawyr yn hongian megys t5 Z5 n wrth wefusau yr hen bregethwyr Cymreig, ac vn cael eu gwefreiddio gan en hyawdledd duwiolfrydig a'u difrifoldeb, ac fod yr Efengyl yn allu y pryd hwnw i gadw llawer pechadur. Ond yn sicr, nid yw y pregethau yma yn cael yr un dylanwad yn awr. Ymddengys y pre- gethwyr yn rhy ddidaro, difraw, ac ysgafn, ac o ganlyniad nid yw y gwrandawyr yn gwran- daw yn astud o gwbl, gan ddysgwyllles i'w heneidiau; ond er mwyn eu difyru gan chwaeth iselwael y pregethwyr. Clywir hwy yn siarad a'u gilydd yn uchel; yn wincio y naill ar y llall, ac yn ymddwyn yn anwedd- aidd. Entertainment ydyw nid oes gwahan- iaetli rhwng y gymmanfa a'r eisteddfod cys- tadleuaeth pregethwyr ydyw. Tueddir fi i feddwl fod Y mneillduaeth ar dranc—fod yr eneiniad wedi ymadael; ac y mae yn rhaid cael rhywbeth gwell na'r cyfarfodydd pre- gethu yma i ail ennyn y tan sanctaidd. Gwelir "Ichabod" yn ysgrifenedig ar gapeli Cymru. Ymneillduaeth yn wir Beth pe gofynid i'r hurtyn coegfalch hwnw ag oedd am dalu com- pliment i Ymneillduwyr Cymru, Pwy blanodd Cristionogaeth ym Mbrydain? Pwy a'i cad- wodd yn fyw yn yr oesau tywyll 1 Pwy rodd-1 odd y Beibl i'r Cymry yn eu hiaith eu hunain? Pwy ond hen Eglwys eu tadau Eglwys yr 0 Z5 Apostolion, Eglwys y merthyri. Eglwyswyr, gwerthfawrogweh eich breintiau gwnewch yn fawr o'r moddion y mae hi yn ddarparu. Y mae hi wedi goroesi llawer ystorm y mae Z!5 wedi pregethu yr Efengyl yn ei phurdeb cyn n n geni Ymneillduaeth; y mae yn gweithio hedd- yw yn ddystaw, nes yn y man y lefeinia yr holl does. Daw ei phlant eto yn ol i'w myn- wes megir llawer o feibion a merched eto o'i mewn i lanw conglau y nefoedd. Bydd yr ben Eglwys Gatholig byw tra bo amser; mae ei sail ar y mynyddoedd sanctaidd, a Christ yw ei Phen congl-faen. Eglwyswyr Cymru, byddwch yn blant ffyddlon iddi, a chwi a gewcli wobr ffyddiondeb-cot-oii y bywyd.

CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN TEIFI.

DYFFRYN CLETTWR, LLANDYSSIL.