Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

I I

News
Cite
Share

I I DEFAID—EU RHYWOGAETHAU A'U DETHOLIAD. At- gyfrif y galwad mawr sydd am gig defaid ac wyn a'r codiad disymmwth mewn catilyniad sydd wedi cymmeryd lie ym mhrisiau pob cig, y mae magu defaid erbyn hyn wedi dyfod yn gangen bwysig o amaethyddiaeth ein gwlad. Mae eangiad digyffelyb ein mas- nach, y galwad an wlan, yng nghyd a'r gwell- iantau mawrion yu y peiriannau a ddefnyddir i'w weithio, wedi bod yn foddion i droi sylw amaethwyr at y gwaith o fagu defaid, ac wedi eu bargyhoeddi i raddau fod rhoddi tir i w bori gan ddeftii-1, lie y byddo cloddiau neu wrycboedd da, yn talu yn well iddynt na'i aredig. Arweiniodd hyn yn naturiol at y gwaith o ymdrechu gwella rhywogaethau defaid, ac hyd yn oed i godi rhai newyddion. Y ddau beth a gedwid mewn golwg wrth wneyd hyn ydoedd, chwanegu swm y gwlan a'r cig, a gwellbau eu hansawdd. Ond cyn myned ym mlaen i gofnodi yr hyn a wnaed eisioes yn y ffordd bon, rhoddwn ychydig o neillduolion y gwahanol rywogaethau yn y wlad hon, yr hyn fydd yn gynnorthwy i ni ffurfio barn o • forth i'r un fwyaf priodol i Gymru. Y dosbarthiad mwyaf naturiol o ddefaid yw yr un a wneir gyda golwg ar hyd eu gwlan, ssf y rhai hir-wlanog, y byr-wlanog, a'r rhai y mae eu gwlan yn ganolig o ran hyd. 1 r dos- barth cyntaf y perthyn defaid Lincoln, Leicester, a'r Cotswolds. Yn yr ail ddosbarth ceir y Downs, y Merinos, a defaid Gymru a Shetland. A'r trydydd dosbarth a gynnwys y Cheviots, y Dorsets, &c. Dechreuwn gyda y dosbarth cyntaf, set yr hir-wlanog. Defaid Lincoln.-Defaid mawr yw y rhai hyn, eu penau a'u coesau yn wynion, asen hir a gwastad, a chorff mawr a theneu. Pwysa yr wyn yn gyffredin o 14 i 20 pwys y chwarter, a'r cnu, sef eiddo defaid yn eu cyflawn faintioli, o 8 i 10 pwys. Maent felly yn rhagori ar bob rhywogaeth Brydeinig gyda golwg ar eu maint a swm eu gwlan. Maent wedi eu diwygio yn faVrr trwy eu croesu a'r South Downs a'r Leicesters, ac oblegyd eu croesi a'r rhywogaeth olaf, gelwir hwy weithian yr hen Leicesters. Defaid Leicester.-Defaid mawr esgyrnog, hir-wlanog, oedd y rhai hyn ar y cyntaf, ac mor annyben yn pesgi feLea byddent yn barod cyn cyrhaedd tair blwyddoed, ac yr oedd eu cig yn bobpeth ond Slasus. Yr oedd, modd bynag, y swm mawr o wlan a roddent yn gryn annogaeth i'w meithrin, oblegyd y pryd hwnw y GWLAN ac nid y CIG yr edrychid mwyaf arno. Ond mae y rhywogaeth bresennol o'r Leicesters mor wahanol i'r hyn ydoedd unwaith ag y gellir dychymygu. Yn lie bod yn fflat eu hochrau, yn esgyrnog, araf i besgi, a diflas eu cig, maent erbyn hyn yn gryno a thrymion eu cyrft, bychain eu hesgyrn, a blasus eu cig, a c E) bawdd eu pesgi. Y gwr a fu yn offerynol i dwyn y gwelliant rhyteddol hwn oddi am- gylch yn y rhywogaeth hon yw Mr Bakewell o Disbley, yn swydd Leioester-gwr ag y mae y deyrnas o dan rwymau neillduol iddo am eu ymdrechion clodwiw i ychwauegu at ein cysuron cymdeitfoasol. Mae y nHjsurau a gymmerodd Mr B^ewell i ddwyn hjfcoddi amgylch yn dra djfl^rol ac addysgia^y ond ni oddef ein terfyjjflk ni ond prin eiMlodi. Yr oedd y moddi<pF h$lk>d syml, a'r effaith bron yn wyrthiol. Yr eyddor ydoedd fod "tebyg yn cynnyrchu ei debyg," ac felly pigodd allan o fysg ei ddiadell ychydig ddefaid a thuedd ynddynt at besgi, gydag ychydig asgwrn, a thymmer rywiog a llonydd, ac o'r rhai hyn yn unig y magai. Ei brif-amcan yn fc-astad ydoedd cynnyddu pob pwynt da yn- ddynt, a graddol ddileu yr un drwg ac er dwyn hyn oddi amgylch, dosbarthai ei famog- iaid a'i fyheryn yn lotiau man; fel y gallai roddi y myheryn oeddynt a'u gwallau yn fwyaf annhebyg i wallau y mamogiaid i'w cyfebru. Wedi dal ati am rai blynyddau gyda'r drefn lion, penderfynodd yn y flwyddyn 17^ ienthyca ei fyheryn dros y tymmhor cyfebru. Y swm a dderbyniai am y myharen cyntaf ydoedd 17s. 6c., ond erbyn y flwyddyn 1789, cym- maiut oedd yr awydd am ei fyheryn fel y der- byniodd ddim Ilai na 1,000 o ginis am wasan- aeth un myharen am dymmhor; a chymmaint oedd yr awydd a'r galwad am danyut, fel y cyfrif Mr Lawrence fod dim llai na £100,000 yn cael eu talu yn flynyddol gan amaethwyr y siroedd amgylchynol am wasanaeth y myheryn hyn. Yr oedd y prisiau a dderbyniai Mr Bakewell wrth werthu ei ddefaid yn gyfatebol qchel oblegyd dywedir iddo dderbyncymmaint ag 800 am un myharen, a gwerthodd un Mr Pa wet 320 o famogiaid am y swm o Y,3,200 neu £10 y pen. Nid oes ond ychydig rywog- aethau hir-wlanog o ddefaid yn y deyrnas nad ydynt wedi derbyn llawer o'u rhagoriaethau oddiwrth y Leicesters fel y gwellhawyd hwy gan Mr Bakewell. Adnabyddir y defaid pur cVr rhywogaeth hon yn awr wrth y nodau hyn: penau a choesau gwynion, llygaid dysglaer, gwddf cryf, corff trwm, cefn syth, y chwarteri 61 yn meinhau yn raddol at y gynffon, ac y maent yn hynod am y swm o irasder ailsnoi, end nid ydynt gystal oddi mewn. Mae y defaid hyn yn gofyn tir Iled dda i bori arno, ac ar y cyfryw nid oes eu gwell na'u cynt am besgi. Ildia y New Leicesters ar gadwraeth dda, fwy o swm o gig am yr un swm o luorthiant, nag unrhyw rywogaeth arall ac o ganlyniad y maent yn dra ennillfawr i'w cadw. Pwysa y myllt yn ddwy flwydd oed tua 150 o bwysau, a'r cnu yn gyffredin tua 7 pwys. Votswolds,-Porai y defaid hyn ar y cyntaf yn sir Gaerloyw, ar fryniau Cotswold, oddi- wrth y rhai y derbyniant eu henw. Maent wedi bod bob amser yn enwog am hyd eu gwlan a maint eu cyrff. Yr oeddynt yn uwch na'r rhywogaeth bresennol, yn fflat eu hochrau, yn ddiffygiol vn y chwarter blaen, ond yn llawn yn y chwarter ol, ac ni phesgent yn ieuanc. Mae liyn yn eu gwneyd yn dra, tD chymmwys i'w croesi a'r Leicesters, fel mewn gwirionedd trwy hyn rhagorant ar lioff rywog- aeth Bakewell. Y gwr a fu yn foddion i ddwyn y rhywogaeth hon i fod yr hyn ydyw yn bresennol, ydoedd Mr John Elman o Glynde, gerllaw Lewes, yn Lloegr. Trwy ofal priodol galluogwyd ef i gadw i fyny yr holl nodweddau da a feddai y rhywogaeth ar y cyntaf, ac i ychwanegu attynt yr hyn sydd o gvmmaint pwys i'r amaethwr, y possiblrwydd o fadi a phesgi nifer mwy o ddefaid ar yr un tir, a'u dwyn yn gynt i'r farchnad. Fel y Leicesters nid oes ganddynt gyrn, pen a cboesau gwynion, a thusw cryf o wlan yn tyfu ar y talcen, yn gryfach yn y gwryw nag yn y fenyw. Maent yn galed, ac yn gallu byw ar ymborth gwaelach na defaid mawr eraill, ac y mae hyn yn eu gwneyd yn llawer mwy cym- mhwys i Gymru na nemawr rywogaeth arall. Pwysant yn flwyddiaid tua 120 pwys, ac mae eu cig yn dra blasus, ond pan gyrhaeddant dros ddwy flwydd oed, maent bron yn rhy fras. Mae eu gwlan yn hytrach yn fwy garw na gwlan y rhywiau eraill, ond ar yr un pryd mae cryn ofyn am dano yn y marchnadoedd. Pwysa y cnu yu gyffredin o 7 i 8 pwys. Defaid Penau Duon Ysgotland.- TybiI mai rhywogaeth o darddiad diweddar yw y rhai hyn, wedi eu cynnyrchu trwy groesi gwahanol rywogaethau yn olynol. Mae gan y defaid hyn oil gyrn, ac adnabyddir hwy wrth eu gwyneb du, a'u llygaid bywiog a gwyllt; y corff yn fyr, a'r coesau yn fyrach na defaid cyffredin y mynydd. Maent yn dra chaled. a byddant fyw ar y grug am wythnosau pan fydd y ddaear yn orcliuddiedig ag eira, ac feHy maent yn dt'a chyfaddas at uchel-diroedd a mynydd- oedd Cymru. Mantais arall yng nglyn a hwy yw eu bod yn hawdd eu cadw mewn caeau ac yn pesgi yn fuan nes pwyso pan yn dair oed o 60 i 65 o bwysau. Mae eu gwlan yn lied fras a blewog, a phwysa y etiti 3 phwys. Maent hefyd yn lied dda am eppilio a magu. Ceir amryw rywogaetbau o ddefaid hir- wlanog eraill yng ngwahanol i-anqu y deyrnas, raegys y Romney Marsh, y South Hams yn Devonshire, y Bamptons, yr Exmoors, yr Herdwicks, &c., y rhai ydynt yn ffynu yn dda yn y manau lie maent, ond gan nad atebent i'r ffermwr Cymreig, ni byddai o un dyben rhoddi desgrifiad o honynt. Awn ym mlaen, ynte, i nodi y rhywogaethau byr-wlanog. So,i,tli,downs.-Gelwir y rhywogaeth hon o ddefaid oddiwrth v tir a borir ganddynt, sef y Downs-rhes o fryniau sialc sydd yn rhedeg trwy Kent, Sussex, a Hampshire. Nid oes gan y rhywogaeth hon gyrn eu gwynebau a'u coesau o liw brych tywyll, esgyrn bychain, a gwddw main a llyfn. Cyn eu croesi yn ddoeth a pbriodol a rhywogaethau eraill, yr oeddynt yn dra gwahanol i'r hyn ydynt yn bresennol: ysgwyddau cul ac uchel, a chwarteri ol isel a gwael, ac yn hir yn pesgi. I Elman o Glynde, yn fwyaf neillduol, yr ydym yn ddyledus am y rhagoriaethau a berthyn iddynt yn bresennol. Gofyn y defaid Hyn dir lied dda i bori arno, ac heb fod yri rhy oer. Eu pwysau pan yn ddwy flwydd oed, yn gyffredin, yw 120 pwys, a phwysa eu cnn o 5 i 7 pwys. Mae eu gwlan yn fain ac o ansawdd dda, a gwerthir eu cig am y pris uchat. Rhagoroldeb arall a berthyn iddynt, yw, eu bod yn eppilio a magu yn dda, a chyfrifir 130 o wyn i 100 o famogiaid yn eppilio ffrwythlawn. Mae croes o'r South Downs a bron bob rhywogaeth o ddefaid canol-wlancg wedi ateb yn dda. O'r rhywogaeth hon y deilliodd y Shropshire Downs, ac ar amryw ystyriaethau rhagorant ar yr hen rywogaeth yn gymmaint a'u bod yn llawer mwy a thrymach,yn cynnyrchu mwy o wlan,ac yn well am ateb mewn binsawdd oer. Maeyn debyg i'r rhywogaethhonigael ei chynnyrchu trwy groesi yr hen South Downs a'r Cluns, sef defaid Clun Forest, ar derfynau Maesyfed, Amwythig, a Henffordd. Maent yn benau lhvyd-ddu fel y South Down, a chudyn o wlan ar y talcen, ond yn llawer hwy eu gwlan, ac yn lletach a byrach eu coesau. Y Merinos a ddygwyd i'r wlad hon o Spaen yn amser Sior III., ac oddi- wrthynt hwy y deilliodd y diadellau mawrion sydd yn Awstralia a Phenrhyn Gobaith Da, Van Diemen's Land a'r Unol Daleithiau. Gwerth mwyaf y rhywogaeth hon yw rhagor- oldeb eu gwlan, oblegyd ychydig o gig geir arnynt, ond yn gymmaint a bod yr olaf erbyn hyn yn fwy pwysig na'r blaenaf i'r amaethwr, ychydig o lwyddiant fu ar y defaid hyn yn Lloegr. Maent, modd bynag, wedi ateb yn lied dda trwy eu croesi yn briodol a'r South Down, Ryeland, &c. Gelwir y cyfryw y Merino Seisnig." Y. dosbarth olaf o ddefaid y sylwn arno yw yr un Canol-Wlanog. Y Dorsets.Gwynion yw y \hywogaeth hon y gwyneb yft hir a llydan, gyda chudyn o wlan ar y talcen yr ysgwyddau yn isel, ond llydain; y fron yn ddwfn, y lwynau yn llydain, yr asgwrn yn fychan, a'r corff yn gryf a chaled. Mae cyrn gan y gwryw a'r fenyw. Mae eu cig yn hynod flasus, a phwysant pan yn ddwy-flwydd oed, tua 100 pwys. Rhagor- iaeth fawr yn y defaid hyn yw, eu bod yn dwyn wyn ddwy waith yn y flwyddyn a byny mor gynar yn y flwyddyn a mis Medi neu Hydref. Gyda magwraeth a thriniaeth briodol, bydd yr wyn hyn yn barod i'r farchnad erbyn y Nadolig neu yn gynt os dewisir, ac felly anfonir symiau mawr o'u cig i'r brif-ddinas yn ystod misoedd y gauaf, am yr hwn y derbynir pris uchel. Pwysa cnu y defaid hyn tua 6 phwys. Y Cheviots.—Lie cynte6g y rhywogaeth hon o ddefaid oedd bryniau Cheviot, rhwng Lloegr ac Ysgotland, ond erbyn hyn y maent i'w cael i raddau mwy neu lai yn yr oil o ogledd-dir Lloegr, ac ym mlaen yn uchel i Ysgotland. Rhai moel yw y defaid hyn, eu penau yn llwm a glan, eu gen yn hir, a'u gwynebau a'u coesau yn wynion. Lied gulion ydynt o ran cyrff, I ond wrth en croesi a'r New Leicesters, gwell- heir y diffyg hwn, ac mae hyn wedi ei wneyd yn y rhan fwyaf o diroedd gogleddol yr ynys, a'r canlyniad yw mai y rhai hyn yw y rbyw- ogaeth fynyddig fwyaf ym Mhrydain, ac nis gellir lai na'i hystyried yr oreu hefyd ar lawer ystyr. Rhydd Syr John Sinclair y desgrifiad canlynol o honynt, a chan fod rhanau helaeth o Gymru mor debyg o ran ansawdd y tir i'r rhanau hyny a borir gan y defaid hyn, nis gellir ammheu nad atebent i'w cadw ar fynydd- oedd uchaf Cymru. Wrth son am fryniau Cheviot, dywed-" Nid yw llawer o'r tiroedd hyn ond corsydd a siglenydd dyfnion, a gorch- uddir y ddaear yn ystod dau, tri, ac hyd yn oed bedwar mis, ag eira, ac nid yw y tywydd dros y rhan fwyaf o'r flwyddyn ond tra an- ffafriol, ond er hyn i gyd, ffýba y defaid hyn yng nghanol y rhanau mwyaf gwyllt a noeth- lwm. Mae eu ffurf yn gampus, ac mae eu chwarteri blaen yn neillduol, a nodweddir hwy gau y fath gyfartalwch manwl, fel ag i fod yn I gymmwys yr un uchder a'r rhai ol, yr hyn a'u galluoga i fyned trwy gorsydd ag eira, yr hyn nas gallai creaduriaid byr-goes ei gyflawni. Mae eu cnu yn dynach nag eiddo y Tweeddale a'r Leicester, yr hyn a'u ceidw yn gynhesach y tywydd oer, ac a'u ceidw rhag teimlo un anghyfleustra oddiwrth y gwlaw a'r eira. Maent yn arferol o gael eu hymborth trwy «rafu yr eira oddiar y ddaear a'u traed. Pwysant o 12 i 18 pwys y chwarter, ac y mae eu cig yn llawn cystal a dim a all yr uchel- diroedd ei gynnyrchu." Pwysa y cnu tua 3 phwys, ond nid yw eu gwlan lawn gystal ag eiddo y South Downs. Defaid Gymru.—Ymddengys fod y rhywog- aeth fynyddig o ddefaid Cymreig wedi para bron yr un am ganrifoedd, ond gwnaed ychydig groesiadau rhyngddynt yn ddiweddar a'r South Downs. Ym Mon ceir rhywogaeth o ddefaid mawr—penau gwynion, lied hir, corff Mr a dwfn, a'r coesau ar yr hwyaf, ac y maent ynp mhob peth yn dra thebyg i'r defaid mynyddii ond eu bod yn fwy o gryn lawer. Croesir hwy a'r Leicesters a'r Shropshire Downs fel mai nid hawdd iawn erbyn hyn yw cyfarfod a'r rbywogaeth hon yn bur. Oddiwrth yr hyn a ddywedwyd yn ljarod o barth i ragoriOn y gwahanol rywogaet|)«ilj ymddengys mai y Shropshire Dowtis yftr rhywogaeth oreu ar lawer ystyriaeth ar oV. et isel-diroedd Cymru, ac fel y sylwyd, nid y lleiaf o ragoriaethau y defaid hyn, yw, eu bod yn dra chelyd ac felly yn atteb i hinsawdd*oer a chyfnewidiot ein gwlad. Ysgrifena amaetjiwt o fawr brofiad attom mewn perthynas iddynt, a dywed "eu bod yn llawer gwell am fagu wyn na'r Leicesters, ac nid yw ond pethcyffrédiri genym i gael yr hyn a alwyd yn oen a hfroei? oddiwrthynt gyda gofal a thymmhor ffafrioll Heblaw hyny mae eu cig yn llawer g\veJ1, ai ffynant yn dda ar le llawer gwaelach, Yr ydym wedi gwneyd prawf teg arnynt." » Mewn perthynas i ddefaid mynyddig, inaae tri pheth i'w cymmeryd dan ystyriaeth wrth wneyd detboliad o honynt, sef pwysat1 aj gwerth y gwlan, y corff, a'u caledwch. Gyda golwg ar swm y gwlan, mae y fantol yn troi yn ffafr defaid penau duon Ysgotland,-ond gyda golwg ar werth y gwlan, mae'r fantaisyll. sicr yn ffafr y Oheviots. Am yr ail beth, sef y corff, daw y Cheviots yn barod i'r farchnad, flwyddyn o'r hyn leiaf o flaen y lleill. Gyda golwg ar y trydydd peth, sef caledwch. mae yn anhawdd dywedyd pa un o'r ddwy rywog- y 0 aeth sydd oreu, oblegyd mae y naill a'r llall yn L, Y alluog i ddal yr hinsawdd mwyaf llym. Ar y cyfan, modd bynag, mae y rheithfarn gyffredin yn troi yn ffafr y Cheviots, ac fel prawf o hyn, maent yn cyflym ymledu trwy holl diHog- aethau priodol y Penau Duon. Ceir y rhyw- ogaeth fwyaf o'r defaid Cymreig yng nghym- mydogaeth Cadair Idris, a byddai. croesi yj rhai hyny a'r Cheviots yn debyg o atteb yni dda. Y fantais fwyaf ddeilliedig oddiwrth hyny fyddai mwybau y rhywogaeth. Cyr- haeddid yr un amcan hefyd i raddau bychain,: 10: pe byddai i ffermwyr Arfon a Dinbych geisio! myheryn i'w defaid o blith diadelloedd Tie- faldwyn a Meirionydd. Gyda golwg ar gael wyn i'w pesgi, diammeu yr attebai rhoddi myharen Cheviot at ddefaid mynyddig, yn dda, a gellid gwneyd yr un peth hefyd er mwyn cael rhywogaeth o ddefaid tir i fod arfio yn barhaus. Ac yma nis gallwn wneyd yn well na dyfynu yr hyn a ganlyn allan, o draethawd rhagorol y Parch.. John Qwen, Tynllwyn, ar "Feithriniad a petholistd Da, Byw Gyda golwg ar ddyfod i ddeftaid- pryner 30 neu 40 o famogiaid goreu mynydd- dir Trefaldwyn neu Dalyllyn, ym Meirionydd, yn mis Medi (eu hamser cyfft edin yno i werjJMii eu mamogiaid), a rhodder attynt fyhairaarar Cluns. Cadwer yr wyn benyw, a rhodder attynt fyharen Shropshire Down ac arbyn y drydedd genhedlaeth byddant yn gyffelyb o; faint i'r hyn fuasai Shropshire Downs pur ar y tir hwnw. A bydd eu gwlan a'u cig yn well. Flwyddyn neu ddwy yn ol yr oedd boneddwr o Ogledd Cymru, yr hwn sydd yn meddu cryn ddyddordeb mewn trin defaid, yn myned am ychydig ddyddiau i'r brif-ddinas. Wrth roddi tro un diwrnod trwy feusydd ychydig yn y wlad, canfu ddefaid Cymreig' ac wyn penau llwyd-ddu yn eu canlyn. Digwyddodd iddo gyfarfod a'r perchen, ac wedi rhyw gymmaint o ymddiddan am y gwahanol rywogadthau o ddefaid, dywedai y Sais mai wyn allan o ddefaid Cymreig wedi cael myharen Shropshire Down, oedd y rhai a werthent ucbaf yn Llundain o unrhyw fath yn y deyrnasJ1 Mae hynyna yn ddigon am ragoriaeth cig y cyfryw I y ddefaid." !j i!

ABWYDOD A MORGRUG.: ;

";,;¡i,!),:; BLODAU'R EIRA;…

iIS')II:n:fP';'J "PLAS GOGERDDAN.'!I:…

YMDDIDDAN RHWNG OFFEIRIAD…

[No title]

DIOLCHGARWCH AM Y CYNAUAIt|

; LLANGADOG.