Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

LLANYBYTHER.

News
Cite
Share

LLANYBYTHER. At Olyyydd Y JOURNAL. SL'R,—Yn y rhifyn cyn y diweddaf o'ch newyddiadur, ymddangosodd llith yn dwyn yrenwau "Williams" (Merthyr)a "Didymus," pa rai a ddaethant allan yn gryf i wvthsefyll yrhyn a ddywedodd un o'ch gohebwyr, (yr hwn a adnabyddir wrth yr enw D. 0,") yr hwn a roddai ychydig o hanes pysgota anghyf- reithlawn sydd yn cymmeryd lie yn rhy ami ar lanau yr afonydd a'r nentydd sydd yn ymdreiglo trwy ein hardal. Nid oedd, ebai'r gohebwyr galluog "Williams a Didymus," ddim trwy ei ysgrif ond swn cerydd, yr hyn, debygaf, sydd yn dangos yn bur debyg o fod yn taroyn agos iawnat gydwybod "Williams," ac hefyd yn methu a myned heibio "Didymus," heb gyffwrdd a'i gydwybod yntau. Os dyfod allan mae'r gohebwyr yma i amddiffyn tri- golioR Llanybyther, mae can croesaw iddynt ond yr wyf yn ofni fod ganddynt ormod o orchwyl i'w gyflawnu o'u blaen y tro hwn. Mae yn flin genyf fy mod yn gorfod dweyd y fath eiriau am diigolion y pentref. Amcan D.O." yn ddiddadl, yn ei lith, oedd ysgrifenu ychydig am danynt, gan obeithio y byddai hyny yn rhoi terfyn ar y fath waith ond yn lie hyny, mae bobl Llanybyther fel pe yn herio fod rhyddid ganddynt hwy i gyflawnu y fath beth, o blegid cyn pen ychydig ddyddiau wedi i'r llith ymddangos, gwelais ddau ddyn yn cyflawnu y gwaith. Peidied Didymus a meddwl mai adeiladu oedd y bobl yma, na chwaith yn cymmysgu eu cymmrwd ger llaw yr afon, ond yn wirfoddol yn cludo y marwor angeuol i'r afon, gan ddifa ei heiddo. Dywed- odd D.O." yn ei lith fod y pysgod i'w canfod wrth y cannoedd yn drygsawru y dwfr. Gwir oedd y peth, ac mae yn druenus meddwl fod y fath waith yn cael ei gyflawnu yn ein hardal. Ond eu henwi yn bersonol a ddylem, ac nid goddef hyn yn rhagor. Gobeithio y bydd hyn yn rhybudd iddynt, yw dymuniad LLAXC A'R FFOX.

CAERFYRDDIN.

O'R BUNT PAID BOD 'N ESGEULUS.

EMYN HWYROL.

Y WIWER.

SOUTH WALES ASSIZE CIRCUITS.

MISCELLANEOUS.( __-

IFARM AND GARDEN.

Advertising

REVIEW OF THE BRITISH CORNI…

MARKET S.

QUOTATIONS OFF STANDS AT MAUK…

THE SIGNALMAN OF THE MIDLAND,

TENBY AS A SEASIDE RESORT.

Advertising