Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

BRENINIAETH - PA MOR GOSTUS…

EIN PERTHYNASAU TRAMOR.

"Y FRENINES A CHYMRU."

News
Cite
Share

"Y FRENINES A CHYMRU." Dyma benawd i erthygl hir yn y Faner Awst 7. Dywedir ynddi y bwriada clerigwyr esgobaeth Llanelwy gyflwyno an- erchiad i'w Mawrhydi ar ei hymweliad a Gogledd Cymru, ond nas gwel y gweinidogion Ymneillduol eu ffordd yn glir i wneyd yr un peth. Ym rahhth dyldodau eraill ceir a ganlyn :—" Ni bydd clerigwyr esgobaeth Llanelwy ond yn cyflawni eu dyledswydd wrth gyflwyno anerchiad iddi. Ymweliad ydyw hwn a delir a gwahanol ranau yr esgobaeth hon a'r frenhines, fel y dywedwyd, ydyw pen yr eglwys y perthynant iddi. Nid yw hyn ond arferiad cyffredin is-swyddogion a deiliaid, pan y bydd eu pen' yn talu ym- weliad a'u gororau. Yn rhinwedd perthynas yr Eglwys a'r goron y derbyniant hwy eu degymau; a chyfreithiau y deyrnas sydd wedi eu galluogi i ormesu drwy y blynyddoedd ar gydwybodau ac amgylchiadau amaethwyr Ymneillduol y Dywysogaeth. Nid rhyfedd, gan hyny, yw, fod clerigwyr esgobaeth Llanelwy yn parotoi anerchiad i'w Mawrhydi ar ei hymweliad a'r esgobaeth." Yr ydys wedi dangos drosodd a throsodd drachefn ar ba dir y mae y Freiiines yn ben i'r Eglwys. Y mae yn ben iddi fel y mae yn ben i bob sefydliad arall yn y wlad hon. Ni byddai yn benaeth yn y wlad pe byddai rhyw awdur- dod arall yn uwch na hi. Ni ddichon i ddwy lywodraeth gydfodoli yn yr un wlad. Heblaw hyn, oni wyr golygydd y Faner fod y Frenines yn gymmaint o "ben" i Gorph y Methodistiad ag yw i'r Eglwys ei bun ? Ai nid oes dim gweithredoedd cyfreithiol yn perthyn i'r Methodistiaid, ac i bob enwad arall sydd genym ? Stamp a delw pwy sydd ar y rhai hyny, ni a hoffem wybod! Yr ydym yn synu fod Mr Gee yn meddu cymmaint o wyneb fel ag i roddi argraff ffugiol ar feddyliau ei ddar- llenwyr yn y dyfyniad uchod. Y mae yn dweyd y gwir ond nid yr holl wir. Ni a hoffem wybod yn rhinwedd pa berthynas y mae y Faner yn gallu derbyn ei thai am ei hysbysiadau a phob arian arall a ddaw i mewn iddi 1 Onid trwy awdurdod cyfraith y gwna hi yr oil ag a wna ( itietn yw y gytraith ond awdurdod y Goron 1 Ac onid cynnrychioli y gyfraith hono a wna y Frenines 1 Gan hyny wrth ommedd talu gwarogaeth ddyladwy i'w Mawrhydi, ni wna y Faner ond dangos i ammharch i awdurdod cyfraith Prydain Fawr, ac ymrestru gyda'r set hono sydd yn gwaeddi yn erbyn pob trefn ac awdurdod yma a thu draw i gulfor Saufc Sior. Pell ydym o feddwl fod Mr Gee yn cyn- nrychioli yspryd a theimlad mwyafrif ei ddar- llenwyr yn yr ysgrif y eyfeiriwn atti; ac y mae y Faner yn debyg o golli yn fwy nag a ennilla o'i herwydd. Yr ydym yn gobeithio, ac yn wir yn credu fod ugeinial1 o bregethwyr yr hen Gorph a'r Enwadau ereill yn esgol:aeth Llanelwy yn llawn mor awyddus a'r clerigwyr i ddangos eu parch i Ben Coronog y Deyrnas.

ADDYSG GREFYDDOL.

|SIR ABERTEIFI.I

" YMGOM DAFYDD." -----..-

! GELLI AUR.

PENCADER.

TREGARON.

nYSTRAD MEURIG.

LLANLLWNI.

[No title]

BYRION.

EIN PENLLYWYDD.

ENGLYNION

LLUN FY NGHARIAD.

CEILIOG Y COED.

Y CANARY.

At Olygydd Y JOURNAL.

LLAFAR GWLAD.

AT EIN GOHEBWYR.