Hide Articles List

16 articles on this Page

Y FRENINES A CHYMRU.

News
Cite
Share

Y FRENINES A CHYMRU. Mae Mr Gee, fel y rhagfynegasom yr wyth- nos ddiweddaf, wedi rhoddi ei droed ynddi, ac wedi creu terfysg nas gwyr neb l.eth a fydd y canlyniadau. Yr oedd yn meddw], hwyrach, y rhoddai fynegiad i deimladau Bhyddfrydwyr esgobaeth Llanelwy yn neillduol, a Chymry yn gyffredinol, yn y llythyr angharedig ac a11- nheyrngarol a ymddangosodd yn y Faner am Awst y 7fed, ac o'r hwn y rhoisom ddyfyniad yu y JOURNAL yr wythnos ddiweddaf. Ond fe garasyniodd yn fawr. Y mae marwor teyrngarwch wedi tori allan yn fflam yng nghalonau gwyr blaenaf y gwahanol enwadau ( crefyddol yn yr esgobaeth a chylch-lythyr wedi ei lawnodi yn gyntaf gan y bardd a'r pregethwr nielusber y Parch. D. Roberts, D.D., o Wrexham (Caernarfon gynt) a deg o weinidogion eraill i'r perwyl yma GWRECSAM, Awat 8fed, 1879. ASWYL Fiu. WD, Yn gymmaint a bod awydd cryf wedi ei ddad- gan am i'r AngbydfFurfwyr gael eu cynnrychioli yn mysg ,yr amryw anerchiadau a gyflwynir i'r Frenines ar achlyaur ei hymweliad a Gwrecaam, ar y 24ydd cyfisol, penderfynwyd, mewn cyfarfod a fynnaliwyd yma neithiwr, i gyflwyno yr anerchiad canlynol i gymmeradwwyaeth ein bull frodyr (y Cymry a'r Saeson), yn y tair air a enwir ynddo. Yr wyf yn hyderu y bydd yn wiw genych chwi gydsynio a'r anerchiad a chan fod yr amser yn fyr, ac nad oes genym eisieu roddi i chwi y drafferth o ysgrifenu, niagymmerwn yn ganiataol eich b<>d ydeydsynio, os na ,°} Xwn \T wyneb oddi wrthych erbyn dydd Mawrth nesaf. Yr eiddoch yn gywir, &c., ;•<-■ D. ROBEKTS. &c. &c. Wele eto adysgrif o'r anerchiad afwriada; y Gweinidogion Ymneillduol gyflwyno i'w Mawrhydi, ac y mae yn deilwng o'r cariad hwnw a fodolai at y Goron yng nghalonau dynion fel Williams o'r Wern, Christmas Evans a John Elias, gwyr nad yw y rhai a wratidawant ar lais y Faner yn deilwng i ddattod carai eu hesgid. 0 I'W GRASUSAF FAWRHYDI, BRENINES PRYDAIN FAWR A'R WERDDON. BYDDED GWIW GAN EICH MAWRHYDI, A nyni yn gweithredu ar ran ein brodyr, gweinidogion Anghydffurfiol siroedd Dinbych, Fflint, a Meirion, ac yn cynnrychioli adran fawr a phwyaig o ddeiliaid eich Mawrhydi yn y siroedd kyny, yr ydym yn dymuno troaglwyddo ich Mawrhydi ddadganiad o'n teyrngarwch an defoaiwn i'r Goron. Gyda boddhad diolchus yr ydym yn galw 1 gof y cynnydd aydd wedi ei wneyd o dan deyrnasiad eich Mawrhydi yn y cyfeiriad o ryddid crefyddol, fel y gwelir, yn myag mesurau eraill, yn agoriad y Prifyagolion i Ynineillduwyr, a diddymiad y prawflwon crefyddol. Tra yn cydnabod hefyd gyda diolchgarwch diffuant i'r Hollalluog DDUW, y llwyddiant materol anghymmarol a'r hwn y mae ein gwlad anwyl wedi ei bendithio o dan deyrnasiad maith a daionua eich Mawrhydi, yr ydym yn cydnabod gyda Hawn cymmaint o leiaf o ddiolchgarwch, y dylanwad helaeth a chynnyddol er daioni y mae rhinweddau personol uchel eich Mawrhydi wedi ei gario ar eich holl bobl, o'r Llys i waered. Gan ddymuno yn ddiffuant am i'ch Mawrhydi gael ei harbed am amser maith, mewn iechyd a nerth, i deyrnaau ar deyrnas heddychul a Ilwydd- iannue- Y mae y cam a gymmera y teyrngaroliow wedi gyru golygydd y Faner allan o'i gof, ac nid yw yn un rhyfedd genym, o herwydil y mae ochr wan Radicaliaeth wedi dyfod i'r golwg yn yr amgylchiadau. Fe ddangosir pa mor groes i'w gilydd y maent yn synied, pa mor bell oddi wrth eu gilydd y maellt wedi myned, a pha mor ammhossibl yw eu hailuno mwy. Yr oedd y Faner yn meddwl gwneyd cryn gyfalaf gwleidyddol o'r mater, end fe'i siomwyd, am hyny y mae yn ymgynddeiriogi ac yn dweyd pethau celyd am ei brodyr," a phethau yr edifarha o'u plegyd eto. Mae ei geiriau yn deilwng o'u darllen, geiriau yn tarddu o chwerwder yspryd siomedig ydynt am yr hyn nid ydyw mor ddrwg genyhi u Mewn gwirionedd, yr ydym yn gofidio fod cynnifer o weinidogion adnabyddus a pharchus ym mysg yr Annibynwyr, y Bedrid wyr, y Methodistiaid, a'r Wesleyaid, wedi ymuno au gilydd i dynn allan anerchiad or fath i'r iFrehines; yr hwn sydd yn sicr o adael argraph anghywir ami, n'i harwain i dybied nad ydyw yr holl gynnwrf sydd yn y senedd a'r wlad am y gorthrwiu a deimlir oddi wrtli yr hen I estrones' ond siarad gwag i gyd." ,Ydyw y mae yr anerchiad yn sicr o beri i'r Teulu Breninol iawn brisio a pharchu y teyrn- garwch a ddangosir ynddo, a gweled nad yw y Faner wedi'r cyfan yn hollalluog a holl-ddylan- wadol yng Nghymru. Mae hyny yn ddrwg mawr yng ngolwg Mr Gee, ond y mae yn canfod drwg mwy yn y senedd. Mae ei liilwhvmvo vn fvwios a ffofvna, gan godi ei J"J-.Je J -Q ddwylaw sanctaidd i'r nefoedd :—" Pa ddef- j sydd a wneir o'r anerchiad rhagrithiol bwn, tybed, gan Argl. Salisbury, a llu o'i frodyr ,sydd o'r un lliw a chred ag yutan, mewn dadlenon yn y senedd, ac ar yr esgynloriau, yn y dyfodol Nid oes neb a wyr. Ac os cyfyd rhywun ar ei draed i wadu cywirdeb ei sylwadau ef, a hwythau, pa mor anghywir bynag fyddant, bydd yr atteb yn ymyl. Appelir at gynnwysiad yr anercliiad uchod, i'r absennoldeb ynddo o hyd yn oed gysgod o gwyn, ac appelir hefyd at enwau y gweini- dogion iydd arno, fe.1 prawf o wagder liollol pob hyspysiad a wneir fod y genedl Gyuueig yxi griddfan dan ei gorthrwm, ac yn pender- 0 fynu mynu ymwared o hono." Tywyllach fyth yr a pethau fel yr edrycha y Faner yn ei blaen, ac y mae y dyfyniad isod yn Ilawn o fustl chwerwdcr yspryd Byddem yn arfer edrych ar aunyw, os nad y cwbl, o'r gweinidogion a enwir f,-l dynion y gellid dibynu ar eu cydweltllrelFad yn ein hymdrechiadau am yfiawnder ond yr ydym erbyn hyn yn gorfod ofui ein bod wedi cam- gymmeryd:-fod Dr. Roberts a Mr Oliver wedi newid eu barn, ac y, bydd raul i Annibynia eu rbestru yn mysg pleidwyr yr Eglwys fod Mr Hudgell, a Mr Humphreys, hwythau hefyd yr un modd; ac y bydd i'r Bedyddwyr, yr hen enwad Y mneillduol pybyr y perthynant iddo, edrych arnynt bellacli fel edmygwyr y Sefydliad. Llawenydd mawr i ni ydyw gweled arwyddion fod ysbiyd Rhydd- frydig yn cynnyddu ym mysg y Methodistiaid Wesleyaidd a chly wed fod Mr Howarth, Mr Mort, Mr Smith, a Mr Curry—neu rai o honynt o leiaf, yn ei gymmeradwyo. A dyma Mr Jerman, a Mr Barrow Williams, y elywsom cymmaint am danynt, a Mr Griffith Owen- tri o Fethodistiaid—ai tybed fod seiliau i gasglueu bod hwythau wedi gwithgilio; ac fel y mae yn ymddangos, wedi cario Cyfarfod Misol sir Ffliut gyda hwyut i' dir y Gogledd t) 0 oer 1' Gobeithiwn, os felly, na byddant yn hir yno; ond y daw rhyw ddylanwadau gwell i efleithio arnynt yn fuan." Byddai yn help i leddfu peth o boen Mr Gee pe dygai i gof mai nid dyma y waith gyntaf i Weinidogion Ym- neillduol roddi ei Haw wrth anerchiad teyrn- garol. Oni wyr efe am yr anerchiad hwnw a lawnodwyd gan yn agos i holl weinidngion y gwahanol enwadau yn y Werddon yn yr hwn y gwaeddent am gael eu harbed oddiwrth y pla o Ymreolaeth a fygythiai ddyfod arnynt ? Na y mae gweinidogion Fflint, Dinbycb, a Meirion wedi gwneuther yn rhagorol, wedi dangos eu teyrngarwch ac wrth wneyd hyny wedi profi eu bod yn llawer mwy gwladgar eu hyspryd na dim a ddaeth allan o swyddfa y Faner yn y blynyddau diweddaf. Y gwir am dani yw, ni roddes y Faner gam mwy anffodus erioed i'w phoblogrwydd ei hun. Mae yn ymwybyddus o'r ffaith ac yn ymofidio o'r herwydd, ac nid oes ganddi yn awr ond chwareu y bravado yn y mater. Rhwng bod Bil y Degwm yn fuan i ddod yn gyfraith a phobpeth, nid rhyfedd y dioddefa oddiwrth rywheth yn debyg i famwst wleidyddol, a than effeithiau un o'i llewygon yr esgorodd ar y jeremiad dan sylw. Y feddyginiaeth oreu a allwn gymmeradwyo at ei hachos yw darllen awdl Dewi Wyn o Eition ar Ofwy Ynys Mon J gan y Brenin Sior. Ni a obeithiwn y cymmer wers oddiwrth yr achlysur i ymattal rhag prophwydo mwyach cyn y byddo yn sicr, ac I ymyryd a materion nas gwyr nemawr oddi- wrthynt. Y waith hon y mae ei chenfigen wedi disgyn fel lafa mynydd tanllyd yn ol ar ei phen ei hun.

GWLEIDLYWIAETH SEFYDLOG.I

ARAITH MR. CHAMBERLAIN.

YMBLEIDIAU Y BLAID RYDD->…

RHEILFFYRDD YSGEIFN.

EIN CBEADURIAID PLUOG. 1--

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1891.

FICER NEWYDD LLANSADWRN A…

[No title]

BYRION.

DADBLYGIAD.

OWN HELA CAPTEN LLOYD,: GLANSEVIN.…

LLANYMLYDYFRI.

BORTH (GER ABERYSTWYTH).

ABERTEIFI.

AT EIN GOHEBWYR.