Hide Articles List

16 articles on this Page

Y FRENINES A CHYMRU.

GWLEIDLYWIAETH SEFYDLOG.I

ARAITH MR. CHAMBERLAIN.

YMBLEIDIAU Y BLAID RYDD->…

RHEILFFYRDD YSGEIFN.

EIN CBEADURIAID PLUOG. 1--

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1891.

FICER NEWYDD LLANSADWRN A…

[No title]

BYRION.

News
Cite
Share

BYRION. DYWEDIR nad oes dim carcharau yn Ynys yr Ja. MYNYCHA un o bob pump o drigolion Prydain Fawr yr Ysgol Sul. TWNEL yr Hafren yw pedwerydd o dwneli hirion y byd. ARFERA y Frenines wneyd ei the ei hunan pan yn teithio. LLOSGIR 44 pwys o lo ar gyfartaledd ar y rheilffordd am bob milltir a. redir. DEFNYDDIR oddeutu 80 pwys o bowdr wrth flastio am bob mil o dunelli o lo a godir. Nis gellir gwelia berw y dwfr wrth eu gwrteithio. GWNA dwfr awyeedig laeth yn Hawer mwy treuliadwy. RHODDIR arsenic i geffylau yn Awstria tuag at wneuthur i'w crwyn ddysgleirio. Y* y flwyddyn 1790 y rboddwyd heibio Doøgi gwenwynwyr yn y wlad lion. YN Llynlleifiad y ceir y nifer mwyaf o feddwon yn Lloegr. Y PARCH. H. WATKIN WILLIAMS ydyw Arcddiacon newydd Llanelwy. DYWED y limes y tyr y Parliament i fyny ar y cyntaf o'r mis nesaf. DYWEDIR y siaradir yr iaith Gymraeg gan oddeutu miliwn o ddynion. YFIR gwerth pum uiiliwn ar hugain o de bob blwyddyn yn Rwssia. AGORWYD pont newydd yn groes i'r Ddyfrwy y dydd o'r blaen gan Mr Gladstone. Y 27fed cyf. yw'r diwrnod a benuodwyd i ddienyddio Mrs Maybrick. DADLENWYD yn ddiweddar y golofn sydd yn coffhau am laniad y Tadau Pererinol yn Plymouth. Bu 30 mlynedd ar waith. PRIS y llafur ar gyfartaledd yr wythnos ddiweddaf oedd Gwenith, 30s. 11c. y chwarter; barlys, 19s. 10c. j ceirch, 19s. 5c. DYLAJ llwyrymwrthodwyr deimlo yn gysurus yn Toronto (America) He nid oes ond 150 o dafarndai ar gyfer poblogaeth o 180,000. DYWEDIR y cynnila pob un o ddeiliaid y wlad hon dair ceiniog yr wythnes ar gyfar- taledd. MEWN chwech yn unig o'r 28 o fwrddradau a gyflawnwyd yn Llundain y cafwyd o hyd i'r drwgweithredMyr. DERBYNIWYD dwy rodd o XI,000 yr un gan Esgob Llandaf at amcanion eglwysig yn ei esgobaeth. LLADDWYD merch ieuanc o Fethesda sir Caernarfon drwy gael ei gwthio dan y tren, pan yn dychwelyd o eisteddfod. YN Nhy y Cyftredin nos Lun yr wythnos hon cymmerodd dadleuaeth liir le ar Fil y Degwm, a phasiwyd ef drwy fwyafrif bycban. YN ystod y ddau can mlynedd diweddaf dim ond dau foneddwr a fuont yn Brifweini- dogion dair gwaith, sef Mr Gladstone ag Iarll 0 Derby. DARLLENWYD y Mesur Addysg Ganolraddol i Gymru y drydedd waith dydd Gwener yr wythnos ddiweddaf, ac y mae wedi myned i Dy yr Arglwyddi. CYFLAWNODD Mr George Ruglieq, goruch- wyliwr ystad y Due Westminster yn swydd Fflint am banner can mlynedd, hunanladdiad yn ddiweddar drwy dori ei wddf ag ellyn. CYRHAEDDA addysg bwynt uwch o effeithiol- rwydd yn yr Almaen nag mewn unrhyw wlad arall. Dim ond un y cant sydd yn methu darllen ac ysgrifenu yno. MEWN pum mis yleni daeth i mewn i'r wlad hon 72,105 o dda corniog, 230,000 o ddefaid, a 12,921 o foch, heblaw cryn lawer o gig eidion, a gwedder, a chig moch. CYIIOEDDWYD cylchlythyr gan Esgob Llan- elwy yn gwahodd offeiriaid yr esgobaeth hono i arfer eu dylanwad er cael gan y Llywodraeth i basio Bil y Degwm y senedd-dymmhor hwn. AETH cofeb oddiwrth ddeg o'r aelodau Cymreig at Benaeth Coleg Iesu, Rhydychen, yr hon a brotestia yn erbyn troi gwaddoliadau Meyrick oddiwrth eu hamcan gwreiddiol. DYCIIWELODD yr Esgob Jones i Ddeheudir Affrica wedi bod yn ymdeithio yn y wlad hon am 15 mis. Casglodd dros tin fit ar ddego bunnau at achosion eglwysig yn ei esgobaeth. PASIWYD Bil yn Nhy yr Arglwyddi er I d, byrhau ym mhellach yr arddull a ddefnyddir mewn Deddfau Seneddol." Fe deimla pawb I sydd yn gwybod rhywbeth am danynt ei fod yn fesur anghenrheidiol iawn. PA nifer o eiriau a ellir ysgrifenu ar gerdyn post I Bu ysgrifenwyr buain yn ddiweddar yn ymgystadlu er penderfynu y pwynt, a Mr Sylvanus Jones o'r America gafodd y wobr. Ysgrifenodd 36,764 o eiriau ar un cerdyn. MAE dan ar bymtheg o aelodau o'r Blaid Genedlaethol (Wyddelig) wedi rhoddi rhybudd y bwriadant sefyll yd erbyn y bil a ddygir i mewn i'r Senedd er Cau ar y Sul yn y Werddon. GELLIR ffurfio rhyw ddrychfeddwl am dreuliau y Shah pan y deallir ei fod newydd yru archeb am L25,000 i'r Meistriaid Cook, y goruchwylwyr teithiol adnabyddus. Tal am lettya mewn gwahanol fanau ac am deithio ar y rheilffordd oedd yr archeb hon. CYRHAEDDA newydd torcalonus o Proro YI1 Utah, am fenyw yn cael ei chladdu mewn llewyg. Yr oedd nn o'i pliertliyiiastit yn meddwl ei bod o hyd yn fyw, ac i'w bod lloni fe godwyd y corph o'r budd pryd y gwt-1 >vyd ei fod wedi rhoddi tro yn yr arch. DYNES ryfedd yw Mrs Susanne Richardson, o Limington yn yr America. Mae yn 90 ml wydd oed. Cyfyd am be>lwar y boreu bob dydd i drefnu materion y teulu. Mae dwy fuwch o dan ei gofal, cyweiria yr ymenyn, gylch ei dillad ei huna.n, a medr ddarllen a phwytho y nodwydd heb help gwydrau. RnWNG chwech a saith o'r gloch y Sul diweddaf cyuimerodd ystorm o fellt a tharanau gyda'r waethaf a welwyd erioed le yn Bir- mingham a'r gymmydogaeth. Yr oedd y mellt yn nodedig o lachar a chryf a syrthiodd gwlaw mawr am dros awr o amser. Gwuaed colledion trymion. Tarawyd llawer o adeil- adau a siruneiau gan fellten. Drwy drugaredd ychydig o niwaid i ddynion a wnaed. GADAWODD dyn ieuanc o'r euw Edward Eatcb, yr hwn a gyflawnodd hunanladdiad 3,11 Leeds, lythyr hyuod ar ei ol wedi ei gyfeirio at ddynes ieuanc o'r enw Morley, yn yr hwu y dywedai Yr wyf yu myned i ladd fy hun boreu dydd Gwener nesaf, gan (y mod ain gael fy ughladdu at Wyl y Bauc (y Liun), ac felly fe sioniaf fy nghyfnithder Annie, yr hon sydd yn pi-iodi ar y diwrnod hwnw, ac fe fydd angladd yn lie priodas. Yr wyf yn gobeit,hio y deuwch i'm hangladd. Mi a gyfarfyddaf a chwi yn y nefoedd." Penderfynodd y rheith- wyr fod j bachgen wedi lladd ei hun pan allan o'i iawn bwyll.

DADBLYGIAD.

OWN HELA CAPTEN LLOYD,: GLANSEVIN.…

LLANYMLYDYFRI.

BORTH (GER ABERYSTWYTH).

ABERTEIFI.

AT EIN GOHEBWYR.