Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

23 articles on this Page

YR EISTEDDIAD SENEDDOL.

News
Cite
Share

YR EISTEDDIAD SENEDDOL. Yr ydym gan bwyll yn tynu at derfyn Eisteddiad y Parliament. O'r dechren i'r I diwedd y mae wedi bod yn gyfnod o lwyddiant cysson i'r Llywodraeth. Gwir i'r nestir a amcanai y Weinyddiaeth brysuro ym mlaen yr wythnos ddiweddaf—Mesur y Degwm— gael ei dafln dros y bwrdd, ond y mae byd yn nod hyny yn fwy o fenditli na dim arall, o herwydd dangosodd yr ymdrafodaetli, fel y cawn weled, pwy yw y blaid Radicalaidd a phwy y blaid Genedlaethol. Yn y lie cyntaf nid yw Gwerddon wedi cau y ffordd i fyny. Am dair blynedd dyma a fu esgus mynych Mr Gladstone dros fyned ar hyd ac ar draws y wlad. Yn union y daeth y Ceidwadwyr i swydd, fe ddwedodd fel pe ar ei lw mai y cwestiwn Gwyddelig oedd uwchaf ar feddwl y bobl ac mai eystal fyddai peidio cynnyg unrhyw fesurau air gyfer Cymru, Lloegr, ac Yagotland. Nid oes dwywaith na cheisiodd Mr Gladstone ei oreu i osod y cwestiwn Gwyddelig yn uwchaf, ond methodd, a'r methiant hwnw o'i du sydd wedi bod yn brif achos dirywiad a gwanychiad y blaid n fedyddiwyd ar ei enw. Y llyriedd fe basiwyd cyfraith Llywodraeth Leol ar gyfer Lloegr a Chytnru, ac eleni un ar gyfer Ysgotland. Cafodd niesurau eraill eu pasio yn ogystal, ac y mae gwladlywiaeth y Weinyddiaeth bresen- nol wedi bod yn hynod lwyd,diannus gartref ac oddicartref. Yr ydym yn awr ar derfyn y pedtfcrjdd eiste(ldiad a dyddorol sylwi ar agwedd jpethau mewu perthynas a'r gwahanol Meidiatt gwleidyddol. Y Ceidwadwyr, wrth reswm, a ffurfia gorpli mawt yr Undebwyr. Maent yn un fyddin gryno ar bob cwestiwn yn dal cyssylltiad a'r Undeb. Yn awr ac yn y man, fel ar bwnc y Degwm, fe ddaw eu hannibyniaeth barn i'r golwg, ac ennillant yn fwy na cliolli yng ngolwg yr etholwyr agynnrychiolant. Y mae yr Undebwyr Rhyddfrydol wedi llosgi eu Z5 eychod i bob pwrpas ymarferol. Am y tait- blynedd diweddaf y maent wedi llithro ym mhellach, bellach, oddiwrth y Radicaliaid newydd, ac os ydynt wcdi ymdrefuu ar ffni-fiau newyddion y nment eto yn barod i ymladd fel inngwr wrth ochry Ceidwadwyr ar bob cwestiwn o bwys. Mae Mr Chamberlain wedi rhoddi ei lw drosodd a throsodd yr ymladda hyd y earn yn erbyn dadfachu Gwerddon oddiwrth lywod- raeth Prydain Fawr, a dengys effeitbiau ei anerchiadau fod ei ddylanwad, yn hytrach na lleihau, yn cynnyddu yn fwy nag erioed. Y mae y Gladstoniaid wedi ymrwygo eisoes yn ddwy blaid. Mae y naill, yn cael ei har- gain gan Mr Gladstone ac yn cynnwys y Rhyddfrydwyr swyddogol, megys Arglwydd Rosebery, Arglwydd Granville, Mr Shaw- Lefevre, a Mr Mundella, y rhai ydynt yn gyfarwydd a bod mewn swydd ac yn meddwl dychwelyd i swydd os gallant mewn rhyw fodd wneyd. Ymddangosodd yr ail blaid ar y maes agored ar bwnc y Rhoddion Breiniol, pan yr ymflagurodd Mr Labouchere yn flaenor plaid a gynnwysa ryw gant oaelodau wedi eu "chwipio" yng nghyd gan Mr Jacoby. Dibyna yn hollol ar a-mgylchitidttii pauli ai ag adran Mr Glad- stone neu ag adran Mr Labouchere yr ymuna Syr William Harcourt. Eistedda fel arfer ar ben y clawdd, a daw i lawr ar yr ochr a wel efe yn debyg o gymmeryd y flaenoriaeth. Dyna eilwaith y Blaid Seneddol Wyddelig gyda'i phedwar ugain a chwech o aelodau, y rhai yma a ddilynant Mr Gladstone, ac acw a dynant ar ol Mr Labouchere. Pleidiasant gyda'r Rhyddfrydwyr swyddogol ar bwnc y Rhoddion Breiniol, ond methasant alw eu nerthoedd yng nghyd ar Fesur y Degwm i roddi byddugoliaeth hollol i blaid Mr Laboncliere. Y canlyniad yw, fel ag y gallesid yn rhwydd ddysgwyl, fod plaid Mr Gladstone ben-yng-nghad a'u gilydd. Mae y Rhyddfryd- wyr cymmedrol allan o'u cof am fod plaid newydd wedi cyfodi i'r golwg islaw y gangwe." Hawliant y bleidlais Wyddelig fel eu hetifeddiaeth, gan gredu i Mr Parnell 1 werthu eiallu pleidleisio, gorpn ac enaia, livjlu Gladstone am ddylanwad a nerth enw mawr y Cyn-brifweinidog. Ar y llaw arall taera y Jacobyniaid i'r Parnelliaid eu bradychn hwynt ac, ar yr un pryd, eu hargyhoeddiadau Demo- cratitidd, ect hnnain, drwy bleidleisio yn ffafr y Rhoddion Breiniol, ac y mae rhyfel bapyr boeth yn cael ei dwyn ym mlaen ar y mater yn y Wasg Radicalaidd yn Llundain. Yn y Werddon eilwaith y mae y pleidiau Gwyddelig yn ymranedig. Mae y Freeman's Journal wedi bod yn ysgyrnygu dannedd ar ly adran Mr Parnell am beidio bod yn eu lie yn y.Senedd yn ystod y ddadl ar Fesur y Degwm. Dywed yr aelodau seneddol dyhir o'r ochr arall fod ganddynt eu gorchwylion eu hnnain i'w cyflnwnu, ac nad oes raid iddynt dalu sylw i faterion Seisnig. Mae cynhyrfwyr ieuangach yn ymwthio i'r golwg ac yn awyddns i gicio hen ganlynwyr diffygiol Mr Parnell dros y trothwy. Pasiwyd y pendet-fyniad canlynol gan itn gangen o'r Cynghrair Cenedlaethol yn Dublin:—"Ei bod, yng nghyfrif y gangen hon, 6 Z5 yn ddyledswydd rwymedig ar bob aelod o'r Blaid Seneddol Wyddelig i fod yn en llecedd yn gysson yn Nhy y Cyffredin, heblaw eu bod ya eogneodol gan eu hetholwyr neu flaenor eu plaid; ac yr ydym yn condemnio esgeultisdod a diofalwch yr aelodau hyny y rhai, drwy eu habsennoldeb diweddar oddiwrth eu dyled- awyddau seneddol, a achubasant Lywodraefch Gorfodaeth rhag gorchfygiad sicr ac fe ddichon dymchweliad llwyr." Gwir i Mr Parnell geisio clogyno gwrthgiliad ei blaid, ac y mae wedi addaw cau drws yr ystabl wedi i'r ceffyl ddianc. Nid oes eisieu dweyd na rydd y sicrwydd hwn foddlonrwydd i'r Blaid Radicalaidd yn Lloegr, ac y mae yn amlwg fod Mr Parnell ar "lyfrau duon" eu ganlynwyr. Amlwg yw oddiwrth yr hyn a ysgnfenwyd fod v Blaid Wrthwynebol mewn penbleth diobaith. Yn y cyfamser cynnyddu a wna llwyddiant y Werddon. Myneg., cwiuin ui y rheilffyi-dd am gynnydd masnachol, a dywed adroddiadau y Bwrdd Carchaiau Gwyddelig am leihad yn nifer troseddau ysgeler, ffrwyth diammheuol gweinyddiaeth efFeithiol Mr Balfour. Pe na buasai am y safle a gyui- merodd y Blaid Wrthwynebol yn yr Eisteddiad hwn cawsai mesurau pellach eu pasio, y rhai a roddasent derfyn ar bob ymryson ym mron yn y Werddon ond y mae Mr Storey a'i yralyn- wyr wedi cwmpasu dinystr Mesur y Carth- ffosydd, ac ar waethaf dannedd yr Wrthblaid y daw Mesur y Rheilffyrdd Ysgeifn yn ddiangol. Nid ydym yn dysgwyl rhyw lawer o ofid yn ystod y gwyliau yn y Werddon. Addawa y cynhauaf yno fod gyda'r goreu er ys blynyddau, ac nid yw yr ymdrech a wueir er galfaneiddio cynhwrf i ail fywyd drwy Gynghrair y Tenantiaid yn dehyg o lwyddo. Mae y Gwyddelod Americanaidd wedi ymhollti yn ddeuddarnj tie fe ddioddefa llogell y cyn- hyrfwyr yn fawr o'r herwydd. Pan gyhoedda Mr Balfour pa ryw fesurau a fwriedir ar gyfer y Werddon y flwyddyn nesaf teimla y Gwyddelod yn ddiau mai gwell derbyn cyn- nygion y Llywodraeth na gyru ar gefn unrhyw gynlluniau gwrthryfelgar newyddion. Mae haul y blaenoriaid Gwyddelig ar y goriwaered yn y wlad, ac y mae tuhwnt i bossiblrwydd dynol i rwystro cyfnewidiad mawr yn opiniwn y cyhoedd, hyd yn nod yn y Werddon, ar ol deg mlynedd o gynhwrf a therfysg. Nid oes dim i'w ofni gan Blaid Trefn a Cliyfraith a theimlwn yn dra sicr na bydd i fethiant Bil y Degwm gael unrhyw effaith hir ar dyngedion yr Undebwyr.

7 YR AELODAU CYMREIG A MESUR…

GWREIDDYN CYNHWRF Y DEGWM.

TREULIAU YR HEDDGEIDWAID YN…

DICHELL RADICALAIDD.

CEI NEWYDD.

Y FFERMWR CYMREIG.

YN Y CAE LLAFUR.

CHWARELWYR GOGLEDD CYMRU.

IIIN-FESURYDD HYNOD.

GELLIGAER.I

j PONT ARDD U LAIS.

I PENLLERGAER5I

1:1PONTARDAWE.

LLANELLI.

CYDWELI.

COGINAN.

BYRION. —|

FFARWEL Y BARDD

[No title]

CEIDWADWYR A'R WASG.

INDIPENDIA FAWR A'R GYNNAD.…

AT EIN DARLLENWYR.