Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

------------CYFYNGU RHYDDID…

News
Cite
Share

CYFYNGU RHYDDID Y BOBL. Nid oes eisiau gwell prawf taw y gormes- aeyrn mwyaf sydd mewn bod yw Democrat- laeth, na'r Bil a gynnygir tuag at rwygtro gwerthrant diodydd alcoholaidd ar y Sal yna■ Nghernyw. Mae rhagymadrodd y Bil yn cynuwys gosodiad sydd naill ai yn anwiredd neu un sydd yn gwneuthur y Bil yn beth dianghenraid a ffol. Y gosodiad yw fod pobl Cernyw yn awyddus ar i'r darpariadau sydd mewn grym er cau tafarnau ar ryw oriau neillduol y Sul i gael en hestyn at yr oriau eraill ar y Sul." Yn awr os oes unrhyw eisieu ar y ddaear cael y Bil hwn nid yw y gosodiad yna yn wirionedd. Oherwydd os yw holl bobl Cernyw yn wrthwynebol i bobl fyned l dafarn ar y Sal, nid oes ganddynt ddim i'w wneuthur ond aros allan fel un gwr, ac fe eill y tafarnwr gau neu agor ei ddrws fel y gwelo'n oreu, o'r hyn leiaf, byddai Deddf Seneddol yn ddianghenraid. Ond os oes rhyw reswm dros gael Deddf, rhaid taw am fod yng Nghernyw rai personan nad ydynt yn awyddus fel y dywedir yu y rhagymadrodd. Gan hyny, y mae yn amcan gan gefnogwyr y Bil-illr. Charles Acland, Air, Conybeare, Mi. McArthur, Mr. Bolitho, a Mr. Courtney i orfodi y eyfryw o'r Cernywiaid na welant fel y maent hwy yn gweled, i weithredu fel y gweithredant hwy. "Am nad ydym ni yn dewis neu am nad oes eisiau arnom fyned i dafarn, ar y Sul am beint o gwrw," meddant hwy, ni chewch chwithau fyned." Dyma wir natur y weithred fwriadedig hon o ormes, yr hon y cyanygir ei chuddio fel gweithred wirfoddol o du "pobl Cernyw." Nid oes eisieu dadleu y pwnc yn awr, pa un a yw cau tafarnau ar y Sul yn rhwystro yfed ai peidio. Mae yr hanes a gafwyd yn ddiweddar yng nghylch gweithrediad Deddf Forbes Mac- kenzie yn Ysgotland, a chrynswth y tystiol- aethau a roddwyd o flaen y Commissiwn a fu yn chwilio i mewn i'r pwnc yng Nghymru, yn dangos yn eglur iawn nad yw cau tafarnau ar y Sul yn rhwystro yfed, ond yr :i yfed ym mlaen mewn ffyrdd gwaeth o lawer na dyn yn cerdded i fewn yn wyneb-agored a gonest i dafarn a chael ei ofyn yng ngwyneb pwy bynnag a'i gwelo. Mae y Bil dan sylw yn engraifft, ac yn engraifft wrthwyneblyd iawn, o awydd ac ym- gais rhyw esgus ac enw o Ryddfrydwyr i tfrwyno a chyfyngu rhyddid y bobl. Nid yw nac anfoesol nac anghyfreithlawn i'r gweith- iwr gael peint o ddiod gyda'i ginio ar ddiwrnod gwaith; paham y mynir gwueyd hyny yn anghyfreithlawn ar y Sul ? Os oes rhai pobl hyd yn nod yn meddwi ar y Sul, fel y gwnaent yn union pe byddai tafarnau yn cael eu cau, paham y rhwystrir yr hwn a yfa yn gymmedrol rhag cael peth yfed ? Effaith deddfwriaeth o'r fath a gynnygir i Gernyw, fel y mae gyda ni ;my 15 yng Nghymru ar hyn o bryd, yw peri i'r rhai sydd yn hoff o gwrw ei fynu, drwy gam neu gymmhwys, tt-a y mae yn rhaid i gymmedrol- wyr fod hebddo a pheri iddynt deimlo yn ddig at yr anghyfiawnder a welant neu efallai y gyrir hwy mewn yspryd herfeiddiol i ymuno a rhengau y rhai hyny a gant eu 0. Z5 cwrw mewn ffordd lechwraidd ac anghyfreith- lawn. Ymddengys profion yn barhaus tod y 0 Blaid Ryddf rydot -plaid a honant eu bod yn caru rhyddid—yn cefnogi gormes a gorfod- y 0 aeth. Mae symmudiad ar droed yn awr, a gwthir ef yrn rnlaen yn gyfiym, i rwystro dynion mewn oed i weithio cyhyd ag y mynont ac ennill arian i'w cynnal hwy a'n teuluoedd. Y llynedd a'r flwyddyn cyn hyny, ceisiwyd gan y Parliament i orfodi pob siopwr i gau ei ddrws ar ryw awr bennodol yn yr hwyr, pa un a fuasai wedi gwerthu dim neu ennill yr un geiniog ai peidio. Ar bob 11aw yr ydym yn clywed cytmygiadau i yspeilio dyn o'i reolaeth dros, ac hyd yn nod o'i berthynas a'i eiddo ei hun. Gwneir ymdrechiadau cryfion yn barhaus i alluogi ffanaticiaid gwrth-alcohol- aidd y Deyrnas Gyfunol i yspeilio rhyddid eu cymmydogion ar bob dydd o'r wythnos yn yr un modd ag yr amcana y Bil a gynnygir ar 0 Z3 gyfer Cernyw ddifeddiannu y Cernywiaid o'u rhyddid hwy ar y Sul. Ac y mae y Blaen-symmudwyr" Rhyddfrydol, fel y galwant eu hunain, ar Gynghor Sirol Llundain, nid yn unig yn gosod eu troed ar ben pob- petli anweddaidd mewn lleoedd o ddifyrwch cyhoeddus, ond yn ymddangos yn awyddns i gau pob llawenydd allan o honynt. 0 dan y llywodraeth Ddemocrataidd hon, ni chania- teir i'r werin gael na chaceni na chwrw, na chwerthin, nachaniatad i weithio neu chwareu fel y mynont. Bydd i'r gormes Phariseaidd hwn o eiddo crach-ddyngarwyr gynnyrchu gwrthweithiad cyn bo'n hir. Dywed Mac- aulay mewn byr eiriau fod teyrnasiad y Saint a dan Werin Lywodraeth Cromwel, wedi ei ganlyn gan deyrnasiad dosparth gwahanol iawn o bobl. Yn ddiammheu, yr oedd surni ac anystwythder y saint yn atebol am lawer iawn o'r penrhyddid a welwyd ar ol hyny, ac fe ddichon y cawn ffurf gyffelyb o wrthweith- iad eto. Y mae rhyddid, fel y dywedodd Esgob Peterboro mewn geiriau hythgotiadwy, yn bwysicach hyd yn nod na sobrwydd, ac nid yw peri i bobl a garant fyw yn ol y gyfraith, deimlo yn flin o dan attalfa ddialw am dani, ond yn tueddu at gynnyrchu yspryd gwrth- ryfelgar i raddau mwy neu lai, yr hwn a eill ddatguddio ei hun yn y rhai mwyaf disylw o honynt drwy feddwl yn fach am yr egwyddor foesol y tybir ei bod o dan wraidd, neu yn ysprydoli y fath ddeddf atgas. Y ffaith yw, nid yw pobl y wlad hon wedi eu bwriadu gan natur na'u parotoi gan arferion i fyw o dan fesurau caeth ac ymyrgar o ddysgyblaeth bersonol, a niwaid a dim ond niwaid a wna unrhyw fesurau o'r fath hyny.

ESGOB LLNELWYYN EGLWYS GAD-EIRIOL…

IADOLYGIAD.

YR YMCHWILIAD HEDDGEIDWAD-OL…

---+--AWGRYMIADAU AM ANFARWOLDEB…

GWLADGARWCH.

"GALAN HEN.77