Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

Y FRENINES A CHYMRU.

GWLEIDLYWIAETH SEFYDLOG.I

News
Cite
Share

GWLEIDLYWIAETH SEFYDLOG. I Cawsom gryn lawer o siarad yn ddiweddan ac nid un argoel dda y ceir gwyliau seneddol tawel yw gweled Mr Chamberlain ac Arglwydd Randolph Churchill yn ymgodymu a'u gilydd. Dywedwyd llawer y ddwy llynedd ddiweddaf am safleoedd a pherthynasau gwleid- yddol y ddau hyn, ac y mae mwy o siai-atd am danynt nag erioed, efallai, ar ol eu hareithiau yn Birmingham a Greenwich. Ofer gwadu nad yw bnddiannau y Blaid Undebol yn teimlo oddiwrth ddylanwad personol Arglwydd I Churchill yn ogystal a Mr Chamberlain. Mae y ddau yn siaradwyr cyfarwydd, au meddyliau yu gyflym, nerthol, a llawn. Mae dylanwad lied fawr gan y naill a'r llall ar feddylian y Iluaws, yn enwedig yn Birmingham, ac mewn manau ereill, er nad o lawer i'r un graddau. Mae y ddau, i fesur mwy neu lai, wedi ymadael a'r blaid i'r hon y perthynent un- waith, ac y mae y ddau wedi dyoddef yn bersonol drwy golli swydd mewn ffyrdd eraill. Bu amser pan y tybid ei bod yn bORsibl; ac yn wir bron yn debygol, y gallasai rhengoedd y I Radicaliaid Undebol a'r Toriaid Democratai<ld ymuno a'u gilydd a ffurfio plaid. Ond aeth y cyfleustra heibio lieb i byny gyiiimeryd lie. Pan gyflawnodd Arglwydd Churchill brif fai ei fywyd yn niwedd Rhagfyr, 1886, ac ymddi- swyddo o fod yn Ganghellwr y Trysorlys ac arweinydd Ty y Cyffredin, tybid gan lawer y "allasai gydymuno er amddiffvn ac ymosod a Mr Chamberlain, a phe huasai hyny wedi bod, efallai nas ceid amgylchiadau gwleidyddol Birmingham fel y maent heddyw. Y r oedd y Werddon y pryd hwnw yn grochan berwedig o gynhwrf. Yr oedd Mr Balfour eto yn allu anadnabyddus mewn gwleidyddiaeth Wydd- elig, ac nid oedd y blaid Undebol wedi cael ( i chadarnhau a'u sefydlu drwy lawer ymdrech galed yn y wlad, a llawer rhaniad yn y Ty. Pe daethai Arglwydd R. Churchill ym mlaen a phrogram newydd a herio gwleidlywiaeth y senedd, anhawdd dywedyd pa wedd a wisgasai pethau. Ond nis gwnaftth hyny, ac yn awr y mae yn euro yr haiarn pan yw yn oer, ac ni cha yr un argraff ar bob 1 ydynt yn awyddus i dalu diolch i Mr Balfour am ei wasanaeth da i heddychu y Werddon. Y mae, modd bynag, un.-icb-an.o'r,iBlaitil Undebol yn sylwi gyda'r dyddordeb mwyal ar y cWrs a gymmera Arglwydd R. Churchill, a hwynthwy ydynt y rhai sydd yn deyrngarol olr Gwyddeloct. Nis gallant ddeall pa fodd y gall yr Un siaradwr, yr hwn dalr blyriedd yn ol a aeth i Belfast ac a ddywedodd wrth Brotestaniaid Gogledd y Werddon os cai Mr Parnell senedd yn Dublin yr ymladdai Ulster ac y buasai yn yr iawn," yn awr, pan y mae y terfyngylch yn dechreu gloewi, ac awdurdod y gyfraith yn dechreu cael ei deimlo, siarad yn hollol wahanol, a dangos ger bron y hyd yr hen abwyd-y Cymmod-fel pe byddai yn eli at bob clwyf. Beth, a'i barnu wrth ei gwleidyddiaeth ei hun, y mae ffordd y Weinyddiaeth bresennol gyda'r tyneraf yn bossibl, ac o'r lies mwyaf i'r Werddon. Y ffaith yw y mae gwleidly wiaeth t eyfa, (rwl)1, y Weinyddiaeth hon ynllwyddiant cyfangw111, a gwna gwybodaeth ain hyny iddi fod yn an- nichoni unrhyw Bedwerydd neu Bummed Plaid 01.4el ei ffurfio. Cymmerer yr Aipht fel en- graifft. Gwell gan Arglwydd R. Churchill i ni dviiti ein galluoedd yn ol oddiyno. Ond y mae canlyniadau y frwydr wedi newid ei barn yng nglyn a galluoedd y Mahdi, ac yn profi pa mor sefydlog a chadarn y mae safle Arglwydd Salis- bury o barthed i'r Aipht. Yr ydym," meddai, (t wedi ymrwymo i beidio ymadael a'r Aipht neu i roddi i fynn ein gallu i'w chynnorthwyo hyd oni all yndadd ei ffordd ei hun yn erbyn pob gelyn tramor a chartrefol. Mae y cyfryw ymrwymiad wedi ei wneuthur fwy nag un- waith, ac y mae yn un nad oes eisien i ni gywilyddio o'i blegyd. Geilw pob anrhydedd, heb son am ddyngarwch, arnom i'w gario allan. Nid yw yn ymrwymiad a ddwg ddim lies uniongyrchol i ni, ond y lies hwnw a ddeillia oddiwrth gyflawni gwaith anrhydeddus. Ond y mae yn ymrwymiad, bydded y canlyn- iadau y peth y bont, ag y mae Lloegr wedi ei gymmeryd ar ei chefn, a'r hwn y mae yn sicr o'i gyflawni." Ni ddywed neb y gallasai byddin yr Aipht yn ddigynnorthwy orchfygn y gelyn esgud a bywiog a arweiniwyd mor C5 C$ ddewr gan Wad-el-Njumi yn erbyn y Cadfridog Grenfell. Na, arfau a dysgyblaeth a dewrder Prydeinig yn unig a ddarfu achub yr Aipht oddiwrth yr ymosodiad a fygythid arni. Ni chynimerir at ystyriaeth am foment y syniad y dylai Lloegr alw yn ol ei help o'r Aipht yn herwydd pwysau y Cwestiwn Dwyreiniol ar y wlad hon yn amser etholiadau, ac y mae yr ymrwymiadau anrhydeddus, y rhai y dywed y Weinyddiaeth sydd yn eu rhwymo ar hyn o bryd, YI1 gyfartal gryf yn achos y lleiafrif teyrngarol sydd yn y Werddon, y rhai a j edrychant at bobl Prydain Fawr am sicrwydd I i'w cynnal yn eu lie fel dinasyddion, a pharhad j o'r breintiau a fwynhant ar hyn o bryd.

ARAITH MR. CHAMBERLAIN.

YMBLEIDIAU Y BLAID RYDD->…

RHEILFFYRDD YSGEIFN.

EIN CBEADURIAID PLUOG. 1--

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1891.

FICER NEWYDD LLANSADWRN A…

[No title]

BYRION.

DADBLYGIAD.

OWN HELA CAPTEN LLOYD,: GLANSEVIN.…

LLANYMLYDYFRI.

BORTH (GER ABERYSTWYTH).

ABERTEIFI.

AT EIN GOHEBWYR.