Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

-------AGORIAD EGLWYS NEWYDD…

News
Cite
Share

AGORIAD EGLWYS NEWYDD GYM- REIG YNG NGHAERFYRDDIN. Boreu dydd Mawrtli diweddaf, cyssegrwyd Eglwys newydd Sant loan gan Arglwydd Esgob Ty Ddewi. Eglwys dlos yw yr un uchod, ac y mae clod uchel yn ddy- ledus i'r architect a'r contractors am en gwaith ysblenydd. Y mae eisteddleoedd ynddi i 350 o addolwyr, ac y mae y pwyllgor adeiladu wedi bod yn ffortunus iawn i gael rhoddion. Y mae'r ddarllenfa (neu y lectern) yn un hardd dros ben, a rhodd plant y diweddar Mr Spurrell ydyw er coffadwriaeth am eu tad. Y mae y geiriau canlynol yn gerfiedig arni "Er gogoniant i Dduw, ac mewn serchus goffadwriaeth am William Spurrell. Ganed Gorphenaf 30fed, 1813; bu farw Llun Pasc, Ebrill 22fed, 1889." Deallwn fod Mr. T. Thomas, y Tanyard, wedi roddi Beibl hardd i'w osod arni. Cafodd y bedyddfaen (font) ei roddi gan Mrs. Edwards, priod Esgob Llan- elwy a'r bedyddfaen-trochyddol gan Mr Tom Jones, Heol Mansel. Fe welir y gellir taen- ellu yn ogystal a throchi yn yr Eglwys uchod. Y mac y Parch. T. J. Bowen, ficer Llangat- tack (gynt curad y plwyf), wedi gosod ffenestr hardd yn y rhan ddwyreiniol o'r EgIwys er Goffadwriaeth am ei ddiweddar dad. Yn ddiddadl, yr oedd eisieu Eglwys new- ydd ar Eglwyswyr y rhan ddwyreiniol o'r dref, ac i Esgob Llanelwy yn benaf y maent i ddiolch n y am hyn. Efe oedd (pan yn ficer Eglwys Sant Pedr) a Haw flaenaf yn y matter, ac yr oedd yn cael ei gefnogi yn yr anturiaeth gan Ddr. Rowlands, Mr. W. M. Griffiths, ac ereill. Gwir fod yr Ysgoldy Cenedlaethol (lie y cyn- nelid y gwasanaethau er ys blynyddau bellach) yn adeilad hardd, ond nid oedd dim addas- rwydd ynddo i addoli Duw fel y chwennychai yr aelodau. Hefyd, yr oedd yr adeilad yn cael ei gorlenwi yn anghyfleus ar nos Suliau. Yug nglyn ag agoriad yr Eglwys newydd, 0 Z3 ZD pregethodd Esgob Ty Ddewi yn Eglwys Sant Pedr boreu dydd Sul; a nos Lun, yn yr un Eglwys, gan Canon Gauntlett, Abertawe. Cafwyd casgliadau da yn y gwasauaethau hyn tuag at drysorfa yr Eglwys newydd. Yn y boreu crybwylledig, cyfarfu yr offeir- iaid, y pwyllgor adeiladu, &c., yn EgIwys Sant Pedr, lie yr aethpwyd yn orymdaith i'r Eglwys newydd. Aethpwyd yn y drefn gan- lynol:—Aelodau pwyllgor adeiladu yr Eglwys newydd, aelodau y corau, o ddeutu trigain o offeiriaid, ac Esgobion Ty Ddewi a Llan- elwy. Yr oedd yr heolydd wedi eu haddurno a baneri hardd, ac yr oedd yr olygfa yn rhyw- beth tu hwnt i'r cyffredin. Ni welwyd erioed y fath dorf yn Heol y Prior. Yr oedd yr Eglwys yn orlawn o addolwyr. Cafodd y cyssegriad ei gyflawnu gan Esgob Ty Ddewi, yn cael ei gynnorthwyo gan Archddiacon ny James y Parch. J. Lloyd, Ficer Sant Pedr y Parch. D. Pugh Evans, Rheithor LIanbedr Felfrey; a'r Pareli. S. Jones, Ficer Llan- gynnor. Wedi i waith y cyssegriad der- fynu, cynnaliwyd gwasauaeth yn yr Eglwys, a phregethwyd (yn Gymraeg)gan Esgob Llan- 11 1-11 0 elwy oddi ar y gel i-ia it, Eithr chwychwi ydyw corfl* Crist, ac aelodau o un rhan"(l Cor. xii. 27). Yr oedd yn bregeth llleistroJgar; ac i arferyd geiriau Dr. Rowlands yn y rhag- bryd, yr oedd yn bregeth ardderchog, hyawdl, a theyrngarol (grand, eloquent, and patriotic). Yr oedd canu y corau undebol yn soniarus dros ben, ac y mae clod yn ddyledus i Mr. C. Videon Harding a Miss Effie Spurrell am eu hyradrechion. Yr ym wedi mynegu o'r blaen yn ein colofnau am y canu da sydd yn perthyn i'r Eglwys Gymreig yn Heol y Prior. Ar ol pregeth yr Esgob, casglwyd dros S54 tnag at y drysorfa adeiladu, a gweinyddwyd Swper yr Arglwydd. Yn y prydnawn, am ddau o'r gloch, yr oedd rhagbryd (luncheon) yn yr Ivy Bush Royal Hotel, Mr. James Rowlands, F.R.C.S., yn llywyddu. Yr oedd dros gant a hanner o foueddigion a boneddigesau wedi dyfod yng nghyd. Ym mhlith ereill oedd yn wyddfodol, yr oedd Esgob Ty Ddewi a Mrs. Basil Jones Esgob Llanelwy a Mrs. Edwards; Archddi- acon James, Abergwili; Mrs. a Miss Saun- ders, Cwrt Henri; y Parch. J. Lloyd, Ficer Sant Pedr, ac Mrs. Lloyd. Cafwyd anerch- iadau gan y cadeirydd Mr. J. Lewis Pliilipps, Bolahaul; Esgobion Ty Ddewi a Llanelwy; Mr. Tom Jones, Heol Mansel, ac ereill. Yn yr hwyr, am saith o'r gloch, cynnaliwyd gwasanaeth yn yr Eglwys, pryd yr oedd yr adeilad yn orlawn o addolwyr, a methodd ugeiniau os nad cannoedd a chael lie. Y pregethwr appwyntiedig oedd Canon Evans, Rymni, un o gewri yr Eglwys a golygydd y n 1!5 zn Cyfaill Egl-wysig. Cymmerodd y Canon ei destyn oddi wrth y geiriau—" Pan weddioch, dywedwch, Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd," a phregethodd yn ei ddull meistrolgar arferol. Casglwyd dros wyth punt yn y gwasanaeth hwn. Nos Fercher a nos Iau, pregethwyd gan y 0 el Parchedigion J. M. Griffiths, Ficer Llanfi- ban get-getieu'r--lyii, ac' Anthony Britten, ficer Meidrym, i gynnulliadau mawrion, a gwnaeth- z,Y e5 pwyd casgliadau ym mhob un o'r oedfaon. Nid ym yn abi yn y rhifyn hWll i hysbysu ein darllenwyr pa sut y saif y ddyled, ond y mae wedi sisial i ni na fydd rhyw lawer ar ol (os peth o gwbl). Mae y Parch. J. Lloyd a'i briod hawddgar, y curadiad, a'r pwyllgor yn gytfredinol, wedi gweithio yn egniol dros yr Eglwys "estronol" Gymreig newydd ym mhlwyf Sant Pedr, Caerfyrddin.

CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN!…

PLWYF LLANFIH A NGEL-AR-ARTH…

CWMAMMAN.

--_---------! STREIC Y MYFYRWYR…

CAERFYRDDIN.

LLANGELER.

--_----------_----------_--PANTGLAS,…

DYFFRYN CETTWR,

LLANYBYTHER.