Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
[No title]
Undeb geidw y deyruas hon duty diddym- iacl.PITT. Mewn undeb mae nerth."
TREM AR BYNCIAU'R DYDD.
TREM AR BYNCIAU'R DYDD. EISTEDDFODAU CYMRU. Uii o'r sefydliadau goreu ein gw lad, mewn y t5 ZD llawer o ystyriaetliau, yw yr Eisteddfod, yr lion sydd yii cae! ei chefnogi a'i noddi gan n urddasolion a llenorion o fri. Y mae wedi bod yn foddion i ddadleni talentau dysglaer meibion a merched Gwalia, a/tt dyrchafu i fyny i binacl anrhydedd yng ngolwg y byd llen- yddol mewn gair, y mae cenecll y Cymry yn ddyledus iddi am Juaws o ragorfreintiau cyni- deithasol y maent heddyw yn fwynhau. Pa sawl "perl" a ddygodd i oleuni, oedd yn orchuddiedig gan lwch dinodedd, ond sydd ar 1. ZD liyn o bryd yn addurn i Athrofeydd Cerddovol Dinas Llundain, yn gystal ag esgynloriau harddaf yr Ynys Wen 7 Nid creti rhinweddau a chynneddfau meddvliol y Cymry gwladgarol wnaeth vr Eisteddfod, ond eu dadblygu o flaen y cyhoedd, nes synu y Firancwr, a dileu y rhagfarn oedd yn meddwl yr Ellmynwr, y Gwyddel, a'r Ysgotyn yn erbyn "Nazareth" dylawd Gymreig. Ond er bod llenyddiaeth Gymreig wedi ei diwyllio, i raddau helaetli, trwy gyfrwng ein sefydliad cenedlaetbol godidog, a'n bod wedi ein dyrchafu "hyel y nef" o ran breintian a chyfleusderau, cym- merwn ofal neillduol rhag i gamddefnydd o'r eisteddfod, trwy ddylanwad "yspryd plaid" a than gochl wleidyddol dosbarth a a,! want eu hunain yn Gyniru Fydd," i fod yn foddion i'n "tynn lawr hyd yn uffern," ac yn y niodd hyn droi y "fendith" yn felldith oesol Nid ydym yn ail i neb mewn gwladgarwch a pharch cenedlaetbol i'r eisteddfod, o herwydd y niae rhai o'r gwobrau bychain ugain mlynedd yn ol, PAN OEDD Y FHON IIYGAR IION YN EI (IWRES," wedi bod yn symbyliad i ni mewn cystadleuaeth uwch a cliyssegredicacb, ac yr ydym yn dymuno llongyfarch pwyllgorau anrhydeddus Aberhonddu, ac ereill, am eu hynulrech clod- wiw o'i phlaid; ond yr ydym yn argyhoeddedig I In fod "cyfathrachiad" yr eisteddfod a Hinach plaid benrydd a gau-frwdfrydig Cymru Fydd," yr hon sydd yn gwaeddi ar ben pob llwyfan, CYMRU I'R CYMRY, nes y bydd y cymoedd yn ecco, yn sicr o esgor ar ganlyniadau dinystriol i'r eisteddfod ei hun ae i'n gwlad yn gyffredinol. Cofied y dosbarth hyn y frawddeg Seisonig adnabyddus:— Yotir zeal exceeds your discretion." Yn wir, fltif, yn unig yw gosod yr ansoddair cynnwysfawr cenedlaetbol ar ol sefydliad sydd o dan ddylanwad ysprydion enwadol ac anmihrofedig o'r fatli hyn, pa rai sydd yn Meddwl mwy am eu shibboleth eu hun na gwir Iwyddiant a lies eu gwlad. Os na wel llenorion anrhydeddus Cymru y perygl mewn pryd, a chodi eu lleisiau yn groch yn erbyn y camwedd, caitf Ichabod ei gerfio uwch ben ein Heisteddfod mewn llythyrenau annileadwy; a phan y bydd farw gweinyddir yn ei hangladd gan Doctoriaid Pau a Gee, ac ar gareg eibedd gellir gosod ARWYDDLUN "CYIRY FYDD," ac o dano, Hie Jacet," neu yma y gorwedd yr Eisteddfod Genedlaethol Gymreig. Un- waith y cleddir hi, nis gall afonydd o ddagrau Z5 0 edifeirwch i nofio ei harch allan, chwaifchach ei hadgyfodi i fywyd newydd. Y mae yn wir dda genym fod y newyddiadur rhagorol, Y "WESTERN MAIL," yn galw ein sylw at y pwnc pwysig yma, ac yr ydym yn edmygu galluoedd ei brif olygydd, tn Mr Carr, yng nghyd a'i is-olygyddion, wrth ymdrin a'r mater yn ei golofnau. Gan fod un pwyth yn safio naw yn fynych, ymunwn a'n gilydd mewn eiddigedd pur dros ogoniant C5 Z5 0 yr Eisteddfod, a phurwn hi oddi wrth y gwarth hwn, fel y byddo byw yn hir i fendithio ei phlant, ei hwyrion, a'i hor-wyrion am genedl- aethau lawer. Wrth sychu ein hysgi-ifbin, dywedaf Amen o'm calon.
LLYNLLEIFIAD.
LLYNLLEIFIAD. GWRAIG YN GWENWYNO EI GWR. Mae lioll dref fawr Llynlleifiad wedi ei tharo a syndod a braw, o herwydd marwolaeth alaethus masnachwr cyfrifol o'r enw Mr James Maybrick, trwy gael ei wenwyno, yn ol pob tebyg, gan ei wraig ei hun. Yn ystod y treng- Z5 Z5 0 0 holiad a gymmerodd le ar y corph, dydd Mawrth diweddaf, holwyd amryw dystion, pa rai ddarfu gadarnhau y dybiaeth am euogrwydd Mrs Maybrick. Ym mhellach, ddarllenwyd llythyr a ysgrifenodd hi ei hun yn ddystaw at ddyn arall (yr hwn a yinddengys sydd yn y n wrthddrych ei serch); cyfarcha ef yn "Dearest darling," wrth yr hyn y gwelir ei fod yn fwy anwyl na'i gwr ganddi. Yn ystod y llytlivr, dywed fod ei gwr yn anobeithiol, ac nad oes ganddo ond ychydig o amser i fyw; ond am iddo ef beidio ofni, gan 11a ddaw neb ii wybod byth am y peth. Terfyna trwy ddatgan dy- njuniad am ei weled yn fnan. Caiff y cyhudd- iedig pob chwareu teg i amddiffyn ei hun, ac os yw yn ddieuog (yr hyn na sydd yn debygol) caitf aniddiffyniad cyfraith Prydain Fawr ond, o'r ochr arall, os yw yn euog, y mae yn un o'r C3 rhai gwaethaf yn y byd.
BYD AC EGLWYS.
BYD AC EGLWYS. (GAN HUGAX HIR). TYSTIOLAETH MR. PARNELL. I-tii weitliitu v uiae "well iiiatitaisyiii i-ai o bell i'n gweled, a deall ein hamgylcliiadau, na ni ein hunain ac am v rheswm hwn y rhoddir y dyfyniadati a ganlvn o bapyrau Amerigaidd mewn perthynas i achos Mr 0 y Painell, am yr hwn y gwneir ymchwiliad ar I13-11 o bryd. Fe ddylid, ef allai, adgolio y darllenydd taw cyfeirio a wneir yn yr oil o'i dyfyniadau at addetiad anffodus Mr Parnell iddo ddweyd yn Nhy y Cyffredin y gwnaet-hai y zn 1 osodiad gydn/r amcan o gamarwain y Ty, a'r gosodiad hwnw yn anwireddus (false). Dyma D fel y dywed un o'r newyddiaduron mwyaf dy- lanwadol yn y byd newydd, y New York Times :—" Y mae cyfaddetiad INIr Parnell iddo wneuthur gosodiad bwriadol yn Nhy y Cyffredin, bron yn anesboniadwy. Yr unig esbeniad posibl ydyw eiddo y tyst hwnw pan y methai ei gof, I Wel, yr wyt nv fy llw yii awr. ac nid oeddwn y pryd hwnw.' Nid yw yr esboniad yn una wnaethai dyn anrhydeddus neu ddyn a barchai ei enw da. Mae y flaith i Mr Parnell ei wneuthur ynergyd i'w ddylan- n wad, allan o'r Ty yn ogystal ag ynddo, yn z,Y 11 llawn cymmaint o ergyd ym niron a plie profasid bod llythyrau y limes yn rhai gwir- ioneddol yn hytrach na rhai twyllodrus. Nis gall gwladweinwyr Seisonig lai na gweled ynddo resymau o'r newydd dros beidio caniatau yr hyn y rnyna gwlad gael, yr hon nid oes ganddi ddyn anrhydeddus fel arweinydd." Dyma fel y dywed newyddiadur pwysig arall eto, y New York Herald, newyddiadur anni- bynol ydyw:—"Anhawdd dywedyd pa beth oedd yn meddwl Mr Parnell wrth wneuthur y cyfaddefiad rhyfedd hwnw; ond y mae yn bawdd gweled y bydd i'r cyfaddefiad brofi yn gam-gymmeriad gwlcidyddol. Can nad ym mlia fodd yr edrychir arno gan ei gyfeillion, bydd ei wrthwynebwyr yn ddigon cyflym i wneyd defnydd o bono fel aif i'w niweidio ef, yii ogystal t'i aclios. Y lietli rliyfeddaf yii- nglyn ag ef ydyw y parodrwydd, yr awydd, yin mron, gyda pha un y gwnaed y cyfaddetiad. Fe allasai droi yn ol gwestiynau y Twrne- Cyffredinol. Gallasai Leidio eu hateb, a bod yn ddystaw, nes o leiaf y gyrcsid ef i gornel. Fe allasai, heb gamddarluniad, ddiosg ei atehion o'r eofndra a dry yn anffafriol iddo ac a effeithia yn ddrwg ar ei achos; ond yn hytrach na hyny, fe gyfaddefodd, gyda rlnvydd- ineb anarferol, iddo wneyd gosodiad anwir- eddus yn Nily y Cyffi-ediii; iddo ei wneyd mewn perflaith wybodaeth ac yn fwriado], ac mai ei amcan pendant oedd camarwain y Ty. Fe eill edmygwyr Mr Parnell ganmawl hyn oil fel gwladgarwch a gwroldeb. Fe allant ddadleu fod amcan y camddarlnniad yn gym- meradwy, a bod yr amcan hwnw yn cyfiawnliau y moddion, ond fe gymmer ei wrthwynebwyr olwg hollol wahanol arno, ac yr oedd rlioddi y cyfleusdrn. diangenrhaid hwnw, o'r hwn y gwnant gymmaint ag a allant, yn gam-gym- ny nieriad o'r fath ag nas gall arweinydd sydd yn meddu ar graffder Mr Parnell fod yn euog o hono, heb synu ei elynion yn ogystal a'i gyfeillion." Dyma fel y dywed y New York Mail and Express eto, newyddiadur Gwerinol: Y mae yn beth i deimlo yn ddrwg am dano fod Mr Parnell, ar ol dyfod drwy yr ymholiad, braidd hyd y diwedd, mor anrhyd- eddus, wedi ei theimlo yn rhaid cyfaddef iddo ddweyd anwiredd bwriadedig ac mai ei amcan oedd cren argraff oedd yn wahanol i'r gwirionedd. Ni bydd i Mr Parnell golli ei holl gyfeillion yn herwydd y cyfaddef- iad hwn, ond yng nghyfrif llawer, fe ddyoddefa tra fydd byw." Terfyna y Philadelphia Record ei erthygl ar y mater fel hyn Y mae yr amgylchiad yn sicr ddigon yn dangos fod 0 ZD llawer o natur ddynol yn y diwygiwr mwyaf perffaith." Pwy a glywodd o'r blaen son am m un math o ddiwygiad wedi cael ei sylfaenu ar ZD gelwydd ac anonestrwydd 1 Dyna fel yr edrychir ar Mr Parnell a'i achos gan rai o brif newyddiaduron America, a thyned darllenwyr y JOURNAL eu casgliad eu hunain yng nglyn ag ef. CYNGHRAIR RHYDDFRYDOL Y MENTWOD. Yr oedd Mr Parnell yn brescnnol mewn cyfarfod o cilhlo Cynghrair Rhyddfrydol y y I Menywod yr wythnos ddiweddaf yn Llundain, a thraddododd araith fer ar yr achlysur. Dangosai ei araith ei fod yn dychymmygu ei hun fel yn byw ac yn bod ar dir gwahanedig oddi wrth ein teyrnas ni, ac y mac yn bryd i'r rhai diniwaid hyny a dybiant fod calonau y Gwyddelod a'r Seison yn nn, i agor eu llygaid, a gwcled pethaufel y maentmewn gwirionedd. Yr oedd y fath ymadroddion ag "eicli Ymher- odraeth fawr," "eicli cenedl fawr a'ch gwlad," yn dangos yn eglur betli yw ei feddwl a'i deimlad ef yng nglyn a'r wlad hon. Gosododd yr arcraff ti- ei wrandawyr ei fod fel dyn oedd yn awyddus i gael ei gyfrif fel pe yn anerch zn y cynnulleidfa o dranioriaid. Mae canlynwyr cyffredin Mr Gladstone am i ni ddeall nad yw Ymreolaeth yn y Werddon yn golygu ond undeb mwy rhwng y ddwy ynys, drwy yr hon y dawbendituIongweHacuwcnrr Gwyddelod, ond ni ddengys geiriau Mr Parnell ddim yn debyg i hyny. Yn hytrach na rhoi yr argraff 11 ei fod am undeb o un math, fe ddangosodd yn eglur yn y cyfarfod y cyfeirir ato, ei fod yn tybied ei hun yn fwy o gynghreiriwr i Brydain Fawr nag un o'n cyd-ddinasyddion ni. Yn hyn o beth y mae Mr Parnell yn damnio ei hun a'i achos. Nid oes dim yn y pen draw a brofa mor farwol i'w amcan a'r ffai.th ei fod mor rhewllyd ei natur. Nid yn ei "ser" yn gymmaint y mae y bai yn gorwedd ag "ynddo" ef ei hun. MR, LYBOUOUERE A THY'R ARGLWYDDI. Yr wythnos ddiweddaf gwnaeth Mr Labon- cliere gynnyg yn Nhy y Cyffredin at basio condemniad ar y dull y cyfansoddir Ty yr Arglwyddi. Maentumiai Mr Balfour y byddai yn wallgofrwydd noeth i ddiddymu Ty yr Arglwyddi. Gwrthodwyd y cynnygiad gan -01 yn erljyn I (iO. Y mae Ty yr Arglwyddi yn fynych wedi bod yn ddiogclwch mewn amser a fn. Geill ei fod wedi gosod attalfa ar fiordd deddfwriaeth frysiog ond nid oes enghraifft deg iddo wrthsefyll xxnrhyw fesur a fynai y wlad o'i chalon weled ei basio yn gyfraith. Nid oes unrhyw wleidyddwr sydd wedi rhoddi ystyriaeth ddylad wy i'r pwnc, yn tybied nad oes galwad am ddiwygio, i ryw fesur, y dull y cyfansoddir Ty yr Arglwyddi, yn ogystal a'r mod 1 y dyga ym mlaen ei weithrecliadau, Y mae amgylchiadau byth- I I newidiol yr amser yn gwneyd hyny yn angen- rheidiol, ac nid yw yn debyg y saif yr I Arglwyddi eu hunain yn erbyn gwneyd eu Ty iiior boblogaidd ag sydd yn ddichonadwy. Ond gwell iddo fod fel ag y mae nag i jjynnyg- ion gwleidyddol penfeddal, fel eiddo Mr Labouchere, gael eu derbyn a'u gwneyd yn iheol. Y DDEDDF CAU AR Y SUL. Yr ydys yn ddyledus ant y manylion can- lynol mewn perthynas i'r Commissiwn sydd wedi ei appwyntio i ymchwilio i weithrediadau ac effeithiau y gyfraith sydd yn rlnvystro i ,Y dafarnau yng Nghymru agor ar y Sul ond i drafaelwyr gwirioneddol, i'r Western Mail. Dechreua y Commissiwn at' y gwaith sydd ganddynt. yng Nghaerdydd, ar yr 8fed o'r mis nesaf, a dilynant wrth yr un gorchwyl am wythnos. Bydd i'r ysgrifenydd (y Proffeswr Rhys) yru gwahoddiad i'r papyiau newyddion i rai i ddyfod a rhoddi eu tyswolaeth yng nglyn a'r Act. Wedi gorphtn a Chaerdydd, fe aiff y Commissiwn i Ferthyr Tydfil, ac oddi yno fe ymwelant ag Abertawe a Chaerfyrddin. Annan y Commissiwn yw cymmeryd golwg gyffredinol ar weithrediadau yr Act yng Nghymru, a'i heffaith ar y wlad, a chymmer rugor nag wythnos i iawn bwyso a mesur hyny. Bydd ysgrifenydd buan dros v Llv- wodraeth yn eyi-iinieryd i lawr bob tystiolaeth a ddygir ger bron y Commissiwn. Yr aelodau eu hunain a fyddant yn derbyn pob tystiol- aeth a roddir. Fe ganiateir i gynnrycbiolwyr y wasg fod yn bresennol yn gwrando pob tyst, oddi gerth pan fat-no y Commissiwn ei bod yn oreu derbyn ambell i dystiolaeth yn ddirgel, yr hyn ni chymmer le, yn ol pob tebyg. Yn y Deheudir y dechrenir a'r gwaith, ac yna o hyn i'r hydref nesaf fe a'r Commissiwn i'r Gogledd, ac wedi gorphen a'u gwaith yno, fe roddant fynegiad o flaen Ty y Cyffredin mewn perthynas i'r Ddeddf. ERGYD YN EI LE. Y mae yr ohebiaeth isod wedi eymmeryd lie rhwng Arglwydd Aberdar ac Undeb Cynull- t' eidfaol Mon :— Cemaes, Mon., Mai 23, 1889. Fy ARGLWYDD,—Gofynvvyd i mi gan Undeb Cynnulleidfaol Mon, a gynnaliwyd yn Berea, Mai 31, 1889, i amgau y penderfyniad canlynol i'ch arglwyddiaeth, yr hwn a basiwyd yn ddiwrth- wyziebiad. --Y mae i mi yr anrhydedd o fod, fy Arghvydd, eich ufudd was, J. S. EVANS, Ysg. Fod y cyfarfod hwn yn anghymnmradwyo y cynhyrfiad sydd wedi ei godi at lesoli doisparth o'r bojilogaeth yn erbyn y Ddeddf Cau ar y Sul yng Nghymru, ac yn sefyll yn gryf dros fod y Mesur wedi gwneyd daiohi i gyflwr Cymru, gyda'r eithriad o un ddarpariaeth o'i eiddo, Fef adran y trafaeliwr bona fide sydd ynddo, yr hon a ddylid newid o'r gwraidd, ac y dylid rhwystro i glybiau L I gael eu ffurfio. Fod y penderfyniad hwn i'w yru at gadeirydd y Commissiwn, at Mr T. P. Lewis, A.S., ac at Arglwydd Aberdar." Wele atebiad Arglwydd Aberdar :— 0 1, Queen's Gate, Mai 25, 1889. SYR,—Dymunaf gydnabod derbyniad pender- fyniad Undeb Cynnulleidfaol Mon, yr hwn ni fua-iai yn lIai dylanwadol, IIRC yn llai Cristionogol, pe er yu dangos eu golygiadau, y peidiasai a chyfrif aiucanion annheilwng i'r rhai hyny ydynt welli gweied rheswm dros fynegu eu ammhenon o bai tlied i weithrediad llwyddiannus y Ddedclf Cau ar y :ul. Y clwyf, Syr, eich ufudd was, Mr J. S. Evans. ABERDARE. Mae" Aberdare" wedi scoro lawer gwaith 0 arnyn nhw," ond nid wyf yn cofio i mi weled ergyd mwy crwn o'i eiddo ar unrhyw achlysur 0 blaenorol. DAWNSIO GYDA'R DEYRNAS GYFUNOL. Mae meddyg adnabyddus yn Llundain o'r enw Dr. Shark, yr hwn sydd yn ymwneyd llawer a gwallgofiaid, a chanddo ffordd Hed wreiddiol i geisio eu gwella yn ei wallgofdy preifat. Rhydd iddynt gyfarfodydd adtoniadol yn yr awyr agored yn yr haf, a dawnsfeydd yn y gauaf, a digon o ddifyrwch drwy gydol y flwyddyn. A chymmeryd pob peth at ystyr- iaeth, mae gwallgofrwydd o dan driniaeth Dr. Shark yn fater lied hyfryd. Fel hyn yr ysgrifena un sydd wedi cymmeryd rhan lawer gwaith yn nawnsfeydd y gwallgofdy Yr wyf bob amser yn edrycli ym mlaen gyda phlesev at y dawnsfeydd a roddir gan y Doctor o herwydd ar ol cryn brotiad, yr wyf wedi cael ar ddeall fod partneriaid penwan braidd I yn llai penwan na'r meistresanod diddim a gyfarfyddir mewn dawnsfeydd cvffredin. Y.. I oedd hi yn eistedd yng nghongl ystafell y ddawns gan chwareu a'i tfedonas-dynes fawr, drom oedd, nad oedd yn rhwydd ei chymmeryd am ddynes wallgof mwy nag un yn y darfod- edigaeth. Gofynais i'r Doctor fy nghyflwyno iddi, o herwydd yr wyf yn edmygu benywod glandeg. Gwnaeth hyny, ac eisteddais wrth ei hochr. Dechreuasom siarad am y tywydd, fel y gwna rhai sydd wedi newydd ddechreu adnabod eu gilydd. Yr oedd yn elthaf call ar j y pwynt hwnw, beth bynag; yr oedd o'r farn .1 ei bod yn ddrwg ofnaclwy. Crybwyllais yn acklysurol i mi fod yn Torquay am yspaid fer o wyliau. A ydyeh chwi yn gyfarwydd a'r lie hwnw 1" gotYb, iddi. 0 ydwyf, canys dacw fe," meddai hitijan mewn atebiad. Edrychais yn y cyfeiriad y ato, a gwelais slaben yn iawn o droed yn ymg^drli0 mewu esgid dda wnsio. "Dacw Bentir Lioegr, ebai hibhau yn fyfyrgar, gan bwyntio at y fun ar yr esgid ddehau lie y gallai y bys bach fod yn gorwedd "a dacw y Lizard fan draw. Myti yw y Deyrnas Gyfunol, wyddoch," ychwanegai, gyda mawredd golwg dawel, a C5 ID Z3 dybiai fy mod yn deall hyny. Plygais innan fy mhen yn ddystaw. Yr oedd yn ddrych- feddwl aruthrol, ac nis gellid ei gynnwys oil ar unwaith. Dyna y North Foreland drwodcl y fan yna," meddai wedy'n gan gyffwrdd a'i throed chwitli; yr wyf wedi cael peth gofid ganddo yn ddiweddar; ac o," a daeth ei llais yn gwynfanus, yr oeddwn yn ofni cymmaint eu bod yn myned i gymmeryd Gwerddon oddi wrtliyf," ac edrychodd yn serchus ar ei braich ddeheu. Tybiais mai gwell oedd cymmeryd rhan yn y ddawns, o herwydd yr oedd y dirgelion daearyddol hyn yn argoeli bod yn brofedigaethus. Felly, fe roddais fy mraich o amgylch parth uchaf sir Lincoln a godreu sir Efrog, gan ei dwyn mor bell i sir Lancaster jag y gallwn (canys yr oedd ei chanol yn fwy na deunaw modfedd o amgylchedd), a deelireuason-i ddawnsio. illae fy nglust yn llosgi felly y mae arnaf ofn fod ystorom yn rhywle ar draethau Aberdeen," oeddynt y geiriau olaf a ddywedodd wrth gael ei liarwain i'w sedd.
[No title]
MAE y Frenhines wedi amlygu ei bwriad i dalu ymweliad a Chymru yn ystod y Illis Awst. Bydd iddi drigo yn Pale, Llandderfel, ger Bala, ac y mae amryw fauau yn Ngogledd Cymru yn gwneyd ymgais i wahodd ei Mawrhydi i dalu ymweliad.
DADL FFERMWYR MYRDDIN A PENFRO.
DADL FFERMWYR MYRDDIN A PENFRO. CYNGHORAU SIROL. [Nid ydym yo gyfrifol am syniadau ein gohebwyr]. Morus—Prydnawn da i chwi, fechgyn. y Beth yw y newydd goreu sydd genych 1 Gadewch i ni glywed. lfor-Dim un newydd da. Yr y in ni, yr enRradau, yn synu am i'r senedd daflu cynnyg Mr Dillwyn allan i dynu yr Eglwys i lawr. Yr oedd hyn yn siomedigaeth chwerw i ni, canys yr oeddym yn dysgwyl clywed am ei dadymchweliad, am nad yw hi erioed wedi gwneyd dim daioni, fel y dywedodd Mr Dillwyn. Oadwgan-Y mae yn 'amlwg na wyddost ti na Mr Dillwyn ddim am hanes yr Eglwys. Eich anwireddau chwi, y Radicaliaid Ymneill- dusdig yw na wnaetb yr Eglwys ddim daioni. Pwy roddodd ei Feibl i'r Cymro yn iaith ei fani, end yr Eglwys. Esgob oedd y Dr. ,vrnijm Morgan, cyfieifchwr y Beibl. Esgob oedd y Dr. Richard Davies, gweddillion yr hwn sydd yn gorwedd yn Abergwili, a'r hwn a gyfieithodd ranau o'r Beibl. Yr Eglwys Z5 4n sefydlodd yr ysgolion dyddiol cyntaf yng Nghymru, a'r Eglwys addysgodd y Cymry hyd nea i Ddeddf Addysg ddyfod i weithrediad. Ac ar ol y cwbl, nid yw yr Eglwys wedi gwneyd dim. Pa le yr oedd y Methodistiaid cyn y flwyddyn 1811, pan gawsant eu ffurfio. Pa; ie yr oedd y Weslevaid cyn amser yr enwog Jolin Wesley 1 Un o haeriadau ail law Mr Dillwyn a'i gwmni oedd, na tu yr Eglwys erioed yn Eglwys y Cymry. Nid oedd dim un Ymneillduwr yng Nghymru cyn amser y 0 tD Frenines Anne. Dewi-Dywedodd Mr Dillwyn fod yr hen offeiriaid yn arfer meddwi, ac yn anaddas i laftw eu swyddi. GrtUydd-Os oeddynt yn euog o hyny yn yr amser gynt, mae lluaw8 o bregethwyr yn ein dyddiau ni yn gwneyd yr hyn a gondem- niodd ef. Clywais am bregethwr enwog yn cael ei gario fel darn o bren i'w wely ar nos cymmanfa. Cofiwch nad wyf yn beio yr enwad am feiau pregethwyr; ac ni ddylasai Mr Dillwyn edliw camweddau yr offeiriaid anfucheddol ganrif a banner yn ol i'r Eglwys beddyw. Nid oedd hyny yn deg a boneddig- aidd i ddanod beiau y rhai sydd mewn graian a gro, os oedd y cyhuddiadau yn wir. Dafydd—Nid yw yn deg i ni, sydd yn cadw ein capeli ein hunain, i gael ein gorfodi i dalu tr4.h at gynnal yr Eglwys. GwilYlit-Nid y'm ui, y ffermwyr, yn talu troth. Pwy a pha bryd y gosodwyd y dreth at gynnal yr Eglwysi ? ]for- Y senedd roddodd y degwm ar y wlad. Mae genym awdurdod dim llai na botfeddwr, ac 0 un o aelodau Cynghor Sirol Ceredigion, mae y senedd osododd y dreth ahytiawn hon ar y wlad. fly wel—Doeth yw pob ffol tra y tawo, a bnfcsai yn ddoethach i'r boneddwr wyt ti yn cyfcirio ato, fod yn ddystaw. Gwyr pob un syifid wedi astudio hanesyddiaeth eglwysig, na r y senedd ddim o'r degwm. Yr oedd y -egwiu yn cael ei dalu yn y bedwaredd ganrif, cyn bod un senedd i'w ehael. Y mae yr'jjSglwys a'i gwaddoliadau yn henach na'r wl&Swriaeth. Unwaith eto yr wyf yn dy- wedyd mai y tirfeddianwyr roddodd y ddegfed ran neu y dcgwm i'r Eglwys ac nid oedd dim a fynai y senedd a'i roddi, dim mwy nag a fynai a'r bunt y Sul a adawodd un o Lwydiaid o Fronwydd i bregethwyr y Oortr. Morus—Nid llawer o honom ni, y ffermwyr, sydd wedi talu llawer o sylw i'r pwnc. Mewn materion o'r natur yma, yr y'm yn cael ein harwain gan ein blaenoriaid a'n pregethwyr. Hywel- Y r ydych yn cymmeryd eich cam- arwain mewn pethau crefyddol a gwleidyddol. Yr ydych yn pino eich credoau wrth lewys ereill. Yr oedd yr ymosodiad diweddaf ar yr Eglwys yn dangos yr ewin fforchog. Yr oedd Mr Dillwyn yn beio yr Eglwys, a'r dysgedig 0 0 ZD Mabon, yr hwn oedd yn ei ganlyn, yn con- demnio yr Eglwys, am nad yw yn cyd wedd It a chenedligrwydd y Cymry hyny yw, nid yw n I yr Eglwys nac Eglwyswyr yn rhedeg ar ol y ffog-lewyrn "-Cymru Fydd." Mae crytiaid difarf y gymdeithas hon am dori pob undeb. Nid oedd yr ymosodiad a wnaeth Mri. Dillwyn, Osborne Morgan, ac Ab Glo, ddim ond un o fyddin-drefniadau Cymru Fydd,"ni gael ys- ffi-aglywiaeth i Gymru. Ceisiodd yr ymo3od- wyr brofi fod hawl gan Gymru i gael deddfwr- jiaeth ar walihii oddi wrth Lloegr. Deni-Oiii ddylai Oymru fod ar ben ei hun, ::fel yr Iwerddon, pan ddaw Home Rule i'r ¡ Chwaer Ynys? Methodd hyawdledd Mabon, hanesyddiacth Dillwyn a Syr Hussey Vivian, yr hwn a ddywedodd yn y senedd fod yr iaith Gymraeg yn 200,000 o flynyddoedd o'i hoed, berswadio y senedd i dori yr undeb rhwng yr Eglwys yn Lloerr a'r Eglwys yng Nghymru. n Z3 C, 0 Nis gellir eu gwahanu na'u rhanu, yn eglwysig Z5 113 Z5 I nac yn wleidyddol. I for—Gadewch i ni gael Mr Gladstone yn ol i'w swydd, gwnaiff ef ddangos pu. un a wnaiff -n 0 ef ei rhanu ai peidio. Cadwgan—Pum mlynedd yn ol, cyn iddo ymuno a'r Parneliaid, cyhoeddodd ef nas gellir ei gwahanu. Nid oes un gwleidyddwr mor gyfnewidiol ac ansefydlog a Gladstone; gall droi ei liwiau, fel y fad^all newidliw, ac yr ydych chwitliau, y Parneliaid Cymru, yn canlyn ei esampl i drwch y blewin. Ycliydig amser yn ol, yr oeddych yn edrych ar y Gwyddelod fel pethau diofryd ond nid oes yn awr dim digon o ganmol ar naill y llall; yr offeir- iad Pabaidd a phregethwyr Cymru yn cynffoni ar en gilydd; Rhufain a Geneva yn gyfeillion; ysgwydd wrth ysgwydd yn yr ymgais i dori C5 113 vr undeb rhwng Lloegr a Chymru a'r Iwerddon.
[No title]
TRAED BYCHAIN.—Y mae llawer o foneddig- esau yn ymfalchio yn mychander eu traed, un o ba rai a ddygwyddodd sangu ar droed ei gwr, "W el, wel," meddai yntau, y mae cymaint o faint yn dy draed, fel nas gelli eu 6 rhoddi i lawr hcb sangu ar draed rliywrai ereill." HUAXU Y GWAIIANIAETII.—Mewn cyfarfod addysgol yn Llynlleifiad, adroddodd y diweddar Barchedig Hugh M. Nile yr ystori ganlynol: n Cafodd plentyn ei gymmei-yd i un o workhouses y dref, ond gan nas gallesid dyfod o hyd i'w rieni, nis medrai neb ddweyd i ba grefydd y perthynai. Cyfododd dadl pa un a ddylid ei osod i lawr ar lyfrau y sefydliad fel Protestant neu Babydd. Tra yr oeddent yn dadleu, daeth yr offeiriad Pabyddol i mewn, a phan ei hyspyswyd o'r dyryswch, I Wel ebai efe, rhanweh y gwahaniaeth, a dodweh of i lawr fel Puseyitc"
CAMSYNIAD MR. DILLWYN.
CAMSYNIAD MR. DILLWYN. Ymneillduaeth (meddai Mr Dillwyn) yw crefydd Cymru mae hon yn grefydd newydd. y m Clywsorn am Ymneillduaeth ac Ymneill- duwyr, ond nid ydym wedi clywed o'r blaen fod Ymneillduaeth yn grefydd. Nid oedd Ymneillduaeth y capel hwnw yn Abertawe a Chapel Carmel, yn grefydd. A oedd y rhwygiadau a'r ymraniadau a gymerodd le o fewn golwg mwg copr n 0 ID Abertawe yn gi-efyddol ? Beth am y rali fu yn mynwent Ebenezer pan glowyd y gweinidog allan. Os yw ef wedi anghofio, nid wyf fl. Dywed y Globe fod galw Ymneilldnaeth fel y cyfryw yn gymmaint o gamsyniad a'r un a wnaeth y gwladwr Gwyddelig pan diriodd yn New York. Gofynwyd iddo beth oedd ei wleidyddiaeth ? Atebodd yn union Yn erbyn y Llywodraeth." Hwyrach fed Mr Dillwyn yn credu fod crefydd Ymneilldnaeth yn gyfaosoddedig o "fod yn rbyn yr Eglwys," yr un fath a Pat.
YN Y TRAP.
YN Y TRAP. Dro yn ol yn Capel Jewin, Llundain, mewn cyfarfod cyhoeddus, galwyd ar Radical i anerch y gynulleidfa. Yntau, gan ymchwyddo a botymu y got, fel y mae yn arfer wneyd, a safodd i fyny gan ymdorsythu, pesychu, a thynu ei grafangau drwy ei flew, ac yn mysg fflamychiadau hedegog ereill o'i ragymadrodd -rhaglyniadrodd, o ran hyny, ydoedd ei ai-aeth i gyd—dywedai ei fod yn dyfod o sir Aberteifi, a'i fod yn falch hefyd taw Cardi ydoedd ae, fel y gwyddent o'r goreu bawb o honynt, nid oedd sir Aberteifi yn codi dim ond offeiriaid a moch. Fel y gwelent, nid oedd raid iddo ddweyd wrthynt mai nid offeiriad ydoedd ef. Wel, ebe rhai o'r gynnulleidfa, rhaid ynte taw mochyn ydwyt. Yr oedd wedi gosod ei droed ynddi yn ddiarwybod iddo ei hun wrth geisio iselhau yr offeiriaid ac felly rhodd hwnw yn y paragraph o dan sylw. Gwnaeth—bum agos dweyd ei gyd-bregethwyr, ond-ei gyd- frawdoliaeth yn foch mewn modd diamwys. Wel, ddarllenydd, dyn a helpo pobl sir Aberteifi, os na fydd i'r rhywogaeth hon wneyd gwell gwaith yn y Cynghor Sirol nag yn y pwlpud. Y maent wedi troi yn fethiant hollol yn y pw]pud. Nid wyf yn tybied y gall un o honynt godi bys a dweyd ei fod wedi bod yn offeryn i achub un enaid ie, mwy hefyd na hynyna, i droi un enaid o gyfeiliorni ei ffyi-dd a gadael drygioni. Na, cynghor yw Hen Labrwr iddynt ydyw teflwch y pry- gawtliian pregethu heibio fel bad job er mwyn 5 C3 y rhai sydd yn dyfod i'ch gwrando. Cymer- wcli drugaredd ar y bobl a'u hamser, a I theft wch y prygawthian yna heibio. Ni bydd yn un colled i'r pwlpud ar eich ho). Cymerwch gynghor Hen Labrwr rhowch yr oernadu a chann clochau yna o'r neilldu, a gadewch i'r bobl gael rhywbeth gwerth eu liarian; onide, ni chewclx neb i'ch gwrando. Y mae yn drueni eich bod o'r egwyddor i gadw pobl am ttit thair awr y dydd-dydd Sul-i wrando ar ddim, druain o honoch. Os us fydd yn y sach, wiw dysgwyl dim ond us allan; a beth arall sydd yn eu sachau bychain hwy ? Da chwi, cytuet-weh drugaredd arnom fel gwran- dawyr, a theflwch eich prygawthian heibio.— HEN LABRWR. >
| TARDDIAD Y DEGWM.
TARDDIAD Y DEGWM. HANESYDDWR HEB EI FATH. Yng Nghynghor Sirol Ceredigion yn ddi- weddar, bradychodd un Mr Evans ei an wybod- aeth am darddiad y degwm yn gywilyddus, yn n ei araeth wrth gynyg ei benderfyniad yn erbyn i'r heddgeidwaid fyned i arwerthiadau y degwm. /;) Dywedodd y boneddwr hwn mai treth a osododd y senedd ar y wlad yw y degwm. Mae yn amlwg, oddi wrth ei araeth, na wyr ef ddim am lianes y degwm, mwy na wyddai buwch Sion Pris am y lleuad. Yr wyf yn rhoddi her iddo roddi un awdurdod hanesyddol i'r senedd roddi y degwm o gwbl i'r Eglwys; au iiad yw yn dreth ar y wlad. Nis gallai y senedd roddi y degwm cyn iddi ddyfod i fodolaeth. Rhoddwyd y degwm i'r Eglwys cyn bod senedd na seneddwyr. Eglwys Llandaf oedd yr Eglwys gyntaf a adeiladwyd, yn ol pob tebyg, ym Mlirydain; ac yr wyf yn barod i brofi, o lawysgrifau hanes- yddol, i'r Eglwys uchod gael ei gwaddoli ganrifoedd cyn i'r senedd gael ei sefydlu, na'r Pab o Rufain drawsfeddiannu yr Eglwys yn Lloegr. Adeiladwyd yr Eglwysi cyntefig gan y tirfeddianwyr, y rhai a'u gwaddolasant a'r ddegfed ran o'u tiroedd, neu y degwm. Barna yr enwog Blackstone, awdurdod uwch nag 0 zn eiddo Mr M. Evans, i'r degymau gael eu sefydlu yn wirfoddol gyda phlaniad Cristion- 13 ogaeth (gweler Blackstone's Commentaries"). Dywed John Selden, awdwr "Hanes y Degwm," ei fod yn cael ei dalu yn y flwyddyn 400 ac nis gallai ef wadu nad oedd yn cael ei dalu yn foreuach. Ni wnaeth breninoeddd LIoegr a thywysogion Cymru ond cadarnhau y degymau i'r Eglwys. Nid oes un Act seneddol i'w ehael i brofi mai y senedd a'i gosododd. Gwnaeth y senedd roddi awdurdod o bryd i bryd i'r offeii-iad godi yr arian gwnaeth y gwahanol freninoedd yr un peth. Nid oes dim sillaf i'w ehael i ddangos i'r degwm 0 Z5 fod erioed yn eiddo y genedl. Yspeiliwyd llawer o arian y degwm yn amser Cromwell; ond ni feiddiodd yr Hen Noll ddiddymu'r degwm. Yr oedd y pregethwyr ffanaticaidd un amser yn pregethu yn erbyn y degwm; ond pan welsant nad oedd gwirfodolaeth yn talu ei ffordd, yr oedd yr un personau yn pregethu oddi ar y testyn, "Dyg\r-h eich degymau i'm hysgynloriau." Cafodd Vavasor Powell, y Bedyddiwr a'r Annibynwr, a Hugh Peters, y breninlcidd, eu rhan o'r degymau ac nid oes dim un ammheuaeth na wnelai llawer lieddyw, pe caent gyfle, gt-afangu y degwm, fel y gwnaeth yr hen Gymry sydd yn llechu yn y !lwch. Mae yr Ymneillduwyr yn gwaeddi fod y grawnwin yn surion, pan maent yn methu eu cyrhaedd, fel y cadna.w hwnw yn y cliwedl. Camsynied iiiawr arall sydd ar led yw, mai gwaddoliadau Eglwys Rhufain yw y degymau, ac mai Harri yr VIII. a sefydlodd yr Eglwys. Nid oes dim un awdurdod hanes- yddol ychwaith i'r Eglwys gael ei gwaddoli yn y Canoloesoedd, wedi i'r Pab ddyfod yn ben ar Eglwysi cred trwy drais. Nid oedd yr EgIwys yn y wlad hon dan iau Rhufain cyn y cyfnod Normanaidd. Cynghorwn Mr M. Evans, ynad heddwch, i astudio hanes y degwm cyn y bydd iddo anerch y Cynghor Sirol y tro nesaf ar y pwnc, cauys. mae ef, fel llawer o'r fra.wdoliaeth Radicalaidd, yn ymbalfalu mewn allwybodaeth hanesyddol.—-RIIEIDIOL.
CYNRYCHIOLAETH DWYREINBARTH…
CYNRYCHIOLAETH DWYREINBARTH SIR GAERFYRDDIN. Mae sir Gaerfyrddin mewn un ystyr mewn sefyllfa hynod, ac wedi cael ei difreinio mae un o'r aelodau yn glaf, a'r llall wedi byw dros yr amser addawedig i ddyn ar y ddaiar, ac wedi myned yn mhell tu bwnt i'r amser y dylai dyn fod yn ymyryd mewn berw seneddol. Yn lie bod yn awyrgylch Ty y Cyffredin, dylai y boneddwr hybarch fod yn mwynhau golyg- feydd tlws Dyffryn Tywi, ac yn difyru ei bun gyda'i dda ar faesydd Manorabon. Mae yn dda genyf weled fod yr Undebwyr wedi mabwysiadu Mr Richardson, ieuaf, o Glan- brydan, i fod yn ymgeisydd yn yr etholiad nesaf. Mae y boneddwr hwn yn ei flodau, ac yn un gwir addawol, ac nis gall y rhanbarth gael ei well. Yn awr, Undebwyr, ymunwch a chydweithiwch a threfnwch mewn pryd, os ydych am enill ac anfon Mr Richardson i'r Senedd.
Y LLYWODRAETH A'R GYMRAEG.
Y LLYWODRAETH A'R GYMRAEG. Tra yn son am ddysgu y Gymraeg, y mae yn werth sylwi fod y Weinyddiaeth bresenol wedi dangos mwy o barodrwydd i gydsynio a gofynion Cymru nag y gwnaeth unrhyw Wein- yddiaeth erioed o'r blaen. Y mae ei gwrth- wynebwyr wedi bod yn ddigon gwynebgaled amser a aeth heibio i ddweyd wrth y bolil mai hwynt-hwy yn unig sydd yn arfer estyn diwyg- iadau i Gymru, ac yn neillduol mai hwy sydd yn bleidiol i berffeithio adnoddau addysg; ond, os edrychir yn fanwi, fe geir fod Cymru yn ddyledus i'r Ceidwadwyr i raddau llawer mwy yn y cyfeiriad hwn. Tra y gwrthododd Mr Gladstone estyn mwy o waddol i Goleg Aber- ystwyth, un o'r pethau cyntaf a wnaeth Arglwydd Randolph Churchill pan yn Gaøg- hellydd y Trysorlys ydoedd chwyddo y gwaddol i bedair mil yn y flwyddyn. Ychydig fisoedd yn ol cydsyniodd y Llywodraeth i gydnabod arbenigrwydd cenedlaethol drwy argrafiu Deddf y Llywodraeth Leol yn y Gymraeg, ac yn ddiweddaf oil wele yr Adran Addysg wedi cydsynio a'r cais i roddi arbenigrwydd i'r Gymraeg mewn arholiadau yn ein hysgolion dyddiol; ac yn ychwanegol at hyn, wele hwynt wedi gwneyd darpariaeth at gymhell hyftorddiant mewn amaethyddiaeth yn siroedd Cymru. Mynych y clywir gan y Radicaliaid, yn neillduol ar adeg etholiad, mai hwynt-hwy yn unig ydynt gyfeillion Cymru. Maent yn llawer rhy hael gyda'u haddewidion, ond eu gwrthwynebwyr sydd fwyaf hael gyda'r cy- 5 flawniad. Mae Cymru wedi cael ei chydnabod yn llawer mwy gan y Weinyddiaeth bresenol, serch yr holl ystwr a'r brolio am yr hyn a wnaethai Mr Gladstone i'r Cymry. A ellir nodi unrhyw beth arbenig a wnaeth efe i Gymru heb law gwneyd addewidion i ddim ond i'w tori ?
LLANWENOG.
LLANWENOG. Prydnawn dydd Sul, wythnos i'r diweddaf, talodd Ysgol Sul Eglwys Pencader ymweliad a'r lie uchod, am y tro cyntaf erioed, mae yn debyg. Mawr oedd y siarad a'r dysgwyl yng nghymmydogaeth Llanwenog a fu er pan glywsant eu bod yn bwriadu dyfod. Yr oedd y Sul a nodwyd yn ddiwrnod a edrychid ym mlaen ato, gan ddegau, gyda dyddordeb neill- duol; a da genyf allu dyweyd, y trodd y diwrnod Iiir-ddysgwyliadwy allan yn hynod lwyddiannus, a chafodd pawb eu boddloni tu hwnt i bob dysgwyliad. Yr oedd y tywydd yn ffafriol anghytfredin, a chyrhaeddodd yr ysgol luosog yn brydlon erbyn banner awr wedi dau. Golygfa hardd ydoedd eu gweled yn dyfod yn fintai mor gryf ac unol, tra y tywynai yr haul dysglaer ei belydrau gloewion ami, i gwblhau eu llwyddiant ar eu taith. Dechreu wyd y Gwasanaeth trwy ganu Mal- vern." Intonwyd y Litani yn swynol a theim- ladwy gan y Parch. J. T. Hughes, Llan- fihangel-ar-arth; wedi hyny canwyd Vox Angelica." Unwyd yn y Gwasanaeth gan yr holl Eglwys, a chwareuwyd ar yr organ gan y 0 el Milwriad H. D. Evans, Highmead. Yna dechreuodd yr ysgol ar eu gwaith. Adrodd- odd y plant y bennod gyntaf yn Epistol loan; arholwyd hwynt gan y Parch. H. Jones, B.A., a chafodd atebion parod a phwrpasol; canas- ant hefyd dair o donau. Adroddodd yr ysgol henaf y ddeuddegfed bennod o'r Actau, ac aethant trwy en gwaith yu hynod dda. Can- asaut hefyd ddwy anthem, "Denro, gwisg nerth o fraicii yr Arglwydd," a "Duw a ddaetli o Teman" (allan o Weddi Habacuc), o dan ax-weiniad lr. Herbert Thomas, Bryngwincu, yr hwn sydd yn teilyngu canmoliaeth uchel am yr ymdrech a'r llafur diflino a gymmerodd i'w dysgu i ganu mor ragorol. Cyn tcrfynu, C, ZD 0 nis gallaf lai na thalu diolch gwresocaf i'r 0 gwragedd a'r boneddigesau serchog a fu mor I garedig a pharotoi digon o luniaeth i'r ysgol a n 11 11 phawb o'r dyeithriaid: yr oedd y byrddau wedi eu llenwi &'r danteithion goreu, ac wedi eu gwisgo a phob sex-chogrwydd. Da genym weled yr Eglwys mor flodeuog yn Pencader. Rbag eich blaen eto yr eloch, gan lynu wrth y gwaith da hwn, a chwi yn gwybod nad yw 11 ZD eich llafur yn ofer yn yr Arglwydd." Bydded i hyn hefyd fod yn symhyliad o'r newydd i ardalwyr Llanwenog i wneuthur mwy o ym- drech yn y dyfodol yn y cyfeiriad yma, yn heDafgwyr a llanciau, gan fwrw ymaith bob rhwystr o'r neilldu, a chyrclxu at y nod. Y niae yn dda genym weled fod yr Eglwys yn cyflym ennill tir newydd yn y cylch hwn y dyddiau presennol. Er cymmaint yr erlid sydd ami gan ei gelynion, a 'stwr y dadgys- Z3 ey sylltwyr, y mae yn gwreiddio yn ddyfnach, ac yn lledu ei changenau yn barhaus. Os bu amser diofal a difywyd yn hanes yr Eglwys yng Nghymru, y mae yn adferu y tir a gollodd yn gyHym, a chredaf bod amser ger Maw pryd y bydd yn fwy blodeuog ngg y bu erioed. Bydded fod pob aelod o honi yn fwy gweith- gar a diwyd, a deisyf, fel Habacuc gynt," 0 Arglwydd, bywba dy waith ac os bydd Efe o'n tu, pwy all fod i'n herbyn 1 Ie, pyrth uffern nis gorchfygant hi.J. II. t5 0
AT EIN GOHEBWYR CYMREIG.
AT EIN GOHEBWYR CYMREIG. 0 herwydd meithder yr adroddiadau Seis- onig yr wythnos hon, gox-fu arnoui adael allan amrai gynnyrchion, megys 11 Elegy written in a Country Churchyard, gan LiJir, ccc. 0 hyn allan cyfeirier pob ysgrif, gohebiaeth, a barddoniaeth, fel y canlyn:—"The Welsh Editor, Llanybri, Llanstephan." Dylai yr oil fod mewn Haw erbyn boreu dydd Mawrth yn ddiflael. Y sgrifeller un ochr i'r ddalen. Am bax-had o'n newyddion Cymrcig, gweler yr Sfcd tudalen.- Y GOL.
DYRYSU Y MEDDYGON.
DYRYSU Y MEDDYGON. Llaw feddyg Gwyddelig yr hwn oedd wedi adfer golygon menyw dlawd, a sylwodd ar belli yn nglyn a'i hachos a ystyriai yn eh-a rhyfedd mewn golwgyddiaetli, a'r hyn a berodd iddo alw yn nghyd nifer o'i frodyr meddygol, wrtli y rhai y cyfaddefai ei fod yn hollol anelldog i ddadyrysu yr helynt. Dywedai wrthynt fod gohvg y fenyw wedi ei adferyd mor llwyr, id y inedrai weled i roi edai yn y nodwydd leiaf, neu i gytlawnu unrhyw orchwyll arall ag oedd yn gofyn golygon neillduol o fanwl. Ond pan y cyflwynai lyfr iddi, nad oedd yn alluog i wahaniaethu y naill lythyren oddi wrth y llall. Darfu i'r achos nodedig hwn gynhyrfu chwil- frydedd a medr y boneddigion meddygol oedd yn bresenol, a chynygiwyd gwahanol ac am- rywiol esboniadau. Ynidyrsi amheuaeth ar amheuaeth, ac yr oedd y broblem yn myned dywyllach dywyllach oddi wrth bob esboniad oedd yn cael ei roddi ond o'r diwedd pan y roddwyd cwestiwn iun o berthynasau y wraig, golwg yr hon a adferwyd, fe ddarganfyddwyd nad oedd y fenyw erioed wedi dysgu darllen. Gyda'r hysbysiad yna, trodd y nos yn oleu ddydd.