Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

Y CEFFYL GWYN GWYDDELIG NEWYDD.

News
Cite
Share

Y CEFFYL GWYN GWYDDELIG NEWYDD. Mae v Cwestiwn Gwyddelig wedi cael tro o'r newydd eto, a Mr Parnell, wedi ei yru o gongl i oongl, o'r diwedd wedi gorfod dyfod i'r maes agored. Derbyniwyd ei gyhoeddiad o'r Cynghrair newydd sydd i gael ei ffuriio er Amddiffyn Tenantiaid, ac i gymmeryd lIe pob trefn a chymdeithas arall, gyda rhyw gym- maint o ddyddordeb. Ffaith deilwng o sylw yw nad Mr Parnell ei hun a amlygodd y cyfeiriad newydd a gymmer ei blaid. Trwy waith aden O'Brien o'r Blaid Genedlaethol yn gwasgu ar wynt yr Arweinydd Dystaw, y rhoddes yr elaf ei gyd- syniad i'r hyn y myn pawh mai symmudiad yn ei ol ydyw. Yn wir y mae yr hon ymwneyd yn ein hadgofio yn gryf o ddad. blygiad boll gynhyrfiadau Gwyddelig y gantif. Yn y lie cyntaf ceir cydsyniad cyffredin er mwyn cyrbaedd amcanion cyffredin; yna ymbleidio, ac yn olaf ymrwygiadau. Yr ydym yn clywed yn awr ar awdurdod dda fod y Parnelliaid am y tair blynedd diweddaf wedi bod yn bobpeth ond unol eu barn ar gwestiwn y tir; ni chytunai adran Dillon ac O'Brien, y rhai a gychwynasant y Plan of Campaign, a Mr Parnell, a thybiai Mr Davitt fod y ddwy adran yn rliy lastwraidd, Hen chwedl cathod Kilkenny drosodd unwaith yn rhagor ydoedd; a theimlwyd y gwahaniaeth barn mor fawr yn y diwedd, fel y daetb yn anaenrheidiol dechi-eu bydo newydd. Braidd y gallai yr ammodau ar ba rai y cychwynir Cynghrair y Tenantiaid fod yn fwy angbalonogol nag y maent. Wedi en curo fel y maent ar bob pwynt, y mae rhagolygon plaid yr Ymrwygwyr yn eithafol o dywyll. Y mae opiniwn y wlad lion wedi cyfnewid yn rhy- feddol er ys deuddeg mis. Ar y decbreu, darfu i'r werinos, y rhai nid oeddynt yn brofiadol o'r dull trefnus a chyfrwys a gymmerid i ddweyd celwyddau yn effeithio ar y teimlad, lyncu dosau mawrion o sothach Parnellaidd. Yna fe dyfodd y celwyddau yn Drmod o faint i'w llyneu. Darfu i Mr Balfour hela y rhai mwyaf eu maint i'w tyllau, a rboddes y rbai bychain ateb iddynt eu hunain. Y mae cefnogaeth werthfawr yr XJndebwyr Rhyddfrydol, yng nghyd a tbrefniadau gweithgar y Ceidwadwyr wedi bod yn fwy na chyfartal i'r nerthoedd Gladstonaidd. Dangosodd etholiad sir Fife fod y teimlad TJndebol yn. cryfhau yn Ysgotland, tra y gollyngwyd i Mr Wyndham ysgrifenydd preifat Mr Balfour ei hun—i gerdded drosodd yn Dover. Mae hyn yn ergyd trwm i'r rhengau Parnellaidd. Mae caniatau i wrllawdde Ysgrifenyddy Werddonfyned mewn i Dy y Cyffredin heb gymmaint a phrotest yn erbyn gorfodaeth ei feistr, yn gyfaddefiad o wendid ofnadwy, ac yn un a deimlir yn ddwys yn y Werddon, ac hyd yn nod yn America. Prophwydir pethau mawrion oddiwrth y mudiad newydd hwn, gan adran O'Brien o'r Gwyddelod. Dyma y rhai sydd yn awr yn arwain Mr Parnell a Mr Gladstone gerfydd eu trwyn. Ond propbwydent a fynont, y mae pob gwydd newydd a ddeorwyd gan Mr W. O'Brien yn ddieithriad wfdi cael ei galw yn alarch. Nis gall neb lai na gweled (yn neill- duol yn y Werddon) ei bod yn gyfaddefiad angeuol o orchfygiad i newid ceffylau wrth groesi y rbyd. Y mae y Plan of Campaign wedi methu. Fe addefir hyny o bob ochr. Ni ddarfu iddo ei gwneyd yn annichon i lywodraethu y Werddon, fel y tyngodd Mr Redmond yng Ngbymmanfa Chicago yn 1886, ac nis gwnaeth un lies i'r tenantiaid ychwaith, na niwaid i'r tir-feddiannwyr. Yn wir y mae wedi cryfhau breichiau y tir-feddiannwyr drwy wneyd iddynt ymuno a'u gilydd. Os llwyddodd Mr Balfour mor rhwydd felly i adferyd trefn a chyfraith ar waethaf mudiad bradwrus anghyfreithlawn a chwyldroadol, braidd y mae yn debyg y gwel lawer o ofid oddiwrth y marionet newydd hwn yn y ffurf o Gynghrair y Tenantiaid, yr hon sydd yn gymdeithas gyfieithlawn. Ond a fydd yn llwyddiannus a barnu oddi- wrth safle y tenant. WeJ, braidd y gall fod, heblaw yr ysgafnha ei logell o ryw gymmaint! o bres sydd ganddo i'w yspario. Fe erthylodd y Plan of Campaign er iddo gael ei di-efnti tr ystadau lie yr oedd cryn undeb a chyd-ddeall- dwriaeth yn bodoli ym mblith y tenantiaid. Hyd yn nod o dan amgylchiadau ffafriol felly i fudiad yn erbyn talu rhent, yr oedd braidd yn ararohossibl rhwystro rhai pobl rhag talu rhent yn breifat yn hytrach r.a gwrando ar gynghorion Mr John Dillon a Mr W. O'Brien. Pa fodd, ynte, y mae yn debyg y llwydda Cyngbrair y Tenantiaid, yr hwn sydd mor llaes ei afael ar y bobl* Na, fe eill y seem edrych yn burion ar bapyr, a swnio yn ardd- erchog a gwladgarol ar y llwyfan, ond y mae yn un anymarferol. Heblaw hyn y mae y cyfran-ddaliwr yn dychrynu rbag yr hwn sydd wedi ei chynnyg. Y mae y tenant Gwyddelig in erbyn hyn wedilaru ar gynhwrf gwleidyddol. Y mae yn gwrthryfela yn erbyn myned a'r het" o amgylch o hyd o hyd. Cychwynir tysteb ar ol tysteb, a chrafir gwaelod ei bocedi am bob ceiniog a ddychwelir iddo yn y rhent gan y gyfraith. Chwythir fflatu gwladgarwch o'i fewn gau ei offeiriaid, ond ni roddant bum swllt y bunt ynol o'r arian a delir iddynt. Ac yn awr, pan y gwelir fod y Cynghrair Cenedl- aethol wedi myued i'r clawdd, a'r arian yn llesg angbyffredin yn dyfod i mewn, fe boenir enaid y ffwl, druan, unwaith yru mhellach, i ymuno a'r newyddbeth o Gynghrair y Tenant. iaid, a chyfranu ei swilt unwaith eto at" achos Gwerddon"—mewn geiriau eraiU i gynnal "Gwyddelod wrth swydd," a haid o lymrigiaid 0 gwleidyddol anturiaethus. O dan yr amgylch- iadau hyn, nid ydym yn meddwl y llwydda'r mudiad newydd gymmaint ag i godi'r gwynt," yr hyn yn ddiau yw amcan ei sylfaeniad. Mewn golygyddawd yn cyffwrdd yn benaf a'r ceffyl gwyn hwn o eiddo Mr W. O'Brien, dywed y Faner am yr wytlmos hon (I7fed) fel y canlyn Yn y blynyddoedd dilynol (i Ddadsefydliad yn y Werddon) fe lwyddodd y Gwyddelod trwy eu pybyrwch a'u penderfyniad di-ildio, i gael cyfreithiau tirol nad oes eu cystal yn un o ranau y Deyrnas Gyfunol." Mor bell ag y mae ei (Cynghrair y Tenantiaid) wedi ei wneyd yn hyspys, bwriedir uno holl denantiaid amaeth- yddol yr Ynys Werdd mewn un corph mawr, i gario yr un a'r unrhyw frwydr ym mlaen yn erbyn gormes llawer o'r tirfeddianwyr, sydd wedi dangos yn rhy amlwg nad ydynt yn medru parchu hyd yn nod fywydau eu tenant- iaid-liel),soii am eu hawliau eyfiawn." Ymddengys i ni fod ysgrifenwr yr erthygl yn anwybodus pa bryd y bydd yn anghysson ag ef ei hun. Os yw y "cyfrejthiau tirol" yn y Werddon yn well nag eiddo un rhan o'r Deyrnas Gyfunol," pa reswm ar wyneb daear a all fod dros waith Mr O'Brien a phen- tewynion eraill yn ymdrechu gosod yr Ynys hono ar dan o gongl i gongl fel y gwnant ? Os yw y cyfreithiau tirol yn well yn y Werddon—a chyfreithiau felly yw ei chyfreith- iau pwysicaf hi, gan ei bod mor amaethyddol —oni ddylai y Gwyddelod eu gwerthfawrogi a dangos eu hunain gystal dynion, beth bynag, a phreswylwyr rhyw ran arall o'r Deyrnas? Y maent yn ddiesgus bellach, ac nid oes dim i'w wneyd a hwynt ond cadw at lythyren y cyfreithiau sydd wedi ei pasio ar eu cyfer. A diammheu genym y byddai y Gwyddelod o honynt eu hunain yn dawel ddigon. Cael eu cynhyrfu hyd at wallgofrwydd a wnant gan ddemagogiaid politicaidd nad oes ganddynt ddim i'w golli ond pobpeth i'w ennill wrth hyny. A dyma'r set y geilw y Faner "gwlad- garwyr enwog arnynt, a'r rhai a gyfyd i fyny fel siamplau i ni yng Nghymru i'w dilyn Dymunai y faner ein gweled yn copio Gwerddon yn y lIaddatr llosgi, y dystryw, a'r brad, a'r boycottio sydd wedi myned ym mlaen yno am yspaid hir, ond drwydrugaredd a ymlidir o'r wlad yn gyflym. Nid oes ond rhyw ddwy sir neu dair o bellaf yn y rhai y geir dim terfysg ac anghydfod yn bresennol. Pa reswni, gan hyny, sydd dros fodolaeth y Cyngbrair newydd presennol ? Fel y dywedwn uchod, nid oes dim dyben iddo, ond yn unig i gadw y marwor yn fyw, a'i wneyd yn ffordd i C, grafu arian i logellau y cynhyrfwyr sydd wrth 5 C3 ei wraidd. Y nefoedd a'n gwaredo yng Nghymru rhag profi dim o'r felldith sydd wedi 0 Z5 disgyn ar y Werddon drwyddynt. Mae fel ye byddai ofn ar y laner i ddweyd y gwir am sefyllfa pethau yn yr Ynys Werdd yn awr, a pha faint gwell ydyw nag oedd pan gym- uierwyd ei bachos mewn llaw gan Mr Balfour. Ond yr ydym yn penderfynu y ca ein cyd- wladwyr wybod y gwirionedd—a mawr yw hwnw ac efe a lwydda-et. body Fane". yn ceisio rhoddi carreg rwystr ar ei ffordd drwy beidio rhoddi cyboeddusrwydd iddo.

ADDYSG GREFYDDOL.

Y LLANW YN TROI. ,.;;-:: ---.-…

YR AIPHT. v J," .- ---:--.j

[No title]

ARGLWYDD SALISBURY AR Y PWNC…

YR IAITH GYMRAEG AC AMAETH…

0 FARW YN FYW. í/'/if11--

!¡.GWERTHU Y WYDDFA.

BYRION.

YN Y -RREN. 1,'"

AT ElN GOBEBWYR CYMREIG.

Y WRAIG DDIWYD.