Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

BRENINIAETH - PA MOR GOSTUS…

News
Cite
Share

BRENINIAETH PA MOR GOSTUS YDYW. Un o amcanion blaenaf rhyw nifer bychan ystwrllyd o'r Radicaliaid yw diraddio sefyd- liadau y wlad hon, ac yn neillduol felly yr Orsedd. Ac ni chollant un eyfletisti-a i ddwyn eu hamcan i ben. Pell iawn ydyw y wlad yn gyffredinol o wrandaw arnynt, er hyny gwnant beth drwg, yn benaf drwy geisio creu anfoddog- rwydd y n meddyliati y lluaws aty rhai sydd mewn awdurdod. Ein hamcan yn yr erthygl hon yw dangos pa mor ddisail yw y cyhuddiad a wnant fod y trethdalwr yn dioddef yn dost yn herwydd y baich a osodir arno i gynnal y Freniniaeth, ac y dylid ei ysgafnhau. Dyma oedd 8wm a sylwedd araith Mabon yn y Senedd yn y ddadl ar y Rhoddion Breiniol yn ddiweddar. Wrth ddweyd fod y Frenines a'i theulu yn byw ar gefn y wlad angho6ai mai ccfnau glowyr y Rhondda a'i codasai ef i'r Senedd, ac a'i cynnalia yno eto i edliw y peth, a dangos ei ffolineb yn y fargen. Er mwyn -gweled yn iawn pa fodd y saif pethau gadewch i ni chwilio i mewn i'r costau a delir at gynnal y Teulu Breninol. Dyma fel y safant y tro lkeso,f Derbynia Y Frenines (yn ol gweitbred 1837) A3M,000 13 o'r Teulu Breninol. 152,000 Ychwanegiad at btant Tywysog Cymrn 36,000 Cyflog Rhaglaw y Werddon 20,000 A593,000 O'r swm hwn rbaid tynn aUan werth Tir y Goron, yr hwn gynt oedd ym meddiant y Goron, ond a roddwyd i fyny gan y Frenines ar ei hesgyn- iud i'r orsedd £ 396,000 Tr hyn a edy i'w dala gan y treth- dalwyr y swm o £ 197,000 Myn rhai Radicaliaid genym gredu na pherthynai Tir y Goron i'w Mawrhydi y Frenines. Mewn atebiad i hyn nid oes eisieu oud cyfeirio at y Ddeddf a wnaed y flwyddyn gynta-f ac a ddiwygiwyd yr ail flwyddyn o'i theyrnasiad, yr hon a addefa y ffaith yn bendant fod taliadau etifeddiaethol yn Lloegr, Ysgotland, a'r Werddon yn perthyn i'w mawrhydi, a'i bod yn eu gosod at wasanaeth y Senedd, gan lwyr gredu y darperir yn ddigonol at gynnal anrhydedd ac urddas y Goron. Fe welir felly fod y swm o yn agos i bedwar can mil wedi ei roddi i fyny gan y Frenines pan ddaeth i'r orsedd, er ei bod yn meddu hawl berffaith iddo. Gadewch i ni yn awr edrych o'n deutu a chymmharu ein treuliau ni yn y wlad hon ag eiddo gwledydd eraill. GERMANI.—Cyfrifir bod y symiau a roddir i'r Ymherawdwr at ei gadwraeth ef a'i deulu yn cyrhaedd uwchlaw chwe can mil o bunnau, heb son am yr arian a dderbynia oddiwrth ystadau, castelli, fforestydd, &c. RHWSSIA.—Amcan-gyfrifwyd yn swyddogol rai blynyddau yn ol tod cyllid y goron yn cyrhaedd i ddwy filiwn o bunnau. Mae tir y goron yn cynnwys dros filiwn o filldiroedd ysgwar o dir diwylliedig, a fforestydd, heblaw y mwnau aur, a'r mwnan eraill yn Siberia, y rhai oil a ystyrir yn eiddo i'r teulu fo ar yr orsedd. AWSTRIA.—Cyrhaedda treuliau breninol yn y wlad hon i saith cant, saith deg a phump o liloedd o bunnau, hanner yr hyn a delir gan Awstria, a'r hanner arall gan Hungari. ITALI.-Derbynia brenin Itali, yn gyfnewid am ystadoedd a roddes i fyny y swm o chwe cant a deunaw o filoedd o bunnau. YSPAEN.-Caniateir i'r goron a pherthyn- asau y brenin diweddaf y swm blynyddol o bedwar can mil o bunnau. Twitei.-Nid ydys yn gwybod pa faint yw incwm y Sultan, ond credir y cyrhaedda o filiwn i ddwy filiwn y flwyddyn. Mae y symiau hyn, y rhai a gymmerwyd o'r ffynnonellau swyddogol goreu yn bossibl, yn ddigonol i ddangos fod Coron Lloegr, o'i chym- mharu ag eiddo gwledydd eraill, yn llai costus i fesur mawr. Fe ddywed rhywrai, efallai, Gwir ei bod yn llai costus na Choronau y gwledydd a enwch, ond Unbenaethau yw y rhai hyny, ac y mae Unbenaeth yn gostus bdbartiser. Y maent ya gwneyd pethau yn well mewn gwledydd He mae Gwerin-lywodraeth, yn Ffrainc ac yn America er engraifffe." O'r goreu ni a gymmharwn ein treuliau ni ag eiddoy ddwy wlad hono eto. Yn y ddwy y mae y llywodraeth yng nghynnrychiolwyr y bobl, a saif yr arlywydd- ion a'r aelodau taledig yn lie y Goron a'r Senedd rad a geir yn y wlad bon. FFRAINC.—Mae treuliau penadurol Ffrainc fel y canlyn :— Cyflog yr Arlywydd ^524,000 Treoliao Tenluol ]2,000 310 o Seneddwyr yn ol £ 600 yr un 184,000 1M o Ddirprwywyr yn ol JE860 y fiwyddyn, au treuliau. 286,600 A506,OW YR UlfOL DALAETHAU. Gellir dangos treuliau y ffurf lywodraeth Werinawl yn yr Unol Dalaethau fel yma Cyflog yr Arlywydd ( £ 10,000) a'r swm o AS.000 a ganiateir heblaw. 415,000 Cyflog yr ls-arlywydd 1,600 70 o Seneddwyr yn ol £ 1,025 y flwyddyn 77,900 325 o gyirorychiolwyr yn ol £1,026 y flwyddyn 333,125 Cyflogau Llywodraeth wyr Talaethol 34,800 Cyflogau 6,148 o aelodau Deddfwr- iaethau Gwladwriaethol (amcan- gyfrif) 491,600 .£954,025 Yn Ffrainc yn ogystal ag yn yr America y mae yn perthyn i aelodau Deddfwrol freintiau mewn cyssylltiad a theithio ar draul y Llywodraeth, ac heblaw hyny fe delir aelodau fyddont ar Gommissiwn Breiniol, tra ni thelir yr un o'r aelodau fo ar Gommissiwn dan y Llywodraeth yn y wlad hon. Yn awr rhoddwn y ffigyrau uchod mewn taflen er mwyn i'r darllenydd allu eu cymmharu yn gyfleus a'u gilydd Y Deyrnas Gyfunol Y,197,000 Yspaen 400,000 Ffrainc 506,000 Germani 600,000 Itali 618,000 Awstria V 775,000 Yr Unol Dalaethau 954,025 Twrci (dyweder) I,f00,000 Rhwssia 2,000,000 Fe welir oddiwrth y ffigyrau iichod na rydd t5 Gwerin-lywodraeth ddim sicrwydd y ceir gweinyddiaeth cyfraith a threfn yn rhad, a bod traul y Weriniaeth yn Ffrainc yn gym- maint arall, a thraul Gweriniaeth America gymmaint bum gwaith a thraul yr Unbenaeth sydd genym yn y wlad hon. Gan hyny ar dir cynnildeb yn unig, heb son am ddim arall, fe ddylai y rhai hyny a waeddant i lawr a'r Goron," ac "i fyny a Gweriniaeth," ddangos pa ryw fantais a ddeilliai pe mabwysiedid eu syniadau a'u damcaniaethau gan y bob!. Os nad allant wneuthur hyn, byddai yn gallach iddynt gau eu penau ac ymattal oddiwrth gynhyrfu y wlad ac ennill poblogrwydd trwy 3 eu gwaith yn ceisio diraddio y ffurf-lywodraeth ardderchog sydd genym, a phentyru dirmyg ar g Teulu Breninol fel y gwnant.

EIN PERTHYNASAU TRAMOR.

"Y FRENINES A CHYMRU."

ADDYSG GREFYDDOL.

|SIR ABERTEIFI.I

" YMGOM DAFYDD." -----..-

! GELLI AUR.

PENCADER.

TREGARON.

nYSTRAD MEURIG.

LLANLLWNI.

[No title]

BYRION.

EIN PENLLYWYDD.

ENGLYNION

LLUN FY NGHARIAD.

CEILIOG Y COED.

Y CANARY.

At Olygydd Y JOURNAL.

LLAFAR GWLAD.

AT EIN GOHEBWYR.