Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

-----------._------------------------TREF,…

News
Cite
Share

TREF, GWLAD, A THRAMOR. Deallwn fod cyfarfod o Weinidogion y Weinyddiaeth bresennol wedi cymmeryd lie yn Llundain dydd Mawrth diweddaf, er mwyn ystyried y modd goreu er hyrwyddo eu gwaith yn Nhy y Cyffredin, ac er gorchfygu cadofyddiaeth (tactics) gwaradwyddus y gwrthblaid yn y Ty, pa rai sydd beunydd yn ymhyfrydu mewn rhwystro y Weinyddiaeth Undebol. Bodolai y cydsyniad llwyraf ym mhlith yr aelodau o bartbed sefyll yn gadarn dros basio Mesur y Degwm, Mesur Pryniad Tir yr I werddon, a Mesur y Trwyddedau yn ystod y senedd-dymmor presennol. Diammheu mai cwestiwn Mesur y Trwyddedau ydyw y blaenllaw gyda'r cyhoedd yn bresennol, ac edrychir arno gan rai dynion penboeth gyda dirmyg a drwgdybiaetb. Er ys dros 20 mlynedd o amser, nid oes yr un mesur wedi ei basio gan unrhyw Weinyddiaeth er dyrchafu dirwest yn ein plith. Er adeg mesur Mr. Bruce, mae y blaid ddirwestol wedi gwrthod yn wastadol bob ymdrech ar ran y gwahanol lywodraethau er riieoli y fasnach feddwol. Gwell ganddynt fod heb fara o gwbl na chael hanner torth. Os na chant eu ffordd eu hunain, gwnant eu goreu tuag at orchfygu cynnygion ereill ac yn 0 ZD t5 awr, pan y mae mesur defnyddiol ac yruarferol yn cael ei gyflwyno iddynt gan lywodraeth sydd yn gryf ac yn onest yn ei hymdrechion er hyrwyddo achos dirwest, y maent yn troedio yr nn llwybr annoeth, os nad yn wir gwall- In gofns, a mabwysiadant yr un lywodraethydd- ?3 iaeth ar y rhesymau mwyaf distadl a gwael. Y mae cynhyrfiad wedi hollol fethu leihau anghymmedroldeb drwy unrhyw ddeddf, ac os ydyw trigolion ein teyrnas yn awr yn fwy I y cymmedrol mewn cyfartaledd i'r boblogaeth nag y buont, mae hyn yn ddyledus i weith- garwch dyngarwyr neillduol, yn hytrach nag i gymhelliad nen orfodaeth llywodraethyddol. Gwrthoda Syr Wilfrid Lawson a'i ganlynwyr y mesur, o herwydd, meddant, y gwna roddi awdurdod cyfreithlawn i'r athrawiaeth o iawn- dal. Desgrifia ereill gynnygiad y llywodraeth fel un "mall, anonest, a rhag- rithiol i waddoli y tafarnwyr." Ond, fel y mae Mr. Ritchie wedi dyweyd dro ar ol tro, ni wna y Bil hwn newid cyflwr presennol y cwestiwn o iawn dal yn y modd lleiaf. Ni bydd i waith y Cynghor Sirol ddifreinio, ond i gydredeg a gwaith yr Ynadon. Bydd y modd o drwyddcdu fel yn bresennol mewn grym rhwng yr ynadon a'r tafarnwyr. Amcan y mesur ydyw galluogi y Cynghorau Sirol i gau rhai tafarndai diraid yn eu gwahanol gym- mydogaethau, a hyny trwy roddi iawn teg i'r person a ddal y drwydded. Ni ddaw yr arian angenrheidiol i hyn allan o bocedi y trethdalwyr, ond trwy dreth ychwanegol ar y fasnach ei hun. Os bydd i'r ynadon wrthod adnewyddu unrhyw drwydded, ni pbertbyn i'r Cynghor Sirol roddi iawn i'r cyfryw. Gallasem feddwl fod cynnygiad y Ilywodraeth i ychwanegu y duty ar ddiodydd meddwol o ryw £ 1,300,000 y flwyddyn, ac hefyd i wrth- wynehu trwyddedau newydd ond mewn aclios- ion gwir gymhelliadol, yn ddigon i ddwyn oddi amgylch gydweithrediad pob aelod ag sydd o ddifrif yn ewyllysio daioni i'r achos. Ond y gwir am y petb yw, fod y Gladstoniaid yn ymaflyd yn y cwestiwn hwn er mwyn rhwystro a dyrysu y llywodraeth. Nid oes braidd yr un aelod o nod ym mysg y blaid Rhyddfrydol yn y Ty ar nad yw wedi roddi ernes o'i foddlonrwydd i gydnabod yr eg- wyddor o iawn-dal. Pe bai Mr. Gladstone ond dyfod i awdurdod yfory, teimlwn yn sicr y byddai gyda'r cyntaf yn cyhoeddi yn hoew fod y tafarnwyr mewn cyfiawnder yn gwir deilyngu yr un mesur o ystyriaeth ag unrhyw aelod arall o'r wladwriaeth. Credwn y gwna y mesur basio, a chredwn y gwel y wlad resymoldeb yr egwyddor ar ba un y mae wedi ei svlfaenu. J # Nos Wener diweddaf, yn Neuadd y dref, Caerfyrddin, cafwyd anerchiad gan Mr. W. H. Helm ar Gwestiwn y Degwm." Llyw- yddwyd mewn modd deheuig iawn gan Dr. Rowlands. Nid oedd y gynnulleidfa ond bychan. Truenus yw meddwl am oerfelgarwch E^lwyswyr y dref ar adeg mor bwysig a ther- fysglyd a hyn. Nid amser i hepian ac i gysgu yw° y dyddiau hyn i Eglwyswyr Cymru. Siaradodd Mr. Helm am dros awr a hanner, a chwilfriwiodd yn garneddau yr anwireddau noeth a ledaenir drwy y wasg Radicalaidd a'r pulpud Ym neillduol am darddiad a gwir amcan y degwm. Ar ol i Mr. Helm orphen ei araith, rhoddodd y cadeirydd gyfle i unrhyw un i ofyn cwestiynau i'r areithydd ond ni bu neb å digon o wroldeb i ddyfod ym mlaen. Wedi talu diolchgarwch i'r areithydd a'r cadeirydd, penderfynwyd anfon deiseb at Weinidogion ei Mawrhydi i gael Mesur y t5 Degwm (yr hwn a rydd foddlonrwydd i bawb) yn gyfraith mor fuan ag sydd bosibl. Boreu dydd Sul diweddaf, yn Eglwys Gymreig bet.thynol i Sant Pedr, Caerfyrddin, yr oedd y Parch. W. G. Spurrell, B.D., un o minor canons Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi, a mab y diweddar Mr. William Spurrell, argraffydd a chyhoeddwr, yn gweinidogaethu. Y [iite yn dda genym weled nad yw yr iaith y bu tad y parchedig uchod yn myfyrio cym- niaint arni, ddim wedi ei hanghofio a'i diystyru gan y mab. Yn rlianbarthau corsog o swydd Lincoln, mae pla y llygod yn parhau o hyd, ac y mae dinystr ofnadwy yn cael ei wneyd. Mae'r llygod with y mil oedd yn cael eu lladd; ond nid oes un argoelion am leihad. Ar rai o'r ffermydd gwaethaf, y n.ae cymmaint a chant y dydd yn cael eu lladd, ac y mae un daliwr llygod, ag sydd yn byw yn Spalding, wedi lladd rhyw bedair mil yn ystod yr ychydig fisoedd diweddaf. l\Iae'l' dalwyr yn mynegu r5 fod y gwaethaf eto i ddyfod, ac y byddant yn y "auaf yn heidiau mewn rhifedi yn fwy nag erioed Mae'r creaduriaid yn amlhau mewn rhif- edi arswydus. Y mae amryw nythoedd wedieu cael yn cynnwys 17 neu 18 o lygod farfyddiad agos t^t bach Pan y deuir i gyfarfyddiad agos a hwynt y maent yn hynod o beryglus (vicious), ac mewn amrai o enghreifftiau wedi ymosod ar bersonau. Heb law lladd hwyaid a chywion, y mae'r llygod wedi ymgymmeryd at Z5 ddifrodi gwenith, many olds, pytatws, a phlan- igion yn y caeau. ° Synwyd preswylwyr un o faesdrefi Paris boreu dydd Mawrth diweddaf gan ymddang- osiad dynes canol oed yn rhodio yr heolydd yn ei dillad nos. Ni chymmerai yr un sylw o ddim a ddywedid wrthi gan yr ugeiniau a yrndyrent o'i chwmpas. Parhau i fyned yn ei blaen y buasai oni bai i rywun ddyfod ati a'i chipio yn ei freichiau i'r ty y daethai hi allan o hono. Ei gwr ydoedd, ac ni wnaeth y wraig unrhyw wrthwynebiad. Cwsg-rodio yr oedd, ac ni ddeffrddd o'i hftn am rai oriau ar ol yr anturiaeth ryfedd hon. ♦ Y mae yn hyfrydwch genym hysbysu ein darllenwyr fod Arglwydd Windsor wedi ei m benodi yn Arglwydd Raglaw dros sir For- ganwg yn lie y diweddar Mr. Talbot, A.S. 5 6

CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN TEIFI.…

PENCADER.

LLANGELER.

GWIBDAITII I GEREDiGION.

CAERFYRDDIN.