Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

§f gutajiwlgdd an g

News
Cite
Share

§f gutajiwlgdd an g Undeb geidw y deyrnas hon rhag diddym- iad." PITT. Mewn umleb rnae nerth." "+" SULGWYN. Y mae anian gain mewn bio a bryn yn croesawi "SuI gwyn" y flwyddyn, yr hwn sydd ar wawrio. Y mae'r dduwies Juno, gyda pheraroglau ei blodau blydd a swynion alawon cor y goedwig, o dan arweiniad yr eos felod- aidd, yn penderfynu dathlu gwyl y Sulgwyn mewn modd dymunol dros ben. Yng nghanol 0 ZD dwndwr y byd gwleidyddol, ocheneidiau Z5 Pennsylvania, a son am ryfeloedd n. therfysg- zn oedd ar y Cyfandir, 0 mor felus yw cael mwynhau Sul gwyn, pur, tawel, heddychol i wrthweithio dylanwad y gwyntoedd croesion. Ceir gweled yr ben arferiad o wisgo dillad gwynion gan y rbianod bochgoch yn cael ei adnewyddu-pob un am y flaeuoriaeth mewn harddwch a thlysni. Yn yr hen ddarluniau arddangosid Mehefin fel dyn ieuanc, yn gwisgo mantell wyrddlas dros ei ysgwyddau, ac ar ei ben blethdorch o flodau; yn ei law ddeheu yr oedd cawell llawn o ffrwytbau, ac yn ei law aswy eryr mawr pluog yn barod i ehedfan. Wrth adael y tymmor a'i avwyddluniau, hiraetha y Gwyliedydd am newid awyr a golygfeydd ei dwr-am lanerch lonydd dan gesail un o fynyddau Gwalia, ac yn swn mur- mur rhyw gornant fechan, fel y gallo fwynhau tipyn o seibiant ac ennill nerth a bywiogrwydd i wasanaethu ei genedlaeth yn y dyfodol. Nis gallat ffordio cael mainc esmwyth o bluf, fel CYNGHOR SIROL CAERFYRDDIN, i eistedd a lled-orwedd ami o dan des yr haul; a chan nas gallaf dalu am ryw fwynhad o'r fath byn, gwell genyf fod hebddynt yn hytrach nag ysgafnbau pwrs y wlad" a tbrymhau y trethi. Fel y gwyr pawb, un o brif resymau ymgeiswyr Radicalaidd am sedd yn senedd y Cynghor Sirol oedd, eu hawydd angcrddol i ysgafnbau y trethi trymion oedd ar lethu y wladwriaetb yn wir, cynnildeb oedd swni a sylwedd eu hareithiau ar ben pob ysblog ac esgynlawr; ond ar ol myned i'r baradwys, a chael dwy lythyren ar ol eu henwau, y mae'r gan wedi newid erbyn hyn eled "cynnildeb i waelod y mdr bellach. Y mae yn rhaid cael clustogau esmwyth i ymestyn arnynt; beth yw hyn ond porthi balchder ac hunanoldeb ar gost y wlad. Wrth geisio pleidleisiau'r werin ychydig fisoedd yn ol, codid 1; iwb-iwb fawr yn erbyn gwastraff y J.P.'s, ae yn y modd hyn llwyddwyd, i raddau helaeth, i greu rhag- farn yn eu herbyn, a chadw llawer allan fuasent yn gaffaeliad i'r Cynghor Sirol; ond beth yw'r ffaith 1 WeJ, dyma hi, a phwy all ei gwyrdroi:—Yn ystod yr holl flynyddau y buont yn gwasanaethu'r sir, yr oeddynt mor hunan-ymwadol ac ystyriol a chynnil o arian y wlad, fel na ddarfu iddynt erioed yngan gair am glustogau na gobenyddion o un math i esmwythau'r meinciau. Gweithredwyd ar yr egwyddor o gynnildeb (practise what they preach) mewn gair, yr oedd yn well ganddynt anesmwythau eu hunain er mwyn esmwythau gobenydd y gweithiwr tylawd, ar ol gwaith a llafur y dydd. Gariadus frodyr, dyma y golden principle sydd, yn ol pob tebyg, yn brin iawn gan lawer o swyddwyr y dyddiau hyn. Pa bryd, tybed, y daw yr egwyddorion ammheus i gyffyrddiad a chareg y philosopher 1 Anhawdd iawn newid croen yr Ethopiad a'r llewpard. Clywsom fod PWYLLGOR RADICALAIDD CAERFYRDDIN wedi cynnal cyfarfod yn y Boar's Head, yr wythnos ddiweddaf, er ceisiocysuro eu gilydd yng ngwyneb methiant cynnyg Mr. Dillwyn i ddadgyssylltu yr Eglwys. Cymmerodd un ei barabl ar y testyn sydd yn cael ei bregethu yn ami iawn (ond heb fawr o effaith yn canlyn), a chrybwyllai y dylai canvassers fyned yn round i geisio perswadio'r bobl ddifater ond gofidiau yn fawr o herwydd fod eisieu Y,150 o arian cyn dechreu yr experiment. Trueni anghyffredin fod y fund mor wan, ac y mae yn ddigon i dori calon wrth feddwl fod dynion mor hwyrdrwm yn gosod eu Haw yn eu llog- ellau at yr achos; ac ni fyddai defnyddio'r whip ar y tywydd twym yma ond gwaethygu'r rhagolygon. Y SENEDD. Y maent wedi tori fyny am y gwyliau. Chwareu teg, y maent yn teilyngu ychydig o orphwysdra, gan eu bod wedi gweithio yn egniol, yng ngwyneb rhwystrau mawr. Byddai yn well i Mabon i fyned am dra i Ddeheudir Ffrainc er ceisio dileu y creithiau sydd arno oddi ar pan y bu yn grwt yn ysgol yr Eglwys! Y mae'r wialen fedw wedi bod yn fendith i luaws ereill.-Cynnelir CYFARFOD DEONIAETHOL Caerfyrddin yn Eglwys Sant Pedr, dydd Sadwm nesaf, o dan lywyddiaeth y Deon Gwladol, y Parch. S. Jones, Llangunnor, pryd y dewiser cynnrycliiolwyr, lleyg ac offeiriadol, erbyn y Gyunadledd Eglwysig nesaf.

CYFARFOD CEIDWADOL YN PONTARDULAIS.

[No title]

BYD AC EGLWYS.

LLANDEILO A'R AMGYLCHOEDD.

LLANYBYDDER.

HYNAFIAETH YR EGLWYS A'I HORDINHADAU.

I GYFAILL YN YR AMERIG.

CYFLAFAN DORCALONUS YN PENNSYLVANIA.

Y RADICALIAID A'R CHWYLDROAD…

[No title]