Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

- MARWOLAETH UN 0 BRIF LENORION…

News
Cite
Share

MARWOLAETH UN 0 BRIF LENOR- ION CYMRU. Mae genym y newydd trist i'w gofnodi o farwolaeth un y mae ei enw wedi bod yn dra adnabyddus yng nghylchoedd llenyddiaeth Gymreig am haner canrif, sef Mr Robert John Pryse, neu fel yr adnabyddh' ef oreu, Gweirydd ap Rhys, yr hyn a. gymmerodd le foreu Mercher, Hydref 2il, yn nhy ei wyres ym Methesda, a hyny wedi cyrhaedd yr oedran patriarcbaidd o 82 mlwydd. Gan ei fod yn gwbl hunan-addysgedig fel llawer eraill o feibion Gwalia a gyrhaeddasant safle uchel o anrhydedd ac enwogrwydd, cynnwysa ei fywyd lawer o wersi buddiol a dengys ym mysg pethau eraill gymmaint a ddichon penderfyniad a dyfalbarbad ei gyrhaedd yng ngwyneb lluaws o anhawsderau ac anfanteision. Ganwyd Gweirydd ap Rhys yn Llanrhydd- lad, Mon, yn y ffwyddyn 1807, sef y plwyf y bu y prif-fardd N icander yn offeiriadu, a lie y terfynodd ei yrfa. Cymmerai yr hen lenor Gweirydd gryn bleser gydag olrhain ei achau yn ol i'r Dr. John Dafydd Rhys, awdwr dysgedig Grammadeg Lladin o'r iaith Gym- raeg, a'r hwn a anwyd yn y plwyf cymydog- aethol, Llanfaethlu, yn y flwyddyn 1534. Fel yr awgrymason ni fwynhaodd unrhyw fan- teision addysgawl yn ei ieuenctyd, ac ni chafodd gymmaint a diwrnod o ysgol ddyddiol erioed, fel y tystiodd wrthym lawer gwaitb. Dechreuodd yn ienanc-droi ei sylw at lenydd- iaeth Gymreig gan efrydu grammadeg ac orgraph y Gymraeg gyda dyfalwch diail, a daeth o'r diwedd i gael ei ystyried yn awdurdod pwysig yn y cyfryw ganghenau fel y prawf ei eiriaduron a'i luaws gweithiau llenyddol eraill. Gwehydd ydoedd wrth ei alwedigaeth a bu yn dilyn y gwaith hwnw am flynyddau, ac fel y gallesid meddwl nid oedd ganddo ryw lawer o amser i'w hebgor at ei ymchwiliadau llenyddol, i oblegyd yn ychwanegol at hyny yr oedd ganddo dyaid mawr o blant i'w magu, a gwnaeth hyny gyda mawr ofal am eu hyfforddi mewn dysg, moes, a chrefydd fel y tyfasant i fyny gan adlewyrchu clod ac anrhydedd ar eu rhieni. Onid gwehyddion hefyd oeddynt ddau o brif feirdd diweddar ein gwlad, yn moreu eu hoes, nid amgen Eben Fardd a Chaledfryn, a gwehydd hefyd ydoedd un o hrif gewri y pulpud Cymreig, sef yr anfarwol John Elias o Fon. Felly heb ddim cynnorthwy na man- teision cyrhaeddodd Gweirydd ap Rhys wybod- aeth gyffredinol dra helaeth, yn enwedig mewn ieithyddiaeth, banesyddiaeth, a hynafiaethau. Meistrolodd yr iaith Saesneg yn dda, er nad oedd o ddiffyg ymarferiad, yn rhwydd ei draddodiad yuddi, a deallai ryw gymmaint o Ladin a Groeg. Cafodd cerddoriaeth hefyd gryn lawer o'i sylw, a cbyfansoddai ambell ddernyn ya ei ddyddiau boreuol. Y waith gyntaf iddo ddyfod allan fel ymgeisydd ar y maes eisteddfodol ydoedd yn Eisteddfod yr Aberffraw, yn 1849, pryd yr ennillodd ar y traethawd Cyfarwyddyd i Gymro i Ddysgu yr Iaith Seisnig." Cyhoeddwyd y gwaith gorchestol hwn, fel galwai y Seren Gomer ef, gan Mr Gee, Dinbych. 0 hyny hyd yn awr—cyfnod o 40 mlynedd-mae ei enw wedi bod yn gyssylltiedig a bron yr oil o'n prif eisteddfodau, naill ai fel ymgeisydd neu feirniad, ac yn y cymmeriad olaf gelwid am ei wasanaeth yn barhaus i ddal y glorian feirn- iadol ar bynciau yn dal cyssylltiad a Chymru a Chymraeg. Yn Eisteddfod fawr Llangollen, 1858, peuodwyd ef yng nghyd a'r diweddar Thomas Stephens, o Ferthyr, gan bwyllgor o lenorion i sefydlu orgraph y Gymraeg, a chyhoeddasant ffrwyth eu llafur a'u ymgynghor- iad, ond mae y pwnc hwnw fel llawer eraill o ran hyny mor bell yn awr o gael ei benderfynu ag erioed. Rywbryd ar ol hyn symmudodd i Ddinbych, i awyddfa Mr Gee, i gynnorthwyo yn nygiad allan amryw weithiau pwysig, megys y Gwyddoniadur, &c., i'r hwn y cyfran- odd dros 600 o erthyglau-lluaws o honynt yn feithion iawn. Yn Eisteddfod Rhuthyn, 1868, cawn ef yn tynn>l' dorch a'r diweddar loan Pedr, ar destyn yn dal cyssylltiad ag ieithydd- iaeth Gymreig. 0 Ddinbych symmudodd i Fangor, a bu am ychydig amser yn golygu newyddiadur yno, sef Papyr y Bobl (1865), ond byr-hoedlog fu hwnw gan i'w berchenog fyned i ddyryswch masnachol wrth ei ddwyn allan. Yr un adeg efe a barotodd i'r wasg weithiau barddonol ei fab athrylitbgar Golyddan, ond nid ymddangosodd ond un rhifyn yn unig o hono, a gynnwysai ei bryddest Iesu, yr hon a anfonwyd i Eisteddfod Dinbych, 1860, am yr hon y dywedai y beirniaid ei bod yn cynnwys darnau teilwng o Dante a Milton. Ar ol hyn darfu i swyddfa enwog Mackensie, cyhoeddwyr, Glasgow, alw am ei wasanaeth i ysgrifenu gwaith ar Hanes y Brytaniaid a'r Cymry," yr hwn a ddaeth allan yn ddwy gyfrol 4 plyg, a hwn yn ddiammeu ydyw yr Hanes Cymru cyflawnaf a gyhoeddwyd erioed yn ein hiaith. Golygodd hefyd "Enwogion y Ffydd," yr hwn a ddechreuasid gan loan Pedr, a chy- hoeddwyd hwn yn ddwy gyfrol. Ym mysg ei weithiau llenyddol eraill gellir nodi ei Hanes Llenyddiaeth Gymreig o ganol y bedwaredd ganrif ar ddeg i ganol yr eilfed ar bymtheg." Cynnygiasai cymdeitbas yr Eisteddfod Genedl- aethol wobr o £100 am y traethawd goreu ar y testyn hwn, ac allan o saith neu wyth o ym- geiswyr yn Eisteddfod Caerdydd dyfarnwyd y wobr i Gweirydd ap Rhys. Yn eisteddfod ddiweddar Llundain hfyd rbanwyd y wobr o .£50 rhyngddo ef a'r Parch. Elvet Lewis, am draethawd ar "Hanes Beimiadol Barddoniaeth Gymreig y 18fed ganrif." Yn ystod y misoedd diweddaf yr oedd yn brysur wrth y gwaith o ysgrifenu ar ddau destyn hanesyddol pwysig, y rhai, ond odid, a gyhoeddir etc. Ni feddwn yma ofod i ddodi rhestr o'i holl weithiau; y mae ei eiriaduron yn ddigon hysbys ac wedi cael cylchrediad mawr. Ysgrifenodd rai cannoedd o erthyglau i Credoau y Byd," o dan olygiaeth y Parch. R. E. Williams; cyfieithodd ranau o "Addysg Chambers i'r Bobl"; a chyfiexthodd hefyd draethawd Mr Gladstone ar y Vatican Decrees," am yr hyn y derbyniodd gydnabyddiaeth sylweddol gan yr awdwr. Mewn gair ni chyhoeddwyd nemawr newyddiadur na chylchgrawn yn ystod yr haner can' mlynedd diweddaf nad ysgrifen- odd efe fwy neu lai i'w colofnau. Bu hefyd mewn ami ornest lenyddol ac yn croesi cledd- yfau a rhai o gewri y byd Cymreig, nid amgen 8. R. a J. R., Talhaiarn, Iorwerth Glan Aled, Eben Fardd, a lluaws eraill. Yr oedd yn dra annibynol ei fam, a choleddai amryw syniadau ar bynciau duwinyddol, hanesyddol, ac ieith- yddol, nad oeddynt mewn un modd yn gym- meradwy gan y lluaws. Talodd sylw hefyd i farddoniaeth, deallai y rheolau yn dda, cyfan- aoddodd amryw ddarnau, ac ennillodd rai gwobrwyon. Y mae ei ferch Buddug," gyda'r hon y treuliodd amryw o flynyddau olaf ei oes, yng Nghaergybi, yn Uenores wych, ac wedi eunill rhai gwobrau mewn eisteddfodau pwysig. Yn 1882 gwnaed cais gan gyfeillion ac ed- mygwyr yr hanesydd hybarch, ac efe yn tynu at gymydogaeth y pedwar ugain, am flwydd- 0 dal iddo oddiwrth y Llywodraeth ar gyfrif ei I fawr wasanaeth i lenyddxaeth Gymreig; ond oherwydd diffyg cefnogaeth leol neu rywbeth arall, buwyd yn aflwyddiannus. Gwnaed cais cyffelyb y flwyddyn ganlynol, a chefnogwyd y symmudiad gan luaws o aelodau seneddol, liedd- ynadon, gweinidogion, swyddogion cyhoeddus, llenorion, ac eraill, a'r canlyniad fu caniatau iddo rodd o £150 allan o'r Royal Bounty Fund. Ac yn sicr nis gellid meddwl am yr un Cymro yn fwy haeddianol o'r cyfryw gydnabyddiaeth. Gweithiodd yn ddiwyd trwy ystod oes faith, a chyfoethogodd lawer ar lenyddiaeth ei wlad, a dylai ei ymroddiad a'i ddiwydrwydd, y rhai oeddynt nodweddion mor amlwg yn ei gym- meriad, symbylu eraill i'w efelycbu ac i wasan- aethu eu gwlad a'u cenhedlaeth yr un mor ffyddlawn ag yntau. Clndwyd ei weddillion marwol ddydd Sadwrn diweddaf gan dyrfa luosog o feirdd, llenorion, cyfeillion, a pherthynasau, o Bethesda i Gaer- gybi, lie yn flaenorol y claddesid cydmares rinweddol ei fywyd, mewn oedran teg. Hedd- wch i'w lwch. GLAN MENAI.

LLOI HYNOD.

DYDDIAU CYNTAF OEN.

[No title]

-.--------------------_--REVIEW…

PROGRESS OF WELSH CATTLE.

!-THE LINGUISTIC CONDITION…

Advertising

LLANDOVERY BOARD OF| GUARDIANS.

.. THE LONDON COUNCILS AND…

Advertising

----.-------.----_._-----MATRIMONIAL…

A PHOTOGRAPHIC ROMANCE.

Advertising