Skip to main content
Hide Articles List

14 articles on this Page

YMWELIAD Y FRENINES A CHYMRU.

News
Cite
Share

YMWELIAD Y FRENINES A CHYMRU. Methiant Ilwyr a chywilyddus a fu ymgais Mr Gee a rhan fechan o'r Wasg Gymraeg i daflu dwfr oer ar y brwdfrydedd a fynai ein brodyr yn y Gogledd ddangos ar ymweliad ein Brenines a'n Penllywydd a Wrexham a'r cymmydogaethau, ac y mae y Faner a'r Celt wedi derbyn y siomedigaeth a haeddent. Yiudorodd teyrngarwch greddfol y Cymry allan gyda gwres ac undeb rhyfeddol fel ag y dangosir i ni ym mhapyrau y deyrnas; ac y mae hyd yn nod y faner yn gorfod dangos hyny yr wythnos hon. Nid yw y llwythau Celtig erioed wedi bod yn fyr o gariad at eu breninoedd a'i breninesau. Oddiar esgyniad CIY teulu Tudur i orsedd Prydain Fawr y mae ein breninoedd a'n breninesau wedi profi preswyl- wyr Cyruru o dan bob tywydd-teg a garw- gyda'r mwyaf ffyddlon o'u deiliaid mewn un rhan o'u llywodraeth. Pa un ai o dan rwysg- fawredd teyrnasiad Elizabeth, neu adfydau y Stuartiaid, y mae calon pobl Cymru wedi proti yn ffyddlon at eu penadur. Gwyddent fod gwaed y l'ndnriaid yn rhedeg yng ngwythenau 5 Z5 Z3 y Frenines Victoria, a rhoddes ei phresennol- deb ym mysg yr hen genedl gyfleustra llawn i'n teyrngarwch ddangos ei hun yn ei fan goreu. Yr unig beth i hiraethu yn ei gylch yw fod y Frenines mor anfynych yn ymweled a Chymru. Cymmerodd amryw ddygwydd- iadau le yng nglyn a'r ymweliad preaennol y rhai a argraffant werth arno, ac a ddangosant ddoethineb a rhagolwg y rhai hyny a drefn- asant yr ymweliad. Rhoddes y rhan o'r wlad yr ymwelodd ei Mawrhydi a hi gyfleustra ardderchog i'r Frenines weled prydferthion golygfeuydd Cymreig, ac i weled ei deiliaid yng 00 1 0 Nghymru yn eu cymmeriad eynhenid. Yr oedd yr anrheg o ffon gollen a wnaed iddi, a'i hatebiad hithau, "Diolch yn fawr iawn i chwi," yn cydgordio yn hollol a thraddodiadau yr amser gynt. Rhaid fod ei deiliaid Cymreig yn barod i waeddi Beth y mae yn medru Cymraeg fel ni ein hunain." A rhaid fod en calonau yn cael eu hattynu i'w charu fel plant eu mam. Y mae teyrngarwch yn beth genedigol yng ngwlad y geninen. Pan y dattododd Harri, Due Richmond, y faner Gymreig—y Ddraig Goch, ym Milffwrd yn 1485, ymdyrold y Cymry o'i hamgylch ac ym- laddasant o dani ym mrwydr fythgofiadwy Maes Bosworth. Rhoddes Harri VIII. i ni gyfreithiau cyfartal a'r un breintiau a Lloegr. Ymffrostiai Elizabeth ei bod yn dywysoges o Deulu Tudur, ac nid anghofiodd ei phobl pan y daeth yn irenines Lloegr. Rhoddes iddynt esgobion Cymreig, ac offeiriaid yn siarad Cymraeg, a pherodd i'r Beibl gael ei gyfieithu 0 ZD i iaith pobt Cymru. Rhoddes gefnogaeth i lenyddiaeth, ac addysg, a'r eisteddfod, a dyr- chafodd ei chydwladwyr i swyddi o anrhydedd ac ymddiriedaeth. Cafodd yr anffodus Siarls n. drigolion Cymru y cyfeillion goreu a gyfar- fuodd, noddasant ef pan oedd yn crwydro o fan i fan yn ffoadur o dan yr enw William Jones. Yr oedd Cymru yn fwy croes i Cromwell nag un rhan o'r deyrnas. Profodd Iago I. y Cymry yr un mor deyrngarul. Ffurfiodd nifer o foneddwyr Cymreig gorphlu iddo yn ei ymweliad a Chaerlleongawr yn 1617. Ar ol dyddiau teulu Stuart collwyd golwg ar Gymru ac esgeuluswyd hi, am fe ddichon, iddi fod yn deyrngarol i freninoedd. Am dros gan mlynedd ymddygwyd at Gymru fel gwlad orchfygedig. Llanwyd yr esgob- aethau a'r bywioliaethau gan offeiriaid Seisnig y rhai nid oeddent yn byw ynddynt, a'r gwas- anaethau yn cael eu cyflawni gan guradiaid. Tyfodd ein boneddwyr yn ddifater ac esgeulus- asant les y bobl. Nid oes hanes am un o'r teulu breninol yn ymweled a Chymru, a gallesid yn naturiol ddysgwyl y difloddasid pob teimlad teyrngarol yn y cyfamser. Nid felly y bu, modd bynag. Pan y talodd Sior IV., tra yr oedd eto yn Dywysog Cymru, ymweliad a'r Dywysogaeth, derbyniwyd ef gyda phob arddangosiad o deyrngarwch. Pan 0 tD y cyrhaeddodd Sior III. juwbili ei deyrnasiad, yn 1809, cyfododd trigolion gwlad y bryniau Dwr y Jwbili ar goryn Moel Faii-imau. Drachefn yn y flwyddyn 1821 pan y glaniodd Sior IV. o'i bleserdaith yng Nghaergybi, ac ar ol hyny ym Milffwrd, yr oedd y bobl ar dan gan frwdfrydedd. Talodd Due Clarence, wedi hyny William IV., ymweliad mynych ag tD Arglwydd Dinorbin ym Mharc Rininel. Bu y Due mewn eisteddfod a gynnaliwyd yn t,Y Ninbych yn y flwyddyn 1828, a rhoddwyd derbyniad teilwng iddo. Taniwyd awen Bardd Nantglyn ar yr achlysur a chyfan- soddodd gan. Talodd ei Mawrhydi, y Frenines Victoria, ymweliad a Chymru yn 1832, pan oedd yn Dywysoges Cymru; a bu mewn eisteddfod ym Miwmares, acyn 1848 ymwelodd hi a'r Tywysog Cydweddog a ni a chawsant y derbyniad cynhesaf. Mae yn beth i ofidio o'i herwydd nad yw'r Frenines yng nghyd ag aelodau eraill y teulu breninol yn talu ymwel- iadau mynychach a Chymru, a rhoddi cyfleus- tra i'w deiliaid i ddangos eu teyrngarwch a'u hymlyniad. I bobl o yspryd gwresog fel y ni y mae presennoldeb un o'r tenlu breninol yn y cnawd yn achos o hyfrydwch nid bychan. Y mae yr oil sydd yn cydfyned a'r ymweliad— yr ysplander a'r rhwysg, y meirch yn prancio, y dillad gwychion, a'r oil yn cyd-daro a'n chwaeth i'r dim' Y mae llawer llecyn yng Nghymru yn gyfartal mewn dyddordeb ac iachusrwydd i Balmoral a gellid ei gyrhaedd o Lundain mewn hanner yr amser. Ycliwanegai palas breiniol yng Nghymru yn ddifesur at bleserau y trigolion, a rhcddai attalfa i'r yspryd anfoddog sydd wedi ymddangos y blynyddau diweddaf. Nid oes un rheswm dros i'r teimlad ymchwyddol a weithia ei hun i'r golwg yng Nghymru Fydd beidio cael ei t) r5 n 0 uno yn agos a'r Goron. Nid yn unig fe wnai Tywysog Cymru ei waith yn well ond fe wnai les pe taflai ei nawdd dros ein sefydliadau cenedlaethol yng Nghymru. Ni a welwn y bendithion a ddeilliant i gymdeithas oddiwrth i,Y y ffaith fod mawrion tirol yn treulio eu hamser ym mhlith eu pob!. Pa le bynag y ceir hi felly, ac y mae amledd o engreifftiau, y mae eyflwr y bobl yn gysurus a dedwydd. Ped ychwanegiad at hyn nawdd a chydymdeimlad ein Tywysog, byddai yr adeilad yn gyflawn. Yr ydym yn gobeithio y bydd i ymweliad y Frenines a'r derbyniad gwresog a gafodd yr wythnos hon ei thueddu i dreulio rhan o bob blwyddyn yn y Dywysogaeth. Wrth derfynu dyledus yw dweyd yr awyddai ei Mawrhydi weled, nid un adran o'r boblogaeth, ond pawb yn annibynol ar blaid, yn cael eu cyflwyno iddi. Dywed y preswylwyr hynaf nad ydynt yn cofio am gymmaint o frwdfrydedd ar yr achlysur o unrhyw yruweliad breninol o'r blaen.

AD-OLWG.

MR GLADSTONE GARTREF.

YMWELIAD YMHERAWDWR YR ALMA…

LLAFAR GWLAD.

TALLEY.

CENARTH.

LLANBEDR.

BYRION.

Harddoniafitlt.

[No title]

Y CEIDWADWYR A'R WASG.

At Olygydd Y JOURNAL.

AWGRYMAU.