Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
AMCANION CENEDLAETHOL.
AMCANION CENEDLAETHOL. Mewn cyfarfod o ryw Gynghor Sirol yn ddiweddar dygwyd y cynnygiad canlynol gerbron y cyfarfod gan y cynghorwr Jacob Jacob Fod y Cynghor hwnyn bendeifynol wrthwynebol i unrbyw ddeddfwriaetli ar gwesti wn y degwm ar nas byddo yn defuyddio y degwm at amcanion cenedlaethol (ac yn protestio yn gadarn yn erbyn unrbyw ymgais at leihau gwerth y degwm fel lhvgr-wobrwy i annog tir-feddiannwyr i'w brynu), a bod cofeb Z5 yn cyfieu y syniadau hyn i'w dwyn o flaen y Parliament." Ni fedrodd ein gobebydd gym- niciya 1 lawr yr iioll areithiau a draddodwyd gan yr Henadur Mr. Hwn a'i Cynghorwr Mr. Arall, ond rhoddwn gynnwysiad y rban fwyaf o honynt o fiaen ein darllenwyr, gan obeithio y cant yr unrhyw bleser wrfch eu darllen ag a gafodd yr aelodau anrhydeddus wrth eu traddodi. Y cynghorwr John John a ddy- wedodd :—Eiddo y genedl yw y degwm, ac at les y genedl y dylai gael myned. Yr wyf fi yn gryf o'r fam nas gellid gwneyd dim yn well am y flwyddyn gyntaf na thynu Clawdd Ofl'a i lawr, a rhoddi y job ar gontract, ac felly rhoddi gwaith i labrwyr Cymru. Mae Uiawcld Ofia yn waith 1 m er ys deuddeg cant ° Aynyddau. Mae eisieu symmud y gwarth- nod hwn. G waith cenedlaethol ydyw, ac yr wyf fi yn cynnyg i'r degwm gael ei droi am flwyddyn i dynu Clawdd Offa i lawr. Ar ol y boneddwr hwn cododd yr Henadur William William ar ei bedion, a dywedodd ei fod vngroes weled a'i gyd-aelod yng nghylch n n y dymunoldeb o dynu Clawdd Offa i lawr, a'i fod ef o'r fam gan ein bod yn awr ar fin cael Hunan-Lywodraeth i Gymru, mai nid tynu y Clawdd i lawr a ddylid, ond ei godi yn uwch y ?", fel ag i rwystro y Sacson l'hag tresmasu ar ein 0 Z5 tiriogaeth ni yng Nghymrn, ac nid hyny yn 0 In .11 unig, ond y dylid gorfodi y Sacsoniaid i godi y Clawdd yn uwch a gyru pob enaid o honynt dros yr Hafren, a phen iddynt fyw yn eu plith eu hunain heb gynmiaint a rhoddi troed byth ond hyny yn ein porfeydd gwelltog ni. Fy nghynnygiad i, meddai yr aelod anrhyd- eddus a gwladgarol vw, bod rhan o'r degwm "1-1 0 Z3 i'w ddefnyddio i godi Clawdd Offa yn uwch. Y Cynghorwr Lewis Lewis wedi carthu ei wddwga chymmhwyso ei special, ac edrych yn ddoeth, a ddywedodd :—Yr wyf fi yn gwerth- 0 fawrogi y syniadan a'r teiniladau gwladgarol a redent drwy yr areithiau a draddodwyd yn barod, ond y mae genyf ti gynnygiad i'w zn Z!1 Z5 ddwyn ger eich bron sydd yn fwy angen- rheidiol i'w basio yn fy nhyb i. Mae Lloegr yn manteisio gormod ar ein cefn ni yng Nghymru. Dyna er engraitft, mae yr Hafren n Z3 yn tarddn yn ein tir ni, ond yn hytrach nag aros yma, ac yniarllwys i for Cymru (llais— B'le mae hwnw 1") Mae yn eyfeirio ei phen at Loegr, ac yn dyfrhau safnauy Sacson a throi eu melinau. Fy nght-ed i yw, y dylid peri i'r Hafren aros yn y wlad y cyfyd ynddi, ac yr wyf ti yn cynnyg bod i ohebiaeth gael ei hagor, a Syr Edward Watkin yn ei chylch a'i fod i ddyfeisio cynllun i symmud ei gwely fel ag i rerieg yn Ilwyr drwy diriogaeth Gymreig, a bod rhan o'r degwm i fyned at y gorchwyl hwn. Nis medraf fi weled ein bod yn gysson a ni ein hunain wrth waeddi, Cymru i'r Cymry" os na chariwn allan y eynnygiad hwn. Symmud gwely'r Hafren yw fy nghynnygiad i, arncan gwir genedlaethol ydyw, a dylid yn ddibettai defnyddio y degwm-gwaddol y genedl—i'w ddwyn i ben. Y Cynghorwr Griffith Griffith gan fotyoiu ei got a gosod ti law chwith ym mlioced ei drowser, a ddywedodd, Mae ymdaith gwar- eiddiad yn Orllewiniol—-gyda chwrs yr haul. Ac yn awr, gan fod cyssylltiad mor agos rhwng ein syniadau ni yn y Cynghor hwn a'n zn 0 cefndryd yn yr Yilys Werdd, yr wyf fi yn cynnyg tod pont 1 gael ei chodi fel ag i'n galluogi ni yr ochr hon i gulfor Sant Sior (Ilais-11 Culfor Sant Padrig, os gwelwch yn dda?") i dramwy drosodd at ein brodyr yr ochr draw, a'u galluogi hwythau yr ochr draw i dramwy drosodd i'r ochr hon: Mae yn waith bhn a thrafferthus i fyned a dyfod mewn llong ager, a dylem ar bob cyfrif gael cyfleustra gwell i ddal cymmundeb a'n gilydd. Yr wyf fi, gan hyny, yn cynnyg bod i ddeg- ymau plwyfydd arfordirol y tair Sit-Penfi,o, Caerfyrddin a Cheredigion, i gael eu defnyddio t, m y eradeiladu pont oddi yma i'r Werddon. Byddai yn waith ardderchog ac anfarwolid enw y Cynghor Sirol hwn drwy ddwyn i ben amcan mor wir genedlaethol. Yn ol ZD egwyddor cymdeithasiad, meddyliau yr Henadur JDafydd Dafydd a gododd ar ei draed, ac a ddywedodd, "Y mae un amcan cenedlaethol arall i'w gael nad yw wedi awgrymu ei hun i feddwl neb yma. Chsvi a glywsoch son am Gantref y Gwaelod. Mae yn golled anrhaethol i ni fel cenedl fod tiroedd breision a'r treti blodeuog hyny yn gartref ceimychiaid a morloi, a'm barn benderfynol i yw, y dylid symmud y camwri, ac y dylai y genedl godi fel un gwr i yru y mor yn ei ol, ac adfeddiannu y tir a ddygwyd ganddo drwy esgeulusdod Seithenyn Feddw. Pa well amcan i ddefnyddio y degwm i'w ddwyn i n ben nac adferyd Cantref y Gwaelod 1 Yr ydym wcdi newydd beri i Loegr chwydu yn ol un Sir yn y cyfeiriad hwnw, ac oni all yr awdurdod a orchymynodd ac a gwblhaodd hyny wneyd ei mor eto i fwrw i fyny Gantref y Gwaelod ? Adferer Cat-iti-ef y Gwaclod, a defnyddier Degwm yr Hen Eglwys at y gwaith. A throer pob iieirad a chlocliydd i ddwyn y gwaith i ben. Yr oedd y boneddwr hwn yn gwresogi at y (Ilwecld, a bu 1 w ddigotamt cyfaawn at y ZD ffeiradon a'r clochyddion ym mrou a'i dagu, ac felly, bu raid iddo roddi ei fan trymaf clap ar y stol. Yna fe uniawnodd yr Henadur Morris Morris ei ddwy coes, ac a agorodd ei enau ac a ddywedodd. Y mae genyf finnau un cyn- nygiad i'w ddwyn gerbron y Cynghor hwn. Y mae ein brodyr yn y Gogledd yn fwy penuchel na ni, ac y maent yn edrych i lawr arnoni ni yn y Delieudir. Dywedant taw canddynt hwy mae'r Jlynoedd unvyaf a'r mynyddau uwchaf. Maent yn ymtfroatio yn yr Wyddfa, er nad yw y mynydd hwnw yn un jinrlivdedd id(lynt mewn gwiiionedd, oherwydd iddynt ei werthu ys diwaetha fach i lordyu o Sai's. Ond ar dir y Gogleddwyr y saif, ac y mae yn uwch o droedfecidi lawei na i Frenni Fawr, a mynyddau Sir Gaerfyrddin a Phlumlunion. Yr wyf fi, gan hyny, yn cynnyg bod holl egLwysi Cymru i gael ei tynu i lawr, ac i'r cerrig a'r stwiF sydd ynddynt i gael eu cario i ben mynydd Sion Cwilt yn Sir Aber- tfiii, i wneyd hwnw yn uwch o'i ysgwyddau na'r Wyddfa, gwrthddrych ymflrost gwyr y Z3 Gogledd. Beth yn well i droi y degwm ato na chreu mynydd felly. Gwnaeth adeiladwyr Twr Babel enw tragwyddol iddynt eu hunain, a gwneyd i ninnau yn y Cynghor hwn enw diddarfod drwy y gorchwyl hwo. Byddai mynydd uchel o'r fath yn ddefnyddiol i wylied symmudiadau y byd o'i ben. Yr wyf fi gan lIyny, yn cynnyg bod mynydd Sion Cwilt i gael ei godi yn uwch-yn uwclr na'r Wyddfa- amcan cenedlaethol hollol, ac un nas gellid defnyddio y degwm yn well i'w gwblhau. Ennillodd y siaradwr hwn glust y Cynghor cyhyd ag y bu i-v rthi, a derbyniodd ei sylwadau doeth gymmeradwyaeth uchel y cyfarfod. Y Cynghorwr Richard Richard oedd y nesaf ar ei draed, a'i gynnygiad ef oedd sychu Cors Caroil a phlanu pytatws ynddi, er mwyn diwallu angenion Cymru a, bwyd cenedlaethol ypat. Wedi hyny y Cynghorwr Gwallter Gwallter a gytliodd ei gefn, ac a chwyddodd allan ei barth blaen, ac a ddangosodd ei frest gwyn a'r stydiau melyn, ac a lefarodd fel y canlyn Un o'r pethau ffol sydd genym ni yng Nghymru, ac un o weddillion yr oesau tywyll a phabyddol yw claddu v meirw. Hen arferiad ein cyndadau oedd llosgi cyrph y meirw a gosod y lludw yn daclus mewn sten bridd, a dodi liono mewn tonimen gron. Yr wyf fi yn cynnyg i'r arferiad hono ddod yn el n gyffredin eto. Mae yr hen fynwentydd yma yn aiogli yn ffiaidd, yn heintio ein hawyr a'n dyfroedd, a magu cletydau a beryglant fywyd y cyhoedd. Yr wyf fi, gan hyny, yn cynnyg tod i losgfaau cyrph gael eu codi ym mliob ardal. Dyna le ardderchog yn Sir Gaerfyr- y 1-1 ddin yw Rhos Penboyr—heb un ty yn agos am filltiroedd, a lie rhagorol yn Sir Abcrteifi, tua Chapel Cynon, lie nad oes ond defaid a chornicyllod, a gwylanod y mor yn ym- weled weithiau. Trueni na wneyd defnydd o'r ardaloedd hyn, ac nis gallaf fi feddwl am bwrpas gwell 1 w troi na u defnyddio at godi 1 losgfaau cyrph ynddynt. Gan hyny, yr wyf fi yn cynnyg fod i ran o'r degwm fyued at 0 yr amcan hwn. Ni chafodd y cynghorwr C, Gwallter Gwallter, modd bynag,y gwrandawiad a haeddai ei gynnwysiad, ac amIwg oedd redai ias o ddychryn trwy gymrualau a mer z,Y y Cynghor wrth feddwl y byddai i'w gweddillion brofi tan merthyrdod wedi croesi ?f!1 o'i heneidiau y tudraw i'r lorddonen. Ond y doethaf, efallai, o'r cynnygiadau a wnaed vn y cyfarfod bythgofiadwy dan sylw oedd yr olaf, yr hwn a, ddaeth oddiwrth un sydd a plmmp neu chwech o ferched ar ei 1 ddwylaw, a'i Henn yn ddrud, a llyfr y banc yn wag. Y Cynghorwr Samuel Samuel yw hwnw. Hen arferiad ddoeth, meddai, er ys llawer (hdcl yn y wlad lion oedd cadw neitli- ior.ai, er mwyn cael ceiniog o arian i waddoli par ifanc a elent i'r sefyllfa briodasol. Fel llawer lien arferiad dda arall, mae hon wedi myned allan o'r Hasiwn et- ys blynyddau. Yr wyf fi, gan hyny, yn cynnyg yn ei lie, fod y Cynghor Sirol, yr hwn sydd yn meddu pob awdurdod ar arian y cyhoedd, i ddef- nyddio rhan o'r degwm i waddoli merched Cymru. Mae yr amcan fel y gwelwch, yn dwyn Stamp Cenedlaethol ar ei wyneb, a byddai eynnygiad o'r fath yn sicr o foddio pawh, a sicrhau ein seddau i ni pan y daw yn etholiad y tro nesaf. Dywedodd nifer go dda, '-Clywch, clywch," ar ol y syniadau teilwng ucliod, ond gwneyd SWll yn y gwddwg yn debyg i fochyn a wnaeth y lleill o honynt. Ni ddaethpwyd i benderfyniad yng nghylch dim, a rhywun sydd yn gweled ym mhellach na'i drwyn, a ddywedodd wrth fyned allan o't- cyfarfod, na chyfrifwch y cywion cyn eu deor.' Dysgwyliwn yn bryderus am banes Cyfaifod- ydd Cynghorau Sirol eraill, er mwyn gweled ar ba ryw amcanionccnedtactltol" yr esgora eu menyddiau hwy.
BUGEILIAID Y MYNYDD DU.
BUGEILIAID Y MYNYDD DU. llowd—Wei, Job, pa le yr wyt ti wedi bod erystahvm? Yr wyf yn deall oddiwrth dy gleui fod rhyw faich trwtn wedi bod yn pwyso arnat, ac mi hofi'wn gael gwybod ychydig o dy bancs oddiar pan y darfu i ni gyfarfod o'r blaen. Job-Yi- wyf wedi bod yn ddiwyd iawn yn ddiweddar gyda'n concert ni: ac yn wir, concert ardderchog ydoedd hefyd. Yr oedd y capel yn orlawn o fobl, a llawer yn gorfod sefyll o'r (leclireu hyd y diwedd o ddiffyg lie i eistedd. Fe wnawd swrn yn iawn o arian eleni, ac yr wyf wedi bod yn diolch i'r nefoedd am danynt, canys yr oedd eu heisiau yn fawr iawn. Ilotvel—Yr wyf yn gwekl mai'r arian ydyw'r rheol wrth ba un yr wyt ti yn barnu llwyddiant cyfarfodydd o'r fath hyn; ond cotia di, nid yw hona yn rheol i bwyso arni bob amser, canys nid wyf fi yn ystyried concert yn llwyddiannus os na fydd y bobl wedi cael gwerth en harian. Mi fuu-i innau yn y concert hefyd, ond rhaid i mi gyfaddef mai hwn oedd un o'r concerts gwaethaf y bum ynddo erioed. Yn enwedig pan yr ystyriom fod y tocynau mor uchel. Yr oedd y Doctor bob amser yn gofalu am gantorion da, ac yr oeddem yu cael gwledd wrth wrando arnynt; ond y mae yn debyg fod trefniadau y concert y tro hwn wedi syrthio i \-&\v quack, ac y mae'r quacks yma fel rheol, yn Iladd llawer inwy nag ydynt yn wella. Oddieithr un eithriad, nid oedd y concert eleni ddim gwell na rhyw Pc'iiuy-Readings; ac eto, yr oeddid yn codi mor uchel a phum swllt am rai o'r tocynau Os wyt ti, Job, wedi gwneyd crugyn da o arian zn oddiwrtho, cotia nad ydynt fawr gwell nag arian wedi eu cael under false jtretences, fel y dywed y Sais; ac yr wyf ii, fel un beth bynnag, wedi tynghedu, na welir fi mewn qu/ick concert byth m wy. ,I-ol) wyf yn synu dy glywed di, Howel, yn siarad fel yna am ein concert mawreddog ni, canys fe gefais fy moddloni yn fawr ynddo, ac yr oeddwn yn casglu oddiwith yr holl glapo llwyLw, euro traed, a bloeddio a'r geg, fod pawb wedi cael en boddloni. Efallai dy fod di, Howel, yng nghanol yr Influenza, ac felly, ddim mawr o hwyl i fwynhau'r concert. Jacob-Ti, Howel, yw y cyntaf i mi glywed yn siarac1 yn isel am y concert, ac yr wyf wedi bod yn siarad a llawer yn ei gylch, ac yr wyf yn ystyried hod callu ardderchog yno o'i, dechreu i'r diwedd. -I)wy ddywedodd wrthyt ti, Jacob, dy fed yn gantwr ? Gan fath ddynion y cefaist ganmoiiaeth i'r concert? Tebyg iawn mai rhai na wyddent ddim am ganu oeddont, fel ti dy hun, ac nid y w barn rhai o'r fath yna yn werth dim. Daniel-Yn wir, fechgyn, gwrandewch, fe dynedd un o honynt ddwr o'm llygaid i. Nid oeddwn yn gallu deall y geiriau, ond eto, yr oedd rhyw gwyn neillduol yn y swn ei hun, fel yr ydoedd yn ammhosibl i beidio teimlo dano. Mi gefais wledd i fy enaid yn y concert hwn. llowel-Gwledd i dy enaid yn wir 1 Y mae dy glywed di, Daniel, yn siarad fel yna, yn ddigon i greu ammheuaeth yn fy meddwl, a oes genyt enaid o gwbl. Swn yn wledd i enaid Ni wnaiff swn ddim diwallu angen y corph, sef angen enaid ysprydol ac anfarwol. Cyfyngau i foddloni'r enaid ydyw cyfarfodydd o'r fath hyn; ac nid oes ynddynt ddim ar gyfer enaid. Cofiwch, fechgyn, nad oes genyf fi ddim yn erbyn cyfarfodydd o'r fath hyn, pan y cynnelir hwynt mewn Music Halls neu lefydd o't- fath ond credn yr wyf na ddylent gael eu cynnal yn Nhy Dduw o gwbwl. Pwy. hawl sydd genyt ti, Jacob, i droi Ty Dduw yn dy marchnad, neu Fiwsic Halls ? A gefaist ti drwyddeb gan y Pab o Rufain Peth ZD digrif iawn yw clywed rhyw hogyn hunanol yn canu o'r Pwlpid, Hob y deri dando, dyna ganu etto," a chael ei encorio gan y diaconiaid a'r gweinidog; a'r un gweinidog feallai, boreu trannoeth, yn rhoi r gan canlynol allan i ganu:—I'r Arglwydd, cenwch lafar glod, a gwnewch ufydd-dod llawenfryd," &c. Peth chwithyg dros ben yw gwrando ar rhyw hog-yn benchwiban yn canu yn y capel nos Sadwrn, "Mentra Gwen," tkc., nes tynu dwr o lygaid Jacob, Daniel, a Job, a llawer gyda hwy, ac etto, clywed yr un rhai yn canu yn vr un capel foreu'r Sabbotb,—" Pen Calfaria,- Pen Calfaria,- nag aed hwnw byth o'm cof," a'u llygaiel nior sych a phen mynydd Gilboa, a'u calon mor galed a'r graig gallastr, mor belled ag y gall dyn farnu ] Pwy gyssylltiad sydd rhwng ffair wagedd nos Sadwrn, a Sacrament a Swpper yr Arglwydd boreu Sul, yn yr, un capel Jacob—Yr wyt ti, Howel, yn siarad yn gellweirus am y capel, ac y mae yn syndod gyda fi os na ddaw rhyw farn ar dy hen am siarad fel yna am danom ni. Ti wyddost o'r goreu nad oes genym un lie arall i gynnal I cyfarfodydd o'r fath, ac y mae yn rhaid i ni cyfarfodydd o'r fath, ac y mae yn rhaid i ni gael arian o rywle i gwrdd a'r dyledion. Y nine y baich yn drwm iawn. llowel-Os wyf fi yn siarad (lipyn yn ddigrif, yr wyt ti, Jacob, a'th barti yn ym- ddwyn mewn modd rhyfygus a chableddus yn eich gwaith yn gwneyd clwtyn llestri o dy Dduw, ac y mae'r farn yn fwy tebyg o lawer i ddisgyn ar dy ben (Ii nag ar fy mhen i. Ni y 0 wnaifi y Bod mawr ddim cellwair a dyn o hyd. A dweyd y gwir wrtbit ti yn ddystaw bach, yr wyf yn credu bod fy nhy i yn fwy cyssegredig na llawer capel y dyddiau rhain Tomas—Y mae Howel yn dweyd calon y gwir gyda golwg ar droi ty Dduw yn stabal i n n C? bob anifail aflan i droi i fewn iddi, ac i chwareu ei gampau fel y myno. Yr wyf fi yn hollol gioes i ymddygiad o'r fath, ac wedi gwneyd fy ngoreu yn ei erbyn. Y mae meddwl am y gwahanol diiciau a arferir yn awr er mwyn cael arian i gario ym mlaen achos Duw yn y 6 byd, wedi peri gotid calon i mi, ac y maent yn I p ddigon i beri i bob dyn gonest a chywir wrido I wrth feddwl am danynt. Pa ddydd yr oeddwn yn dadlen hanes Eisteddfod yng Nghapel Pant-yr-afon, ac y mae yn debyg mai rhyw gynnulliad stwrllyd ac afreolaidd dros ben ydoedd. Er na chynnalid hi yng ngwres yr haf, eto yr oedd y bobl mor sychedig fel y y F, gorfu i'r heddgeidwaid roddi gorchymmyn i dafarnwyr y lie i gau y tafarndai am dri o'r 0 gloch y prydnawn, gan mor feddwed oedd y llllaws. Dywedir hefyd fod y capel mor orlawn fel y gorfyddwyd tori tyllau yn flen- 0 estri'r addoldy rhag ofn i'r bobol fogi, ac yr n oedd eiddigedd y corau canu mor ofnadwy fel Z3 y daeth arweinydd un o honynt ym mlaen at yr allor, gan fygwyth "ffusto" y beirniaid a thra yr oedd hyn yn myned ym mlaen yn ymyl allor y capel, yr oedd aelodau rhai o'r corau yn ymladd yn arswydus tua'r drws, ac yn rhegu eu gilydd fel cathod. Onid yw hyn yn ddirywiad mawr yn ein plith, ac yn sarhad arnom fel gwahanol enwadau crefyddol ? Y mae y dulliau hyn o gasglu arian at achosion Z3 Z5 crefyddol yn hollol groes i Air Duw, ac yr wyf fi o'r farn mai daearol, anianol, cythreulig ydynt. Pwy glywodd son am gyfarfodydd o'r fath hyn mewn un Eglwys erioed Y mae llawer o'n gweinidogion penboeth ni yn gweithio à'n holl egni i dynu yr hen Eglwys barchus a cbyssegredig i lawr, ond gallaswn i feddwl fod mwy o alwad arnynt o lawer i ym- drechu cael yr hen arferion isel a gwarad- wyddus o gasglu arian at grefydd yn y dydd- ZD Z3 115 iau yma i lawr canys ni allwn ddysgwyl bendith y nefoedd ar arian a gesglir yn y modd hyn. Y mae hen Eglwys ein Tadau yn cadw ei hun yn llawer glanach a phurach na'r gwa- hanol enwadaii ac nid yw yn un rhyfeddod genyf fi ei bod yn ennill tir yn ein gwlad ac os na wnawn ni ladd yr hen driciau bydol yma o gasglu arian, y mae'r hen arferion anys- grythyrol yma. yn sicr o'n lladd ni fel enwadau heb fod yn hir. Yr oeddet ti, Jacob, yn achwyn o lierwydd y baich sydd yn pwyso arnom. Ti ddylet gofio ein bod yn gosod beichiau ar ein cefnau heb un galwad am danynt ond dy benboethni di a dy fath. Hefyd, ni ddylai crefydd fod yn faich ar neb, canys yr wyf yn ystyried fod cyfranu at achos Duw yn rhan neillduol o foddion gras, ac y dylid edrych arno fel braint ac nid fel baich o v gwbl. Y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a'i Z, n ZD bobl, ac y mae yn hen bryd i gau y concerts, eisteddfodau, &c., allan o'i dy Ef, caiiys tg Ty gweddi y gelwir fy nhy I," meddai Mab Duw, "eithrclrwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron," ac y mae'r Apostol yn ein sicrhau, Ni ell weh fod yn gyfranogion o fwrdd yr Arglwydd a bord y cythreuliaid."
YMDRECHFA AREDIG YN LLANGELER.
YMDRECHFA AREDIG YN LLAN- GELER. Y mae yr yspryd cystadleuol yn y byd er yn foreit iawn, ac yspryd da ydyw, ond ei gario allan yn briodol; ac nid y lleiaf enwog am yr yspryd hwn ydyw y ffermwyr. Y mae yn rhywfath o gystadlu ganddynt hwy mewn cyssylltiacl a phob peth bron: lladd gwair ac yd, ac yn neillduol gwneyd llwythi o'r cyfryw; agor rhychiau tatws; codi clawdd braidd pob peth, hydyn nod myned i'r gwely a chodi; ond cresdaf mai mewn cyssylltiad ag aredig y mae yr yspryd hwn yn cael ei weithio allan ynl fwyaf amlwg o un man, ac y mae hon yn gangeu dda iawn i wella flermwriaeth, ond fod eisieu llawer iawn o welliantau mewn perthynas a chario'r gwaith ym mlaen. Fe ddaw hyny, efallai, bob yn dipyn. Fe gafodd yr ymdrechfa uchod ei chario ym mlaen eleni Chwefror 12fed. mewn cae perthynol i Mr. James, Llwynpur. Y beirniaid oeddynt Mri. I E. Jones, Berth, Llandyfriog, a D. Evans, Shadog, Llangeler. Fe wobrwywyd y rhai canlynol, fel y rhai goreu yn y gelfyddyd aredigyddol — Champion class laf, J. Stephens, Soar, yr oedd un peth yn ei gys- sylltiad a'r brawd hwn sydd yn werth ei nodi, Gweithiwr ydvw, heb fod yn feddiannol ar na cheflyl nile at adr o'i eiddo ei hun; ond yr oedd wedi benthyca ym mhell ac t oos, fel erbyn boreu yr ymdrechfa yr oedd wedi cael pob peth at eu gilydd. Yr oedd ganddo un cefTyl o Blaenbargoed, Penboyr, a'r llall o Mountain, Llangeler, a'r aradr o Nant- gronw, Cynwyl, fel erbyn eu cael at eu gilydd, yr oedd y turn out yn tra ragori at y turn out Shemi'iatal er ys talwm. Ond fe aeth ef er ei holl anfanteision a'r bel i'r wal; ail orea, H. Evans, Goitre. General class-laf, E. James, Llwynpur; ail, B. Davies, Waun- wthad 3ydd a'r 4ydd, i'w rhann rhwng S. Jones, Penpwll, a S. Thomas, Penwern. 5ed, D. Davies, Gaerwen uchaf; 6fed, S. Davies, Waunlwyd. Yr oedd y beirniaid yn canmol yr aredig fel un neillduol dda, a chredaf fod pawb wedi cael eu boddloni yn y feirniadaeth, ag eithrio ambell i gorach oedd yn feddiannol ar fwy o sel dros ryw frawd, nag o wybodaeth mewn aredig. Fe gafodd n zn 0 pob peth ei gario ym mlaen yn drefnus, ond Z!1 fod ambell un,—oherwydd y tywydd oer efallai, yn edrych dipyn yn gam cyn y diwedd, fel pe byddai yr Influenza ar gydio ynddo.-EDRYCHIVR.
HEN GLOCHDY LLWYD Y LLAN.
HEN GLOCHDY LLWYD Y LLAN. Hen glochdy llwyd y pentrcf, Mae'r olwg arnat ti, Yn deffro rhyw adgofion fyrdd o fewn fy mynwes i; I Yn dyn ymbletha'r eiddew 0 gylch dy dyrau ban, Ond scrch ymglytna'n dynach fyth Am glocbdy llwyd y Llan Hen glochdy llwyd yn chwareu Bum ganwailh gyleh dy droed, A'tu hoff gyfoedion ac ni bu Ddedwyddacb rai erioed; Ond weithian hwy a hunant Tu fewn i'r dawel fan, A niiiinau'n ftian atynt af- Hen glochdy llwyd y Llan. Hen glochdy'ii curo arn.it Bu stormydd ocsau maith, Ond sefyll wnai er derbyn yn Yr ymdrech lawer craith Dan wyntoedd profedigaetli 0 boed im' er yn wau, Ddiysgog sefyll tel tydi, Hen glocbdy llwyd y Llan. Hen glochdy, o dy fynwes Ami guul marwolaeth ddaw, Fel llais rhybuddiol Duw at ddyn Nes rhoi i'r galon fraw Bryd arall gorchwyl llonach, Hyfrytaeh, ddaw i'th ran, Wrth uno dau yn rhwymyn serch— Hen glocbdy llwyd y Llan Hen glochdy, cenedlaethan Sy'n gorphwys wrth dy droed, Ond ti er hyn barbai yr un Mor dalfryg ag erioed Na ddeued llaw anrheithiwr Byth i anurddo'r fau, Tynghedaf di i wylio'u llwch, Hen glochdy llwyd y Llan! Hen glochdy llwyd. dy furiau Fu'n adsain ma.wl a chan, Duwiolion llawer oes tra'n un 0 gylch yr allor Ian; Am flwyddi lawer eto, 0 boed i'th dyrau ban, Gyfeirio'n golwg tua'r nof- Hen glochdy llwyd y Llan GLAN MENAI.
"CALAN HEN."-.LLANDYSSIL.…
"CALAN HEN.LLANDYSSIL. At Olygydd Y JOURNAL. SYK,—Erfyniwn am eich catiiatad i gynnyg ychydig reolau nen dreflliadau newydd gogyfer a'r Ysgolion Sul a arferant gasglu at eu gilydd yn Llandyssil, ar ddydd Ualan. Hen. o Ni<l ydym am gyfyngu ein hunain i waith y dydd yn unig, eithr ymdrinwn yn ogystal ZIY a gwaith y flwyddyn. Nid ydym ychwaith yn gafaelu yn ein ysgrifbiu gyda'r meddwl I n 0 fod ein cynllun ni yn rhagori rhyw lawer ar y drefn bresennol, ac y dylai gael mwy na mwy o sylw; eithr, yn ostyngedig, ni a'i dodwn i lawr gan deimlo yn eitliaf boddlon i'r hwn a fyno, ei chwalu i'r pedwar gwynt; neu ynte, os niynir ei dafiu o'r tu ol fel peth hollol anymarferol. Eto, gweddiwn yn ddystaw ar iddo fod, os nad o werth ynddo ei hun, yn foddion i godi awydd yn mynwes rhyw dref- nydd mwy profiadol i ddyfod allan i gwblhau pethau er gwell. Y man cyflwr ein Hysgolion Z5 Sul yn hynod isel fel y maent. Cynnygiwn yn gyntaf fod pwyllgov blyn- ZD n yd(lol i gael ei sefydlu, mewn rhyw fan pen- nodedig, yn cael ei wneyd i fyny o Offeiriaid y gwahanol blwyfj, yng nghyd ag Arolygwr ac Ysgrifenydd pob ysgol neu ryw gynnryehiol- wyr eraill. wyr eraill. Yn ail, fod y dirprwywyr hyn i ddwyn allan dafien yn dangos y gwaith a ddysgwylir 0 oddiwrth bob ysgol yng nghorph y flwyddyn. Hoftem eu gweled yn rhoddi pwys arbenig ar 0 addysgu'r plant ieuangaf yn y Wyddor Gymreig. Yn yr ardaloedd hyn rlioddir llyfryn Cymraeg yn llaw y plentyn, ac eto n dysgid ef i seinio y Wyddor o'r llyfr hwnw fel pe mai Saesoneg fyddai. Ffrwyth naturiol 0 y fath gamwri y w, fod mwyafrif aelodau hynaf yr ysgol yn analluog i sillebu yn gywir am y rheswni na wyddent y Wyddor Gymraeg, ac felly yn ceisio arfer yr A. B. C. yn Saesoneg i sillebu y gair callach er engraitft. Dylid cael dosparth arbenig arall i ddarllen rhyw lyfryn yn cynnwys adnodau o Air Duw, yn ogystal a rhanau pwysig o'r Llyfr Gweddi Cyffredin, megys, Ein Tad." &c., "Credo yr Apostolion," a rhanau eraill o'r Catecism, cyn ei symmud i ddosparth y Testament Newydd. Cynmierai plentyn sylw neillduol o'r pethau uchod, am ei fod yn gydnabyddus a'u clywed ac yn awydd us am allu eu darllen, ac felly, byddent yn gymmorth iddo ddysgu darllen a sillebu. Rhodder pwys ar gael sillebiaeth da tra yn y dosparth hwn. Byddent hefyd yn cydredeg i gario allan addewidiou ei dad a'i fam Bedydd, a gofyniadau yr Eglwys, gogyfer a'r Conffirmasiwn. Yna, daw dosparth y Testament Newydd i mewn, hynyyw, dosparth yn yr hwn y darllenir rbanau o'r Testament Newydd, yn ogystal a chael gwers yn awr ac eilwaith mewn rhanau eraill o'r catecism. Wedi hyny, rhaner y gweddill—yn cael eu gwneyd i fyny o ysgolheigion hynach ac addfetach yn ol eu nifer ac amgylchiadau Z5 eraill. Byddai cael dosparthiadau pennodol fel hyn yn sicr o fod yn symbyliad annrhaeth- adwy i'r l'hai ieuainc i ymegnio. Mae cael ei symmud i ddosparth uwch yn beth mawr a phwysig, yng ngolwg plant ein hysgolion I dyddiol. Y mae y syniad yn gweithio er daioni mawr i'r ysgol, ac felly hefyd y gwnelai i'r Ysgol Sul. Nid oes ammheuaeth na byddai yr athrawon yn fwy diwyd hefyd. Cas fyddai ganddynt weled disgybl yn yr un dosparth am flynyddoedd, Yr ydym yn gwybod yn eithaf da fod dosparthiadau ei$oes r3 yn ein hysgolion, ond nid oes digon o bwys yn cael ei roddi ar waith y dosparth nag ar y trosglwyddiad o'r naill i'r liall. Symmud o honynt eu hunain y maent, ac nid am fod eu gwell wedi dweyd ei bod yn addfed i gael en symmud. Dylai fod II SuI y Symmud" yn Sul mawr yng ngolwg y plant, a'r gwaith yn cael ei wneyd gerbron yr holl ysgol, a'r arolygwr yn roddi gair o ganmoliaeth i'r rhai a symmudir. Yn dry dydd, fel ateg i'r drefn uchod mewn ysgolion cysglyd a difater, yr ydwyf yn cynnyg Z5 C3 fod arolygwyr i gael eu pennodi gan y pwyllgor i ymweled, dyweder unwaith yn y flwyddyn, a'r holl ysgolion. Er engraifft, Z5 el gellid dewis un o ysgol Pencader, ac un o Llanpumpsaint i ymgyrameryd y swydd y flwyddyn gyntaf. Ell gwaith fyddai ymweled ag Yagol Liandyssil y Sabboth hwn, Ysgol n Z5 el Llanfihangel y Sabboth nesaf, &c., gan edrych el i mewn i gyflyrau y dosparthiadau yn un ac un, yn ogystal a sylwi ar sefyllfa yr ysgol fel sefydliad. Purion peth fyddai iddynt fod yn Z5 ddigon eofn a didderbynwyneb i nodi allan y gwallau yn ogystal a gwneuthur y gwaith blasus o gantnol. Hefyd dysgwylir iddynt gadw adroddiad ar gyfer amser a ddaw. Qs y y byddai y gwaith yn ormod, hawdd y gellid ei 0 ysgafnhau drwy ddewis dau eraill atynt, megys C) tin o St. Barnabas, ac un o Langeler neu Fangor; gwnai hyny gwtogi y daith. Wrth gwrs byddai yr ymwelwyr yn agored i gael eu 5 Z5 newid yn flynyddol, yr hyn yn ddiammeu, fyddai yn fwy derbyniol a boddhaol. Yn awr, ceisiaf ymdrin yn fwy union- gyrchol a Gwyl fawr Ualan Hen. Cymmerwn yn ganiataol fod taflen y gwaith wedi ei chyhoeddi er ys misoedd. Hawdd y gellid ei rhoddi ar yr un papyr ac a threfnwaith y i flwyddyn. Y mae gwaith arbenig wedi ei dynu allan i'r plant. Er engraifft, ac nid er dim arall, dywedwn fel hyn Hanes Crist, neu hanes Joseph, yng nghyda rhan o'r catecism i'r plant." Os hanes lesu Grist, dewiser pennod neu ddwy, yn ymdrin a'i enedigaeth neu a'i farwolaeth, rhodder pedair neu bump adnod i bob ysgol i'w dysgu—un ysgol i gymmeryd y pedair cyntaf, ysgol arall y pedair nesaf, &c. Cyn dechreu eu hadrodd yn Llandyssil, dylid gweled fod pob ysgol yn ei He, ac mewn trefn neillduol. Wedi i'r ysgol olaf adrodd, byddai pawb yn eu lleoedd, a'r holi yn dechreu heb angen cynnhwrf yn y byd. Mewn perthynas i'r canu, byddai yr holl ysgolion plant yn canu yr un gan neu hymn o dan yr un arweiniad. Dichon y gofyna rhywun—oni fyddai i'r cyfan fyned yn gymmysgedig oherwydd anghydnabyddiaeth y naill ysgol a dullwedd y llall ? Nid ydwyf el yn credu hyny. Byddai yr arweinydd wedi yinweled a'r holl ysgolion yn eu tro, gan ddysgu iddynt eu syniad am y dullwedd goreu i'w ddilyn. Byddai yr holl ysgolion fel hyn yn adwaen en harweinydd ac wedi eu dysgu i sylwi yn craffus arno. Hefyd, oni allai y rhai hyny fyddont wedi eu dewis i holi y plant ar yr wyl yn Llandyssil, ddilyn yr arweinydd canu tra' ar ei gylchdaith, er cyfarwyddo y plant a'u trefn hwythau o holi. Yn y modd hwn, deuai nerth yr ysgolion a'r Eglwys i'r 0 el n golwg, yn lie yr "ysprydcystadleuol" y cwyu- wyd o'i blegyd. Ni byddai y dydd fel hyn yn ddydd yr arholwr yn ceisio rhwydo ysgolion inewn pynciau. Deuai ffrwyth llafur i'r golwg yn llawer amgenach. Hardd fyddai Z5 gweled arholwyr pynciau ac arweinydd canu wedi bod eu hunain yn cynnorthwyo pob ysgol ar ben ei hun, ac yn chwilio i mewn i fan ei chryfder, ac yn awr wedi cael yr oil at eu gilydd yn gwnenthur eu goreu i'w helpu ddangos gerbron pawb allu, nerth a llafur yr holl ysgolion fel eu gilydd. Byddai y syniad a'r ftrwyth yn ogoneddus. Byddai yr ysgolion yn teimlo eu bod, yn lie ymgystadlu, yn cyn- northwyo eu gilydd. Yr ydwyf wedi ysgrifenu yr uchod, Syr, fel dadolygiad gwan, o'r syniad a roddais yn fy llythyr blaenorol, o roddi mwy o chwareu teg i'r ieuenctyd, ac o ranu y cyfarfod yn ddau, un i'r plant a'r llall i'r rhai mewn oed, os na ellir cael diwrnod i'r plant ar wahan i Calan Hen." Yn fyr, oherwydd meitlider fy llythyr, yng nglyna'r cyfarfod arall, os taw Dysgeidiaeth Crist" fyddai ar y dafien fel gwaith y flwyddyn, rhodder y bummed bennod o'r Efengyl yn ol St. Matthew ar gyfer Calan MY Hen," er cael y naill lafur i gydredeg a'r llall. Rhaner hi rhwng yr ysgolion yn ol fel y gwnaethpwyd ag eiddo y plant. Holer yr boll ysgolion gyda'u gilydd ar y bennod hono. Feallai mai dewisol fyddai cael offeirind dieithr i holi er gwneuthur yn iawn a phob ysgol. Am y canu fy syniad ydyw, y gellid cyplysu y corau gyda'u gilydd. Er engraifft, St. Barnabas, Bangor, Llangeler a Capel Mail', i 0 ganu un Anthem,—Llandyssil, Pencader a'r gweddill yng nghyd, i ganu anthem arall. Neu o bossibl rhag rhoddi Ile i'r yspryd cvs- tadleuol o gwbl, y gellid cyplysu yr oil i ganu un anthem ac un don gynnulleidfaol. Gan erfyn am eich inaddeuant chwi yn ogystal a maddeuant eich darllenwyr am dresmasu var eich gofod.—Ydwyf, yn ostyng- 1 Z3 ;3 edig, Syr, yr eiddoch, &c., lAp ISRAEL. [Mae llawer i'w ddweyd (iros ani-grymiadau Ap Israel." Caiff ein gohebwyr eraill, os mynant, ryddid i draethu eu barn, a chynnyg awgrymiadau i wella (os oes modd) y drefn bresennol o ddwyn Calan Hen ym iiilaen.- GOL.]
At Olygydd Y JOURNAL.
At Olygydd Y JOURNAL. Syit,Ilyderaf y byddweh foior garedig a m Z3 cbyhoeddi hyn o linellau ammherfiaith, gan obeithio y byddant yn ddigon i argyhoeddi Luther" o'i farn gyfeiliornus mewn cys- sylltiad a gwyl yr "Hen Galan." Gallaswn feddwl, oddiwrth ei ysgrif, fod "Luther" yn cario dwy god pechodau yr hen wyl o flaen ei ,5 y lygaid, a'i rhinweddau o'r tu ol, fel nas gall eu n gweled neu yn debyg i'r Pharisead hwnw a aeth i fyny i'r doml i weddio yr oedd ef yn cadw pechodau yr ben bublican druan o flaen ei lygaid, tra yn cuddio ei bechodati ei hun o'r tu ol; ac yn wir mae yma debygolrwydd mawr, feddyliwn, rhwng erthygl Luther a gweddi pharisead. Yn gyntaf, mae'r ddan yn dechreu gyda II diolch." Yn ail, fe a y ddau ym mlaen gan dafiu pob atnmharch ac anfri y Phariseaid ar y publican a Luther ar yr wyl. Yna fe a Luther ym mlaen trwy ddweyd fod barn y bobl gymhwysaf ganddo ef, fod y gymmanfa yma yn cael ei "hysi gan y cancr." Diolch yn fawr iddo am ei fod wedi darparu meddyginiaeth i'r clwyf, pan y dywed mai ei dori ymaith bydd y meddyg er mwyn arbed y person;" ac heb law hyn-yna, a ydyw ddim yn bossibl fod barn Luther a'i ddoethion yn gyfeiliornus sir y pen yna? Credaf fod EHaa gynt mor gymmhwys dyn a hwythau i roddi ei farn, ond yr oedd ei farn yntau yn gyfeil- iornus pan y dywedodd fod pawb yn Israel yn addoli Baal ond ef ei hun. Hefyd, fe ddywed Luther mai nid yr un pecbod sydd yn ffynu yn awr ag ydoedd pan y cychwynwyd yr wyl uchod, ac nad ystyrir yn bechod yn awr yr hyn a ystyrir y pryd hwnw. Yn awr, sut y gall ef brofi fod y "bobJ dda hyny yn ys- tyried cicio'r bel droed yn bechod o gwbl I Ai nid troi yr hyn nad oedd ddrwg, a'i wneyd yr hyn oedd dda, oedd eu hamenn ? oblegyd nid ZIY ydyw peidio gwneyd drwg yn ddigon i achub neb, ond rhaid gwneyd yr hyn sydd dda. Ac yr wyf fi, Mr. Gol., wedi dyfod i'r jienderfyn- iad ma.i llwyddiant perffaith yr wyl sydd fel tan o frwmstan ar gnawd tyneraf Luther a Glan Teiti, amgen pa reswm a all fod ganddynt dros ddifodi yr wyl uchod, hyd yn oed a chymmeryd yn ganiataol nad ydyw yn cael ei threulio niegys ag y dylai, yn fwy na difodi'r Sabbath pan nad ydym yn ei sancteiddio ? A phan y byddai crefydd o dan gyfraith Moses yn syrthio i Jygredigaoth ddofn, onid ei di- wygio gawsai bob amser ac nid ei difodi hyd nes y gwelodd Du w yn dda ei difodi. Ac yr ydwyf yn dychymmygu weithiau, fel mae Luther yn tynu tua'r terfyn, ei fod ef yn bloeddio ac yn poethi yn ofnadwy, oblegyd nid oes braidd yr un pechod yn rhy ddrwg ganddo i ddweyd am y gymmanfa na'i hysgollieigion, oblegyd fe ddywedfod eu gweinidogion a'u phrif ddynion wedi palmantu y ffordd i ddrwg gwaeth na chicio bel droed; a gallwn feddwl, oddiwrth ei ysgrif, mai anghymmedroldeb neu feddwdod a olyga. Yn awr, a yw rbeswm a synwyr cyffredin, ar wahan a'r Ysgrythyr, yn profi mai agor Ilifddorau i feddwdod mae crefydd yn wneyd, ac nid eu cau 1 Os amgen, gwelaf reswm dros gau y Beibl o'n hysgolion dyddiol. Hefyd, fe ddywed nad yw y gym- manfa yn ateb gofynion yr oes. Gwir. Fe ddywedaf finnau nad yw crefydd chwaith yn ateb gofynion yr oes. Ond pe troem y gym- manfa yma yn gyfarfod gwrthddegymol, a myned i siop Jones i brynu bob un ei bigwain dridaint, ac yn barod i frathu pob offeiriad a phob Eglwyswr, dyna. fyddai archwaeth yr oes yn bresennol; ond yn hytrach, bydded i ni, fel Eglwyswyr, yng ngwyneb pob erlidig- aeth i anwylo yr hen sefydliad ac i ddyblu ein rhif, yn ogystal a'n diwydrwydd. Dyna yw dymuniad GELERIAN.
Y RHYW BLUFOG AC ADDYSG CYNWYL.
Y RHYW BLUFOG AC ADDYSG CYNWYL. At Olygydd Y JOURNAL. SYR,—Beth ydyw'r achos o'r cynnhwrf presennol nis gwn, os nad ynjgais am flaenor- iaeth mewn materion plwyfol, o leiaf mewn cyssylltiad ag addysg. Y mae'r H Eryr" yn awgrymu llawer o wirionedd mewn cyssylltiad a'r Bwrdd Ysgol, ond dichon ei fod yn cam- synied yr achos am yr hyn nid yw achos. non causa pro causa. Paham y Jarfu'r Bwrdd daflu yr is-athrawesau allan o'u gwasanaeth nis gwn ond gwn, ar yr un pryd, nad Mr. Job achosodd hyn, ac nid oes yr achlysur lleiaf i gredu bod gan Mr. Job ond dylanwad bychan ar y corph annibynol hwn, er ei fod yn ysgolfeistr rhagorol ae yn meddu cymmeriad pur a dysglaer, yn foesol a chrefyddol. Nid ei fath ef sydd bob amser yn oario dylanwad ar Fyrddau Addysg. Y mae Ilawer o wirionedd yn yr hen ddiareb Gymraeg, "Adar o'r un lliw hedant i'r un lie," yr hon a wireddir yn y pennodiad diweddaf o eiddo y Bwrdd yma. Tybiai ein tadau bod aderyn y corph vn rhag- flaenu angeu; os felly, tebyg fod dyddiau y Bwrdd presennol wedi ei rhifo; ac fel cadarn- had i'r dybiaeth, dacw yr Eryr tnawr wedi cymmeryd ei lodgings ar gopa Gallt-y-Beili. Lie bynnag fyddo y gelain, yno yr ymgaggl yr eryrod," a mwy na thebyg y ca wledd flastis ar ysgerbwd yr Hen Fwrdd Ysgol. Ond ar y cyfan, cynghorem yr Eryr i fod yn ofalus rhag Byrthio yn aberth i ynnau y poachers neu y maglau (gins) sydd yma mor lluosog, heb son am y trapiau; bydded yn wyliadurus, gau fod mwswg ar y trap. Y mae'r etholiad wrth law, ac ymgeiswyr teilwng ar y maes, nn o ba rai yw T. Harries, Yaw., Newton Park, yr hwn a berchir yn fawr gan y gwreng a'r cyfoethog. Gallwn hefyd enwi Mr D. James, Cluncoch, a Mr. W. Davies, Pen- rhiwgwiel, fel ymgeiswyr; nad oes ammheu- aeth am eu dychweliad buddugoliaethus, dynion sobr egwyddorol dibartiaetb, yu boddloni aberthu eu talent a'u bamser er lies y trethdalwyr a lledaeniad gwybodaetb. Gellir bod yn sicr na roddant le i achwyniad, na fyddant un amser o dan lywodraeth y bais, hefyd na fyddant un amser yn trin materion y Bwrdd mewn tafarndy. Gobeithio y bydd y rhyw bluog oil i gyduno i ddewis y bonedd- igion uchod, ac anghofio y pethau bychain dibwys ym mha rai ni chyd-welant, mae y plu wedi bod yn ofid ac yn fagl i lawer cyn hyn, heb son am y gwlaw. Peth hynod mewn cyssylltiad a'r Etholiad yma yw nad oes son am blaid-Blue na Red. Y mae Die, er ys tna dwy flynedd bellach, wedi creu digon o bleidiau yn Cynwyl fel y mae politiciaeth wedi syrthio i ebargofiant. Gan y bydd yr etholiad trosodd yn fuan, carem pe byddai yr Eryr mor garedig a thalu sylw i ambell hen geffyl sydd yn rhynu wrtb ddor y tafarn tra yn gorfod llusgo y enaf sydd tu fewn, i'w gartref yn chwilgorn feddw, byddai ysgydwad ei aden yn ddigon i ddychrynu yr olaf na fynychai Demi Bacchus byth ond hyny. Gebeithiaf fod nyth yr Eryr yn ddiogel ar gopa y graig er gwaethaf ym- osodiadau adar y corph, ac hyd yn oed y bioden, fel y elywais yn ddiweddar. LLWYD O'R HEXGWRT.
AT EIN GOHEBWYR..
AT EIN GOHEBWYR.. Daeth i law y cynnyrchion canlynol, a chant ymddangos yn ein nesaf: Cwyn yr Atnddifad "Pelilldre a Drcfach," itc.